Mae cynllun lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnau wedi cael ei agor yn swyddogol ym Mhontarddulais. Bydd yn lleihau'r risg o lifogydd i 250 eiddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ymwelodd y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths â'r cynllun £6.1 miliwn heddiw (14 Mawrth) i weld sut mae'r amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi effeithio ar yr ardal ac yn helpu i leihau'r risg i eiddo. 

Saif Pontarddulais ar lannau Afon Dulais, i'r gogledd-ddwyrain o Abertawe, ac mae wedi dioddef llifogydd difrifol ers y 1940au gan gynnwys yn fwy diweddar yn 2003, 2005 a 2008. 

Cafodd y cynllun ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac roedd y gwaith yn cynnwys adeiladau cronfa storio dŵr llifogydd i fyny'r afon o'r dre, sy'n gallu dal cymaint â bron 70 o byllau nofio Olympaidd o ddŵr. Pan fydd llif yr afon yn uchel, bydd y dŵr yn crynhoi y tu ôl i'r arglawdd yng Nghwm Dulais, gan arafu'r llif tua'r dref. Mae wedi lleihau'r risg o lifogydd i 224 eiddo preswyl a 22 eiddo amhreswyl ym Mhontarddulais.

Yn ogystal â lleihau'r risg o lifogydd yn y dref, mae'r cynllun hefyd wedi darparu nifer o fanteision amgylcheddol. 

Fel rhan o'r gwaith, mae gwlyptir wedi'i greu i'r de o'r arglawdd, gyda 56 o goed brodorol a bron 3,000 o goed ifanc a llwyni wedi'u plannu yno.  Unwaith y byddan nhw wedi cydio, bydd y coed a'r llwyni yn harddu'r arglawdd ac yn creu cynefin yn y cwm, gan gysylltu â chynefinoedd eraill. 

Cafodd y cynllun ei ddylunio gyda golwg ar greu cyn lleied o aflonyddwch i drigolion â phosib, peidio ag anharddu'r ardal a chreu buddiannau ecolegol. 

Dywedodd y Prif Weinidog  Mark Drakeford: 

"Mae llifogydd yn creu difrod ofnadwy i gartrefi, busnesau a bywoliaethau, gan wneud drwg i gymunedau cyfan. Mae lleihau'u heffeithiau ac amddiffyn ein trefi a'n pentrefi rhag rhagor o niwed yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. 

"Bydd y £6.1 miliwn gafodd ei fuddsoddi ym Mhontarddulais yn gwneud gwahaniaeth aruthrol a phwysig i fywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghyffiniau'r Afon Dulais, gan eu diogelu at y dyfodol." 

Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: 

"Ar ôl sawl achos o lifogydd ym Mhontarddulais, rydyn ni'n credu mai'r cynllun hwn yw'r ffordd orau i ddatrys y broblem mewn ffordd ecogyfeillgar. Rydyn ni wedi buddsoddi arian mawr yn yr ardal i ddiogelu cartrefi a busnesau lleol am flynyddoedd i ddod. 

"Mae hi wedi bod yn ddiddorol iawn dysgu am y gwaith sydd wedi cael ei wneud a'r buddiannau amgylcheddol a ddaeth yn sgil y cynllun i'r ardal. 

"Rwy'n awyddus gweld mwy o'r math hwn o gynllun yn y dyfodol, sy'n ystyried yr effaith ar yr amgylchedd a'r manteision ehangach y mae cynlluniau llifogydd ac arfordirol yn eu cynnig. 

"Yn gynharach eleni, cyhoeddais y byddwn yn dechrau ar raglen fuddsoddi gwerth £150 miliwn dros dair blynedd i adeiladu cynlluniau i reoli'r risg i'r arfordir. Mae £50 miliwn arall wedi'i gyhoeddi ar gyfer gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol dros y 12 mis nesaf, gan fod diogelu cartrefi a busnesau rhag canlyniadau dinistriol llifogydd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon." 

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r cyfrifoldeb inni ddiogelu cymunedau sydd mewn perygl, ond rhaid hefyd cynnal cynlluniau sy'n dod â manteision ehangach i'r bobl leol ac i natur. 

"Trwy adeiladu storfa lifogydd i fyny'r cwm o Bontarddulais,  rydym wedi creu llai o aflonyddwch na phe bawn wedi codi waliau llifogydd yn y dre. Bu'n gyfle hefyd i wella'r amgylchedd lleol hefyd. 

"Trwy greu gwlyptir a phlannu coed a llwyni, rydyn ni wedi creu cynefinoedd newydd a fydd yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid."