Cafodd Tasglu'r Cymoedd gyfarfod yng Nghaerffili yr wythnos hon i drafod sut y gallai gwaith i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn y De helpu i wireddu llawer o flaenoriaethau eraill y grŵp hefyd.
Bu wythfed cyfarfod Tasglu'r Gweinidogion ar gyfer Cymoedd y De, a gynhaliwyd yn Ysgol Lewis Pengam ym Margoed, yn gyfle i'r grŵp ymchwilio i'r problemau cludiant sy'n wynebu cymunedau'r Cymoedd a dysgu sut y gallai'r datblygiadau diweddaraf mewn cludiant rheilffyrdd a bws, gan gynnwys Metro’r De, eu helpu i'w trechu.
Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', cynllun newydd ei gyhoeddi ar gyflawni blaenoriaethau'r Tasglu, yn nodi rhai o'r pethau y bydd yn rhaid ei wneud i wella a chyfoethogi seilwaith trafnidiaeth y Cymoedd.
Trafnidiaeth oedd un o’r pynciau a godwyd amlaf gan y cyhoedd yn y sesiynau casglu tystiolaeth yn y Cymoedd. Cyfrannodd y sesiynau hyn at gynlluniau gweithredu a chyflawni’r tasglu – Ein Cymoedd, Ein Dyfodol – a gyhoeddwyd y naill yng Ngorffennaf 2017, a’r llall yn Nhachwedd 2017.
Mae cynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol yn nodi’r pethau sydd angen eu gwneud i wella a chyfoethogi seilwaith trafnidiaeth y Cymoedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies a chadeirydd y cyfarfod,
"Yn ein barn ni, cysylltedd yw'r allwedd i gefnogi twf yr economi ac i adeiladu cymunedau cryfach.
"Cawsom gyfle ardderchog i ddweud wrth aelodau’r Tasglu am yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella seilwaith yr ardal, nid yn unig trwy brosiect Metro'r De ond hefyd trwy'n cynlluniau eraill i wella trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn eu tro yn hybu twf economaidd rhanbarth y Cymoedd."
Ychwanegodd y byddai Metro'r De, yn ogystal â gwella'r cysylltiadau rhwng ein cymunedau, yn cefnogi'n heconomi trwy wella cysylltedd ar draws Cymru ac â gweddill y DU ac Ewrop. Bydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio a chael at swyddi a gwasanaethau.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, sy’n aelod o'r tasglu,
"Rydym yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth integredig, trwy ailffurfio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru.
"Cyn hir, fe fydd gennym y grym i ddyfarnu masnachfreintiau'r rheilffyrdd sy'n golygu, am y tro cyntaf, cawn bennu a gosod gwasanaethau trên Cymru a'r Gororau. Rydym hefyd yn trosglwyddo Leiniau'r Cymoedd i'r gogledd o stesion Heol y Frenhines Caerdydd er mwyn eu gwahanu oddi wrth waith Prif Lein De Cymru, gan ein galluogi i gynnal cam nesaf Metro'r De.
"Rydym hefyd am ddiwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bws lleol yn cael eu cynllunio a'u cynnal yng Nghymru. Dylai hynny arwain at welliannau byw a gweladwy i bobl cymunedau'r Cymoedd."