Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Ken Skates Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu sylw at lwyddiannau a phroblemau'r sector modurol yng Nghymru yn ystod ei brif araith yn nigwyddiad Autolink eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi'i drefnu gan Fforwm Modurol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, dyma'r prif ddigwyddiad i fusnesau yng Nghymru.

Wedi'i gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Autolink 2018 yn dod â chynadleddwyr ledled y sector at ei gilydd.

Yn ei araith, bydd Ken Skates yn datgan:

"Y dyddiau yma, prin y mae'r sector modurol allan o'r newyddion

"Rydyn ni'n gweld ein hunain yn trafod nifer o bynciau, o effaith Brexit, na allwn ei ragweld, a'r effaith cysylltiedig ar fuddsoddi a gwerthu ceir, i'r angen i wella problemau tanwydd sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr aer, megis y drafodaeth dros ddyfodol yr injan diesel, defnyddio cyfyngiadau yng nghanol dinasoedd a'r defnydd o gerbydau sy'n defnyddio tanwydd amgen. Heb sôn am ofyn inni ystyried datblygu cerbydau awtonomaidd a goblygiadau hyn o ran bod yn berchen ar gar yn y dyfodol a symudedd bersonol.

"Gyda'r pethau hyn ac eraill yn creu mwy o ansicrwydd, mae'n dda ein bod yn dod at ein gilydd i edrych ar y sector yng Nghymru."

Bydd oddeutu 200 o gynadleddwyr yn Autolink 2018, gan gynnwys 50 o arddangoswyr o'r gadwyn gyflenwi fodurol yng Nghymru, cynrychiolwyr gweithgynhyrchwyr cerbydau a chyflenwyr Haen 1 (cwmnïau sy'n darparu cydrannau'n uniongyrchol i weithgynhyrchwr offer gwreiddiol y gadwyn), academia ac ymwelwyr o gymuned y gadwyn gyflenwi ehangach.

Bydd Ken Skates yn parhau gan ddatgan:

"Mae nifer o bynciau i'w trafod yma heddiw - symud nwyddau a phobl heb gyfyngiadau a'r ffaith nad oes rhwystrau tariffau a rhwystrau heblaw tariffau, Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, a lleihau allyriadau carbon. Gallwn fynd ymlaen.

"Yma yng Nghymru, rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad tuag at gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau ein hunain. Mae Deddf yr Amgylchedd yn pennu llwybr datgarboneiddio clir i Gymru, o fewn cyd-destun ein rhwymedigaethau presennol o fewn y DU ac yn rhyngwladol, gyda lleihau allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050.

"Mae gan ddatgarboneiddio le pwysig yn ein Contract Economaidd sy'n rhan o'n Cynllun Gweithredu Economaidd arloesol. Bydd hyn yn gweld ffordd newydd o weithio gyda busnesau i greu cyfoeth, swyddi a llesiant.

"Mae newid ac elfen o ansicrwydd yn rhan o'r amgylchedd y mae pob un ohonom yn gweithio o fewn iddo. Er mwyn gweld llewyrch, mae'n rhaid inni i gyd addasu i'r amgylchedd newydd hwnnw."