Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dewiswyd busnesau drwy nodi'r rheini a oedd yn berchen ar linell ffôn fusnes. Nod yr arolwg oedd deall yn well ganfyddiadau ac agweddau busnesau ynghylch y newidiadau i'r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle.

Cafodd Beaufort Research eu comisiynu gan Adran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg o fusnesau Cymru, i ddeall yn well ganfyddiadau ac agweddau ynghylch y newidiadau a gynigir i'r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle

Yn ogystal â gwella ansawdd a lefelau ailgylchu, mae'r newidiadau'n hanfodol hefyd i Gymru allu gwireddu ei hymrwymiadau i fod yn ddiwastraff ac i leihau'n hallyriadau carbon erbyn 2050. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith nifer o gamau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, Mwy Nag Ailgylchu

Yn ogystal â'r arolwg busnes hwn, cynhaliwyd cyfres o arolygon ar wahân hefyd. Cynhaliwyd arolygon [troednodyn 1] busnes ym mis Ebrill 2023 a mis Hydref 2023. Nid yw'r canfyddiadau o fis Ebrill 2023 wedi'u cyhoeddi eto a chyhoeddwyd canfyddiadau Hydref 2023 ym mis Mawrth 2024. Cynhaliwyd arolygon cyhoeddus ar: Chwefror 2023, Tachwedd 2023 a Mawrth 2024.  Bydd canfyddiadau arolwg busnes Chwefror 2024 yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â chanfyddiadau arolwg cyhoeddus Mawrth 2024.

Methodoleg

Roedd yr arolwg yn seiliedig ar Arolwg Omnibws Busnes Cymru Beaufort sy’n cyfweld fesul carfan â sampl cwota o 500 o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn busnesau bach a chanolig ledled Cymru, ac sy’n adlewyrchu busnesau bach a chanolig Cymru o ran nodweddion demograffig allweddol. Cyfwelir â set wahanol o fusnesau fesul carfan, er bod samplau'n cyfateb o ran eu nodweddion busnes allweddol. 

Gosodwyd cwotâu a oedd yn cyfateb o ran gweithgareddau a maint busnesau o fewn rhanbarth, yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan Market Location, darparwr data busnes ac atebion marchnata. Rhannwyd gweithgareddau busnesau yn y grwpiau canlynol gan ddefnyddio Dosbarthiad Diwydiannol Safon y DU (2007):

  • Cyfanwerthu a Manwerthu
  • Gwestai, bwytai a gwasanaethau eraill
  • Amaethyddiaeth, pysgota, mwyngloddio a chyfleustodau
  • Gweithgynhyrchu
  • Adeiladu, trafnidiaeth/cyfathrebu
  • Cyllid, Eiddo tiriog/gweithgareddau busnes

Mae maint yn adlewyrchu nifer y gweithwyr ac fe'i rhannwyd yn y categorïau canlynol: 1; 2 i 9; 10 i 250 o weithwyr.

Dewiswyd sampl o fusnesau ar hap gan Market Location a chysylltwyd â busnesau o fewn pob grŵp gweithgareddau a rhanbarth a chynhaliwyd cyfweliadau ar hap â hwy nes i dargedau'r cwota gael eu bodloni.

Diffiniwyd ymatebwyr cymwys fel rheolwr, perchennog, rheolwr-gyfarwyddwr neu uwch-reolwr arall a oedd yn bresennol adeg y cyfweliad. 

Cafodd cwestiynau drafft ar gyfer yr arolwg eu darparu gan Lywodraeth Cymru Cafodd y rhain eu cwblhau yn dilyn trafodaethau gyda Beaufort.

Gofynnwyd cwestiynau agored a chaeedig. Rhoddwyd opsiynau i'r cyfranogwyr i ddewis ohonynt pan ofynnwyd cwestiwn caeedig. Yn y cam dadansoddi, cafodd atebion i gwestiynau agored eu categoreiddio â llaw yn godau penodol er mwyn gallu mesur nifer yr atebion. Cynhaliwyd dull anwythol o gynhyrchu codau oedd yn golygu adolygu atebion penagored a chynhyrchu fframiau codau yn seiliedig ar gynnwys yr atebion. Am ei bod yn bosibl rhoi nifer o godau i ateb gan un ymatebwr, bydd canran yr atebion yn erbyn pob cod yn gwneud cyfanswm o fwy na 100%.

Roedd yr arolwg ar gael yn Saesneg ac yn y Gymraeg a gellid ei gwblhau yn yr iaith oedd orau gan y cyfranogwyr.

Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 5 a 25 Chwefror 2024. Cwblhawyd a dadansoddwyd cyfanswm o 503 o gyfweliadau dros y ffôn. Nid oedd y ddeddfwriaeth wedi'i chyflwyno adeg yr arolwg ac mae canfyddiadau a geiriad cwestiynau'r arolwg yn adlewyrchu hyn. Ar adeg adrodd, mae'r ddeddfwriaeth wedi'i chyflwyno (6 Ebrill 2024).

