Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau 2018, 2019 a 2020 ar agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Prif ganfyddiadau

Agweddau tuag at smacio

  • Roedd mwy o ymatebwyr (53%) yn anghytuno 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn' nag a oedd yn cytuno (30%), ac roedd mwy o ymatebwyr yn anghytuno nag mewn camau blaenorol.
  • Roedd mwy o fenywod yn anghytuno â'r datganiad na dynion.

Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol

  • Roedd 78% o'r rhai a ymatebodd yn credu nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant, 10% yn fwy nag yn 2020. Roedd 16% yn credu bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant.
  • Roedd y rhai mewn graddau cymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o'r newid na'r rhai mewn graddau cymdeithasol is.

Ymwybyddiaeth o’r newid mewn deddfwriaeth

  • Roedd lefelau ymwybyddiaeth 'ddigymell' o'r newid mewn deddfwriaeth yn 2021 (40%) wedi cynyddu ers 2020 (27%).
  • Heb gael eu harwain, roedd y rhai yng ngraddau cymdeithasol C2DE (36%) yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o'r newid na'r rhai yng ngraddau cymdeithasol ABC1 (44%).
  • Adroddwyd lefelau uwch o ymwybyddiaeth 'ddigymell' o'r newid ym mhob grŵp oedran ac ym mhob grŵp gradd gymdeithasol o gymharu â 2020.
  • O gael eu harwain, dywedodd mwy o ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth nag a wnaeth hynny ar lefel 'ddigymell’. Roedd 62% yn gwybod rhywbeth am y newid, sy'n gynnydd mewn ymwybyddiaeth 'gymelledig' o gymharu ag arolwg 2020 (44%). 
  • O gael eu harwain gyda disgrifiad o'r newid deddfwriaethol roedd y rhai yng ngraddau cymdeithasol ABC1 yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol na'r rhai yng ngraddau cymdeithasol C2DE (66% o gymharu â 60%).
  • Roedd cyfran uwch o bobl 55+ oed yn ymwybodol o'r newid (70%) na'r rhai mewn grwpiau oedran iau.
  • Newyddion / rhaglenni ar y teledu oedd y ffynhonnell wybodaeth fwyaf cyffredin ar gyfer y newid.

Barn am y newid mewn deddfwriaeth

  • Roedd 48% o'r ymatebwyr o blaid y newid, i fyny o 38% yn 2020, a'r lefel uchaf o gefnogaeth a welwyd ar draws y pedwar cam. Roedd 24% o'r ymatebwyr yn erbyn y newid, i lawr o 25% yn 2020 a'r lefel isaf o wrthwynebiad ar draws y pedwar cam.
  • Yn y grwpiau oedran 16 i 34 oed a 35 i 54 oed, roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o fod o blaid y newid (62% a 52% yn y drefn honno) yn hytrach nag yn erbyn y newid (11% a 21% yn y drefn honno). Fodd bynnag, ymhlith y rhai 55+ oed roedd ychydig yn fwy yn gwrthwynebu'r newid (36%) nag a oedd o blaid (34%). 
  • Roedd menywod yn fwy tebygol o fod o blaid y newid na dynion (52% o gymharu â 44% yn y drefn honno).
  • Pan ofynnwyd pam yr oedd ymatebwyr o blaid y newid, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd ‘[nad oeddent yn] cytuno â smacio na chosbi plant yn gorfforol' (42% o'r rhai a oedd o blaid y newid).

Adroddiadau

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: cam 4 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Benjamin Lewis

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.