Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful fydd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hailwampio i'w gwneud yn garbon sero net.
Yn ogystal â bod yn garbon niwtral, unwaith y bydd yr adeilad wedi'i gwblhau, caiff trydan nad yw'n cael ei ddefnyddio ei gyflenwi i Ysbyty'r Tywysog Charles drwy'r cynllun gwifrenni preifat.
Yn hytrach na dilyn y model traddodiadol o ddymchwel ac adeiladu i greu ysgolion carbon niwtral, mae'r prosiect hwn wedi mynd ati mewn ffordd newydd, a bydd holl elfennau adeilad presennol yr ysgol yn cael eu tynnu nes gadael dim byd ond ffrâm, cyn cael ei ailadeiladu â deunyddiau arbed ynni, cyflenwadau pŵer a systemau gwresogi sy'n perfformio ar lefel uchel.
Rhagwelir y bydd 48% o garbon yn cael ei arbed o gymharu â'r lefelau pe bai'r model dymchwel ac adeiladu traddodiadol yn cael ei ddefnyddio.
Wedi'i ariannu'n rhannol gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio buddsoddi mewn cyfleusterau addysgol a'u gwella, Pen y Dre yw un o'r prosiectau ailwampio ysgol mwyaf yng Nghymru.
Bydd Ysgol Uwchradd Pen y Dre, y prosiect cyntaf o'i fath, yn astudiaeth achos wrth drefnu prosiectau Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i'r dyfodol.
Er mwyn helpu i gyflawni'r ymrwymiad i fod yn genedl carbon sero net erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob adeilad ysgol a choleg newydd, ac i bob prosiect adnewyddu ac ymestyn sylweddol sicrhau nad yw eu prosesau gweithredol yn creu allyriadau carbon neu fod y lefel allyriadau yn negyddol.
Yn ogystal, i gefnogi awdurdodau lleol a cholegau ar eu taith tuag at fod yn garbon sero net, comisiynodd Llywodraeth Cymru asesiad sylfaen o gyflwr yr ystâd addysg yng Nghymru. Mae'r arolwg arloesol o garbon a chyflwr elfennau adeiladau yn cynnwys yr holl ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth a cholegau addysg bellach. Bydd yn galluogi awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i ddatblygu map llwybrau carbon sero net ar gyfer pob ysgol neu goleg er mwyn helpu i ddatgarboneiddio'r ystâd addysg yng Nghymru.
Bydd canlyniadau'r arolwg yn arwain at gynnig lefel uchel ar sut i sicrhau datrysiad carbon isel gwerth am arian a gyflwynir yn raddol fesul adeilad i helpu partneriaid gweithredu a darparu data trosfwaol i Lywodraeth Cymru ar statws presennol y broses o ddatgarboneiddio'r ystâd addysg.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae cefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned yn rhan allweddol o'r cwricwlwm, ac mae'n hanfodol ein bod yn gosod yr esiampl hon drwy adeiladau ein hysgolion a'n colegau.
Mae gwneud ein hystâd addysgol yn garbon niwtral yn gam sylweddol y gallwn ei gymryd tuag at ein huchelgais i fod yn genedl carbon sero net erbyn 2050, ac mae'n rhan allweddol o'n Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae wedi bod yn wych gweld y camau graddol a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre, ac mae'n enghraifft gadarnhaol o sut y gallwn foderneiddio, ehangu a datgarboneiddio ysgolion Cymru.
Dywedodd Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:
Mae’r awdurdod lleol yn ymfalchïo yn y gwaith adnewyddu sy’n cael ei wneud yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre. Mae ymgymryd â phrosiect fel hwn tra bo’r ysgol yn gwbl weithredol wedi bod yn her, ond mae’n deyrnged i gymuned yr ysgol a’r contractwyr sy’n gweithio mewn partneriaeth, sydd wedi caniatáu i hyn fynd yn ei flaen gan darfu cyn lleied â phosibl. Mae wedi bod yn bleser gweld y bobl ifanc (a’r staff) yn mwynhau’r cyfleusterau newydd, ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn cael ei gwblhau.