Neidio i'r prif gynnwy

1. Nodau a methodoleg yr ymchwil

Nod y gwaith ymchwil yma oedd casglu data a fyddai’n cyfleu canfyddiad y cyhoedd o wyddoniaeth, ymchwil wyddonol a thechnoleg yng Nghymru. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau am agweddau at wyddoniaeth a materion gwyddonol, dealltwriaeth o hynny ac ymgysylltiad â hynny.

Mae’n bosibl y bydd yr ymchwil yn cael ei defnyddio i lywio a hybu gwaith ymchwil manylach a phellach. Gallai hefyd arwain y gwaith o ddatblygu polisïau ynghylch materion gwyddonol.

Cafodd y data eu casglu gan dîm Arolwg Omnibws Beaufort ar ran Llywodraeth Cymru. Pwrpas y sampl Omnibws yw bod yn sampl o gwota cynrychioladol sy’n cynnwys y boblogaeth o oedolion 16 oed a hŷn sy’n preswylio yng Nghymru. Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yng nghartrefi’r ymatebwyr, gan ddefnyddio technoleg CAPI (cyfweliadau personol gyda chymorth cyfrifiadur). Gwnaed y gwaith maes rhwng 24 Chwefror a 15 Mawrth 2020. Y gyfradd ymateb a oedd yn cael ei thargedu oedd 1000. Fodd bynnag, dim ond 713 o gyfweliadau gafodd eu cynnal a’u dadansoddi, gan fod y gwaith maes wedi cael ei ohirio ym mis Mawrth 2020 oherwydd y coronafeirws a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a gafodd eu rhoi ar waith.

Mae rhai o'r cwestiynau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn dod o arolygon a gynhaliwyd mewn gwahanol wledydd, er mwyn gallu cymharu ar lefel ryngwladol.

2. Y prif ganfyddiadau

Agweddau at wyddoniaeth   

Yn gyffredinol, roedd agweddau’r cyhoedd at wyddoniaeth a thechnoleg yn gadarnhaol iawn. Yn benodol, roedd mwy nag 8 o bob 10 person a gyfwelwyd yn cytuno bod “diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn hollbwysig er mwyn i Gymru ffynnu yn y dyfodol”, a bod “gwyddoniaeth a thechnoleg yn bwysig i fynd i’r afael â heriau allweddol mewn cymdeithas”. 

Roedd llawer hefyd yn cytuno â datganiadau a oedd yn cysylltu gwyddoniaeth â'r economi. Er enghraifft, “Mae cyflenwad cyson o raddedigion ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn bwysig ar gyfer ffyniant economaidd” (86%), ac “Mae ymchwil wyddonol yn cyfrannu’n uniongyrchol at dwf economaidd” (80%).

Roedd bron i dri chwarter yr ymatebwyr (74%) yn meddwl y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn addysg, arloesedd ac ymchwil wyddonol.

Pwysigrwydd ymddangosiadol gwyddoniaeth

Roedd y mwyafrif helaeth o’r bobl a gyfwelwyd o’r farn bod gwyddoniaeth yn bwysig ym mhob elfen yr holwyd yn ei chylch. Y datganiad yr oedd y nifer mwyaf o bobl yn cytuno ag ef oedd, “Mae gwyddoniaeth yn bwysig er mwyn gwella iechyd pobl” (94%). Y datganiad yr oedd y nifer lleiaf o bobl yn cytuno ag ef oedd, “Mae gwyddoniaeth yn bwysig er mwyn creu swyddi newydd” (82%).

3. Casgliadau

Mae’r arolwg yma’n dangos bod agweddau’r cyhoedd at wyddoniaeth yn gadarnhaol ar y cyfan.

Roedd llawer iawn o bobl yn tueddu i gytuno â datganiadau a oedd yn creu cysylltiad cadarnhaol rhwng gwyddoniaeth a chyflogaeth a’r economi yn y dyfodol. Mae hyn yn awgrymu bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi cyfraniad gwyddoniaeth, technoleg ac ymchwil wyddonol at yr economi.

Roedd bron i un o bob tri (31%) o’r bobl a gyfwelwyd yn teimlo nad oedden nhw’n wybodus iawn am wyddoniaeth. Dylid ystyried hynny wrth i Lywodraeth Cymru gyfleu canfyddiadau gwyddonol a datblygiadau gwyddonol yn y dyfodol.

Roedd tua 8 o bob 10 person yn cytuno y dylai cyngor gwyddonol lywio polisïau a phenderfyniadau’r Llywodraeth. Mae hyn yn awgrymu ei bod yn bwysig i’r rhan fwyaf o’r cyhoedd bod penderfyniadau’r llywodraeth yn seiliedig ar gyngor a thystiolaeth wyddonol. 

Yn gyffredinol, roedd y lefelau cytuno ac anghytuno â chwestiynau’r ymchwil yma – a oedd yr un fath â’r cwestiynau a ofynnwyd yn yr arolygon mewn gwledydd eraill – yn debyg iawn.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Isabella Malet-Lambert a Lucy Campbell

Adroddiad Ymchwil Llawn: Malet-Lambert, I. ac Campbell, L. (2020). Agweddau’r Cyhoedd at Wyddoniaeth yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth 67/2020.

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Isabella Malet-Lambert
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: isabella.malet-lambert@llyw.cymru

Digital ISBN: 978-1-80082-243-6