Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, fod cronfa o £1.7 miliwn ar gyfer Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) ar agor ar gyfer ceisiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gronfa ar gael i gyrff a mudiadau di-elw yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, i'w helpu i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith bach yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Daeth arian y prosiect oddi wrth Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Cafodd y Gweinidog weld y datblygiadau sy'n cael eu cynnal o dan gynllun Elan Links, sef buddsoddiad o £3.3 miliwn yn ardal Cwm Elan dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn diogelu treftadaeth unigryw ac amrywiol Cwm Elan ac yn cyfoethogi'r ardal yn y tymor hwy. 

Cafwyd arian yn rownd ymgeisio ddiwetha'r TAIS ar gyfer pedwar prosiect - agor mannau anhygyrch a segur yng Nghwm Elan, gan gynnwys y pilbocsys o'r ail ryfel byd yr ymwelodd y Gweinidog â nhw; creu tair canolfan deuluol ar draws y Cwm; adeiladu llwybr beicio newydd trwy'r coed a gwella arwyddion. 

Dywedodd y Dr Ieuan Joyce, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwm Elan a'r cynllun Elan Links: 

"Mae Cwm Elan yn lle arbennig a chanddo dirwedd, stori a hanes unigryw. Mae arian y Cynllun Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth wedi rhoi'r modd inni allu cynnal mwy o weithgareddau i bobl eu mwynhau yng Nghwm Elan. Mae'n cryfhau gweledigaeth tymor hir cynllun Elan Links i gynyddu cyfleoedd i ymwelwyr yn ogystal â diogelu treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal." 

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:  

“Mae cynllun y Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth yn ffordd ardderchog inni helpu’r sector twristiaeth i wella cyfleusterau ac amwynderau lleol.  Yn aml, ni roddir fawr o sylw iddyn nhw, ond maen nhw’n cyfrannu’n sylweddol at brofiadau ymwelwyr â Chymru ac y mae  pobl leol hefyd yn elwa arnyn nhw.  

"Rwyf wedi cael gweld heddiw y gwahaniaeth y mae'r arian yn ei wneud i brosiect Cwm Elan a hefyd o ran cael partneriaid lleol i ddod ynghyd i benderfynu beth all gwneud gwahaniaeth yn yr ardal. Mae'r arian hwn yn gymal arall yn ein hymdrechion i greu cyrchfannau gwell. Rwy'n dymuno'r gorau i dîm Cwm Elan â'r prosiect ac yn pwyso ar bartneriaid i ystyried sut y gallen nhw ddefnyddio'r arian i wella'u cyrchfannau." 

Mae'r gronfa'n un o nifer o rhaglenni sydd ar gael i wella'r hyn a gynigir i ymwelwyr yng Nghymru ar bob lefel. Bydd gwella cyfleusterau ac amwynderau lleol yn rhoi hwb i'r economi twristiaeth ehangach ac yn helpu busnesau bach a chanolig yn y sector i dyfu. I gynnal y twf hwn, mae busnesau bach a micro yn cael gwneud cais am arian o'r gronfa drwy'r flwyddyn gron. 

Rhagor o wybodaeth am y Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) (dolen allanol).  

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 25 Mai.