Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau statudol am y newidiadau a wnaed i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn nodi sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r addasiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) a grëwyd o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020 (Deddf 2020), er mwyn sicrhau'r gofal gorau posibl i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Dim ond mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion y maent yn gymwys. Ni wnaed unrhyw ddarpariaeth debyg mewn perthynas â gofal cymdeithasol i blant. Fodd bynnag, cyhoeddwyd canllawiau gweithredol

Dim ond pan fydd yn hanfodol gwneud hynny, pan fetho popeth arall, er mwyn cynnal y lefel uchaf bosibl o wasanaethau y dylid rhoi'r addasiadau ar waith. Dylai awdurdodau lleol gydymffurfio â gofynion Deddf 2014 cyn iddi gael ei haddasu a Chodau Ymarfer cysylltiedig cyhyd ac i'r graddau y bo'n bosibl. 

Mae'r addasiadau hyn yn gymwys am gyfnod penodol a dylid eu defnyddio cyn lleied â phosibl gyda'r disgwyliad clir y bydd unrhyw newidiadau i'r gofal a / neu'r cymorth a roddir i unigolion yn dirwyn i ben ac y dychwelir at eu trefniadau cyn-addasu cyn gynted â phosibl. Mae angen i awdurdodau lleol lunio trefniadau a rhoi gwybod i'r rheini yr effeithir arnynt sut y caiff hyn ei gyflawni. Nid yr unigolion na'u teuluoedd/gofalwyr ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau y caiff eu gofal a'u cymorth eu hadfer.

Nid yw'r addasiadau yn Neddf 2020 yn rhoi awdurdod i atal gwasanaethau cyfan, cyfyngu arnynt na'u tynnu'n ôl. Maent yn galluogi awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau dros dro sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn perthynas â gofal a / neu gymorth yn ystod y pandemig. Nod y penderfyniadau hyn yw sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i'r rheini â'r anghenion mwyaf, gan ddefnyddio'r egwyddorion cyffredin a'r gwerthoedd craidd ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae'r canllawiau a'r Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng nghyd-destun COVID-19 ar gyfer y DU gyfan yn dod o fewn cwmpas paragraff 35 o Atodlen 12 i Ddeddf 2020 sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y dylai awdurdodau lleol arfer swyddogaethau o dan Ddeddf 2014 o ganlyniad i'r darpariaethau a wneir gan Ddeddf 2020.

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau hyn. Mae paragraff 35(5) yn darparu y gall awdurdod lleol ddiystyru unrhyw ddarpariaeth mewn cod o dan adran 145 o Ddeddf 2014, i'r graddau y bo'n anghyson â chanllawiau a gyhoeddir o dan y paragraff hwn. Dylai awdurdodau lleol hefyd gydymffurfio â chanllawiau eraill perthnasol sy'n ymwneud â COVID-19 a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu cynnwys y canllawiau hyn yn rheolaidd fel rhan o'i thrafodaethau parhaus â'r sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys sefydliadau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, darparwyr gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, y gweithlu a rheoleiddwyr gwasanaethau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Diben yr addasiadau

Mae awdurdodau lleol a darparwyr gofal eisoes yn wynebu pwysau sy'n cynyddu'n gyflym wrth i nifer y bobl y mae angen cymorth arnynt gynyddu am fod gofalwyr yn sâl neu am na allant eu cyrraedd, ac am fod gweithwyr gofal yn gorfod hunanynysu neu am na allant weithio am resymau eraill. Mae'r canllawiau hyn ymhlith amrywiaeth o fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith er mwyn helpu'r system gofal i ymdopi â'r pwysau hyn.

Sicrhau'r canlyniadau orau posibl

Dylai awdurdodau lleol barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i barhau i gyflawni eu dyletswyddau presennol cyn i ddarpariaethau Deddf 2020 ddod i rym. Os na allant wneud hynny, mae'n hanfodol eu bod yn gallu symleiddio'r trefniadau asesu presennol a blaenoriaethu gofal i'r rheini ag anghenion gan ddefnyddio'r egwyddorion cyffredin a'r gwerthoedd craidd ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae darpariaethau Deddf 2020 yn galluogi awdurdodau lleol i flaenoriaethu lle y bo angen yn fwy effeithiol nag y gallent fod wedi'i wneud o dan Ddeddf 2014 cyn iddi gael ei haddasu. Mae'r addasiadau hyn yn gymwys am gyfnod penodol a dylid eu defnyddio cyn lleied â phosibl gyda'r disgwyliad clir y bydd gofal a / neu gymorth unigolion yn dychwelyd i'w trefniadau cyn-addasu cyn gynted â phosibl.

Egwyddorion cyffredin

Ni chaiff egwyddorion sylfaenol gofal cymdeithasol eu haddasu:

  • atal ac ymyrryd yn gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o unigolion yn datblygu anghenion critigol
  • llais a rheolaeth – sicrhau bod yr unigolyn a'i anghenion wrth wraidd ei ofal, a rhoi llais iddo, a rheolaeth dros gyflawni'r canlyniadau sy'n ei helpu i sicrhau llesiant
  • cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.

Mewn argyfwng, gall yr angen am benderfyniadau cyflym olygu y caiff llais y dinesydd ei golli. Mae trefniadau ymgynghori a chyfathrebu gofalus ac ystyrlon yn ffactor angenrheidiol, nid ffactor dewisol.(Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru - Ebrill 2020)

Gwerthoedd craidd i lywio gwaith cynllunio a phenderfyniadau ar gyfer darparu gofal cymdeithasol i bawb yng Nghymru

Yn fwy nag erioed, yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru, y gwerth craidd sy'n sail i'r dull gweithredu ar gyfer gofal cymdeithasol yw 'pryder a 'pharch cyfartal'.

Mae hyn yn hyrwyddo'r ymrwymiad cyfansoddiadol craidd i gydraddoldeb, a'r mesurau amddiffyn i bawb, sydd wedi'u corffori yn y gyfraith yng Nghymru mewn perthynas â llywodraethu ac iaith. 

Mae hyn yn golygu'r canlynol:

  • mae pawb yn bwysig – caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol eu darparu mewn ffordd sy'n dilyn yr egwyddorion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol
  • mae pawb yr un mor bwysig â'i gilydd – nid yw hyn yn golygu y caiff pawb ei drin yn yr un ffordd, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob sector weithio'n effeithiol ac yn deg mewn partneriaeth â phob person yn unol â'i anghenion
  • mae buddiannau pob person yn bwysig i bob un ohonom, ac i'n cymdeithas
  • mae'r niwed y gallai pob person ei ddioddef yn bwysig, ac felly, nod ein gweithredoedd yw lleihau'r niwed cyffredinol y gallai pandemig ei achosi

Yr hyn y mae'r werapu yn ei newid mewn gwirionedd

Yn seiliedig ar y dadansoddiad o'r dystiolaeth, gall awdurdod lleol benderfynu bod angen defnyddio un neu fwy o'r addasiadau canlynol. Rhaid ystyried p'un a ddylid parhau i'w defnyddio bob pythefnos, fel y dynodir yn y Matrics Gwneud Penderfyniadau (Atodiad A): 

  • ni fydd yn rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau manwl o anghenion gofal a chymorth pobl yn unol â'r gofynion cyn i Ddeddf 2014 gael ei haddasu. Fodd bynnag, bydd disgwyl o hyd iddynt ymateb cyn gynted â phosibl i geisiadau am ofal a/neu gymorth, ystyried anghenion a dymuniadau pobl y mae angen gofal arnynt â'u teuluoedd a'u gofalwyr, ac asesu pa ofal sydd angen ei ddarparu. Mae Atodiad B yn rhoi rhagor o wybodaeth
  • ni fydd yn rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau ariannol yn unol â'r gofynion cyn i Ddeddf 2014 gael ei haddasu. Fodd bynnag, mae ganddynt bwerau i godi ffi ar bobl yn ôl-weithredol am y gofal a / neu'r cymorth a gânt yn ystod y cyfnod hwn, ar yr amod y byddant yn rhoi gwybodaeth resymol am hyn ymlaen llaw ac yn cynnal asesiad ariannol yn ddiweddarach. Bydd hyn yn sicrhau tegwch rhwng pobl a oedd eisoes yn derbyn gofal a / neu gymorth cyn y cyfnod hwn, a phobl sy'n ymuno â'r system gofal a chymorth yn ystod y cyfnod hwn. Mae Atodiad B yn rhoi rhagor o wybodaeth
  • ni fydd yn rhaid i awdurdodau lleol baratoi nac adolygu cynlluniau gofal a / neu gymorth yn unol â'r gofynion cyn i Ddeddf 2014 gael ei haddasu. Fodd bynnag, bydd disgwyl o hyd i awdurdodau lleol wneud gwaith cynllunio gofal cymesur sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n rhoi digon o wybodaeth i bawb dan sylw, yn enwedig y rhai sy'n darparu gofal a chymorth yn aml ar fyr rybudd. Mae Atodiad B yn rhoi rhagor o wybodaeth
  • mae disgwyl o hyd i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i barhau i gydymffurfio â'u dyletswyddau i asesu a diwallu anghenion yn unol â'r gofynion cyn i Ddeddf 2014 gael ei haddasu. Os na fyddant yn gallu gwneud hynny, bydd darpariaethau Deddf 2020 yn eu galluogi i flaenoriaethu anghenion, er enghraifft gwella'r cymorth a roddir i bobl sy'n sâl neu'n hunanynysu, a gohirio darpariaeth gofal arall neu ei leihau dros dro. Yn gydnaws â'r egwyddorion cyffredin uchod, mae'n rhaid gwneud pob ymdrech resymol i weithio gyda'r unigolyn a'i deulu a'i ofalwyr yn y sefyllfaoedd hyn er mwyn ystyried a nodi cyfleoedd amgen i feithrin gallu a chydnerthedd. Mae Atodiad C yn rhoi canllawiau pellach ar yr egwyddorion a'r dulliau gweithredu sy'n sail i hyn
  • nid oes rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â cheisiadau i ddarparu neu drefnu dewis o lety sydd orau gan yr unigolyn

Mesurau amddiffyn a diogelu

Mae tystiolaeth bod awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol eisoes yn wynebu cryn nifer o absenoldebau o'u gweithluoedd o ganlyniad uniongyrchol i bandemig COVID-19. Prif ddiben yr addasiadau hyn yw sicrhau y darperir y gofal gorau posibl i bobl o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn. Er mwyn helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymhwyso'r darpariaethau hyn yn gyson ac yn briodol, gan roi'r sylw mwyaf i anghenion a dymuniadau pobl a'u teuluoedd a'u gofalwyr, bydd y mesurau amddiffyn a diogelu canlynol yn gymwys. 

Daw'r addasiadau i rym yn gyfreithiol ar 1 Ebrill 2020 ond dim ond pan fydd yn hanfodol gwneud hynny er mwyn cynnal y lefel uchaf bosibl o wasanaethau y dylent gael eu harfer gan awdurdodau lleol. Dylent gydymffurfio â gofynion Deddf 2014 cyn iddi gael ei haddasu a Chodau Ymarfer cysylltiedig cyhyd ag y bo'n bosibl ac i'r graddau y bo'n bosibl.

Dros dro y bydd yr addasiadau mewn grym. Bydd Gweinidogion Cymru yn eu hadolygu'n barhaus ac yn eu datgymhwyso cyn gynted â phosibl, gan ddefnyddio cyngor a thystiolaeth berthnasol.

Mae'n rhaid rhoi sylw i unrhyw asesiadau ac adolygiadau sy'n cael eu gohirio neu nad ydynt yn cael eu cwblhau, a'u cwblhau'n llawn ar ôl i'r addasiadau i Ddeddf 2014 gael eu datgymhwyso. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau gofal a / neu gymorth yn gynaliadwy. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd sicrhau na chaiff penderfyniadau a wneir gan unigolion a'u teuluoedd o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig eu defnyddio fel tystiolaeth wrth benderfynu a ddylid diwallu anghenion yn y dyfodol neu sut y dylid gwneud hynny. Nid yw galluoedd pobl i ymdopi yn ystod argyfwng yn gyfystyr â'u gallu i ddarparu gofal a / neu gymorth am gyfnodau estynedig.

Cynnal yr egwyddorion cyffredin a'r gwerthoedd craidd

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd o hyd i ddiwallu anghenion er mwyn diogelu unigolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae'r meini prawf hyn wedi'u hymgorffori drwy Ddeddf 2014. Maent yn sefydledig ac yn cael eu deall ym mhob awdurdod lleol yn ogystal â'r sector gofal cymdeithasol ehangach. 

Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswyddau parhaus o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, yr hawl i fywyd o dan Erthygl 2, yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol o dan Erthygl 3, yr hawl i fywyd preifat a theuluol o dan Erthygl 8 a'r hawl i fwynhau hawliau a rhyddid heb wahaniaethu, o dan Erthygl 14.

Bydd dyletswyddau awdurdodau lleol i hyrwyddo llesiant yn ogystal â'u dyletswyddau cyffredinol a phenodol o dan Ran 2 o Ddeddf 2014 a'r Cod Ymarfer cysylltiedig yn parhau. Mae hyn yn cynnwys y dyletswyddau i ystyried Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a, lle y bo'n gymwys, Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Rhan 2 o'r Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol) yn nodi

Yn ogystal ag egwyddorion a chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig a amlinellir yn y Ddeddf, wrth gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr anabl sydd angen cymorth, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Mae paragraffau 59 i 62 o Ran 2 o'r Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol) yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar y ddyletswydd i ystyried erthyglau penodol.

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn parhau i oruchwylio maes gofal cymdeithasol o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Drwy'r cyfnod hwn, bydd AGC yn mabwysiadu dull ymarferol o arolygu a chymryd camau cymesur yn ôl yr angen gan barhau i gyflawni ei phrif ddiben o gadw pobl yn ddiogel. Gellir gweld copi o ohebiaeth y Prif Arolygydd â'r sector yn.

Bydd dyletswyddau pwysig eraill ar awdurdodau lleol a'r Codau Ymarfer cysylltiedig yn parhau:

  • bydd dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ran 2 o Ddeddf 2014 sy'n ymwneud â gwasanaethau ataliol a rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth yn parhau. Bydd rhoi gwybodaeth a chyngor er mwyn tawelu meddyliau'r cyhoedd yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod hwn. Er mwyn helpu i sicrhau cyfathrebu da, dylai awdurdodau lleol barhau i fanteisio ar eu cydberthnasau defnyddiol â phartneriaid yr ymddiriedir ynddynt yn y sector gwirfoddol ac ystod lawn o sianeli digidol a sianeli eraill sy'n helpu i gyrraedd pobl ag anghenion gwahanol ac mewn amgylchiadau gwahanol yn ystod y cyfnod hwn (er enghraifft er mwyn gwneud iawn am gau llyfrgelloedd). Gall sefydliadau sy'n cynrychioli pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl helpu i ymgysylltu â charfanau penodol
  • ni chaiff dyletswyddau awdurdodau lleol i lunio a chynnal cofrestrau o unigolion â nam ar eu golwg, unigolion â nam ar eu clyw a phobl eraill anabl eu haddasu a byddant yn darparu gwybodaeth a thystiolaeth bwysig er mwyn llywio'r gofal a / neu'r cymorth a roddir i unigolion
  • mae dyletswyddau Rhan 2 yn Neddf 2014 i hyrwyddo llesiant a dyletswyddau Rhan 7 sy'n ymwneud â diogelu oedolion sydd mewn perygl yn parhau. Nid oes unrhyw addasiadau cyfochrog wedi'u gwneud o ran asesiadau, diwallu anghenion na chynlluniau gofal a / neu gymorth i blant na gofalwyr plant. Nid oes unrhyw addasiadau wedi'u gwneud i Ran 6 (Plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya) na Rhan 7 (Diogelu). Ceir canllawiau sy'n atgyfnerthu'r dyletswyddau diogelu presennol yn ystod y cyfnod hwn yn Atodiad D
  • bydd dyletswyddau yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 sy'n ymwneud â Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn parhau. Mae canllawiau ar weithredu'r rhain yn ystod y cyfnod o argyfwng wedi cael eu cyhoeddi ar wahân
  • bydd dyletswyddau a osodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn parhau, gan gynnwys dyletswyddau i wneud addasiadau rhesymol, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau tuag at bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae'r dyletswyddau hyn yn sail i unrhyw benderfyniadau a wneir ar y gofal a'r cymorth y bydd rhywun yn eu cael yn ystod y cyfnod hwn. Bydd ymgysylltu'n gynnar ac yn barhaus â sefydliadau cynrychioliadol hefyd yn rhoi cyngor clir i awdurdodau lleol ar yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar unigolion a grwpiau penodol er mwyn llywio gwasanaethau amgen neu ychwanegol sy'n adlewyrchu'r risgiau a'r effeithiau penodol.

Egwyddorion i reoli'r defnydd o'r pwerau

Mae Deddf 2014 a'r Codau Ymarfer cysylltiedig yn sefydlu dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion, pobl a gwerthoedd ar gyfer pob agwedd ar y gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol. Mae'n hanfodol bod yr egwyddorion a'r gwerthoedd hyn yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn.   

Disgwylir i awdurdodau lleol gydymffurfio â Fframwaith Moesegol y DU gyfan yng nghyd-destun COVID-19 a gyhoeddwyd ar 20 Mawrth 2020. Mae'r Fframwaith hwn yn darparu strwythur clir y gall awdurdodau lleol fesur eu penderfyniadau yn eu herbyn ac yn tanlinellu y dylai anghenion a llesiant unigolion fod yn ganolog i brosesau gwneud penderfyniadau. Yn benodol, mae'r Fframwaith Moesegol yn ategu penderfyniadau heriol ynghylch blaenoriaethu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf.

Mae'r Fframwaith Moesegol yn atgyfnerthu'r egwyddorion ymarfer a nodir yn Rhan 3 o'r Cod Ymarfer (Asesu Anghenion Unigolion) ar gyfer gwaith cynllunio a darpariaeth sy'n seiliedig ar yr unigolyn ym mhob rhan o'r sector gofal cymdeithasol:

  • cefnogi hawl pobl i gael sgyrsiau parchus am eu llesiant a chwarae rhan lawn mewn penderfyniadau ar eu gofal
  • helpu ymarferwyr i ddefnyddio eu barn broffesiynol wrth weithio mewn partneriaeth â phobl er mwyn cytuno ar atebion sydd er budd pennaf yr unigolyn

Bydd yn hollbwysig bod ymarferwyr, i'r graddau y gallant yn rhesymol wneud hyn, yn gweithio gyda'r unigolyn, ei ofalwr, ei deulu ac unrhyw unigolion perthnasol eraill er mwyn deall ei anghenion, ei allu, ei adnoddau a'r canlyniadau y mae angen iddo eu cyflawni ac, wedyn, nodi'r ffordd orau i'w helpu i'w cyflawni. 

Nid yw darparu atebion wedi'u pennu ymlaen llaw yn gydnaws â chynllunio gan ganolbwyntio ar yr unigolyn. Lle y rhoddir cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain, dylai ymarferwyr barhau i rymuso pobl i ddylanwadu ar y dewisiadau a wneir ynghylch rheoleidd-dra a / neu hyd y cymorth a gânt.

Mae unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, darparwyr gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol eisoes yn rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith er mwyn ymateb i'r amrywiaeth o bwysau ychwanegol y maent yn eu hwynebu o ganlyniad uniongyrchol i bandemig COVID-19. Bydd y cynlluniau wrth gefn hyn yn helpu awdurdodau lleol i ymdopi â'r pwysau yn ystod y pandemig.

Camau y dylai awdurdodau lleol eu Cymryd Cyn Rhoi'r Addasiadau i Ddeddf 2014 ar waith

Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y dylai awdurdod lleol wneud penderfyniad i ddechrau rhoi'r dyletswyddau wedi'u haddasu ar waith:

  1. pan fydd y gweithlu wedi lleihau, neu pan fydd y galw am ofal cymdeithasol wedi cynyddu, i'r graddau nad yw bellach yn rhesymol ymarferol iddo gydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf 2014 (fel yr oeddent cyn i Ddeddf 2020 eu haddasu)
  2. lle y byddai parhau i geisio gwneud hynny yn debygol o olygu na chaiff anghenion eu diwallu, gan beri risg bosibl i fywyd

Dylai unrhyw newidiadau sy'n deillio o benderfyniad o'r fath fod yn gymesur â'r amgylchiadau mewn awdurdod lleol penodol.

Mae gofal cymdeithasol yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau lleol a dylai'r penderfyniad i roi'r addasiadau i Ddeddf 2014 ar waith gael ei wneud yn lleol. Dylai'r penderfyniad i'w rhoi ar waith gael ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ystyried argaeledd swyddogaethau ehangach yr awdurdod lleol a'r effaith arnynt, yn ogystal â'r sector gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid briffio'r Aelodau Etholedig arweiniol a'u cynnwys fel rhan o'r broses benderfynu hon. Dylid ymgysylltu â phob darparwr a phartner (gan gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl) cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gallant ddeall, ymateb a chynnig atebion ychwanegol neu amgen i'r pwysau ar y pryd.

Rhaid i awdurdodau lleol gadw cofnod o'r penderfyniad ynghyd â'r dystiolaeth a ystyriwyd.  Lle y bo'n rhesymol bosibl, dylai'r cofnod gynnwys y canlynol:

  • natur y newidiadau i'r galw neu'r gweithlu
  • y camau sydd wedi'u cymryd i leihau'r angen i hyn ddigwydd
  • effaith ddisgwyliedig y camau a gymerwyd
  • sut y bydd y newidiadau yn galluogi'r awdurdod lleol i flaenoriaethu gofal a / neu gymorth ar lefel poblogaeth
  • yr unigolion sy'n rhan o'r broses benderfynu
  • safbwyntiau hysbys partneriaid lleol ac unigolion
  • yr adegau y caiff y penderfyniad hwn ei adolygu eto, gan gynnwys fel sy'n ofynnol yn y Matrics Gwneud Penderfyniadau

Dylid cydnabod hygyrchedd dulliau cyfathrebu wrth gynllunio'r dulliau hynny ac wrth gyfathrebu ag unigolion, teuluoedd a gofalwyr gan sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer eu hoedran, eu lefel o ddealltwriaeth a chan ystyried eu cyflwr penodol a/neu unrhyw nam cyfathrebu.

Bydd yn rhaid hysbysu Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru am y penderfyniad hefyd pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried deddfu'r addasiadau ac yn penderfynu dechrau blaenoriaethu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn unol â'r addasiadau, gan esbonio pam mae'r penderfyniad wedi'i wneud a rhoi'r wybodaeth a nodir yn y pwyntiau bwled uchod yn gryno, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Dylid anfon hysbysiad o'r penderfyniad hwn i SocialCareCoordination@gov.wales.

Atodiad A

Prosesau Gwneud Penderfyniadau Lleol ar yr Addasiadau i Ddeddf 2014

Mae'r Atodiad hwn yn nodi prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau a argymhellir ar gyfer Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas ag addasiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) a gyflwynwyd gan Ddeddf y Coronafeirws 2020 (Deddf 2020).

Cyflwyniad

Yn ystod y pandemig, efallai bydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd sy'n effeithio ar y ffordd y maent yn ymateb i'w cyfrifoldebau am ofal a / neu gymorth a'u swyddogaethau statudol. Felly, dylai fod goruchwyliaeth broffesiynol glir o benderfyniadau o'r fath a, lle y bo'n berthnasol, dylent gael eu cymeradwyo'n broffesiynol, yn ogystal â thystiolaeth bod sylw dyledus wedi'i roi i ganlyniadau posibl unrhyw benderfyniadau.

Nid yw Deddf 2020 yn rhoi awdurdod i atal gwasanaethau cyfan, cyfyngu arnynt na'u tynnu'n ôl. Mae'n galluogi awdurdodau lleol i wneud a chymhwyso penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ynghylch pwy sydd angen gofal a / neu gymorth fwyaf a phwy y gallai fod angen lleihau ei ofal a / neu ei gymorth neu ei dynnu'n ôl dros dro er mwyn gwneud yn siŵr y caiff y rhai â'r anghenion mwyaf eu blaenoriaethu.

Bydd penderfyniadau o'r fath, mewn rhai achosion, yn rhai heriol ac, felly, dylent bob amser gael eu gwneud o fewn cylch gwaith y Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng nghyd-destun COVID-19. Yn bwysig ddigon, dim ond pan fydd pwysau'r galw ac argaeledd staff yn golygu na ellir darparu'r ystod lawn o ddyletswyddau o dan Ddeddf 2014 yn ddiogel mwyach y dylent gael eu gwneud. 

Dylid gwahaniaethu rhwng defnyddio'r addasiadau a'r penderfyniadau sydd angen eu gwneud mewn ymateb i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol. Er enghraifft, efallai y penderfynir cau gwasanaeth am nad yw'n ddiogel cadw pobl gyda'i gilydd mewn adeilad mwyach. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad oes angen y lefel gyfatebol o gymorth ar y bobl hynny ar yr adeg hon. Yn yr enghraifft hon, mae'n bosibl y gofynnir i staff ddarparu'r lefel gyfatebol o gymorth. Gallai'r gwasanaeth cyfatebol fod yn wasanaeth amgen, ond bwriedir iddo leihau'r risg o dorri'r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.

Mewn ymateb uniongyrchol i'r pandemig, gall amrywiaeth o ffynonellau cymorth amgen y tu hwnt i wasanaethau gofal cymdeithasol traddodiadol a theulu - gan gynnwys gwirfoddolwyr a staff a adleolwyd o fewn asiantaethau partner - wneud cyfraniad sylweddol gwirioneddol yn ystod y cyfnod hwn, gan ryddhau aelodau mwy cymwys a phrofiadol o staff i ddarparu darpariaeth gofal fwy dwys.

Asesiadau, adolygiadau a newidiadau i becynnau gofal

Ar hyn o bryd, mae Deddf 2014 yn caniatáu i awdurdodau lleol flaenoriaethu ac adolygu mewn ffyrdd gwahanol. Dylai awdurdodau lleol barhau i fod mor hyblyg â phosibl, a sicrhau eu bod dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, gwarchod a hunanynysu.

Bydd penderfyniadau ynghylch asesiadau neu adolygiadau a phenderfyniadau i leihau neu newid pecynnau gofal yn cael effaith ar yr unigolion sy'n cael cymorth, yn ogystal â'i ofalwyr a'i deulu ehangach. Mae'n rhaid i benderfyniadau o'r fath hefyd ystyried risgiau presennol a phosibl, os bydd y sefyllfa yn newid ar gyfer yr unigolyn a / neu na fydd ei ofalwyr yn gallu parhau â'u rolau.

Pan fydd pobl yn penderfynu canslo neu atal eu gofal a / neu gymorth eu hunain ac ymdopi ar eu pen eu hunain neu gyda chymorth eu teulu eu hunain a rhwydweithiau cymunedol, mater i'r unigolyn ei hun benderfynu arno fydd hwn, ar y cyfan. Fodd bynnag, os bydd pryderon y gallai hyn greu risg na ellir ei rheoli, achos o esgeulustod gan gynnwys achos posibl o hunanesgeuluso neu broblemau diogelu, dylid arfer barn broffesiynol. Mae gan ymarferwyr gyfrifoldebau eisoes o dan Ddeddf 2014 a'r Codau Ymarfer cysylltiedig o ran arfer barn broffesiynol o dan amgylchiadau tebyg lle y bydd unigolyn yn gwrthod asesiad.

Bydd barn broffesiynol hefyd yn parhau i gael ei harfer pan fydd yr unigolyn yn ofalwr ac y gallai effaith ei benderfyniadau danseilio cynaliadwyedd y trefniadau hynny i'r unigolyn hwnnw fel gofalwr ac i'r person y mae'n gofalu amdano. Ni fwriedir i hyn danseilio barn yr unigolyn sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch ei ofal ond, yn hytrach, bwriedir iddo sicrhau, lle y bo angen, fod yr unigolyn wedi ystyried y canlyniadau posibl a bod egwyddorion diogelu wedi'u dilyn.

Penderfynu a ddylid rhoi'r addasiadau ar waith

Mae'n bwysig bod unrhyw benderfyniadau a wneir mewn perthynas â'r addasiadau i Ddeddf 2014 yn cael eu llywio gan drafodaethau â phartneriaid a rhanddeiliaid lleol fel darparwyr gofal cymdeithasol a byrddau iechyd lleol.

Mae gwaith cofnodi gan awdurdodau lleol yn dal i fod yn flaenoriaeth a bydd yn galluogi awdurdodau lleol i sicrhau atebolrwydd a darparu tystiolaeth ar gyfer y prosesau tystiolaeth a dadansoddi sy'n sail i'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, gan gynnwys safbwyntiau unigolion am effaith y penderfyniadau. 

Matrics gwneud penderfyniadau

Gweithredu o dan Ddeddf 2014 cyn iddi gael ei Haddasu

Cam Penderfyniad Proses

Cam 1 Gweithredu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Busnes fel arfer

Parhau ar y cam hwn cyhyd â phosibl.

 

Cam 2:

Defnyddio'r hyblygrwydd o dan Ddeddf 2014 cyn iddi gael ei haddasu

Penderfyniad i bob math unigol o wasanaeth i flaenoriaethu wrth ddyrannu gofal a chymorth yn y byrdymor gan ddefnyddio'r hyblygrwydd sydd i'w gael ar hyn o bryd yn Neddf 2014.

Os bydd pwysau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn golygu bod angen newid mathau o wasanaeth, cyfyngu arnynt neu eu canslo yn y byrdymor o fewn y math hwnnw o wasanaeth e.e. gofal yn y cartref neu fyw gyda chymorth, dylai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodi trefniadau ar gyfer nodi a chofnodi'r canlynol:

  • y rheswm dros wneud y penderfyniad
  • effaith y penderfyniad ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel arfer
  • effaith y penderfyniad ar deuluoedd a gofalwyr pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel arfer
  • y ffynonellau amgen posibl o ofal a chymorth a pha mor debygol ydyw y byddant ar gael

Dylai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol benderfynu a ddylid ymgynghori ag adrannau neu bartneriaid yr awdurdod lleol ehangach cyn penderfynu a ddylid symud ymlaen i Gam 3. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol pan fydd penderfyniadau a wneir yn effeithio ar eraill.

Dylid hysbysu partneriaid ym mhob rhan o'r sector gofal cymdeithasol yn llawn, gan gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl, darparwyr a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae'n bwysig nodi ei bod yn ddigon posibl y bydd pob gwasanaeth arall yn parhau i ddarparu ei wasanaethau fel arfer.

Gweithredu o dan yr addasiadau i ddeddf 2014

Cam Penderfyniad Proses

Cam 3:

Symleiddio Gwasanaethau o dan yr addasiadau i Ddeddf 2014

 

Penderfyniad i ddeddfu'r addasiadau i Ddeddf 2014 fel y'u nodir gan Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Mae'r addasiadau i Ddeddf 2014 yn galluogi awdurdodau lleol i roi'r gorau i asesiadau ffurfiol, cymhwyso meini prawf cymhwysedd a pharatoi ac adolygu cynlluniau gofal o dan Ddeddf 2014. Fodd bynnag, mae Deddf 2020 yn disgwyl i awdurdodau lleol wneud popeth o fewn eu gallu er mwyn parhau i ddiwallu anghenion fel y nodwyd yn wreiddiol yn Neddf 2014.

Lle mae effaith y pandemig yn golygu nad oes modd cyflawni na chynnal hyn, bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu a ddylid rhoi'r gorau i gyflawni'r hyblygrwydd Cam 2 hwnnw o dan Ddeddf 2014 a symud i sefyllfa lle maent yn cynnal asesiadau ac yn gwneud gwaith cynllunio cymesur.

Dylai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodi trefniadau ar gyfer pennu a chofnodi'r canlynol:

  • y rheswm dros wneud y penderfyniad
  • effaith y penderfyniad ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel arfer
  • effaith y penderfyniad ar deuluoedd a gofalwyr pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel arfer
  • y ffynonellau amgen posibl o ofal a chymorth a pha mor debygol ydyw y byddant ar gael

Dylai unrhyw benderfyniadau i symleiddio gwasanaethau gael eu hadolygu bob pythefnos a'u cofnodi. Dylid dad-ddwysáu ac adfer y dyletswyddau a'r hawliau llawn o dan Ddeddf 2014 cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl.

Dylai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol benderfynu a oes angen ymgynghori ag adrannau neu bartneriaid ehangach o fewn yr awdurdod lleol, yn ogystal â phartneriaid lleol allanol. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol pan fydd penderfyniadau a wneir yn effeithio ar eraill.

Dylid hysbysu partneriaid ym mhob rhan o'r sector gofal cymdeithasol yn llawn, gan gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl, darparwyr a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae'n rhaid i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau bod eu Haelod Etholedig Arweiniol wedi cael ei gynnwys a'i friffio fel rhan o'r broses benderfynu hon.

Rhaid hysbysu Llywodraeth Cymru yn:-SocialCareCoordination@gov.wales.

Cam 4:

Blaenoriaethu o dan yr addasiadau i Ddeddf 2014

Blaenoriaethu gofal a chymorth ym mhob rhan o'r system

Pan fydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar newid y cymorth a roddir i bobl, dylent ystyried pob rhan o'r system gofal cymdeithasol i oedolion neu bob rhan o'r system gofal cymdeithasol a dyrannu adnoddau iddynt. Efallai y bydd hyn yn golygu dyrannu adnoddau o rai mathau o wasanaethau nad ydynt, o bosibl, o dan bwysau, ond y gallent gefnogi'r rhai sydd o dan bwysau.

Un enghraifft bosibl yw pan fydd awdurdod lleol yn wynebu penderfyniad ar leihau gofal personol i'r naill unigolyn er mwyn i unigolyn arall allu cael y cymorth sydd ei angen arno i fwyta.

Bydd angen i ddigon o ofal a chymorth fod ar gael bob amser er mwyn sicrhau y caiff pobl eu diogelu rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso a bod hawliau Confensiwn pawb y mae angen gofal a chymorth arnynt, a hawliau gofalwyr, yn cael eu parchu. Yn gydnaws â'r egwyddorion cyffredin, dylai unigolion fod yn rhan o'r penderfyniadau hyn a dylanwadu arnynt, er enghraifft y dewisiadau o ran rheoleidd-dra a hyd eu cymorth.

Yn y sefyllfa hon, dylai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodi trefniadau ar gyfer pennu a chofnodi'r canlynol:

  • y rheswm dros wneud y penderfyniad
  • effaith y penderfyniad ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel arfer
  • effaith y penderfyniad ar deuluoedd a gofalwyr pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel arfer
  • y ffynonellau amgen posibl o ofal a chymorth a pha mor debygol ydyw y byddant ar gael

Dylai unrhyw benderfyniadau i flaenoriaethu neu leihau cymorth gael eu hadolygu bob pythefnos a'u cofnodi. Dylid dad-ddwysáu ac adfer y dyletswyddau a'r hawliau llawn o dan Ddeddf 2014 cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl.

Dylai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol benderfynu a oes angen ymgynghori ag adrannau neu bartneriaid ehangach o fewn yr awdurdod lleol, yn ogystal â phartneriaid lleol allanol. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol pan fydd penderfyniadau a wneir yn effeithio ar eraill.

Dylid hysbysu partneriaid ym mhob rhan o'r sector gofal cymdeithasol yn llawn, gan gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl, darparwyr a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae'n rhaid i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau bod eu Haelod Etholedig Arweiniol wedi cael ei gynnwys a'i friffio fel rhan o'r broses benderfynu hon.

Dylid hysbysu Llywodraeth Cymru yn:-SocialCareCoordination@gov.wales

Dad-ddwysáu

Dylid adolygu penderfyniadau bob pythefnos a'u cofnodi. Dylid dad-ddwysáu ac adfer y dyletswyddau a'r hawliau llawn o dan Ddeddf 2014 cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl. 

Dylid rhoi trefniadau cyfwerth ar gyfer ymgynghori â phartneriaid a'u hysbysu o ran dad-ddwysáu hefyd – ymlaen llaw os yn bosibl, er mwyn iddynt allu gwneud addasiadau angenrheidiol i'w gwasanaethau. Dylid diweddaru gwasanaethau IAA yn rheolaidd hefyd.

Dylai awdurdodau lleol ystyried unrhyw adborth perthnasol (gan gynnwys cwynion) a gafwyd am effeithiau newidiadau fel rhan o'u proses ar gyfer adolygu penderfyniadau.

Cynllunio parhad busnes

Os bydd gwasanaethau darparwyr wedi cyflwyno Cynlluniau Parhad Busnes sydd â goblygiadau i wasanaethau uniongyrchol i bobl ag anghenion gofal a chymorth, mae angen goruchwyliaeth ymarfer proffesiynol yn ogystal â goruchwyliaeth busnes. Yr awdurdod lleol sy'n atebol am bob penderfyniad o'r fath, ac ni ddylai gwasanaethau darparwyr fod yn gwneud penderfyniadau am gyfyngu ar ofal neu ei dynnu'n ôl. Dylai unrhyw benderfyniadau o'r fath gael eu gwneud yn unol â'r broses a nodir yn y Matrics Gwneud Penderfyniadau uchod.

Atodiad B: canllawiau ar symleiddio asesiadau ac adolygiadau

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd disgwyl o hyd i awdurdodau lleol ystyried anghenion pobl a dim ond pan na fydd yn bosibl cyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf 2014 cyn iddi gael ei haddasu yn llawn, y bydd yr addasiadau yn gymwys.

Mae'r pwyntiau yn yr Atodiad hwn yr un mor berthnasol i bobl y mae'n debygol y bydd angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae'n debygol y bydd angen cymorth arnynt.

Bydd gan awdurdodau lleol ddyletswydd o hyd i ddiwallu anghenion er mwyn diogelu oedolyn neu ofalwr sy'n oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu rhag wynebu'r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Nodir isod y meini prawf presennol yn Neddf 2014 fel y'u diffinnir gan adran 197 o'r Ddeddf honno. 

ystyr “camdriniaeth” a “cam-drin” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall), ac mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys y canlynol

(a) bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn

(b) bod person yn cael ei dwyllo

(c) bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall

(d) bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio

ystyr 'esgeulustod' ('neglect') yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn)

Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswyddau parhaus o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, yr hawl i fywyd o dan Erthygl 2, yr hawl i fod yn rhydd o driniaeth annynol neu ddiraddiol o dan Erthygl 3, yr hawl i fywyd preifat a theuluol o dan Erthygl 8 a'r hawl i fwynhau hawliau a rhyddid heb wahaniaethu, o dan Erthygl 14. Hefyd, mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau parhaus i roi sylw i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Cyhoeddir canllawiau pellach ar ddiogelu pobl rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan Ran 7 o Ddeddf 2014, nad ydynt wedi cael eu haddasu gan Ddeddf 2020 ac sy'n dal i fod mewn grym yn llawn. Dylid parhau i gydymffurfio â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau y gall awdurdodau lleol ymateb i bwysau cynyddol ar y sector gofal cymdeithasol yn sgil COVID-19, tra bydd darpariaethau Deddf 2020 mewn grym, efallai y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol leihau natur gynhwysfawr arferol eu prosesau ar gyfer cynnal asesiad o anghenion neu asesiad o ofalwr, cadarnhau bod anghenion pobl yn gymwys, cynnal asesiad ariannol a pharatoi neu adolygu cynllun gofal a / neu gymorth.

Dylai awdurdodau lleol barhau i asesu anghenion gofal cymdeithasol a chymorth pobl drwy gydol y cyfnod hwn a dylent wneud cofnod ysgrifenedig o'r asesiad hwn. Dylai Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau y parheir i wneud gwaith cofnodi proffesiynol cymesur a gallant ystyried un ddogfen amgen i'w defnyddio'n lleol.

