Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau 2018, 2019, 2020 a 2021 ar agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif ganfyddiadau
Agweddau tuag at smacio
- Ym mhob cam roedd mwy o ymatebwyr yn anghytuno â'r datganiad 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn' nag a oedd yn cytuno, gydag ymatebwyr hŷn (55+ oed) yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad na grwpiau oedran eraill.
- Ym mis Mawrth 2022, roedd 62% yn anghytuno a 23% yn cytuno â'r datganiad ‘ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn’. Mae'r gwahaniaeth rhwng y cyfrannau sy'n anghytuno ac yn cytuno wedi ehangu o gymharu ag arolwg 2021 (53% yn anghytuno, 30% yn cytuno).
- Roedd 27% o ddynion yn cytuno â’r datganiad ‘ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn’ o gymharu ag 19% o fenywod. Roedd y ddau ryw yn llai tebygol o gytuno â'r datganiad nag yn 2021 (36% o ddynion a 25% o fenywod).
Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol
- Roedd 84% o'r bobl a holwyd ym mis Mawrth 2022 yn credu nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant, 6 pwynt canran yn fwy nag yn 2021. Roedd 10% yn credu bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio (6 pwynt canran yn llai nag yn 2020) a dywedodd y 6% arall eu bod yn ansicr (union yr un fath ag yn 2021).
Ymwybyddiaeth o’r newidiadau mewn deddfwriaeth
- Roedd lefelau ymwybyddiaeth 'ddigymell' o'r newid mewn deddfwriaeth ym mis Mawrth 2022 (66%) wedi cynyddu ers 2021 (40%).
- Adroddwyd lefelau uwch o ymwybyddiaeth 'ddigymell' ym mhob grŵp oedran ac ym mhob grŵp gradd gymdeithasol ym mis Mawrth 2022 o gymharu â 2021.
- O gael eu harwain, roedd 78% o ymatebwyr yn gwybod rhywbeth am y newid, 16% yn fwy nag yn 2021.
- Newyddion / rhaglenni teledu oedd y ffynhonnell wybodaeth fwyaf cyffredin ar gyfer y newid.
Barn am y newidiadau mewn deddfwriaeth
- Roedd 59% o'r ymatebwyr o blaid y newid, i fyny o 48% yn 2021, y lefel uchaf o gefnogaeth ar draws y pum cam. Roedd 20% o'r ymatebwyr yn erbyn y newid, i lawr fymryn o 24% yn 2021 a'r lefel isaf o wrthwynebiad ar draws y pum cam. Roedd llai o’r ymatebwyr ym mis Mawrth 2022 o'r farn bod angen rhagor o wybodaeth arnynt neu eu bod heb benderfynu (20% o gymharu â 28% yn 2021).
- Roedd pobl 16-34 oed a 35-54 oed yn fwy tebygol o fod o blaid y newid (71% a 62% yn y drefn honno) na'r rhai 55+ oed. Mae hyn yn debyg i 2018, 2019, 2020 a 2021. Fodd bynnag, arolwg mis Mawrth 2022 yw'r arolwg cyntaf yn y gyfres lle'r oedd y rhai 55+ oed yn fwy tebygol o gefnogi'r newid (46%) na'i wrthwynebu (29%).
- Roedd menywod yn fwy tebygol o fod o blaid y newid na dynion (65% o gymharu â 52% yn y drefn honno) ac yn llai tebygol o fod yn erbyn y newid (14% o gymharu â 27% yn y drefn honno).
- Pan ofynnwyd pam yr oedd ymatebwyr o blaid y newid, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd ‘[nad oeddent yn] cytuno â smacio na chosbi plant yn gorfforol' (54% o'r rhai a oedd o blaid y newid).
Adroddiadau

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: cam 5 Mawrth 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Benjamin Lewis
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.