Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymchwil hwn yw deall bylchau sgiliau'r farchnad lafur leol/ranbarthol a chyfleoedd i ffoaduriaid gynyddu eu rhagolygon cyflogaeth yng Nghymru.

Prif ganfyddiadau

  • Mae'r rhan fwyaf o ffoaduriaid yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag dod o hyd i waith.
  • Yn aml, nid yw swyddi lefel mynediad yn gam tuag at well swydd ond yn hytrach mae pobl yn cael eu dal ynddynt, heb unman i droi. 
  • Dylai gwaith gyda ffoaduriaid ganolbwyntio ar baratoi ar gyfer cyflogaeth, cynnal cyflogaeth a chefnogi dilyniant mewn cyflogaeth.
  • Er bod hanfodion arfer effeithiol yn cael eu deall yn weddol dda, gall eu rhoi ar waith fod yn heriol
  • Er bod achos dros gael gwasanaethau arbenigol, nid oes gan AilGychwyn y gallu i gefnogi'r holl ffoaduriaid hynny y gallai fod angen cymorth arnynt i ddod o hyd i waith a gwneud cynnydd ynddo, neu a fyddai’n elwa ar hynny.    
  • Nid oes unrhyw ateb amlwg i’r sefyllfa, ac mae angen cydweithredu a chymryd camau ar y cyd ar draws amryw o wasanaethau a phartneriaid.

Adroddiadau

AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid, Cyfleoedd Ymgysylltu â Chyflogwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Steven Macey

Rhif ffôn: 0300 062 2253

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.