Agweddau’r cyhoedd at y dreth gyngor, 2024: crynodeb
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg cynrychiadol o agweddau’r cyhoedd at y dreth gyngor a gynhaliwyd gan ymchwilwyr cymdeithasol yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS, Llywodraeth Cymru).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg ymchwil
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal rhaglen ymchwil i lywio'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r dreth gyngor er mwyn sicrhau system decach a mwy graddoledig.
Mae ymchwil flaenorol wedi nodi nad yw lefelau ymwybyddiaeth o drethi lleol nac agweddau tuag atynt yn glir ac mai anaml y cânt eu mesur. Am y rheswm hwn, mae'r ymchwil hon wedi cynnwys ystyried dealltwriaeth y cyhoedd o system y dreth gyngor yng Nghymru ac a ydynt yn ei derbyn.
Diben yr ymchwil hon oedd ystyried canfyddiadau'r cyhoedd o degwch y dreth gyngor. Roedd hyn yn cynnwys dyluniad y dreth a sut mae'n cael ei gweinyddu yn ogystal â'r ffordd y caiff ei defnyddio a'i buddsoddi mewn cymunedau. Ceisiodd hefyd ystyried y gydberthynas rhwng y lefel o wybodaeth a dealltwriaeth o'r dreth gyngor a chanfyddiadau o ran ei thegwch a chasglu barn ynghylch a ddylid diwygio'r dreth yn y dyfodol. Roedd cyfres ychwanegol o gwestiynau a gynhwyswyd yn 2023 yn edrych ar y ffordd y mae pobl yn cael gwybodaeth am y dreth gyngor.
Mae Arolwg Omnibws Cymru yn cynnwys cyfweliadau â sampl cwota o 1,000 o oedolion 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru, o leiaf. Mewn gwirionedd, ni ellir sefydlu arwyddocâd ystadegol gwirioneddol, gan ddefnyddio samplu cwota; mae gwahaniaethau ‘arwyddocaol’ yn cyfeirio at ffug wahaniaeth ystadegol arwyddocaol ar y lefel hyder o 95%.
Gwnaed gwaith maes ar gyfer cam mis Mawrth 2024 Arolwg Omnibws Cymru rhwng 26 Chwefror a 17 Mawrth 2024. Cwblhawyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau.
Gwybodaeth ac agweddau tuag at system bresennol y dreth gyngor
Roedd yr ymatebwyr i'r arolwg wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng y rhai a nododd eu bod gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor a'r rhai a nododd nad oeddent yn gwybod fawr ddim amdani.
Nododd tua hanner yr ymatebwyr (43%) eu bod yn gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor, gyda chyfran debyg (44%) yn nodi nad oeddent yn gwybod fawr ddim amdani. Roedd gwahaniaethau nodedig yn ôl oedran, statws gweithio a deiliadaeth tai. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod llawer iawn neu eithaf tipyn am y dreth gyngor yn ddynion, yn 55+ oed, wedi ymddeol neu'n berchenogion eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi nad oeddent yn gwybod fawr ddim am y dreth gyngor, os o gwbl, yn fenywod, yn 16 i 34 oed, yn fyfyrwyr amser llawn, neu'n rhentwyr cymdeithasol neu breifat.
Pan ofynnwyd i ymatebwyr enwi gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, y gwasanaethau mwyaf cyffredin a enwyd oedd ailgylchu neu gasglu gwastraff (50%), yr heddlu (42%) a ffyrdd neu gynnal ffyrdd (31%).
Dangosodd yr arolwg fod y mwyafrif o'r ymatebwyr yn ystyried bod talu'r dreth gyngor yn broses syml, eu bod yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor ac nad oeddent yn ei chael hi'n anodd deall eu bil treth gyngor.
Roedd tua wyth o bob 10 ymatebydd (82%) yn cytuno bod talu'r dreth gyngor yn broses syml. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws gweithio, deiliadaeth a statws anabledd. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod talu'r dreth gyngor yn broses syml yn berchnogion cartrefi neu heb anabledd. Roedd ymatebwyr a oedd yn llai tebygol o gytuno yn 16 a 34 oed, yn ddi-waith neu'n fyfyrwyr.
