Neidio i'r prif gynnwy
Alison Lea-Wilson MBE

Alison yw Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Addysgwyd Alison yn Hampshire ac ym Mhrifysgol Bangor lle enillodd radd BA mewn Saesneg a TAR. Bu'n athrawes am 2 flynedd, ond sylweddolodd fod hunangyflogaeth yn fwy pleserus, er yr un mor heriol.

Rhwng cael 3 o blant, helpodd Alison i dyfu wystrys, dewis cregyn gleision, a gwerthu bwyd môr. Dechreuodd Sw Môr Môn gyda'i gŵr, David, a ffrind.

Dros y 23 mlynedd y gwnaethant ei redeg, croesawyd 2.5 miliwn o ymwelwyr a oedd yn talu, a chyflogwyd dros 250 o bobl. Roedd Alison yn gyfrifol am y manwerthu, arlwyo, Adnoddau Dynol a hyfforddiant.

Yn 2007, gwerthodd Alison a David y Sw Môr er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar dyfu Cwmni Halen Môn Cyf. Maen nhw wedi ei adeiladu ac erbyn hyn:

  • yn cyflogi 23 o bobl
  • yn allforio i fwy na 15 o wledydd
  • â chwsmeriaid o’r radd flaenaf sy’n cynnwys Heston Blumenthal, PepsiCo, Waitrose, M&S, a Siocled Green and Blacks

Mae'r busnes wedi ennill o leiaf 30 o wobrau. Mae'r rhai nodedig yn cynnwys:

  • gwobr am 'godi lefel gastronomeg y byd' gan gogyddion Ewropeaidd
  • ennill 1, 2 a 3 seren Aur yng Ngwobrau Great Taste

Mae Alison yn gweithio'n agos gyda'r clystyrau a’r mentoriaid newydd.

Mae hi'n Hyrwyddwr Allforio DBT ac yn Ysgrifennydd Slow Food Cymru Wales, ac yn 2023 fe'i hanrhydeddwyd â Gwobr Cyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru.

Enillodd Halen Môn statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig, y cyntaf yng Nghymru a'r 60fed PFN ym Mhrydain yn 2014. Derbyniodd hefyd Wobr y Frenhines am Gynaliadwyedd yn 2017 a daeth yn BCorp ardystiedig yn 2023.

Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Lea-Wilson yn 2019 - Do Sea Salt - ac yna llyfr coginio, Sea Salt, yn 2022.