Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi penodi saith aelod newydd i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
Yn dilyn penodiad David Clubb yn gadeirydd y comisiwn, mae Jennifer Baxter wedi cael ei phenodi yn ddirprwy gadeirydd ac mae’r chwe chomisiynydd newydd a ganlyn yn ymuno â hi:
- Helen Armstrong
- Stephen Brooks
- Aleena Khan
- Eluned Parrott
- Eurgain Powell
- Nick Tune
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:
Ar ôl y diddordeb brwd a gafwyd yn y swyddi hyn, rwy’n sicr bod y grŵp newydd hwn o bobl ddynamig ac amrywiol cystal â’r her o ddarparu argymhellion blaengar i Lywodraeth Cymru.
Wrth i ni fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, rydym yn wynebu rhai o broblemau mwyaf ein hoes o ran seilwaith, gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy a’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.
Rwy’n edrych ymlaen at glywed gan y comisiwn ynghylch ei waith, ac at ystyried ei syniadau maes o law.
Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn 2018 i gynghori Llywodraeth Cymru ar yr anghenion seilwaith newydd dros yr hirdymor.
Cafodd ei gylch gorchwyl ei adnewyddu ym mis Ebrill fel ei fod yn cynnwys rhaglen waith tair blynedd, ac i sicrhau bod y comisiwn yn ystyried yr argyfyngau natur a hinsawdd yn ei holl waith.
Bydd y comisiwn newydd yn cyfarfod ar 30 Mehefin am y tro cyntaf er mwyn dechrau cynllunio’i waith ar gyfer tymor presennol y Senedd.
Dywedodd David Clubb, cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru:
Mae’r aelodau newydd yn grŵp talentog sydd â set eang ac amrywiol o sgiliau. Maen nhw’n dod o ystod eang o gefndiroedd, ac mae hynny ond yn ychwanegu at gyfoeth y gwaith yr ydyn ni’n ei gyflawni.
Fydd dim ofn herio syniadau presennol arnon ni – ac rwy’n gwybod bod gan yr aelodau newydd y gallu i wthio ffiniau a gofyn y cwestiynau anodd er mwyn symud dadleuon a syniadau yn eu blaenau.