Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

I chwilio drwy ein hadroddiadau penderfyniad, defnyddiwch Ctrl + F.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r adolygiad o ganfyddiadau rhanddeiliaid o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

Prynu tir

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i benodi ymgynghorwyr i roi cyngor ar brynu tir ym Mhort Talbot.

Cymorth i Chwaraeon Cymru ac Amgueddfa Cymru

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg,  a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo ail-flaenoriaethu gwariant cyfalaf i ddarparu prosiectau ar gyfer Chwaraeon Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Mesurau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Thrafnidiaeth Leol

30 December 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Fynwy drwy Fesurau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Thrafnidiaeth Leol Gynaliadwy mewn ymateb i Covid-19, yn y drefn honno. 

Cymorth busnes

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer adeiladu cyfleuster gweithgynhyrchu plastrfwrdd newydd yng Nghasnewydd.

Cymryd rhan ym menter PaRIS

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y bydd GIG Cymru yn parhau i gymryd rhan ym menter PaRIS y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Adfywio trefi llai yn y cymoedd

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi prosiectau yr ystyrir eu bod yn gwella’r cynnig Trawsnewid Trefi yn rhanbarth y cymoedd, fel rhan o fuddsoddiad menter ar y cyd ar gyfer canol trefi llai yn y cymoedd.

Cymorth i raglenni hyfforddeiaeth

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a’r Gweinidog Cyllid wedi cytuno ar y manylion ar gyfer darparu cyllid i gefnogi dysgwyr nad ydynt wedi eu cynnwys yn ddigidol ar raglenni hyfforddeiaeth.

Cymorth ar gyfer dysgu proffesiynol

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer helpu i gynhyrchu adnoddau dysgu cyfunol dwyieithog ac i ehangu cwmpas cynllun peilot presennol y Rhaglen Ymholi Broffesiynol Genedlaethol.

Hyfforddiant sy’n berthnasol i gerddwyr a beicwyr

30 Rhagfyr 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ailddyrannu’r £46,000 o gyllid refeniw diogelwch ar y ffyrdd i  Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Caerdydd ar gyfer hyfforddiant ychwanegol sy’n berthnasol i gerddwyr a beicwyr.

Grantiau Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod ac Ysgolion Bach a Gwledig

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y trefniadau tymor byr ar gyfer y grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a’r grant Ysgolion Bach a Gwledig.

Cynllun peilot Fflecsi Trafnidiaeth Casnewydd

30 Rhagfyr 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo £800,000 gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd ariannol 2020 hyd 2021 a 2021 hyd 2022 ar gyfer Newport Transport Ltd er mwyn ymestyn cynllun peilot bysiau ymateb i’r galw Fflecsi ar draws Dinas Casnewydd am gyfnod o naw mis.

Dyraniadau’r Cynnig Gofal Plant

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyraniadau grant y Cynnig Gofal Plant ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 hyd 2022.

Cyllid ychwanegol ar gyfer rheoli perygl llifogydd

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynyddu cyllideb gyfalaf Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol £3,708,000 er mwyn rhoi cyllid ychwanegol ar gyfer gweithgareddau gan gynnwys atgyweiriadau ar ôl stormydd, gwaith ychwanegol ar gyfer rheoli perygl Llifogydd, asedau TGCh, gwaith ar achosion busnes ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol i reoli perygl llifogydd a gwaith ar 4 gynllun naturiol ar gyfer rheoli llifogydd.

Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido cynllun peilot cam 1 o ddatrysiad sy’n seiliedig ar seinydd clyfar ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Terfyn taliadau uniongyrchol

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo terfyn o £238 miliwn ar gyfer taliadau uniongyrchol yn 2021.

Proses ymgeisio am grantiau Diogelwch ar y Ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

30 Rhagfyr 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r broses ymgeisio ar gyfer y Grant Diogelwch ar y Ffyrdd a’r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Gwasanaethau bws lleol

30 Rhagfyr 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerth £809,255 o gyllid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru er mwyn eu galluogi i wella rhwydweithiau gwasanaethau bws lleol ar draws Cymru.

Cyllid ar gyfer Chwarae Cymru

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn cyllid a fydd yn parhau ar gyfer Chwarae Cymru yn y flwyddyn ariannol 2021 hyd 2022.

Hysbysiad malltod yr A55

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi derbyn yr hysbysiad malltod statudol mewn perthynas ag eiddo ger cyffyrdd 14 ac 15 o’r A55.

Fforymau Rhanddeiliaid Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i sefydlu Fforymau Rhanddeiliaid Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ailbenodi i Bwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru

30 Rhagfyr 2020

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i ailbenodi David Davies, Dr Grahame Guilford, Sian Price a Beth Winkley i Bwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru o 1 Tachwedd 2020 hyd 31 Rhagfyr 2026.

Datblygu ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol

30 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo y camau nesaf yn natblygiad darpariaeth dysgu proffesiynol Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Cyllid ar gyfer mesurau atgyfnerthu rhag llifogydd

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyllid o £303,450 i alluogi Rhondda Cynon Taf i osod mesurau atgyfnerthu rhag llifogydd i 357 o gartrefi.

Penodiad i’r bwrdd cynghori lleol

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i benodiad Sarah Overson, Toyota Motor Manufacturing UK, fel Cadeirydd newydd Bwrdd Cynghori Lleol, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru.

Adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim

30 Rhagfyr 2020

Y Gweinidog Addysg wedi cytuno i ymateb i adroddiad cychwynnol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim.

Cyllid yr Economi Gylchol

30 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i’r argymhellion cyllido o gylch diweddaraf y Gronfa Economi Gylchol ar gyfer awddurdodau lleol a chyrff sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus a lansiwyd ym mis Tachwedd 2020.

Cymorth i fusnesau

30 Rhagfyr 2020

Gweiniodg yr Economi, Trafnidaieth a Gogledd Cymru a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo estyniad i’r pecyn cymorth ar gyfer y Gronfa Cyfyngiadau Busnes, mewn ymateb i gyfyngiadau pellach a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2020.

Gwerthu tir

30 Rhagfyr 2020

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Busnes Llantarnam, Torfaen.

Cyllid grant Trawsnewid Trefi

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid grant Trawsnewid Trefi ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Gwynedd, cyllid benthyciadau a grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a chyllid grant mewn egwyddor i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Arolwg Ysgolion a’r Gweithlu Ôl-16

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gynnal arolwg o’r gweithlu mewn cydweithrediad â Chyngor y Gweithlu Addysg sef Arolwg Ysgolion a’r Gweithlu Ôl-16 2020 i 2021.

Cyllid llenwi bwlch gwaddol

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y gall swyddogion ysgrifennu at ddeg landlord cymdeithasol cofrestredig Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr yn cadarnhau y bydd y cyllid llenwi bwlch gwaddol yn parhau tan fis Mawrth 2023.

Ymgynghoriad ar leihau allyriadau

21 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar y papur ymgynghori ar Leihau Allyriadau o Losgi Tanwydd Solet yn Ddomestig a’i Asesiad Effaith Integredig, i’w gyhoeddi ym mis Ionawr 2021.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Athro Helen Sweetland fel Aelod Annibynnol (Prifysgol) ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am gyfnod o 4 blynedd o 17 Rhagfyr 2020 hyd at 16 Rhagfyr 2024.

Setliad yr Heddlu

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo Setliad yr Heddlu 2021 i 2022 dros dro ar gyfer Cymru.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Stephen Spill fel Is-gadeirydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, am 4 blynedd o 15 Rhagfyr 2020 tan 14 Rhagfyr 2024.

Prosiect Marchnad Dan Do Trawsnewid Trefi, Casnewydd

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar newid i’r cynigion a’r allbynnau gwreiddiol ar gyfer prosiect Marchnad Dan Do Trawsnewid Trefi, Casnewydd.

Penodi cadeirydd dros dro i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

21 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi penodi Rob Humphreys fel Cadeirydd Dros Dro i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Bydd yn gwasanaethu o 5 Ionawr 2021 tan 4 Ionawr 2022 neu nes y bydd Cadeirydd parhaol yn cael ei benodi, pa un bynnag ddaw yn gyntaf.

Gwerthu tir

21 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Coed Elai.

Gwerthu tir

21 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Coed Elai.

Gwerthu tir

21 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Coed Elai.

Darparu cyngor ac arweiniad meddygol arbenigol

17 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ragor o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu cyngor ac arweiniad arbenigol dros y ffôn ar gyfer meddygon teulu neu weithwyr proffesiynol eraill sy’n atgyfeirio (fel parafeddygon) yn y gymuned. 

Brosiect arddangos y Fforest Genedlaethol

17 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer dau brosiect arddangos y Fforest Genedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2020 i 2021.

Diogelu Masnach Mewn Perthynas â Materion Glanweithdra a Ffytoiechyddol

17 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gynigion ar gyfer enw, cylch gwaith a threfniadau llywodraethu Swyddfa’r DU ar gyfer diogelu masnach mewn perthynas â materion glanweithdra a ffytoiechyddol.

Gwasanaeth Busnes Cymru

17 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo ymestyn Gwasanaeth Busnes Cymru am gyfnod o flwyddyn hyd at fis Hydref 2022, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  

Cynllun Tir ar gyfer Tai

17 Rhagfyr 2020

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i’r ceisiadau am fenthyciadau i Gynllun Tir ar gyfer Tai 2020 i 2021.

Cyllid ar gyfer y rhaglen hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion

17 Rhagfyr 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer y rhaglen hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion.

Gwerthu eiddo

17 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i werthu eiddo yng Nghaerdydd.

Rhoi gwaed

17 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i godi’r gwaharddiad sydd ar ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion rhag rhoi gwaed yn dilyn canlyniad yr astudiaeth ar asesu risg unigolion a’r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau. 

Cyllid ar gyfer astudio mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

17 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Prosiect Neuadd Dwyfor

17 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i ddarparu cyllid yn 2020 i 2021 i Gyngor Gwynedd, ar gyfer cefnogi prosiect Neuadd Dwyfor, Pwllheli.

Hub Cymru Affrica

16 Rhagfyr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i barhau i ariannu Hub Cymru Affrica a’i waith am dair blynedd arall wedi mis Mawrth 2021.

Cyllid i Amgueddfa Glofa Cefn Coed

16 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i gwblhau’r gwaith o adfer tyrau’r peirianwaith uwch ben y pwll sy'n strwythur cofrestredig Gradd II. 

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

16 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig  wedi cytuno i gyhoeddi arolwg defnyddwyr Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Adroddiad blynyddol Deddf Cymru 2014

16 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gynnwys y chweched adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru, ynglŷn â gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014.

Cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth

16 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y gellid darparu hyd at £20,000 i Undebau Credyd i ymchwilio i’r rhesymau pam mae ceisiadau benthyca yn cael eu gwrthod. Hefyd, cytunodd y Gweinidog i ehangu meini prawf cymhwysedd y cynllun i gynnwys tenantiaid sy’n talu rhent y farchnad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl

14 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyfrannu o £1,145,236, am 23 o flynyddoedd, tuag at gynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl drwy’r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol, o 2021 i 2022 ymlaen. 

Adroddiadau ar lefelau nicel a benzo[a]pyrene yn 2018

14 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi cyfraniad Llywodraeth Cymru at Adroddiadau Trosolwg y DU ac adroddiadau cylchfaol Cymru ar gyfer benzo[a]pyrene a nicel, ac i Defra ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

14 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog wedi cytuno i benodi Mrs Hazel Lloyd-Lubran, Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid, yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Penodi i Fwrdd Rheoleiddiol Cymru

14 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Mr Deep Sagar yn Gadeirydd Annibynnol Bwrdd Rheoleiddiol Cymru.

Recriwtio i Bartneriaeth Datblygu Sector Cymru

14 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar y broses benodi i recriwtio hyd at 5 Aelod i Bartneriaeth Datblygu Sector Cymru (Masnachu fel Diwydiant Cymru), ar gyfer y cyfnod 2021 i 2024.

Dyraniadau cyllid Dechrau’n Deg

14 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniad ar gyfer balans Cronfeydd Wrth Gefn Covid sy'n weddill ar gyfer cyllid Cyfalaf Dechrau'n Deg yn 2020 i 2021.

Cronfa Cadernid Economaidd Covid-19

14 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo pecyn cymorth pellach ar gyfer y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a'r Gronfa Sector Benodol, mewn ymateb i gyfyngiadau pellach a gyhoeddwyd ar 4 Rhagfyr 2020.

Grant Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr

10 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo fformiwla dyrannu Grant Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar gyfer 2021 i 2022.

Cynllun Hyfforddi’r GIG

10 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Comisiynu Addysg a Hyfforddiant GIG Cymru 2021 i 2022 ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol nad ydynt yn feddygol a’r gweithlu meddygol.

Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol

10 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ymgynghori ar God Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig ar gyfer Is-ddeddfwriaeth.

Baratoi ar gyfer y gaeaf

10 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu hyd at £95,000 o gyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021 i'w cefnogi gyda’r gwaith o baratoi ar gyfer y gaeaf. Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i roi ailflaenoriaethu’r tanwariant o £1,785,506 o'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol ar gyfer gweithgareddau eraill yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd mewn awdurdodau lleol.

Dychwelyd i brifysgolion

10 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar drefniant i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion gam wrth gam ar ôl gwyliau’r Nadolig.

Cynllun Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant

10 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynigion ar gyfer dyrannu cyllid o £2 filiwn o dan y Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant.

Adolygiad o wasanaethau bysiau

10 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu hyd at £1.67 miliwn o gyllid refeniw i Trafnidiaeth Cymru yn 2020 o 2021 er mwyn eu galluogi i gomisiynu cyfres o adolygiadau cynhwysfawr i rwydweithiau gwasanaethau bysiau ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru.

Datblygu Theatr Clwyd

9 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i'r dyddiadau cyflawni diwygiedig ar gyfer cwblhau’r gwaith dylunio ar gyfer ailddatblygiad arfaethedig Theatr Clwyd.

Ymchwil i drefniadau asesu yn y Cyfnod Sylfaen

9 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid i gynnal ymchwil i drefniadau asesu yn y Cyfnod Sylfaen.

Penodiad i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf

9 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr Peter Max yn Aelod (Cyfarwyddwr Anweithredol) (Cyllid)) Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf am dair blynedd o 1 Ionawr 2021 tan 31 Rhagfyr 2024.

Penodiad i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf

9 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Athro

Hamish Laing a Mr Len Richards yn Aelodau (Cyfarwyddwr Anweithredol Iechyd-Gofal Cymdeithasol) o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfam gyfnod o dair blynedd o 1 Ionawr 2021 tan 31 Rhagfyr 2024.

Penodiad i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf

9 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ms Erica Cassin a Dr Victoria Bates yn Aelodau (Cyfarwyddwr Anweithredol (Gwyddorau Bywyd-Diwydiant)) o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf. am gyfnod o dair blynedd o 1 Ionawr 2021 tan 31 Rhagfyr 2024.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol 

9 Rhagfyr 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniad cyllid wedi'i ailflaenoriaethu ar gyfer gweithgarwch i helpu gydag effeithiau Covid-19 mewn perthynas â datblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ym mlwyddyn ariannol 2020 i - 2021.

Profi Covid-19

8 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyflwyno dyfeisiau LumiraDX ledled Cymru i gyflawni strategaeth a blaenoriaethau profi Covid–19 Cenedlaethol Cymru a chynyddu capasiti diagnostig.

Gwobrau Cydweithredu Ystadegau Cymru

8 Rhagfyr 2020

Cytunodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ddyfarnu Cyngor Bro Morgannwg yn enillydd cyffredinol Gwobrau Cydweithredu Ystadau Cymru 2020 am ei brosiect Goodsheds yn y Barri ddydd Iau 3 Rhagfyr 2020.

Cymru yn yr Almaen 2021

8 Rhagfyr 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen weithgarwch Cymru yn yr Almaen 2021.

Rheoli Rheolwyr y GIG

8 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y 'Weithdrefn ar gyfer Rheoli Perfformiad, Diswyddo neu Atal Dros Dro Cadeiryddion, Is-gadeiryddion, Aelodau Annibynnol/Cyfarwyddwyr Anweithredol ac Aelodau Cyswllt y GIG'.

Rhifau myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon

8 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar nifer yr athrawon dan hyfforddiant sy'n ofynnol yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022 a'r llythyr at Gyngor y Gweithlu Addysg.

Archwiliad o gysylltiadau â’r fasnach mewn caethweision

8 Rhagfyr 2020

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i gyhoeddi ‘Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o Goffáu yng Nghymru’.

Swyddog Cadwraeth Clawdd Offa

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo grant o £78,495.50 (i dderbyn arian cyfatebol gan Historic England) i ariannu swydd Swyddog Cadwraeth Clawdd Offa am dair mlynedd o’r 1 Chwefror 2021 neu cyn gynted ag y caiff y penodiad ei wneud.

Olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain a Diogelu

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar weithlu a chyllido olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain a Diogelu.

Capasiti olrhain cysylltiadau

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu Tîm Olrhain Cysylltiadau Cymru gyfan.

Penderfyniad ar gais a alwyd i mewn

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gwrthod caniatád cynllunio ar gyfer cais cynllunio a alwyd i mewn (cyf: A190787), oedd yn cynnig datblygu un annedd ar dir ar Feiniog Uchaf, ger Maesymeillion, Dihewyd, Llanbedr, Ceredigion.

Ardoll Cig Coch Cymru

4 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnal lefel bresennol cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru ar gyfer 2021 i 2022; a chynnal lefel bresennol costau adfer Ardoll Cig Coch Cymru mewn lladd-dai/ marchnadoedd arwerthu ar gyfer 2021 i 2022.

Ail-benodi i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi argymell, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bod Ms Caroline Crewe-Read yn cael ei hail-benodi am ail dymor i swydd Comisiynydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn Brenhinol).

Cymorth ychwanegol i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2020 i 2021 drwy gronfa ganolog Covid-19 i gefnogi dysgwyr ym mlynyddoedd 11, 12 ac 13.

Fframwaith Cyffredinol Iechyd a Lles Anifeiliaid

4 Rhagfyr 2020

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gynnwys ‘Fframwaith Cyffredinol Iechyd a Lles Anifeiliaid’ a choncordat cysylltiedig.

Fframwaith Cyffredinol Zootech

4 Rhagfyr 2020

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gynnwys y ‘Cytundeb Fframwaith Amlinellol’ dros dro a’r concordat dros dro ar gyfer ‘Amaethyddiaeth: Cytundeb Fframwaith Cyffredinol Zootech’.

Ymgyrch hawliau’r gweithlu

4 Rhagfyr 2020

Y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gynnwys yr ymgyrch hawliau’r gweithlu a’i chynlluniau lansio ac i ymestyn yr ymgyrch o 4 wythnos i 6 wythnos.

Treialon ar gyfer cynnyrch yn seiliedig ar ganabis at ddefnydd meddygol

4 Rhagfyr 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y dylai cleifion o Gymru gael y cyfle i gymryd rhan mewn dau o dreialon ar hap wedi’u rheoli, wedi’u hariannu gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd Lloegr, i brofi effeithiolrwydd cynnyrch canabis i drin epilepsi difrifol nad yw’n ymateb i driniaeth.  Cytunodd y Gweinidog hefyd i GIG Cymru ddarparu cyllid fel y gall y cleifion hynny dderbyn presgripsiynau am gynnyrch sydd wedi’u profi fel rhai sy’n gwella eu symptomau.

Cymorth busnes

4 Rhagfyr 2020

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i gwmni o Dorfaen.

Rhenti tai cymdeithasol

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y llythyr i hysbysu am y cynnydd blynyddol ac atal bandiau rhentu sy’n cael eu targedu ar gyfer rhenti cymdeithasol rhwng 2021 a 2022.

Cymorth i’r Gymuned ac i Wirfoddolwyr o’r Grant Adfer

4 Rhagfyr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar y meini prawf a’r mecanwaith dosbarthu ar gyfer cyllid grant i gynnal gwirfoddoli a gweithredu cymunedol wrth adfer o’r argyfwng Covid-19.

Canllawiau ar reoli cynlluniau creu coetir

2 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru ar atodiad newydd ar greu coetiroedd yn y Canllawiau ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff

2 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i adolygiad y DU gyfan o Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff.

Gwerthuso’r Gronfa Adferiad Diwylliannol

2 Rhagfyr 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gomisiynu gwerthusiad o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Ymchwil i effeithiau rhaglenni arloesi

2 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i benodi contractwr academaidd i gynnal ymchwil i effeithiau SMART; Mentrau Ymchwil Busnesau Bach; a rhaglenni arloesi Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth fel rhan o achos busnes sy'n seiliedig ar dystiolaeth dros gyllid yn lle cyllid yr UE.

Cynllunio gweithlu’r GIG

2 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddiweddaru dulliau cynaliadwyedd y gweithlu gofal sylfaenol a’r chyfeiriad ar gyfer y dyfodol.

Profi torfol am Covid-19

2 Rhagfyr 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y cynllun peilot i gynnal profion torfol ym Merthyr.

Gwasanaethau iechyd ar gyfer ceiswyr lloches

2 Rhagfyr 2020

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel mesur dros dro, i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd i geiswyr lloches yng Ngwersyll Penalun yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020.

Gwerthu eiddo

1 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gael gwared ar eiddo yn y Drenewydd.

Nodyn Cyngor Technegol 11: Sŵn

1 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i oedi’r broses o ymgynghori ar y Nodyn Cyngor Technegol drafft newydd: 11 Sŵn tan 2021.

Ymgyrch gyhoeddusrwydd ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau’r gweithlu

1 Rhagfyr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y cyllid ar gyfer yr ymgyrch gyhoeddusrwydd ynglŷn â gwybod beth yw eich hawliau a’ch cyfrifoldebau yn y gweithle.

Gwerthu tir

1 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gael gwared ar dir ym Mhencoed.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

1 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi derbyn yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adfachu 5.31 uned o hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ac mae’n cyhoeddi’r llythyr sy’n rhoi gwybod i’r apelyddion am y penderfyniad.

Asesiadau personol

30 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo gweithredu asesiadau personol ar gyfer 2020 i 2022.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddal yn ôl taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol ar barsel o dir, gan fod rheolau’r cynllun wedi cael eu defnyddio’n gywir.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau am eitemau Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch, gan fod tystiolaeth wedi cael ei darparu i ddangos bod un eitem wedi cael ei chwblhau.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosb mewn perthynas â thaliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch 2014. Roedd yr apelydd wedi methu â chwblhau’r gwaith yn ôl y safonau a bennir yng Nghontract Glastir.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2018. Roedd yr apelydd wedi methu â bodloni’r diffiniad o ffermwr actif o dan y cynllun, gan nad oedd tystiolaeth ategol wedi cael ei chyflwyno gyda’r hawliad, ac roedd yr apelydd wedi methu â rhoi gwybod i Daliadau Gwledig Cymru y byddai tystiolaeth yn cael ei hanfon ar ddyddiad yn nes ymlaen.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2019,  gan fod yr apelwyr wedi methu â bodloni gofynion ffermwr actif y cynllun i gyflwyno tystiolaeth ategol gyda’r hawliad, ac wedi methu â rhoi gwybod i Daliadau Gwledig Cymru, cyn dyddiad cau’r cais, y byddai tystiolaeth yn cael ei hanfon ar ddyddiad yn nes ymlaen.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2019,  gan fod yr apelwyr wedi methu â bodloni gofynion ffermwr actif y cynllun i gyflwyno tystiolaeth ategol gyda’r hawliad, ac wedi methu â rhoi gwybod i Daliadau Gwledig Cymru, cyn dyddiad cau’r cais, y byddai tystiolaeth yn cael ei hanfon ar ddyddiad yn nes ymlaen.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2018,  gan fod yr apelydd wedi methu â bodloni gofynion Ffermwr Actif y cynllun i gyflwyno tystiolaeth ategol gyda’r hawliad, ac wedi methu â rhoi gwybod i Daliadau Gwledig Cymru y byddai tystiolaeth yn cael ei hanfon ar ddyddiad yn nes ymlaen.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

30 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2018, gan fod yr apelydd wedi methu â bodloni gofyniad ‘Ffermwr Actif’ y cynllun i gyflwyno tystiolaeth ategol gyda’r hawliad, ac wedi methu â rhoi gwybod i Daliadau Gwledig Cymru y byddai tystiolaeth yn cael ei hanfon ar ddyddiad yn nes ymlaen.

Gwerthu Tir

30 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo gwerthu tir at ddibenion adeiladu tai a budd i’r cyhoedd ar  Safle’r Stadiwm, Sain Tathan.

Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol

30 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu cymorth grant o £400,000 ar gyfer sefydlu canolfan Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol i Gymru.

Newidiadau i’r rheoliadau adeiladu

27 November 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymgynghoriad ar newidiadau i Ran L a Rhan F y rheoliadau adeiladu ar gyfer adeiladau domestig presennol ac ar ddiwygiadau i’r ‘Gyfarwyddeb Perfformiad Ynni Adeiladau’ ar gyfer adeiladau domestig presennol a phob adeilad annomestig. 

Cyllid peilot Nyrsio Ardal Cymdogaeth

27 November 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad y cyllid Peilot Nyrsys Ardal Cymdogaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Rheoli llysiau'r Gingroen

27 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i swyddogion ddiweddaru’r ‘Cod Ymarfer er mwyn Rhwystro a Rheoli Ymlediad Llysiau'r Gingroen’ a lansio ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y Cod.

Cynllun peilot profion Covid-19 ym Merthyr Tudful

27 November 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i’r cynllun peilot profion Covid-19 ar gyfer y fwrdeistref gyfan ym Merthyr Tudful.

Darpar ofalwyr maeth

27 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y caiff pob darpar ofalwr maeth y mae eu cais eisoes yn y system ar 8 Tachwedd 2020 symud ymlaen at y cam panel darpar ofalwyr maeth yn ôl y bwriad, gyda hunan-ddatganiad iechyd.

Estyniad i’r contract Arbed

27 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i roi estyniad o chwe mis ar gyfer y contract Arbed i wneud y mwyaf o’r cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop sydd ar gael i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a galluogi adferiad o effeithiau Covid-19 a’r stormydd a llifogydd ar ddechrau 2020.

Profion Covid mewn carchardai

25 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddechrau cynnal profion rheolaidd ar newydd-ddyfodiaid a throsglwyddiadau i holl garchardai Cymru.

Y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cynhwysiant Ariannol

25 Tachwedd 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno na fydd y 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Cynhwysiant Ariannol' yn cael ei adnewyddu ar ôl 2021, ond y bydd swyddogion yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau a rhanddeiliaid allweddol eraill i roi ymateb i Covid-19 ar waith ar unwaith a pharhau i nodi a datblygu mesurau a fydd yn sicrhau lles ariannol pobl yng Nghymru ac yn hyrwyddo cynhwysiant ariannol yn y tymor canolig a'r tymor hir.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

24 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu ar gyfer penodi Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

24 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Y safleoedd cyntaf ar gyfer y Fforest Genedlaethol

24 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i glustnodi un deg pedwar o goetiroedd ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru fel y safleoedd cyntaf ar gyfer y Fforest Genedlaethol.

Rhaglen Gyfalaf y GIG

24 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r diweddariad i Raglen Gyfalaf y GIG.

Bwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

23 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo ymestyn aelodaeth holl aelodau’r bwrdd presennol am gyfnod o 12 mis.

Tenantiaeth ar gyfer tir ychwanegol yn Rhosygarn

23 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar delerau masnachol y farchnad agored â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwythar gyfer Tenantiaeth Busnes Fferm am ddarn 191ha o dir amaethyddol gwag a adwaenir fel Rhosygarn. Mae hyn am dymor penodol hyd at 19 Medi 2025, gan redeg ar y cyd â’r lês a ddelir am brid ystad Pwllpeiran.

Ailbenodi i Gyngor CCAUC

23 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo ailbenodi’r Athro Helen Marshall a James Davies yn aelodau o Gyngor CCAUC.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

23 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r achosion busnes ar gyfer Bro Hyddgen, Powys; Ysgol Gwenllian, Sir Gaerfyrddin; Ysgol Bro Helyg,  Blaenau Gwent; YGG Aberdâr, Rhondda Cynon Taf; Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Sir Benfro; Campws Queensferry,  Sir y Fflint; a Champysau’r Fro, Coleg Caerdydd a’r fro.

Ocsiwn carbon posibl yng Nghymru

23 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i beidio â threilau ocsiwn carbon yn gynnar yn 2021 ond yn hytrach i barhau i weithio ar ddull gweithredu pwrpasol ar gyfer Cymru.

Ymateb i Sylw Cyffredinol Rhif 25 Hawliau plant mewn perthynas â’r amgylchedd digidol

23 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth y DU i’r drafft ‘General Comment No. 25 Children’s rights in relation to the digital environment’.

Polisi gwrthfwlio

23 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi polisi gwrthfwlio Llywodraeth Cymru.

Benthyciadau Canol Trefi

23 Tachwedd 2020

Mae’r gweinidog a Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyrannu Cyllid Benthyciadau Canol Trefi ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 – 2021 i Abertawe, Blaenau Gwent, Caerdydd, Conwy, Gwynedd, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.

Ailbenodi i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

23 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i ailbenodi Emrys Davies fel Cyfarwyddwr Anweithredol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Astudiaethau ar safle datblygu yng Nglyn Ebwy

20 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer astudiaethau technegol ar safle datblygu yng Nglyn Ebwy.

Ymgynghoriad ar Adolygiad Oldham

20 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar argymhellion ‘Adolygiad Oldham o'r Trefniadau ar gyfer Ymdrin â Chamymddwyn Honedig gan Uwch-swyddogion Llywodraeth Leol yng Nghymru’; gan gynnwys cyfnod ymgynghori o 12 wythnos sy’n dechrau ar 18 Tachwedd.

Gorfodi camerâu diogelwch

20 Tachwedd 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddyrannu cyllid grant i orfodi’r defnydd o gamerâu diogelwch yng Nghymru a gyfer 2020 i 2021.

Gwerthu tir

20 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir yn SA1, Abertawe.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

20 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar amrywiadau i nifer o gynigion  Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a Grant Cyfalaf Gofal Plant.

Llawlyfr y Cyfrif Refeniw Tai

20 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo Llawlyfr y Cyfrif Refeniw Tai, gan gynnwys y ddogfen ymgynghori a’r trefniadau i ddechrau ym mis Tachwedd 2020.

Cylchoedd gwaith y swyddfeydd rhyngwladol

20 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi cylchoedd gwaith swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar 6 Tachwedd.

Cynlluniau gweithredu rhyngwladol

20 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi cyfres o gynlluniau gweithredu rhyngwladol ar 6 Tachwedd, er mwyn helpu i gyflawni uchelgeisiau’r Strategaeth Ryngwladol.

Cydgysylltydd y Lluoedd Arfog

19 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cydgysylltydd llawn amser i’r Lluoedd Arfog.

Cynllun Busnes Cyfoeth Naturiol Cymru

19 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar Gynllun Busnes Cyfoeth Naturiol Cymru 2020 i 2021.

Rhaglen Lles Penaethiaid

19 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo pecyn cymorth hyfforddi a mentora ar gyfer penaethiaid.

Trefniadau Rhaglen ReAct a Mynediad

19 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar ddiwygiadau i’r rhaglen ReAct ac i ddwyn y rhaglen Mynediad i ben yn raddol, gan ganiatáu i’r ddarpariaeth gael ei gwneud drwy ReAct.

Ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir

19 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ddrafftio deddfwriaeth i ddeddfu’r newidiadau sy’n cael eu datblygu ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol a chymorth gwledig domestig o 2021.

Gwerthu tir

19 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i werthu tir yng Nghoety, Pen-y-bont ar Ogwr.

Canllawiau Gwella Ysgolion drafft

18 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i geisio cyngor cyfreithiol allanol yn ymwneud â'r Canllawiau Gwella Ysgolion drafft.

Tollau trwyddedau gwialen

18 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y dylid pennu tollau trwyddedau gwialen ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2022.

Cynnal a chadw'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd

18 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant refeniw ar gyfer cynnal a chadw'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2021.

Penodi i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

18 Tachwedd 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cytuno i benodi Sally Meecham yn Gadeirydd Gweithredol Dros Dro i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Addysg gychwynnol athrawon

18 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y trefniadau ar gyfer darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2021 i 2022.  Mae Saesneg i'w gynnwys fel pwnc rhwng 2021 a 2022, mae cytundeb i ariannu 105 o fyfyrwyr newydd i'r Cynllun Seiliedig ar Gyflogaeth ac i ymestyn y contract Llwybrau Amgen gyda'r Brifysgol Agored am hyd at ddwy flynedd arall.

Cymorth ar gyfer y sector gofal plant

17 Tachwedd 2020

Fel rhan o becyn ariannol Llywodraeth Cymru i gefnogi Ail-greu ar ôl Covid-19: yr heriau a’r blaenoriaethau, mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd  a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynigion cyllid refeniw ar gyfer Cwlwm, Chwarae Cymru ac awdurdodau lleol sy’n gyfanswm o £3.3 miliwn. Bydd y cynigion hyn yn helpu’r sector gofal plant a chwarae, o ran adfer o efaith Covid-19 a chynaliadwyedd parhaus.

Penodiadau i Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

17 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi Dr Rhian Hayward MBE, Mr James Wright, Mr Don Thomas, Mrs Margaret Ogunbanwo a Mr Bryson Craske i Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru o ddydd Llun 16 Tachwedd am bedair blynedd.

Gwyliadwriaeth o’r awyr o ddyfroedd Cymru

17 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar drefniant gydag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar gyfer gwyliadwriaeth o’r awyr, a £100 mil o gyllid ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2021 i’w ddefnyddio i dalu am batrolau ym mharth Cymru.

Ymestyn penodiadau i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru

17 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo ymestyn tymhorau Arglwydd Aberdâr, Steve Williams a Dr Elizabeth Siberry fel Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan 31 Mawrth 2021.

Datblygu gwasanaethau 111 / cyswllt cyntaf lleol

16 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ofynion cyfalaf Gwasanaeth 111 / Cyswllt Cyntaf Ambiwlans Cymru ar gyfer 2020 i 2021.

Cefnogi dysgwyr anghenion uwch

16 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo dyrannu cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol i gefnogi dysgwyr anghenion uwch o Gymru.

Cyllid ar gyfer astudio mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

16 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Cymorth yr economi gylchol

16 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyrannu cyllid yr economi gylchol i gyrff a ariennir yn gyhoeddus ddatblygu prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â'r economi gylchol.

Cyllid ar gyfer Dechrau’n Deg

16 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynigion ar gyfer dyrannu Cronfeydd Covid ychwanegol ar gyfer cyllid cyfalaf Dechrau'n Deg yn 2020 i 2021.

Cymorth yr economi gylchol

16 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i lansio cylch newydd o Gronfa'r Economi Gylchol am £3.5 miliwn i gyrff a ariennir yn gyhoeddus ddatblygu prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â'r economi cylchol i helpu i sicrhau adferiad gwyrdd.

Tystysgrifau Dalfeydd Pysgodfeydd

16 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno; gosod trothwy risg uchel ar gyfer dilysu Tystysgrif Dalfeydd ar gyfer diwrnod 1; i'r Sefydliad Rheoli Morol sy'n darparu cymorth canolfan alwadau ar gyfer dalfa anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio (IUU) ar ran Llywodraeth Cymru; i fodel cymorth tair haen ar gyfer y Gwasanaeth Allforio Pysgod; a gwrthod mynediad i fewnforion pysgod yr UE sydd wedi'u glanio'n uniongyrchol heb Dystysgrif Dalfeydd a dogfennau IUU cysylltiedig.

Ailgyflenwi gwrthfesurau i bandemig y ffliw a nwyddau traul

16 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £5.118 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer ailgyflenwi gwrthfesurau i bandemig y ffliw a nwyddau traul.

Y Gronfa Gofal Integredig

13 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau o fewn rhanbarth Gorllewin Morgannwg, ac adnoddau staff Llywodraeth Cymru i gynnal darpariaeth rhaglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig yn 2021 i 2022.

Cymorth busnes

13 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gronfa Dyfodol yr Economi i brosiect yng Nghaerffili

Cyllid Cymorth Datblygu Swyddogol

13 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £26,270 i ariannu swydd Cydgysylltydd Cysylltiadau Iechyd Rhyngwladol tymor byr i gynnal astudiaeth gwmpasu ar gyfleoedd cyllido Cymorth Datblygu Swyddogol.

Noddi Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylchedd Morol y DU 

13 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau i noddi Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylchedd Morol y DU dros y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 30 Mawrth 2024.

Cymorth i awdurdodau lleol

13 Tachwedd 2020

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gymorth ariannol o £112,200, i awdurdodau lleol adhawlio incwm wedi’i golli (yn ystod y cyfyngiadau Covid-19) o ganlyniad i atal eu monitro o gyflenwadau dŵr preifat, drwy’r Gronfa Galedi Frys.

Banc Datblygu Cymru

12 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol Banc Datblygu Cymru ar gyfer 2020 hyd 2021.

Cefnogaeth i dwristiaeth gynaliadwy, bioamywiaeth a datgarboneiddio

12 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu £1.075 miliwn i’n tri Awdurdod Parc Cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol er mwyn eu galluogi i barhau i gyfrannu at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer bioamrywiaeth, newid hinsawdd a thwristiaeth gynaliadwy. Mae’r Gweinidog hefyd wedi ailneilltuo £0.8 miliwn i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol er mwyn gwella a chynyddu cydnerthedd yn ystod pandemig Covid ac ar ei ôl.

Canllawiau Cynllunio ar Fasn Afon

12 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r fersiwn ddrafft o’r Canllawiau Cynllunio ar Fasn Afon ac mae wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad byr a phenodol ynghylch y canllawiau.

Economegydd Cynorthwyol

12 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyllido swydd Economegydd Cynorthwyol.

Diwydrwydd dyladwy ariannol

11 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ariannu cyngor proffesiynol i ddarparu diwydrwydd dyladwy ariannol ar fusnes yn y de-ddwyrain.

Cyllid ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol

11 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cytuno i barhau i ddefnyddio incwm o’r Ad-daliad Cyflenwyr Gorfodol i dalu costau staff y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol yn rhannol ac aseinio cyllideb sylfaenol o £1.2 miliwn i dalu am y diffyg.

Penodiadau i Fwrdd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

11 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i benodi Rona Ruthun a Gary Page yn gyfarwyddwyr anweithredol newydd i Fwrdd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. 

Diwygio dogfennau llywodraethu prifysgolion Cymru

11 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo gwariant mewn perthynas â chomisiynu cyngor cyfreithiol allanol ar geisiadau gan brifysgolion Cymru i ddiwygio eu dogfennau llywodraethu.

Alinio fframweithiau cymwysterau

11 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cymorth ar gyfer alinio fframweithiau cymwysterau ac ar gyfer diwedd y cyngor ar addysg a hyfforddiant galwedigaethol yr UE.

Datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd

11 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynllun 18 mis, a elwir y Cynllun Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i’r System Gyfan, gyda chyllideb o £1.9 miliwn, i brofi a chyflymu'r defnydd o atebion arloesol system gyfan sy'n ymwneud mewn perthynas â datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd, fel rhan o'r fenter Byw'n Glyfar.

Hyfforddiant mewn rheoli heintiau

11 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer hyfforddiant mewn rheoli heintiau yn y sector cartrefi gofal.

Cymorth ar gyfer plant wedi eu mabwysiadu mewn addysg

11 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Consortia Addysg Rhanbarthol i weithio'n uniongyrchol gydag Adoption UK i ddarparu cymorth i ysgolion ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Presenoldeb a chamau gorfodi ar gyfer ysgolion

10 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo fersiwn ddiwygiedig yr adran ar bresenoldeb o fewn y Canllawiau Gweithredol ar gyfer Ysgolion sy’n cadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y defnydd o fesurau di-gosb am ddiffyg presenoldeb a’r canllawiau diwygiedig ar godau ar gyfer cofnodi presenoldeb.

Ailbenodi Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol

10 Tachwedd 2020

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i ailbenodi Yasmin Khan a Nazir Ofzal OBE yn Gynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol am 9 mis o 22 Ionawr 2021 hyd 31 Hydref 2021.

Cymorth i fusnesau

9 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi i brosiect yn Rhondda Cynon Taf.

Gwasanaeth profi ar gyfer heintiau a drosglwyddir drwy ryw (STI)

9 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo £1.4 miliwn ar gyfer parhau i weithredu’r gwasanaeth profi STI ar-lein presennol ar draws Cymru.

Cymorth i’r prosiect Ehangu Gorwelion Môn

9 Tachwedd 2020

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi £74,193 o arian cyfatebol ychwanegol a dargedir tuag at weithredu prosiect Ehangu Gorwelion Môn, a arweinir gan Gymunedau Ymlaen Môn.

Y Rhaglen Tai Arloesol

9 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynlluniau o dan Flwyddyn 4 y Rhaglen Tai Arloesol.

Cyllid datblygu amgylcheddol

6 Tachwedd 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen goedwigo yn rhanbarth Ogongo, Namibia.

Strategaeth ar gyfer Hawliau'r Plentyn

6 Tachwedd 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i ddatblygiad Cyngor Ewrop o'r 'Strategaeth ar gyfer Hawliau'r Plentyn (2022 i 2027)'.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

6 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu am benodi Aelod Annibynnol (Cymuned) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

6 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu am benodi Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Newidiadau i drefniadau absenoldeb teuluol

6 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dogfen ymgynghori sy'n ceisio barn am newidiadau arfaethedig i'r cyfnod o absenoldeb mabwysiadu ar gyfer aelodau awdurdodau lleol o 2 i 26 wythnos.

Cymorth arloesi busnes

6 Tachwedd 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid, ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i -2021, i gaffael a phenodi contractwr i ddarparu deunyddiau sy'n hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael gan y tîm arloesi.

Strategaeth Drafnidiaeth

6 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gomisiynu gwaith i helpu i gyflawni Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru.

Sefydlu cartref gofal preswyl therapiwtig i blant ym Mhowys

6 Tachwedd 2020

Cytunodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ariannu £525,000 ar gyfer sefydlu cartref gofal preswyl therapiwtig i blant ym Mhowys yn 2020 i 2021.

Cyllid undebau credyd

6 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog a Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar estyniad 'mewn egwyddor' i'r cyllid a roddir i undebau credyd am flwyddyn arall, rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022.

Adfer a chefnogi gweithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant

6 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog a Dirprwy Weinidogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y llythyr cylch gwaith i Ofal Cymdeithasol Cymru ymgymryd â gwaith ar adfer a chefnogi gweithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2021.

Gweithredu Rheoliad UE 2018/1724 ar greu Porth Digidol Unigol

5 Tachwedd 2020

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i beidio â gweithredu Rheoliad y Porth Digidol Unigol.

Rheoli cronfeydd cyfun ar gyfer cartrefi gofal

5 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyfres o gamau gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion a gyhoeddwyd gan KPMG yn ymwneud â threfniadau rheoli cronfeydd cyfun ar gyfer cartrefi gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Dyfarniad cyflog addysg bellach

5 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ariannu’r dyfarniad cyflog ar gyfer addysg bellach ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2020 i 2021.

Cymorth ar gyfer y cyfnod atal byr yn sgil Covid-19

5 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar drefniadau i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i’r Grant y Gronfa Ddewisol i gefnogi busnesau a’r Gronfa Cymorth Dewisol i gefnogi aelwydydd yn ystod y cyfnod atal byr ym mis Hydref a mis Tachwedd.

Penodiadau i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

4 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddechrau ar y broses o hysbysebu ar gyfer penodi dau Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ardystio sampleri dŵr

4 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid i Awdurdodau Lleol ardystio sampleri dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat.

Gwerthu eiddo

4 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu eiddo yn Sain Tathan.

A465, Brynmawr i Gilwern

4 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gau’r ffordd ar benwythnosau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020.

Mesurau i leihau nitrogen deuocsid

4 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi hysbysiadau cynghori i yrwyr sy’n mynd dros y terfyn cyflymder o 50 milltir yr awr ar y rhannau dynodedig o’r draffordd a’r rhwydwaith cefnffyrdd.

Penodi i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

3 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ailbenodi Sarah (Saz) Willey fel aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol am gyfnod o bedair blynedd a thri mis o 1 Ionawr 2021 ac i recriwtio aelod newydd i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol drwy gystadleuaeth agored.

Dirprwyo awdurdod

3 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Nyrsio ar gyfer dyrannu cyllideb y Gyfarwyddiaeth Nyrsio yn 2020 i 2021.

Buddsoddiad yn Llangefni

3 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddatblygu unedau diwydiannol newydd yn Llangefni.

Gwerthu Tir

3 Tachwedd 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu safle ym Mharc Cybi, Caergybi, Ynys Môn.

Cyllid Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

3 Tachwedd 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i roi cyllid o £9,000 i’r Uned Atal Trais er mwyn cefnogi adolygiad o ymyriadau iechyd cyhoeddus i leihau trais, yn enwedig trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV); a £6,500 ar gyfer codi ymwybyddiaeth am VAWDASV ymhlith gwasanaethau plant a phobl ifanc.

Rhaglen Tai Arloesol ym Mhowys

3 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cymorth i Gyngor Sir Powys o’r Rhaglen Tai Arloesol, er mwyn caniatáu adeiladu tai pren di-garbon â gradd A ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni mewn ardaloedd gwledig lle mae’r galw am dai yn uchel.

Benthyciad Cyfalaf Canol Trefi

3 Tachwedd 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i alwad agored i bob awdurdod lleol ar draws Cymru er mwyn gweld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn Benthyciad Cyfalaf Canol Trefi.

Llywodraethu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

30 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi Rhaglen Ddyfarnu Interim ar waith ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymru.

Datblygiad preswyl Cefn Fforest, Caerffili

30 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gwrthod apêl cynllunio ac wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais cynllunio amlinellol cyf: 17/0681/OUT, yn ymwneud â datblygiad o hyd at 300 o anheddau ar dir yn Heol y Cefn, Cefn Fforest, Bedwellte, Caerffili.

Menter y Cymoedd Technoleg

30 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i greu rhwydwaith cymheiriaid i gefnogi amcanion menter y Cymoedd Technoleg.

Amgylcheddau gwaith diogel rhag Covid-19

30 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch i ddatblygu prosiect braenaru arloesol gyda’r nod o gynorthwyo busnesau i gynllunio a gweithredu amgylcheddau gwaith diogel yn ystod argyfwng Covid-19.

Prosiect Global Teaching Labs

30 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo datblygu fersiwn ar-lein o Brosiect Global Teaching Labs Sefydliad Technoleg Massachusetts. 

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

30 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i ariannu Cyngor Sir Powys i greu safle 5 llain newydd i Sipsiwn a Theithwyr ym Machynlleth.

Coedwigaeth

30 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r Strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer Coedwigaeth ym Mhrydain ar ei newydd wedd.

Prosiect Tai Torfaen

29 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i amrywio amodau cymeradwyaeth i ddefnyddio £1.4 miliwn o dderbyniadau wedi'u hailgylchu o Gam 1 Prosiect Tai Torfaen; amrywio cymeradwyaeth bresennol i ddefnyddio hyd at £614,569 o dderbyniadau wedi'u hailgylchu o Gam 1 Prosiect Tai Torfaen; a chymeradwyo’r defnydd o weddill derbyniadau Cam 1 Prosiect Tai Torfaen, sef cyfanswm o £75,000.

Adolygiad arweinyddiaeth

29 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gynnal adolygiad o gymorth ar gyfer arweinyddiaeth yng Nghymru.

Grant gwasanaethau cymdeithasol plant

29 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gwerth dros £8 Miliwn ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n diogelu plant ac sy'n cefnogi plant sydd wedi bod mewn gofal, gan gynnwys y rhai sy'n gadael gofal.

Cymorth busnes

29 Hydref 2020

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar gyllid ar gyfer busnes yn Abertawe.

Grant Cyfalaf Covid-19 Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

29 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo dyraniad Grant Cyfalaf Covid-19 Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2020 i 2021.

Cynnig cwricwlwm lleol

29 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i newidiadau yn y ffordd mae’r cynnig cwricwlwm lleol i’r rhai 14 i 19 oed yn cael ei adrodd, gan alluogi Gyrfa Cymru i symud ymlaen i ddatgomisiynu ei gynnig ar-lein i’r rhai 14 i 19 oed.

Cyfrifiad blynyddol cysgu allan

29 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ohirio’r cyfrifiad blynyddol o’r rhai sy’n cysgu allan ar gyfer mis Tachwedd 2020.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

29 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Linda Tomos fel Aelod Annibynnol Cymunedol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, am 4 blynedd o 27 Hydref 2020 hyd at 26 Hydref 2024.

Y sector gwaith chwarae

29 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i gefnogi cynlluniau chwarae i blant a helpu i adfer y sector gwaith chwarae yn dilyn Covid-19.

Cymorth i Brynu Cymru

27 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno, mewn egwyddor, i ddatblygu cam tri y cynllun benthyciad rhannu ecwiti Cymorth i Brynu Cymru o 2021 i 2023, ar yr amod bod y cyllid ar gael.

Cyllid ar gyfer Cyngor y Deillion Cymru

27 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i Gyngor y Deillion Cymru i sefydlu prosiect i gryfhau’r gofal a’r cymorth y mae pobl sydd wedi colli’u golwg yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

27 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif, achosion busnes Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer Awst 2020.

Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar gyfer Mawndiroedd

26 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ddrafft ar gyfer Mawndiroedd ac wedi cytuno i ddarparu Rhagair Gweinidogol ar gyfer y ddogfen.

Metro Gogledd Cymru

26 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid pellach yn 2020 i 2021 ar gyfer cynlluniau sy’n cyfrannu at ddarparu Metro Gogledd Cymru.

Metro Gogledd Cymru

26 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gynllun datblygu Metro’r Gogledd a’r lleoliad a ffefrir ar gyfer gorsaf ym Mharcffordd Glannau Dyfrdwy.

Y Gordal Iechyd Mewnfudo

26 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar sut i weithredu a darparu ad-daliadau i’r rheini sydd wedi’u hesemptio rhag y Gordal Iechyd Mewnfudo drwy gytundeb rhwng 4 cenedl o dan un weinyddiaeth, a redir ar y cyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Swyddfa Gartref a’r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Prentisiaethau a gefnogir

26 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i ddarparu gweithgarwch Anogwr Gwaith - Prawf Cydsyniad i roi camau gweithredu ar waith o fewn Prentisiaethau Cynhwysol - Cynllun Gweithredu ar Anabledd.

Ffioedd Banc Datblygu Cymru

26 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cynnydd yn y ffi blynyddol a delir i Banc Datblygu Cymru o ran ei rôl  fel Asiant Monitro ar Fenthyciad Masnachol a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Arolygiaeth Gofal Cymru

26 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol

26 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido dwy ddogfen ganllaw gynhwysfawr ar gyfer awdurdodau lleol i help i weithredu a chyflenwi’r Fframwaith Perfformiad a Gwella.

Etholiad 2021 y Senedd

26 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol yn gofyn iddo ymgymryd ag ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ar gyfer grwpiau a ryddfreiniwyd yn ddiweddar fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer etholiad 2021 y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’r ymgyrchoedd penodol hyn.

Prosiect deuoli’r A465, Dowlais i Hirwaun

23 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo camau gweithredu a chyflenwi’r contract ar gyfer dylunio, adeiladu, cyllido a gweithredu gwaith deuoli’r A465, Adrannau 5 a 6 rhwng Dowlais a Hirwaun, ynghyd â’r holl ddogfennau cysylltiedig.

TVR

23 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ymestyn trafodiad masnachol, ailddosbarthu rhai gyfrannau presennol i randdeiliaid newydd a chymeradwyo’r cwmni i ymrwymo i gyfleuster dyled diwygiedig gyda benthyciwr presennol.

Y Gronfa Datblygiad Plant

23 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer y Gronfa Datblygiad Plant.

Y Gronfa Datblygiad Plant

23 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sefydlu Cronfa Datblygiad Plant a Rhaglen Hyfforddi Therapyddion Lleferydd ac Iaith.

Cynllun Cymrodyr Academaidd Canolbarth a Gorllewin Cymru

23 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ymestyn y Cynllun Cymrodyr Academaidd Canolbarth a Gorllewin Cymru am ddwy flynedd.

Diwygio’r Senedd

22 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r ymateb i’r Pwyllgor ar yr adroddiad ar Ddiwygio’r Senedd: Y camau nesaf.

Gweithwyr Allgymorth o Grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

22 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer penodi gweithwyr allgymorth o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ymhob bwrdd iechyd er mwyn sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.

Contract consesiwn cefnffyrdd

22 Hydref 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo diwygiadau i’r contract consesiwn yn sgil newid o ran perchenogaeth Net Support UK.

Awdurdod Refeniw Cymru

21 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cais Awdurdod Refeniw Cymru i recriwtio dau aelod anweithredol newydd dros dro heb gystadleuaeth am gyfnod o hyd at 12 mis o 19 Hydref 2020.

Cymorth i ofalwyr

21 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cronfa galedi i liniaru effaith ariannol Covid-19 ar ofalwyr di-dâl rhwng 2020 a 2021.

Prosiect hwyluso gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg

21 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y bydd cyllid ar gael o’r Rhaglen Cymoedd Technoleg dros flynyddoedd ariannol 2020 i 2021, 2021 i 2022 a 2022 i 2023 i helpu i gyflawni prosiect hwyluso gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Penodi i Career Choices Dewis Gyrfa Limited

21 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo ymarfer recriwtio cyhoeddus i benodi pum aelod newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr Career Choices Dewis Gyrfa Limited.

Cymdeithas Cludiant Cymunedol

21 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid yn 2020-2021 i Gymdeithas Cludiant Cymunedol y DU ddarparu cymorth arbenigol drwy Gymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru.

Sylw Cyffredinol drafft Rhif 25 ar Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig

21 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i Sylw Cyffredinol draft Rhif 25 ar Hawliau Plant mewn perthynas â’r amgylchedd digidol.

I wella’r ddarpariaeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

21 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i wella’r ddarpariaeth ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn y Blynyddoedd Cynnar, hyrwyddo sefydlogrwydd teuluol ac ansawdd cydberthynas, a chyllid i estyn y Rhaglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar.

Biliau dŵr

20 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i adolygu fforddiadwyedd biliau dŵr a’r cymorth ariannol sydd ar gael ar eu cyfer, ac mae wedi gofyn i’r Cyngor Defnyddwyr ymgymryd â’r gwaith hwn.

Ffyrdd heb eu mabwysiadu

20 Hydref 2020

Cytunodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar argymhellion yr adroddiad terfynol a luniwyd gan Dasglu Ffyrdd sydd heb eu Mabwysiadu Cymru, i gynnwys dogfennau arferion gorau i’w hadolygu’n flynyddol gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru ac ymarfer peilot i ddyrannu cyllid i wella ffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu a nodwyd gan awdurdodau lleol.

Career Choices Dewis Gyrfa

20 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r gwaith o gaffael gwasanaethau chwilio am ymgeiswyr i gefnogi’r broses o recriwtio pum aelod newydd i Fwrdd Dewis Gyrfa.

Fforwm Niwclear Cymru

19 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid i Fforwm Niwclear Cymru ar gyfer 2020 i 2021.

Arc Niwclear y Gogledd-orllewin

19 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid i Arc Niwclear y Gogledd-orllewin ar gyfer 2020 i 2021.

Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholi Addysgol

19 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholi Addysgol.

Cymeradwyaeth fenthyca

16 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Trefyclo am £80,000.

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

15 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn cyfnod Cadeirydd dros dro Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Parth Arddangos Morlais

15 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi tystysgrif o dan Baragraff 6 o Atodlen 3 o’r Ddeddf Caffael Tir 1981 i Menter Môn ar gyfer prosiect Parth Arddangos Morlais.

Partneriaeth Diwydiannau Coedwigaeth Cymru

15 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i sefydlu Partneriaeth Diwydiannau Coedwigaeth Cymru.

Penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru

15 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cynllun i benodi Aelodau i Gyngor Celfyddydau Cymru erbyn mis Mawrth 2021.

Penodi i Gomisiwn Dylunio Cymru

14 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r cynllun penodi ar gyfer hysbysebu, cyhoeddi a recriwtio mewn perthynas â phenodi tri Chomisiynydd newydd i Gomisiwn Dylunio Cymru erbyn Ebrill 2021.  

Gwerthu tir

14 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ostyngiad yn y pris gwerthu ar gyfer tir yn Nolfor, Llanfairfechan, Conwy.

SA1 Glannau

14 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith ar seilwaith y prosiect SA1 Glannau Abertawe.

Cynnal cynllun peilot yng Nghymru ar gyfer profi carcharorion a staff carchardai sy’n asymptomatig

14 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu cynllun peilot sy’n defnyddio profion PCR Antigen i brofi carcharorion a staff carchardai sy’n asymptomatic, er mwyn canfod y rheini sydd wedi eu heintio â’r coronafeirws ac atal yr haint rhag dechrau lledaenu. Byddai’n bosibl cadw’r rhaglen i’r neilltu yn barod i’w defnyddio fel mesur rheoli pe bai angen.  

Myfyrwyr Academi Seren

13 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gael mwy o fyfyrwyr Academi Seren 2020 i 2021 i’r rhith ysgol haf ryngwladol.

Cwricwlwm

13 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo ‘Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022’.

Cais cynllunio a alwyd i mewn

13 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais cynllunio a alwyd i mewn ar ddatblygu 34 o dai preswyl fforddiadwy ar dir i’r gogledd o’r A473, Heol Creigiau, Llanilltud Faerdref.

Grant Methiant Gwasanaeth

13 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant o hyd at £20,000 i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn 2020 i 2021 er mwyn eu galluogi i ymateb i unrhyw fethiant gwasanaeth a nodir mewn gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Ailbenodi i Amgueddfa Cymru

9 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo ailbenodiad Dr Carol Bell fel Is-lywydd Amgueddfa Cymru am ail dymor.

Diwygiadau i bwerau prynu gorfodol

9 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol newydd ar brynu gorfodol yng Nghymru, ac ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i bwerau a gweithdrefnau prynu gorfodol. 

Cymorth busnes

9 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd o dan Gam 2 y cynllun i 2 fusnes yng Nghymru.

Cymorth busnes

9 Hydref 2020

Mae Gweinidog a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid buddsoddi o'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer 4 cwmni yn y sectorau hamdden, trafnidiaeth, manwerthu a gweithgynhyrchu, sydd wedi'u lleoli yn y De-ddwyrain, y Gorllewin a’r Gogledd.

Rhaglen Ynni Adnewyddadwy Morol

8 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Rhaglen Ynni Morol a Her Ynni.

Cynllun Cydraddoldeb Hiliol i Gymru

8 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Hiliol i Gymru.

Cronfa Galedi Awdurdodau Lleol

8 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y dylid defnyddio Cronfa Galedi Awdurdodau Lleol i ariannu mesurau gorfodi ychwanegol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Trawsnewid Trefi

7 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cymeradwyo cyllid mewn egwyddor i gefnogi'r gwaith o adnewyddu ac addasu Adeiladau'r Goron ac Adeiladau Cyffiniau’r Goron Llanelli o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi.

Gwenyn iach

7 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gymeradwyo a chyhoeddi Cynllun Gwenyn Iach 2030 a'r Adolygiad o'r Cynllun Gwenyn Iach.

Ailbenodi i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

7 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Mansel Aylward (Cadeirydd) Rupert Jones, Jarred Evans, Chris Martin a Catherine O'Brien i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am gyfnod o 3 blynedd, o 7 Hydref 2020 tan 6 Hydref 2023.

Ail-benodi i Fwrdd Chwaraeon Cymru

7 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ail-benodi tri Aelod o'r Bwrdd: Ashok Ahir, Ian Bancroft, ac Alison Thorne ac un Is-gadeirydd, Pippa Britton, i Fwrdd Chwaraeon Cymru. Bydd pob un yn gwasanaethu am 3 blynedd arall, o 1 Hydref 2020 tan 30 Medi 2023.

Datblygu cynllun benthyciadau ynni sector cyhoeddus newydd

7 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i swyddogion ddatblygu dull amgen o ymdrin â'r cynllun benthyca a weithredir ar hyn o bryd gan Salix Finance Ltd. gyda Datblygu Cymru i lywio cyngor pellach a phenderfyniad terfynol.

Gwasanaethau brys a gofal mewn argyfwng

7 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu £30m o gyllid ychwanegol fel bod modd trawsnewid gwasanaethau brys a gofal mewn argyfwng a sicrhau rhagor o gydnerthedd yn ystod gweddill 2020 hyd 2021.

Amrywiaeth mewn Democratiaeth

7 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r camau gweithredu ar gyfer Cam 2 y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Cymwysterau Safon Uwch

7 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer cefnogi gwaith dysgu ac addysgu cymwysterau Safon Uwch.

Penodi i Fwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

7 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu am Is-Gadeirydd ar gyfer y Bwrdd.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

7 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu am Aelod Annibynnol ar gyfer y Bwrdd.

Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau

7 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailddechrau Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau.

Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws

5 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytun i gau’n ofalus Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.

Gweithgor y Cwricwlwm Newydd

5 Hydref 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo Cylch Gorchwyl Cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, Cyfraniadau a Chynefin Gweithgor y Cwricwlwm Newydd ac mae wedi cytuno y gall y Cylch Gorchwyl newydd, yn cynnwys manylion aelodau’r grŵp, gael ei gyhoeddi.

Adroddiad Blynyddol ar Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982

5 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i osod yr Adroddiad Blynyddol ar Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982 ar gyfer blwyddyn ariannol 2019 hyd 2020 ger bron Senedd Cymru.

Safle Sipsiwn a Theithwyr Lôn Gefn Bangor

5 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwp wedi cymeradwyo cyllid grant a fydd yn galluogi gwaith i adleoli rhwystr sŵn ar safle Sipsiwn a Theithwyr Lôn Gefn Bangor.

Cytundebau benthyciadau

5 hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i estyn y cytundebau benthyciadau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn ymateb i ddwyn ymlaen safleoedd heriol yn Nyffryn Llynfi ar gyfer tai ddeuddeg mis, ac ar sail ymarferoldeb gall y gwaith ymchwilio ymwthiol ar safle Washery West, Maesteg, gael ei estyn am chwe mis.

Cymorth busnes

5 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cwmni yng Nghanolbarth Cymru.

Cymorth busnes

5 Hydref 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer busnes yng Nghasnewydd.

Grant Trawsnewid Trefi

2 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymadwyo cyllid ar ffurf grant Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Gwynedd a Chyngor Dinas Casnewydd, a c wedi cymeradwyo mewn egwyddor gyllid grant i Gyngor Sir Penfro.

Iawndal Maes Awyr Caerdydd yn sgil Covid-19

2 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y gall swyddogion gyflwyno Hysbysiad Cymorth Gwladwriaethol am iawndal i'r Comisiwn Ewropeaidd yn sgil Covid-19.

Cymorth busnes

2 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo Cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd o dan Gam 2 y cynllun i dri busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cymorth busnes

2 Hydref 2020

Cymeradwyodd Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ddarparu cyllid ar ffurf benthyciadau i ddau Gwmni Bysiau yng Nghymru, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy boddhaol a chymeradwyo’r telerau masnachol terfynol

Cymorth busnes

2 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd.

Cymorth busnes

2 Hydref 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Addasiadau i'r Cytundeb Benthyciadau

2 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwelliannau i gytundeb benthyca.

Prentisiaethau

2 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gyflwyno taliadau cymhelliant i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid, ail-gyflogi prentisiaid di-waith a chyflogi pobl anabl fel prentisiaid i helpu i ymateb i effaith COVID-19. Mae'r mesurau'n cwmpasu'r cyfnod o 1 Awst 2020 hyd 28 Chwefror 2021.

Cynllun Rheoli Cynefinoedd Sylweddol

1 Hydref 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i fwrw ymlaen â gwaith cwmpasu a datblygu mecanwaith prosiect peilot ar gyfer rheoli cynefinoedd sy’n targedu’n benodol barseli bach o laswelltiroedd lled-naturiol gwerth natur uchel.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg

1 Hydref 2020

Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i osod copi o Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2019 i 2020 yn y Senedd.

Cymorth i Gymdeithas Tai ClwydAlyn

1 Hydref 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo benthyciad Cyfalaf Trafodiad Ariannol i Gymdeithas Tai ClwydAlyn fel y gall ymgymryd â gwaith adeiladu a seilwaith hanfodol ar unwaith ar Safle Cymunedol Tai Pwylaidd Penrhos, Llanbedrog, Pwllheli.

Cynllun Rheoli Cynefinoedd Sylweddol

30 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i fwrw ymlaen â gwaith cwmpasu a datblygu mecanwaith prosiect peilot ar gyfer rheoli cynefinoedd sy’n targedu’n benodol barseli bach o laswelltiroedd lled-naturiol gwerth natur uchel.

Ymgyrch Sicrwydd Gofal Plant

30 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer yr Ymgyrch Sicrwydd Gofal Plant a gweithgareddau cyfathrebu cysylltiedig.

Cymorth busnes

30 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd o dan Gam 2 y cynllun ar gyfer tri busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Cymorth busnes

30 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Rhondda Cynon Taf.

Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Cwyr Clustiau

30 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Lwybr Cenedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Cwyr Clustiau.

Gwaredu tir

29 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y ceir gwaredu tir drwy werthiant rhydd-ddaliad yn Sir y Fflint.  

Cyflenwi meddyginiaethau

29 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fodel o gymorth cyflenwi meddyginiaethau wedi’i oedi rhwng 1 Hydref 2020 a 31 Mawrth 2021, (Y Cynllun Cenedlaethol Cyflenwi Presgripsiynau gan Wirfoddolwyr a Chynllun Clicio a Gollwng wedi’i dracio 24 awr y Post Brenhinol) i roi sicrwydd o ddarpariaeth pe bai ail frig yn digwydd.

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ailddyrannu cronfeydd cyfredol a neilltuwyd eisoes er mwyn talu £12,000 o gostau i gynnal gweinydd data i gefnogi’r Cynllun Cenedlaethol Cyflenwi Presgripsiynau gan Wirfoddolwyr.

Cynllun Blaenoriaethau Pwysau Iach: Cymru Iach

29 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Blaenoriaethau Pwysau Iach: Cymru Iach ar gyfer 2020 i 2021 gyda chymorth £5.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, a chymorth rheolaidd ar gyfer 2021 i 2022.

Arolygon staff GIG Cymru

28 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y gall Addysg a Gwella Iechyd Cymru brynu meddalwedd i gefnogi arolwg cenedlaethol a lleol o staff GIG Cymru a'r dadansoddiadau dilynol, a ddylai gyflymu'r ffordd y mae'r GIG a Llywodraeth Cymru yn ymateb i faterion a godir.

Adroddiad Blynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg

25 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyngor y Gweithlu Addysg gerbron y Senedd.

Cyfnewid Pobl Cymru

25 Medi 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i arddangos tudalen we yn lle’r wefan Cyfnewid Pobl Cymru sydd bellach wedi cau. Mae hefyd wedi cytuno i ystyried a oes cefnogaeth i adnodd newydd yn lle Cyfnewid Pobl Cymru.

Y rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy

25 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dyraniad arall o £2,679,800 o raglen gyfalaf Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy i gyrff sy’n rheoli tirweddau dynodedig, awdurdodau lleol, Canŵ Cymru a Ffermydd a Gerddi Cymunedol ar gyfer Hamdden Awyr Agored a Thirweddau yn 2020 hyd 2021.

Prydau ysgol am ddim

25 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ddyrannu rhagor o gyllid i dalu costau darpariaeth yn lle prydau ysgol am ddim i ddisgyblion sy’n eu gwarchod eu hunain neu sy’n hunanynysu yn sgil yr argyfwng Covid-19.

Ymchwiliad tir geoamgylcheddol

25 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cynnal ymchwiliad tir ar safle datblygu yng Nghaerdydd.

Gradd Meistr mewn Addysg

25 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cymorth ar gyfer y Cwrs Meistr newydd mewn Addysg a fydd yn cael ei gyflwyno gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Dylid cynnig y cymorth hwnnw i’r nifer uchaf posibl o ymgeiswyr.

Ehangu’r rhwydwaith swyddfeydd tramor

25 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Gymraeg wedi cytuno i benodi aelod ychwanegol o staff Llywodraeth Cymru ac aelod staff lleol ychwanegol yn swyddfa San Francisco, ac aelod staff lleol ychwanegol yn swyddfeydd Dulyn a Llundain.

Penodiad i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

25 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Mrs Sarah Hattle yn Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, o 1 Hydref 2020 tan 30 Medi 2024.

Cymorth busnes

25 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Safon Ansawdd Tai Cymru

25 Medi 2020

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i estyniad o flwyddyn ychwanegol y tu hwnt i'r dyddiad cau ar gyfer cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, hyd at 31 Rhagfyr 2021, ar gyfer Caerffili, Wrecsam, Sir y Fflint ac Abertawe.

Y rhaglen frechu rhag y ffliw

23 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer practisau ymarferwyr cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol i ddarparu’r rhaglen frechu rhag y ffliw yn 2020 i 2021.

Trawsnewid Trefi

23 Medi 2020

Mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar arian grant Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Dinas Casnewydd, a chyllid grant mewn egwyddor i Gyngor Dinas Abertawe.

Banc Datblygu Cymru

23 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cymeradwyo a nodi amrywiadau i Gronfa Fusnes Cymru, Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, a’r Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, sydd yn cael eu gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru.

Canllawiau cartrefi gofal

23 Medi 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol o £12,250 ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru yn 2020 i 2021 i lunio 3 chanllaw ar wahân ar gyfer cartrefi gofal.

Y Gronfa Gofal Integredig

23 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn ardaloedd Gorllewin Morgannwg, y Gogledd a Phowys.

Cymorth busnes

22 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi i brosiect yn Rhondda Cynon Taf.

A40 Penblewin i Groesffordd Maencoch

22 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y ceir cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus Lleol mewn perthynas â Chynllun Gwella’r A40 Penblewin i Groesffordd Maengoch, yn sgil cyhoeddi’r Gorchmynion Statudol drafft.

Cynllun Grantiau Ynni Dŵr

22 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau â’r Cynllun Grantiau Ynni Dŵr ar gyfer 2021 i 2022, gan ganolbwyntio cymorth ar brosiectau sydd o dan berchenogaeth y gymuned.

Cymorth busnes

21 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Cymorth busnes

21 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Cais cynllunio

21 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais cynllunio a alwyd i mewn sy'n ymwneud ag israniad, addasiadau ac estyniadau yn y White Swan Inn, Aberhonddu, cyf: 18/16018/FUL, a gyflwynwyd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ymateb i Covid 19

21 Medi 2020

Cytunodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i sefydlu cyfleuster 400 o welyau ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.

Penodi i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

21 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi'r Athro Sian Griffiths yn Gyfarwyddwr Anweithredol (Iechyd y Cyhoedd) a'r Athro Diane Crone yn Gyfarwyddwr Anweithredol (Prifysgol) i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru am bedair blynedd rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2024.

Penodi i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

18 Medi 2020

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mohammed Mehmet yn Gyfarwyddwr Anweithredol (Prifysgol), yn rhan-amser, i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru am ddwy flynedd rhwng 21 Medi 2020 a 31 Mawrth 2022.

Cynllun Dychwelyd Ernes

18 Medi 2020

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar gynigion ar gyfer yr amserlenni diwygiedig ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) a Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu. Cytunodd ar gwmpas y DRS i'w gynnwys yn yr ymgynghoriad nesaf ar gynllun a ffefrir gan gynnwys rhwymedigaethau cynhyrchwyr, cynllun hollgynhwysfawr neu sy’n berthnasol i rai cynhyrchion yn unig, y deunyddiau dan sylw, trefn lywodraethu’r cynlluniau, lefel yr ernes, ffrydiau refeniw, mannau dychwelyd, gweinyddwr y cynllun a thaliadau awdurdodau lleol.

Cymorth busnes

18 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo rhyddhau taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflenwi ym mlynyddoedd ariannol 2020 i 2021, 2021 i 2022, 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Cynllun Masnachu Allyriadau

18 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnwys Dogfen Gryno Fframwaith Cyffredin Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU a bydd yn ei rhannu â phwyllgorau perthnasol y Senedd i'w helpu i graffu ar y fframwaith.

Cyllid ar gyfer Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

17 Medi 2020

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi saith arbenigwr data (un o bob rhanbarth) i gymryd rhan yn y Grŵp Ysgrifennu Data. Maent hefyd wedi cytuno ar gyllid i Awdurdodau Lleol i'w galluogi i ddatblygu eu capasiti i gymryd rhan lawn yn y gwaith o weithredu'r Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd a helpu i ymateb i argyfwng Covid-19 a’r broses o ddod drosto.