Rhoddwyd tablau data llawn o'r arolwg i Lywodraeth Cymru mewn adroddiad technegol ar wahân. 

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn defnyddio samplu cwota lleoliad cyfrannol Market Location (nid samplu ar hap) i adlewyrchu busnesau bach a chanolig Cymru. Felly, mae unrhyw ganfyddiadau yn yr arolwg hwn yn adlewyrchu barn y sampl a dylid cymryd gofal wrth drosi unrhyw ganfyddiadau i'r corff ehangach o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. 

Hefyd, dylid trin unrhyw newidiadau mewn ymatebion rhwng camau'r arolwg yn ofalus hefyd. Mae'r newidiadau yn adlewyrchu'r gwahaniaeth mewn agweddau rhwng y ddwy sampl yn hytrach nag unrhyw newid pendant ar lefel y boblogaeth. Nid yw'r canlyniadau yn ddiffiniol o ran newidiadau mewn agweddau ar lefel y boblogaeth ond maent yn ddangosol yn unig a dylid eu dehongli felly.

Prif ganfyddiadau

  • Mae ymwybyddiaeth ddigymell o unrhyw newidiadau i'r gyfraith ymhlith y BBaChau hynny a holwyd wedi cynyddu i 76% yn yr arolwg hwn. Yn y don Hydref 2023, roedd 42% o fusnesau bach a chanolig a holwyd yn ymwybodol o'r newidiadau.
  • Pan roddwyd esboniad o'r newid yn y gyfraith, mae 80% o BBaChau a holwyd bellach wedi clywed am y gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd (i fyny o 17% a holwyd ym mis Ebrill 2023 a 47% a arolygwyd ym mis Hydref 2023). Nododd 48% o'r BBaChau a holwyd eu bod yn 'gwybod cryn dipyn amdani'.
  • Dywedodd 75% o'r BBaChau a arolygwyd eu bod yn cefnogi'r gyfraith (cofnodwyd 79% ym mis Hydref 2023). Roedd 14% o'r BBaChau a holwyd yn erbyn y newid yn y gyfraith yn yr arolwg hwn.
  • Dywedodd 80% o'r BBaChau a arolygwyd eu bod wedi'u paratoi naill ai'n 'iawn' neu'n 'deg' sy'n gynnydd ar y rhai a gofnodwyd ym mis Hydref 2023 (66%). Nid oedd 38% o'r BBaChau a arolygwyd yn teimlo eu bod wedi cael gwybod am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i baratoi, ond mae hyn yn llai na mis Hydref 2023 (49%).
  • Nododd 26% o BBaChau a holwyd eu bod wedi gwneud ychydig o leiaf i ymchwilio i sut y gallai'r newid newydd yn y gyfraith effeithio arnynt.
  • Roedd 53% o'r BBaChau a arolygwyd yn cofio gweld neu glywed yr ymgyrch am y gyfraith newydd, sy'n gynnydd o 28% ym mis Hydref 2023.
  • Pan ofynnwyd iddynt am brif neges unrhyw gyfathrebiadau a welsant, y themâu mwyaf cyffredin a nodwyd oedd  yr angen i fusnesau ailgylchu (33% o'r BBaChau a holwyd), neu fod gofyniad cyfreithlon newydd yn yr arfaeth (24% o'r BBaChau a holwyd).
  • Ar ôl gwrando ar glip o'r hysbyseb radio, gallai 28% o'r BBaChau a arolygwyd gofio clywed yr hysbyseb, sy'n gynnydd o 16% ym mis Hydref 2023.
  • I'r rhai a oedd yn cofio clywed yr hysbyseb, rhoddwyd rhestr o gamau gweithredu a gofyn a oeddent wedi cymryd unrhyw un ohonynt ar ôl clywed yr hysbyseb. Dywedodd 41% o fusnesau bach a chanolig a oedd wedi clywed neu weld yr ymgyrch eu bod wedi gweithredu oherwydd gweld neu glywed yr ymgyrch. O'r 290 o fusnesau bach a chanolig a nododd eu bod wedi clywed neu weld yr ymgyrch:
    • Cysylltodd 18%o'r BBaChau a holwyd â chludwr gwastraff preifat.
    • Aeth 17% o BBaChau a holwyd ar wefan Llywodraeth Cymru.
    • Cysylltodd 9% o'r BBaChau a holwyd â'u hawdurdod lleol.
  • Mae 70% o'r BBaChau a holwyd yn nodi eu bod eisoes yn ailgylchu popeth y gallant, - cynnydd ers yr arolwg gwreiddiol a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2023 (62%), a'r arolwg dilynol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023 (65%).

Troednodiadau

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Rhian Power ac Hannah Davies

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rhian Power ac Hannah Davies
Ebost: effeithlonrwyddadnoddauaceconomigylchol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 60/2024
ISBN digidol 978-1-83625-411-9

GSR logo