Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi y bydd Awdurdodau Lleol yn cael £5.75 miliwn i’w helpu i wella eu gwasanaethau ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd deg awdurdod lleol ledled Cymru yn cael cyfran o’r cyllid hwn, a hynny fel rhan o’r Rhaglen Newid Gydweithredol. Bydd y cyllid yn galluogi awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn cyfarpar megis cerbydau ailgylchu, ac i wella’u trefniadau casglu a chyfleusterau yn y canolfannau. Bydd hefyd yn eu galluogi i wella eu cyfraddau ailgylchu.

Gwnaeth Panel Asesu a Dyfarnu’r Rhaglen Newid Gydweithredol gymeradwyo cyfanswm o 12 cais gan 10 awdurdod lleol, gan gynnwys:  

  • Mae Cyngor Casnewydd wedi llwyddo i sicrhau dros £730,000 er mwyn buddsoddi mewn gwasanaeth ailgylchu gwell ar gyfer rhyw 6,000 o fflatiau, ynghyd ag ymgyrch gyfathrebu i hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau ailgylchu.
  • Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cael dros £688,000 a bydd yn buddsoddi’r arian hwnnw mewn cerbydau ailgylchu a chynhwyswyr ailgylchu pwrpasol er mwyn iddo fedru cyrraedd ardaloedd nad oedd yn bosibl iddo eu cyrraedd o’r blaen. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn bwriadu defnyddio’r cyllid i gynnig gwasanaeth ailgylchu gwell, sef Ailgylchu+.
  • Bydd Cyngor Sir y Fflint yn elwa ar dros £1.5 miliwn ac mae’n bwriadu cyflwyno newidiadau i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a buddsoddi mewn cerbydau ailgylchu. Yn y cyfamser, dyfarnwyd £376,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a hynny ar gyfer cynhwyswyr ychwanegol ar gyfer deunyddiau ailgylchu.
  • Bydd Cyngor Sir Torfaen yn cael £800,000 i wella’i drefniadau casglu a’r cyfleusterau yn ei ganolfannau a bydd Cyngor Blaenau Gwent yn elwa ar dros £520,000 ar gyfer ardal storio newydd yn ei ganolfan. Yn y cyfamser, bydd Cyngor Merthyr Tudful yn cael bron £120,000 i’w helpu i adeiladu estyniad a chanopi ar gyfer ei ardal storio.
  • Bydd Cyngor Sir Powys yn derbyn hanner miliwn o bunnoedd er mwyn crynhoi gwastraff ac ar gyfer cyfarpar creu byrnau yn ei ganolfannau.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet y cyhoeddiad hwn wrth iddi ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gofer yn Abergele, Conwy. Mae’r ganolfan honno wedi elwa ar gymorth Llywodraeth Cymru er mwyn darparu cyfleuster sy’n gallu ailgylchu i safon uchel drwy ddefnyddio system didoli deunyddiau wrth ochr y palmant.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Eisoes, Cymru sydd â’r gyfradd uchaf yn y DU o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol. Pe bai cyfraddau Cymru’n cael eu nodi ar wahân i gyfraddau’r DU, byddai Cymru ymhlith y pedair gwlad uchaf yn Ewrop. Bydd y £5.75 miliwn rwyf yn ei gyhoeddi yn helpu Awdurdodau Lleol i wella eu gwasanaethau ailgylchu hyd yn oed ymhellach.

“Ein nod ar gyfer Cymru yw sicrhau’r gyfradd genedlaethol uchaf yn y byd ar gyfer ailgylchu gwastraff trefol. Yn y pen draw, y nod yw sicrhau bod Cymru’n ‘garbon niwtral erbyn 2020’. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi ni i sicrhau bod cynnydd pellach yn cael ei gynnal er mwyn ein helpu ni i gwrdd â’r targedau hyn.