Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynodd Adran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau Llywodraeth Cymru Beaufort Research i gynnal arolwg o boblogaeth Cymru, i ddeall yn well ganfyddiadau ac agweddau’r cyhoedd ynghylch y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig i ailgylchu yn y gweithle

Yn ogystal â gwella ansawdd a lefelau ailgylchu, mae'r newidiadau deddfwriaethol yn hanfodol hefyd i Gymru allu gwireddu ei hymrwymiadau i fod yn ddiwastraff ac i leihau'n hallyriadau carbon erbyn 2050. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith nifer o gamau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, Mwy Nag Ailgylchu.

Dyma'r trydydd arolwg a gynhaliwyd gan Beaufort Research, a chynhwyswyd yr holl gwestiynau ar y pwnc yn y ddau arolwg blaenorol. Cynhaliwyd y diweddaraf ym mis Tachwedd 2023 a chyhoeddwyd crynodeb o'r canfyddiadau ar 25 Mawrth 2024 [troednodyn 1], gan roi syniad o dueddiadau o ran agweddau'r sampl ar yr adeg honno. Yn arolwg mis Tachwedd, ychwanegwyd cwestiynau ynghylch a oedd ymatebwyr wedi clywed neu weld deunydd marchnata neu gyfathrebu am y newid yn y ddeddfwriaeth o safbwynt ailgylchu yn y gweithle. Cafodd y cwestiynau hyn eu cynnwys yn yr arolwg hwn hefyd.  Adeg yr arolwg hwn, roedd hysbysebion yn fyw ar y teledu a'r radio. 

Mae'r ymchwil hwn gyda'r cyhoedd yn cael ei hategu gan ymchwil gyda busnesau bach a chanolig eu maint. Cafodd cwestiynau eu cynnwys yn Arolwg Omnibws Busnes Cymru Beaufort ym mis Hydref 2023 a'u cyhoeddi ar 25 Mawrth 2024.

Methodoleg

Roedd yr arolwg yn seiliedig ar arolwg Omnibws Cymru Beaufort sy’n cyfweld â sampl cwota o 1,000 o oedolion ar draws Cymru ym mhob cam ac sy’n adlewyrchu’r boblogaeth o ran nodweddion demograffig allweddol. Cynhelir cyfweliad â set wahanol o oedolion yn ystod pob cam, er bod samplau'n cael eu paru o ran nodweddion demograffig allweddol.

Roedd yr arolwg yn gorfod parchu rheolaethau [troednodyn 2] cwota demograffig oedd yn cyd-gloi sef grŵp oedran o fewn rhywedd. Pennwyd rheolaeth cwota ar wahân arall ar radd [troednodyn 3] gymdeithasol a chynhaliwyd cyfweliadau â thrigolion ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Ar y cam dadansoddi, cafodd y data eu pwysoli yn ôl grŵp oedran, rhyw, grŵp awdurdodau lleol a gradd gymdeithasol. Mae hyn yn sicrhau bod y sampl yn adlewyrchu ffigurau Cyfrifiad 2021 a nodweddion poblogaeth Cymru.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hefyd a oeddent yn berchennog, yn gyfarwyddwr neu'n uwch aelod o staff sy’n gwneud penderfyniadau o fewn busnes, elusen neu sefydliad yn y sector cyhoeddus. Roedd hyn yn caniatáu i ymatebion gael eu dadansoddi yn ôl p’un ai oedd yr ymatebwyr yn gwneud penderfyniadau mewn sefydliad y bydd y rheoliadau, pan gânt eu cyflwyno, yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Yn arolwg Tachwedd 2023, nododd 123 o ymatebwyr eu bod yn gwneud penderfyniadau mewn busnes, elusen neu sefydliad sector cyhoeddus. Mae hyn ychydig yn llai na nifer yr ymatebwyr sy'n gwneud penderfyniadau yn arolwg Mawrth 2023 sef 147 o benderfynwyr. Yn arolwg Tachwedd 2024, nododd 114 o ymatebwyr eu bod yn gwneud penderfyniadau mewn busnes, elusen neu sefydliad sector cyhoeddus. Dylai'r canfyddiadau sy'n gysylltiedig â'r is-sampl hwn gael eu trin â gofal oherwydd maint bach y sampl.

Cafodd cwestiynau drafft ar gyfer yr arolwg eu darparu gan Lywodraeth Cymru Cafodd y rhain eu cwblhau yn dilyn trafodaethau gyda Beaufort.

Roedd yr holl gwestiynau a ofynnwyd yn gwestiynau caeedig, hynny yw, rhoddwyd opsiynau ymateb i'r cyfranogwyr ddewis ohonynt. 

Mae cwestiynau am ddemograffeg hefyd yn rhan safonol o Arolwg Omnibws Cymru. Roedd yr arolwg ar gael yn Saesneg ac yn y Gymraeg a gellid ei gwblhau yn yr iaith oedd orau gan y cyfranogwyr.

Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 26 Chwefror a 17 Mawrth 2024. 

Rhoddwyd tablau data llawn o'r arolwg i Lywodraeth Cymru mewn adroddiad technegol ar wahân. 

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn defnyddio dull samplu cwota cyfrannol (nid samplu ar hap) i adlewyrchu demograffeg allweddol o fewn poblogaeth Cymru. Felly, mae unrhyw ganfyddiadau yn yr arolwg hwn yn adlewyrchu barn y sampl a dylid cymryd gofal wrth drosi unrhyw ganfyddiadau i'r boblogaeth ehangach yng Nghymru. 

Hefyd, dylid trin unrhyw newidiadau mewn ymatebion rhwng camau'r arolwg yn ofalus hefyd. Mae'r newidiadau yn adlewyrchu'r gwahaniaeth mewn agweddau rhwng y ddwy sampl yn hytrach nag unrhyw newid pendant ar lefel y boblogaeth. Nid yw'r canlyniadau yn ddiffiniol o ran newidiadau mewn agweddau ar lefel y boblogaeth ond maent yn ddangosol yn unig a dylid eu dehongli felly. Dylid cymryd yr un gofal wrth ddehongli'r gymhariaeth rhwng tonnau o ymatebion gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn busnes, elusen neu sefydliad sector cyhoeddus.

Prif ganfyddiadau

  • Mae ymwybyddiaeth ddigymell o unrhyw newidiadau i'r gyfraith ynghylch ailgylchu i fusnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau rhwng tonnau arolwg wedi codi i 43% o'r rhai a holwyd ym mis Mawrth 2024 (o 29% ym mis Tachwedd a 12% ym mis Mawrth 2023 [troednodyn 4]). Roedd ymatebwyr sy'n gwneud penderfyniadau mewn busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau'n fwy tebygol o fod yn ymwybodol o newidiadau i'r gyfraith na'r sampl cyffredinol.
  • Ar ôl cael disgrifiad o'r ddeddfwriaeth ailgylchu newydd yn y gweithle, roedd bron i hanner y rhai a holwyd ym mis Mawrth (78%) wedi clywed am y gyfraith.
  • Pan roddwyd disgrifiad o'r ddeddfwriaeth newydd ar gyfer ailgylchu yn y gweithle:
    • Roedd 61% o'r rhai a holwyd wedi clywed am y gyfraith (i fyny o 47% o'r rhai a holwyd ym mis Tachwedd 2023 a 26% o'r rhai a holwyd ym mis Mawrth 2023). 
    • Dywedodd 18% o'r rhai a holwyd eu bod wedi clywed am y ddeddfwriaeth ac yn gwybod cryn dipyn amdani, tra dywedodd 43% eu bod wedi clywed amdani ond nad oeddent yn siŵr o'r manylion. 
    • Nid oedd 38% o'r rhai a holwyd ym mis Mawrth 2024 wedi clywed am y gyfraith newydd (i lawr o 51% ym mis Tachwedd 2023 a 73% ym mis Mawrth 2023).
  • Er bod ymwybyddiaeth wedi cynyddu'n sylweddol rhwng samplau ers mis Mawrth 2023, mae agweddau wedi parhau i fod yn gefnogol ar draws samplau a arolygwyd.
    • Er enghraifft, roedd 72% o'r ymatebwyr a holwyd o blaid y gyfraith ym mis Mawrth 2024, o'i gymharu â 75% ym mis Tachwedd 2023 a 77% ym mis Mawrth 2023. 
    • Roedd cyfran y rhai a holwyd a oedd yn erbyn y newidiadau yn parhau'n debyg ar draws samplau yr arolwg. Roedd 7% o'r ymatebwyr a holwyd yn erbyn y newidiadau ym mis Mawrth 2024, a 6% ym mis Tachwedd 2023 a 5% ym mis Mawrth 2023.
  • Er ei fod dal yn lleiafrif bach, roedd cyfran y rhai a nododd eu bod yn gwneud penderfyniadau mewn busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau nad oeddent yn cefnogi'r gyfraith newydd yn uwch na chyfran y cyhoedd a oedd yn ei herbyn (sef 14% o'i gymharu â 7%).
  • Roedd 32% o'r rhai a holwyd wedi gweld hysbysebion, deunydd cyfathrebu neu farchnata am y gyfraith newydd (i fyny o 22% ym mis Tachwedd 2023 a 9% ym mis Mawrth 2023).
  • Roedd ymwybyddiaeth o hysbysebu ddigymell yn uwch ymhlith yr ymatebwyr a nododd eu bod yn gwneud penderfyniadau mewn busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau (cofnodwyd 50%).
  • Roedd 24% o'r rhai a holwyd wedi cofio gweld yr ymgyrch o'r blaen pan gawsant eu hysgogi gyda detholiad o ddelweddau ymgyrchu (i fyny o 16% ym mis Tachwedd 2023), gan godi i 34% o'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
  • Roedd 36% o'r ymatebwyr a holwyd yn cofio gweld yr hysbyseb teledu pan ofynnwyd iddynt (i fyny o 22% ym mis Tachwedd 2023).

Troednodiadau

[1] Agweddau'r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a'r gwaharddiad ar blastigau untro (crynodeb)

[2] Rheolaethau cwota yw niferoedd targed o gyfweliadau ar gyfer grwpiau demograffig penodol o fewn y boblogaeth, er mwyn helpu i sicrhau sampl gynrychioliadol ar gyfer yr arolwg. Mae rheolaethau cwota demograffig sy'n cyd-gloi yn golygu bod y targed yn cynnwys dau newidyn: grŵp oedran o fewn rhywedd.

[3]Mae gradd gymdeithasol yn system ddosbarthu sy'n seiliedig ar alwedigaeth a ddatblygwyd i'w defnyddio ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o Ddarllenwyr (NRS). Diffinnir graddau cymdeithasol fel a ganlyn:

  • AB: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolig
  • C1: Galwedigaethau goruchwylio, clerigol a rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is 
  • C2: Gweithwyr llaw medrus
  • DE: Gweithwyr llaw lled-fedrus a heb sgiliau, pensiynwyr y wladwriaeth, gweithwyr dros dro a gradd isaf, pobl ddi-waith sy’n derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth yn unig.

[4Agweddau'r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a'r gwaharddiad ar blastigau untro (crynodeb)

Manylion cyswllt

Awduron: Rhian Power ac Hannah Davies

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rhian Power ac Hannah Davies
Ebost: effeithlonrwyddadnoddauaceconomigylchol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 59/2024
ISBN digidol 978-1-83625-409-6

Image
GSR logo