Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil gyda rhieni plant chwech oed ac iau am eu hagweddau at reoli ymddygiad plant bach.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Agweddau rhieni tuag at reoli ymddygiad plant ifanc
Cafodd y gwaith ei wneud yn ystod tymor yr hydref 2017 pryd cynhaliwyd 269 o arolygon ar y ffôn gyda rhieni (neu warcheidwaid) plant bach oedd wedi cymryd rhan cyn hynny yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17. Holwyd rhieni am eu hagweddau at fagu plant a chosb gorfforol. Holwyd rhieni adeg yr aolwg hefyd am sut i ddod o hyd i gyngor ar fagu plant, eu barn am newidiadau deddfwriaethol a’u hymwybyddiaeth ynghylch yr ymgyrch bositf ar fagu plant sef Magu Plant. Rhowch Amser Iddo. Roedd yr arolwg i bob pwrpas yn ailadrodd ymchwil a wnaed cyn hynny yn 2015.