Nod y gwaith ymchwil hwn oedd i ychwanegu at arolygon blaenorol a gynhaliwyd yn 2018 a 2019 ar agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol, gan gynnwys deddfwriaeth.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol
Mae canfyddiadau'r arolwg hwn yn cael eu cymharu ag ymatebion tonnau blaenorol o arolwg Omnibws Beaufort yn 2018 a 2019. Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i'r ymatebwyr am agweddau tuag at smacio, ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth ynghylch cosbi plant yn gorfforol ac ymwybyddiaeth a barn am newidiadau i ddeddfwriaeth. Gan y gwnaed y gwaith maes yn ystod argyfwng iechyd y cyhoedd COVID-19, fe wnaeth ymatebwyr gwblhau’r arolwg 2020 trwy ddull hunangwblhau ar-lein. Ar gyfer y tonnau blaenorol, defnyddiwyd dull a weinyddwyd gan gyfwelydd wyneb-yn-wyneb yn y cartref. Felly dylid trin unrhyw newidiadau mewn canlyniadau o donnau cyn i'r modd newid a'r don gyfredol â gofal; gallai newid fod yn gyfan gwbl, yn rhannol neu ddim o gwbl oherwydd y newid yn y modd.
Prif ganfyddiadau
- Mae’r farn yn dal i fod yn gymysg ynglŷn â’r gosodiad ‘ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn’ ond roedd y cyhoedd yn fwy tebygol o anghytuno (47%) â’r gosodiad na chytuno ag ef (34%).
- Mae cydbwysedd y farn yn dal i fod yn gysylltiedig ag oedran yr ymatebydd gyda’r rhai dros 55 oed yn llawer mwy tebygol i gytuno ‘ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn’ na’r rhai 16 i 34 oed (47% o’i gymharu ag 20%).
- Ar draws pob un o’r tri arolwg (2018. 2019. 2020) ymddengys fod rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghylch statws presennol deddfwriaeth mewn perthynas â smacio, gyda dim ond lleiafrif yn meddwl bod hyn yn cael ei ganiatáu.
- Mae lefelau ymwybyddiaeth ‘digymell’ o'r newid mewn deddfwriaeth yn 2020 (27%) wedi gostwng ers 2019 (42%) ac maent yn debyg iawn i'r rhai a adroddwyd yn yr arolwg sylfaenol yn 2018 (28%).
- Mae lefelau ymwybyddiaeth ‘gymelledig’ o'r newid mewn deddfwriaeth wedi gostwng yn 2020 ond mae'r lefel yn parhau'n uwch (44%) na'r arolwg sylfaenol yn 2018 (34%).
- Mae cyfran y rhai sydd o blaid diddymu'r amddiffyniad o gosb resymol wedi gostwng ers 2019 (46%) ac mae ar yr un lefel â 2018 (38%). Yn yr un modd, mae'r cyfrannau sydd yn erbyn y newid hefyd wedi gostwng ers 2019 (30%) ac mae'n 25% ar gyfer 2020. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y rhai sy'n teimlo bod angen mwy o wybodaeth arnynt neu sydd heb benderfynu (37% o gymharu â 24% yn 2019).
- Roedd y gyfran uwch o'r cyhoedd nad oeddent wedi penderfynu ar y mater am gael rhagor o wybodaeth am sut y byddai'n gweithio a mwy o eglurder ynghylch diffiniadau a oedd yn rhan o'r ddeddfwriaeth.
Adroddiadau
Agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 3, 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 3 2020 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 70 KB
Cyswllt
Alyson Lewis
Rhif ffôn: 0300 025 8582
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.