Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidogion

Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar ein bywydau ni i gyd mewn sawl ffordd. Mae’r feirws wedi achosi argyfwng iechyd y cyhoedd ac wedi bod yn drasiedi bersonol i lawer, gan gyffwrdd â phob un ohonom yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae’r canlyniadau i’n heconomi, ein cymdeithas a’n cymunedau wedi bod yn ddifrifol.

Fodd bynnag, nid yw effaith y feirws wedi’i dosbarthu’n gyfartal ar draws cymdeithas. Mae’r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli, a’r rhai mwyaf agored i niwed sydd wedi’u taro galetaf. Cawsom ein taro gan y pandemig ar ôl degawd o gyni pan amddifadwyd ein gwasanaethau cyhoeddus o fuddsoddiad a chyfyngwyd ar incwm llawer o bobl. Heb os, mae wedi effeithio ar rai cymunedau yn fwy nag eraill; naill ai o safbwynt iechyd, fel cymunedau BAME a phobl anabl, neu’n economaidd, yn enwedig y rhai sy’n gweithio mewn sectorau fel manwerthu, twristiaeth, y celfyddydau neu letygarwch. Rydym yn gwybod y gallai pobl ifanc yn benodol gario baich delio â’r coronafeirws gyda nhw drwy gydol eu bywydau gwaith, oni bai ein bod yn gweithredu.

Ond er gwaethaf yr holl heriau hyn, rydym wedi gweld y gorau o bobl hefyd: unigolion yn cynnig cymorth i’w gilydd a sefydliadau yn uno i weithio’n gyflym mewn partneriaeth i ymateb i’r pandemig. Rydym wedi gweld cymunedau’n dod at ei gilydd a niferoedd digynsail o wirfoddolwyr yn camu ymlaen, wrth i’r bobl hynny a oedd yn sydyn yn methu â gweithio yn chwilio am ffyrdd newydd o gyfrannu at gymdeithas. Mae newidiadau wedi bod ym myd gwaith a all gynnig ffyrdd gwell a mwy hyblyg o weithio yn y dyfodol, gan leihau’r effaith ar ein hamgylchedd. Mae’r feirws, wrth gwrs, yn dal i fod gyda ni, ac mae cyfraddau trosglwyddo ar adeg ysgrifennu’r ddogfen hon yn cynyddu unwaith eto mewn rhannau o’r wlad. Rhaid i bob un ohonom barhau i chwarae ein rhan i atal y lledaeniad. Rydym yn cydnabod y gofynion sy’n parhau ar bobl Cymru, gymaint y mae pobl yn gweld eisiau dod ynghyd â ffrindiau a theulu, a pha mor bryderus yw pobl am eu dyfodol, wrth inni ymateb i’r her ddyddiol o gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Ond rhan o’r ymateb hwnnw i’r feirws yw’r angen i feddwl a chynllunio ymlaen. Yn enwedig yng nghyd-destun ehangach ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a’r posibilrwydd o niwed economaidd pellach yn sgil diwedd cyfnod pontio’r UE pan fydd ein perthynas economaidd â’n partner masnachu pwysicaf yn newid yn sylweddol, ni waeth a all y DU a’r UE ddod i gytundeb ai peidio. Bydd ein dyfodol yng Nghymru yn edrych yn wahanol o ganlyniad i’r coronafeirws, ond nid yw’r dyfodol wedi’i benderfynu ymlaen llaw a rhaid inni geisio ei siapio.

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi parhau i gyflawni rhannau allweddol o’n rhaglen lywodraethu, gan weithio i greu Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrdd. Nawr, drwy wireddu’r gwerthoedd hynny o ran cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, drwy adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a thrwy adeiladu ar y blaenoriaethau presennol hynny yn ein rhaglen lywodraethu, byddwn yn anelu at ailadeiladu Cymru yng ngoleuni pandemig y coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru am fod yn agored i syniadau newydd ac i her adeiladol, felly rhaid i ran o’r gwaith hwn fod yn sgwrs genedlaethol. Rydym am wybod beth sy’n bwysig i chi. I ddechrau’r sgwrs honno, gwnaethom ofyn i bobl gysylltu drwy CymruEinDyfodol@llyw.cymru a dweud wrthym am eu gweledigaeth ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Yn ogystal â chlywed yn uniongyrchol gan unigolion, rydym hefyd wedi clywed gan ystod eang o sefydliadau cymunedol, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, undebau llafur, y trydydd sector, ein prifysgolion, pobl ifanc ac arbenigwyr mewn gwahanol feysydd. Byddwn yn parhau â’r ddeialog hon ag eraill i’n helpu i gyrraedd y rhai nad ydym wedi’u cyrraedd yn hawdd o’r blaen – gan gynnwys pobl ifanc, grwpiau anabl a grwpiau BAME.

Mae’r ymatebion hyn wedi rhoi ymdeimlad clir iawn inni, a byddant yn parhau i wneud hynny, o’r hyn y mae pobl Cymru yn teimlo yw effaith fwyaf y coronafeirws ar eu bywydau hyd yma, wrth inni ddatblygu’r set o flaenoriaethau ar gyfer ail-greu a nodir isod. Rydym yn cydnabod bod y sylwadau a gawsom a’r trafodaethau rydym wedi’u cael am effaith y feirws wedi digwydd ar adeg pan oedd trosglwyddiad y feirws, am y tro, yn lleihau. Wrth i’r cyfnod nesaf o fynd i’r afael â’r feirws ddechrau, gall y cyd-destun ar gyfer rhannau o’r gwaith hwn newid, weithiau’n sylweddol efallai, ond mae pob un ohonom ar draws Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at barhau â’n sgwrs a gweithio’n agos gyda’n partneriaid i wireddu’r blaenoriaethau hyn.

Mark Drakeford AS
Prif Weinidog Cymru

Jeremy Miles AS
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Blaenoriaethau

Yn ystod gweddill y tymor hwn, dyma ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer ail-greu:

  • Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau diweithdra a rhoi’r cyfle gorau i bawb ddod o hyd i waith teilwng â rhagolygon hirdymor a’i gadw, gan ychwanegu gwerth at raglen Kickstart Llywodraeth y DU. Byddwn yn gweithio gydag Undebau Llafur, cyflogwyr, ysgolion a cholegau i roi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau a dysgu rhai newydd.
  • Byddwn yn sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd yn sgil effeithiau’r coronafeirws neu oherwydd unrhyw ddirywiad economaidd nad yw’n fai arnyn nhw. Byddwn yn cefnogi ein holl bobl ifanc i aros mewn addysg ac i ddal i fyny yn yr ysgol ac yn y coleg. Yn ogystal, byddwn yn sicrhau bod grwpiau penodol sydd dan anfantais, gan gynnwys aelodau o gymunedau BAME, yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
  • Byddwn yn cynyddu’r gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol i sicrhau mwy bod mwy o dai o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru, gan fuddsoddi yn arbennig mewn tai carbon isel ar raddfa briodol a chan uwchraddio’r stoc tai yn enwedig tai cymdeithasol, i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac i leihau tlodi tanwydd.
  • Byddwn yn cynyddu’r buddsoddiad yng nghanol ein trefi lleol i helpu i adeiladu cymunedau gwydn ac i fanteisio ar y modd y mae’r coronafeirws wedi gwneud i bobl ganolbwyntio’n fwy ar y cymunedau lle maent yn byw. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwell mynediad i fannau agored, creu hybiau gweithio o bell, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch.
  • Byddwn yn parhau i ymateb yn egnïol i’r argyfwng yn yr hinsawdd drwy ddilyn agenda ddatgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau’r dyfodol a diogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.
  • Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy newid patrymau gweithio a theithio i adeiladu ar dreialon trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw, gan weithio gydag undebau llafur, awdurdodau lleol a theithwyr, ac yn rhoi pwyslais clir yn ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar leihau’r angen i deithio, gwasgaru’r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfartal drwy’r dydd, a galluogi teithio llesol fel buddsoddiad yn iechyd y cyhoedd.
  • Byddwn yn canolbwyntio ar yr economi ‘bob dydd’/sylfaenol ac yn cefnogi twf ac annibyniaeth busnesau sydd â phencadlys yng Nghymru er mwyn meithrin gwydnwch economi Cymru yn wyneb y coronafeirws a diwedd Cyfnod Pontio’r UE.
  • Byddwn yn cefnogi’r GIG i adennill tir a gollwyd o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws.
  • Ym mhob un o’r wyth flaenoriaeth hyn ac ym mhopeth a wnawn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi’r rhai y mae argyfwng y coronafeirws wedi effeithio waethaf arnynt, gan gynnwys plant a phobl ifanc, menywod, y rhai sydd ag incwm isel ac sydd mewn cyflogaeth ansicr, pobl BAME a phobl anabl.

Rhan 1: Symud Tuag at Ail-greu

Wrth ymateb i’r pandemig, rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran sut i ddyrannu ein hadnoddau i sicrhau’r canlyniadau mwyaf effeithiol i Gymru. Yn ogystal ag ymateb i heriau uniongyrchol y pandemig, rydym wedi parhau i wneud cynnydd ar y pethau hynny sydd bwysicaf inni.

Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi gorfod addasu’n gyflym i ymateb i’r coronafeirws. Ond mewn sawl ffordd, mae’r ymateb i’r coronafeirws wedi cyflymu cynnydd tuag at yr uchelgeisiau a osodwyd yn ein cyhoeddiad “Cymru Iachach”, sy’n nodi ein hamcanion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys targedu camau gweithredu i wella ansawdd gofal, lles, ac anghydraddoldebau iechyd. Er enghraifft, rydym wedi gwneud cynnydd cyflym o ran symud gwasanaethau allan o ysbytai ac i gymunedau, gan ddefnyddio technoleg a dulliau digidol i alluogi modelau newydd o ofal. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd cyflym tuag at gydweithio integredig rhwng y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol yng nghyd-destun olrhain cysylltiadau.

Yn fwy cyffredinol, gwyddom y bydd y pandemig yn parhau am beth amser. Mae wedi cael effaith ddofn ar bob agwedd ar ein bywydau, a mwy o effaith ar rai nag eraill, gan amlygu anghydraddoldebau hirsefydlog. Er gwaethaf yr heriau a’r galwadau newydd, byddwn yn parhau â chynnydd y pedair blynedd diwethaf i sicrhau bod Cymru yn parhau i symud ymlaen, gan gael ein harwain gan ein gwerthoedd.

Adeiladu dyfodol tecach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl ac sy’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau gwirioneddol y mae’r pandemig wedi’u hamlygu. Dyfodol lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i bawb, lle caiff y gymuned ei dathlu a’i chryfhau, lle’r ydym yn ymdrechu i sicrhau gwaith teg a ffyniant i bawb. Lle mae ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, a lle mae ein hamgylchedd naturiol yn cael ei drysori.

Cyn y pandemig, a thrwy gydol y cyfnod, rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid ledled Cymru i barhau i gyflawni ein blaenoriaethau fel llywodraeth, yn ogystal â lliniaru rhai o ganlyniadau gwaethaf y pandemig. Mae’r camau hyn wedi’u llywio gan ein gwerthoedd a’n gweledigaeth ar gyfer Cymru.

Llesiant cenedlaethau'r dyfodol

Cymru fwy llewyrchus

  • Gan gydnabod effaith y pandemig ar gyflogaeth, rydym wedi blaenoriaethu cymorth i bobl aros mewn swyddi a’u helpu i ddod o hyd i waith drwy sefydlu cronfa newydd gwerth £40m i helpu unrhyw un 16 oed a hŷn i gael gafael ar gyngor a chymorth i ddod o hyd i waith, gwella eu sgiliau, eu cymwysterau a’u cyflogadwyedd, sicrhau prentisiaeth, swydd neu i ddechrau busnes.
  • Pecyn cymorth gwerth £2.4 biliwn, gan gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd, pecyn cymorth brys gwerth £200m i fusnesau bach, a £350m o ryddhad ardrethi annomestig, i gefnogi’r economi.
  • £26 miliwn i elusennau i ymdopi yn ystod y cyfnod o ansefydlogrwydd ariannol a achoswyd gan y pandemig.
  • Cefnogi prifysgolion, colegau addysg bellach a myfyrwyr drwy gronfa gwerth £50 miliwn i gynnal addysgu ac ymchwil.
  • £24 miliwn i ailddechrau’r Cynnig Gofal Plant a sefydlu ein Grant Darparwyr Gofal Plant, gan gydnabod pwysigrwydd mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg i rieni sy’n gweithio ac i gefnogi datblygiad plant.
  • Bydd Cronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden gwerth £14 miliwn yn cefnogi’r sector yn sgil yr heriau parhaus sy’n deillio o bandemig COVID-19 ac yn darparu cynaliadwyedd tymor hwy.
  • Dyrannu £53 miliwn i Gronfa Adferiad Diwylliannol i gefnogi’r sectorau diwylliant a chelfyddydau i ymdopi â’r golled fawr sydd wedi bod mewn incwm oherwydd y pandemig.

Cymru fwy cyfartal

  • Sefydlu Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19 y Prif Weinidog i nodi camau cyflym i’w cymryd mewn ymateb i effaith anghymesur y feirws ar bobl BAME, gan gynnwys lansio ein Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol a’r adnodd asesu risg mewn lleoliadau iechyd a gofal a lleoliadau eraill.
  • Hwb o £11 miliwn i’r Gronfa Cymorth Dewisol i helpu teuluoedd a oedd yn dioddef caledi ariannol yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol.
  • Darparu llety brys i dros 2,200 o bobl yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol, gan gynnwys pobl a oedd yn cysgu ar y stryd, yn dianc rhag cam-drin domestig neu berthynas a oedd wedi chwalu, neu ddigartrefedd cudd.
  • 700 o gartrefi newydd dros dro neu barhaol o ansawdd uchel ledled Cymru, gan helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei orfodi i ddychwelyd i’r stryd. 
  • Darparodd y Cynllun Cymorth Gofal Plant yn sgil y Coronafeirws ofal i 9,000 o blant cyn oed ysgol y mae eu rhieni’n weithwyr hanfodol a thros 900 o blant agored i niwed, ochr yn ochr â’r cymorth a oedd ar gael mewn hybiau ysgol.
  • Defnyddio Hwb i gefnogi’r broses addysgu a darparu miloedd o ddyfeisiau a thrwyddedau meddalwedd i awdurdodau lleol, i gefnogi dysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
  • Rhaglen fawr o gymorth iechyd meddwl i blant sy’n teimlo mwy o straen neu bryder o ganlyniad i’r feirws.
  • £40 miliwn i sicrhau parhad yn y ddarpariaeth yn lle prydau ysgol am ddim gan gynnwys drwy gydol y gwyliau ysgol.
  • £40 miliwn i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws – gan helpu i dalu costau uwch cyfarpar diogelu personol, bwyd, costau staffio a TGCh.
  • Sefydlu llinell gymorth COVID-19 ar gyfer pobl BAME i’w cyfeirio at gyngor arbenigol, sefydliadau prif ffrwd a sefydliadau cymunedol.
  • Lansio ein hymgyrch ‘Ddylai neb fod yn ofnus gartre’ i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod cymorth ar gael iddynt drwy gydol cyfnod y coronafeirws a’r tu hwnt.

Cymru fwy gwyrdd

  • £15 miliwn ychwanegol i gefnogi teithio llesol a sicrhau newidiadau parhaol mewn ymddygiad teithio yn y dyfodol.
  • £105 miliwn hyd yma i sicrhau y gall gwasanaethau trên barhau i weithredu ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a £140 miliwn i gefnogi gwasanaethau bysiau sy’n wynebu llai o incwm o werthiant tocynnau, gan helpu i gadw ceir oddi ar y ffordd.
  • Ehangu Cyllid yr Economi Gylchol gwerth £13m ar gyfer busnesau ac awdurdodau lleol a chyrff a ariennir gan gyllid cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned i gefnogi adferiad gwyrdd o’r coronafeirws.
  • Rhaglen ôl-osod newydd, i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn hyd at 1000 o gartrefi, gan fynd i’r afael â defnydd domestig o garbon a thlodi tanwydd.
  • Gosod targed o 30% o holl weithlu’r wlad i weithio gartref neu’n agos at eu cartref yn y dyfodol gan y bydd yn helpu i leihau llygredd a thagfeydd.
  • £5 miliwn i ddechrau gwaith i sefydlu Fforest Genedlaethol ledled Cymru, gan gynnwys datblygu coetiroedd cymunedol, Fforestydd Bach Iawn a Chynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth i helpu’r sector coedwigaeth i gyfrannu at adferiad gwyrdd.
  • Cronfa gwerth £2.6 miliwn i helpu i adfer rhai o’n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr, y rhwydwaith N2K, i ddechrau llwybr tuag at wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru.
  • Derbyniodd awdurdodau ledled Cymru £4.4 miliwn yn ychwanegol i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd, yn ogystal â 100% o gyllid tuag at lunio cynlluniau newydd a phrosiectau dulliau naturiol o atal llifogydd. Gyda’i gilydd, bydd hyn yn cyflymu’r gwaith ac yn helpu i fynd i’r afael â heriau deublyg llifogydd a’r pandemig, gan olygu bod cyfanswm o dros £60 miliwn wedi’i fuddsoddi eleni.
  • Mae mannau awyr agored newydd yn cael eu creu i’r gymuned drwy’r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd ag arwyddocâd cynyddol yn sgil y pandemig. Cafodd llawer o fannau newydd, fel gerddi bywyd gwyllt, prosiectau tyfu bwyd cymunedol a choetiroedd hygyrch, eu creu rhwng mis Mawrth a mis Medi eleni.

Rhan 2: Cymru ein dyfodol

Cymru wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â hwy. A thrwy gydol y pandemig rydym wedi diogelu – ac yn wir wedi ymestyn – llawer o’r blaenoriaethau a’r rhaglenni yr ydym wedi’u datblygu i fynd i’r afael â’r materion hynny neu eu lliniaru.

Rydym wedi nodi’n glir mai ein nod fel llywodraeth yw sicrhau Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrdd. Mae’r gwerthoedd hyn yn parhau i fod mor ddilys heddiw ag yr oeddent cyn y pandemig, gan ganolbwyntio ein hymdrechion ar fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n ein hwynebu. Mae’r newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, yn dal i fod yn her yr un mor fawr ar ddiwedd 2020 ag yr oedd ar ddechrau’r flwyddyn. Mae ein hecosystem sylfaenol yn dirywio, gan fygwth rhywogaethau, bioamrywiaeth ac effaith hyn ar ansawdd dŵr, ansawdd aer ac economi ehangach Cymru. Mae datblygiadau digidol yn gweddnewid ein disgwyliadau o ran sut rydym yn defnyddio gwasanaethau ym mhob maes. Mae angen inni sicrhau nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gadael ar ôl, gan fanteisio ar bŵer awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial er budd y cyhoedd yng Nghymru. Mae angen inni fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yng nghymdeithas Cymru.

Bydd angen inni fod yn feiddgar ac yn greadigol wrth ymateb i’r heriau y mae’r pandemig wedi’u cyflwyno. Efallai na fydd rhai o’r pethau sydd wedi gweithio yn y gorffennol yn gweithio mwyach mewn amgylchiadau sydd wedi newid mor sylweddol. Bydd angen inni fod yn hyblyg ac yn greadigol wrth werthuso ein dulliau presennol ac wrth ddatblygu rhai newydd.

Dyna pam yr ydym yn benderfynol o agor y drafodaeth mor eang ag sy’n bosibl, yng Nghymru a thu hwnt, fel y gallwn ehangu ein ffyrdd o feddwl. Gwnaethom ofyn ichi gysylltu â ni, gan ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi, ac awgrymu syniadau ar gyfer sut i ail-greu Cymru sy’n gweithio’n well i bob un ohonom.

Cawsom dros 2000 o ymatebion gan unigolion, gweithredwyr, elusennau, busnesau a chyrff cynrychioliadol.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi ein helpu i ddadansoddi’r ymatebion. Maent wedi nodi’r chwe maes allweddol yr oedd ymatebwyr yn canolbwyntio arnynt:

  • Cymdeithas
  • yr Economi
  • yr Amgylchedd
  • Iechyd Gofal Cymdeithasol a Llesiant
  • Ymgysylltu Gwleidyddol
  • a Thechnoleg Ddigidol

Mae’r dadansoddiad hefyd yn tynnu sylw at ddau fater trawsbynciol – anghydraddoldebau a dyfodol gwaith – a oedd yn amlwg iawn yn ymatebion pobl. Ceir crynodeb o’r ymatebion isod, gyda’r adroddiad llawn wedi’i atodi i’r papur.

Cymdeithas

Roedd nifer sylweddol o ymatebion yn galw am ganolbwyntio ar roi sgiliau i bobl ifanc a fydd yn arwain at gyflogaeth barhaus sy’n talu’n dda yng Nghymru. Roedd cydnabyddiaeth gref hefyd o’r angen i gefnogi datblygiad a lles plant a phobl ifanc, yn enwedig plant sy’n agored i niwed.

Cydnabuwyd manteision gweithio gartref, ond cydnabuwyd bod rhai anfanteision, hefyd, gan arwain at ffafrio cymysgedd o leoliadau gwaith, yn y cartref ac yn y swyddfa, yn y dyfodol.

Roedd ymatebwyr yn awyddus i weld tai addas a fforddiadwy, gan gynnwys cyflenwad da o gartrefi o safon i bobl sy’n agored i niwed. Roedd tai gwyrdd yn rhan o’r ymatebion, gyda’r defnydd arfaethedig o ffynonellau ynni cynaliadwy ar gyfer cartrefi yng Nghymru a symud i statws ‘sero-net’. Mae rhai wedi dadlau o blaid troi swyddfeydd gwag, neu safleoedd manwerthu sy’n wag o ganlyniad i’r pandemig, yn dai.

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, gwelwyd pobl yn cydweithio i gefnogi ei gilydd yn y gymuned. Roedd ymatebwyr o’r farn bod angen cydio yn y momentwm hwn ac adeiladu ar y mentrau cymunedol cadarnhaol hyn. Awgrymodd rhai y dylai’r llywodraeth ystyried sut y gallai feithrin hyn.

Yr economi

Roedd rhai o’r sylwadau yn tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi pobl i aros mewn gwaith neu i allu cael swyddi.

Roedd ymatebwyr yn awyddus i weld busnesau Cymru’n cael eu cefnogi, gan gynnwys datblygu brand Cymru a dod â sectorau at ei gilydd mewn hybiau. Roedd cydnabyddiaeth hefyd o’r angen i sbarduno adferiad economaidd cynaliadwy, gan hyrwyddo’r economi gylchol. Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn ystyried Cymru yn wlad sydd mewn sefyllfa dda i ddatblygu ynni cynaliadwy, ac roedd galwadau am ddwysáu’r ymdrechion i sicrhau bod economi Cymru yn seiliedig ar gyflenwadau ynni adnewyddadwy drwy ynni gwynt, dŵr a’r haul.

Yr amgylchedd

Roedd ymatebwyr yn cydnabod mai ased mwyaf Cymru yw ei hamgylchedd naturiol, y dylid ei wella a’i feithrin. Cafwyd galwadau i sicrhau bod gan bob cymuned fan gwyrdd sydd ar agor i bawb, ac awgrymiadau ar sut i reoli ein tir i annog dad-ddofi tir a phlannu coed.

Clywsom gefnogaeth i gamau a fyddai’n annog pobl i brynu bwyd yn lleol, ac i Lywodraeth Cymru gymryd camau i gefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy, dewisiadau gwybodus gan ddefnyddwyr a diogelwch bwyd.

Roedd ymatebwyr hefyd am weld cynnydd mewn trafnidiaeth wyrddach yng Nghymru, o seilwaith gwefru cerbydau trydan, i fesurau i leihau’r ddibyniaeth ar geir a chefnogi beicwyr.

Iechyd, gofal cymdeithasol a lles

Tynnodd ymatebwyr sylw at bwysigrwydd cynyddu statws gofal cymdeithasol, a chydnabod y cyfraniad a wneir gan ofalwyr cyflogedig drwy well cyflogau a safonau gwaith. Cydnabuwyd yn glir bwysigrwydd iechyd a lles, gan gynnwys treulio mwy o amser yn yr awyr agored a rhyngweithio â’r byd naturiol, gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a chymorth i gael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy ac ymarfer corff, ynghyd â gwell ymwybyddiaeth a chymorth ar gyfer iechyd meddwl.

Cododd rai ymatebwyr bryderon ynghylch mynediad mwy cyfyngedig at ofal iechyd mewn cymunedau gwledig o gymharu ag ardaloedd trefol.

Digidol a thechnoleg

Teimlai sawl ymatebydd mai nawr yw’r amser delfrydol i gefnogi hyfforddiant sgiliau digidol i uwchsgilio gweithlu Cymru. Ystyriwyd bod y defnydd cynyddol o ddulliau digidol yn sbardun ar gyfer twf economaidd a gwell cynhyrchiant.

Mynegwyd rhai pryderon am anghydraddoldebau digidol ar draws Cymru, naill ai o ran mynediad at dechnoleg a band eang dibynadwy, neu’r sgiliau i ddefnyddio offer digidol.

Ymgysylltu gwleidyddol

Roedd ymatebwyr am weld mwy o gyfranogiad cyhoeddus ac amrywiol yn y broses ddemocrataidd, ac roedd awydd i adeiladu ar y cynnydd mewn cyfathrebu a negeseuon uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â’r ymateb i’r coronafeirws.

Roedd cefnogaeth i roi egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wraidd y broses adfer.

Anghydraddoldebau

Clywsom gydnabyddiaeth gan ymatebwyr fod y coronafeirws wedi amlygu anghydraddoldebau sy’n bodoli’n barod a chefnogaeth gref i weithredu i fynd i’r afael â hyn ac i greu cymdeithas decach a mwy cyfartal, gan fynd i’r afael yn benodol ag anghydraddoldebau digidol, iechyd ac economaidd sydd wedi ymwreiddio.

Dyfodol gwaith

Thema allweddol a ddeilliodd o’r ymatebion oedd y newid i ddyfodol gwaith, gyda rhai gweithwyr yn gallu cydbwyso’r amser a dreulir yn y swyddfa gydag amser yn gweithio gartref, a goblygiadau hyn i seilwaith Cymru. Cydnabuwyd nad oedd gweithio gartref bob amser yn bosibl, ac nad oedd yn addas i amgylchiadau pawb. Teimlai sawl ymatebydd y gallai trefniadau gweithio o bell alluogi cynlluniau adfywio lleol a darparu cyfleoedd cyflogaeth mewn sectorau sy’n datblygu, gan annog pobl ifanc fwy medrus i aros yng Nghymru o bosibl.

Rydym yn croesawu’r ymatebion hyn am fod mor eang, mor greadigol ac mor heriol. Rydym yn falch o weld bod yr awgrymiadau hyn yn cyd-fynd â’n gwerthoedd.

Cyfarfodydd bord gron a grŵp cynghori

Rydym wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gydag unigolion o grwpiau cymunedol, y trydydd sector, awdurdodau lleol, busnesau, academyddion, pobl ifanc a sefydliadau cynrychioliadol o Gymru, rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ac mae rhagor wedi’u cynllunio at y dyfodol. Sefydlwyd grŵp cynghori bach gennym hefyd, gyda’r dasg o’n helpu ni i nodi meysydd ffocws allweddol. Mae gan y grŵp bedwar aelod sefydlog; Torsten Bell o’r Resolution Foundation, Rebecca Heaton sy’n cynrychioli Cymru ar Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ac yn arwain ar newid hinsawdd yn Drax Group, Paul Johnson sy’n bennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Miatta Fahnbulleh sy’n arwain y New Economics Foundation. Bydd pumed aelod, a fydd yn wahanol ar gyfer pob trafodaeth, yn dod â safbwynt sector arall neu ddimensiwn arall i’r pwnc dan sylw (Cynllunio ar gyfer Adferiad Ffyniannus, Cyfartal a Gwyrdd ar ôl y Pandemig Coronafeirws).

Mae’r trafodaethau yn y cyfarfodydd bord gron wedi ystyried ystod eang o faterion i’n helpu ni i ystyried lle i flaenoriaethu ein hymdrechion, o ystyried maint yr her sy’n ein hwynebu. Mae nifer o themâu tebyg wedi dod i’r amlwg o drafodaethau’r grŵp cynghori, ond yn aml yng nghyd-destun datblygiadau tebyg mewn mannau eraill.

Maent hefyd wedi ein helpu i nodi effeithiau anghyfartal y pandemig, gan dynnu sylw at y ffaith mai plant a phobl ifanc 16-24 oed sy’n debygol o fod wedi’u heffeithio fwyaf gan ganlyniadau uniongyrchol a thymor hwy y pandemig, o ran anfantais cyflogaeth a chostau cyllidol delio â’r pandemig. Mae cymunedau BAME a phobl anabl hefyd wedi’u heffeithio’n anghyfartal. Maent hefyd wedi tanlinellu pwysigrwydd sicrhau ymdrech ar y cyd i gefnogi pobl i aros mewn addysg neu hyfforddiant yn y dyfodol agos, gan gynnwys gwneud y mwyaf o gyflogaeth ieuenctid a datblygu sgiliau drwy hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.

Mae’r angen am ymyrraeth gan y llywodraeth i helpu i gadw pobl mewn gwaith a helpu i greu swyddi newydd wedi bod yn amlwg yn y trafodaethau. Bydd angen ymyriadau ar wahân ar gyfer y rhain ond rhaid i ddull cydategol o ddatblygu sgiliau fod yn sail i’r ddau beth, gan adlewyrchu anghenion yr economi. Wrth geisio cefnogi creu swyddi, mae’r sector tai gwyrdd, ôl-osod effeithlon o ran ynni a defnyddio dulliau modern o adeiladu tai i gyd wedi’u nodi fel meysydd allweddol. Gellid creu rhagor o swyddi drwy gefnogi datblygiad a chadernid cadwyni cyflenwi Cymru yn rhagweithiol i gefnogi’r sector hwn.

Mae’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi ar bontio cyfiawn o ganlyniad i effaith economaidd y coronafeirws wedi’i ategu yn y trafodaethau hyn, boed hynny’n ymwneud â chanol trefi, rheoli tir neu ffermio, gweithgynhyrchu, datblygu technoleg werdd, neu wneud newidiadau i’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

Cynhaliwyd y gyfres hon o gyflwyniadau a thrafodaethau ar adeg pan oedd hynt y feirws yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn lleihau ar y cyfan. Fe’u cynhaliwyd hefyd ar adeg o ansicrwydd am natur ein perthynas yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd. Wrth inni ddod i gam nesaf y gwaith o ymdrin â’r feirws a diwedd cyfnod pontio’r UE, bydd y cyd-destun ar gyfer pennu ein blaenoriaethau yn newid yn naturiol, ond mae’r hyn yr ydym wedi’i glywed gan bobl yng Nghymru a thu hwnt yn parhau i fod yn hanfodol i’r ffordd yr ydym yn ffurfio ein hymateb a’n hymdrech i ail-greu.

Y blaenoriaethau a nodir isod ar gyfer ail-greu yw ein hymateb – wedi’i seilio ar ein gwerthoedd sef cyfiawnder economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder amgylcheddol – i’r pryderon a’r uchelgeisiau hynny sydd wedi dod i’r amlwg drwy’r gyfres eang hon o drafodaethau.

Rhan 3: Blaenoriaethau ar gyfer adfer yn y tymor byr

Nid yw’r ymateb uniongyrchol i’r coronafeirws wedi dod i ben eto. Fel y mae’r cynnydd diweddar mewn cyfraddau heintio yn ein hatgoffa, mae Cymru’n parhau i ymgodymu â’r argyfwng iechyd y cyhoedd ac economaidd mwyaf brys y mae wedi’i wynebu ers cenedlaethau lawer. Wrth inni baratoi ar gyfer yr hyn a fydd yn hydref anodd, ein prif ffocws fel Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael â’r feirws a diogelu’r rhai y mae’r mwyaf o berygl iddynt yn ein cymunedau. Ond ar yr un pryd rhaid inni hefyd ganolbwyntio’n agos ar yr heriau eraill sy’n ein hwynebu; yr effaith negyddol y bydd diwedd cyfnod pontio’r UE yn ei chael ac argyfwng y newid yn yr hinsawdd.

Drwy gydol y pandemig rydym wedi sicrhau bod modd parhau i gyflawni mewn meysydd allweddol; o ran tai fforddiadwy a rhaglenni ôl-osod, lleihau cost y diwrnod ysgol i’r dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf, yr economi sylfaenol, gofal cymdeithasol ac ansawdd aer. Er bod y pandemig wedi tarfu ar raglenni a’u bod wedi gorfod addasu, maent wedi parhau i weithredu, o’r Cynnig Gofal Plant i liniaru effeithiau tlodi, o fentrau i gefnogi cynhwysiant digidol i helpu cymunedau i addasu eu cyfleusterau gwerthfawr. Rydym wedi parhau i ysgogi’r agenda ddatgarboneiddio drwy dai, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus ac wedi cynnal prosiectau bioamrywiaeth a fydd yn diogelu ac yn adfer ein hamgylchedd naturiol.

Ar y sail gadarn hon y gallwn ni nawr edrych ymlaen at y gwaith o ail-greu a sut y gall ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau symud ymlaen.

Un o brif flaenoriaethau ein gwaith adfer yw helpu llawer o’r bobl a’r busnesau, y mae eu bywoliaeth wedi’i cholli neu ei throi ben i waered yn sgil y cyfyngiadau, i ddod o hyd i waith a dyfodol. Rydym yn ystyried mai ein rôl bwysicaf, drwy ein Cronfa Cadernid Economaidd a chymorth sgiliau ehangach, yw helpu unigolion a chwmnïau o Gymru i bontio i economi a swyddi’r dyfodol. Mae hynny’n golygu helpu i gadw pobl mewn swyddi drwy’r cyfnod ansefydlog hwn, a helpu pobl, yn enwedig pobl ifanc, ar sail ein rhaglenni sgiliau presennol a chreu amgylchedd o ddysgu gydol oes. Mae’n golygu y byddwn yn helpu i greu swyddi ac yn cefnogi sectorau sy’n datblygu fel y gall pobl ddod o hyd i swyddi cynaliadwy a pharhau i ganolbwyntio ar waith teg.

P’un a yw’n golygu adeiladu cartrefi newydd, ôl-osod cartrefi sy’n bodoli eisoes, adfywio canol ein trefi lleol, gwneud newidiadau i’r ffordd rydym yn teithio a sut rydym yn gweithio, neu sut rydym yn diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr fel y GIG a gofal cymdeithasol i’r dyfodol, mae gennym gyfle i barhau i greu swyddi a chynnal cyflogaeth, er mwyn adeiladu cymunedau cryfach a thecach ac ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd. Wrth edrych tua’r dyfodol rydym wedi gwrando’n ofalus ar y syniadau a’r cyfleoedd diddorol sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer newid cadarnhaol. Boed hynny’n fwy o weithio o bell fel rhan o’r economi, mwy o ddefnydd o delefeddygaeth yn ein GIG, partneriaeth gryfach gyda’r trydydd sector a chymunedau neu ansawdd aer gwell yn ein trefi a’n dinasoedd – mae pethau a oedd ychydig fisoedd yn ôl yn ymddangos yn heriol neu’n arloesol bellach yn ymddangos yn bosibl ac yn rhan o’n bywydau bob dydd.

Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol, a dulliau gweithio o bell. Mae gennym gyfle enfawr i adeiladu ar y profiad o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o bell gan werthuso’r hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn nad yw wedi gweithio gystal. Rydym am atgyfnerthu’r cynnydd a welsom drwy nodi cyfleoedd i ddefnyddio ffyrdd digidol o weithio a chynllunio i gefnogi ymyriadau drwy’r cynllun hwn ac ar draws y sector cyhoeddus. Ar yr un pryd, bydd angen inni gynyddu ein cefnogaeth i hwyluso a sicrhau cynhwysiant digidol y rhai a fydd fel arall mewn perygl o gael eu gwthio, neu eu gwthio hyd yn oed ymhellach, i gyrion gwasanaethau cyhoeddus.

Mae llawer o’r blaenoriaethau ar gyfer ail-greu hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd yr ydym yn ymateb i’r coronafeirws yn y fan hon ac yn awr, yn ogystal â sut yr ydym yn mynd i’r afael â’i ganlyniadau yn y dyfodol. Byddant hefyd yn cyfrannu at ymateb Cymru i heriau diwedd cyfnod pontio’r UE.

Yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, y rhain fydd ein blaenoriaethau wrth inni ddechrau ar y gwaith o ail-greu:

1. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau diweithdra a rhoi’r cyfle gorau i bawb ddod o hyd i waith teilwng â rhagolygon hirdymor a’i gadw, gan ychwanegu gwerth at raglen Kickstart Llywodraeth y DU. Byddwn yn gweithio gydag Undebau Llafur, cyflogwyr, ysgolion a cholegau i roi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau a dysgu rhai newydd.

Yn fwy penodol:

Byddwn yn defnyddio trydydd cam ein Cronfa Cadernid Economaidd i helpu busnesau i addasu i weithredu mewn byd ar ôl y coronafeirws, gan ymateb hefyd i’r newidiadau yn natur ein masnach â’r UE ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Rydym hefyd wedi neilltuo cyllid i gefnogi unrhyw fusnesau sydd angen cau oherwydd cyfyngiadau symud lleol.

Fel yr ydym eisoes wedi cyhoeddi, defnyddir £40 miliwn arall o’r Gronfa i roi hwb i’n rhaglenni hyfforddi, megis y rhaglen ReAct sy’n cefnogi’r rhai sy’n wynebu colli eu swyddi, ac yn gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyflwyno Kickstart yng Nghymru yn llwyddiannus. Nod Kickstart yw darparu lleoliadau gwaith i’r rhai dan 25 oed sy’n ei chael yn anodd dod o hyd i waith. Rydym yn cyflwyno ysgogiadau newydd i annog cyflogwyr yn y cyfnod anodd hwn i ddarparu prentisiaethau i bobl ifanc, gyda phremiymau ychwanegol i bobl anabl.

Byddwn hefyd yn cynyddu’r cyllid i’r Rhaglen Cynhwysiant Gweithredol sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc a phobl hŷn sy’n cael eu gwthio i gyrion y farchnad lafur, ac yn cefnogi CGGC i gynnal astudiaeth i sut y gallwn gefnogi gweithlu hŷn, gan hefyd greu cyfleoedd hyfforddi newydd sy’n gysylltiedig â’n buddsoddiadau newydd mewn tai (gweler isod). O fewn y Gronfa Cadernid Economaidd, rydym yn lansio cronfa wedi’i neilltuo i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch a byddwn hefyd yn ceisio ehangu ymhellach yr arian sydd ar gael drwy Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi profi ei allu i ddarparu cyllid yn gyflym ac yn effeithlon i reng flaen busnesau Cymru.

Byddwn yn gwneud buddsoddiadau newydd sylweddol eleni mewn adeiladau ysgolion ac mewn gwaith cynnal a chadw cefnffyrdd i gefnogi swyddi yn y sector adeiladu a chadwyni cyflenwi cysylltiedig. Ac yn olaf, gan fod angen i weithwyr gael eu hamddiffyn gan y lleiafrif bach o gyflogwyr na ellir dibynnu arnynt i weld eu gweithwyr fel eu hased pwysicaf, bwriadwn gynyddu ein cyllid ar gyfer gwasanaethau sy’n darparu cyngor cyflogaeth.

2. Byddwn yn sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd yn sgil effeithiau’r coronafeirws neu oherwydd unrhyw ddirywiad economaidd nad yw’n fai arnyn nhw. Byddwn yn cefnogi ein holl bobl ifanc i aros mewn addysg ac i ddal i fyny yn yr ysgol ac yn y coleg. Yn ogystal, byddwn yn sicrhau bod grwpiau penodol sydd dan anfantais, gan gynnwys aelodau o gymunedau BAME, yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.

Yn fwy penodol:

Byddwn yn rhoi hwb i’r Gronfa Datblygu Gofal Plant i roi mwy o gymorth i’r plant ieuengaf â datblygiad iaith a datblygiad personol a chymdeithasol, ac yn darparu pecyn gwerth miliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol i’r sector gofal plant er mwyn sicrhau darpariaeth barhaus. Byddwn yn darparu arian ychwanegol i ddatblygu prosiectau cyfalaf o dan Dechrau’n Deg sydd eisoes wedi’u datblygu, ac yn cyflwyno pecyn sylweddol o fesurau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a fydd yn rhoi pwyslais cryf ar atal.

Byddwn yn cynyddu gwariant ar y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi’r rhieni sydd fwyaf bregus yn economaidd ac sy’n cael trafferth â chostau addysg eu plant, ac rydym yn bwriadu ymestyn y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim drwy weddill gwyliau’r ysgol eleni.

Byddwn yn cynyddu’r cyllid a gyhoeddwyd eisoes i roi cymorth ychwanegol i ddisgyblion a allai fod ar ei hôl hi yn eu dysgu ar gamau tyngedfennol yn eu haddysg: bydd hyn yn cynnwys mentora a chymorth adolygu penodol i’r rhai ym mlynyddoedd 11, 12 a 13, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddisgyblion BAME a disgyblion sy’n agored i niwed a datblygu deunyddiau dysgu ar-lein newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg i fyfyrwyr TGAU i gefnogi dysgu cyfunol a dysgu i’r rhai sy’n gorfod hunanynysu.

O ran addysg bellach, byddwn yn rhoi hwb i’r arian sydd ar gael i golegau i ddarparu offer TG i ddysgwyr heb fynediad ato gartref.

Os na ellir ateb y galw drwy gyllidebau presennol, byddwn hefyd yn hybu cyllid i’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch i gefnogi cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n cofrestru yn sgil graddau uwch na’r disgwyl a’r opsiynau cyfyngedig yn y farchnad lafur. Bydd hyn hefyd yn darparu mwy o gymorth i fyfyrwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol, emosiynol neu iechyd meddwl.

Yn fwy cyffredinol, byddwn yn cyflwyno’r ddyletswydd economaiddgymdeithasol ar wasanaethau cyhoeddus i’w gwneud yn ofynnol iddynt gynllunio eu gwasanaethau i fynd i’r afael â’r anfantais economaiddgymdeithasol.

3. Byddwn yn cynyddu’r gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol i sicrhau mwy bod mwy o dai o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru, gan fuddsoddi yn arbennig mewn tai carbon isel ar raddfa briodol a chan uwchraddio’r stoc tai yn enwedig tai cymdeithasol, i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac i leihau tlodi tanwydd.

Yn fwy penodol:

Bwriadwn gynyddu cyllideb ein Prif Raglen Grant Tai Cymdeithasol a hynny ar ben y cynnydd o £30 miliwn a gyhoeddwyd eisoes o ganlyniad i’n penderfyniadau ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir.

Byddwn hefyd yn rhoi hwb i’n Rhaglen Tai Arloesol, sy’n cyfuno ysgogiad economaidd â darparu cartrefi cymdeithasol ecogyfeillgar newydd i bobl ledled Cymru.

Byddwn hefyd yn cynyddu’n sylweddol y cyllid ar gyfer ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i sicrhau cynnydd radical yn nifer y cartrefi presennol sy’n cael eu huwchraddio o ran eu perfformiad amgylcheddol. Rydym hefyd yn gobeithio adeiladu ar hyn drwy gefnogi partneriaeth newydd rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai sydd â’r potensial i ôl-osod hyd at 5,000 o gartrefi cymdeithasol (er nad yw’n debygol y bydd modd cyflawni hyn yn y flwyddyn ariannol gyfredol). Bydd y buddsoddiadau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogaeth yn y sector adeiladu a sector dyfodol gwyrdd yr economi.

I gynyddu’r cyflenwad tai fforddiadwy ac i hybu busnesau bach a chanolig yn y sector adeiladu, byddwn yn rhoi cyfalaf newydd yn y Gronfa Datblygu Eiddo ac yng Nghronfa Safleoedd Segur Cymru, sy’n darparu cyllid i adeiladwyr a datblygwyr eiddo, sy’n fusnesau bach a chanolig, i gyflwyno cynlluniau tai: mae’r galw am y cronfeydd hyn yn llawer mwy na’r hyn sydd ar gael a bydd darparu cyllid ychwanegol yn eu hatal rhag cael eu cau i ymgeiswyr newydd.

4. Byddwn yn cynyddu’r buddsoddiad yng nghanol ein trefi lleol i helpu i adeiladu cymunedau gwydn ac i fanteisio ar y modd y mae’r coronafeirws wedi gwneud i bobl ganolbwyntio’n fwy ar y cymunedau lle maent yn byw. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwell mynediad i fannau agored, creu hybiau gweithio o bell, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch.

Yn fwy penodol:

Byddwn yn ceisio adeiladu ar yr ymdeimlad newydd o gymuned sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil pandemig y coronafeirws, drwy gefnogi awdurdodau lleol a’r trydydd sector i gynnal gweithgareddau gwirfoddoli a galluogi cymunedau i fynd ati eu hunain i weithredu i wella’r amgylchedd a’r cyfleusterau lleol.

Bwriadwn lansio Cronfa Caffael Safleoedd Strategol i alluogi awdurdodau lleol i gaffael eiddo ar y stryd fawr yng nghanol ein trefi lleol er mwyn adfywio’r ardaloedd a allai weld mwy o ymwelwyr o ganlyniad i’r duedd gynyddol i weithio gartref am rywfaint neu drwy’r amser, yn hytrach na chymudo i ddinasoedd mwy. Bydd hyn yn cefnogi ein polisi ‘Canol Trefi yn Gyntaf’ o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn helpu i alluogi rhwydwaith o ganolfannau menter a chanolfannau gweithio ‘lleol i gartref’. Pan nad oes unrhyw ddefnydd ymarferol i’r safleoedd adfeiliedig, dylai’r Gronfa hefyd alluogi creu mannau gwyrdd newydd.

Byddwn yn adeiladu ar brofiad Cronfa’r Economi Gylchol, sydd eisoes wedi cefnogi nifer o gaffis ailddefnyddio a siopau trwsio lleol i lansio cronfa bwrpasol i greu cyfleusterau ychwanegol ar ein stryd fawr, gan gyfrannu’n sylweddol at leihau gwastraff a’n hymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd yn ogystal ag adfywio canol ein trefi.

Byddwn yn dechrau rhoi gwasanaethau endosgopi ar waith mewn cymunedau yng nghanol trefi, a thrwy roi hwb i’n Rhaglen Gyfalaf Gofal Sylfaenol, byddwn hefyd yn symud ein hagenda ‘Canol Trefi yn Gyntaf’ yn ei blaen, gan flaenoriaethu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng nghanol trefi.

Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun cydfuddsoddi i wneud canol trefi yn fwy atyniadol. Mae’n bosibl y bydd mwy o bobl yn ymweld â chanol trefi o ganlyniad i’r duedd gynyddol i weithio gartref ran o’r amser neu drwy’r amser, yn hytrach na theithio i’r dinasoedd mawr i weithio. I ddechrau, bydd hyn yn canolbwyntio’n benodol ar wella mannau gwyrdd.

Rydym ni i gyd am weld canol trefi yn ffynnu, gan wneud cyfraniad cadarnhaol at ein lles ac at gefnogi siopau a gwasanaethau lleol, a’r holl swyddi y mae’r rhain yn eu cynnal.

Er mwyn gwella’r amgylchedd yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd, byddwn yn bwrw ymlaen â phrosiectau peilot o gael parthau 20 mya.

5. Byddwn yn parhau i ymateb yn egnïol i’r argyfwng yn yr hinsawdd drwy ddilyn agenda ddatgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau’r dyfodol a diogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.

Yn fwy penodol:

Byddwn yn rhoi hwb i Gronfa’r Economi Gylchol er mwyn ariannu tua 50 o brosiectau ychwanegol sy’n cyfrannu at yr adferiad gwyrdd, ac at ddatblygu swyddi gwyrdd y dyfodol.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn rhaglen hirdymor Fforest Genedlaethol Cymru, gan feithrin ased a gwaddol i genedlaethau’r dyfodol a helpu i wireddu buddion amlweddog y fforest i bawb. Byddwn hefyd yn mynd ati i dyfu diwydiannau coedwigaeth Cymru.

Byddwn yn cefnogi prosiect peilot i leihau ôl troed carbon un o’n prif ysbytai yn sylweddol drwy integreiddio offer defnyddio ynni’r haul ar ei safle a darparu cyllid sbarduno ar gyfer hybiau hydrogen byw’n ddoeth ledled Cymru – sy’n set bwysig o dechnolegau newydd a all fod yn allweddol i greu diwydiannau carbon isel y dyfodol, o ynni’r môr i hedfan yn ddi-garbon.

Byddwn hefyd yn dyblu nifer y prosiectau i gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus i leihau eu hôl troed carbon, a chaiff y gwaith hwn ei wneud drwy Becyn Ysgogi Gwyrdd y Gwasanaeth Ynni. Byddwn hefyd yn buddsoddi yn natblygiad nifer o gynlluniau ynni adnewyddadwy lleol newydd.

6. Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy newid patrymau gweithio a theithio i adeiladu ar dreialon trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw, gan weithio gydag undebau llafur, awdurdodau lleol a theithwyr, ac yn rhoi pwyslais clir yn ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar leihau’r angen i deithio, gwasgaru’r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfartal drwy’r dydd, a galluogi teithio llesol fel buddsoddiad yn iechyd y cyhoedd.

Yn fwy penodol:

Rydym yn deall na all y rhan fwyaf o bobl weithio gartref ac y bydd llawer ohonom yn parhau i ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith. Yn ogystal â’r cynnydd sylweddol yn ein cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd i’w cynnal yn ystod y cyfnod hwn pan nad oes cymaint o ddefnydd arnynt gan y cyhoedd, byddwn yn ariannu rhaglen a fwriedir i dreialu diwygio gwasanaethau bysiau, gan adeiladu ar y treialon Fflecsi sydd eisoes ar waith ar gyfer gwasanaethau bysiau sy’n ymateb i’r galw.

Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â datblygiad strategaeth ddatgarboneiddio ar gyfer ein system drafnidiaeth a fydd yn ffynhonnell o her wrth inni ddatblygu ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru.

7. Byddwn yn canolbwyntio ar yr economi ‘bob dydd’/sylfaenol ac yn cefnogi twf ac annibyniaeth busnesau sydd â phencadlys yng Nghymru er mwyn meithrin gwydnwch economi Cymru yn wyneb y coronafeirws a diwedd Cyfnod Pontio’r UE.

Yn fwy penodol:

Fel yr esboniwyd uchod, bydd trydydd cam ein Cronfa Cadernid Economaidd yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol busnesau bach a chanolig eu maint, y mae pencadlys y rhan fwyaf ohonynt yn yng Nghymru, drwy gyd-ariannu buddsoddiadau wrth addasu i’r realiti newydd a wynebwn. Rydym hefyd yn rhoi cymorth penodol i’r sectorau twristiaeth a lletygarwch, sydd wedi’u taro mor wael gan y pandemig. Er mwyn cynnal swyddi yng Nghymru, mae’n hanfodol ein bod yn diogelu’r sectorau twristiaeth, lletygarwch a diwylliant yn ein heconomi.

Bydd ein buddsoddiadau ychwanegol sylweddol iawn ar gyfer tai yn rhoi ysgogiad economaidd i’r sector adeiladu, gyda phwyslais cryf ar fusnesau bach a chanolig eu maint, tra bydd ein Rhaglen Tai Arloesol hefyd yn rhoi ysgogiad ar gyfer gweithgynhyrchu sy’n gysylltiedig ag adeiladu drwy ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern.

Byddwn hefyd yn rhoi hwb i’n Rhaglen Band Eang Cyflym Iawn sy’n helpu busnesau Cymru i gynyddu eu presenoldeb digidol, masnachu ar-lein ac arloesedd digidol, sy’n hanfodol o ystyried y cam enfawr sydd wedi’i gymryd tuag at weithio o bell ac yn ddigidol.

8. Byddwn yn cefnogi’r GIG i adennill tir a gollwyd o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws.

Yn fwy penodol:

Byddwn yn cynyddu buddsoddiad yn sylweddol yn ein Rhaglen Gyfalaf Gofal Sylfaenol, gan gyflwyno o leiaf bedwar prosiect mawr, a fydd yn rhoi ysgogiad ychwanegol i’r sector adeiladu ac yn cynnig cyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol integredig llawer gwell i gymunedau lleol. Byddwn hefyd yn comisiynu astudiaeth i ddysgu o brofiad hyd yma ac i lywio camau’r Rhaglen ar gyfer y dyfodol.

Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â’n cynllun adfer endosgopi, gan ddechrau’r gwaith o greu rhwydwaith o ganolfannau endosgopi mewn lleoliadau yng nghanol trefi, a fydd yn ein galluogi i ddechrau dal i fyny ar yr ôl-groniad a grëwyd o ran sgrinio canser o ganlyniad i’r pandemig.

Byddwn hefyd yn hybu darpariaeth cymorth iechyd meddwl drwy’r trydydd sector er mwyn atal problemau rhag gwaethygu i’r pwynt lle mae angen defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Byddwn hefyd yn cynyddu cyllid ar gyfer cymorth adsefydlu preswyl i bobl ddigartref sy’n camddefnyddio sylweddau.

Ar yr un pryd, byddwn yn cyflwyno ein Cynllun Diogelu ar gyfer y Gaeaf er mwyn sicrhau bod gan y system iechyd a gofal cymdeithasol gynlluniau a threfniadau wrth gefn er mwyn:

  • Ymateb i’r galw yn sgil y coronafeirws
  • Parhau i gynyddu gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, a pharhau i ailgyflwyno gwasanaethau rheolaidd pan fo hynny’n ddiogel
  • Paratoi ar gyfer y gaeaf
  • Lleihau anghydraddoldebau iechyd ac effeithiau’r coronafeirws (y 4 niwed)
  • Diogelu a hyrwyddo llesiant y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Ym mhob un o’r wyth flaenoriaeth hyn ac ym mhopeth a wnawn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi’r rhai y mae argyfwng y coronafeirws wedi effeithio waethaf arnynt, gan gynnwys plant a phobl ifanc, menywod, y rhai sydd ag incwm isel ac sydd mewn cyflogaeth ansicr, pobl BAME a phobl anabl.

Byddwn yn gweithredu argymhellion y Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19.

Byddwn yn rhoi cymorth ychwanegol i’n rhaglen Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Byddwn yn cynyddu’r cymorth rydym yn ei roi i deuluoedd troseddwyr benywaidd.

Byddwn yn rhoi hwb i Gronfa Ymateb COVID-19 Sefydliadau Pobl Anabl.

Rhan 4: Newid tymor hwy

Mae’r sgwrs am adfer yr ydym wedi bod yn rhan ohoni gyda’n partneriaid dros y misoedd diwethaf wedi bod yn hynod gynhyrchiol. Mae wedi ein helpu i nodi rhai o’r blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer rhan gyntaf ein gwaith ail-greu. Ond mae ein gwaith dros y misoedd diwethaf hefyd wedi dangos mai dyma’r amser ar gyfer newid gwirioneddol yn y tymor hwy.

Mae’r coronafeirws wedi ein gorfodi ni i gyd i feddwl yn wahanol ac weithiau’n fwy creadigol am yr hyn a wnawn, sut rydym yn ei wneud a sut y gall hynny newid y dyfodol neu ddylanwadu arno. Mae wedi rhoi’r llwyfan inni ddatblygu polisïau mewn ffyrdd mwy newydd a mentrus nag o’r blaen, i groesawu technoleg ac i sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra ar gyfer dinasyddion.

Mae heriau sydd weithiau’n rhy gyfarwydd, ac sydd yn aml wedi bod yn anodd mynd i’r afael â hwy, wedi tyfu’n fwy fyth. Y dasg yw ceisio mynd i’r afael â nhw, gan adeiladu ar awydd y cyhoedd am newid, a’r ffyrdd newydd rydym wedi’u canfod o gydweithio – y llywodraeth, cymunedau ac unigolion, y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Yr angen i fynd i’r afael â chwestiynau am annhegwch rhwng cenedlaethau, adfywio canol ein trefi, y newid i economi gynaliadwy a datgarboneiddio, y cyfle digidol, breuder rhai o’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yn breifat, yr angen brys i ddiogelu ein bioamrywiaeth. Nid yw’r un o’r rhain yn newydd, ond mae maint y materion hyn wedi dod yn fwy amlwg ar lefel ehangach, ac mae awydd y cyhoedd i fynd i’r afael â’r her honno wedi mynd yn ddyfnach, yn sgil ein profiadau yn ystod y misoedd diwethaf.

I’n helpu i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, rydym yn ystyried partneriaeth ariannu ag awdurdodau lleol a allai estyn ein gallu i fuddsoddi gyda’n gilydd ac ysgogi cyflogaeth.

Gan ein bod yn nesáu at ddiwedd y Senedd hon, nid y llywodraeth bresennol yn unig fydd yn mynd i’r afael â’r dasg o ymateb i’r heriau hyn ar gyfer y dyfodol, ond hefyd y llywodraeth a gaiff ei ffurfio yn y Senedd newydd. Ond mae gwaith ar y gweill y byddwn yn parhau i’w wneud am weddill tymor y Senedd hon. Law yn llaw â’r gwaith ail-greu uniongyrchol, felly, byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ymdrin â rhai o’r blaenoriaethau tymor hwy hynny, gan adeiladu ar ein gwaith hyd yma drwy:

  • Wneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus ehangach, cyflogwyr ac undebau llafur a’r trydydd sector i barhau i gynyddu mynediad at swyddi a hyfforddiant.
  • Ystyried ar frys sut i fynd i’r afael â breuder a natur ddarniog y system gofal cymdeithasol a chynyddu’r cymorth ar gyfer darpariaeth ddi-elw.
  • Rhoi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ar waith i ymgorffori’r dull ‘canol trefi yn gyntaf’ ar gyfer lleoli gwasanaethau cyhoeddus, a gosod safonau uchelgeisiol ar gyfer ailddefnyddio gofod manwerthu nad oes digon o ddefnydd arno.
  • Canolbwyntio cymorth busnes lle bynnag y bo modd ar gefnogi datgarboneiddio’r economi a gwaith teg, a bwrw ymlaen â diwygiadau caffael er mwyn datblygu cadwyni cyflenwi lleol.
  • Diwygio trafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddi ynddi yn y tymor hir i gefnogi newid moddol, gan ddatblygu system drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, fforddiadwy ac integredig o ansawdd uchel ledled Cymru a all gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer cenedl wyrddach, decach a mwy llewyrchus.
  • Ystyried goblygiadau’r dadansoddiad o rannu risg gyda gweithredwyr preifat rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer modelau gweithredu yn y dyfodol.
  • Bwrw ymlaen â’r broses o ailstrwythuro addysg bellach ac addysg uwch yn y tymor hwy er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar ddarpariaeth alwedigaethol a chyfleoedd dysgu mwy hyblyg ac i sicrhau cysylltiadau agosach rhwng sefydliadau a’u heconomïau rhanbarthol.
  • Nodi ein huchelgeisiau ar gyfer trawsnewid digidol yn ein strategaeth ddigidol newydd; a sefydlu gwaith y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol newydd ar draws y sector cyhoeddus, i hyrwyddo’r broses o ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gwella gallu ac arweinyddiaeth i gefnogi trawsnewid digidol mewn gwasanaethau.
  • Cynyddu ein cefnogaeth i gynhwysiant a hwyluso digidol i’r rhai a fydd fel arall mewn perygl o gael eu gwthio, neu eu gwthio ymhellach, i gyrion gwasanaethau cyhoeddus.
  • Bwrw ymlaen lle bynnag y bo modd â phrosiectau sy’n ysgogi buddsoddiad mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy.
  • Symud ymlaen ar ddiwygio cyllid ffermio i ganolbwyntio ar fanteision amgylcheddol a gwella mynediad i gefn gwlad a mannau agored.
  • Cryfhau gallu ein cymunedau a’n heconomi i ymdopi ag effaith y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys diogelu rhag llifogydd a mathau eraill o dywydd eithafol.
  • Adfer treftadaeth naturiol Cymru, gan wella cyflwr afonydd, mawndiroedd, coedwigoedd a’r môr.
  • Cryfhau potensial prosiectau ynni adnewyddadwy mawr drwy feithrin gallu a chynlluniau lleol cryfach.
  • Adolygu ein polisi caffael er mwyn sicrhau’r gefnogaeth fwyaf posibl i’r economi sylfaenol a chadwyni cyflenwi Cymru.
  • Diogelu cadernid ein cymunedau a’n rhwydweithiau Cymraeg, gan fwrw ymlaen â’n hymrwymiadau i gynyddu nifer y bobl sy’n dysgu ac yn defnyddio’r iaith yn y dyfodol, gan sicrhau bod ein hymatebion i’r coronafeirws yn ystyried yr ymrwymiadau hyn yn llawn.

Y misoedd i ddod

Nid ydym yn gwybod eto sut yn union y bydd y misoedd yn datblygu o ran trosglwyddiad y feirws, pa ymatebion clinigol newydd a fydd ar gael i fynd i’r afael â’i ledaeniad a’r ystod o gamau y bydd angen i lywodraethau eu cymryd. Rydym hefyd yn wynebu cryn ansicrwydd wrth i ddiwedd cyfnod pontio’r UE ddynesu, sef 31 Rhagfyr. Bydd diwedd y cyfnod pontio yn golygu newid a tharfu ar fusnesau, ni waeth a all y DU a’r UE ddod i gytundeb ai peidio ar ein perthynas fasnachu at y dyfodol. Mae’n bosibl hefyd y bydd effeithiau diwedd y cyfnod pontio i’w teimlo’n arbennig gan gymunedau a chartrefi y mae goblygiadau’r coronafeirws eisoes wedi cael effaith ddofn arnynt. Bydd yr effeithiau ar bawb yn llawer iawn mwy os na fydd cytundeb, ond mae’n amhosibl rhagfynegi’n sicr ar bwy y bydd yr effaith fwyaf.

Ni allwn ragweld yr union gyd-destun ar gyfer y blaenoriaethau rydym wedi’u hamlinellu yma. Prif flaenoriaeth y Llywodraeth hon yng Nghymru bob amser fydd cadw pobl yn ddiogel a gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu bywoliaeth pobl. Ond law yn llaw â’r gwaith hwnnw, mae’r ddogfen hon yn dangos sut y byddwn hefyd yn edrych i’r dyfodol, a’r camau y byddwn yn ceisio’u cymryd fel rhan o’n hymateb cyffredinol i’r coronafeirws.

Yn yr un modd â llawer o’n hymateb hyd yma, y ffordd orau o ddatblygu’r blaenoriaethau hyn yw mewn partneriaeth ag eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yr ydym yn gweithio gyda nhw yn Llywodraeth Cymru. Dim ond gyda chefnogaeth pobl Cymru y gellir eu datblygu – ac rydym yn hyderus y bydd eu hymroddiad i’r dasg o ail-greu gymaint â’u hymrwymiad i fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws ei hun.

© Hawlfraint y Goron 2020
WG41394
ISBN digidol 978-1-80082-287-0

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 184 KB.

Maint Ffeil 184 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.