Roedd tua hanner yr ymatebwyr (52%) yn cytuno eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, incwm a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor rhwng 35 a 54 oed, o aelwydydd un oedolyn neu'n cael disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor.
Roedd oddeutu tri chwarter yr ymatebwyr (71%) yn anghytuno â'r gosodiad eu bod yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, deiliadaeth a statws gweithio. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno nad oeddent yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor yn 16 i 34 oed, yn rhentu'n breifat, neu'n fyfyrwyr llawn amser.
Roedd tua tri o bob pump ymatebydd (58%) yn anghytuno â'r gosodiad bod eu biliau treth gyngor yn anodd i'w deall. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, rhyw, incwm, statws talu'r dreth gyngor, a deiliadaeth eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn berchenogion eiddo neu wedi ymddeol yn fwy tebygol o anghytuno bod eu biliau treth gyngor yn anodd i'w deall.
Cymysg oedd agweddau'r ymatebwyr o ran a yw eu bil treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref.
Roedd bron i ddau o bob pump o ymatebwyr (43%) yn cytuno bod eu bil treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws talu'r dreth gyngor, strwythur yr aelwyd a deiliadaeth eiddo. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno bod eu biliau treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref yn 16 i 34 oed, yn rhentwyr preifat, yn talu'r dreth gyngor yn llawn ac yn byw mewn aelwydydd â dau neu fwy o oedolion a dibynyddion.
Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol neu fod system y dreth gyngor yn deg a nododd oddeutu dau draean nad oedd yn glir iddyn nhw sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario.
Roedd tua dau draean o ymatebwyr (65%) yn anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws gweithio, statws anabledd, deiliadaeth a band y dreth gyngor. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor wedi'i fuddsoddi yn eu cymuned leol yn fenywod, yn 35-54 oed, yn berchnogion eiddo neu'n talu'r dreth gyngor yn llawn.
Roedd mwy na tri o bob pump o'r ymatebwyr (61%) yn anghytuno â'r gosodiad bod system y dreth gyngor yn deg. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, band incwm a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod system y dreth gyngor yn deg yn ddynion, yn 16 i 34 oed, neu'n ennill £75,000+ y flwyddyn. Yr ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno bod y system dreth gyngor yn deg oedd y rhai a oedd yn talu eu treth gyngor yn llawn neu'n rhannol trwy ddisgownt neu ostyngiad.
Roedd tua tri o bob pump o'r holl ymatebwyr (61%) yn cytuno nad oedd yn glir iddynt sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws gweithio, incwm, strwythur aelwydydd, statws talu’r dreth gyngor a graddfa gymdeithasol. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno nad oedd yn glir iddynt sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario yn 55+ oed, wedi ymddeol, neu'n byw mewn aelwyd gyda dau neu fwy o oedolion a dibynyddion.
Cymysg oedd agweddau'r ymatebwyr ynghylch i ba raddau y mae system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu ac a oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros y dreth gyngor.
Roedd tua hanner yr ymatebwyr (46%) yn cytuno bod system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws gweithio, incwm, rhanbarth, graddfa gymdeithasol a statws talu'r dreth gyngor. Roedd yr ymatebwyr a gytunodd fod y system dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu yn tueddu i fod wedi ymddeol neu ddim yn gweithio'n barhaol neu'n byw yn y Cymoedd. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno bod y system dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu yn tueddu i fod rhwng 16 a 34 oed neu'n talu'r dreth gyngor yn llawn.
Roedd yr ymatebion wedi'u rhannu'n weddol gyfartal o ran y gosodiad nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros y dreth gyngor, gyda 41% yn anghytuno â'r gosodiad hwn a 27% yn ateb ‘ddim yn gwybod’. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhyw, oedran, statws gweithio a deiliadaeth eiddo. Roedd yr ymatebwyr sy'n cytuno nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros y dreth gyngor yn tueddu i fod yn 16-34 oed. Roedd ymatebwyr a oedd yn anghytuno nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros y dreth gyngor yn tueddu i fod yn wrywod, wedi ymddeol neu'n berchnogion eiddo.
Nododd y mwyafrif o'r ymatebwyr fod swm y dreth gyngor y mae disgwyl iddynt ei dalu yn rhy uchel. Fodd bynnag, pan roddwyd gwybodaeth iddynt am y gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, nododd cyfran lai fod eu bil treth gyngor yn rhy uchel a nododd cyfran fwy fod eu bil yn agos at ei le neu'n rhy isel yng ngoleuni'r wybodaeth hon.
Nododd tua thri o bob pum ymatebydd (63%) fod eu bil treth gyngor yn rhy uchel. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws gweithio, incwm, rhanbarth, graddfa gymdeithasol, statws talu'r dreth gyngor, strwythur aelwydydd, deiliadaeth a band y dreth gyngor. Yr ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o adrodd bod y dreth gyngor yn ‘rhy uchel’ oedd perchnogion eiddo, y rhai sy'n talu'r dreth gyngor yn llawn, yn byw mewn cartrefi gyda dau neu fwy o oedolion a dibynyddion, yn byw yng ngorllewin de Cymru ac mewn bandiau treth gyngor E, F, G, H neu I. Roedd ymatebwyr a oedd yn llai tebygol o ddweud bod y dreth gyngor yn ‘rhy uchel’ yn tueddu i fod yn 16 i 34 oed, yn ennill llai na £9,999 y flwyddyn neu'n ddi-waith.
Nododd oddeutu chwarter (24%) o ymatebwyr fod swm y dreth gyngor y mae disgwyl iddynt ei dalu yn ‘agos at ei le’. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl incwm, rhanbarth, graddfa gymdeithasol, deiliadaeth eiddo, statws anabledd, strwythur yr aelwyd, statws talu'r dreth gyngor a band y dreth gyngor. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn cytuno bod y dreth gyngor yr oedd disgwyl iddynt ei thalu ‘agos at ei le’ yn tueddu i fod yn rhentwyr preifat, heb anabledd, neu'n ennill mwy na £75,000 y flwyddyn. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno bod eu treth gyngor ‘yn agos at ei le’ yn tueddu i fod ym mandiau treth gyngor E, F, G, H neu I.
Ar ôl cael gwybodaeth am y gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, nododd cyfran lai fod y dreth gyngor y gofynnir iddynt ei thalu yn rhy uchel (54%, o gymharu â 63% cyn i'r wybodaeth gael ei darparu). Nododd cyfran fwy o'r ymatebwyr fod y swm y mae disgwyl iddynt ei dalu yn ‘agos at ei le’ (29%, o gymharu â 24% cyn i'r wybodaeth gael ei darparu).
Roedd cynnydd arwyddocaol yn nifer yr ymatebwyr a nododd fod eu treth gyngor yn ddrud iawn neu'n rhy uchel rhwng 2022 (7%) a 2023 (14%) a 2024 (14%).
Agweddau tuag at newid
Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system drethiant leol wahanol i'w gwneud yn decach. Pan gawsant eu holi am opsiynau eraill, ystyriwyd mai system drethiant leol yn seiliedig ar incwm oedd y system decaf.
Roedd oddeutu hanner yr ymatebwyr (46%) yn cytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system arall, gyda 15% yn anghytuno. Rhoddodd tua dau o bob pum ymatebydd (40%) yr ateb ‘ddim yn gwybod’ i'r cwestiwn hwn. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhyw, oedran, statws gweithio, band incwm, deiliadaeth, statws anabledd, graddfa gymdeithasol, band y dreth gyngor a statws talu'r dreth gyngor. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn cytuno y dylid disodli'r dreth gyngor yn tueddu i fod yn wrywaidd, yn derbyn disgownt neu ostyngiad neu'n byw ym mandiau treth gyngor E, F, G, H ac I. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno y dylid disodli'r dreth gyngor yn tueddu i fod rhwng 16 i 34 oed, heb anabledd, yn fyfyrwyr, yn rhentwyr preifat neu'n ennill mwy na £75,000 y flwyddyn.
