Cyhoeddiad ynghylch penodiadau cyhoeddus.
Rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyfrifol am gyflawni gwasanaethau iechyd a gofal digidol o'r radd flaenaf sy'n sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn modd effeithiol, effeithlon a mwy diogel drwy ddarparu data a gwybodaeth iechyd a gofal sy'n helaeth eu cynnwys ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae Cymru Iachach yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol yr arian y mae'n ei fuddsoddi ym maes iechyd a gofal digidol. Bydd hyn yn rhan annatod o'r gwaith o drawsnewid ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cymru Iachach yn cydnabod yr her sylweddol sydd ynghlwm wrth ysgogi newid digidol yn gyflym ac ar raddfa fawr. Mae'n nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi, yn disgrifio dull ‘platfform agored’ newydd o arloesi digidol, ac yn cydnabod yr angen i gryfhau trefniadau arwain a chyflawni cenedlaethol.
Rôl yr Aelodau Annibynnol
Mae Aelodau Annibynnol o'r Bwrdd yn gyfrifol am y canlynol:
- sefydlu a bwrw ymlaen â nodau ac amcanion strategol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyson â'i ddiben cyffredinol ac yn unol â’r fframwaith polisi ac adnoddau a bennwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
- cyfrannu at waith y Bwrdd ar sail eu hannibyniaeth, eu profiad yn y gorffennol a'u gwybodaeth, yn ogystal â'u gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
- dadansoddi gwybodaeth gymhleth a'i hadolygu'n feirniadol a chyfrannu at y gwaith o wneud penderfyniadau cadarn, gan sicrhau bod penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw;
- sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus yn ogystal ag unrhyw ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r sefydliad;
- sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn terfynau ei awdurdod statudol a therfynau unrhyw awdurdod dirprwyedig y cytunir â Llywodraeth Cymru arno, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy'n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus a gofynion deddfwriaethol;
- sicrhau, wrth wneud penderfyniadau, fod y Bwrdd yn cymryd i ystyriaeth ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru;
- sicrhau bod y Bwrdd yn cael gwybodaeth ariannol sy'n ymwneud â rheoli Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn adolygu'r wybodaeth honno ac yn craffu arni yn rheolaidd;
- sicrhau bod y Bwrdd yn cael gwybod yn amserol am unrhyw bryderon ynghylch gweithgareddau Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'i fod, pan fo'n berthnasol, yn rhoi sicrwydd cadarnhaol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod camau unioni priodol wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon o'r fath;
- dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan gynnwys drwy ddefnyddio Pwyllgorau priodol i helpu'r Bwrdd i gael sicrwydd ac i fynd i'r afael â risgiau ariannol allweddol a risgiau eraill;
- sicrhau diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo gwerthoedd a safonau ymddygiad i'r sefydliad a'r staff;
- gweithio'n agos gyda chyrff y GIG, y cyhoedd, sefydliadau preifat a’r trydydd sector, gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn wrth helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.
Cyfnod yr Ailbenodiad
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Marian Wyn Jones a Rowan Gardner fel Aelodau Annibynnol o Iechyd a Gofal Digidol Cymru am gyfnod o 4 blynedd o 1 Ebrill 2023.
Gwnaed y penodiad hwn yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.
Datganiad o Weithgarwch Gwleidyddol
Datganodd y ddau unigolyn nad oeddent wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Gwneir yr holl benodiadau ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol.