Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau o arolygon blaenorol ar agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Mae cymharu canfyddiadau sydd wedi'u marcio â seren (*) yn ystadegol arwyddocaol, hynny yw, maent yn debygol o adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol dros amser neu rhwng grwpiau poblogaeth.

Prif ganfyddiadau

Agweddau tuag at smacio

Yn yr arolwg diweddaraf roedd 29% yn cytuno a 55% yn anghytuno bod angen smacio plentyn weithiau. Mae'r bwlch hwn yn llai nag yn arolwg Tachwedd 2022 (27% yn cytuno, a 58% yn anghytuno) ac arolwg Mawrth 2022, a nododd y lefel uchaf o anghytuno (23% yn cytuno, a 62% yn anghytuno)*. 

Roedd y rhai â chyfrifoldebau gofalu am blant saith oed neu iau yn fwy tebygol o anghytuno bod angen smacio plentyn weithiau (65%), o'i gymharu â'r rhai nad oes ganddynt gyfrifoldebau gofal dros blant saith oed neu iau (52%)*. Mae hyn yn debyg i'r canlyniadau a gafwyd ar achlysuron blaenorol pan gynhaliwyd yr arolwg.

Mae'r farn yn parhau i fod yn gysylltiedig ag oedran gyda'r rhai dros 55 oed yn llawer mwy tebygol o gytuno 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn'*.

Roedd mwy o ddynion yn cytuno â'r datganiad 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn', sef 36%, o'i gymharu â 22% o fenywod yn yr arolwg diweddaraf*. Mae lefelau cytundeb dynion wedi cynyddu o'i gymharu â chanlyniadau Tachwedd 2022 (cytunodd 31%). 

Cytunodd 28% o'r rhai yng ngraddau cymdeithasol ABC1 (galwedigaethau rheolaethol a phroffesiynol i raddau helaeth) a 30% o'r rhai yng ngraddau cymdeithasol C2DE (galwedigaethau llaw yn bennaf), gyda'r datganiad 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn'. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau arolygon blaenorol.

Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol

Roedd 90% o'r ymatebwyr a holwyd ym mis Tachwedd 2023 yn credu'n gywir nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant. Dim ond 6% oedd yn credu bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio ac roedd y 4% oedd yn weddill yn dweud eu bod yn ansicr. Mae'r canfyddiadau hyn yr un fath ag yr adroddwyd ym mis Tachwedd 2022. 

Roedd ymwybyddiaeth ar ei uchaf ymhlith menywod (94% yn erbyn 86% i ddynion) a'r rhai 35+ oed (92% yn hytrach na sgôr o 85% ymhlith pobl 16 i 34 oed). 

Nid oedd gwybodaeth am y gyfraith ar smacio yn amrywio yn ôl graddau cymdeithasol.

Ymwybyddiaeth o newidiadau i ddeddfwriaeth

Mae lefelau ymwybyddiaeth 'ddigymell' o'r newid mewn deddfwriaeth wedi gostwng ychydig. Yn ystod ton ddiweddaraf yr arolwg, nododd dwy ran o dair (66%) o'r bobl a holwyd eu bod yn ymwybodol o newidiadau i'r gyfraith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ddigymell. Mae hyn yn cymharu â thua thri chwarter (73%) a oedd yn ymwybodol ym mis Tachwedd 2022*. Mae'r lefel bresennol yn cyfateb i'r hyn a nodwyd ym mis Mawrth 2022 (66%).

Ar lefel 'ddigymell', roedd gofalwyr plant saith oed neu iau yn fwy tebygol (70%) o fod yn ymwybodol o'r newid na'r rhai heb y cyfrifoldebau hyn (64%). 

Ar lefel 'ddigymell', roedd y rhai rhwng 16 i 34 oed yn llai tebygol (55%) o fod yn ymwybodol o'r newid mewn deddfwriaeth na'r rhai 35 i 54 oed (68%) a'r rhai 55+ oed (70%)*. 

Pan ofynnwyd iddynt sut roeddent yn credu bod y gyfraith wedi newid, soniodd 90% o'r rhai a ddywedodd, heb eu cymell, eu bod yn ymwybodol o newid mewn deddfwriaeth  a bod smacio / cosbi corfforol wedi'i wahardd [yn llwyr] / ei fod yn anghyfreithlon.