Nododd oddeutu dau o bob pump o'r ymatebwyr (41%) mai ‘eich incwm’ oedd y mesur tecaf o system drethiant leol newydd. Nododd oddeutu un o bob 10 ymatebydd (8%) mai ‘gwerth y tir lle y lleolir eich eiddo’ oedd y mesur tecaf. Nododd oddeutu hanner yr holl ymatebwyr (54%) mai system lle mae pawb yn talu'r un swm oedd y mesur lleiaf teg.
Nododd yr ymatebwyr mai sicrhau bod trethi lleol yn glir ac yn hawdd i'w deall ddylai fod y nod pwysicaf ar gyfer system drethiant leol newydd.
Pan ofynnwyd iddynt sgorio cyfres o osodiadau yn ôl eu pwysigrwydd ar raddfa o 1 i 10 (lle roedd 1 yn dynodi ‘ddim yn bwysig o gwbl’ a 10 yn dynodi ‘cwbl hanfodol’) roedd y canlyniadau yn dangos mai nod pwysicaf trethiant lleol yn ôl trigolion oedd y ‘dylai trethi lleol fod yn glir ac yn syml i'w deall’. Rhoddodd yr ymatebwyr sgôr gyfartalog gymedrig o 8.61 ar gyfer pwysigrwydd i'r gosodiad hwn. Cafodd y nod o sicrhau bod biliau treth gyngor yn ‘adlewyrchu'r gallu i dalu’ y sgôr gyfartalog gymedrig isaf ar gyfer pwysigrwydd, sef 7.85.
Nododd tua phedwar o bob 10 ymatebydd (46%) fod y gosodiad y ‘dylai trethi lleol fod yn glir ac yn syml i'w deall’ yn gwbl hanfodol, tra nododd tua thri o bob 10 ymatebydd (33%) fod y gosodiad y ‘dylai biliau treth lleol adlewyrchu'r gallu i dalu’ yn gwbl hanfodol.
Cael gwybodaeth am y dreth gyngor
Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn gallu cael gwybodaeth am eu treth gyngor yn hawdd ac roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi cael yr wybodaeth hon drwy ddefnyddio gwefan awdurdod lleol.
Dywedodd oddeutu dau o bob pump o'r ymatebwyr (42%) eu bod wedi cael gwybodaeth am eu treth gyngor ar wefan cyngor lleol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hyn (78%) o'r farn ei bod yn hawdd cael gafael ar yr wybodaeth hon. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gael gafael ar wybodaeth gan ddefnyddio gwefan cyngor lleol rhwng 34 a 54 oed, o ganolbarth / gorllewin Cymru, o aelwydydd un oedolyn neu'n derbyn disgownt neu ostyngiad yn y dreth gyngor.
Atebodd tua un o bob pump o'r ymatebwyr (18%) eu bod yn defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am eu treth gyngor. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hyn (77%) o'r farn ei bod yn hawdd cael gafael ar y wybodaeth hon. Roedd y rhai a oedd yn fwy tebygol o gael gafael ar wybodaeth gan ddefnyddio gwefan Llywodraeth Cymru rhwng 16 a 34 oed, yn byw mewn cartrefi un oedolyn gyda dibynyddion, neu'n rhentwyr preifat.
Atebodd bron i hanner yr ymatebwyr (43%) nad oeddent yn defnyddio unrhyw un o'r categorïau a restrir i gael gafael ar wybodaeth am eu treth gyngor.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Louisa Smith (Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru)
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Louisa Smith
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: Ymchwil.GwasanaethauCyhoeddus@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 2/2025
ISBN digidol 978-1-83715-120-2