Ymgynghoriad Mwy nag Ailgylchu

17 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi'r Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad ar Mwy nag Ailgylchu

Cyllid Cadernid Economaidd

17 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd o dan Gam 2 y cynllun i fusnes yn Abertawe a busnes yng Nghaerffili.

Gwelliannau’r A40 Penblewin i Groesffordd Maencoch

17 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyhoeddi Gorchmynion Statudol drafft a Datganiad Amgylcheddol ar gyfer prosiect A40 Croesffordd Maencoch.

Penodiadau i fwrdd Cymwysterau Cymru

17 Medi 2020

Cytunodd y Gweinidog Addysg ar drefniadau ar gyfer penodiadau cyhoeddus i fwrdd Cymwysterau Cymru a fyddai’n cymryd lle'r aelodau a fydd wedi gwasanaethu dau dymor yn ystod 2020 i 2021.

Cyllid Strategol Rhanddeiliaid Bysiau

17 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid grant refeniw Rhanddeiliaid Bysiau Strategol ar gyfer chwarteri 2 i 4 y flwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Cymeradwyaeth fenthyca

17 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf.

Cymorth i fusnesau

17 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cwmni sydd wedi'i leoli yn Nhorfaen.

Cymorth i fusnesau

14 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd o dan Gam 2 y cynllun i fusnes yn Abertawe.

Cymorth i fusnesau

14 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd o dan Gam 2 y cynllun i fusnes yn Rhondda Cynon Taf.

Cymorth i fusnesau

14 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd o dan Gam 2 y cynllun i 3 busnes yng Nghymru.

 

Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

14 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ganlyniad trafodaethau contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol rhwng 2020 hyd 2021.

Rhaglen endosgopi genedlaethol

11 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y rhaglen endosgopi genedlaethol yn 2021 hyd 2022 a 2022 hyd 2023 er mwyn lliniaru effaith pandemig Covid-19.

Asesydd Diogelu’r Amgylchedd

10 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ddechrau y broses recriwtio i benodi Asesydd Diogelu’r Amgylchedd Interim, Cymru.

Band Eang 4G Allwedd Band Eang Cymru

10 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i adolygiad o gostau Band Eang 4G Allwedd Band Eang Cymru a’r Rhyngrwyd Pethau.

Gofalwyr maeth

9 Medi 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gomisiynu adolygiad o’r Isafwm Lwfans Cenedlaethol sy’n cael ei dalu i ofalwyr maeth cofrestredig yng Nghymru.

Dyfarniadau Ystadau Cymru 2020

9 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i lansio ceisiadau ar gyfer Dyfarniadau Ystadau Cymru 2020 er mwyn cydweithio i ddefnyddio asedau eiddo y sector cyhoeddus ddydd Gwener 4 Medi.

Addysg bellach arbenigol

9 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo y cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Rhagor o arian i optometryddion

9 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i dalu rhagor o arian i optometryddion sy’n darparu Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru rhwng 2020 a 2021.

Cartref Gofal Brithdir

8 Medi 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ildio hawl Braint Broffesiynol Gyfreithiol mewn perthynas â chyngor a roddwyd gan Wasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru i  Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (Arolygiaeth Gofal Cymru bellach) yn ystod 2002 i 2006. Mae hyn yn ymwneud â’r datgeliad cyfreithiol y nodwyd ei fod yn berthnasol i drafodion yr ymchwiliad i farwolaethau saith o breswylwyr Cartref Gofal Brithdir yn ystod y 2000au.

Gorchuddion wyneb i ddisgyblion

8 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid refeniw ar gyfer prynu gorchuddion wyneb i’r holl ddysgwyr oedran ysgol uwchradd ac addysg bellach, ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Monitro pysgodfeydd

8 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i weithio gyda’r Sefydliad Rheoli Morol i ddatblygu ateb TG newydd ar gyfer cofnodi, coladu ac adrodd ar ddata’n ymwneud â chadw golwg ar bysgodfeydd yn y DU, ac arolygu’r pysgodfeydd hynny, yn ogystal â dyrannu cyllid ar gyfer costau refeniw parhaus y system hon.

Cymorth i ddysgwyr

8 Medi 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg (Cymru) a Grant Dysgu (Cymru) Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Y Gronfa Teithio Llesol

8 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ganiatáu i Gyngor Casnewydd addasu ei ddyraniad o’r Gronfa Teithio Llesol 2020 i 2021 at ddibenion eraill.

Cyllid Trafnidiaeth

8 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Gyngor Dinas Caerdydd ar gyfer mesurau trafnidiaeth gynaliadwy fel rhan o’r ymateb i Covid-19.

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

7 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn ymhellach y cyfnod llacio dros dro ar gyfer safonau penodedig a nodir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed mewn ymateb i Covid-19, a hynny i bob darparwr gofal plant cofrestredig tan 31 Rhagfyr 2020.  Bydd unrhyw lacio yn cael ei gyfyngu i ganllawiau Llywodraeth Cymru, a bydd yn amodol ar gymeradwyaeth awdurdodau lleol fesul achos.

Olynydd i Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop

7 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y gellir datblygu cam un o ddull dau gam ar gyfer creu cronfa i olynu Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Penodi i Diwydiant Cymru

7 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo penodi'r Athro Keith Ridgway CBE yn Gadeirydd dros dro Diwydiant Cymru, am gyfnod o 18 mis yn dechrau ar 1 Medi 2020.

Prydau ysgol am ddim

4 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ddarparu £1.28 miliwn o arian ychwanegol i’r awdurdodau lleol er mwyn talu costau ychwanegol prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod 1-13 Medi 2020, sef pythefnos gyntaf tymor yr hydref.

Y Rhaglen Adolygu Clinigol

4 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i'r gofynion cyllidebol cynyddol sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen Adolygu Clinigol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif

4 Medi 2020

Cymeradwyodd y Gweinidog Addysg fuddsoddiad pellach o £30 miliwn yn rhaglen addysg dechnegol Hwb ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Y Cyngor Prydeinig

4 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar grant i'r Cyngor Prydeinig i ymgymryd â gweithgareddau allweddol rhwng 2020 a 2021.

Cyflenwad dŵr swmp

3 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn y risg fflworideiddio sy'n gysylltiedig â'r cyflenwad dŵr swmp rhwng Severn Trent Water a Dŵr Cymru Welsh Water.

Estyn penodiad i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

3 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y dylai Janet Pickles barhau i wasanaethu fel Aelod Annibynnol (Ansawdd) o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre tan 30 Medi 2021.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn

3 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gyfer 2020 i 2021.

Canllawiau ymweld â chartrefi gofal

3 Medi 2020

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer ymweld â chartrefi gofal, sef 'Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr’.

Penodiadau i Cyfoeth Naturiol Cymru

3 Medi 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i estyn penodiadau tri aelod presennol o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac ailbenodi un aelod o’r bwrdd.

Digartrefedd

1 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid o Gam 2 y gronfa Digartrefedd.

Seilwaith digidol

1 Medi 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer seilwaith digidol Cyngor Caerdydd.

Ailagor canolfannau cymunedol

1 Medi 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i’r rhai sy'n gyfrifol am ganolfannau cymunedol ynghylch ailagor yn dilyn diwygiadau i'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Y Gronfa Busnesau Micro a Bychan

1 Medi 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo pedwar prosiect a thaliadau dilynol o hyd at £194,400 o arian grant gan y Gronfa Busnesau Micro a Bychan ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

28 Awst 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i ganiatáu i ran o ddyraniad Bae'r Gorllewin o'r grant cyfalaf llety cymunedol sydd wedi'i dalu gael ei ddefnyddio i wella'r gwasanaethau a ddarperir mewn llety sydd eisoes wedi'i dalu ac i gynnig y grant sy'n weddill i ranbarthau eraill i gryfhau neu ymestyn eu prosiectau llety cymunedol sydd wedi'i dalu.  Mae wedi cytuno ymhellach y gellir defnyddio'r cyllid i hybu'r grant cyfalaf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol os nad oes yr un o'r rhanbarthau'n gallu defnyddio'r cyllid ar gyfer prosiectau llety sydd wedi'i dalu.

Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

27 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynyddu'r cyllid ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.

Personau sydd wedi'u dadleoli

27 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ail-gyfeirio cyllid ar gyfer gweithgarwch Covid-19 er mwyn cynyddu capasiti llety i bobl sydd wedi'u dadleoli a phobl sydd o bosib yn cael eu rhyddhau o’r carchar yn gynnar.

Undebau Credyd

27 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu benthyciadau cyfalaf i undebau credyd yn ystod 2020 a 2021 i gefnogi balans cyfalaf lle bo angen, fel y gallant barhau i ddarparu gwasanaethau i'r rheini sy'n agored i niwed yn economaidd.

Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol

27 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i weithredu Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2020, sy'n werth hyd at 90% o’r gwerth hawlio BPS 2020 a ragwelir gan fusnes fferm unigol. Mae’r cyfnod gwahodd ceisiadau yn agor ar 1 Medi a bydd y taliadau'n dechrau o 7 Rhagfyr.

Ymgynghoriad ar yr oedran ymddeol gorfodol ar gyfer y farnwriaeth

27 Awst 2020

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ymgynghori ar gynigion i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer swyddi barnwrol datganoledig.

Penodiadau i Careers Choices Dewis Gyrfa

27 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo penodiad Erica Cassin a Dr Simon Dancy i fwrdd Careers Choices Dewis Gyrfa.

Trefniadau ariannu ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol

27 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i'r trefniadau ariannu ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol yn y dyfodol drwy ymestyn y Gronfa Gofal Integredig a'r Gronfa Trawsnewid bresennol tan fis Ebrill 2022.

Asesiadau personol rhifedd a darllen

26 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyngor ynghylch amseriad: agor y safle asesu ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd; safoni'r asesiadau darllen a rhyddhau'r asesiadau rhesymu at ddefnydd statudol.

Addysg bellach arbenigol

26 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Hanes Pobl Dduon yng Nghymru

26 Awst 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu cyllid ar gyfer Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

26 Awst 2020

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar dros £540,000 ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn parhau i weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu 2016.

Trefniadau trapio a phrofi moch daear

26 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyhoeddi adroddiad 'Trapio a phrofi moch daear ar ffermydd lle y mae buchesi ag achosion cronig o TB yn 2019’.

Rhyddhau tir

26 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo Gweithred Rhyddhau mewn perthynas â thir ym Mhontargothi.

Fibrespeed

24 Awst 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar wariant i gefnogi gweithgareddau lesoedd a cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â gwaith cyflawni a cynnal a chadw parhaus o fuddiannau Fibrespeed Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Cymru.

Grantiau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Diogelwch ar y Ffyrdd

24 Awst 2020

Y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidaieth wedi cytuno i ddyrannu Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer 2020 i 2021.

Medal Frances Hoggan

24 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo ymestyn y cyfraniad at gyllid grant i Gymdeithas Ddysgedig Cymru er mwyn dyfarnu Medal Frances Hoggan.

Cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol

24 Awst 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gwaith i weithredu deddfwriaeth a gwaith sefydlogi ac ailadeiladu ym maes gofal cymdeithasol rhwng 2020 a 2021.

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

24 Awst 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gomisiynu adolygiad annibynnol o bolisi presennol Llywodaeth Cymru ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Cymorth busnes

24 Awst 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

24 Awst 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i estyn y contract ar gyfer Llinell Gymorth Byw Heb Ofn tan 30 Medi 2021, ac i ddyrannu cyllid refeniw ychwanegol i gynorthwyo Llinell Gymorth Byw Heb Ofn gyda’r pwysau sydd arni yn sgil y cyfyngiadau symud a gafodd eu cyflwyno mewn ymateb i Covid-19, a chyda’r galw am wasanaethau hyd at fis Mawrth 2021.

Cytuno ar lês

20 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i lês ar gyfer Stiwdios Seren, Caerdydd.

Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches

20 Awst 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi lleoliadau Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches yng Nghymru.

Llygredd aer yn Hafodyrynys

20 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynllun diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i’r afael â chrynodiadau Nitrogen Deuocsid ar ymyl y ffordd yn Hafodyrynys.

Addysg gynnar

19 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyhoeddi adroddiad ymchwil i lywio cymorth yn y dyfodol ar gyfer darparu addysg gynnar yn y sector nas cynhelir.

Marchnata Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

19 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, y Gweinidog Addysg a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar weithgareddau cyfathrebu a marchnata ar gyfer 2020–2021 mewn perthynas â Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Cymorth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol

19 Awst 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido cymorth llesiant ychwanegol ar gyfer y gweithlu gofal iechyd oherwydd y pwysau uwch o ganlyniad i Covid-19. Rheolir y cyllid gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Arholiadau 2020

19 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i roi rhagor o arweiniad polisi i Gymwysterau Cymru mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer arholiadau 2020, yn dilyn newidiadau munud olaf mewn gweinyddiaethau eraill.

Y Fframwaith Cytundebol Fferylliaeth Gymunedol

19 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gytuno ar y cyllid ar gyfer y Fframwaith Cytundebol Fferylliaeth Gymunedol ar gyfer y blynyddoedd 2019–2020 a 2020–2021 i 2022–2023.

Gwerthu tir

19 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwerthu tir yn Ystad Ddiwydiannol Parc Aberaman

Integreiddio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

18 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi'r broses o integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru yn 2020 i 2021.

Uwchraddio eiddo

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer uwchraddio system drydan ac amrywio telerau prydles mewn perthynas ag eiddo yn Sir Gaerfyrddin.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i atal taliadau o dan y cynllun taliadau sylfaenol ar barsel o dir, gan fod rheolau'r cynllun wedi'u gweithredu'n gywir.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau am eitemau o waith cyfalaf Glastir Uwch, gan fod tystiolaeth wedi'i darparu i ddangos bod un eitem wedi'i chwblhau.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosb mewn perthynas â thaliad gwaith cyfalaf  Glastir Uwch 2014. Methodd yr apelydd â chwblhau'r gwaith i'r safonau a bennwyd yng Nghontract Glastir.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais o dan gynllun y taliad sylfaenol (BPS) 2018.  Methodd yr apelydd â bodloni'r diffiniad o ffermwr actif ar gyfer BPS gan na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth ategol gyda'r hawliad, a methodd yr apelydd â rhoi gwybod i Daliadau Gwledig Cymru y byddai tystiolaeth yn dilyn ar ddyddiad yn nes ymlaen.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad gwaith cyfalaf Glastir Uwch, gan i'r apelydd fethu â gofyn am randdirymiad cyn dechrau ar waith cyfalaf a oedd yn wahanol i'r gwaith y cytunwyd arno yn y contract.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais am daliad sylfaenol 2018, gan fod yr apelydd wedi methu â chyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos gweithgarwch amaethyddol.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais am daliad sylfaenol 2018, gan fod yr apelydd wedi methu â chyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos gweithgarwch amaethyddol.

Y broses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

18 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais am daliad sylfaenol 2018, gan fod yr apelydd wedi methu â chyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos gweithgarwch amaethyddol.

Cynllun pensiwn y diffoddwyr tân

18 Awst 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y dull o ddiwygio rheoliadau cynllun pensiwn y diffoddwyr tân mewn perthynas â newidiadau i drefniadau trosiannol o fewn cynllun 2015.

Theatr Clwyd

18 Awst 2020

Mae’r Prif Weinidog, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i ddarparu hyd at £3 miliwn yn 2020 i 2021 ar gyfer cwblhau’r gwaith dylunio sy’n gysylltiedig â’r bwriad i ailddatblygu Theatr Clwyd.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

17 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar yr amrywiadau i achosion rhaglen amlinellol strategol Torfaen ar gyfer Ysgol Arbennig Crownbridge, Torfaen; Ebwy Fawr, Blaenau Gwent, ac wedi cytuno ar achosion busnes y partneriaid cyflenwi yng Ngwent; Llancarfan a’r Eglwys yng Nghymru, Dewi Sant, Bro Morgannwg.

Addysg bellach arbenigol

17 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Trawsfynydd

17 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i sefydlu rhaglen ar gyfer datblygu safle Trawsfynydd.

SA1

14 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i dalu ffioedd cyfreithiol allanol Llywodraeth Cymru sy’n deillio o greu cwmni rheoli ystâd yng Nglannau Abertawe SA1.

Ffioedd proffesiynol a chyfreithiol

14 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer ail gam y ffioedd proffesiynol a chyfreithiol o ran materion trafnidiaeth yn ymwneud â chwmnïau bysiau.

Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth

14 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i lansio Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth ar 10 Awst, 2020.

Cynllun Diogelu’r Gaeaf

14 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu Cynllun Diogelu’r Gaeaf 2020 i 2021.

Darparwyr gofal plant

14 Awst 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal arolwg o ddarparwyr gofal plant yng Nghymru i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau Covid-19 ar y sector.

Cronfa Caledi Llywodraeth Leol

14 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y bydd £15 miliwn arall yn cael ei ddyrannu i’r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol ar gyfer costau ychwanegol cyffredinol yn ymwneud â COVID-19 ym mis Mehefin.

Ailbrisio ardrethi annomestig

13 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cytuno i ohirio'r ailbrisiad nesaf o ardrethi annomestig tan 1 Ebrill 2023 gyda Dyddiad Prisio Rhagflaenol ar 1 Ebrill 2021.

Ailbenodiadau i'r Cynghorau Iechyd Cymuned

13 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi 19 o aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned.

BlasCymru/TasteWales 2021

13 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ohirio digwyddiad BlasCymru/TasteWales tan yr wythnos sy'n dechrau 25 Hydref 2021 gan gytuno i'r digwyddiad gael ei gynnal gyda 50% o bresenoldeb corfforol a 50% fel rhith-ddigwyddiad (rhyngwladol).

Cyllid CCAUC

13 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i roi llythyr cyllido wedi'i ddiweddaru i CCAUC yn dilyn dyrannu cyllid ychwanegol i liniaru effaith y pandemig ar y sector addysg uwch.    

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Ian Phillips fel Aelod Annibynnol, TGCh, ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am 4 blynedd, o 23 Awst 2020 tan 22 Awst 2024.

Ymestyn tymor yr Is-gadeirydd dros dro ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y caiff Michael Imperato barhau i wasanaethu fel Is-gadeirydd dros dro ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Bydd ei dymor yn y rôl hon yn parhau tan 31 Mawrth 2021.

Cronfa Arloesi ym maes Digartrefedd Pobl Ifanc

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i beidio â dyfarnu'r contract ar gyfer gwerthuso prosiectau'r Gronfa Arloesi ym maes Digartrefedd Pobl Ifanc.

Gwaredu asedau

12 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ddyraniad ar gyfer ffioedd a thaliadau i gefnogi’r gwaith o waredu asedau trafnidiaeth sydd dros ben.

Trosglwyddo asedau

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gytundeb pedair gwlad ar gyfer trosglwyddo asedau ar gyfer gwrthfesurau mewn argyfwng iechyd.

Trefniadau derbyn i ysgolion

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r amrywiad arfaethedig yn y trefniadau derbyn sydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ysgolion Torfaen yn 2021 i 2022.

Ymweld â chartrefi gofal

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y dylai swyddogion, sy'n gweithio gyda'r grŵp rhanddeiliaid i lunio canllawiau diwygiedig, ystyried sut y gallai teuluoedd, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol gynnal ymweliadau y tu mewn i gartrefi gofal yn ddiogel, gan edrych ar yr opsiynau ar gyfer cynnwys mater cynnal ymweliadau y tu mewn i gartrefi gofal yn yr adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau.

Cyllid ar gyfer cymorth clinigol

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i barhau â’r ddarpariaeth o gymorth a chyngor ar ansawdd gofal iechyd i Lywodraeth Cymru.

Profion mewn cartrefi gofal

12 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar safbwynt polisi diweddaraf ar gyfer profi mewn cartrefi gofal.

Rhandiroedd a’r cyfleusterau tyfu bwyd

11 Awst 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu pecyn o fesurau cymorth er mwyn cynyddu’r rhandiroedd a ddarperir a’r cyfleusterau tyfu bwyd yn y gymuned mewn ardaloedd sy’n ei chael yn anodd ymateb i’r galw.

Y Cynnig Gofal Plant

11 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ailagor y Cynnig Gofal Plant i geisiadau yn raddol yn ystod Awst a Medi 2020.

Cymorth i gyfryngau lleol

11 Awst 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar ymateb i  Cadeirydd Pwyllgor, Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch cyfryngau lleol.

Ailddatblygu y Goods Shed, y Barri

11 Awst 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn benthyciad i gyngor Bro Morgannwg i gefnogi’r gwaith o ailddatblygu safle’r Goods Shed, y Barri.

Ailbenodi o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

11 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi yr Athro Gary Baxter yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am 2 flynedd, o 1 Ionawr 2021 tan 31 Rhagfyr 2022.

Gwariant pellach yn Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr

11 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gwblhau gwaith seilwaith a pharatoi llwyfandir yn Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyrannu cyllidebau'r Is-adran Addysg Uwch

6 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar ddyraniad arfaethedig cyllidebau'r Is-adran Addysg Uwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 ac arferion gwaith yr Is-adran.

Adolygiad o'r Ddarpariaeth Cymorth Allforio

6 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyfres o fesurau dros dro ar gyfer y cymorth allforio sydd ar gael i gwmnïau bwyd a diod Cymru, i'w cynorthwyo gydag adferiad yn dilyn COVID-19. 

Adolygiad Thematig Estyn

6 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar yr ymateb i adolygiad thematig Estyn, Pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch.

Penodi'r garfan gyntaf o Genhadon Cymru

6 Awst 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cytuno ar argymhellion ar gyfer penodi pedwar cennad ar ran Llywodraeth Cymru i gysylltu â Chymry ar wasgar fel rhan o strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Prosiect prawf y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

6 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect prawf y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio.

Ymarfer Mapio Grid a Phorthladdoedd Cymru

6 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllideb a hefyd wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ac ymarfer mapio cyfyngiadau o seilwaith porthladdoedd a grid trydan Cymru sy'n addas ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr.

Ymestyn Swyddogaethau Swyddfa Gefn i gefnogi Tocynnau

5 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i ymestyn y trefniadau swyddfa gefn gydag ACT Ltd am 1 flwyddyn i gyflwyno System Brosesu a System Rheoli Cardiau i gefnogi tocynnau teithio rhatach yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer rhaglen astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

5 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Darparu ymgysylltiad gwleidyddol â phobl ifanc yng Nghymru

5 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer cyfres o Gymorthfeydd Digidol peilot sy'n cael eu cynnal gan y Prosiect Gwleidyddiaeth.

Canllawiau Cyffredinol Covid-19 ar gyfer Addysg Uwch – Cam 2

3 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r Canllawiau Cyffredinol Covid-19 diwygiedig ar gyfer Addysg Uwch – Cam 2 – Gorffennaf 2020.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â derbyn cais mynegi diddordeb Glastir Uwch yn 2018.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliad a wnaed mewn perthynas â Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd ar y daliad ar 8 Mai 2016.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â phrosesu trosglwyddiad o ddyraniad hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2015 o dan y trefniant Contract Preifat. 

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cosb am orddatgan i hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2016.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau mewn perthynas ag eitemau Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch TE030 a TE041, plygu gwrychoedd .

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2017.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cosb am orddatgan i hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2015.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cosb am orddatgan i hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2015.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau taliad gwyrdd.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2017 gan nad oedd yn bodloni gofynion cymhwysedd 'Ffermwr Actif‘.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chaniatáu taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer maes SN9396 5366.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2017 gan nad oedd yn bodloni gofynion cymhwysedd 'Ffermwr Actif‘.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cosb ar hawliad Glastir 2016 gan nad oedd gofynion Opsiwn Rheoli 173 – Coridor Glan Nant, wedi'u bodloni.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â thalu'r prisiad iawndal TB llawn ar gyfer un anifail, fel rhan o'r Cynllun Iawndal TB.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cosb ar daliad Glastir – Tir Comin 2016 am beidio cydymffurfio â’r cynllun pori.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adfachu 3.14 uned o hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol heb eu hactifadu gan fusnes.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2018 gan fod yr apelwyr wedi methu â chyflwyno tystiolaeth i ddangos gweithgareddau amaethyddol

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl sy'n ymwneud ag adennill hawliau a gordaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn dilyn y dyraniad anghywir o bori ar dir comin yn 2015 a 2016.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2018 gan nad oedd yn bodloni gofynion cymhwysedd 'Ffermwr Actif‘.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2018 gan fod yr apelydd wedi methu cyflwyno tystiolaeth i ddangos gweithgareddau amaethyddol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i leihau a gosod cosb ar hawliad am Waith Cyfalaf Glastir Uwch yn dilyn arolygiad a oedd yn datgelu achosion niferus o dorri'r contract.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â gwneud taliad Glastir Organig yn 2016 o dan y darpariaethau amgylchiadau eithriadol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cosb am orddatgan ar hawliad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2015.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ostwng/cosbi gorddatganiad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2015.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cosb trawsgydymffurfio o 50% i hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol yn 2015.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gosbi hawliad am Waith Cyfalaf Glastir Uwch yn 2014.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adfachu 7.6 o unedau o hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol heb eu hactifadu gan fusnes.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn cosb trawsgydymffurfio o 70% i hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol yn 2016

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cosb am orddatgan i hawliad Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2015.

