Mae ysgol Anghenion Addysgol Ychwanegol newydd, sydd werth £13m ac sydd â lle ar gyfer 100 o ddisgyblion, wedi’i hagor yn swyddogol gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Bydd Ysgol Hafod Lon, ym Mhenrhyndeudraeth, yn amgylchedd dysgu modern ar gyfer disgyblion yn Nwyfor Meirionydd sydd ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol.
Mae gan yr ysgol newydd gyfleusterau modern iawn:
- pwll hydrotherapi
- ystafelloedd synhwyro
- ystafell therapi adlam
- amgylchedd synhwyro allanol
- lle i chwarae ym mhob tywydd
Dyrannwyd y cyllid fel rhan o’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif - rhaglen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol sydd â’r nod o greu ysgolion sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Dyfarnwyd £6.5 miliwn i Gyngor Sir Gwynedd tuag at gyfanswm cost y prosiect, sef £13m miliwn.
Gan siarad yn ystod ymweliad â’r ysgol, dywedodd Alun Davies:
“Mae’n anrhydedd cael gweld a’m llygaid fy hun pa mor wych yw’r amgylchedd dysgu sydd wedi’i greu yma, a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i ddisgyblion a staff. Dw i’n siŵr y bydd yr amgylchedd hwn, ynghyd ag ymrwymiad y staff, yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion gyflawni eu potensial.
“Dw i’n falch iawn fod ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif wedi helpu i greu’r ysgol hon - y rhaglen hon yw’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 60au. Caiff £1.4 biliwn ei fuddsoddi dros y bum mlynedd gyntaf.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o greu’r ysgol wych hon, a diolch iddynt. Mae hynny’n cynnwys rheolwyr y prosiect, y tîm dylunio a’r tîm adeiladu, Cyngor Sir Gwynedd, cwmni Wynne Construction, a phawb yn yr ysgol ei hun.”