Ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored: coronafeirws
Canllawiau i’r rheini sy’n gyfrifol am feysydd chwarae neu fannau chwarae awyr agored ar gadw plant yn ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws.
Maint Ffeil 122 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cynnwys
Cynnwys
Diben y canllawiau hyn
Canllawiau i berchenogion a gweithredwyr meysydd chwarae awyr agored yw'r rhain. Nodir bod angen cynnal asesiad risg COVID-19 a rhoddir enghreifftiau o fesurau y gellir eu cymryd er mwyn hwyluso'r defnydd ohonynt a lleihau'r risg y caiff COVID-19 ei drosglwyddo ar yr un pryd.
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol o 20 Gorffennaf 2020 a gellir eu diweddaru yn sgil cyngor meddygol a gwyddonol ac wrth inni ddysgu mwy am y ffordd y caiff y feirws ei drosglwyddo.
Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ganllawiau 'Creu Mannau Cyhoeddus Mwy Diogel: Coronafeirws' Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â pharciau yn eu hystyr ehangach fel mannau gwyrdd agored, y mae llawer ohonynt yn cynnwys meysydd chwarae:
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i feysydd chwarae yng Nghymru ond nid ydynt yn rhoi cyngor ynghylch rheoli ardaloedd chwarae dan do sydd ar gau o hyd ar hyn o bryd.
Canllawiau cyffredinol ydynt a dylid eu trin fel arweiniad. Nid yw'r canllawiau hyn yn disodli unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch, cyflogaeth na chydraddoldebau, ac mae'n bwysig bod perchenogion a gweithredwyr yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau presennol gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag unigolion â nodweddion gwarchodedig.
Gofynion a chyfrifoldebau
Mae gan bersonau sy'n gyfrifol am feysydd chwarae ddyletswydd o dan Reoliad 12 o Reoliad Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020/725 i gymryd mesurau rhesymol er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys gofyniad i wneud y canlynol:
- cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn mangre benodol
- sicrhau y caiff unrhyw fesurau rhesymol eraill eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws, yn arbennig drwy gyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb a gwella hylendid
- darparu gwybodaeth i'r rhai sy'n mynd i mewn i fangre neu'n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau'r risg
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn a ddisgwylir o dan Reoliad 12, a rhaid ystyried y canllawiau statudol.
Mae'r canllawiau hyn yn helpu perchenogion a gweithredwyr meysydd chwarae i gyflawni'r dyletswyddau hyn a dylid eu darllen ar y cyd â'r canllawiau statudol a roddwyd hyd yma. Os bydd unrhyw anghysondeb rhwng y canllawiau hyn a'r canllawiau statudol, y canllawiau statudol fydd drechaf.
Meysydd chwarae
Fel arfer, mannau sy'n cynnwys strwythurau awyr agored a gynlluniwyd i blant chwarae ynddynt neu arnynt yw meysydd chwarae. Gallant gynnwys cyfarpar fel sleidiau, bariau mwnci, fframiau dringo, tyrrau chwarae, siglenni, siglwyr, si-sos a phyllau tywod. Gallant hefyd gynnwys mannau agored rhwng strwythurau o'r fath ac felly ystyrir eu bod yn cynnwys y tir y maent wedi'i leoli arno.
Maent hefyd yn cynnwys parciau dŵr, sef meysydd chwarae sy'n cynnwys taenellwyr, ffynhonnau, chwistrellau a dyfeisiau eraill sy'n chwistrellu dŵr y gall plant chwarae ynddynt.
Gall meysydd chwarae ddarparu lle diogel lle y gall plant chwarae yn rhydd yn yr awyr agored, ochr yn ochr â pharciau a mannau agored eraill. Mae angen sicrhau cydbwysedd risg drwy gefnogi hawl plant i chwarae drwy ddarparu mynediad i feysydd chwarae a lleihau'r risg y caiff COVID-19 ei drosglwyddo ar yr un pryd.
Bu'n rhaid i feysydd chwarae, ynghyd â strwythurau tebyg eraill fel campfeydd awyr agored, gau yn ystod camau cychwynnol y pandemig, a hynny yn unol â Rheoliad 7 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y Rheoliadau).