Cyllid ar gyfer rhaglen astudio ôl-16 mewn Sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

3 Awst 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Cymorth economaidd

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; y Gweinidog Addysg; y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol; a’r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cytuno i becyn o gymorth ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 i helpu i sefydlogi'r farchnad waith, er mwyn helpu Cymru i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn diweithdra a’r risg o anghydraddoldeb economaidd dwysach, a chefnogi'r economi i Ailgodi’n Gryfach.

Ail-benodi i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed

3 Awst 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ail-benodi Marcus Rink i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed a’i ail-benodi yn Brif Arolygydd Dŵr Yfed tan 31 Gorffennaf 2025.

Cronfa Adfer Diwylliannol

3 Awst 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i gefnogi y Gronfa Adfer Diwylliannol gwerth £53 miliwn rhwng 2020 a 2021 i helpu i gefnogi’r sector o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.

Ôl-osod Tai cymdeithasol

3 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i lansio y Rhaglen Optimeiddio Ôl-osod i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Cyfyngiadau Covid-19

3 Awst 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi y canllawiau i awdurdodau lleol a chanolfannau cymunedol ar effaith y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Ystyried cais am fenthyciad

31 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo gwariant i gefnogi datblygiad cyllid masnachol i sefydliad y sector preifat.

Cronfa Cymorth Dewisol

31 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn parhau i roi mwy o hyblygrwydd a disgresiwn o ran nifer ac amlder y taliadau brys fydd cleientiaid ei angen yn ystod yr argyfwng Covid-19.  Bydd yr hyblygrwydd hwn yn parhau tan 31 Mawrth 2021.

Rhaglen waith diogelu ac eirioli

31 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y rhaglen waith diogelu ac eirioli ar gyfer 2020 i 2021.

Y Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yng Nghymru

31 Gorffennaf 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu cyrsiau ar-lein dros dro ar gyfer y Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yng Nghymru.

Ymestyn aelodaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

31 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Susan Newport barhau i wasanaethu fel Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.  Bydd ei hestyniad yn para tan 30 Medi 2021.

Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol a’r Grant Datblygu Disgyblion

31 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r trefniadau cyllid grant ar gyfer Ein Rhanbarth ar Waith a Castell-nedd Port Talbot yn 2020 i 2021.

Contract consesiwn cefnffyrdd

31 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant o hyd at £29,998 i gynnwys TAW ar gyfer cymorth cyfreithiol ar gyfer y contract consesiwn cefnffyrdd.

Cael gwared ar safle

31 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gael gwared ar safle yn Llanandras, Powys.

Cyllid brys ar gyfer hosbisau

31 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ymestyn y cyfnod o ddiwedd Mehefin hyd at ddiwedd Medi 2020 fel bod cyllid brys Covid-19 ar gyfer hosbisau ar gael.

Ysgolion cymunedol

31 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r ymateb i adroddiad thematig Estyn ‘Ysgolion Cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol’.

Canllawiau Covid-19

31 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo y canllaw Covid-19 ar gyfer y sector ôl-16 o fis Medi 2020.

Addysg Plant y Lluoedd Arfog

29 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Tai wedi cytuno ar gymorth ar gyfer y prosiect Addysg Plant y Lluoedd Arfog 2020 i 2021.

Strategaethau y Rhaglen Cymorth Tai

29 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i oedi gyda’r gofyniad i awdurdodau lleol ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai pedair mlynedd tan fis Rhagfyr 2021.

Rhwydwaith Gwres Caerdydd

29 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi gwneud penderfyniad i ymrwymo cyllid Llywodraeth Cymru yn ddi-log hyd at £8,600,000 gyda chostau cyfreithiol, er mwyn creu Rhwydwaith Gwres Carbon Isel Dinas Caerdydd.  Bydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei gadarnhau’n derfynol ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021.

Rhaglen Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu

28 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r dyraniad terfynol o gyllid ar gyfer y Rhaglen Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu.

Cyllid yr awdurdod tân ac achub

28 Gorffennaf 2020

Maer Gweinidog a  Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i dalu'r costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan yr awdurdodau tân ac achub ers mis Mawrth 2020 er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu ymateb rheng flaen yn ystod pandemig Covid-19.

Diwrnod Aer Glân Cymru

28 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid ar gyfer contract gyda Global Action Plan i ddarparu Diwrnod Aer Glân Cymru 2020 a gynhelir ar 8 Hydref 2020.

Cymeradwyaeth fenthyca

27 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyflwyno cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Dinas Bangor.

Fferm wynt Pant y Wal

27 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb opsiynau ar gyfer estyniad o ddau dyrbin gwynt ar fferm wynt Pant y Wal.

Cymru'r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040

24 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y newidiadau i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ac wedi cytuno y dylid ei enwi yn 'Cymru'r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040’.

Sector dysgu cymunedol yr awdurdod lleol

24 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant a datblygiad proffesiynol yn sector dysgu cymunedol yr awdurdod lleol.

Cynllun tir ar gyfer tai

23 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhad y cynllun Tir ar gyfer Tai, a chyllid o £115,500 ar gyfer parhad tîm Tir Bach ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Addysg bellach arbenigol

23 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Prentisiaethau

23 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r oedi wrth roi'r newid cymhwystra ar gyfer prentisiaeth ar waith (tan 28 Chwefror 2021), er mwyn galluogi pobl 16-24 oed i fanteisio ar y rhaglenni prentisiaeth (ar bob lefel) ni waeth beth fo hyd eu cyflogaeth.

Llacio amodau cynllunio

23 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn gofyn iddynt ystyried ceisiadau i ganiatáu i lety hunan-arlwyo fod ar agor drwy'r flwyddyn a llacio'r broses o orfodi amodau ar gyfer oriau gweithio adeiladu a dibenion lletygarwch.

Covid-19 - cynllunio wrth gefn

23 Gorffennaf 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i roi estyniad i ddyddiad gorffen yr ymchwil i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru o 31 Rhagfyr 2020 i 28 Chwefror 2021

Ymchwil ar y cyd

22 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cais yn gofyn i'r GIG yng Nghymru roi 50 o ddyfeisiau pwysedd positif parhaus yn y llwybr anadlu i sefydliadau meddygol yn Bangladesh at ddibenion cynnal treial clinigol.

Cynllun LEADER

22 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i addasu’r cynllun LEADER at ddibenion cefnogi’r ymateb i argyfwng COVID-19.

Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru

22 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno’r dull gweithredu ar gyfer ymdrin â phwysau'r gyllideb refeniw yn 2020 i 2021 mewn perthynas â Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 i 2020.

Gwaredu prydles

22 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gael gwared ar brydles Uned 6, Dragon 24, Doc y Gogledd, Llanelli, Sir Gaerfyrddin.

Pencadlys newydd Heddlu Gwent

22 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i Weithred Amrywio sy’n diwygio’r telerau ar gyfer datblygu pencadlys newydd Heddlu Gwent ym Mharc Busnes Llantarnam, Cwmbran.

Gwerthu tir

21 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu tir yn Olympus Way, Parc Busnes Bro Abertawe.

Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

21 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y dylai Maria Thomas barhau i wasanaethu fel is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd ei hestyniad yn parhau tan 30 Medi 2021.

Bocsys bwyd

21 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gynigion i roi terfyn ar y cynllun presennol o focsys bwyd ar gyfer pobl sy’n cael eu gwarchod ar 16 Awst, pan fydd y cyngor ar amddiffyn yn cael ei godi, ac na fydd cynllun bocsys bwyd newydd yn cael ei gaffael ar gyfer unrhyw gyfnod gwarchod dilynol.

Glanhau ysgolion

21 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prynu mwy o ddeunyddiau glanhau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid-19.

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

21 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi John Union yn Aelod Annibynnol Cyllid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am 4 blynedd, o 1 Hydref 2020 tan 30 Medi 2024.

Cymorth busnes

21 Gorffennaf 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Cymorth busnes

21 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.

Cymorth busnes

21 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cwmni sydd wedi'i leoli yn Nhorfaen.

Buddsoddi mewn seilwaith mewn ysgolion

21 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen EdTech Hwb ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021, ac i'r cyllid dalu’r holl gostau trwyddedau, caledwedd a chysylltedd sy'n gysylltiedig â'r datrysiad ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn ystod cyfnod Covid19.

Profion Covid-19

21 Gorffennaf 2020

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer profion.

Profion Covid-19

21 Gorffennaf 2020

 

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cam nesaf o brofion ar gyfer cartrefi gofal.

Adroddiad Tasglu 20 mya Cymru

21 Gorffennaf 2020

Cytunodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr ymateb i argymhellion Tasglu 20 mya Cymru.

Dull Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol

20 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid i gefnogi'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol 2020 i 2021.

Ailbenodi i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

20 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Dr Chris Turner yn Gadeirydd dros dro ar y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys am 12 mis ychwanegol, gan ddechrau ar 1 Tachwedd 2020.

Grŵp Cynghori ar Asedau Gweinidogol

20 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cytuno ar gylch gorchwyl y Grŵp Cynghori ar Asedau Gweinidogol i oruchwylio'r gwaith o reoli a rhyddhau asedau tir ac eiddo Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Cynllun gwres adnewyddadwy yn y dyfodol

20 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar gynllun gwres adnewyddadwy yn y dyfodol, ac i gyhoeddi'r ymateb hwnnw.

Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth

20 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i swyddogion ddechrau ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol ar gynnwys Papur Gwyn Bil Amaethyddiaeth Cymru sydd ar y gweill ac i swyddogion ymgysylltu ar y dystiolaeth a'r ymchwil a gomisiynwyd i gefnogi'r gwaith o ddrafftio'r Papur Gwyn hwnnw a dyluniad y cynllun drwy sefydlu grŵp tystiolaeth rhanddeiliaid allanol.

Prydau ysgol am ddim

20 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cytuno ar drefniadau ariannu ar gyfer treuliau ychwanegol a ysgwyddwyd gan awdurdodau lleol wrth sicrhau darpariaeth barhaus o brydau ysgol am ddim i'r rhai sy'n dibynnu arnynt, yn ystod y cyfnod rhwng 29 Mehefin a 27 Gorffennaf 2020.

Dysgu Seiliedig ar Waith

16 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar y broses ar gyfer ariannu darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith o 1 Awst 2020.

Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog

16 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ariannu Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn 2021 i 2022 a 2022.

Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

16 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ohirio cyhoeddi 'Siarad Gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu' tan hydref 2020 ac ymestyn yr amserlen gyflawni ar gyfer y cynllun hyd at fis Mawrth 2022.

Busnes Cymdeithasol Cymru

16 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid o £619,241 er mwyn parhau i gyflawni prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru hyd at fis Rhagfyr 2022 yn y Dwyrain.

Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri

16 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant i helpu i symud ymlaen â Phrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri y Grid Cenedlaethol.

Plant sy'n derbyn gofal

16 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynigion ariannu ar gyfer dull integredig o wella canlyniadau addysgol i blant sy'n derbyn gofal.

Darpariaeth gofal plant

16 Gorffennaf 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailgyfeirio cyfanswm o £1.6 miliwn o gyllid ar gyfer darparu gofal plant a chyfleoedd chwarae i blant agored i niwed yn ystod gwyliau’r haf 2020.

Papur sefyllfa ar bolisi cynllunio

15 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi dogfen ‘Adeiladu Lleoedd Gwell - Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair’, gan gynnwys y papurau cysylltiedig.

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

15 Gorffennaf 2020

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno ar y Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru.

Cronfa Planhigfeydd Coed

15 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gymryd rhan mewn cynllun ar draws Prydain Fawr a arweinir gan yr Alban, sy’n darparu cyllid i blanhigfeydd coed cymwys.

Llwybrau Dysgu

15 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyhoeddi deunyddiau Llwybrau Dysgu.

Benthyciadau Canol Trefi

15 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi galwad am geisiadau ar gyfer Benthyciadau Canol Trefi 2020 i 2021.

Gweithgareddau’r Rhaglen Prentisiaethau

15 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddechrau gweithgareddau caffael ar gyfer y Rhaglen Prentisiaethau.

Cymorth i fusnesau

14 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo rhagor o wariant ar ddatblygu prosiectau ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021 er mwyn sicrhau bod modd i brosiect fod yn barod.

Contract cyfathrebu

14 Gorffennaf 2020

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r cynnig i dendro am gontract cyfathrebu i gefnogi adnewyddu democrataidd, diwygio etholiadol ac ymestyn masnachfraint.

Fframwaith Sylweddau Peryglus

13 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y gall swyddogion ddechrau gweithio gyda'u cymheiriaid yng ngweinyddiaethau eraill y DU i ddrafftio'r concordat ar gyfer y Fframwaith Sylweddau Peryglus.

Byrddau Sector Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

13 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar estyniad i dymor Sophie Churchill fel Cadeirydd y Sector Tatws tan 22 Gorffennaf 2020 a phenodi Richard Soffe dros dro i'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth tan 31 Mawrth 2021.

Dychwelyd i'r ysgol

13 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno y bydd yr holl ddysgwyr yn dychwelyd i ysgolion a lleoliadau yn nhymor yr Hydref a'r opsiynau posibl ar gyfer y dychwelyd fesul cam.

Darpariaeth gwyliau'r haf

13 Gorffennaf 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i ddarparu rhaglen hyblyg, wedi'i phennu'n lleol o ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc dros wyliau haf yr ysgol 2020 a fydd yn eu helpu i ail-ymgysylltu ag addysg, gan roi'r cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau y gallent fod wedi colli allan arnynt tra nad oeddent yn yr ysgol, megis cymdeithasu â'u cyfoedion a gweithgarwch corfforol.

Y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hanesyddol Cymru

13 Gorffennaf 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo estyniad i benodiad dau Gomisiynydd ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.         

Pencampwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

13 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ailedrych ar gynllun peilot, am gyfnod o 12 mis, i sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr i annog cyflogi pobl anabl a mabwysiadu ymagwedd gynhwysol tuag at eu harferion recriwtio.

Cymorth i fusnesau

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd i 5 busnes yng Nghymru.

Cymorth i fusnesau

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd i 2 fusnes yng Nghymru.

Cymorth i fusnesau

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd i bum busnes yng Nghymru.

Awdurdod Cyllid Cymru

10 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo llythyr cylch gwaith Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y cyfnod 2020 hyd 2021.

Gwasanaethau mabwysiadu

10 Gorffennaf 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cytuno i ddarparu cyllid gwerth £2.3 miliwn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol er mwyn cefnogi datblygiad a gweithrediad parhaus ei Fframwaith ar gyfer Cymorth Mabwysiadu yng Nghymru.

Rhwydwaith Cymheiriaid Tasglu’r Cymoedd

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer estyn am 3 mis waith cyflenwi rhwydwaith cymheiriaid yng Nghymoedd Cymru, a hefyd gyllid ar gyfer caffael sefydliad a fydd yn cwblhau ymarfer gwerthuso annibynnol.

Cyllid datblygu

10 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno, mewn egwyddor, i ddyrannu cyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot er mwyn cefnogi gwaith cyflenwi’r datblygiad hamdden/masnachol newydd yng nghanol tref Castell-nedd a chyllid datblygu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Setliad gorswm

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gymeradwyo setliad gorswm sy’n ddyledus mewn perthynas â’r tir datblygu yn Llantrisant.

Cynllunio morol

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r dull manwl o ddatblygu canllawiau penodol ar gyfer sectorau ynni’r tonnau, ffrwd y llanw a dyframaethu.

Gwerthu tir

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Coed Elai.

Datblygu tir

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ymrwymo if enter ar y cyd â Chyngor Sir Penfro er mwyn datblygu parc bwyd yn Llwynhelyg.

Trefniadau Pontio’r UE

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno â chyngor swyddogion ynghylch blaenoriaethu gwaith sydd ynghlwm wrth drefniadau pontio’r UE ac wedi cytuno i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig.

Cymorth i fusnesau

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer 4 busnes yng Nghymru ac wedi gwrthod 1 cais o dan y cynllun hwn.

Cymorth i fusnesau

10 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer 3 busnes yng Nghymru.

System Genedlaethol ar Gyfer Categoreiddio Ysgolion

10 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo atal y System Genedlaethol Categoreiddio Ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 hyd 2021; ac mae wedi cymeradwyo’r camau nesaf ar gyfer datblygu trefniadau gwerthuso a gwella er mwyn cefnogi camau gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Cynllun ffordd ddeuol yr A465

8 Gorffennaf 2020

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo Cynigydd a Ffefrir ar gyfer Rhannau 5 a 6 o’r A465 cynllun Dowlais i Hirwaun.

Ymestyn penodiad aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

8 Gorffennaf 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Mike Lewis barhau i wasanaethu fel Aelod Annibynnol (Cyllid) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Bydd ei estyniad yn parhau tan 31 Mawrth 2021.

Ail-benodi I Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

8 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi yr Athro Tom Crick fel Aelod Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Caerdydd am 4 mlynedd, o’r 16 Hydref 2020 tan 15 Hydref 2024.

Ail-benodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

8 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Michael Imperato fel Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am 4 mlynedd, o’r 1 Hydref 2020 i’r 30 Medi 2024.

Data perfformiad ysgolion a cholegau

8 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r newidiadau ar gyfer cofnodi data mesurau perfformiad a dyfarnu cymwysterau ysgolion a cholegau oherwydd y coronafeirws.

Polisi glo

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar Bolisi Glo Llywodraeth Cymru.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r trefniadau i Gronfa Gyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yng Nghymru gael ei darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. 

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid o £900,000 ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ddarparu Cronfa Gyfalaf Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yng Nghymru.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo dyraniadau i Leoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020 i 2021.

Cronfa Twf Amgylcheddol

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r datganiad generig o ddibenion y Gronfa Twf Amgylcheddol, a’r dyraniadau i bob Partneriaeth Natur Leol yn 2020 i 2021.   

Twf Amgylcheddol

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno mewn egwyddor ar ddull gweithredu i ddyrannu’r gronfa gyfalaf o £5 miliwn a ragwelir ar gyfer Twf Amgylcheddol yn 2020 i 2021.

Cynllun Twf Amgylcheddol

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r egwyddorion ar gyfer datblygu Cynllun Twf Amgylcheddol.  

Trefniadau interim ar gyfer llywodraethu amgylcheddol

7 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno’r dull gweithredu ar gyfer sefydlu trefniadau anneddfwriaethol interim ar gyfer llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru.

Ymestyn y cyfnod darparu grant

7 Goffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn y cyfnod i ganiatáu i dderbynwyr grant beidio â chadw at y cyfnod darparu grant y cytunwyd arno mewn perthynas â’r Grant Plant a Chymunedau a’r Grant Cymorth Tai yn 2020 i 2021, o 1 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2020 .

Cyfathrebu ynglŷn â chyllid i fyfyrwyr addysg uwch

7 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o gymorth cyllid i fyfyrwyr ymysg israddedigion ac ôl-raddedigion newydd, llawn amser a rhan amser, yn y blynyddoedd academaidd 2020 i 2021 a 2021 i 2022.

Cyllid mabwysiadu

3 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno’r cyllid ar gyfer gwaith rhaglen fabwysiadu ar gyfer 2020 i 2021.

Cynllun deuoli’r  A465

3 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i wneud y Gorchymyn Prynu Gorfodol atodol a’r Gorchymyn Ffyrdd Ymyl (amrywio) ar gyfer yr A465, Blaenau’r Cymoedd, Cynllun Deuoli (Adrannau 5 a 6) Dowlais Top i Hirwaun.

Ymgysylltu â phobl o Gymru sydd ar wasgar

3 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cytuno’r achos ar gyfer caffael gwasanaeth i ymgysylltu â phobl o Gymru sydd ar wasgar ar hyd a lled y byd.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

3 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r Rhaglen Strategol Amlinellol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a Sir y Fflint, yr Achos Strategol Amlinellol ar gyfer Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg y Gogledd-ddwyrain, Pen-y-bont ar Ogwr, yr achos busnes llawn ar gyfer Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Abertawe, a Grant cyfrwng Cymraeg i’r Urdd i ailddatblygu Pentre Ifan.

Y Cynllun Cymorth i Ffermwyr Godro

2 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r pecyn cymorth llaeth i ddarparu cymorth uniongyrchol wedi’i dargedu i gynorthwyo ffermwyr gyda’u costau sefydlog er mwyn cynnal capasiti cynhyrchiol ar gyfer llaeth a chynnal eu safonau amgylcheddol a’u safonau o ran iechyd a lles anifeiliaid.

Y Cynllun Cymorth i Ffermwyr Godro

2 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnwys cynhyrchwyr llaeth defaid, geifr a byfflos yn y Cynllun Cymorth i Ffermwyr Godro, a bwrw eu bod yn gymwys yn unol â’r meini prawf.

Cytundebau contractiol yn y diwydiant llaeth

2 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i Lywodraeth y DU lansio’r ymgynghoriad ledled y DU ar gytundebau contractiol yn y diwydiant llaeth.

Cyllid ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru

2 Gorffennaf 2020

Cymeradwyodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyllid grant gwerth £118,048 ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru a’i blaenraglen waith 2020 i 2021.

Cynllun deuoli’r A465

1 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i brynu’n orfodol ddarn bach ychwanegol o dir comin ar lan afon Cwm Taf Fechan fel rhan o gynllun deuoli’r A465.

Gweld Racŵn-gi yn Sir Gaerfyrddin

1 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i swyddogion wneud cais ffurfiol am gymorth oddi wrth gyfoeth Naturiol Cymru i ddal y racŵn-gi a gweithredu mesurau difa cyflym yn unol â Rheoliad yr UE ar atal a rheoli cyflwyno rhywogaethau goresgynnol estron ac atal rhywogaethau o’r fath rhag lledaenu.

Cymorth busnes

1 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyfanswm gwariant o £138,000 ar gyfer 2020 i 2021 a 2021 i 2022 o dan drefniadau presennol y rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Grantiau Cychwyn a Chronfa Galedi

1 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gynllun Grant Cychwyn gwerth £5 miliwn i helpu busnesau yng Nghymru drwy argyfwng Covid-19.

Dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol

1 Gorffennaf 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi’r dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn 2020 i 2021.

Ailbenodi i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg

1 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cytuno i ailbenodi’r aelodau canlynol i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg: Simon Brooks, Owen Derbyshire, Rhian Huws-Williams, Angharad Mai Roberts ac Enlli Thomas am dair blynedd, a Rhodri Llwyd Morgan am ddwy flynedd.

Llythyr cylch gorchwyl Cyfoeth Naturiol Cymru

30 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi llythyr cylch gorchwyl Rheoli Llifogydd a Risg Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ffurfioli eu dyraniad a’u hallbynnau disgwyliedig ar gyfer 2020 i 2021.

Astudiaeth addysg bellach arbenigol

30 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl 16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Adroddiad Cyfarwyddeb Adeiladau Cymru

30 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Adroddiad y Gyfarwyddeb Perfformiad Ynni Adeiladau yng Nghymru a weithredir ar y cyd.

Arolygon amaethyddol

30 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i oedi ymweliadau fferm ar gyfer yr Arolwg o Fusnesau Ffermio nes bod cyfyngiadau Covid 19 yn cael eu llacio, gohirio Arolwg Amaethyddol Cymru o fis Mehefin tan ddiwedd yr haf, casglu set lai o ddata ynghylch tir, da byw a llafur yn yr arolwg sydd wedi’i ohirio, ac atal y cyfrifiad amaeth ac elfennau ychwanegol o Arolwg Strwythur Ffermydd yr UE na ellir eu casglu drwy Arolwg Amaethyddol Cymru.

