Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cychwyn adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (a fewnosodwyd gan adran 56 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae adran 144B yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad (yr Adroddiadau), gan gynnwys asesiad o ddigonolrwydd gofal a chymorth a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio yn ardal yr awdurdod lleol. Bydd rheoliadau’n cael eu gwneud o dan a.144B sy’n ymdrin â’r cyfnod asesu, materion sydd i’w trafod yn yr adroddiad mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig, a’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cyhoeddi’r Adroddiadau; a byddwn hefyd yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 fel bod rhaid paratoi a chyhoeddi Adroddiadau ar ôl troed rhanbarthol, gydag awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio gyda’i gilydd drwy’r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Bydd y rheoliadau’n cael eu hategu gan god ymarfer ar gyfer awdurdodau lleol, a chanllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth ar gyfer awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

Mae’r camau gweithredu hyn yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru, a ddechreuodd gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy (2010), i ddiogelu sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn y tymor hwy yng Nghymru. Conglfeini’r rhaglen hon yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’) a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (‘Deddf 2016’), ac mae’r camau gweithredu hyn yn rhoi adran 144B o Ddeddf 2014 ar waith, a fydd yn cael ei mewnosod drwy adran 56 o Ddeddf 2016. 

Y tymor hir

Rydyn ni’n cynnig mynnu bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cynhyrchu Adroddiadau bob pum mlynedd, gyda’r adroddiadau cyntaf i gael eu cyhoeddi erbyn 1 Mehefin 2022. Mae hyn yn cyd-fynd â chylch etholiadol llywodraeth leol, ac yn rhoi’r Adroddiadau mewn cylch cynllunio a chomisiynu strategol sy’n cynnwys asesiadau anghenion poblogaeth rhanbarthol (PNA) a chynlluniau ardal. Mae PNA yn darparu data am yr angen a’r galw am ofal a chymorth yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a’r math a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen (h.y. data ar yr ochr galw), tra bydd Adroddiadau yn darparu asesiad o ddigonolrwydd y gofal a’r ddarpariaeth ac o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio (data ar yr ochr gyflenwi). Gyda’i gilydd, byddant yn helpu i lywio a siapio’r cynllun ardal strategol ar gyfer y rhanbarth. 

Bydd yr Adroddiadau’n canolbwyntio nid yn unig ar a yw’r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol i ddiwallu’r galw a nodir yn y PNA, ac a yw’r farchnad bresennol ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir yn sefydlog, ond hefyd ar gynaliadwyedd y ddarpariaeth a fesurir yn erbyn y galw a ragwelir yn y dyfodol a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaeth. Ymysg y ‘materion’ rydym yn cynnig eu nodi yn y rheoliadau mewn perthynas â gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio y mae tueddiadau ac effaith presennol neu sy’n datblygu neu effaith debygol ar ddigonolrwydd, ansawdd neu sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau; unrhyw heriau sylweddol o ran digonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth ar hyn o bryd neu yn y dyfodol; ac effaith comisiynu a chyllido ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio sy’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys dulliau rhanbarthol a defnyddio cyllid ar y cyd. Y bwriad yw y bydd y rhain yn galluogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gymryd golwg fwy strategol ar y ddarpariaeth gofal a chymorth dros y pum mlynedd nesaf, ac yn eu helpu i siapio ac ail-gydbwyso marchnadoedd gofal cymdeithasol (‘eu diogelu ar gyfer y dyfodol’). 

Mae’r gwaith hwn wedi cael ei wneud ochr yn ochr â pharatoi ymgynghoriad Papur Gwyn ar ailgydbwyso gofal a chymorth, gan gynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd i wella trefniadau ar gyfer gofal a chymorth a chryfhau gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r weledigaeth a nodir yn Neddf 2014. Mae hyn yn cynnwys gosod fframwaith cenedlaethol clir i gefnogi gwasanaethau i gael eu cynllunio’n rhanbarthol a’u darparu’n lleol, ac ar gyfer cryfhau trefniadau partneriaeth. Bydd dadansoddi’r Adroddiadau a’r cylch nesaf o PNA yn helpu i fwydo i mewn i’r dull fframwaith cenedlaethol ehangach hwn yn ystod tymor nesaf Senedd Cymru.

Atal

Mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn egwyddorion sylfaenol yn Neddf 2014, sy’n ceisio cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned er mwyn sicrhau’r lleiaf posibl o gynnydd o ran angen critigol. Bydd yr Adroddiadau yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol asesu digonolrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau ataliol. Nid yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu rheoleiddio, sy’n golygu nad oes gofyniad cyfreithiol yn adran 144B i asesu sefydlogrwydd y farchnad ar eu cyfer, ond rydym yn bwriadu defnyddio’r cod ymarfer i annog Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gymryd golwg gyfannol ar eu marchnadoedd gofal cymdeithasol wrth ymgymryd â’u Hadroddiadau. 

Integreiddio

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o ofal cymdeithasol yn cael ei gomisiynu gan awdurdodau lleol, er bod peth yn cael ei gomisiynu ar y cyd â’r GIG (e.e. gofal preswyl gyda nyrsio) ac mae rhywfaint o hunan-ariannu neu’n cael ei drefnu drwy Daliadau Uniongyrchol. Mae’r Adroddiadau yn gyfle i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol fabwysiadu dull mwy integredig a chydweithredol o gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau gofal a chymorth gan gynnwys gofal preswyl a gofal cartref. Maent yn cefnogi’r dull rydym wedi’i fabwysiadu i ddatblygu rôl Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel partneriaethau rhanbarthol strategol, a byddant yn caniatáu ar gyfer dulliau mwy integredig a strategol o gomisiynu gwasanaethau sy’n costio’n ddrud ac yn fychan o ran nifer, fel gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl anabl, neu lety diogel i blant ag anghenion cymhleth. Dylai’r Adroddiadau helpu i hwyluso’r defnydd o gyllidebau cyfun, sydd eisoes yn ofynnol o dan Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, a hefyd ddulliau gweithredu newydd sy’n datblygu fel y dull ‘Dim Drws Anghywir’ a argymhellwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru. 

Cydweithio

Mae gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol aelodaeth eang, sy’n cynnwys asiantaethau statudol (awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol) a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys cynrychiolwyr dinasyddion a darparwyr a’r trydydd sector. Wrth ddatblygu ein cynigion, rydym wedi gweithio gyda grŵp cyfeirio bach gan gynnwys Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Consortiwm Comisiynu Plant Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Roedd y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Medi a 25 Tachwedd 2020, a chafodd negeseuon allweddol yr ymgynghoriad eu hystyried gan y grŵp cyfeirio cyn i’r cod ymarfer a’r canllawiau statudol gael eu diwygio a’u hailysgrifennu’n sylweddol. Mae’r holl ddull o gynhyrchu Adroddiadau yn seiliedig ar gydweithio rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol, gan weithio drwy’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. 

Cyfranogiad

Mae’r rheoliadau sy’n llywodraethu PNA eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ymgysylltu â dinasyddion a darparwyr gofal a chymorth wrth eu paratoi. Yn anffodus, nid yw’r pŵer i wneud rheoliadau yng nghyswllt Adroddiadau yn caniatáu i ni gynnwys hyn mewn rheoliadau, ond byddwn yn defnyddio’r cod ymarfer a’r canllawiau statudol i wneud hyn yn ofyniad ar gyfer yr Adroddiadau hefyd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ystod eang o ddinasyddion, gan gynnwys plant a phobl ifanc, fod yn rhan o’r asesiadau digonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad, a bydd gan eu cynrychiolwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol rôl i’w chwarae wrth ystyried yr adroddiad terfynol. Bydd yr un peth yn wir am ddarparwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys y Fforymau Gwerth Cymdeithasol rhanbarthol. Bydd yn ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol baratoi eu Hadroddiadau yn unol ag egwyddorion Deddf 2014, sy’n cynnwys cyd-gynhyrchu a rhoi mwy o lais a rheolaeth i ddinasyddion. 

Mecanwaith

Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â chychwyn a gweithredu deddfwriaeth sydd eisoes yn y llyfr statudau, llunio rheoliadau, a llunio cod ymarfer a chanllawiau statudol i gefnogi’r broses o’u rhoi ar waith gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.  

Ystyriwyd tri opsiwn wrth ddatblygu’r cynigion hyn: 

  • opsiwn 1 – cynnal y sefyllfa bresennol, h.y. peidio â chychwyn yr adrannau hyn o’r Deddfau ar hyn o bryd, ac felly peidio â rhoi dyletswydd ffurfiol ar awdurdodau lleol i baratoi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad
  • opsiwn 2 – cychwyn adran 56 o Ddeddf 2016 a gwneud rheoliadau dan adran 144B o Ddeddf 2014, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Byddai hyn yn cael ei ategu gan god ymarfer ar gyfer awdurdodau lleol
  • opsiwn 3 – fel opsiwn 2, ond hefyd diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 fel ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol baratoi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer eu rhanbarth, gan weithio drwy’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Yn ogystal â chod ymarfer, byddai canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth hefyd yn cael eu cyhoeddi

Mae costau, manteision a risgiau pob un o’r opsiynau hyn wedi’u nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n rhan o’r Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021, ac a fydd yn cael eu cyhoeddi pan fydd y rheoliadau’n cael eu gosod gerbron Senedd Cymru ym mis Ionawr 2021. 

Casgliad

7.1    Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Mae adran 144B o Ddeddf 2014 yn cynnwys gofyniad i Weinidogion Cymru ymgynghori ag ‘unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy’ cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran honno. Sefydlwyd grŵp cyfeirio bychan i ddatblygu rheoliadau drafft a chod ymarfer ategol a chanllawiau statudol, gyda mewnbwn gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Consortiwm Comisiynu Plant Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Medi a 25 Tachwedd 2020. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, a phwysau gwaith sy’n gysylltiedig â Covid, nid oedd y broses ymgynghori mor eang ag y byddem wedi’i hoffi, ond roedd yr ymatebion a gafwyd (19 i gyd) yn gynhwysfawr ac yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys chwech o’r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, sefydliadau darparwyr, y trydydd sector ac undebau llafur. Trafodwyd canfyddiadau’r ymgynghoriad gyda’r grŵp cyfeirio, a chafodd y cod ymarfer ei ddiwygio a’i ailysgrifennu’n sylweddol yng ngoleuni’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Rhaid cynhyrchu’r adroddiadau cyntaf ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Mehefin 2022, ac mae gofyniad yn y cod ymarfer a’r canllawiau i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ymgysylltu â dinasyddion a darparwyr wrth gynnal yr asesiadau digonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad. 

7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, y cod ymarfer a’r canllawiau statudol, bydd awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol, drwy weithio gyda’u partneriaid yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yn paratoi ac yn cyhoeddi saith Adroddiad rhanbarthol ar Sefydlogrwydd y Farchnad erbyn 1 Mehefin 2022 a phob pum mlynedd ar ôl hynny.  

Bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cynnwys asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal a chymorth ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac asesiad o sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio. Ynghyd â’r asesiad rhanbarthol o anghenion y boblogaeth, bydd yr Adroddiadau’n helpu i lywio a llunio’r rownd nesaf o Gynlluniau Ardal, a gyhoeddir erbyn 1 Ebrill 2023. Felly, dylai Adroddiadau gael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar benderfyniadau cynllunio a chomisiynu lleol a rhanbarthol. 

Bydd yr adroddiadau hefyd yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru, ac yn helpu i greu darlun cenedlaethol o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal a chymorth a sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y farchnad gofal cymdeithasol.

Os paratoir yr Adroddiadau yn effeithiol yn unol â’r cod ymarfer a’r canllawiau statudol, byddant yn helpu i ganfod ymhle y mae bylchau yn y ddarpariaeth gofal a chymorth, gan alluogi comisiynwyr gofal cymdeithasol (awdurdodau lleol yn bennaf) a darparwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am ddarpariaeth a buddsoddiad yn y dyfodol. Yn yr un modd, dylai Adroddiadau helpu yn y pen draw i wneud marchnadoedd gofal cymdeithasol yn fwy sefydlog a chynaliadwy, a fydd yn ei dro yn sicrhau bod y math a’r lefel o wasanaethau gofal a chymorth sydd ar gael mewn cymunedau lleol yn diwallu anghenion a disgwyliadau unigolion mewn ffyrdd sy’n eu galluogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol. Bydd Adroddiadau yn helpu i ddiogelu marchnadoedd ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol (yn enwedig gwasanaethau a reoleiddir) drwy ystyried tueddiadau, heriau, cyfleoedd a risgiau. 

Bydd yr Adroddiadau’n helpu i ddal awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn atebol i’r boblogaeth a wasanaethir ganddynt, drwy ddarparu tryloywder o ran y ffordd y mae adnoddau’n cael eu defnyddio a sut mae penderfyniadau ynghylch darparu gwasanaethau’n cael eu gwneud.

Dylai’r Adroddiadau hefyd helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol, gan y bydd effaith cyfansoddiad a nodweddion y gweithlu gofal cymdeithasol yn ffactor pwysig wrth benderfynu ar ddigonolrwydd y gofal a’r cymorth a ddarperir yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Dylai hyn gynnwys maint a natur unrhyw ddiffyg mewn niferoedd mewn unrhyw sector penodol, ac unrhyw risgiau neu heriau yn awr neu a ragwelir yn y dyfodol. Bydd hefyd angen i’r asesiad ystyried effaith recriwtio, datblygu a hyfforddi’r gweithlu gofal cymdeithasol ar ddarparu gofal a chymorth, a nodi unrhyw fylchau mewn sgiliau, gan gynnwys lle mae prinder staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i ddarparu modelau penodol o ofal (er enghraifft, dulliau gweithredu ar sail trawma o ran gweithio gyda phlant mewn gofal, neu ddulliau nyrsio mewn cartrefi gofal i oedolion sy’n cynnwys darpariaeth nyrsio).

Dylai’r Adroddiadau gael effaith gadarnhaol ar ailgydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol a chreu sylfaen fwy amrywiol o ddarparwyr gan ganolbwyntio’n benodol ar werth cymdeithasol. Byddant yn helpu’n arbennig i ddatblygu dulliau gwerth cymdeithasol o gomisiynu a chaffael, gan gynnwys datblygu mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a darpariaeth trydydd sector, gan helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd o dan adran 16 o Ddeddf 2014.  Bydd y gofyniad i gynhyrchu’r Adroddiadau ar sail ôl-troed rhanbarthol drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn helpu i sicrhau y bydd dull integredig yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Bydd hyn yn arbennig o bwysig pan fydd gwasanaethau’n cael eu comisiynu ar y cyd gan awdurdodau lleol a’r GIG (e.e. gofal preswyl gyda nyrsio, neu wasanaethau ailalluogi ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd adref o’r ysbyty); ond y gobaith yw y byddant hefyd yn annog ac yn ysgogi dulliau mwy arloesol a rennir, efallai ar sail ranbarthol, megis datblygu llety diogel i blant ag anghenion cymhleth. Dylai’r Adroddiadau helpu i ddarparu gofal a chymorth cofleidiol mwy holistaidd, er mwyn diwallu’r ystod o anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant sydd gan bobl. (Bydd hyn yn cyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol o Gymru iachach.)

Mae’n bosibl y bydd manteision o ran darpariaeth yn yr iaith Gymraeg, o ran bod yn rhaid i’r Adroddiadau asesu digonolrwydd y gofal a’r cymorth a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a’r farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio sy’n cael eu darparu yn Gymraeg. Gobeithir y bydd hyn yn ysgogi twf darpariaeth newydd i ddiwallu’r angen a’r galw a ganfuwyd. (Bydd hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol, sef Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy’n fwy cyfartal.)
Yn gyffredinol, drwy helpu i greu gwell dealltwriaeth o sut mae’r cyflenwad yn cyd-fynd â’r angen a’r galw, a natur marchnadoedd lleol a rhanbarthol ar gyfer gofal cymdeithasol, dylai Adroddiadau gael effaith gadarnhaol o ran adeiladu sector gofal a chymorth cytbwys sy’n diwallu anghenion penodedig poblogaethau lleol ledled Cymru – gan hyrwyddo nod Deddf 2014 y dylai pob unigolyn sydd angen gofal a chymorth, a phob gofalwr sydd angen cymorth, gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau llesiant. (Bydd hyn yn cyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol o Gymru iachach.)  

7.3 Gan ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn: 

  • cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu’n
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Fel y nodir uchod, bydd effeithiau arfaethedig yr Adroddiadau’n cyfrannu’n benodol at y nodau llesiant canlynol: 

  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Bydd yr Adroddiadau’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gydweithio, gyda’u partneriaid yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i asesu dau faes a allai o bosibl gael effeithiau negyddol ar fywydau rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru: i ba raddau y mae darpariaeth gofal a chymorth yn ddigonol i ddiwallu’r galw; ac i ba raddau y mae marchnadoedd gofal cymdeithasol yn sefydlog ac yn gynaliadwy. Mae’n rhaid i’r Adroddiadau asesu tueddiadau, heriau a risgiau, a bydd hefyd yn nodi cyfleoedd ar gyfer siapio ac ail-gydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol gyffredinol. Dylai hyn helpu awdurdodau lleol, y GIG a phartneriaid perthnasol eraill i ganfod bylchau a meysydd sydd angen rhagor o fuddsoddiad, ac i liniaru’r risgiau i sefydlogrwydd y farchnad. Er na fydd yr Adroddiadau’n cyflawni hyn ar eu pen eu hunain, mae ganddynt y potensial i fod yn arf defnyddiol i helpu i gyflawni nodau Deddf 2014.  

7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Rhaid cyflwyno’r Adroddiadau i Weinidogion Cymru pan gânt eu cwblhau. Disgwylir yr adroddiadau cyntaf erbyn 1 Mehefin 2022. Bydd Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio’r adroddiadau, ynghyd â ffynonellau data a gwybodaeth berthnasol arall, i greu trosolwg cenedlaethol o ddigonolrwydd gofal a chymorth, ac o siâp a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio a gwasanaethau eraill yng Nghymru. Bydd yr Adroddiadau’n cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru ar gomisiynu, darparu adnoddau ac ail-lunio gofal a chymorth, helpu Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu dull cymesur a phriodol o oruchwylio’r farchnad, a chyfrannu at drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ynghylch eu cynlluniau ardal strategol. 
Bydd Adroddiadau’n cael eu hadolygu’n flynyddol, a rhaid i gynlluniau diwygiedig (neu adendwm i gynlluniau presennol) hefyd gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru pan fydd newidiadau’n cael eu gwneud o ganlyniad i’r adolygiadau hyn. Bydd yr hyn a ddysgir o’r rownd gyntaf o asesiadau, ac o’r adolygiadau blynyddol, yn cael ei ddefnyddio i lunio cylchoedd dilynol.