ae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion.
Manylion
Cyllido’r Gronfa Rhwydweithiau Natur ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
20 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi dyrannu cyllid refeniw ychwanegol o £3.3 miliwn i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn 2024 i 2025 i'w helpu i gyflawni eu dibenion statudol, a thua £2.350 miliwn i'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn 2024 i 2025 i ariannu pum prosiect ychwanegol.
Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar y Cynllun Bathodyn Glas
20 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gaffael Gwasanaeth Cynghori Annibynnol i barhau i ddarparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol yng Nghymru o ran asesu ceisiadau cymhwysedd am fathodyn glas. Hyd y contract fydd dwy flynedd i ddechrau, ac yna bydd adolygiad pellach yn cynnig estyniad posibl am 2 flynedd arall cyn terfynu.
Rhaglen Buddsoddi Llifogydd a Dŵr
20 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y rhaglen gyfalaf a refeniw ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Chyflenwi Polisi Dŵr ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso
20 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau a argymhellir gan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.
Dyraniadau cyllid ar gyfer Cymorth ac Atal Digartrefedd
20 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol a'r Prif Weinidog wedi cytuno i'r dyraniadau terfynol ar gyfer Cefnogi ac Atal Digartrefedd 2025 i 2026, gan gynnwys ar gyfer y Grant Cymorth Tai.
Cais Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol
20 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gwrthod cais gan Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol i gael ei gynnwys ar y Rhestr o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol a gyhoeddir.
Penderfyniad ar Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ym Melin Bapur Shotton
20 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu cyfleuster gwres a phŵer cyfun sydd â’r capasiti i gynhyrchu 69 MW.
Datblygu Castell Caerffili
20 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth wedi cytuno i fwrw ymlaen â Cham II yn unol â’r bwriad presennol, ond i adolygu’r cynllun gyda’r amcan o leihau costau heb effeithio ar y sgôp na’r ansawdd.
Cyllid at ddibenion Addysg Drydyddol Ryngwladol rhwng mis Awst 2025 a mis Gorffennaf 2026
18 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cytuno i ddarparu £500k o gymorth ariannu trosiannol am flwyddyn er mwyn parhau i gynnal gweithgareddau addysg rhyngwladol a ariennir ar hyn o bryd drwy brosiect Cymru Fyd-eang III.
Gwaredu Uned 4, Dragon 24, Penlle’r-gaer
18 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaredu eiddo ar brydles yn Abertawe.
Cyfnewid Fflyd Gwasanaeth Gwaed Cymru
18 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf o £2.953 miliwn dros 3 blynedd (2025 i 2026 hyd at 2027 i 2028) ar gyfer cyfnewid hen gerbydau Fflyd Trafnidiaeth a Logisteg Gwasanaeth Gwaed Cymru am rai newydd yn raddol.
Cymeradwyo ceisiadau am gyllid cynlluniau diogelwch adeiladu y cytunwyd arnynt
18 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddarparu hyd at £250,000 o gyllid ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 i bum ymgeisydd yn y sector preifat ar gyfer gwaith adfer diogelwch tân.
Darparu Gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru
18 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo parhau i gyllido Gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a'r cyllid craidd i Cwmpas a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru yn 2025 i 2026.
Penodi Aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
18 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Wyn Thomas am 4 blynedd rhwng 1 Mawrth 2025 a 28 Chwefror 2029.
Penodi Aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
18 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Dr Salamatu Fada am 4 blynedd rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2029.
Penodi Aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
18 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Rhys Evans am 4 blynedd rhwng 1 Mawrth 2025 a 28 Chwefror 2029.
Cymorth busnes
17 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.
Cymorth busnes
17 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws De-ddwyrain Cymru.
Cymorth busnes
17 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerffili.
Comisiynydd Plant Cymru
17 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo'r cyllid grant ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2025 i 2026.
Canolfan y Gymraeg Coleg Cambria
17 Mawrth 2025
Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect Canolfan y Gymraeg (CAMU) Coleg Cambria.
Perthynas Strategol Busnes yn y Gymuned
17 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo parhad perthynas strategol gyda Busnes yn y Gymuned gyda chyllid grant o £25,000 ar gyfer 2025 i 2026.
Penodiadau Cyhoeddus Seafish 2025
17 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr argymhelliad i beidio â llenwi'r swyddi gwag.
Trawsnewid Trefi
17 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid Benthyciad Trawsnewid Trefi i Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Abertawe.
Cronfa Tai gyda Gofal – Cynigion Prosiect
17 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £5,652,213 ar gyfer deg cynllun ar draws pum rhanbarth yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar £582,450 ar gyfer un cynllun ar draws un rhanbarth o Gymru fel y cynllun.
Arian cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
17 Mawrth 2025
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip y cais am gyllid o £19,320 gan Llwybrau Newydd i ddarparu darpariaeth diogelwch hanfodol.
Rhaglen Amnewid Cerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
13 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo £22.4 miliwn yn 2025 i 2026 fel rhan o raglen Amnewid Cerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Cymorth Ariannol Hybu Cig Cymru
13 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cefnogaeth ariannol i Hybu Cig Cymru.
Cronfa Ddysgu Undeb Cymru a Chymeradwyo Cyllid TUC Cymru
13 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi'r gwaith o ddarparu Cronfa Ddysgu Undeb Cymru a gweithgareddau TUC Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 4 Chwefror 2025
13 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi Twristiaeth Cymru ar gyfer prosiect yng Ngheredigion.
Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo
12 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflawni gweithgareddau adfywio'r Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2027.
Dyraniadau'r Gyllideb–- Adolygiad Diogelu Unedig Sengl
12 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu cyllid refeniw ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyfforddiant a chymorth ychwanegol i Fyrddau Diogelu Rhanbarthol a Storfa Ddiogelu Cymru yn ystod gweddill 2024 i 2025.
Y Rhaglen Addysg Ryngwladol
12 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau gwerth cyfanswm o £0.62 miliwn yn 2025 i 2026 i gefnogi'r Rhaglen Addysg Ryngwladol.
Taliadau Busnes a’r Rhanbarthau
11 Marwth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau ar gyfer Mawrth ac Ebrill 2025 ar gyfer Is-adran Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru
Y Cymoedd Technoleg – Adolygiad Effaith
11 Marwth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru i alluogi dadansoddiad gwireddu budd-daliadau o raglen y Cymoedd Technoleg.
Cyllid Trawsnewid Trefi
11 Marwth 2025
Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo Cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Dinas Casnewydd i gefnogi dymchwel hen Ganolfan Casnewydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi gwaith adnewyddu i Venue Cymru, Llandudno; Cyngor Abertawe i gefnogi'r Storfa, Hwb Cymunedol Canol y Ddinas ac i gefnogi dau brosiect yng Ngham 1 Bae Copr ac i gefnogi 71/72 Ffordd y Brenin; Cyngor Sir Penfro i gefnogi prosiectau yng Nglan-cei'r Gorllewin, Hwlffordd; Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer prosiect Theatr Frenhinol y Dywysoges a Chanol Tref Port Talbot ac ar gyfer adnewyddu, moderneiddio ac ehangu Canolfan Gelfyddydau Pontardawe; Cyngor Gwynedd i gefnogi costau cyn-ddatblygu prosiect arfaethedig yng Nghaernarfon; Castell-nedd Port Talbot i gefnogi costau cyn-ddatblygu prosiect arfaethedig ym Mhort Talbot.
Rhaglen Waith Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol – Sero Net
11 Marwth 2025
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar raglen waith arfaethedig Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026. Mae eu gwaith wedi cael ei ail-ffocysu ar flaenoriaeth y Llywodraeth "Swyddi a Thwf Gwyrdd."
Ymgynghori ar Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy
11 Marwth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddatblygu fframwaith cyllid natur a chomisiynu adroddiad i bennu maint y buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer adfer natur.
Ymgynghoriad ar y cyd ar les dofednod
11 Marwth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghoriad ar y cyd ar ddal a thrin dofednod.
Ymestyn contract ar gyfer casglu data Arolwg Busnes Fferm Cymru
11 Marwth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn y gwasanaethau casglu data ar gyfer Arolwg Busnes Fferm Cymru o dan delerau'r contract presennol ddwy flynedd arall.
Dyraniadau Cyllideb –– Cefnogi Cymunedau
10 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid refeniw i gefnogi gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â thlodi.
Benthyciadau Trawsnewid Trefi
10 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar y ceisiadau am fenthyciadau Trawsnewid Trefi, sef £500k ar gyfer Gwynedd, £500k ar gyfer Wrecsam, a £5 miliwn ar gyfer Abertawe yn 2024 i 2025.
Gwneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig dros dro ar ran Awdurdodau Lleol
10 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i Lywodraeth Cymru wneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig dros dro ar ran Awdurdodau Lleol ar gyfer digwyddiadau Beicio Cymru o fewn Cymru.
Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol a’r Is-adran Busnes Strategol - Dyfarniadau Grant Dangosol
10 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar ddyfarniadau grant ar gyfer Tai Pawb, TPAS Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig, LEASE, a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd yn 2025 i 2026. Hefyd mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno ar amrywiad i ddyfarniadau grant ar gyfer 2024 i 2025 mewn perthynas â Tai Pawb, y Sefydliad Tai Siartredig, a TPAS Cymru.
Cyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi
10 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws y De-ddwyrain.
Ailbroffilio Cyllidebau Cyfalaf Tai ac Adfywio yn ystod y flwyddyn
6 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ailbroffilio cyllidebau cyfalaf Tai ac Adfywio yn ystod y flwyddyn i’w gwneud yn gydnaws â blaenoriaethau allweddol, ac i sicrhau bod y gyllideb gyfalaf gyfan sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Uwchraddio hanfodol i System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) Cafcass Cymru
6 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno y gellir trosglwyddo’r gwariant sy’n weddill i flwyddyn ariannol 2025 i 2026 ar gyfer uwchraddio system CRM Cafcass Cymru.
Sŵn Morol
6 Mawrth 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddatblygu safbwynt polisi ar reoli Sŵn Morol yn unol â safbwynt polisi tebyg yn Lloegr.
Prynu gêm Her Cynllunio’r Gofod Morol
6 Mawrth 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i brynu gêm Her Cynllunio Gofod Morol i hwyluso gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chynllunio morol yng Nghymru.
Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol
6 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar Adroddiad dros dro yr Adolygiad o Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol.
Rheoli Plâu
6 Mawrth 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dendro am brosiect ymchwil i nodi opsiynau ymarferol ar gyfer dylunio cynllun integredig arloesol i reoli plâu.
Gwaith Busnes Cymru a gyflawnir drwy gontract
6 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cymeradwyo dyraniadau cyllideb 2025 i 2026 ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru.
Cyllid i gefnogi mewnfuddsoddi
6 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid yn 2025 i 2026 ar gyfer ystod o weithgareddau sy'n cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru, ei segmentau marchnad craidd a'i hasedau hanfodol ar y llwyfan byd-eang i sicrhau buddsoddiad symudol.
Consortiwm gofal plant Cwlwm a Chwarae Cymru
6 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r cyllid refeniw ychwanegol ar gyfer consortiwm gofal plant Cwlwm a Chwarae Cymru yn 2024 i 2025.
Cynllun Strategol Medr
6 Mawrth 2025
Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar Gynllun Strategol Medr 2025 i 2030.
Cynnig ystadau fferylliaeth gymunedol am gyllid
5 Mawrth 2025
Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor ynghylch cynllun grant cyfalaf Cymru gyfan ar gyfer fferyllfeydd cymunedol ar gyfer 2025 i 2026.
Cynhadledd Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr
5 Mawrth 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu nawdd ar gyfer cynhadledd Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr yn 2025.
Penodi Aelodau Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru
5 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Alun Lloyd yn Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru am 4 blynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2025.
Penodi Aelodau Annibynnol i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru
5 Mawrth 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Adam Taylor, Hushneara Miah a Rebecca Colley-Jones i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn Aelodau Annibynnol rhwng 01 Ebrill 2025 a 31 Hydref 2029.
Cynigion yn y dyfodol ar gyfer y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth
5 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno y bydd y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth yn parhau am 3 blynedd arall rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2028. Bydd £400 000 ar gael y flwyddyn.
Rheoli priffyrdd
3 Mawrth 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar fenter fenthyca newydd i lywodraeth leol ar gyfer rheoli priffyrdd, i’w darparu dros gyfnodau cyllideb 2025 i 2026 a 2026 i 2027.
Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru
3 Mawrth 2025
Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r dull o gyflawni'r camau gweithredu yng Nghynllun Iechyd Menywod y GIG i Gymru.
Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig
3 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso 3% o gosb Trawsgydymffurfio am ddifrodi Heneb Restredig yn esgeulus.
Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig
3 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso 10% o gosb i hawliad y Cynllun Rheoli Cynaliadwy, am beidio â dewis y dyfynbris isaf.
Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig
3 Mawrth 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso 10% o gosb i hawliad y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, am beidio â dewis y dyfynbris isaf.
Dosbarthu, Labelu a Phecynnu
28 Chwefror 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gydsynio i argymhellion Dosbarthu a Labelu Gorfodol Prydain ar gyfer 46 o sylweddau gweithredol a'r dyddiad arfaethedig ar gyfer gorfod cydymffurfio â gofynion dosbarthu a labelu gorfodol Prydain ('y dyddiad cydymffurfio').
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
28 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y trefniant gyda Skills Development Scotland ar gyfer 2025 i 2026 i barhau i reoli a chydlynu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, a chyllid cysylltiedig.
Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru
28 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Cyllid ychwanegol i Medr
28 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gyhoeddi llythyr cyllido diwygiedig i Medr sy'n cynnwys cyfalaf o £18.5 miliwn mewn ymateb i'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector addysg uwch; £3.967 miliwn i gefnogi addysg feddygol israddedig a £0.4 miliwn i gefnogi prentisiaethau iau fel dyraniadau ychwanegol yn 2024 i 2025.
Swyddogion Galluogi Tai Gwledig
28 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i barhau i gefnogi'r rhaglen Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yn 2025 i 2026.
Cynigion Cyfalaf Ychwanegol Cadw 2024 i 2025
28 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant o £333,205 i gefnogi grantiau a buddsoddiad mewn treftadaeth yn 2024 i 2025.
Diweddariad ar y Prosiect Rhwydwaith Ffeibr Llawn ar hyd Cefnffyrdd
28 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i’r prosiect i osod Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol ar hyd Cefnffyrdd.
Gwariant arfaethedig ar ddysgu proffesiynol
28 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau gwerth cyfanswm o £9.965 miliwn yn 2025 i 2026 i gefnogi gweithgareddau dysgu proffesiynol i ymarferwyr.
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands – Estyn y Seilwaith Trydan a Thalu Iawndal
26 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg wedi cymeradwyo taliadau mewn cysylltiad â’r Cytundeb ar y Cyd gyda Chyngor Sir Gâr.
Dyrannu cyllideb yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026
26 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid i gyflwyno rhaglen waith yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd dros 2025 i 2026.
Trawsnewid Trefi
26 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu tir sy’n cael ei danddefnyddio ar gornel Kings Lane, Abertawe, a chreu unedau masnachol yn yr hen Castle Cinema, Abertawe, ac i osod ffitiadau mewnol a gwneud gwaith amgylcheddol allanol yn Queen’s Market, Rhyl.
Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol – oedi ac ailosod y gwaith adeiladu digidol
26 Chwefror 2025
Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i oedi ac ailosod y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol, a'r oedi dilynol i ddyddiad gweithredu'r prosiect ym mis Ebrill 2025 a chyhoeddi y bydd y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol yn ei le ym mis Ebrill 2026.
Dyrannu cyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Plant 2025 i 2026
26 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyfradd o £6.40 yr awr yn daladwy i ddarparwyr gofal plant sy'n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru o 7 Ebrill 2025 ymlaen, gyda chodiadau canlyniadol ar gyfer Addysg Feithrin a Gofal Plant Dechrau'n Deg. Cytunwyd hefyd i godiad o 7% i gynorthwyo cyrff sy'n cynrychioli gofal plant (Cwlwm) i gyflawni eu hamcanion cyllid craidd a'u cyllid i barhau i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ledled Cymru.
Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16
26 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.
Adnewyddu Cytundeb Aelodau a Chyllid ar gyfer Endeavr
26 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cynllunio i adnewyddu Cytundeb Menter ar y Cyd Aelodau Airbus Endeavr Wales Ltd am dymor pellach o 5 mlynedd a sicrhau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Partneriaeth Dalgylch yr Wysg
25 Chwefror 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i grant ychwanegol o £20,000 i Bartneriaeth Dalgylch yr Wysg ar gyfer 2024 i 2025 i wella systemau lleol a gwella ansawdd dŵr yn nalgylch afon Wysg.
Cyfraniad ariannol tuag at gost Adolygiad Ymarfer Plant Gogledd Cymru
25 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu hyd at £95,000 (50%) tuag at gostau'r Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig sy’n mynd rhagddo ynghylch yr achos o gam-drin plant gan y cyn-Bennaeth Neil Foden.
Casnewydd - Amrywiadau Prosiect
25 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo amrywiadau prosiect gan Gyngor Dinas Casnewydd ynghylch prosiectau Ysgol Basaleg, Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.
Gwasanaeth Noddfa Cymru
24 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn contract Gwasanaeth Noddfa Cymru am ddwy flynedd ychwanegol tan 31 Mawrth 2027. Bydd y cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn cynyddu i sicrhau y gall weithredu yn gynaliadwy drwy Gymru gyfan.
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol
24 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid refeniw o £200 mil fesul Cyd-bwyllgor Corfforaethol, cyfanswm o £800 mil yn 2025 i 2026, i gefnogi cyflawni uchelgeisiau'r prosbectws. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i roi gwybod i awdurdodau lleol ein bod yn bwriadu blaenoriaethu cyllid dros dro o £200 mil ar gyfer pob Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn ystod y ddwy flynedd ganlynol, 2026 i 2027 a 2027i 2028.
Gwasanaethau Cymorth
24 Chwefror 2025
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i ddyrannu tanwariant i; Llwybrau Newydd, £146,000; Stepping Stones Gogledd Cymru, £60,000; a Cymru Ddiogelach, £50,000.
Prosiect Tyrbin Gwynt YnNi Teg Penrhiw
24 Chwefror 2025
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar grant ar gyfer prosiect Tyrbin Gwynt YnNi Teg Penrhiw ger Aberaeron, Ceredigion.
Timau cynllunio ynni rhanbarthol
24 Chwefror 2025
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar gyllid refeniw ar gyfer y pedwar tîm cynllunio ynni rhanbarthol yng Nghymru, ac ar gyfer Ynni Cymru, ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Tiwna Bluefin Iwerydd
24 Chwefror 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno, yn amodol ar gymeradwyo cynllun pysgota 2025 y DU, i agor cynllun dal a rhyddhau hamdden yng Nghymru ar gyfer Tiwna Bluefin Iwerydd i longau siarter eto yn 2025, a chynnal y gwaharddiad ar y pysgota masnachol wedi'i dargedu neu werthu Tiwna Bluefin Iwerydd o ddyfroedd Cymru.
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
24 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £1,360,000 ar gyfer rhaglen weithgareddau Ysbrydoli Sgiliau yng Nghymru 2025 i 2026.
Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu Amlasiantaethol mewn Ysgolion Bro
24 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu Amlasiantaethol mewn Ysgolion Bro.
Cyllid a Gwasanaethau TGCh y Tîm Datrysiadau Digidol
24 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid o £1.242 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026 i gefnogi'r costau blynyddol ar gyfer Gwasanaethau TGCh, gan gynnwys staff y rhaglen ar gyfer Addysg Drydyddol.
Euro Menywod UEFA 2025
20 Chwefror 2025
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, a'r Prif Weinidog wedi cytuno i gefnogi rhaglen o weithgareddau gwerth £1.4 miliwn i gefnogi ymddangosiad Tîm Pêl-droed Merched Cymru yng nghystadleuaeth Euro 2025 yn ddiweddarach eleni.
Cais i’r Cyfrin Gyngor
20 Chwefror 2025
Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno bod cais i'r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Bangor i ddiwygio ei Siarter yn cael ei gymeradwyo.
Cyllid ar gyfer Swydd i gefnogi ymchwil ar effeithiau tymor hir COVID-19 ar ddysgwyr
20 Chwefror 2025
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid parhaus ar gyfer tîm o dri ymchwilydd.
Ailddatblygiad Aml-gam Campws Crosskeys Coleg Gwent
20 Chwefror 2025
Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo argymhelliad y Panel Buddsoddi Addysg ynghylch yr Achos Amlinellol Strategol / Achos Busnes Amlinellol ar gyfer ailddatblygu Campws Crosskeys Coleg Gwent fesul cam.
Recriwtio ar gyfer y Panel Sicrwydd Annibynnol Rheoleiddio Tai
19 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi penodi Ruth Glazzard yn Gadeirydd y Panel Sicrwydd Annibynnol Rheoleiddio Tai am dair blynedd yn dechrau ar 17 Chwefror 2025 tan 16 Chwefror 2028.
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol - ymestyn llinell gymorth Byw Heb Ofn a'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
19 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn y contractau ar gyfer Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a oedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2025 am 12 mis arall a chytunodd hefyd ar godiad o 3% o gostau’r ddau gontract.
Y Gronfa Tai â Gofal – Cynigion Prosiect
19 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai a'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo £263,963 o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer tri chynllun ar draws dau ranbarth yng Nghymru a hyd at £2,200,000 yn ychwanegol o gyllid ar gyfer defnydd y Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.
Cynllun Tir ar gyfer Tai
18 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar y ceisiadau benthyciadau o dan Gynllun Tir ar gyfer Tai 2024 i 2025.
System CRM Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
18 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar yr uwchraddio hanfodol i Wariant Cyfalaf System CRM Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer 2024 i 2025 a 2025 i 2026.
Cyllideb Ymchwil Addysg
18 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cynigion gwario i gefnogi ymgorffori’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Cyllid ar gyfer costau adfer i lywodraeth leol ar ôl stormydd 2020
18 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar gyfer cyllid adfer o £4.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn olaf i gefnogi costau ers stormydd 2020.
Rhaglen Iaith Gymraeg ar gyfer Gweithwyr Tramor yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
18 Chwefror 2025
Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor ynghylch cyflwyno rhaglen iaith Gymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr tramor.
Rhaglen Cymoedd Technoleg
17 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i roi cyllid i gwblhau cyfleuster peirianneg gwerth uchel ym Mlaenau Gwent.
Canolfan Tennis Wrecsam
17 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo ailddyrannu cyllid cyfalaf o £125k i gefnogi buddsoddiad yng Nghanolfan Tennis Wrecsam i ddod â thwrnament menywod rhyngwladol i Gymru yn 2025.
Gwirfoddoli mewn iechyd a gofal Cymdeithasol
17 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid grant seilwaith ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddatblygu gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol
17 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid grant ar gyfer Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru.
Isafswm Lwfansau Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth
17 Chwefror 2025
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth 2025 i 2026.
Cam dau o’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle
17 Chwefror 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ariannu cynllun peilot i dreialu system o gasglu gwastraff trydanol ac electronig a thecstilau mân cyfunedig yn y gweithle, gyda chyllid hyd at £125,000, ac i dreialu system casglu plastig hyblyg yn y gweithlu hyd at £85,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Cyllid ar gyfer Astudiaeth o Gohort Mabwysiadu
17 Chwefror 2025
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer yr Astudiaeth o Gohort Mabwysiadu 2024 i 2026.
Cyllid i barhau ag Ymgyrch Ugain
13 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid gwerth £600,000 i barhau ag Ymgyrch Ugain. Bydd hyn yn sicrhau cyflawni’r terfyn cyflymder 20mya yn effeithiol drwy barhau i gynnal gweithgarwch ymgysylltu a darparu addysg diogelwch ar y ffyrdd o ran 20mya, yn ogystal â chynnal ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd eraill.
Cyllid Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
13 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion i ariannu prosiectau Cyllid Cyfalaf llwyddiannus gwerth £1,314,812 ac i ariannu’n rhannol brosiectau pellach gwerth £169,780. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip hefyd wedi cytuno y caiff swyddogion roi gwybod i'r sefydliadau hynny nad oeddent yn llwyddiannus a rhoi adborth iddynt, yn ogystal ag agor ail gylch o geisiadau ar gyfer y cyllid gwerth £1.9 miliwn sy'n weddill yn y dyraniad Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2025 i 2026.
Canllawiau Arfer Da ar Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll
13 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyhoeddi a lansio Canllawiau Arfer Da ar Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll.
Ehangu rôl diffoddwyr tân
13 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddadflaenoriaethu ehangu rôl diffoddwyr tân hyd nes y bydd y materion presennol ynghylch diwygio llywodraethiant a diwylliant y Gwasanaeth Tân ac Achub ac arferion gwaith diffoddwyr tân wedi’u datrys gan y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.
Buddsoddi i Arbed – Datgarboneiddio Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru
13 Chwefror 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid gwerth £2 miliwn i gynnal y gwaith o ddatgarboneiddio'r goleuadau LED ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.
Cyflwyno cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg
12 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu £8.038 miliwn yn 2025 i 2026 a £0.550 miliwn yn 2026 i 2027 i gefnogi’r gwaith o gyflwyno cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg.
Gwrthod ailgofrestru ‘Syllit 400 SC’ a’r cynnyrch unfath sy’n deillio ohono, ‘Radspor 400’
12 Chwefror 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch arfer y swyddogaeth gwneud penderfyniadau ar ran Gweinidogion Cymru er mwyn gwrthod ailgofrestru ‘Syllit 400 SC’ a’r cynnyrch unfath, ‘Radspor 400’, yng Nghymru.
Cyllid ar gyfer Gofal Llygaid Digidol
12 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen gofal llygaid digidol Cymru.
Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg
11 Chwefror 2025
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ddyraniad cyllideb 2025 i 2026 ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.
Prynu Fflyd Bysiau
11 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno y caiff Trafnidiaeth Cymru brynu fflyd o 16 o fysiau diesel Euro 6 newydd i'w defnyddio ar wasanaethau TrawsCymru T4, a T5 ar gost cyfalaf o £4.183 miliwn yn y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol
11 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i recriwtio Cadeirydd newydd a phum Aelod newydd ar gyfer Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol.
Cymeradwyo’r newidiadau i’r cyllid ar gyfer creu coetir
11 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y newidiadau i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir, y Grant Creu Coetir a Grantiau Bach y Cynllun Creu Coetir ar gyfer 2025.
Cytundeb y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
11 Chwefror 2025
Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar Gytundeb Perfformiad ac Adnoddau Blynyddol y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Addysg diogelwch ar y ffyrdd GanBwyll (Ymgyrch Ugain)
11 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid o £600,000 ar gyfer addysg diogelwch ar y ffyrdd GanBwyll (Ymgyrch Ugain) ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Diweddariad ar yr adolygiad o Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu 2025
11 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i’r meysydd gael eu datblygu ymhellach ar gyfer yr ymgynghoriad arfaethedig ar elfen effeithlonrwydd ynni y Rheoliadau Adeiladu ac i gaffael fersiwn i fod yn destun ymgynghori o feddalwedd y fethodoleg cyfrifo cenedlaethol.
Digidol Busnes Cymru
11 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant yn 2025 i 2026 ar gyfer cyflenwi systemau rheoli a gwybodaeth ddigidol Busnes Cymru a Grŵp yr Economi, Ynni a Chynllunio.
Cymorth Datblygu Prosiect
10 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ryddhau arian i ddatblygu prosiectau a gwariant ar gyfer cymorth busnes mewn perthynas â phrosiect sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd yn y De.
Cymeradwyo ffioedd asiantau marchnata mewn perthynas â gwaredu tir
10 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant o hyd at £50,000 ar gyfer penodi asiant marchnata proffesiynol i waredu tir datblygu masnachol yn Rhyd y Blew, Glyn Ebwy.
Cyngor y Grŵp Cynghori Technegol ar TB Buchol ar newidiadau arfaethedig i’r Rhaglen Dileu TB
10 Chwefror 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’n llawn bolisi a chyngor ar gyflawni gan y Grŵp Cynghori Technolegol o ran y newidiadau arfaethedig i’r Rhaglen Dileu TB. Mae’r Grŵp Cynghori Technegol yn cynghori y dylid adolygu’r polisïau ar adweithyddion amhendant a hefyd adolygu’r iawndal a roddir o ran TB.
Ailbenodi i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
10 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ynghylch ailbenodi 5 Cyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Ail Gyllideb Atodol
10 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar Ail Gyllideb Atodol y Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2024 i 2025.
Grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr
6 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyfanswm o £50,000 o gyllid ac adnoddau angenrheidiol ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr, a strwythur ac aelodaeth bosibl y tasglu.
Cyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn i’r Gwasanaethau Tân ac Achub
6 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar gyfanswm o £277,000 o gyllid cyfalaf ar gyfer strwythur diheintio, uned tanau gwyllt, atalyddion mwg a gwelliannau i orsafoedd tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cyfanswm o £491,661 o gyllid cyfalaf ar gyfer 3 cerbyd trydanol a radios tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chyfanswm o £227,500 o gyllid cyfalaf ar gyfer cerbydau ac offer ychwanegol i wella gallu Gwydnwch Cenedlaethol y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yn 2024 i 2025.
Diwygiadau i'r Rheolau Sefydlog Enghreifftiol ar gyfer Cyrff y GIG
6 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyrff y GIG ddiweddaru eu rheolau sefydlog i adlewyrchu gwelliannau i'r Rheoliadau sy'n nodi'r gofynion cymhwystra a'r trefniadau penodi ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru.
Costau Dymchwel Safle
6 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer dymchwel safle Parc Iechyd Llantrisant.
Diweddariad pellach ynghylch y cais am drwydded forol Porthladd Mostyn
6 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru y gallent gytuno ar y cynllun mewn perthynas â'r cais am drwydded forol Porthladd Mostyn.
Ariannu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn y dyfodol
6 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar yr un lefel o gyllid craidd ar gyfer Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer 2025 i 2026.
Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau
6 Chwefror 2025
Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i roi rhodd o £100,000 i Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, yn dilyn y cadoediad diweddar.
Tirlithriad Mynydd Elgon
6 Chwefror 2025
Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i roi rhoi o £11,000 ar gyfer yr ymdrechion i roi cymorth yn dilyn tirlithriad Mynydd Elgon yn Uganda.
Ail-lansio'r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol
6 Chwefror 2025
Rhoddodd y Prif Weinidog gymeradwyaeth i ail-lansio'r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol.
Cais i gymeradwyo ceisiadau am gyllid a gytunwyd o dan Gynllun Diogelwch Adeiladau
6 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu hyd at £3.5 miliwn o gyllid ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 i naw ymgeisydd yn y sector preifat ar gyfer gwaith cyweirio i wella problemau diogelwch tân.
Penodi Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd i Gymru
4 Chwefror 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn ymddiswyddiad Dr Nerys Llewelyn Jones, Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru ac wedi cytuno i benodi Lynda Warren, Dirprwy Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru, yn Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd i Gymru o 1 Mawrth 2025 ymlaen. Bydd hefyd yn penodi Dirprwy Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd newydd.
Parc Busnes a Gorsaf Reilffordd Llynnoedd Hendre
4 Chwefror 2025
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi penderfyniad ar gais cynllunio a gafodd ei alw i mewn ar gyfer adeiladu parc busnes a gorsaf reilffordd ar dir i'r de o Barc Busnes Llaneirwg, Caerdydd ac wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn ddarostyngedig i amodau.
Y newyddion diweddaraf am EURO 2028 a chyllid i UK & Ireland 2028 Ltd
4 Chwefror 2025
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar gyllid i UK & Ireland 2028 Ltd fel cyfrwng arbennig a sefydlwyd i gyflawni EWRO 2028.
Cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn
4 Chwefror 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf o hyd at £1.575 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer caffael 9 cerbyd ailgylchu a chasglu gwastraff ag allyriadau isel iawn.
Trefniant ariannu grant Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cyflogedig
4 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i'r trefniadau ariannu grant Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cyflogedig o flwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Newid yn aelodaeth Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru
4 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i newid strwythur aelodaeth presennol Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru i dynnu Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub (FRA) ac yn lle hynny rhoi Swyddogion FRA fel cynrychiolwyr cyflogwyr ar y Bwrdd. Bydd yr awdurdod i benodi aelodau o'r fath yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Risg, Gwydnwch a Diogelwch Cymunedol. Yn ogystal, mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i newid trefniadau cadeirio’r Bwrdd, fel bod y Cadeirydd yn swyddog priodol yn Llywodraeth Cymru. Mae'r awdurdod i benodi cadeirydd o'r fath wedi'i ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Risg, Gwydnwch a Diogelwch Cymunedol.
Penodi Aelodau i Gyngor Celfyddydau Cymru
4 Chwefror 2025
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Emily Bamkole, Sarah Pace ac Amanda Morgan Thomas yn Aelodau o Gyngor Celfyddydau Cymru, o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2028.
Cylch gwaith a Llythyrau Ariannu Cwmni Egino ar gyfer 2025 i 2026
4 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid pontio ac addasiadau i Fwrdd Cwmni Egino a'i dîm Gweithredol i sicrhau parhad prosiectau a gwybodaeth gorfforaethol.
Cymeradwyo Cynnig Porth Dau ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
3 Chwefror 2025
Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gais porth 'Sector a Daearyddiaeth' Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
Recriwtio Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru
3 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r broses ac i ddechrau gwaith recriwtio a phenodi Cadeirydd newydd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.
Cymorth ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon Lleol
3 Chwefror 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ailbroffilio llinell wariant yn y gyllideb Cymorth ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon Lleol i adlewyrchu newidiadau mewn prosiectau â blaenoriaeth a chyllid ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn 2025 i 2026.
Cyllido Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
30 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i roi £6,923,683.00 o gyfalaf ymlaen llaw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer 2024 hyd 2025 er mwyn datblygu rhaglen ddatgarboneiddio ar raddfa fawr.
Cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
30 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo gwerth £3,624,397 o gyllid cyfalaf ar gyfer 2024 hyd 2025 a £643,414 ar gyfer 2025 hyd 2026.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r dull o fodelu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Cyllideb ar gyfer Datblygu Polisi ar Fferylliaeth a Phresgripsiynu
30 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynigion o ran rhaglen waith i’r gyllideb Datblygu Polisi ar Fferylliaeth a Phresgripsiynu ar gyfer 2025 hyd 2026.
Y Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg
30 Ionawr 2025
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo’r amrywiad prosiect oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ynghylch prosiect yr Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd.
Pennawd – Tai a arweinir gan y gymuned – Cyllid Refeniw
30 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid refeniw er mwyn parhau i gynorthwyo Cwmpas i gyflwyno a hwyluso Tai a arweinir gan y gymuned yn 2025 hyd 2026.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Prif Waith Dŵr Wedi’i Oeri, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
30 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechy a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ynghylch cyllido prif waith dŵr wedi’i oeri ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Penodi Aelod i Fwrdd Awdurdod Twristiaeth Prydain
29 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi penodi Michael Bewick yn Aelod o’r Bwrdd sy’n cynrychioli Cymru ar Fwrdd Awdurdod Twristiaeth Prydain.
Penodi Aelod i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru
29 Ionawr 2025
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Neil Ayling yn Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru am 4 blynedd o 01 Ebrill 2025 hyd 31 Mawrth 2029.
Grŵp Cyflawni Iechyd Anifeiliaid –Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru
29 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i sefydlu Grŵp Cyflawni Iechyd Anifeiliaid newydd ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd i Gymru a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr.
Cyllid i gynnal gwaith ym maes Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
29 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau i gyllido gwaith cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yng Nghymru, a hynny yn unol â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd o 2024 hyd 2029 Gall y broses gaffael ar gyfer cynnal gwaith ym maes Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yng Nghymru fynd rhagddi.
Cyllid Iechyd Meddwl
28 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl wedi cytuno ar ddyraniad cyllid iechyd meddwl ar gyfer 2025 i 2026.
Cronfa Tai â Gofal – Cynigion y Prosiect
28 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £2,139,023 o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer chwe chynllun ar draws tair rhanbarth yng Nghymru.
Ymestyn Cynllun Cymorth i Aros Cymru
28 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn cynllun Cymorth i Aros Cymru am flwyddyn ychwanegol i Fawrth 2026.
Digidol wrth gynllunio – cyllid i ddatblygu effeithlonrwydd digidol a sgiliau mewn Cynllunio Lleol
28 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddarparu £120,000 ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 ac wedi cytuno mewn egwyddor i gyllid o £260,000 ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026, ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo Awdurdodau Cynllunio Lleol i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau digidol.
Ymestyn Hyder Digidol, y rhaglen Iechyd a Lles
28 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar estyniad byr i raglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles
Opsiynau ar gyfer Ymateb i Reoliadau Llywodraeth y DU ar Organebau wedi’u Magu’n Fanwl
28 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno sut y bydd trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch rheoleiddio organebau wedi'u Magu'n Fanwl yn cael eu datblygu a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'u rheoleiddio yng Nghymru tra bod y trafodaethau hyn yn digwydd.
Cynlluniau diogelwch tomenni glo
28 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf gwerth cyfanswm o £9.461 miliwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wneud gwaith adfer ar domenni glo ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Adnoddau ar gyfer gwaith polisi iechyd planhigion a chemegion
28 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu cyllid i ddarparu un aelod ychwanegol o staff i weithio ar oblygiadau polisi a gofynion gweithredu unrhyw gytundeb newydd rhwng y DU a'r UE yn y pen draw.
Gweithio ar y cyd i wella lles Cimychiaid a Dectroediaid
28 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gydweithio â Defra, y Llywodraethau Datganoledig eraill a rhanddeiliaid y diwydiant i ddatblygu canllawiau anstatudol ar ladd cimychiaid a chramenogion dectroed eraill.
Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
27 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf Uwch Glastir, a ddaeth i law ar ôl y dyddiad cau ar 28 Ionawr 2019.
Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
27 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adfachu 17 o hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol i’r Gronfa Genedlaethol, gan eu bod heb eu defnyddio am ddwy flynedd yn olynol yn 2018 a 2019.
Diweddariad ar y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol
27 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyngor ar ailddyrannu cyllid ym Mlwyddyn Ariannol 2024 i 2025 i ymateb i’r pwysau ar raglen y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol.
Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
27 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gapio hawliad Cynllunio Coedwigoedd Cyd-weithredol (Co-operative Forest Planning) ar gyfer ‘the habitat evaluation and deep peat survey’.
Opsiynau Ymgynghori ar gyfer Diwygio’r Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol
23 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ynghylch Diwygio’r Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol ar gyfer 2026 i 2027 i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus a phroffesiynol.
Cyllid ar gyfer Stena Line
23 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gynnig £102,272 i Stena Line Ports Limited tuag at gyfanswm costau’r prosiect.
Ymchwiliadau Safle ac Uwchgynllunio, Plot C2 Celtic Lakes, Casnewydd
23 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar wariant o hyd at £1.5 miliwn ar ffioedd ar gyfer ymchwilio i’r safle, uwchgynllunio, cynllunio ac asiantaethau eiddo ar gyfer Plot C2 Celtic Lakes, Casnewydd, a chynnwys tir Fferm Berryhill yn yr ymarfer uwchgynllunio ar gyfer Celtic Lakes a’r ardal ehangach.
Gweithlu a gweithdy Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol
23 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyfarfod â’r arbenigwyr perthnasol ar Reoli Risgiau Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a hynny wyneb yn wyneb mewn fforwm ar ffurf gweithdy a gynhelir ganol mis Chwefror 2025.
Cadwch Gymru’n Daclus – cyllid grant
23 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo £1.2 miliwn mewn cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i helpu i gyflawni gwaith i wella ansawdd yr amgylchedd lleol ar draws cymunedau yng Nghymru.
Caniatâd Cynllunio
22 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn ddarostyngedig i amodau Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol, ar gyfer fferm solar (Fferm Solar Parc Worlton) ar dir yn Llwyneliddon, Bro Morgannwg.
Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus - cymeradwyo cyllid aml-flwyddyn
22 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymrwymo cyllid cyfalaf gwerth hyd at £2 miliwn o gyllideb gyfalaf graidd Rhaglen Ariannu Cymru gwerth £11.25 miliwn ar gyfer 2025 i 2026, i'r ail rownd ym mis Ionawr 2025.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 5 Tachwedd 2024
21 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Nhorfaen.
Penodi Prif Swyddog Gweithredol i Hybu Cig Cymru
21 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi José Peralta yn Brif Swyddog Gweithredol newydd Hybu Cig Cymru.
Rhwydo o’r lan yng Nghymru – Lansio Galwad am Dystiolaeth
21 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i gynnal galwad am dystiolaeth am gyfnod o 6 wythnos o 20 Ionawr 2025 i gasglu gwybodaeth am weithgarwch rhwydo o’r lan yng Nghymru, a chyhoeddi’r adolygiad o rwydo o’r lan yng Nghymru.
Ailbenodi ac ymestyn penodiad Aelodau Anweithredol Awdurdod Cyllid Cymru
21 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi ailbenodi Mary Champion a Rheon Tomos yn Aelodau Anweithredol o Awdurdod Cyllid Cymru o 1 Ionawr 2025 i 31 Rhagfyr 2027, ac mae wedi cytuno i ymestyn penodiad Jim Scopes fel Aelod Anweithredol Awdurdod Cyllid Cymru, o 1 Ionawr 2025 i 31 Rhagfyr 2025.
Uwchraddio’r Seilwaith Ynni, Bro Tathan
21 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo parhau â’r gwaith i wella’r seilwaith ym Mro Morgannwg.
Y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg
20 Ionawr 2025
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i swyddogion ddechrau'r gwaith o sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg pan ddaw'r trefniadau grant presennol ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ben ar 31 Gorffennaf 2027.
Cymorth tai gwledig
20 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid refeniw i barhau i gefnogi'r rhaglen Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yn 2025 i 2026.
Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16
20 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.
Cyhoeddi'r safonau ar gyfer sŵau Prydain
20 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyhoeddi safonau ymarfer modern ar gyfer sŵau Prydain Fawr.
Cynllun Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru
16 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno Cynllun Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru.
Rownd ariannu 5 Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru
16 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i'r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer rownd 5 Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru a'r dyraniad o £1.4 miliwn i gefnogi'r rownd.
Rhaglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso
16 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer pedwar cynnig o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.
Gweithgareddau Sicrhau Ansawdd drwy’r Porth
15 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i ddarparu £100,000 ar gyfer gweithgareddau i sicrhau ansawdd drwy'r porth rhwng 2024 a 2025.
Cefnogaeth ariannol ar frys i awdurdodau lleol (Stormydd Bert a Darragh)
15 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ddarparu hyd at £8.12 miliwn mewn cyllid grant cyfalaf ar gyfer 2024 i 2025. Bydd y cyllid hwn ar gael i ymgeiswyr er mwyn gwneud gwaith atgyweirio brys i asedau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn sgil Stormydd Bert a Darragh, gyda’r bwriad o leihau perygl i eiddo.
Parhad o Raglen Secondiad Trafnidiaeth Cymru
15 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i barhad rhaglen gyfnewid staff rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027.
Mabwysiadu Asedau Ffyrdd
15 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i dalu swm cymudedig mewn perthynas â mabwysiadu asedau ffyrdd yn y De.
Cymraeg 2050
15 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar gyllideb ddangosol o £57.2 miliwn ar gyfer Cymraeg 2050 am y flwyddyn 2025 i 2026.
Taliadau Busnes a Rhanbarthau – Ionawr a Chwefror 2025
15 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyfanswm gwariant o £73,204.54 (gan gynnwys TAW) ar gyfer trefniadau’r Rhaglen Busnes a Rhanbarthau.
Cefnogi datblygiad y Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol
15 Ionawr 2025
Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ddyfarnu cyllid ar gyfer swydd cydlynydd prosiect llawn amser am 15 mis o fewn y Prosiect Morwellt i ddatblygu Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol gan gynnwys ei strwythur llywodraethu..
Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Grant Cyfalaf Ysgolion Bro – Rhagfyr 2024
15 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cefnogi cais i amrywio prosiect ar gyfer Ysgol y Creuddyn, Conwy, a chais am gyllid gan Ysgol Glan y Môr, Sir Gaerfyrddin ar gyfer prosiect cae 3G.
Y targed ailgylchu statudol isaf
13 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddileu’r ddirwy o £663,000 am 2021 i 2022 ar gyfer Sir y Fflint.
Y targed ailgylchu statudol isaf
13 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddileu’r ddirwy o £121,000 am 2021 i 2022 ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.
Y targed ailgylchu statudol isaf
13 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddileu'r ddirwy o £119,000 am flwyddyn darged 2021 i 2022 ar gyfer Torfaen.
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – Canllawiau i Awdurdodau Lleol
13 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cymeradwyo canllawiau Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025 i 2026.
Dyfodol y Rhaglen Heneiddio’n Iach
9 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar estyniad, o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026, i’r grant o £207,000 a roddir i Age Cymru o dan y Rhaglen Heneiddio'n Iach, ac mae wedi cytuno ar adolygiad cymesur, na fydd yn costio mwy na £30,000, o ganlyniadau'r rhaglen er mwyn llywio cyngor ar benderfyniadau yn y tymor hwy.
Cyllid y Cymoedd Technoleg er mwyn helpu busnesau i dyfu
9 Ionawr 2025
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid o dan raglen y Cymoedd Technoleg i helpu busnesau i dyfu ac i wella cynhyrchiant, arloesedd ac effeithlonrwydd o ran ynni ar draws rhanbarth y Cymoedd Technoleg.
Cydweithio er mwyn gwella lles defaid
9 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno, er lles ŵyn, i gydweithio â Defra, Llywodraeth yr Alban a rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddatblygu cynigion er mwyn symleiddio a diweddaru'r ddeddfwriaeth ar ysbaddu a thocio cynffonau.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 26 Tachwedd 2024
9 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Rhondda Cynon Taf.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 19 Tachwedd 2024
9 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Cynyrchiadau Creadigol o dan Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Ngogledd-orllewin Cymru.
Cynllun Blaenoriaethu Cyfalaf y GIG, Cam 2 ‒ elfennau penodol o'r Cynllun Cyfalaf
9 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno y caiff sefydliadau GIG Cymru ddatblygu mwy ar gynigion cyfalaf penodol ar gyfer y cyfnodau rhwng 2025 a 2026 a rhwng 2026 i 2027.
Cyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol
8 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid o £300,000 (Cyfalaf) i barhau i gefnogi tlodi bwyd drwy'r Partneriaethau Bwyd Lleol yng Nghymru rhwng 2024 a 2025.
Rhaglen Monitro a Modelu yr Amgylchedd a Materion Gwledig
8 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn contract Rhaglen Monitro a Modelu yr Amgylchedd a Materion Gwledig o 1 Tachwedd 2024 i 31 Hydref 2026 i sicrhau monitro, modelu, tystiolaeth a dadansoddi i gefnogi'r portffolio Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Cyflwyno Ardaloedd Adnoddau Strategol
8 Ionawr 2025
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer ynni llif llanw.
Prynu Trwyddedau Cronfa Ddata Beauhurst
8 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ariannu hyd at £104,878 ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, i fuddsoddi mewn trwyddedau ar gyfer Offeryn Gwybodaeth Busnes, sef Beauhurst.
Ymweliadau y Grŵp Cynghori Gweinidogol â Byrddau Iechyd
8 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar ymweliadau â byrddau iechyd ym mis Ionawr 2025 gan Grŵp Cynghori Gweinidogol Perfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru.
Cyllid i raglen Gwasanaeth Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg Cymru ar gyfer 2025 i 2026
7 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyde Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyngor ynghylch cyllid ar gyfer rhaglen Gwasanaeth Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg Cymru Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Cyllido a lansio’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd
7 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar ddyraniad cyllid o £5 miliwn o gyllideb y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2025 hyd 2026 er mwyn lansio’r Cynllun Grantiau Cyfalaf Sbarduno Busnesau Bwyd. Bydd y cynllun yn cael ei lansio ym mis Chwefror 2025 a bydd cyllid ar gael o 1 Ebrill 2025 hyd 31 Mawrth 2026.
Cynigion i gefnogi’r Rheoliadau Bwyta’n Iach a sicrhau’r budd mwyaf posibl o’r cynnig prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd
7 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyrannu cyllid er mwyn penodi/estyn contract dau secondai o fewn awdurdodau lleol er mwyn atgyfnerthu gwaith datblygu’r polisi ar brydau ysgol mewn ysgolion a chyflawni prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ddyrannu cyllid er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chefnogi gwaith gweithredu newidiadau deddfwriaethol sy’n deillio o’r adolygiad o Reoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.
Cynllun gweithredu LHDTC+
6 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer tair blynedd o werthuso’r cynllun gweithredu LHDTC+.
Alcohol Change UK
6 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i barhau i roi cyllid i Alcohol Change UK.
Rheoliadau adeiladu
6 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar ddiwygio Rhan B (Diogelwch Tân) o’r Rheoliadau Adeiladu.
Grant Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
6 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynnig ariannu gan Gonwy hyd at werth £66,646 yn 2024 i 2025.
Fferm wynt
6 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn amodol ar amodau, am hyd at 6 tyrbin gwynt a’r seilwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd o Donmawr, Castell-nedd Port Talbort.
Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol
6 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i roi cyllid i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i helpu’r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol i gwblhau ei ddadansoddiad o Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cael gwared ar bob math o wahaniaethu yn erbyn menywod.
Awdurdod Cyllid Cymru
3 Ionawr 2024
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ailbenodi Mary Champion a Rheon Tomos, ac ymestyn penodiad Jim Scopes, fel Aelodau Anweithredol o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru.
Gweithgareddau marchnata
3 Ionawr 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ynghyd â’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer darparu gweithgareddau marchnata a chyfathrebu i gefnogi ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y sectorau sgiliau, cyflogadwyedd, ac addysg ôl-16.
FareShare Cymru
3 Ionawr 2025
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn y cyllid a roddir i FareShare Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.