Datblygu tir Llywodraeth Cymru

29 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo gwariant i gynnal gwaith cynllunio a cheisio caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad at ddefnydd cyflogaeth mewn perthynas â’i safle wrth Gyffordd 38 yr M4. 

Grant Coed Cymunedol a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

29 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r dull gweithredu ar gyfer ariannu a darparu grant Coed Cymunedol a’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mewn cydweithrediad â chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Astudiaeth heintiau Covid-19

29 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cam cyntaf astudiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r haint Covid-19 i Gymru. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cytuno y dylai swyddogion Llywodraeth Cymru gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio ail gam yr astudiaeth, mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a phartneriaid eraill, gyda’r bwriad o’i roi ar waith yng Nghymru cyn hir.

Gwasanaeth i ymgysylltu â busnesau sydd ar wasgar

29 Mehefin 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cytuno bod angen caffael gwasanaeth i ymgysylltu â busnesau sydd ar wasgar.

Gwelliannau i bortffolio eiddo yr Economi a Seilwaith

29 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllid i gynnal rhaglen o welliannau i bortffolio eiddo yr Economi a Seilwaith.

Cymorth i Fusnesau

29 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd i 6 busnes yng Nghymru.

Adolygiad o Reoliadau Adeiladu 2010 adroddiad cynnydd

29 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ail-raglennu’r adolygiad o Rannau L ac F o Atodlen 1 y Rheoliadau Adeiladu 2010, ac i ohirio cynigion am ymgynghoriad ar gyfer adeiladau annomestig.

Ymestyn cyfnod y llacio dros dro ar gyfer elfennau o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

29 Mehefin 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y cyfnod llacio dros dro ar gyfer safonau penodol sydd wedi’u gosod yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig ar gyfer plant hyd at 12 oed mewn perthynas â Covid 19, i bob darparwr gofal plant cofrestredig hyd at 30 Medi 2020. Bydd unrhyw lacio yn gyfyngedig i ganllawiau Llywodraeth Cymru, ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol fesul achos unigol.

Cais am gyllid Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

29 Mehefin 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i neilltuo cyllid ychwanegol i roi sylw i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol drwy ei ddosbarthu i Bartneriaethau Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Proses asesiadau iechyd meddygol ar gyfer darpar fabwysiadwyr

29 June 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar broses asesu iechyd meddygol newydd ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn ystod y cyfnod Covid-19.

Adroddiad blynyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

29 June 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2018 i 2019 Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar eu gwefan.

Gosod Adroddiad Cynnydd 2020 y DU y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd

29 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i osod adroddiad cynnydd 2020 y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ynghylch gostwng allyriadau y DU yn y Senedd

Rhwydwaith Dysgu Proffesiynol ar gyfer y sector addysg yng Nghymru

29 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar wariant i gefnogi Rhwydwaith Dysgu Proffesiynol wedi’i hwyluso gan ColegauCymru ar gyfer y sector addysg bellach; ac ailgyfeirio cyllid i adeiladu capasiti yn y sector ôl 16 er mwyn datblygu adnoddau.

Rhaglen Hyfforddeiaethau

26 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid ar gyfer Rhaglenni Hyfforddeiaethau dan fframwaith Dysgu Seiliedig ar Waith o 1 Awst 2020 i 31 Mawrth 2021.

Adolygu penderfyniadau ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu a maethu

26 Mehefin 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y contract ar gyfer Mecanwaith Adolygu Annibynnol am chwe mis arall (o 1 Hydref 2020 i 31 Mawrth 2021) i Blant yng Nghymru. 

Gwelliannau i’r A483

26 Mehefin 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid o £800,000 er mwyn datblygu opsiynau i wella cyffordd 4 yr A483.

Cyllid cyfalaf Dechrau’n Deg

26 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i brosiectau cyfalaf Dechrau’n Deg ar draws Cymru o 2020 i 2021.

Cymorth i Fusnesau

26 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllid o hyd at £450,000, i ddatblygu a chynnal ymgyrch farchnata Busnes Cymru rhwng mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2021.

Cymorth i Fusnesau

26 Mehefin 2020

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd i fusnes yn y gogledd.

Cymorth i Fusnesau

26 Mehefin 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd i fusnes yn y gogledd.

Penodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

26 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Charles Janczewski fel Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, am 4 blynedd o 23 Mehefin 2020 hyd at 22 Mehefin 2024.

Cymorth i blant

26 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllideb gwella canlyniadau i blant ar gyfer 2020 i 2021, a pharhau i ariannu Uwch Reolwr Polisi ar gyfer Cyfiawnder Teuluol a Phlant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches hyd at 31 Mawrth 2022.

Cyllid ar gyfer gwella ansawdd dŵr

26 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i neilltuo £5 miliwn i ariannu rhaglen gwella ansawdd dŵr, ynghyd â £4..5 miliwn i ariannu rhaglen adferiad mwyngloddiau metel.

Gwerthu tir

26 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i werthu tir yn Resolfen.

Cymorth i Ardal Gwella Busnes

26 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gymorth parhaus i waith gyda'r Ardal Gwella Busnes newydd i ddatblygu prosiectau gwella.

Tlodi tanwydd yng Nghymru

24 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno naill ai yn llawn neu mewn egwyddor gydag argymhellion adroddiad y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar dlodi tanwydd yng Nghymru.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

24 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r cynnig i osod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2019 i 2020 gerbron Senedd Cymru.

Cymorth busnes

24 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyfarnu Grant Datblygu Eiddo mewn perthynas â thir ym Merthyr Tudful.

Diwrnod Windrush

24 Mehefin 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer dathlu Diwrnod Windrush 2020.

Adnewyddu safleoedd busnes

22 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo y cymorth ariannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent er mwyn adnewyddu pedair uned fusnes ar Barc Busnes Roseheyworth, Aberteleri.

Bysiau trydan

22 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid i Gyngor Sir y Fflint i brynu dau fws trydan a darparu seilwaith gwefru cysylltiedig.

Ehangu’r Cynllun Cefnogi Llaeth

22 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnwys cynhyrchwyr llaeth defaid, geifr a byfflo yn y Cynllun Cefnogi Llaeth, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyster.

Ail-agor ysgolion a cholegau

22 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r Canllawiau Gweithredol a Dysgu ar gyfer cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion.

Cymorth busnes

22 Mehefin 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd

Prosiectau gwella cynhyrchiant busnes

22 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gyllid fod ar gael o Raglen y Cymoedd Technegol dros flwyddyn ariannol 2020 i 2021 i lunio cronfa arloesi a chynhyrchiant i gefnogi Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes y Cymoedd Technegol.

Cyllid ar gyfer addysg ôl-16 arbenigol

22 Mehefin 2020

Y Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer  rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

19 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi James Hehir yn Aelod Annibynnol – y Gyfraith – o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf am 3 blynedd, o 1 Hydref 2020 hyd 30 Medi 2023.

Cymorth i fusnesau

19 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi. Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r newidiadau i’r telerau ad-dalu a’r cymorth ariannol ychwanegol.

Cyllid y Cymoedd Technoleg

19 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo dyraniad o gyllideb gyfalaf y Cymoedd Technoleg yn 2020 hyd 2021 ar gyfer cyflenwi Grant Gwella Eiddo Busnes y Cymoedd Technoleg.

Swyddog Adfywio Casnewydd

19 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r ddarpariaeth, o’r Cronfeydd Mentrau ar y Cyd, o hyd at £120,000, dros gyfnod o 3 blynedd, ar gyfer cyllido swydd Uwch Reolwr Prosiect a fydd yn gweithio o fewn Cyngor Sir Casnewydd.

Adnewyddu eiddo busnes

19 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent at ddiben gosod ffenestri allanol newydd fel rhan o waith adnewyddu pedair uned fusnes mewn Parc Busnes yn Abertyleri.

Cyllid ar gyfer prentisiaethau

19 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gyflwyno’r model cyllid a gynigir ar gyfer prentisiaethau o 1 Awst 2021.

Cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu

19 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo dyfarnu cyllid tuag at gymorth ychwanegol ar gyfer dysgu i sefydliadau addysg bellach ar gyfer 2020 hyd 2021.

Cymorth i fusnesau

18 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd i bum busnes yng Nghymru.

Tyddynod awdurdodau lleol

18 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyhoeddi’r ‘Adroddiad Blynyddol ar Dyddynod Awdurdodau Lleol yng Nghymru’ ar gyfer 2018 hyd 2019.

Estyn Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain

18 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgychedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i estyn Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain am flwyddyn ychwanegol (2021 hyd 2022) a lansio’r ymgynghoriad ar ddull adnabod electronig ym mis Medi 2020.

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

18 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Nicola Milligan yn Aelod Annibynnol o Undeb Llafur ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf am 4 blynedd, o 19 Awst 2020 hyd 18 Awst 2024.

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

18 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Louise Wright yn Aelod Annibynnol o Undeb Llafur ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am 4 blynedd yn ôl-weithredol o 10 Ebrill 2020 hyd 09 Ebrill 2024.

Cadw Mincod

17 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo penderfyniad ynghylch pryd y gall trwydded i gadw mincod yng Nghymru gael ei rhoi neu ei gwrthod.

Cymorth ar gyfer athrawon Cymraeg

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cefnogi parhad gwahanol weithgareddau er mwyn cefnogi gwaith datblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr a chynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a’r athrawon cyfrwng Cymraeg.

Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r ymateb i adroddiad thematig Estyn ‘Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf’.

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

17 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r Canllawiau Gweithredu ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y rhaglen Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu.

Cyllido Galluoedd Cadernid Cenedlaethol

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub er mwyn cynnal a datblygu Galluoedd Cadernid Cenedlaethol Cymru yn 2020 hyd 2021.

Cymorth digidol ôl-16

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cymorth digidol ôl-16 ac ar gyfer sicrhau defnydd effeithiol o dechnoleg.

Cymorth ar gyfer unedau diwydiannol newydd

17 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid grant er mwyn hwyluso gwaith adeiladu unedau diwydiannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyllid ar gyfer y rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r dyraniadau cyfalaf o’r rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy ar gyfer 2020 hyd 2021 ac wedi cymeradwyo’r dyraniad ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro er mwyn sefydlu, recriwtio a chynnal staff ar gyfer y Bartneriaeth Tirweddau Cenedlaethol.

Canllawiau ar Covid-19 ar gyfer addysg uwch

17 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r canllawiau ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru er mwyn eu cefnogi wrth iddynt gadw pawb yn ddiogel yn sgil y Coronafeirws.

Caffael tir

16 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gaffael ardaloedd rhannau cyffredin yn Hawarden Park, Brychdyn.

Ailbenodi i Careers Choices Dewis Gyrfa

16 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo ailbenodi aelod o Fwrdd Careers Choices Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru).

Cynllun Rhannu Prentisiaethau Cyfle

15 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer Cynllun Rhannu Prentisiaethau Cyfle ar gyfer 2020 i 2021.

Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth

15 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno’r cyllid ar gyfer y Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Troi benthyciad yn grant

15 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y gall rhan o’r cytundeb benthyciad, sy’n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer dwyn ymlaen safleoedd heriol yng Nghwm Llynfi ar gyfer tai, gael ei newid i fod yn grant.

Profion gwrthgyrff Covid-19

15 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal profion gwrthgyrff yng Nghymru.

Ymgysylltu â phobl hŷn drwy Covid-19

11 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gwaith polisi sy’n ymwneud ag ymgysylltu â phobl hŷn drwy Covid-19 a’r tu hwnt i hynny.

Cymorth busnes

11 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd ar gyfer 3 o fusnesau ledled Cymru.

Cymorth busnes

10 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cwmni yng Nghaerdydd.

Cymorth busnes

10 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cwmni gweithgynhyrchu yn Rhondda Cynon Taf.

Cofrestru ysgol annibynnol

9 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cais i gofrestru Grace Houce, Corndon Manor, Ministerley, yr Amwythig fel ysgol annibynnol yng Nghymru.

Ymgynghoriad ynghylch rheoli Rhywogaethau Goresgynnol Estron

9 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd rhwng Defra a Llywodraeth Cymru ynghylch mesurau rheoli ar gyfer Rhywogaethau Goresgynnol Estron sydd wedi lledaenu’n eang dros Gymru a Lloegr.

Gofynion Crynodeb Treth Flynyddol Cymru

8 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i roi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi bod gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Grynodeb Treth Flynyddol fel y maent wedi’u gosod yn y cyngor. Mae hefyd wedi cytuno i swyddogion ddatblygu adnoddau ar-lein ar gyfer gwefan Llywodraeth Cymru,  a fydd yn caniatáu i drethdalwyr Cymru gael gwell dealltwriaeth o’u helfen o dreth incwm Cymru a sut y bydd y refeniw sy’n cael ei gasglu yn cael ei wario yng Nghymru.

Rhaglen fentora Prifysgol Caerdydd

8 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r dull gweithredu a osodwyd ar gyfer rhaglen fentora Prifysgol Caerdydd ar gyfer 2020 i 2021.

Cyllid Cadernid Economaidd

8 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd i 6 busnes ar draws Cymru.

Cronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn

8 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i ddyfarnu grantiau i awdurdodau lleol dan y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ar gyfer 2020 i 21 a chyllid ar gyfer Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan.

Cyllid ar gyfer Cynlluniau Grant Cyfalaf Trafnidiaeth Leol

8 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cynlluniau Grant Cyfalaf Trafnidiaeth Leol blwyddyn ariannol 2020 i 2021. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid i Gynllun Dinbych, Llangollen 2020.

Cyllid i Gyrfa Cymru

8 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar gyllid i Gyrfa Cymru er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth cynghori ac arweiniad Cymru’n Gweithio.

Cloddio am lo yn Nant Helen

8 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi gwrthod awdurdodi estyniad amser a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Glo i Celtic Energy er mwyn caniatáu cloddio am lo yn safle Nant Helen.

Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent

8 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllid o hyd at £75,283 er mwyn helpu i recriwtio 6ed carfan o brentisiaid i Raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent.

Llythyr cylch gwaith Banc Datblygu Cymru

5 Mehefin 2020

Mae'r Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo llythyr cylch gwaith 2020 i 2021 ar gyfer Banc Datblygu Cymru.

Gweithgareddau hawliau plant yn 2020

5 Mehefin 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penderfynu gohirio gweithgarwch ar hawliau plant a drefnwyd ar gyfer 2020 er mwyn rhyddhau adnoddau i ddelio â'r pandemig Covid-19 a glynu wrth y cylch adrodd pum mlynedd gwreiddiol ar gyfer yr adroddiad cydymffurfio ar y ddyletswydd sylw dyledus.

Cyllid ar gyfer cael gwared ar asbestos

5 Mehefin 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gostau asbestos ychwanegol, nad ydynt wedi'u nodi yn 2017 i 2018, ar gyfer Campws Afan Grŵp Colegau NPTC.

Cyllid ar gyfer Allwedd Band Eang Cymru a Chynlluniau Gigabit Cymru

4 Mehefin 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Allwedd Band Eang Cymru a Chynlluniau Gigabit Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Allwedd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yng Nghymru

4 Mehefin 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gynnwys safleoedd ychwanegol o fewn rhaglen Allwedd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yng Nghymru.

Cynllun gwres adnewyddadwy Llywodraeth y DU ar gyfer y dyfodol

4 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ei bod yn fodlon ar gyfeiriad cynllun arfaethedig Prydain i gefnogi gwres carbon isel yn y dyfodol.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16

4 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Llythyr cylch gwaith ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

4 Mehefin 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r llythyr cylch gwaith a’r cytundeb rheoli ar gyfer cam Alpha y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Penodiad i Fwrdd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

4 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar benodiad Sally Meecham fel Cadeirydd Bwrdd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar gyfer y cam Alpha.

Cyllid i ddatblygu a chefnogi athrawon

4 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid i ddatblygu a chefnogi athrawon yn 2020 i 2021.

Dyraniadau ar gyfer prentisiaethau

4 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gontract 2020 i 2021 i ddyrannu arian i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith er mwyn rhedeg rhaglenni prentisiaeth.

Cyllid ar gyfer FareShare

4 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i alluogi FareShare i weithredu ar draws y Gogledd, gan gefnogi cyrff trydydd sector i ddarparu bwyd, gyda’r nod o sefydlu gwasanaeth cynaliadwy.

Ymateb i’r ymgynghoriad ar y Contractau Gwahaniaeth

4 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, mewn ymateb i ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i gynllun Contractau Gwahaniaeth, ac i gyhoeddi’r llythyr fel rhan o’r broses o sefydlu safbwynt Cymru ar y mater hwn.

Gwelliannau diogelwch Ffordd Feicio Porth Teigr

3 Mehefin 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ychwanegol ar gyfer astudiaethau peirianneg a seilwaith.

Datblygu unedau busnes newydd

3 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo datblygu unedau busnes newydd ar Barc Busnes Clawdd Offa ger y Trallwng, Powys.

Datblygu unedau busnes newydd

3 Mehefin 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo datblygu unedau busnes newydd ar Stad Ddiwydiannol Treowain, Machynlleth, Powys.

Cymorth i’r Prosiect Cydnerthedd Llywodraeth Leol

3 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Prif Weinidog wedi cytuno i ddarparu £1.2 miliwn fel rhan o Gronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd i roi cymorth i’r Prosiect Cydnerthedd Llywodraeth Leol yn 2020 i 2021. 

Cyllid i Cymorth i Ferched Cymru

3 Mehefin 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu £104,000 i Cymorth i Ferched Cymru o gyllideb refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2020 i 2021.

Ailbenodi i Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg

2 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Rowena Myles i Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg hyd 31 Mai 2022.

Cylch gwaith Estyn

2 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cylch gwaith blynyddol Estyn ar gyfer 2020 hyd 2021.

Pleidlais sengl drosglwyddadwy

1 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gomisiynu ymchwil allanol ynghylch mecanweithiau cyfrif ar gyfer pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw

1 Mehefin 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cynllun peilot dros 3 mis ynghylch trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw.

Ysgolion yr 21ain Ganrif

1 Mehefin 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r achosion busnes ar gyfer Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif erbyn mis Ebrill 2020.

Ymestyn penodiad Is-gadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

29 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Martyn Waygood barhau i wasanaethu fel Is-gadeirydd Dro Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Bydd yn parhau yn ei swydd tan 31 Mawrth 2021.

Cyllid ar gyfer Gwobrau CREST

29 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i barhau i roi cyllid grant i raglen Gwobrau CREST yng Nghymru Cymdeithas Gwyddoniaeth Prydain sy’n cefnogi myfyrwyr i ymwneud â gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn ystod y flwyddyn ariannol hon 2020 i 2021.

Cyllid Cyngor y Gweithlu Addysg

29 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gymorth grant Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer 2020-2021.

Cymorth i rieni

28 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid am gyfnod arbrofol o chwe mis er mwyn gwella’r cymorth sydd ar gael i rieni drwy linell gymorth sy’n bodoli’n barod ar gyfer rhieni.

Cyllid ar gyfer adnodd capasiti Gofal a Chymorth

27 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid grant i alluogi Data Cymru i barhau i reoli, cynnal a gwreiddio’r adnodd capasiti Gofal a Chymorth.

Cyllid i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

27 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer 2020 i 2021.

Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol

22 May 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i osod y sylfeini ar gyfer Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol benodedig yn y Canolbarth.

Cymorth busnes

22 May 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar Gyllid Cadernid Economaidd ar gyfer busnes yn y De-ddwyrain.  

Ailbenodi aelodau i Hybu Cig Cymru  / Meat Promotion Wales

22 May 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi ailbenodi Huw Davies, John T Davies, Claire Williams, Caroline Smith, Rhys Davies a Gareth Wynn Davies yn aelodau o Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2020 hyd 31 Mawrth 2023; ac wedi ailbenodi Kevin Roberts yn Gadeirydd ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2020 hyd 31 Mawrth 2021.

Penodiadau i Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales

22 May 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi: cytuno ar benodi Melody Chapman, Rhys Davies, Nadine Porter a Prys Morgan fel aelodau newydd o Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales ar gyfer y cyfnod o 9 Ebrill 2020 hyd 31 Mawrth 2023.

Rhaglen Sêr Cymru

21 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid cam nesaf Rhaglen Sêr Cymru i fynd i’r afael â Covid-19.

Cyfnewidfa Caerdydd Canolog

21 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo £66,000 o wariant (gan gynnwys TAW) ar gyfer astudiaeth hydreiddedd Cyfnewidfa Caerdydd Canolog.

Mapiau teithio llesol

20 Mai 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gaffael a phenodi contractwyr i ymgymryd â gwasanaethau ymgysylltu ac ymgynghori i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt baratoi’r iteriad nesaf o’u mapiau o rwydwaith integredig ar gyfer teithio llesol.

Cwmnïau Bws Caerdydd a Chasnewydd

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant ar gyfer cam cyntaf ffioedd cynghori ariannol a’r gost o gael barn cam cyntaf gan Gwnsleriaid ynghylch cyfyngiadau perchnogaeth a chyfleoedd.

Hysbysiad malltod mewn perthynas â’r A55

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i dderbyn hysbysiad malltod a roddwyd ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag eiddo yn Llanfairfechan, Conwy ar gyfer y cynllun ffordd ar gyfer cyffyrdd 15 a 16 ar yr A55, ac y dylai’r negodiadau i brynu’r eiddo ddechrau.

Cymorth busnes

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar feini prawf cymhwysedd ar gyfer y broses werthuso mewn perthynas â’r cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd a roddir i fusnesau mwy.

Cymorth busnes

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd i ddau fusnes yn y De-ddwyrain.

Cymorth busnes

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i roi cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd i fusnes twristiaeth yn y De-orllewin.

Cymorth busnes

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cymorth busnes

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid interim ar gyfer pecynnau gwaith llywodraethu ac aelodaeth o CSConnected.

Cymorth busnes

20 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i newidiadau i gytundeb benthyciad ar gyfer cyfnod o 12 mis mewn perthynas â chwmni o Gasnewydd.

Ad-drefnu ffioedd dysgu

19 May 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i ad-drefnu amserlen taliadau ffioedd dysgu 2020 i 2021.

Cyllid ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru

19 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllideb cyfalaf arfaethedig i Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, 2020 i 2021, er mwyn caniatáu iddo brynu trwyddedau meddalwedd ac ariannu gwelliannau i’w system rheoli data i gynnal gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru yn ddiogel a chydymffurfio â’i rwymedigaethau rheoli data statudol.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

18 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Athro Keith Lloyd fel Aelod Annibynnol (Prifysgol) ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, am 4 blynedd o 13 Mai 2020 i 12 Mai 2024.

Gofal Cymdeithasol Cymru

18 Mai 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y llythyr cylch gwaith a chyllid o £142,357 ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn iddo gyflawni gwaith sy’n ymwneud â Covid-19 a chefnogi gweithlu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant rhwng Ebrill a Medi 2020.

Adolygiad o gyllid ysgolion

18 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ymestyn cwmpas yr adolygiad o gyllid ysgolion i gynnwys consortia rhanbarthol, er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid ysgolion.

Ail-benodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

15 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Melvin Jehu OBE fel Aelod Annibynnol (Cymunedol) am 4 blynedd, o 1 Ebrill 2020 hyd at 31 Mawrth 2024.

Ail-benodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

15 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Jayne Sadgrove fel Aelod Annibynnol (Prifysgol) am 4 blynedd, o 1 Ebrill 2020 hyd at 31 Mawrth 2024.

Gwobrau Rhagoriaeth Glinigol

15 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ohirio rownd Gwobrau Rhagoriaeth Glinigol 2020.

Penodi aelodau o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

14 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi penodi Dr Peter Higson a Charlotte Hitchings fel aelodau rhwng 5 Mai 2020 a 4 Mai 2023.

Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

13 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y llythyr ynghylch y mesurau perfformiad blynyddol a’r adnoddau y cytunir arnynt ar gyfer y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer 2020 i 2021.

Blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru

13 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer y corff yn ystod 2020 i 2021.

Gweithgareddau rhaglen Seren

13 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi gweithgareddau drwy raglen Seren yn ystod 2020 i 2021.

Cyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio

13 Mai 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer ailddatblygu hen neuadd fingo a safle clwb nos Angharad’s ym Mhontypridd.

Ymgyrch hyrwyddo cynnyrch llaeth

12 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £25,000 tuag at ymgyrch hyrwyddo cynnyrch llaeth.

Safle Sipsiwn a Theithwyr Riverside

12 Mai 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar £150,000 o gyllid pellach o dan y Cynllun Grant Cyfalaf ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr i Sir y Fflint gan ddod â chyfanswm y grant ar gyfer y prosiect hwn i £400,000.

Cymorth busnes

11 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid grant yn 2020 i 2021 i gwmni gryfhau ei gapasiti i weithredu’n fwy hirdymor i gefnogi unigolion dan anfantais, yn bennaf yn ardaloedd Blaenau’r Cymoedd nad oes ganddynt fynediad i gyllid i ddod yn hunangyflogedig.

Cyllid cymorth dewisol

11 Mai 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y bydd canolfan gwasanaeth y Cronfa Cymorth Dewisol yn cymhwyso mwy o hyblygrwydd a disgresiwn mewn perthynas â nifer ac amlder taliadau brys y gall fod eu hangen ar gleientiaid yn ystod yr argyfwng Covid-19 presennol.

Cyllid ar gyfer Sustrans

7 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo grant craidd o £130,000 i Sustrans Cymru ar gyfer 2020 hyd 2021.

Cynllun peilot pecynnau babanod

7 Mai 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymrwymo i drefniant contraction uniongyrchol â Gwasanaethau Argraffu Cysylltiedig ar gyfer dosabarthu’r cynllun peilot pecynnau babanod.

Rhaglenni Diogelwch Tân Cymunedol

7 Mai 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar  gyfer rhaglenni ‘Diogelwch Tân Cymunedol’ gan Awdurdodau Tân ac Achub yn 2020 hyd 2021, yn seiliedig ar gynigion cyllid ar y cyd ar draws Cymru.

Cymorth i fusnesau

7 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid sbarduno ychwanegol gwerth hyd at £90,000 ar gyfer y cwmni newydd Cambria Cydfuddiannol Cyf.

Estyn cyfnod Cadeirydd CCAUC yn y swydd

7 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i estyn cyfnod Cadeirydd presennol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am hyd at wyth mis o 5 Mai 2020 hyd 4 Ionawr 2021.

Cronfa Grant Gwella Gwasanaethau Seibr Awdurdodau Lleol

6 Mai 2020

Mae’r Gweinidog a’r Trefnydd wedi cytuno ar gronfa grant i awdurdodau lleol i helpu i wella eu cydnerthedd seibr.

Cefnogaeth i hosbisau

6 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo pecyn cymorth ar gyfer hosbisau yng Nghymru am gyfnod o 3 mis i gefnogi’r sector ac i gryfhau cymorth profedigaeth.  Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi dyrannu hyd at £6.3 miliwn o’r gronfa ymateb ganolog i ariannu’r gweithgarwch hwn.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn

6 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo dyraniad y Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gyfer tymor yr Haf 2019 i 2020

Danfon presgripsiynau

6 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i gynigion y Post Brenhinol i ddarparu gwasanaeth tracio ac olrhain, i gefnogi’r cynllun danfon presgripsiynau.

Danfon presgripsiynau

6 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynigion am gynllun danfon fferyllol yng Nghymru, gan gynnwys defnyddio y Pro Delivery Manager a sefydlu gweithlu o yrwyr gwirfoddol i ddanfon y presgripsiynau.

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid o 6 mis ar gyfer prynu trwyddedau Pro Delivery Manager ac i ariannu costau gwirfoddolwyr o’r gronfa ganolog i ymateb i Covid-19.

Prynu gorfodol yng Nghymru

6 Mai 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ‘Polisi a Ddiweddarwyd a’r Canllawiau ar Brynu Gorfodol yng Nghymru’ ac wedi cytuno i ddatblygu rhagor o ddiwygiadau i symleiddio’r broses prynu gorfodol yng Nghymru.

Gwaredu tir

4 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwerthu tir yn Abertawe.

Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru

4 Mai 2020

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar Gyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, o ran ymateb i’r argyfwng coronafeirws yn unol â Deddf Coronafeirws  2020.

Cynnal a chadw’r draffordd a’r rhwydwaith cefnffyrdd

4 Mai 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwariant o £50m o gyllid cyfalaf ar gyfer y cyfnod Ebrill i Medi, ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith ffyrdd trafnidiaeth strategol.

Band eang cyflym

4 Mai 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gyflawni gweithgareddau cyfathrebu mewn perthynas ag opsiynau cysylltedd band eang cyflym iawn.

Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol

30 Ebrill 2020

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sefydlu, gweithredu ac ariannu platfform cyfathrebu arbenigol Cymru gyfan, sy’n cael ei gyflenwi gan Consultant Connect i GIG Cymru.

Gwasanaethau mapio GIS Teithio Llesol a Mapiau Rhwydwaith Integredig

30 Ebrill 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ymestyn y dyddiad i awdurdodau lleol gyflwyno fersiynau diwygiedig o’u Mapiau Rhwydwaith Integredig a Mapiau Llwybrau Presennol, ymestyn dyddiad cau’r ymgynghoriad ar Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol a chytuno ar ddatblygu system fapio newydd.

Ffi aelodaeth Vanguard 

30 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo talu ffi aelodaeth Cynllun Vanguard blynyddol ar gyfer 2020 i 2021.

Eithrio lloeau o brofion TB rheolaidd ar fuches

30 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i eithrio gwartheg o dan 180 diwrnod oed rhag profion rheolaidd yn ystod pandemig Covid-19, i sicrhau y gellir cadw at yr argymhelliad iechyd cyhoeddus i gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. (Bydd yr eithriad hwn yn cael ei adolygu yn rheolaidd yn ystod y pandemig). Ni fydd cyfyngiadau ar symud mewn buches lle mae’r gwartheg dros 180 diwrnod oed yn cael prawf clir mewn profion TB rheolaidd.

Cyllid e-sgol 

30 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i 2021 i helpu’r prosiect e-sgol i wella’r ddarpariaeth ar gyfer awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Systemau Digidol Busnes Cymru 

30 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer systemau rheoli a gwybodaeth digidol Busnes Cymru.

Cynnal a chadw’r draffordd a’r rhwydwaith cefnffyrdd

30 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant refeniw ar gyfer Ebrill – Medi, ar gyfer cynnal a chadw’r draffordd a’r rhwydwaith cefnffyrdd.

Covid-19 a chymwysterau galwedigaethol

30 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i roi cyfarwyddyd i Cymwysterau Cymru, yn nodi’r polisi ar gyfer ei waith gyda sefydliadau dyfarnu a darparwyr dysgu, ar gyfer dyfarnu graddau i’r dysgwyr galwedigaethol y mae’r pandemig Covid-19 wedi tarfu ar eu hastudiaethau.

Cronfa Dyfodol yr Economi 

30 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid i gwmni gweithgynhyrchu yn y Canolbarth.

Ail-ganolbwyntio gwaith yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn ymateb i Covid-19

30 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-ganolbwyntio gwaith yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar, ac i ryddhau ac ail-dargedu’r caspasiti staffio er mwyn ymateb i’r anghenion gofal plant uniongyrchol sy’n codi oherwydd yr argyfwng coronafeirws, ac i ddechrau ystyried y goblygiadau tymor byr a thymor hir i’r sector gofal plant.

Dileu’r pridiant ar dir ar Ystad Ddiwydiannol Rasa Glynebwy

30 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ryddhau’r sicrhad ar dir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno ar Ystad Ddiwydiannol Rasa.

Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar gyfer Cleifion Allanol

30 Ebrill 2020

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y strategaeth a’r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer cleifion allanol ar gyfer 2020 i 2023, gan gynnwys cynigion i drawsnewid cyllid.

Prydau ysgol am ddim

27 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru, yn hytrach na datblygu cynllun talebau cenedlaethol ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn parhau i helpu Awdurdodau Lleol i ddarparu systemau cymorth rhanbarthol i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

Cymorth busnes

24 Ebrill 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ymestyn trafodiad masnachol.

Ail-benodi i Fwrdd Cymwysterau Cymru

24 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ail-benodi un aelod presennol o’r bwrdd, David Jones, am gyfnod o dair blynedd, ac i ymestyn tymor un aelod presennol o’r bwrdd, Arun Midha, tan 31 Mawrth 2021.

Prosiect Swyddogion Galluogi Tai Gwledig

24 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid i’r prosiect Swyddogion Galluogi Tai Gwledig ar gyfer 2020 i 2021.

Gwasanaethau cymdeithasol i blant

24 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo ‘Gwasanaethau cymdeithasol i blant yn ystod y pandemig Covid-19: canllawiau’.

Rhaglen Dyfarnu Corfforaethol y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi

24 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cyllid i weithredu rhaglen datblygu caffael proffesiynol ar gyfer dyfarnu corfforaethol, ac wedi caniatáu i’r rhaglen fynd yn ei blaen.

Archwiliadau hylendid bwyd

24 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru roi cyngor i awdurdodau lleol er mwyn medru gostwng dros dro amlder yr ymyraethau rheoli swyddogol a ragnodir yng Nghod Ymarfer y Gyfraith Bwyd a Phorthiant (Cymru) mewn ymateb i’r pandemig Covid-19.  

Caffael tir

24 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo caffael tua 9 erw o dir sy’n cynnwys olion archeolegol sylweddol yng Nghaerleon, gwariant cysylltiedig â’r prynu a gwaith ategol.

Rhyddhad ardrethi annomestig

22 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig o 100% i eiddo yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000.

Adeiladu safleoedd busnes newydd

22 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo diwygiadau i gynnig i adeiladu safleoedd busnes newydd ym Mhowys.

Astudio mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

22 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Rhyddhad ardrethi annomestig

22 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar y canllawiau ar gyfer y rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau sy’n delio â Covid-19, ac mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y trefniadau cyllidebol.

Cwlwm a Chwarae Cymru

22 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu £225k i bartneriaeth Cwlwm ar gyfer y cymorth a roddwyd ganddynt i’r sector gofal plant a chwarae yn sgil y llifogydd diweddar ac ar ddechrau’r pandemig Covid-19. Penderfynodd y Gweinidogion i beidio â rhoi’r £75k mewn cyllid ychwanegol i Chwarae Cymru y tro hwn.

Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu

22 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar Ddatganiad Polisi sydd yn amlinellu’r rhaglen Dilyniant Dysgu ar ôl i ysgolion gau oherwydd  Covid-19 “Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu”.

Strategaeth unigrwydd ac ynysigrwydd

22 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i liniaru effaith Covid-19 ar lefelau unigrwydd ac ynysigrwydd, sy’n cynnwys y symiau canlynol ar gyfer 2020-21, £52,708 i Cysylltu Bywydau a Mwy ac ailbennu £400,000 o’r gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd  cymdeithasol i gefnogi gwasanaeth ymgyfeillio cenedlaethol sef, Ffrind mewn Angen/Friend in Need.

Therapi Amnewid Opioid

22 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gefnogi’r ddarpariaeth Therapi Amnewid Opioid amgen (y gellir ei chwistrellu) leded Cymru. 

Estyn y Cynllun Benthyca Dyfeisiau

21 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyfarniad o £803,080 o’r Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru, i estyn y Cynllun Benthyca Dyfeisiau presennol a ddarperir o dan raglen Cymunedau Digidol Cymru.

Ysbyty maes Abertawe

21 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r cydsyniadau a’r cytundebau cysylltiedig i ganiatáu creu ysbyty maes ar bwys Abertawe.

Tâl salwch uwch

21 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo newidiadau i dalu taliadau uwch i staff yr Agenda ar gyfer Newid pan fyddant yn absennol oherwydd salwch.

Ymgyrch trais domestig

20 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddatblygu ymgyrch ar y cyfryngau er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Gwaith adfer tir

20 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidaieth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ragor o waith adfer tir ar safle yng Nghasnewydd.

Capasiti iechyd meddwl

20 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ‘mewn egwyddor’ i wariant o hyd at £6m i gaffael capasiti ychwanegol ar gyfer cleifion mewnol iechyd meddwl yng Nghymru.

Ymgynghoriad ar ryddhad ardrethi elusennol

20 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ymestyn yr ymgynghoriad ar ryddhad ardrethi elusennol ar gyfer ysgolion ac ysbytai Cymru tu hwnt i’r dyddiad cau presennol o 24 Ebrill, yng ngoleuni’r pandemig Covid-19.

Canllawiau i lochesi trais domestig

20 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau Covid-19 ar gyfer llochesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ar ben hynny, mae’r Dirprwy Weinidog wedi cytuno ar newidiadau parhaus i’r canllawiau i adlewyrchu canllawiau iechyd pellach yn y dyfodol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Lywodraeth y DU.

Canllawiau Covid-19

16 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau Covid-19 ar gyfer troseddu yn erbyn menywod, cam-drin domestig a gwasanaethau cyflawnwyr troseddau rhyw.

Cais i gymeradwyo benthyciad

16 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r ffaith i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr gael eu cymeradwyo am fenthyciad.

Cyllid CCAUC

15 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi hysbysu CCAUC o ddyraniad cyllid dangosol ar gyfer 2020-21.

Cymorth busnes

15 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cwmni trafnidiaeth cludo nwyddau sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. 

Y Grant Plant a Chymunedau

15 Ebrill 2020

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i anfon llythyr cynnig grant terfynol am flwyddyn i’r cyrff perthnasol ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau.

Cyllid ar gyfer Awtistiaeth

15 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau awtistiaeth yn 2020 i 2021, gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.

Cadeiryddion Sectorau Annibynnol y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

15 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbenodi Cadeirydd y Sector Porc am dymor arall o ddwy flynedd ac ymestyn tymor Cadeirydd y Sector Tatws am dri mis arall.  

Llacio dros dro safonau gofynnol cenedlaethol penodedig ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio

15 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i lacio dros dro safonau penodedig a osodwyd yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio ar gyfer plant hyd at 12 oed fel ymateb i COVID-19. Wrth lacio’r safonau, cydymffurfir â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a bydd pob achos yn amodol ar gael cymeradwyaeth yr awdurdod lleol.

Adnewyddu prydles

14 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo adnewyddu prydles ar eiddo ar Barc Technoleg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Rhyddhau tir

14 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Weithred Rhyddhau amodol mewn perthynas â thir yn Llanelli.

Cyllid Twristiaeth

14 Ebrill 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect twristiaeth yn Abertawe a Rhondda Cynon Taf.

Cronfa COVID-19 newyddiaduraeth gymunedol annibynnol

14 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo grant cadernid busnes o £76,500, sy'n gyfystyr â £8,500 ar gyfer pob un o'r naw sefydliad newyddion cymunedol annibynnol mewn ymateb i'r argyfwng COVID-19. 

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

14 Ebrill 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Delyth Raynsford fel Aelod Annibynnol (Cymuned) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am 1 flwyddyn, rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

Profi am COVID-19

14 Ebrill 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Profi Cenedlaethol Cymru ar gyfer COVID-19, sy'n rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â'n dull o fynd i’r afael â phrofi am COVID-19 yng Nghymru.

Penodiadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

14 Ebrill 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ailbenodi Tracey Evans yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Julian Stedman a James Marsden yn aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o 1 Ebrill 2020, am gyfnod o bedair blynedd.

Penodiadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

14 Ebrill 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Tim Jones yn aelod newydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac Elizabeth Davies ac Aled Edwards yn aelodau newydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o 1 Ebrill 2020 am gyfnod o bedair blynedd.

Darpariaeth prydau ysgol am ddim

8 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno bod y cymorth presennol i deuluoedd sydd â phlant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn cynnwys cyfnod gwyliau ysgol y Pasg.

Derbyniadau i’r ysbyty

8 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo amryw o weithgareddau i gyflymu’r broses o ryddhau unigolion o’r ysbyty yn ddiogel ac i le priodol ac arafu derbyniadau i’r ysbyty i helpu’r ymateb cenedlaethol i Covid-19 a chreu capasiti yn y system gofal iechyd. 

Cyllid ar gyfer tai cymdeithasol

8 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar fenthyciadau Cyfalaf Trafodiadau Ariannol ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol eiddo preswyl i gefnogi dulliau adeiladu modern ar gyfer tai cymdeithasol fel rhan o gam 3 y Rhaglen Tai Arloesol.

Grant Atal Digartrefedd

8 Ebrill 2020

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y rhaglen o brosiectau sydd i gael ei hariannu o’r Grant Atal Digartrefedd yn 2020 i 2021.

Profion cenedlaethol 2020

8 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y dull i’w gymryd mewn perthynas â’r profion cenedlaethol a’r asesiadau ar-lein wedi’u teilwra at unigolion ar gyfer dysgwyr blynyddoedd 2 i 9 yn ystod gweddill blwyddyn ysgol 2019 i 2020.

Cynllun Peilot Trafnidiaeth y Cymoedd

8 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer parhau â Chynllun Peilot Trafnidiaeth y Cymoedd ar gyfer 2020 i 2021.

Cynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru

8 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cymeradwyo sefydlu Cynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru, a fydd yn cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru.

Cronfa Achub ac Ailstrwythuro Cymru

8 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo dyraniad cyllid atodol ar gyfer Cronfa Achub ac Ailstrwythuro Cymru, sy’n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru.

Grantiau rhan-amser i ddibynyddion ar gyfer dysgu o bell

7 Ebrill 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r cynnig, gan roi cyfarwyddyd i’r  Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i adael y cymorth ar gyfer blwyddyn academaidd 2018 i 2019 yn ei le, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i dderbyn grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion.

Taliadau’r Cynllun Grant Dysgu - Addysg Bellach

7 Ebrill 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i barhau i wneud taliadau’r Cynllun Grant Dysgu  - Addysg Bellach i fyfyrwyr cymwys yn ystod yr argyfwng Covid-19, yn ystod y flwyddyn academaidd 2019 i 2020.

Penodi Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

7 Ebrill 2020

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Emma Woollett yn Gadeirydd am gyfnod o 4 blynedd o 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2024.

Profi ar gyfer TB yn ystod Covid-19

7 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau â'r dull presennol o gynnal profion TB yn ystod pandemig COVID-19. Ni ddylid cynnal profion TB ar ffermydd oni bai ei bod yn ddiogel i wneud hynny. Bydd milfeddygon yn cysylltu â pherchnogion ffermydd cyn cynnal unrhyw brofion i sicrhau ei bod yn ddiogel i ddod yno, a dylai pawb sy'n gysylltiedig â'r gwaith gadw at ofynion ymbellhau cymdeithasol priodol. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn adolygu'r mater yn barhaus.

Cyllid yn ymwneud â thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

7 Ebrill 2020

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno ar y dyraniad cyllid i ymdrin â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2020 i 2021.

Penodi Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda

7 Ebrill 2020

Mae’r  Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Judith Hardisty yn Is-gadeirydd am gyfnod o  4 blynedd o 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2024.

Cyllid ar gyfer llety gwasgaredig

7 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar ddyraniad ychwanegol o gyllid cyfalaf am flwyddyn ar gyfer llety gwasgaredig.

Cyllid ar gyfer Chwarae Teg

7 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cyflwyno rhaglen Chwarae Teg yn 2020 a 2021.

Canolfan rheoli gwastraff Bryn Pica

3 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu cyfraniad cyllid cyfalaf tuag at y costau o ddatblygu safle Parc Eco yng nghanolfan rheoli gwastraff Bryn Pica Cyngor Rhondda Cynon Taf ger Aberdâr.

 

Diwydiant Cymru

3 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo a dyrannu cylch gwaith a llythyrau cyllido Diwydiant Cymru 2020 i 2021.

Datblygu Porthladd Caergybi, Ynys Môn

3 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gynnal astudiaethau economaidd pellach ar gyfer datblygu is-adeiledd ar Ynys Môn.

Ymestyn yr ymgyrch digartrefedd cudd

3 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn yr ymgyrch gyfathrebu ar ddigartrefedd ieuenctid i ganolbwyntio ar Covid-19.

Rhagolygon cyllid ar gyfer treth

3 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i drosglwyddo cyllid i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (drwy Drysorlys Ei Mawrhydi) ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi rhagolygon treth annibynnol i gyd-fynd â Chyllideb Llywodraeth Cymru.

Llywydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru

3 Ebrill 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo’r penderfyniad i Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Meri Hughes, barhau yn ei rôl fel Llywydd hyd at 31 Mawrth 2021.

Cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim

1 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid i awdurdodau lleol i roi cymorth ariannol i deuluoedd disgyblion sy’n methu cael prydau ysgol am ddim o ganlyniad i gau’r ysgolion oherwydd y pandemig COVID-19.

Cyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig

1 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau o fewn rhanbarth y gorllewin.

Salix Finance

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gytundeb grant gyda Salix Finance ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021, er mwyn rhoi digon o amser i ddatrys materion yn ymwneud â dwyn Salix Finance dan reolaeth gyhoeddus neu i osod trefniadau amgen yn eu lle.

Gwasanaeth awyr Caerdydd i Ynys Môn

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i atal y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn dros dro am gyfnod cychwynnol o hyd at 3 mis.

Cyllid ar gyfer Ynni Môr Cymru

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Ynni Môr Cymru sy’n swm o £220,000 dros 2 flynedd, 2020 i 2021 a 2021 i 2022.

Cyflenwadau hanfodol i’r GIG

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno y gellir darparu hyd at £5 miliwn o gyllid i gynorthwyo gyda chyflenwadau hanfodol i’r GIG er mwyn bodloni anghenion sy’n codi wrth i’r pandemig COVID-19 ddatblygu.

Cyflenwadau bwyd i unigolion sy’n cael eu gwarchod

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i sefydlu cynllun ar unwaith i ddarparu cyflenwadau bwyd yn uniongyrchol i unigolion sy’n cael eu gwarchod yng Nghymru.

Cymorth i fusnesau

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo hyd at £200,000 o gyllid i ddatblygu ymgyrch ac asedau creadigol cysylltiedig i gyfathrebu ynghylch y cymorth ymarferol ac ariannol a fydd ar gael i fusnesau yng Nghymru, mewn ymateb i Covid-19.

Diwygio Polisi Cynllunio Cymru

1 Ebrill 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddiwygiadau i’r polisi cynllunio cyhoeddus cenedlaethol yn ymwneud â chyflenwi tai drwy’r system gynllunio, dirymu Nodyn Cyngor Technegol 1 (Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai) a chyhoeddi adroddiad cryno o’r ymgynghoriad cysylltiedig.

COVID-19 – Cymorth brys

31 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynghori awdurdodau lleol i ddefnyddio pwerau a chyllid arall i helpu’r rhai sydd angen lloches a mathau eraill o gymorth o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.

Penodiad i’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

31 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi Sarah Pumffret yn Aelod Annibynnol/Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y  Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

TGAU a Safon UG

31 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y ffordd y bydd graddau’n cael eu cyfrifo ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 10 sy’n sefyll unedau TGAU a myfyrwyr Safon UG yn 2020 a 2021 sydd i fod i sefyll eu harholiadau yn haf 2020.

Gofal Cymdeithasol Cymru

30 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2020 i 2021

Cyllid Lwfans Atgyweiriadau Mawr

30 Mawrth 2020

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau i ddyrannu cyllid Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2020 i 2021 i’r un-ar-ddeg o awdurdodau lleol.

Ceisiadau i drosglwyddo er mwyn alinio cyllid

30 Mawrth 2020

Nid yw’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar geisiadau trosglwyddo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i symud y tanwariant o’r  Grant Plant a Chymunedau i’r Grant Cymorth Tai ar gyfer 2019 i 2020.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo

26 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau i gyllido Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 hyd 2021.

Adolygiad o weithgarwch Iechyd rhyngwladol yng Nghymru

26 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gomisiynu adolygiad cyflym o weithgarwch Iechyd rhyngwladol yng Nghymru.

Grŵp Cynghori Trethi

26 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ddirwyn y Grŵp Cynghori Trethi i ben a sefydlu yn ei le Grŵp Ymgysylltu Trethi. 

Gwaredu tir

26 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu llain o dir ym Mhen-y-bont ar Ogwr er mwyn hwyluso gwaith adeiladu uned ddiwydiannol er mwyn cyfrannu at gyflawni elfen Cyflenwi Eiddo’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Parhad Prosiect Dysgu

26 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r Prosiect Parhad Dysgu er mwyn cefnogi ysgolion, dysgwyr a rhieni yn ystod pandemig Covid-19.

Estyn tmhorau aelod o fwrdd Comisiwn Dylunio Cymru

26 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i estyn tymhorau 2 Aelod o Fwrdd Comisiwn Dylunio Cymru.

Cais am gymeradwyaeth i fenthyciad

26 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gymeradwyo benthyciad ar gyfer Cyngor Cymuned Llys-faen.