Pan ofynnwyd iddynt, roedd gofalwyr plant saith oed neu iau yn fwy tebygol (89%) o fod yn ymwybodol o'r newid na'r rhai heb y cyfrifoldebau hyn (81%)*.

Roedd tua 1 o bob 10 (11%) yn credu y byddai cosb gorfforol '[nad oedd yn gadael] dim marc o gwbl' ar y plentyn yn dal i gael ei ganiatáu. Dim ond cyfrannau bach oedd yn credu y byddai lefelau uwch o gosb gorfforol fel rhywbeth sy'n 'gadael cochni dros dro ar y croen (5%), 'yn gadael clais am ychydig ddyddiau' (2%) neu'n '(gadael) marciau a chleisiau sy'n para am fwy nag ychydig ddyddiau ond nad ydynt yn achosi anaf corfforol parhaol' (3%) yn dal i gael eu caniatáu.

Ym mhob arolwg, y ffynhonnell ymwybyddiaeth fwyaf cyffredin o'r newid yn y gyfraith oedd newyddion neu raglen ar y teledu.

Barn ar newidiadau i'r ddeddfwriaeth

Yn yr arolwg diweddaraf roedd bron i 53% o blaid dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Mae hyn ychydig yn is nag ym mis Tachwedd 2022 (56%) a mis Mawrth 2022 (59%), ond yn uwch na'r canlyniad yn 2020 pryd 38% yn unig oedd o blaid.

Mae'r newid yn y gefnogaeth i'r ddeddfwriaeth dros amser yn bennaf oherwydd gostyngiad yn y gyfran sydd 'eisiau mwy o wybodaeth / yn ansicr o'u barn' yn hytrach nac o ganlyniad i leihad yn y gwrthwynebiad i'r newid, sydd wedi parhau'n weddol gyson.

Roedd y rhai â chyfrifoldebau gofalu am blant saith oed ac iau yn fwy tebygol o fod o blaid y newid arfaethedig (65% o blaid, 19% yn erbyn) o gymharu â'r rhai nad oedd ganddynt y cyfrifoldebau hyn (49% o blaid, 25% yn erbyn)*. 

Yn debyg i donnau blaenorol o'r arolwg, roedd y rhai rhwng 16 a 54 oed yn llawer mwy tebygol o fod o blaid y newid mewn deddfwriaeth yn hytrach nag yn ei erbyn. Ymhlith y rhai 55+ oed roedd barn yn fwy cymysg gyda dwy ran o bump (40%) yn cefnogi'r newid a thua traean (34%) yn ei wrthwynebu*.

Fel yn nhonnau blaenorol yr arolwg, roedd menywod yn llawer mwy tebygol o fod o blaid y newid (59%) nag yn ei erbyn (17%). Er bod mwy o ddynion o blaid y newid nag yn ei erbyn, roedd y bwlch rhwng y ddwy gyfran yn llai (48% o blaid, 30% yn erbyn)*. Mae hyn yn gynnydd ers mis Tachwedd 2022 yng nghanran y dynion sydd o blaid (45%) a gostyngiad bach yn y ganran yn erbyn y newid (31%). 

Pan ofynnwyd pam fod ymatebwyr o blaid y newid, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd 'nad oeddent yn cytuno â smacio na chosbi plant yn gorfforol' (45% o'r rhai a oedd o blaid y newid). Dyma hefyd yr ymateb a welwyd amlaf yn y tonnau blaenorol. 

Er bod y gyfran o blaid y newid wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gyfran sy'n parhau i fod yn erbyn y newid wedi bod yn sefydlog (23% ym mis Tachwedd 2023 o'i gymharu â 25% ym mis Tachwedd 2020) sy'n awgrymu bod grŵp a fydd yn ei chael hi'n anodd i gael eu hargyhoeddi ynghylch y newid.

Roedd tua thraean (35%) o'r rhai yn erbyn y newid o'r farn bod 'angen y sefyllfa bresennol i reoli ymddygiad / disgyblu plentyn / addysgu parch / dangos ffiniau'.

Adroddiadau

Agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 7, Tachwedd 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Bethan Gilson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.