Mae'n hanfodol y gall awdurdodau lleol ddarparu tystiolaeth i ategu eu penderfyniad, dangos eu barn broffesiynol, cymhwyso'r Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng nghyd-destun COVID-19 a, lle y bo angen, gofnodi eu bod wedi ystyried mesurau amddiffyn gan gynnwys Hawliau perthnasol o dan y Confensiwn.

Efallai na fydd yn bosibl nac yn angenrheidiol i'r asesiadau eu hunain gael eu cynnal wyneb yn wyneb. Felly, dylai awdurdodau lleol ystyried a ellid cynnal asesiadau drwy ddulliau eraill, gan ystyried anghenion gwybyddol, anghenion cyfathrebu a galluedd meddyliol pobl, gan gynnwys:

  • defnyddio trydydd parti/gweithiwr proffesiynol perthynol i gynnal asesiadau o anghenion fel aseswyr y gellir ymddiried ynddynt. Byddai hefyd yn briodol i oedolion y mae angen gofal a chymorth arnynt, neu ofalwyr sy'n cael eu hasesu, ofyn i'r awdurdod lleol gydgysylltu â phobl neu weithwyr proffesiynol eraill er mwyn helpu i gwblhau'r gwiriad
  • asesiadau gan ddefnyddio'r ffôn neu, os bydd yn bosibl, dechnoleg arall fel fideoalwadau, os bydd ar gael, os bydd pobl yn gyfforddus â hyn, ac os gellir eu darparu yn y lleoliad lle mae pobl yn byw
  • bod yn briodol ar gyfer oedran a lefel o ddealltwriaeth y person ac ystyried ei gyflwr penodol a/neu unrhyw nam cyfathrebu

Dylid egluro bod y cyd-destun presennol yn anarferol iawn ac y gall y trefniadau fod yn rhai dros dro a newid pan ddaw'r cyfnod hwn i ben. Dylid gofyn am sylwadau hefyd gan y rheini sy'n pryderu am y gofal a / neu'r cymorth a gaiff yr unigolyn.

Bydd yn hanfodol sicrhau bod unigolion yn deall y cyd-destun presennol, y gall natur y trefniadau newid, gan gynnwys y ffaith y bydd angen penderfynu a yw ei anghenion yn gymwys o dan Ddeddf 2014 ar ryw adeg yn y dyfodol. Gall hyn olygu, rywbryd yn y dyfodol, na fydd yr awdurdod lleol o bosibl, ar sail asesiad o anghenion yr unigolyn ac wrth gymhwyso meini prawf cymhwysedd cenedlaethol, yn credu mwyach bod angen diwallu'r anghenion hynny ac, os felly, bydd angen cytuno ar drefniadau amgen.

Mae angen i awdurdodau lleol sicrhau bod llwybr clir a thryloyw i bobl ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a darparwyr godi pryderon yn gyflym os byddant o'r farn y bydd naill ai'r penderfyniad neu'r pecyn gofal a /neu gymorth yn effeithio ar y mesurau amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Gall cymhwyso egwyddorion gofal cymdeithasol cyffredin Llais, Rheolaeth a Chydgynhyrchu yn gadarn helpu i liniaru yn erbyn pryderon o'r fath drwy rymuso unigolion i ddylanwadu ar eu gofal a / neu eu cymorth a'u llywio.

Mae gweithdrefnau cwyno ac uwchgyfeirio yn parhau fel yr oeddent o dan Ddeddf 2014 cyn iddi gael ei haddasu. O dan Ddeddf 2020, ar ôl i'r cyfnod o argyfwng ddod i ben, os na fydd awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'u dyletswydd i gynnal asesiad perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, gellir dwyn achos gerbron y llys. Mae paragraff 24 o Ran 2 o Atodlen 12 i Ddeddf 2020 yn galluogi llys i ystyried am ba hyd yr oedd yr addasiadau i'r dyletswyddau perthnasol ar waith a nifer yr asesiadau y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol eu cynnal.

Cynllunio a darparu gofal gan ddarparwyr

Dylai gwaith cynllunio gofal gael ei arwain gan un unigolyn, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn a bod yn gymesur â chymhlethdod anghenion unigol gan gwtogi cymaint â phosibl ar waith papur, biwrocratiaeth a phroses, wrth sicrhau y caiff cofnodion digonol eu cadw.

Mae'r addasiadau i Ddeddf 2014 yn rhyddhau awdurdodau lleol o'r ddyletswydd i lunio cynlluniau gofal a / neu gymorth sy'n cydymffurfio.

Yn fwy nag erioed, bydd yn hanfodol bod awdurdodau lleol yn rhoi digon o wybodaeth i ddarpar ddarparwyr er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad hyddysg ynghylch a ddylent dderbyn atgyfeiriad. Rhaid i'r penderfyniad hwn sicrhau a all darparwyr ddiwallu anghenion pobl a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol eu hunain o dan y fframweithiau rheoleiddio perthnasol. Bydd hyn hefyd yn helpu darparwyr i lunio eu cynllun eu hunain ar gyfer gofal a chymorth pobl. Dylai'r wybodaeth hon gael ei nodi ym mha ffurf bynnag ar asesiad a gwblheir ac mae disgwyliad clir y caiff y wybodaeth hon ei rhannu ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Dylai'r awdurdod lleol sicrhau bod darparwyr yn cael digon o wybodaeth i ddatblygu cynllun gofal gyda'r unigolyn. Dylai roi trosolwg o ddymuniadau a theimladau'r unigolyn a chanlyniadau y mae angen eu hystyried a'u cyflawni. Dylid rhannu gwybodaeth am agweddau allweddol ar fyw o ddydd i ddydd, gofal personol ac anghenion o ran maeth a hydradu yn ogystal ag unrhyw gyflyrau meddygol eraill. Mae anghenion gofal penodol y bydd angen i'r darparwr eu hystyried yn bwysig hefyd, megis anghenion o ran cyfathrebu, symudedd ac iechyd meddwl ac anghenion ymddygiadol a gwybyddol. Dylai'r asesiad hefyd ystyried a rhannu unrhyw bryderon o ran diogelu ac asesiadau risg. Dylai'r asesiad a ddarperir alluogi'r darparwr gofal i ddatlbygu cynllun gofal a / neu gymorth priodol ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw drefniadau symleiddio neu addasu yn parhau i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau y gall darparwyr gydymffurfio â'u fframweithiau llywodraethu ac atebolrwydd.

Gall ardaloedd lleol ddewis cytuno ar safon ofynnol y dylai awdurdodau lleol a darparwyr gofal weithio tuag ati ac sy'n adlewyrchu eu sefyllfa leol.

Dylid sicrhau bod penderfyniadau ynghylch taliadau uniongyrchol a chynlluniau gofal a / neu gymorth yn cael eu gwneud mor agos â phosibl at y rheng flaen, gan gyfyngu cyn lleied â phosibl ar hyblygrwydd ac arloesedd o ran y ffordd y caiff anghenion eu diwallu.  Dylid osgoi arferion gweinyddol cyfyngol cymaint â phosibl.

Mae'r addasiadau yn rhyddhau awdurdodau lleol o'r ddyletswydd i ddiwygio cynlluniau gofal a chymorth o dan adran 54 o Ddeddf 2014 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd yn rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried sut y byddant yn ymateb i adolygiadau lle mae anghenion wedi newid yn sylweddol ochr yn ochr â'r Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion y DU gyfan yng nghyd-destun COVID-19 a'r canllawiau ar flaenoriaethu (Gweler Atodiad C isod). 

Efallai y bydd yr adolygiadau hyn yn bwysicach nag asesiadau newydd. Yn gydnaws â'r Matrics Gwneud Penderfyniadau, dylai awdurdodau lleol barhau i gydymffurfio â'r dyletswyddau cyn addasu o dan adran 54 i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny. Pryd bynnag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, dylai awdurdodau lleol barhau i gynnwys yr unigolyn, ei deulu a'i ofalwyr mewn penderfyniadau ynghylch diwygio cynlluniau gofal, gan gynnwys adolygiadau heb eu trefnu lle mae anghenion wedi newid. Efallai y bydd angen cynnal adolygiadau mewn ffyrdd tebyg i asesiadau.

Dylai awdurdodau lleol, darparwyr a'r sawl sy'n cael Taliadau Uniongyrchol gydweithio i gytuno ar yr amgylchiadau lle y gellir amrywio'r pecyn gofal a Thaliadau Uniongyrchol ac i ba raddau y gellir eu hamrywio, heb gynnal adolygiad er mwyn lleihau'r beichiau gweinyddol ar y gweithlu. Mae dyletswyddau awdurdodau lleol i gefnogi unigolion a sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu yr un fath ni waeth a yw'r unigolyn yn cael ei ofal drwy Daliad Uniongyrchol neu wedi'i gomisiynu neu ei ddarparu gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys y trefniadau y cytunwyd arnynt sydd ar waith ar gyfer y sector gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cyfarpar PPE ar gael ac er mwyn monitro'r defnydd a wneir ohono a chyflwyno adroddiadau ar hynny. Mae cynorthwywyr personol yn rhan annatod o deulu'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Addasiadau i asesiadau ariannol a chodi ffioedd yn Ôl-weithredol

Mae addasiadau wedi'u rhoi ar waith o dan Ddeddf 2020 er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol a chymorth pobl heb gynnal asesiad ariannol o'u moddion byw. Mae'r ddeddfwriaeth yn galluogi awdurdodau lleol i gynnal asesiadau yn ddiweddarach a chodi ffioedd yn ôl-weithredol am ddiwallu anghenion yn amodol ar yr asesiadau hynny, ar yr amod y bydd yr awdurdod yn hysbysu'r unigolyn ei bod yn bosibl y codir ffi arno a'i fod yn gwneud hynny pan fydd gofal a chymorth yn cael eu darparu neu cyn hynny.

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn dileu nac yn gwahanu dim un o'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i Ddeddf 2014, y pum set o reoliadau sy'n ymwneud ag agweddau ar godi ffioedd ac asesiadau ariannol na Rhan 4 a Rhan 5 o'r Cod Ymarfer (Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol)(y Codau). Felly, os codir ffi ar unigolyn yn ôl-weithredol, dylai hyn gael ei wneud ar sail asesiad ariannol yn unol â'r trefniadau sydd ar waith o dan Ddeddf 2014, gan sicrhau y gall unigolyn fforddio talu'r ffi a godir arno a bod y trefniadau yn glir ac yn dryloyw.

Fel y nodir yn y Codau, dylai awdurdodau lleol bob amser sicrhau bod digon o wybodaeth a chyngor am eu polisïau ar godi ffioedd ar gael a'u bod mewn fformatau priodol er mwyn helpu pobl i ddeall pam y codir ffioedd arnynt a'r ffordd y caiff ffioedd o'r fath eu cyfrifo. Dylai awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o'r wybodaeth a'r cyngor ariannol annibynnol sydd ar gael.  Bydd hyn yn arbennig o bwysig pan ddefnyddir addasiadau a bydd yn hollbwysig er mwyn helpu pobl i ddeall costau posibl yn y dyfodol, yn enwedig pan allant fod yn bryderus eisoes ac y gallai fod angen rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl iddynt.

Dylai gweithwyr cymdeithasol, ac eraill sy'n darparu'r wybodaeth hon, hefyd ystyried pa wybodaeth y gellir ei rhoi er mwn dangos ffioedd tebygol amcangyfrifedig am y math o ofal a chymorth sydd eu hangen, er enghraifft hysbysu'r unigolyn am y ddarpariaeth ynglŷn â'r uchafswm ffi wythnosol ym maes gofal amhreswyl a disgrifiad byr o'r trefniadau sy'n gymwys i godi ffioedd am ofal preswyl.  Bydd hyn yn helpu pobl i feithrin dealltwriaeth gychwynnol dda o'r math o ffioedd sy'n cael eu codi.

Yn unol â'r Codau, lle y bo'n briodol, disgwylir i awdurdodau lleol bob amser ymgynghori ac ymgysylltu ag aelodau o'r teulu a / neu'r unigolyn sydd â'r awdurdod cyfreithiol i wneud pendefyniadau ariannol ar ran unigolyn na all wneud hynny. Dylai'r ymgysylltu hwn ddigwydd o hyd fel rhan o'r asesiad ariannol, y gellir ei ohirio tan ar ôl y cyfnod o argyfwng. Pan gaiff yr asesiad ariannol ei ohirio fel hyn, bydd yn bwysig rhoi gwybod i bobl y gall fod costau yn gysylltiedig â'r gofal a'r cymorth a ddarperir, o leiaf. Dylid sicrhau pobl na chaiff unrhyw ffi ei chodi hyd nes i'r asesiad ariannol gael ei gwblhau.

Mae'r Codau yn nodi'n glir nad yw'n ofynnol i awdurdodau lleol godi ffi ar ofalwyr am gymorth ac, mewn sawl achos, na fyddai'n arbed dim o wneud hynny. Mae gofalwyr eisoes yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddarparu gofal a chymorth a bydd eu cyfraniad yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng yn bwysicach fyth. Felly, yn unol â gofynion y Codau, dylai awdurdodau lleol sicrhau na fydd unrhyw ffioedd yn cael effaith negyddol ar allu gofalwr i ofalu am ei iechyd a'i lesiant ei hun a gofalu'n effeithiol ac yn ddiogel am y person sy'n derbyn gofal. Nid yw'r darpariaethau brys yn newid y gofynion presennol, er enghraifft, o ran cwynion, amddifadu o asedau yn fwriadol, ffioedd gweinyddol a thaliadau am gostau ychwanegol mewn gofal preswyl. 

Dylid sicrhau bod cytundebau taliadau gohiriedig, fel y'u nodir yn y Codau, ar gael o hyd i bobl gymwys ar ôl i'r asesiad ariannol gael ei gwblhau yn ddiweddarach. Mae cytundebau taliadau gohiriedig yn gofyn am rywfaint o wybodaeth ariannol er mwyn i awdurdodau lleol allu bod yn siŵr nad ydynt yn ymgymryd â risg ansicredig a gosod arwystl cyfreithiol ar eiddo unigolyn. Dylai cytundebau taliadau gohiriedig gael eu codi fel rhan o'r broses arferol o rannu gwybodaeth a chyngor perthnasol.

Atodiad C – Canllawiau ar flaenoriaethu

Canllawiau ar flaenoriaethu darpariaeth gofal cymdeithasol ac amseroldeb y ddarpariaeth o fewn yr Addasiadau i Ddeddf 2014

Bydd adrannau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yn hen gyfarwydd ag ymateb i argyfyngau lle mae digwyddiad neu fethiant gan ddarparwr yn golygu bod angen iddynt ddarparu cymorth yn gyflym. Weithiau, mae'n bosibl y bydd angen iddynt flaenoriaethu wrth ddarparu'r cymorth hwnnw er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf ac sy'n wynebu'r risg fwyaf, yn cael y cymorth hwn fel blaenoriaeth.

Mae'n rhaid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â Fframwaith Moesegol y DU gyfan ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng nghyd-destun COVID-19.

Mae'r her sy'n wynebu awdurdodau lleol ar hyn o bryd gyda COVID-19 yn golygu y gall fod angen ystyried blaenoriaethu dros gyfnod hwy oherwydd senarios sy'n newid yn gyflym. 

Lluniwyd y canllawiau hyn er mwyn darparu adnodd defnyddiol i Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol wrth ystyried sut i flaenoriaethu gofal a chymorth os bydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu bod angen iddo arfer ei swyddogaethau yn unol â'r addasiadau i Ddeddf 2014. Mae'n hanfodol bod ymarferwyr ym mhob rhan o'r sector gofal cymdeithasol yn parhau i ddefnyddio eu sgiliau, eu profiadau a'u barn a'u goruchwyliaeth broffesiynol i werthuso'r holl senarios a all godi a mynd i'r afael â nhw. Eu nod yw helpu ymarferwyr i bennu a darparu gofal a /neu gymorth mewn ffordd sy'n cael ei llywio gan risg, gan sicrhau bod pawb, lle y bo'n bosibl, yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt ond bod y rhai â'r angen mwyaf yn cael y cymorth hwn fel blaenoriaeth.

