Aelodaeth
Aelodaeth y grŵp.
Cadeirydd:
Yr Athro Glyn Hewinson
Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol (CBTB) yng Nghymru, Prifysgol Aberystwyth, sydd â bron i 30 mlynedd o brofiad o weithio ar dwbercwlosis buchol.
Aelodau:
Keith Cutler
Milfeddyg gwartheg sydd â diddordeb arbennig mewn diagnosteg a rheolaeth clefydau heintus ar lefel anifail unigol a buches. Ar ôl sawl blwyddyn ar fwrdd CHeCS a chyfrannu at Grŵp Technegol CHeCS, mae bellach yn cadeirio'r Grŵp Technegol.
Gareth Edwards
Milfeddyg o'r Gogledd. Mae ei yrfa wedi cynnwys gweithio mewn practisau milfeddygol gwledig yn y Gogledd, ymchwil, y diwydiant fferyllol a'r Llywodraeth.
Gareth Enticott
Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd. Am y 25 mlynedd diwethaf, mae ei waith wedi archwilio dimensiynau cymdeithasol rheoli clefydau anifeiliaid, gan ganolbwyntio ar dwbercwlosis buchol yng Nghymru, Lloegr a Seland Newydd.
David Grove-White
Cyn-bennaeth y Department of Livestock Health and Welfare ym Mhrifysgol Lerpwl tan iddo ymddeol yn 2019. Cymhwysodd fel milfeddyg o Lerpwl ym 1975 a threuliodd ei fywyd gwaith gyda gwartheg bîff a llaeth yn y DU a thramor yn y Dwyrain Canol ac Affrica.
Ifan Lloyd
Milfeddyg sydd â thros 35 mlynedd o brofiad yn gweithio fel milfeddyg clinigol ac 17 mlynedd fel Partner mewn practis milfeddygol cymysg yn Abertawe. Cyfarwyddwr Iechyd Da (gwledig), y partner cyflenwi milfeddygol yn y De.
Gwenllian Rees
Darlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Rheolwr Datblygu Milfeddygol gyda Menter a Busnes a Llywydd Cangen Cymru Cymdeithas Filfeddygol Prydain.
Robert Smith
Gwyddonydd Clinigol ac epidemiolegydd clefydau heintus iechyd cyhoeddus sydd â thros 30 mlynedd o brofiad mewn milheintiau, heintiau parasitig a heintiau gastroberfeddol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i ragflaenwyr.
Sarah Tomlinson
Milfeddyg fferm sydd â thros 22 mlynedd o brofiad mewn ymarfer clinigol. Hi yw Cyfarwyddwr Technegol y Gwasanaeth Cynghori ar TB (TBAS), prosiect a ariennir gan Defra sy'n darparu cyngor bioddiogelwch TB pwrpasol i geidwaid da byw ledled Lloegr, drwy filfeddygon preifat.
Sarah Woollatt
Milfeddyg sydd â thros 6 blynedd o brofiad mewn ymarfer anifeiliaid fferm yn bennaf ochr yn ochr ag addysg myfyrwyr milfeddygol a chleientiaid fferm.