Gwnaeth yr ymchwil hon arolwg o sampl o boblogaeth Cymru i ddeall canfyddiadau ac agweddau'r cyhoedd yn well at y newidiadau mewn deddfwriaeth.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Agweddau’r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a’r gwaharddiad ar blastigau untro
Fel rhan o’r ymchwil hon, arolygwyd sampl o boblogaeth Cymru ym mis Mawrth 2024 i ddeall yn well ganfyddiadau ac agweddau’r cyhoedd at y newidiadau mewn deddfwriaeth.
Mae ymwybyddiaeth ddigymell o unrhyw newidiadau i'r gyfraith ynghylch ailgylchu i fusnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau rhwng tonnau arolwg wedi codi i 43% o'r rhai a holwyd ym mis Mawrth 2024 (o 29% ym mis Tachwedd a 12% ym mis Mawrth 2023 [troednodyn 1]). Roedd ymatebwyr sy'n gwneud penderfyniadau mewn busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau'n fwy tebygol o fod yn ymwybodol o newidiadau i'r gyfraith na'r sampl cyffredinol.
Troednodiadau
[1] Agweddau'r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a'r gwaharddiad ar blastigau untro (crynodeb)
Adroddiadau
Cyswllt
Rhian Power ac Hannah Davies
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.