Ailddosbarthu unedau gofodol dros dro o'r Ardal TB Isel i Ardal TB Canolradd y Gogledd
Newidiadau unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 o'r Ardal TB Isel i Ardal TB Canolradd y Gogledd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi aros yn isel iawn yn gyson yn yr Ardal TB Isel dros y blynyddoedd. Ond mae tystiolaeth yn dechrau dangos bod nifer yr achosion newydd ar gynnydd mewn rhai ardaloedd yn yr Ardal TB Isel. Yr enw ar yr ardaloedd hyn yw'r 'ardaloedd â phroblem TB'. O'r hyn a welwn, cysylltiadau lleol sydd wrth wraidd yr achosion newydd hyn. Mae angen mesurau nawr i fynd i'r afael â'r broblem hon.
Rydym wedi cyflwyno mesurau newydd fesul cam rhwng 1 Mehefin a Thachwedd 2021. Er mwyn:
- ymateb i'r sefyllfa hon o glefydau sy'n datblygu, a
- diogelu statws iechyd hirdymor yr Ardal TB Isel
Rydym wedi cyhoeddi manylion y mesurau hyn ar Ardal TB Isel: cwestiynau cyffredin.
Ar 1 Tachwedd 2021, ailddosbarthwyd tair uned ofodol Sir Ddinbych/Dyffryn Conwy CL1, CL2 a GW1 dros dro. Mae hyn fel rhan o'r ardal TB Canolradd y Gogledd (ITBAN) o'r Ardal TB Isel.
Mae'r newid hwn bellach wedi'i adlewyrchu yn:
- Ystadegau Gwladol Defra
- Ein Dangosfwrdd Epidemiolegol TB Mewn Gwartheg
Mae'r newid hwn wedi effeithio ar y data hanesyddol yn yr allbynnau hyn i ddarparu tueddiadau dros amser yr Ardaloedd TB newydd hyn. Mae hyn yn golygu bod:
- cynnydd mewn nifer o fesurau yn Ardal TB Canolradd y Gogledd a
- gostyngiad mewn nifer o fetrigau yn yr Ardal TB Isel
yn dilyn yr ailddosbarthu dros dro hwn. Nid effeithir ar yr Ardaloedd TB sy'n weddill.
Mae'r tablau isod yn enghraifft o sut y byddai rhai mesurau C3 2021 wedi edrych o dan ffiniau'r Hen Ardaloedd TB o'i gymharu â ffiniau newydd yr Ardal TB ar gyfer Ardal TB Canolradd y Gogledd a’r Ardal TB Isel sydd wedi'u cyhoeddi yn y dangosfwrdd diweddaraf.
Tabl 1
Enghraifft o wahaniaeth y metrigau TB C3 2021 rhwng ffiniau Ardaloedd TB cyn ailddosbarthu unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 dros dro ac ar ôl hynny ar gyfer Ardal TB Canolradd y Gogledd
TB Metrig |
Ffiniau ardaloedd TB Metrig cyn 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd blaenorol) |
Ffiniau ardaloedd TB ar ôl 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd cyfredol) |
---|---|---|
Achsoion newydd | 18 | 35 |
Achosion agored | 78 | 107 |
Adweithyddion a ddatgelwyd | 258 | 332 |
Buchesi byw | 903 | 1,577 |
Tabl 2
Enghraifft o wahaniaeth ym metrigau TB C3 2021 rhwng ffiniau Ardaloedd TB cyn ailddosbarthu unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 dros dro ac ar ôl hynny ar gyfer yr Ardal TB Isel
Metrig | Ffiniau ardaloedd TB Metrig cyn 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd blaenorol) |
Ffiniau ardaloedd TB ar ôl 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd cyfredol)
|
---|---|---|
Achosion newydd | 21 | 4 |
Achosion agored | 44 | 15 |
Adweithyddion a ddatgelwyd | 94 | 20 |
Buchesi byw | 2,792 | 2,118 |