Mae gofal cymdeithasol yn wasanaeth a ddarperir ac a arweinir yn lleol, sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr a chymunedau a diwylliannau lleol. Gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a nyrsys yw'r grŵp proffesiynol craidd ac, felly, mae ganddynt gyfrifoldebau ac atebolrwydd proffesiynol clir. Bydd arweinwyr proffesiynol lleol yn allweddol er mwyn sicrhau y caiff y canllawiau hyn eu rhoi ar waith a'u deall. Dylid defnyddio sgiliau a phrofiad y gweithwyr proffesiynol hyn er mwyn helpu i ddatblygu, cymeradwyo ac adolygu prosesau y cyfunir arnynt yn lleol, a fyddai'n cael eu llywio gan y canllawiau hyn.

Deall anghenion gofal lleol a blaenoriaethu

Egwyddor sylfaenol

Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol eisoes wedi mapio'r holl becynnau hysbys presennol yn ôl cymhlethdod ac angen gan gynnwys y rhai sydd wedi dewis rheoli eu gofal a'u cymorth eu hunain gan ddefnyddio taliad uniongyrchol. 

Mae'n bwysig bod gwaith mapio cynnar yn ystyried y cymhlethdod, y risg a'r lefel o angen yn y pecyn gofal ac nid y ddarpariaeth bresennol yn unig. Dylai hyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'r risg os effeithir ar ddarpariaeth gofal. Mae'n rhaid i waith mapio gynnwys y rôl hollbwysig a chwaraeir gan ofalwyr anffurfiol a'r risgiau a'r pwysau a fydd yn codi os caiff y gofal a'r cymorth holl bwysig a ddarperir gan ofalwr unigol eu lleihau. Bydd hyn yn sicrhau bod gwybodaeth awdurdodau lleol am unigolyn a'i amgylchiadau personol yn llywio unrhyw waith blaenoriaethu sydd angen ei wneud os bydd y sefyllfa yn gofyn amdano. 

Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried buddiannau ychwanegol mapio anghenion gofal a chymorth y rheini sy'n hunangyllido lle y byddant yn ymwybodol o gymhlethdodau a /neu risgiau penodol; a oes gan yr unigolion hynny gynlluniau wrth gefn ar waith i ymateb i'r pandemig; a pha gyngor neu gymorth y gallai fod yn rhesymol iddynt eu darparu neu eu hwyluso os bydd angen rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith.

Gall awdurdodau lleol ddewis mabwysiadu dull sgorio coch melyn a gwyrdd (RAG). Yn achos y rhai â phecyn gofal cymysg, efallai y bydd yn briodol nodi pob elfen ond canolbwyntio ar yr elfen fwyaf hanfodol o ofal a /neu gymorth ar gyfer gwaith mapio.

Blaenoriaethu

Os byddant yn gweithredu o dan yr addasiadau i Ddeddf 2014, efallai y bydd angen i awdurdodau lleol flaenoriaethu pecynnau gofal a / neu gymorth. Yn y lle cyntaf, byddech yn ystyried y rhai y nodwyd eu bod yn becynnau gofal uchel a chymedrol a oedd eisoes wedi'u mapio. Gall y broses o flaenoriaethu gofal unigol newid, wrth i lefelau risg ac angen amrywio.  Bydd angen ystyried gwybodaeth newydd megis cyfranogiad gofalwyr a chynaliadwyedd y gofal hwnnw neu a yw unigolyn yn teimlo'n anhwylus nawr ar ôl cael ei heintio â COVID-19. 

Mae awdurdodau lleol eisoes wedi cadarnhau eu bod wedi cynnal ymarferion blaenoriaethu sy'n adlewyrchu'r anghenion a'r gwasanaethau penodol yn eu hardaloedd eu hunain ac mewn ardaloedd cyfagos. Nid yw Llywodraeth Cymru am gynnig methodolegau amgen yn lle'r trefniadau sefydledig, gan gynnwys cyd-gymorth ar draws awdurdodau.

Mae'r Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion yn nodi'n glir bod yn rhaid i awdurdodau lleol barhau i weithio gydag unigolion mewn ffordd bersonoledig ac effeithiol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses hon gymaint â phosibl.

Nid yw'r egwyddorion cyffredin ar gyfer gofal cymdeithasol, sef Llais, Rheolaeth a Chydgynhyrchu, wedi cael eu haddasu. Dylai awdurdodau lleol ystyried pob elfen o fywyd unigolyn a all effeithio ar ei anghenion a'i amgylchiadau personol. Gall y rhain gynnwys problemau cymdeithasol megis cam-drin domestig, problemau ariannol a'r cymorth hanfodol a ddarperir gan eu teuluoedd a gofalwyr nad yw efallai'n bosibl, yn briodol nac yn gynaliadwy yn yr hinsawdd bresennol. Dylai awdurdodau lleol hefyd ddeall pa adnoddau, asedau/cynigion sydd ar gael i'r person, gan gynnwys gwybodaeth am gymorth cymunedol neu gymdogaethol a'r gallu i gafael arno, er enghraifft a yw'n cael cymorth gan yr awdurdod lleol neu wirfoddolwyr o ran casglu presgripsiynau a dosbarthu cyflenwadau bwyd, ac a yw'r person (neu ei ofalwr) yn gwarchod ei hun ar hyn o bryd.

Atodiad D: Canllawiau ar ddiogelu

Mae diogelu oedolion yn dal i fod yn un o ddyletswyddau statudol Awdurdodau Lleol i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Nid yw Deddf y Coronafeirws 2020 yn effeithio ar yr un o'r mesurau diogelu yn Neddf 2014, yn enwedig Rhan 7 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae hefyd yn bwysig y gall timau diogelu fod yn gymesur o ran eu hymatebion ac yn ystyried yr heriau ychwanegol y bydd y pandemig yn eu cyflwyno i ddarparwyr gofal cymdeithasol a'r penderfyniadau y maent yn debygol o'u hwynebu wrth reoli urddas unigolyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd pryderon ynghylch diogelu a nifer yr atgyfeiriadau yn cynyddu, o bosibl, yn ystod argyfwng COVID-19, gyda mwy o bobl yn cael cymorth ac anghenion cymorth yn newid, a all ysgogi pryderon.  Mae diogelu yn fusnes i bawb ac, felly, mae'n bwysig ein bod yn effro i bryderon posibl ynghylch camdriniaeth neu esgeulustod. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol, darparwyr gofal cymdeithasol, y sector iechyd gwirfoddol a'n cymunedau barhau i weithio er mwyn atal a lleihau'r risg o niwed i bobl ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys y rhai y mae COVID-19 yn effeithio arnynt.

Mae'n rhaid blaenoriaethu diogelwch uniongyrchol yr oedolyn sydd mewn perygl a'i ofalwyr bob amser. Pan wneir penderfyniadau er mwyn blaenoriaethu ymatebion i bryderon diogelu, rhaid i benderfyniadau o'r fath gael eu hawdurdodi gan y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol drwy drafod â phartneriaid yn y Bwrdd Diogelu, lle bynnag y bo'n rhesymol bosibl.

Mae'r Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion yn cefnogi'r gwaith parhaus o gynllunio ymatebion a gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddigonol i set graidd o werthoedd ac egwyddorion moesegol wrth drefnu a darparu gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys ar gyfer diogelu.

Mae gan bob darparwr gofal cymdeithasol i oedolion neu ofal iechyd rôl allweddol i'w chwarae wrth ddiogelu oedolion yn eu gofal ac mae gan bob asiantaeth ddyletswydd i sicrhau na fydd oedi wrth gynllunio gofal a chymorth yn golygu bod oedolion ag anghenion gofal a chymorth, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae'n rhaid i gyflogwyr sicrhau bod staff, gan gynnwys gwirfoddolwyr, yn cael hyfforddiant ar sut i adnabod arwyddion a symptomau camdriniaeth neu esgeulustod, sut i ymateb, a ble i gael cyngor a chymorth.

Atodiad E: Dolen i ddeddf y coronafeirws a nodiadau esboniadol cysylltiedig