Yn sgil tystiolaeth wyddonol newydd sydd wedi dod i'r amlwg, mae'r cyfyngiadau hyn wedi cael eu llacio. Mae'r dystiolaeth hon yn nodi bod llai o risg y caiff y feirws ei drosglwyddo yn yr awyr agored, llai o risg y bydd plant yn trosglwyddo'r feirws a llai o risg y bydd plant yn profi symptomau difrifol.
Perchenogion a gweithredwyr
Diffinnir perchenogion neu weithredwyr fel y rhai sy'n gyfrifol am reoli maes chwarae, gan gynnwys asesu cydymffurfiaeth ag unrhyw ddeddfwriaeth neu ganllawiau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, tirfeddianwyr preifat, busnesau manwerthu, tafarndai a bwytai a chyrff llywodraethu ysgolion.
Bydd perchenogion a gweithredwyr sy'n gyfrifol am feysydd chwarae yn gallu arfer eu disgresiwn o ran pryd yr ystyrir ei bod yn ddiogel agor ar gyfer gweithgarwch a ganiateir yn ôl deddfwriaeth, a gallant benderfynu cadw'r ardaloedd hyn ar gau os byddant yn teimlo na ellir sicrhau y cânt eu defnyddio'n ddiogel. Cydnabyddir y gall fod angen amser ar berchenogion a gweithredwyr i baratoi ar gyfer agor meysydd chwarae yn ddiogel a gallant agor yn hwyrach na'r dyddiad a ganiateir, sef 20 Gorffennaf, os bydd angen mwy o amser arnynt i baratoi.
Bydd angen i bob perchennog neu weithredwr gymhwyso'r canllawiau hyn at y cyfleuster y mae'n gyfrifol amdano, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, y cynllun a'r dyluniad. Bydd hyn yn cynnwys ystyried ffactorau fel maint, cyfarpar a sut y caiff ei drefnu, ei weithredu a'i reoli.
Plant a chwarae
Mae chwarae yn weithgaredd hanfodol i blant. Mae'n hanfodol i'w llesiant, eu gwydnwch a'u datblygiad a dyma'r brif ffordd y maent yn gwneud ymarfer corff. Mae chwarae yn yr awyr agored yn bwysig gan ei fod yn annog plant i ymgymryd â lefel uchel o weithgarwch a chynnal pwysau iach. Pan fyddant yn cael cyfle i chwarae yn yr awyr agored, bydd plant yn debygol o fod yn gorfforol egnïol drwy redeg, neidio, dawnsio, dringo, palu, codi, gwthio a thynnu. Mae chwarae yn yr awyr agored yn helpu gydag ystwythder, cydbwysedd, creadigrwyddd a chanolbwyntio. Mae plant yn rhoi gwerth mawr ar gael lleoedd da i chwarae ac, yn aml, caiff parciau a meysydd chwarae eu hystyried ganddynt yn ganolbwynt o fewn eu cymunedau.
Asesiad risg coronafeirws ar gyfer meysydd chwarae
Amcan: Bod pob perchennog a gweithredwr yn cynnal asesiad risg COVID-19 a fydd yn ei helpu i benderfynu a ddylid agor y maes chwarae a pha fesurau y dylid eu rhoi ar waith.
Dylai'r asesiad risg fodloni'r canlynol:
- Cael ei gynnal mewn ymgynghoriad ag undebau neu weithwyr. Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd i ymgynghori â chyflogeion ynghylch materion iechyd a diogelwch, a nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall y risgiau. Dylai perchenogion a gweithredwyr rannu canlyniadau'r asesiad risg â gweithwyr cyn y disgwylir iddynt gyflawni unrhyw ddyletswyddau yn y maes chwarae.
- Nodi'r manteision sy'n gysylltiedig â sicrhau bod yr ardaloedd ar gael i bawb.
- Asesu'r risg i ddefnyddwyr; plant, rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr, yn ogystal â'r staff sy'n rheoli'r cyfarpar neu'n ymwneud â'r gwaith o'i gynnal a'i gadw neu ei lanhau.
- Nodi'r risgiau a'r mesurau perthnasol y gellir eu cymryd i'w lleihau, gan gydnabod nad yw'n bosibl dileu'r risg y caiff COVID-19 ei drosglwyddo yn llwyr.
