Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau tonnau 2018 i 2022 Arolwg Omnibws Cymru ac yn rhoi dadansoddiad wedi’i ddiweddaru o’r canfyddiadau a gyhoeddwyd yn 2014.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymchwil ar isafswm prisio ar gyfer alcohol
Fel rhan o’r gwaith datblygu ar gyfer y Bil drafft, comisiynodd Llywodraeth Cymru gwestiynau yng nghylch mis Mawrth 2014 o Arolwg Omnibws Cymru a gynhaliwyd gan Beaufort Research Ltd. Diben y gwaith hwnnw oedd cynyddu dealltwriaeth o agweddau’r cyhoedd at alcohol ac isafbris.
Yn dilyn y gwaith hwn ac fel rhan o ddiwallu’r anghenion tystiolaeth ar gyfer gweithredu’r Ddeddf, comisiynodd Llywodraeth Cymru gwestiynau pellach yng nghylch mis Medi 2018 a mis Mawrth 2020 o’r arolwg. Diben hyn oedd deall agweddau’r cyhoedd at alcohol ac ymwybyddiaeth o’r cynlluniau a chyflwyno isafbris am alcohol yn y pen draw.
Ymhellach, rhwng Mehefin 2020 a Mehefin 2022 cynhwyswyd is-set o gwestiynau (amlder yfed, nifer yr unedau a yfwyd ar ddiwrnod arferol o yfed ac amlder goryfed mewn pyliau) mewn pum ton arall o’r arolwg omnibws.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Agweddau___r_cyhoedd_at_isafbris_am_alcohol_yng_Nghymru_ac_ymwybyddiaeth_ohono__2018_i_2022.jpg?itok=zpp3hhlO)
Agweddau’r cyhoedd at isafbris am alcohol yng Nghymru ac ymwybyddiaeth ohono, 2018 i 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Agweddau___r_cyhoedd_at_isafbris_am_alcohol_yng_Nghymru_ac_ymwybyddiaeth_ohono__2018_i_2022__crynodeb_.jpg?itok=k5QDS6kL)
Agweddau’r cyhoedd at isafbris am alcohol yng Nghymru ac ymwybyddiaeth ohono, 2018 i 2022 (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 328 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Agweddau___r_cyhoedd_at_isafbris_am_alcohol_yng_Nghymru_ac_ymwybyddiaeth_ohono__2018_i_2022__atodiad_data_.jpg?itok=c2Jhgfpu)
Agweddau’r cyhoedd at isafbris am alcohol yng Nghymru ac ymwybyddiaeth ohono, 2018 i 2022 (atodiad data) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 986 KB
Cyswllt
Janine Hale
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.