Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i'r cynlluniau osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Weinidogion Cymru eu hystyried. Rhaid i'r cynlluniau osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd.

Cyflwynwyd y cynlluniau statudol cyntaf ar gyfer y cyfnod 2014-2017 i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2013. Cyflwynwyd yr ail gynlluniau statudol ar gyfer y cyfnod 2017-2020 i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2016. Cynhaliwyd asesiad llawn o'r cynlluniau, a'r casgliad oedd nad oeddent yn mynd yn ddigon pell i sicrhau twf digonol mewn addysg Gymraeg i gyrraedd ein nod ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Yn 2017, cyhoeddodd Alun Davies, rhagflaenydd y Gweinidog, y byddai Aled Roberts yn cynnal adolygiad cyflym o'r cynlluniau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer dyfodol cynllunio addysg Gymraeg.  Derbyniwyd pob un o un deg wyth argymhelliad Aled Roberts, a bydd nawr yn dechrau eu gweithredu. Caiff bwrdd cynghori annibynnol ei sefydlu i ddarparu'r broses graffu angenrheidiol yn ystod y broses hon.

Dywedodd Eluned Morgan:

"Roedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a gyflwynwyd yn 2017 yn ddiffygiol mewn uchelgais a gweledigaeth, a dyna pam y rhoddwyd y dasg o a asesu'r cynlluniau i Aled. Mae hyn yn dystiolaeth glir bod yn rhaid gwella'r system er mwyn datblygu'r sylfaen iawn i gynllunio addysg Gymraeg sy'n adlewyrchu'n well yr uchelgais yn Cymraeg 2050, a'r gydnabyddiaeth bod addysg yn allweddol er mwyn newid pethau. 

"Dw i wrth fy modd bod Aled wedi cytuno i barhau â'r gwaith pwysig a ddechreuodd wrth adolygu'r cynlluniau strategol y llynedd, a dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda fe i sicrhau bod gyda ni system sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac a fydd yn ein helpu i gyflawni'r targedau uchelgeisiol yn Cymraeg 2050."

Dywedodd Aled Roberts:

"Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn diffinio uchelgais y Llywodraeth ar gyfer dyfodol ein hiaith. Mae'n cydnabod y rôl hanfodol y bydd y blynyddoedd cynnar ac addysg yn ei chwarae wrth gyflawni ein hamcanion. Dw i'n edrych ymlaen at gael ymgymryd â'r rôl hon ac fe fydda i'n gweithio'n ddiflino gydag eraill i greu'r newid sydd ei angen fel bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu a gweithio mewn Cymru wirioneddol ddwyieithog."