- Ystyried cyfansoddiad unigryw y maes chwarae a bod yn gymesur. Cynllunnir meysydd chwarae mewn amrywiaeth eang o fformatau. Mae rhai yn fach ac efallai mai dim ond un darn o gyfarpar fydd yno fel sleid neu siglen, tra bod rhai yn fawr ac yn cynnwys nifer o strwythurau a gwahanol ddeunyddiau. Lleolir rhai meysydd chwarae awyr agored mewn ardaloedd amgaeedig â ffens ond bydd cynllun rhai eraill yn wahanol.
- Nid creu gormodedd o waith papur yw bwriad yr asesiad risg, ond yn hytrach nodi mesurau synhwyrol i reoli risg. Bydd yr asesiad risg yn helpu perchenogion neu weithredwyr i benderfynu a ydynt wedi gwneud popeth sydd ei angen.
- Pan fydd perchenogion a gweithredwyr yn rhannu'r cyfrifoldeb am reoli maes chwarae, dylent gydweithio er mwyn sicrhau bod yr asesiad risg priodol yn cael ei gwblhau.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar yr adnoddau canlynol a ddylai helpu perchenogion a gweithredwyr i gynnal eu hasesiadau risg:
- arwyddion enghreifftiol ar gyfer meysydd chwarae
- negeseuon enghreifftiol i'r cyhoedd ynghylch cyfrifoldeb personol
Gweler y wybodaeth bellach gan HSE ynghylch hyrwyddo ymagwedd gytbwys tuag at gyfleoedd chwarae a hamdden i blant.
Ystyriaethau allweddol ar gyfer ailagor meysydd chwarae yn ddiogel
Ystyriaeth | Mesurau posibl | |
---|---|---|
Asesu risg | Sicrhau bod asesiad risg priodol yn cael ei gynnal wrth ystyried a ddylid ailagor maes chwarae awyr agored. |
Sicrhau y gellir lliniaru'r risgiau a nodir o ganlyniad i'r asesiad risg a bod camau yn cael eu cymryd i'w lliniaru er mwyn sicrhau bod modd ailagor y maes chwarae. Dogfennu a chofnodi'r holl risgiau a nodir a'r camau lliniaru sydd eu hangen. |
Paratoi | Sicrhau bod cyfarpar meysydd chwarae yn ddiogel i'w ddefnyddio ac yr eir i'r afael ag unrhyw risgiau sy'n ymwneud â chyfarpar a ddifrodwyd neu gyfarpar diffygiol cyn eu hagor. | Sicrhau bod safleoedd yn ddiogel cyn iddynt ailagor. |
Nodi manylion |
Ar gyfer perchenogion neu weithredwyr sawl maes chwarae gwahanol. Nodi rhaglen ailagor yn seiliedig ar nodweddion unigryw y maes chwarae, er enghraiffft maint, lleoliad, nifer y bobl sy'n debygol o ymweld ag ef a lefel yr angen yn yr ardal leol. |
Rhestr o barciau ac amserlen ar gyfer eu hailagor yn raddol. Cyfathrebu â'r gymuned er mwyn egluro'r rhesymeg dros y cynllun ailagor gan gynnwys:
|
Cadw pellter cymdeithasol |
Cadw pellter cymdeithasol/corfforol yw un ffordd o reoli'r risg y caiff y feirws ei drosglwyddo a lleihau'r risg honno. Mae'n ofynnol i bersonau sy'n gyfrifol am feysydd chwarae gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau (ac eithrio rhwng aelodau o'r un aelwyd (gan gynnwys aelwyd estynedig) neu ofalwr a'r person sy'n cael cymorth gan y gofalwr). Dylid cydnabod y bydd oedolion a phlant sydd â chyflyrau penodol yn ei chael hi'n anodd cadw pellter cymdeithasol. |
Arwyddion at y dibenion canlynol:
Gall cyfleusterau mwy o faint ystyried y canlynol:
|
Glanhau a hylendid | Mae cyngor gwyddonol yn awgrymu y gall y feirws oroesi am sawl diwrnod ar rai arwynebau caled, yn enwedig dan do. Caiff y risgiau hyn eu lleihau yn yr awyr agored, lle y gall arwynebau fod yn agored i olau UV a/neu law. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i feysydd chwarae awyr agored ond gallai'r feirws oroesi yn ddigon hir ar arwynebau awyr agored a ddefnyddir yn aml neu y cyffyrddir â nhw'n aml er mwyn ei helpu i gael ei drosglwyddo mewn ardaloedd prysur. Fodd bynnag, gellir lleihau'r risg hon neu ei lliniaru drwy gymryd y mesurau posibl a awgrymir. |
