Neidio i'r prif gynnwy
Alison Harvey

Mae Alison yn Ymgynghorydd Cadwyn Gyflenwi Amaeth gydag Rural Advisor.

O fferm deuluol yn Llanddewi-Brefi, mae Alison yn parhau i gefnogi amaethyddiaeth Cymru, a Bwyd a Diod Cymru.  

Gan ymgynghori ar amrywiol bynciau yn ei rôl fel Ymgynghorydd Gwledig, mae gan Alison ddiddordeb mawr mewn cynllunio busnes. Y nod yw sicrhau bod busnesau fferm teuluol yn gadarn.  Mae hefyd yn ymfalchïo yn y gwaith hwyluso y mae'n ei wneud gyda grŵp Arweinyddiaeth Gwledig CAFC a Rhaglen Cydnerthedd Fferm y Gronfa Cefn Gwlad Brenhinol.

Cyn ymgymryd â'i rôl bresennol, treuliodd Alison 15 mlynedd yn gweithio yn niwydiant cig coch Cymru.  Roedd y cyfrifoldebau'n cynnwys cynllunio cynhyrchu a rheoli cyfrifon amaethyddol, delio â gwahanol fanwerthwyr, yn ystod ei hamser yn Dunbia.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Llambed. Graddiodd wedyn o Brifysgol Harper Adams gyda BSc Anrh mewn Marcio Bwyd-Amaeth ac Astudiaethau Busnes, ac yna PgD mewn Rheolaeth Amaeth-Busnes Rhyngwladol.  Yn awyddus i barhau â'i datblygiad proffesiynol mae hi'n aelod o BIAC ac wedi cwblhau eu cyrsiau sylfaen hyd yma.

Mae Alison hefyd yn bartner gyda'i rhieni ar ei fferm ddefaid deuluol ac yn mwynhau gweithio gyda'r praidd yn ôl yr angen, gydag ŵyna yn hoff amser y flwyddyn iddi.

Mae bwyd a diod o Gymru yn rhan o'i rôl, ond mae hefyd yn teimlo’n angerddol amdano ac mae yn ymlacio trwy goginio gartref.  Mae yn mwynhau darganfod (a samplu) cynhyrchion a busnesau newydd a hyrwyddo'r diwydiant i eraill trwy ei chyfryngau cymdeithasol a'i blog.