Mae pum aelod o Gynghorau Iechyd Cymuned wedi’u hailbenodi iddynt am dymor o ddwy flynedd.
Mae’r penodiadau wedi’u gwneud gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bydd yr aelodau’n cynrychioli Cynghorau Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a De Morgannwg.
Mae pob Cyngor Iechyd Cymuned yn cwmpasu ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru, sy’n cyd-fynd â’r bwrdd iechyd lleol sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn yr ardal honno.
Mae’r cynghorau’n gyfrifol am fynd ati’n rheolaidd i ymweld â gwasanaethau iechyd lleol a chraffu arnynt. Gan weithio gyda’u byrddau iechyd perthnasol, maent yn ymgysylltu â’u cymunedau i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n addas.
Mae’r aelodau’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau’r GIG a chytuno arnynt. Maent hefyd yn eu galluogi i fynegi pryderon am y gwasanaethau y maent yn eu cael, drwy wasanaeth Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer Cwynion.
Ni fydd yr aelodau’n cael eu talu am eu gwaith, ond bydd ganddynt hawl i lwfansau teithio a chynhaliaeth wrth gyflawni busnes sy’n gysylltiedig â’u rôl.
O fis Ebrill 2023, bydd Corff newydd Llais y Dinesydd yn disodli’r Cynghorau Iechyd Cymuned. Bydd yn parhau i gynrychioli llais cleifion o ran eu gofal iechyd, ac yn gwneud hynny yng nghyswllt gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ogystal.
Mae’r penodiadau hyn am gyfnod o ddwy flynedd er mwyn rhoi sefydlogrwydd i’r Cynghorau Iechyd Cymuned a’u galluogi i gadw aelodau profiadol yn ystod y broses o sefydlu Corff Llais y Dinesydd. Bydd Corff Llais y Dinesydd yn gweithredu cynllun gwirfoddoli a bydd cyfleoedd i aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned ddod yn wirfoddolwyr os ydynt yn dymuno.
Mae’r aelodau a ganlyn o Gynghorau Iechyd Cymuned wedi’u hailbenodi:
Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg
- Robert Henley am y cyfnod o ddwy flynedd o 31 Gorffennaf 2022 hyd 30 Gorffennaf 2024.
- Shirley Willis am y cyfnod o ddwy flynedd o 30 Medi 2022 hyd 29 Medi 2024.
- Stephen Nicholls am gyfnod o ddwy flynedd o 30 Medi 2022 hyd 29 Medi 2024.
Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
- Myfanwy Baines am y cyfnod o ddwy flynedd o 31 Gorffennaf 2022 hyd 30 Gorffennaf 2024.
- Dianne Gill am y cyfnod o ddwy flynedd o 31 Awst 2022 hyd 30 Awst 2024.