Arwyddion at y dibenion canlynol:
Sicrhau bod cyfleusterau gwastraff a threfniadau casglu digonol yn cael eu rhoi ar waith. Gall cyfleusterau mwy o faint ystyried y canlynol:
|
Cyfathrebu / darparu gwybodaeth |
Mae gan berchenogion a gweithredwyr ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth ynghylch sut i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Hyrwyddo ymddygiad cyfrifol gan blant, rhieni a gofalwyr yn unol â'r mesurau cadw pellter cymdeithasol/corfforol a'r ystyriaethau hylendid a glanhau uchod drwy sianeli cyffredinol er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltu â'r coronafeirws. Sicrhau y caiiff negeseuon clir a dealladwy eu cyfleu os caiff mannau chwarae eu hagor yn raddol. |
|
Plant ag anghenion ychwanegol |
Ymhlith y materion sy'n debygol o fod yn benodol i'r grŵp hwn mae:
|
Dylid cynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol wrth ohebu â rhieni. Dylid nodi hyn wrth ystyried ym mha drefn y dylai parciau agor. Gallai'r wybodaeth hon gael ei thargedu at grwpiau neu unigolion penodol. |
Cadw staff yn ddiogel |
Mae'n debygol y bydd rolau staff yn cynnwys:
Ar gyfer cyfleusterau mwy o faint, gallai rolau staff gynnwys:
Oni fydd staff mewn sefyllfa lle mae'r risg y gallai COVID-19 gael ei drosglwyddo yn uchel iawn, dylai asesiadau risg adlewyrchu'r ffaith mai dim ond rhywfaint o ddiogelwch ychwanegol y bydd cyfarpar diogelu personol yn ei roi. |
Gwisgo menig a ffedog wrth waredu gwastraff, glanhau neu ymgymryd â gwaith cynnal a chadw. Os mai eitemau untro yw'r rhain, ni ddylid eu hailddefnyddio. Os mai eitemau amlddefnydd ydynt, rhaid iddynt gael eu glanhau a'u storio yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr. Rhaid gwaredu unrhyw eitemau yn briodol. |
Ystyriaethau ychwanegol o ran arwyddion a chyfathrebu
Cydymffurfiaeth â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg. Rhoddir gwybodaeth bellach am arwyddion a chyfathrebu yn rheoli canolfannau trefol a ystyriaethau ychwanegol o ran cyfathrebu, technoleg a rheoleiddio.
Dylid rheoli'r defnydd o arwyddion a'u tynnu i lawr yn brydlon pan na fydd eu hangen mwyach. Ni ddylent ychwanegu at y gwastraff a adewir ar dir y cyhoedd.
Dulliau o gyfathrebu â'r rhai:
- sydd â namau ar eu clyw neu eu golwg
- nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt
- plant iau a phlant ag anghenion ychwanegol, er enghraifft dylid ystyried defnyddio lluniau neu symbolau
Gorchuddion wyneb
Dylid defnyddio gorchuddion wyneb yn unol â'r cyngor cyfredol a roddir gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a'r canllawiau gorchuddion wyneb mewn perthynas â phlant, oedolion a'r rhai sydd ag anghenion ychwanegol.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol y gallai gwisgo gorchudd wyneb mewn maes chwarae beri risg diogelwch ychwanegol a dylent arfer eu barn ynghylch a ddylai eu plant wisgo gorchudd o'r fath.
Canllawiau cysylltiedig eraill
- Darparu toiledau mwy diogel i'r cyhoedd: coronafeirws
- COVID-19: cleaning of non-healthcare settings-UK guidance on GOV.UK
- Chwaraeon a hamdden: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol
- Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin
- Cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd