Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cafodd Beaufort Research eu comisiynu gan Adran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau Llywodraeth Cymru i holi pobl Cymru, i ddeall yn well eu canfyddiadau a’u hagweddau ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle.

Yn ogystal â cheisio gwella ansawdd a lefelau ailgylchu, mae'r newidiadau i’r ddeddfwriaeth yn hanfodol i Gymru allu gwireddu ei hymrwymiadau i fod yn ddiwastraff ac i leihau'n hallyriadau carbon erbyn 2050. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith nifer o gamau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, Mwy Nag Ailgylchu.

Mae cwestiynau am y pwnc hwn wedi’u cynnwys yn nwy ran Ymchwil Omnibws Beaufort gyda’r ddiweddaraf yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd 2023. Cafodd cwestiynau tebyg eu gofyn yn ymchwil Omnibws Beaufort Chwefror-Mawrth 2023 a chafodd crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg hwnnw ei gyhoeddi ar 24 Gorffennaf 2023 [troednodyn 1], gan roi syniad o’r tueddiadau yn agweddau’r sampl ar y pryd. Cafodd y cwestiynau am wahardd defnyddio plastig untro eu dileu am i’r gwaharddiad ddod yn gyfraith ym mis Hydref 2023. Yn yr arolwg hwn, yn Nhachwedd 2023, gofynnwyd cwestiynau ychwanegol ynghylch a oedd atebwyr wedi gweld neu glywed deunydd marchnata neu gyfathrebu am y ddeddfwriaeth i newid trefniadau ailgylchu yn y gweithle. Adeg holi’r cwestiynau, roedd hysbysebion ar y mater ar y teledu a’r radio. 

I gyd-fynd â’r ymchwil gyda’r cyhoedd, mae arolwg yn cael ei gynnal hefyd o agweddau busnesau bach a chanolig (BBaChau). Cafodd cwestiynau eu cynnwys yn Arolwg Omnibws Busnesau Cymru Beaufort yn Hydref 2023 a’u cyhoeddi ar 23 Gorffennaf 2023. 

Methodoleg

Roedd yr arolwg yn seiliedig ar Arolwg Omnibws Busnes Cymru Beaufort sy’n cyfweld mewn dwy ran â sampl cwota o 1,000 o oedolion sy'n adlewyrchu’r boblogaeth o safbwynt eu prif nodweddion demograffig. Cyfwelir â set wahanol o oedolion ymhob rhan, er bod samplau'n cyfateb o ran eu prif nodweddion demograffig. 

Gosodwyd cwotâu rheoli[troednodyn 2] demograffig cyfatebol o ran oed o fewn rhyw. Roedd gradd gymdeithasol[troednodyn 3] yn gwota rheoli arall a holwyd pobl sy’n byw yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru. Yn y cam dadansoddi, pwysolwyd y data yn ôl grŵp oedran, rhyw, grŵp awdurdodau lleol a gradd gymdeithasol. Mae hynny’n sicrhau bod y sampl yn adlewyrchu ffigurau Cyfrifiad 2021 a nodweddion pobl Cymru. 

Gofynnwyd i aelodau’r sampl a oedden nhw’n benderfynwr neu’n berchennog neu’n gyfarwyddwr ar fusnes, elusen neu sefydliad sector cyhoeddus. Drwy hynny, roedd modd gweld faint o’r ymatebwyr oedd yn benderfynwyr mewn sefydliadau y byddai’r rheoliadau’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw. Yn arolwg Tachwedd 2023, dywedodd 123 o ymatebwyr eu bod yn benderfynwyr mewn busnes, elusen neu sefydliad sector cyhoeddus. Roedd hynny ychydig bach yn is na’r nifer oedd yn benderfynwyr yn arolwg Mawrth 2023 (147)

Darparwyd cwestiynau drafft ar gyfer yr arolwg gan Lywodraeth Cymru. Penderfynwyd ar y cwestiynau terfynol ar ôl trafod â Beaufort.

Roedd yr holl gwestiynau’n rhai caeedig. Hynny yw, roedd gofyn i’r atebwyr ddewis eu hateb o blith nifer o atebion posibl. 

Mae cwestiynau demograffig yn cael eu gofyn ym mhob arolwg Omnibws Cymru. Roedd yr arolwg ar gael yn Saesneg ac yn y Gymraeg a gellid ei gwblhau yn yr iaith oedd orau gan y cyfranogwyr.

Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 6 a 26 Tachwedd 2023. Cafodd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau eu cynnal a’u dadansoddi. 

Cafodd tablau data ar sail yr arolwg eu darparu i Lywodraeth Cymru mewn adroddiad technegol ar wahân.

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn defnyddio samplau cwota cyfrannol (yn hytrach na hap samplau) i adlewyrchu prif nodweddion demograffig poblogaeth Cymru. Felly, mae unrhyw ganfyddiadau yn yr arolwg hwn yn adlewyrchu barn y sampl a dylid cymryd gofal wrth drosi unrhyw ganfyddiadau i'r boblogaeth ehangach yng Nghymru. 

Rhaid wrth ofal hefyd wrth ymdrin â gwahaniaethau yn ymatebion dwy ran yr arolwg. Mae’r gwahaniaethau’n adlewyrchu’r gwahaniaethau yn agweddau’r ddwy sampl yn hytrach nag unrhyw newid penodol ar lefel y boblogaeth. Nid yw’r canlyniadau’n adlewyrchu newidiadau penodol yn agweddau’r boblogaeth. Maent yn rhoi syniad yn unig o’r agweddau hynny ac ni ddylid eu dehongli fel eu bod. Rhaid wrth yr un gofal wrth ddehongli gwahaniaethau rhwng y ddau arolwg yn ymatebion penderfynwyr mewn busnesau, elusennau neu sefydliadau sector cyhoeddus.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd y gyfran rhwng y ddau arolwg a oedd yn ymwybodol heb eu porthi o’r newidiadau i’r gyfraith ailgylchu i fusnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau wedi codi i 29% o’r rhai a holwyd ym mis Tachwedd (o’r 12% o’r rhai a holwyd fis Mawrth diwethaf[troednodyn 4]).  Roedd penderfynwyr mewn busnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau a ymatebodd yn fwy tebygol o wybod am y newidiadau i’r gyfraith nag aelodau’r cyhoedd.
  • Pan gawsant eu hysgogi ag esboniad o'r newid yn y gyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle, dywedodd bron hanner y rheini a holwyd ym mis Tachwedd (47%) eu bod wedi clywed am y gyfraith (i fyny o 26% yn yr arolwg ym mis Mawrth).
  • Dywedodd 15% o’r bobl a holwyd ym mis Tachwedd eu bod wedi clywed am y newidiadau i’r ddeddfwriaeth a’r un pryd dywedodd 32% arall a holwyd eu bod wedi clywed amdanyn nhw ond nad oeddent yn siŵr o’r manylion. Dywedodd 51% o’r bobl a holwyd ym mis Tachwedd nad oeddent wedi clywed am y newid i’r gyfraith (i lawr o 73% o ymatebwyr ym mis Mawrth).
  • Roedd y penderfynwyr mewn busnesau, elusennau neu’r sector cyhoeddus a holwyd yn fwy tebygol na’r sampl gyfan o fod yn gwybod am y gyfraith newydd o’u porthi (roedd 75% o’r penderfynwyr a ymatebodd yn gwybod amdano, o’u cymharu â 47% o gyfanswm y sampl a holwyd).
  • Er bod mwy yn sampl mis Tachwedd 2023 yn gwybod amdano nag yn sampl Mawrth 2023, ychydig iawn o wahaniaeth oedd yn yr agweddau at y newid i’r ddeddfwriaeth rhwng y ddau arolwg. Er enghraifft, roedd 75% o’r ymatebwyr o blaid y gyfraith yn arolwg mis Tachwedd sydd bron iawn yn ddigyfnewid ers arolwg mis Mawrth (77%).
  • Yn arolygon mis Mawrth a mis Tachwedd, roedd penderfynwyr mewn busnesau, elusennau neu’r sector cyhoeddus a holwyd yn fwy tebygol o beidio â bob o blaid y gyfraith newydd na’r sampl gyfan. Roedd 13% o benderfynwyr a holwyd ym mis Tachwedd yn erbyn y newid i’r ddeddfwriaeth, o’u cymharu â 6% o’r sampl gyfan. Yn arolwg mis Mawrth, nid oedd 15% o’r penderfynwyr a holwyd o blaid y newid o’u cymharu â 6% o’r sampl gyfan.
  • Roedd 22% o’r rheini a holwyd ym mis Tachwedd yn cofio gweld hysbysebion neu ddeunydd cyfathrebu neu farchnata am y gyfraith newydd, heb eu porthi’n weledol (o’u cymharu â 9% o’r rhai a holwyd ym mis Mawrth 2023). Roedd mwy o benderfynwyr yn arolwg mis Tachwedd yn ymwybodol, heb eu porthi, o’r hysbysebion (40%).
  • Ym mis Tachwedd 2023, roedd 16% o’r rhai a holwyd yn cofio gweld yr ymgyrch cyn iddynt gael eu porthi â detholiad o luniau o’r ymgyrch. Roedd 35% o’r penderfynwyr wedi’u gweld.
  • Ar ôl eu porthi, roedd 22% o’r sampl gyfan ym mis Tachwedd yn cofio gweld yr hysbyseb deledu. Roedd y ffigur ymhlith penderfynwyr yn uwch, gyda 33% yn cofio gweld yr hysbyseb.

Troednodiadau

[1] Agweddau’r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a’r gwaharddiad ar blastigau untro (crynodeb)

[2] Mae cwotâu rheoli yn golygu nifer targed o gyfweliadau ar gyfer pob grŵp demograffig o fewn poblogaeth, er mwyn sicrhau sampl gynrychioliadol ar gyfer yr arolwg.  Mae cwotâu rheoli demograffig cyfatebol yn golygu bod y targed yn cynnwys dau amrywiolyn: grŵp oedran o fewn rhyw.

[3] Mae gradd gymdeithasol yn golygu system gategoreiddio sy’n seiliedig ar alwedigaeth a ddatblygwyd ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o Ddarllenwyr (NRS). Diffinnir y graddau cymdeithasol fel a ganlyn:

  • AB: Galwedigaethau rheoli, gweinyddu a phroffesiynol uwch a chanolraddol
  • C1: Galwedigaethau rheoli, gweinyddu a phroffesiynol goruchwyliol, clercol ac iau 
  • C2: Gweithwyr llaw crefftus
  • DE: Gweithwyr llaw rhannol grefftus a di-grefft, pensiynwyr y wlad, gweithwyr achlysurol a gradd isaf, pobl ddi-waith ar fudd-daliadau’r wlad yn unig.

[4] Agweddau’r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a’r gwaharddiad ar blastigau untro (crynodeb)

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Rhian Power a Hannah Davies

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rhian Power a Hannah Davies
Ebost: resourceefficiencyandcirculareconomy@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 23/2024
ISBN digidol 978-1-83577-819-7

Image
GSR logo