Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau o arolygon blaenorol ar agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif ganfyddiadau
Agweddau tuag at smacio
- Yn nhon ddiweddaraf yr arolwg, roedd 27% yn cytuno a 58% yn anghytuno â’r datganiad ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn. Mae’r gwahaniaeth yn llai na’r gwahaniaeth a oedd yn bodoli yn arolwg mis Mawrth 2022 (23% yn cytuno, 62% yn anghytuno).
- Mae oedran pobl yn dal i fod yn ffactor wrth edrych ar safbwyntiau. Mae’r rhai sydd dros 55 oed yn llawer mwy tebygol o gytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn*.
- Roedd 25% o’r rhai sydd yng ngraddau cymdeithasol ABC1 (galwedigaethau rheoli a phroffesiynol yn bennaf) a 27% o’r rhai sydd yng ngraddau cymdeithasol C2DE (galwedigaethau corfforol) yn cytuno â’r datganiad ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau arolygon blaenorol.
- Roedd mwy o ddynion yn cytuno â’r datganiad ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn ar 31%, o gymharu â 23% o fenywod yn yr arolwg diweddaraf. Roedd y ddau ryw yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad o gymharu â chanlyniadau Mawrth 2022 (27% o ddynion ac 19% o fenywod)*.
Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol
- Roedd 90% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg ym mis Tachwedd 2022 yn meddwl yn gywir nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio’u plant. Dim ond 6% oedd yn meddwl bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio a dywedodd y 4% sy’n weddill nad oeddent yn siŵr.
Ymwybyddiaeth o newidiadau i’r ddeddfwriaeth
- Yn nhon ddiweddaraf yr arolwg, dywedodd bron i dri chwarter (73%) y bobl a arolygwyd eu bod yn ymwybodol o newidiadau i’r gyfraith yn y flwyddyn ddiwethaf ar lefel ddigymell*. Mae hyn yn cymharu ag oddeutu dwy ran o dair (66%) a oedd yn ymwybodol ym mis Mawrth 2022. Mae hyn yn parhau â thuedd o ymwybyddiaeth gynyddol o newid yn y ddeddfwriaeth ers mis Tachwedd 2020 pan oedd ychydig dros chwarter yn ymwybodol (27%)*.
- Ar lefel ddigymell, roedd y rhai oedd yn gofalu am blant o dan saith oed yn fwy tebygol (76%) o fod yn ymwybodol o’r newid na’r rhai oedd heb y cyfrifoldebau hyn (72%).
- Ar lefel ddigymell, roedd y rhai oedd rhwng 16 a 34 oed yn llai tebygol (52%) o fod yn ymwybodol o’r newid yn y ddeddfwriaeth na’r rhai oedd rhwng 35 a 54 oed (81%) a’r rhai oedd yn 55+ oed (82%).
- O’u cymell â disgrifiad o’r newid deddfwriaethol, dywedodd mwy o ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth nag a wnaeth ar lefel ddigymell. Roedd cyfanswm o 85% yn gwybod rhywbeth am y newid, sy’n gynnydd yn yr ymwybyddiaeth ar ôl eu cymell, o gymharu ag arolwg Mawrth 2022, pan oedd 78% yn gwybod rhywbeth am y newid*.
- O’u cymell, roedd y rhai oedd yn gofalu am blant o dan saith oed yn fwy tebygol (91%) o fod yn ymwybodol o’r newid na’r rhai oedd heb y cyfrifoldebau hyn (84%). Mae hyn yn gynnydd o 6% yn ymwybyddiaeth gofalwyr ac o 9% yn ymwybyddiaeth y rhai nad oeddent yn ofalwyr ers Mawrth 2022.
- O’u cymell â disgrifiad o’r newid deddfwriaethol, roedd y rhai a oedd rhwng 16 a 34 oed yn fwy ymwybodol (74%) na’r rhai na chawsant eu cymell, ond roeddent yn dal i fod yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o gymharu â’r rhai oedd rhwng 35 a 54 oed (92%) a’r rhai oedd yn 55+ oed (88%).
- Ym mhob arolwg, y newyddion/rhaglen deledu a nodwyd amlaf fel ffynhonnell y wybodaeth am y newid yn y gyfraith.
Barn am y newidiadau i’r ddeddfwriaeth
- Yn yr arolwg diweddaraf roedd bron i 56% o blaid ddiddymu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn ychydig yn is nag ym mis Mawrth 2022 (59%).
- Er bod y farn wedi aros yn gymharol ddigyfnewid ers mis Mawrth 2022, yn y cyfnod cyn hyn gwelwyd cynnydd mewn cefnogaeth i’r newid o 38% yn 2020 i 58% ym mis Mawrth 2022.
- Mae’r newid yn y gefnogaeth i’r ddeddfwriaeth dros amser i’w briodoli’n bennaf i leihad yn y cyfrannau a ddywedodd fod ‘angen rhagor o wybodaeth’ arnynt neu eu bod ‘ddim yn siŵr’ o’u barn, yn hytrach na gostyngiad yn y gwrthwynebiad i’r newid.
- Roedd menywod yn llawer mwy tebygol o fod o blaid y newid (66%) nag yn ei erbyn (14%). Er bod mwy o ddynion o blaid y newid nag oedd yn ei erbyn, roedd y bwlch rhwng y ddwy gyfran yn gulach (45% o blaid, 31% yn erbyn). Mae hyn yn ostyngiad ers Mawrth 2022 yng nghyfran y dynion a oedd o blaid newid (52%), ac yn gynnydd yn y gyfran a oedd yn erbyn newid (27%).
- Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr pam eu bod o blaid y newid, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd eu bod ‘ddim yn cytuno â smacio neu gosbi plant yn gorfforol’ (54% o’r rhai a oedd o blaid y newid). Hwn oedd yr ymateb mwyaf mynych yn arolygon 2018, 2019, 2020, 2021 a Mawrth 2022 hefyd (40%, 38%, 38%, 42% a 54%).
Adroddiadau

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 6, Tachwedd 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Rhys Fletcher
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.