Cais am gymeradwyaeth i fenthyciad

26 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gymeradwyo benthyciad ar gyfer Cyngor Tref Rhuddlan.

Diwygio’r cytundeb benthyciadau

24 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i newid amodau cytundeb benthyciadau.

Dysgu Seiliedig ar Waith

24 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar gyfres o fesurau i ddarparu cymorth ariannol i ddarparwyr a dysgwyr Dysgu Seiliedig ar Waith dros gyfnod y coronafeirws ac i’r mesurau hynny barhau tan o leiaf Awst 2020.

Estyniad i’r Cynllun Rhannu Prentisiaeth

24 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo hyd at £62,235 o gyllid i helpu i recriwtio prentisiaid yn ardal Tasglu’r Cymoedd i Y Prentis, y Cynllun Rhannu Prentisiaeth.

Pobl sy’n cysgu allan

24 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ariannu awdurdodau lleol i’w helpu i ddarparu llety a chefnogaeth frys i bobl sy’n cysgu allan neu sy’n aros mewn llety dros dro anfoddhaol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Estyniad o’r contract Byw Heb Ofn

24 Mawrth 2020

Mae’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i estyn am flwyddyn y contract ymgyrch gyfathrebu ar Drais yn erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol, a thrywydd yr ymgyrch genedlaethol ar godi ymwybyddiaeth yn ystod 2020 i 2021.

Y Sefydliad Ffiseg

23 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i roi cyllid i’r Sefydliad Ffiseg ar gyfer 2020 i 2021 ar gyfer gweithredu rhaglen y rhwydwaith ysgogi ffiseg (Stimulating Physics Network) a’r prosiect gwella cydbwysedd rhwng y rhywiau (Improving Gender Balance Project).

ReStart: prosiect integreiddio ffoaduriaid

23 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cais i’r Gronfa Lloches, Mudo, ac Integreiddio i ymestyn ReStart: y prosiect integreiddio ffoaduriaid hyd at 31 Rhagfyr 2021

Cymorth ar gyfer prosiectau gofal integredig

23 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cyllid cyfalaf o’r Gronfa Gofal Integredig i brosiectau o fewn rhanbarthau’r Gogledd a Chaerdydd a’r Fro.

Adroddiad Estyn ar ddatblygu arweinyddiaeth

23 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno’r ymateb i adroddiad thematig Estyn ar ddatblygu arweinyddiaeth, astudiaethau achos o ddysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ysgol.

Yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

23 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno’r gyllideb ar gyfer yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol ar gyfer 2020 i 2021.

Trafnidiaeth Cymru

20 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar refeniw ychwanegol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru i gwmpasu ei gylch gwaith yn 2019 i 2020

Gwaredu ased

20 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i leihau pris gwerthu eiddo, oherwydd difrod a wnaed gan ddŵr.

Peiriannau tocynnau clyfar

20 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant yn ystod 2019 i 2020 i hwyluso gwaith i osod 95 yn rhagor o Beiriannau Tocynnau Electronig, fel sy’n ofynnol i gadw cofnod o siwrneiau rhad ac am dim ar y bws gan bobl hŷn neu anabl sy’n defnyddio cardiau clyfar.

A55

20 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyfarnu’r contract i ddylunio ac adeiladu’r Gwelliant i’r A55 o Aber i Dai’r Meibion.

Maes awyr Sain Tathan

20 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gynnydd ym mhris y contract ar gyfer maes awyr Sain Tathan i gydymffurfio ag amodau’r drwydded gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.    

Cyfraddau ardoll y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

20 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo'r cyfraddau ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i 2021

Diweddaru capasiti cydgasglu band eang y sector cyhoeddus

20 Mawrth 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddiweddaru capasiti cydgasglu band eang y sector cyhoeddus i wella gwasanaethau ymgynghori drwy fideo ar gyfer Ymarferwyr Cyffredinol.

Cyfer llinell gymorth Childline

20 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer NSPCC yn 2020 i 2021.

Llwybr teithio llesol, Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr

20 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y llwybr teithio llesol yn Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr.

Offer profi golwg plant

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer offer profi golwg plant, a phrofion lleferydd Cymraeg yn y maes awdioleg.

Cyfleusterau newid babanod

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i sicrhau mwy o ddarpariaeth o gyfleusterau newid babanod yn yr holl doiledau cyhoeddus drwy newidiadau i’r Dogfennau Cymeradwyo, ac i gyhoeddi ymgynghoriad ar y cynigion.

Addasu proffiliau ad-dalu

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar newidiadau i ad-daliadau 2019 a 2020 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Hafal.

Rhaglen Prentisiaid Gofal Iechyd

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid refeniw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gefnogi’r Rhaglen Prentisiaid Gofal Iechyd.

System gofal maeth Mockingbird

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu cyfalaf i Gyngor Sir y Fflint i weithredu system gofal maeth Mockingbird.

Prosiect offer diogelwch personol

19 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, er mwyn rhoi’r prosiect offer diogelwch personol ar waith.

Prosiect e-restr

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid yn 2019 a 2020 ar gyfer prosiect e-restr a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Prosiect system cynnal a chadw gweithredol

19 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid yn 2019 a 2020 ar gyfer system cynnal a chadw gweithredol a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ymestyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a’r Rhaglen Fframweithiau Prentisiaethau

18 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ymestyn y trefniadau â Skills Development Scotland (SDS) ar gyfer 2020 i 2021 er mwyn parhau i gynnal, cyflenwi a chydlynu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol y DU (NOS) a chomisiynu fframweithiau prentisiaethau newydd, ac adolygu rhai â blaenoriaeth. Cytunodd y Gweinidog hefyd i barhau i roi cyllid i gefnogi SDS i ddatblygu NOS â blaenoriaeth yn ystod 2020 i 2021 a chomisiynu trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd cyfieithiadau Cymraeg o’r NOS yn ystod 2020 i 2021.

Rhaglen Trawsnewid Digidol

18 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo y dylid trosglwyddo cyllid i gefnogi’r rhaglen Trawsnewid Digidol.

Buddsoddi i Arbed

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Addysg, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Prif Weinidog yn cytuno â’r addasiadau Buddsoddi i Arbed i’r gyllideb atodol ar gyfer 2019 i 2020. 

Recriwtio nyrsys tramor

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cytuno i ryddhau cyllid gwerth £2,975,000 i dri Bwrdd Iechyd ar gyfer prosiectau recriwtio nyrsys tramor.

Prosiect cofnodion iechyd

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Brosiect Buddsoddi i Arbed Cofnodion Iechyd Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Gwasanaethau ymarferwyr cyffredinol yn ardal Wrecsam

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer sefydlu cwmni buddiannau cymunedol i ddarparu gwasanaethau ymarferwyr cyffredinol yn ardal Wrecsam. 

Y Cynllun Cymhelliant i Gyflogwyr i Gynnal Prentisiaethau

18 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gau y Cynllun Cymhelliant i Gyflogwyr i Gynnal Prentisiaethau i ymgeiswyr newydd o 1 Mai 2020.

Cynllun Chwaraeon Cymru ar gyfer gadael swydd yn gynnar o wirfodd

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid yn 2019 i 2020 i gefnogi’r cynllun ar gyfer gadael swydd yn gynnar o wirfodd a gynhelir gan Chwaraeon Cymru. 

Prosiect system cynnal a chadw gweithredol

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid yn 2019 a 2020 ar gyfer system cynnal a chadw gweithredol a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Prosiect e-restr

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid yn 2019 a 2020 ar gyfer prosiect e-restr a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Prosiect offer diogelwch personol

18 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, er mwyn rhoi’r prosiect offer diogelwch personol ar waith.

System gofal maeth Mockingbird

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu cyfalaf i Gyngor Sir y Fflint i weithredu system gofal maeth Mockingbird.

Rhaglen Prentisiaid Gofal Iechyd

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid refeniw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gefnogi’r Rhaglen Prentisiaid Gofal Iechyd.

Addasu proffiliau ad-dalu

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar newidiadau i ad-daliadau 2019 a 2020 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Hafal.

Cyfleusterau newid babanod

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i sicrhau mwy o ddarpariaeth o gyfleusterau newid babanod yn yr holl doiledau cyhoeddus drwy newidiadau i’r Dogfennau Cymeradwyo, ac i gyhoeddi ymgynghoriad ar y cynigion.

Offer profi golwg plant

18 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer offer profi golwg plant, a phrofion lleferydd Cymraeg yn y maes awdioleg.

Meddygon arbenigol ac arbenigwyr cyswllt

17 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y mandad ar y cyd, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar gyfer negodiadau i ailffurfio contractau ar gyfer Meddygon Arbenigol ac Arbenigwyr Cyswllt.

Mae staff y GIG yn talu

17 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynyddu’r gyfradd fesul awr o fis Ebrill 2020 i staff Agenda ar gyfer Newid GIG Cymru i adlewyrchu’r cynnydd mewn cyflog byw.

Gwobrau Rhagoriaeth Clinigol

17 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Wobrau Rhagoriaeth Clinigol 2019.

Cymorth i ynni dŵr

17 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i’r sector ynni dŵr tuag at dalu eu rhwymedigaeth ardrethi annomestig.

Newidiadau i ganol benthyciadau a rhaglenni benthyciadau eiddo

17 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i addasu’r rhaglenni benthyg presennol i’w gwneud yn fwy hyblyg ac felly’n haws eu defnyddio er mwyn helpu i ddechrau ailddefnyddio eiddo gwag.

Cymorth busnes

16 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar gyllid i gwmni Gwasanaethau Ariannol yng Nghaerdydd.

Dyraniadau Cyllid

16 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad cyllideb i’r gwasanaethau tân ac achub, ac ar gyfer materion y Lluoedd Arfog, yn 2020 i 2021.

Trosglwyddo tir

16 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo trosglwyddo tir yn Sir Ddinbych.

Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2018

16 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i Gyngor Sir Ceredigion gadarnhau eu gorchymyn traffig ledled y sir.

Ailbenodi i Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre

16 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi’r Athro Donna Mead fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre am 4 blynedd, o 1 Mai 2020 hyd at 30 Ebrill 2024.

Coed Elai, Tonyrefail

16 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gwblhau seilwaith yng Nghoed Elai, Tonyrefail.

Hyfforddeiaethau a’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd

16 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr  Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i ymestyn contractau Hyfforddeiaethau, y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd a Twf Swyddi Cymru hyd at 31 Mawrth 2021, ac wedi cytuno i barhau i ddarparu rhaglenni grant Access a ReAct ar gyfer yr un cyfnod. 

Diweddariad am ganllawiau gyrfaoedd

16 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i sefydlu gweithgor i ddatblygu canllawiau ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith yn y cwricwlwm newydd.

Datganiad o Fwriad Cymru–Québec

11 Mawrth 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cytuno i lofnodi Datganiad o Fwriad rhwng Cymru a Québec a sefydlu cronfa ar y cyd i gefnogi gweithgarwch cydweithredol.

Rheiddiaduron Quinn

11 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i ryddhau rhagor o sicrhad ariannol a gedwir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â safle gweithgynhyrchu rheiddiaduron panel y Quinn Radiator Group fel rhan o’r broses weinyddu.

Grant refeniw craidd Awdurdod Parc Cenedlaethol

11 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo grant refeniw craidd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Cyllidebau ardaloedd menter

11 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i wario cyfanswm cyllideb ddirprwyedig yn ystod blwyddyn ariannol 2020 i 2021, ar gyfer Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Glannau Port Talbot, Ynys Môn ac Eryri, er mwyn helpu’r byrddau i barhau i ddarparu prosiectau penodol sy’n unol â’u cynlluniau strategol eu hunain. Hefyd Glyn Ebwy, Glannau Dyfrdwy, Maes Awyr Caerdydd a Chanol Caerdydd er mwyn cwblhau unrhyw brosiectau sydd gan y bwrdd ar y gweill a chefnogi gweithgarwch pellach  fewn yr ardaloedd sy’n unol â’u cynlluniau strategol.

Bil Bwrdd y Llyfrgell Brydeinig (Pŵer i Fenthyg)

11 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gadarnhau wrth Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ein bod yn cytuno i beidio cyflwyno Memorandwm a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Senedd mewn perthynas â’r Bil.

Ffioedd deintyddol y GIG

11 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynyddu ffioedd deintyddol y GIG o fis Ebrill 2020.

Trosglwyddo Teitl Cofrestru Tir

11 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno y gellir trosglwyddo perchnogaeth safle yn Ffynnon Taf i Drafnidiaeth Cymru, ac y gallant gytuno ar drefniadau les er mwyn symud ymlaen i gyflawni’r datblygiad.

Gwrthfesurau a deunyddiau traul y ffliw

11 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i ailgyflenwi gwrthfesurau a deunyddiau traul ar gyfer pandemig ffliw.

Sefydlu Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

11 Mawrth 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cytuno ar gynnig i sefydlu Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach.

Cefnogaeth i Word Skills UK

11 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyfraniad ariannol o £250,000 i brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru er mwyn cefnogi Word Skills UK mewn gweithgarwch yn ymwneud â chystadleuwyr a chystadlaethau yng Nghymru.

Cynllun lledaenu’r A465

11 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi derbyn yr Hysbysiad Malltod statudol a roddwyd i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag adrannau 5 a 6 o gynllun ffordd yr A465 ‘Blaenau’r Cymoedd’.

Amgueddfa Cymru

11 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gylch cyflog Amgueddfa Cymru 2019 i 2020.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

11 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gais cylch cyflog Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2019 i 2020.

Cronfa eiddo gwag canol trefi

11 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar drefniadau cyflawni ar gyfer Cronfa Rheoli Eiddo Gwag Canol Trefi.

Ailbenodi i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

11 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Paul Hollard fel Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am 4 blynedd o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2024.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

11 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu am Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cefnogaeth i ddioddefwyr llifogydd

10 Mawrth 2020

Mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynyddu gwerth ariannol dyfarniadau y Gronfa Cymorth Dewisol a roddir i ddioddefwyr llifogydd trwy Daliad Cymorth Brys, i alluogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar i wneud cais, ar sail eithriadol, am daliad ariannol brys mwy.

Cyllid arweinydd clinigol Clefyd Llid y Coluddyn

10 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu swydd arweinydd clinigol Clefyd Llid y Coluddyn o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2023 o’r Rhaglen Endosgopi Cenedlaethol sy’n rhan o’r gyllideb llwybrau clinigol gwerth £10 miliwn ‘Cymru Iachach’.

Cymwysterau Cymru

10 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r llythyr cyllid dyraniad grant a’r llythyr cylch gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer 2020 i 2021 i Cymwysterau Cymru.

Cymorth grant ar gyfer prosiectau Menter Cyllid Preifat Cyfredol

10 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Grant Refeniw Blynyddol i dalu costau cynnal cyfleusterau gan gynnwys prosiectau Menter Cyllid Preifat cyfredol ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau tân.

Cyngor Cynghori Gwyddoniaeth ac Arloesi Cymru

10 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cyfarfodydd Cyngor Cynghori Gwyddoniaeth ac Arloesi Cymru.

Cyllid I gefnogi’r broses o greu Cymru iachach

10 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno I ariannu prosiectau arloesol lleol I gyflawni amcanion ‘Fferylliaeth: Darparu Cymru Iachach’.

Parc Busnes Rose Heyworth, Abertyleri

10 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent er mwyn sicrhau mesurau ychwanegol i ddefnyddio ynni yn effeithlon fel rhan o’r gwaith o adnewyddu pedwar uned busnes yn y parc busnes.

Cefnogaeth i brosiectau cymunedol trwy gyllido torfol

10 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu £165,000 i alluogi i bum awdurdod lleol, trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, i ddyfarnu contract am hyd at ddwy flynedd i gyflenwr darparu platfform cyllido torfol cymunedol ar-lein.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

10 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo achosion busnes Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif a ystyriwyd gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg ym mis Chwefror 2020.

Cymeradwyo benthyca

10 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo benthyca arian i Gyngor Tref Neyland er mwyn gwneud iawn am ddiffyg ar gyfer y Ganolfan Gymunedol newydd yn ystod blwyddyn ariannol 2019 hyd 2020.

Estyniad i rai o grwpiau contractau’r fframwaith hyfforddiant cenedlaethol

6 Mawrth 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i estyn contractau’r fframwaith hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer grŵp 2 a 3 a grŵp 4, 5 a 6 hyd 31 Mawrth 2021.

Cyllid ar gyfer cefnogi gwaith datblygu polisi ar arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol

6 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cefnogi gwaith gweithredu’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a ffrydiau gwaith datblygu arweinyddiaeth yn ystod 2019-20.

Cais am statws ysgol annibynnol

6 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cais Ysgol Tarren am statws ysgol annibynnol. Golyga hyn y bydd yr ysgol yn cael ei chynnwys ar gofrestr Llywodraeth Cymru o ysgolion annibynnol.

Gwaredu tir

6 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i waredu tir yng Nghasllwchwr.

Coffi Newid Hinsawdd 2020

6 Mawrth 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cymeradwyo’r trefniadau cyllid ar gyfer Coffi Newid Hinsawdd 2020 – sef prosiect mewn partneriaeth rhwng Cymru ac Affrica sy’n cefnogi tyfwyr coffi Masnach Deg yn Uganda.

Ystad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn

6 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gymeradwyo’r gyllideb ychwanegol ar gyfer y gwaith seilwaith ar Ystad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn.

Cyllid ar gyfer rhaglen astudio ôl-16

6 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer rhaglen astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Gwaredu tir

6 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir yn Abertawe.

sgol Haf Seren International 2020

6 Mawrth 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer ysgol Haf Seren International 2020 ym Mhrifysgol Chicago.

Datganoli cymhwysedd treth pellach

6 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i gyflwyno cais ffurfiol i Lywodraeth y DU ynghylch datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cymhwysedd deddfwriaethol a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i gyflwyno treth ar ‘dir a bennwyd fel tir sy’n addas ar gyfer datblygiadau yng Nghymru’.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif

6 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r achosion busnes mewn perthynas â Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif ar gyfer mis Chwefror 2020.

Ystad Ddiwydiannol Cilyrychen, Sir Gaerfyrddin

6 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gymeradwyo cyllid ar gyfer uwchraddio’r cyswllt trydan ac amrywio telerau’r brydles mewn perthynas ag eiddo yn Sir Gaerfyrddin.

Gŵyl y Gelli

3 Mawrth 2020

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cefnogi nifer o raglenni addysg i ysgolion a phobl ifanc fel rhan o Ŵyl y Gelli 2020 hyd 2021.

Cymorth i fusnesau

3 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid sbarduno ar gyfer dau gwmni o dan y Rhaglen Alacrity Cyber.

Cyllid ar gyfer creu swydd - swyddog adfywio

3 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo dyraniad o hyd at £120,000 o’r Cronfeydd Cyd Fenter, dros gyfnod o 3 blynedd, i gyllido swydd Uwch Reolwr Prosiect a fydd yn gweithio o fewn Cyngor Dinas Casnewydd.

Dyfodol Re:fit yng Nghymru

3 Mawrth 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau i weithredu o dan fframwaith newydd Re:fit 4 o fis Ebrill 2020 a bydd partneriaethau lleol yn parhau i gynnig cymorth i gyrff cyhoeddus o fis Ebrill 2020 er mwyn cyflawni prosiectau ar raddfa fawr i arbed ynni o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Rhaglen Tai Arloesol

3 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r cynlluniau refeniw ychwanegol i’w cynnwys yn y Rhaglen Tai Arloesol ar gyfer 2019 hyd 2020.

Ymateb i’r llifogydd

3 Mawrth 2020

Mae Prif Weinidog Cymru, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i sefydlu cronfa grant refeniw a fydd yn cefnogi busnesau y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt ac yn cynnig rhyddhad disgresiynol o ardrethi busnes am hyd at 3 mis lle y mae nifer uchel o safleoedd busnes wedi dioddef o effeithiau’r llifogydd o fewn lleoliad crynodedig.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

2 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Paul Deneen, OBE, fel Aelod Annibynnol (Cymunedol), am 4 blynedd o 26 Chwefror 2020 tan 25 Chwefror 2024.

Ysgolion Arweinyddiaeth Sector Cyhoeddus

2 Mawrth 2020

Cytunodd y Prif Weinidog mewn egwyddor i ymrwymiad i ddarparu ysgolion haf a gaeaf blynyddol Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan rhwng 2021 a 2024.

Cyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio

2 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r cyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio mewn egwyddor ar gyfer prosiect strategol yn y De-orllewin.

Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach

2 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021.

Cynllun Addysg Beirianneg Cymru

2 Mawrth 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid grant i Gynllun Addysg Beirianneg Cymru o 1 Ebrill 2020 ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn 2020 i 2021.

Parth Menter Dyfrffyrdd Hafan

28 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ymestyn terfyn Parth Menter Dyfrffyrdd Hafan i gynnwys ardal y Glannau, Aberdaugleddau.

Ysgolion Haf Rhyngwladol Rhwydwaith Seren 2020

28 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i Harvard ar gyfer ysgolion haf rhyngwladol Rhwydwaith Seren 2020

Ail gaffael Hwb, y Platfform Digidol ar gyfer Dysgu

28 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ail gaffael Hwb, y Platfform Digidol ar gyfer Dysgu.

Tai Fforddiadwy

27 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y strategaeth ‘Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru: Strategaeth dulliau modern o adeiladu ar gyfer tai cymdeithasol.

Mynediad at fand eang

27 Chwefror 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddatblygu ymyriadau pellach i ddarparu mynediad i fand eang cyflym a dibynadwy i eiddo ar draws Cymru

Bwcabus yn y Gorllewin

27 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cymorth ariannol i Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2020 i 2021 i gynnal y gwasanaeth Bwcabus presennol hyd at ddiwedd mis Medi 2020, cyn belled bod Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i roi arian cyfatebol ar gyfer yr un cyfnod.

Prydles Sain Tathan

27 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi prydles o 2 flynedd i elusen am adeilad yn Sain Tathan, am y gwerth rhent a elwir yn “rhent hedyn pupur”, sef £1, ac sy’n cael ei gyfrif yn rhodd.

Ailbenodi aelodau annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

27 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ailbenodi Tina Donnelly am gyfnod o 4 blynedd o 1 Chwefror 2020 tan 31 Ionawr 2024, John Hill-Tout am 2 flynedd o 1 Chwefror 2020 tan 31 Ionawr 2022 a Dr Heidi Phillips am 3 blynedd o 1 Chwefror 2020 tan 31 Ionawr 2023

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

27 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodi Mrs Sharon Richards fel Aelod Cyswllt (Cadeirydd, Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid) am gyfnod o ddwy flynedd i ddechrau. 

Addysg grefyddol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd

27 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Prif Weinidog wedi cytuno na fydd hawl i beidio cymryd rhan mewn addysg grefyddol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd.

Cyllideb

27 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cyllideb ddrafft 2020 i 2021 i’w gosod gerbron y Senedd.

Cymorth busnes

27 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cymorth busnes

27 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer prosiect yn Sir Gaerfyrddin

Ffioedd cyfreithiol

27 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllideb ar gyfer ffioedd cyfreithiol mewn perthynas ag anghydfod cyfreithiol.

Cymeradwyo benthyciad

27 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyflwyno cymeradwyaeth benthyca i Gyngor Cymuned Llanedi yn ystod blwyddyn ariannol 2019 i 2020. 

Awdurdodau tân ac achub

27 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad a datganiad ysgrifenedig cysylltiedig ynghylch i ba raddau mae awdurdodau tân ac achub wedi cydymffurfio â’n fframwaith genedlaethol.

Gwaredu lesddaliad

27 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo gwaredu lesddaliad eiddo yn Abertawe.

Cymorth i fusnesau

27 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i gyllid Cronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer busnes gweithgynhyrchu yn Rhondda Cynon Taf.

Cymorth i fusnesau

27 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gyllid ar gyfer prosiect yng Nghasnewydd.

Cynhadledd Gofal Sylfaenol Brys

25 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer yr ail gynhadledd flynyddol ar Ofal Sylfaenol Brys.

Setliad Llywodraeth Leol

25 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r cyfrifiadau a’r dyraniadau ar gyfer Setliad Llywodraeth Leol 2020 i 2021.

Trosglwyddo ased

24 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllideb ychwanegol a diwygiad i drefniadau contract i helpu i drosglwyddo ased yn Abertawe.

Prosiect rhwydwaith ffyrdd strategol y De

24 Chwefror 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ariannu gwelliannau i seilwaith dwythell a ffeibr ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.

Cymorth busnes

24 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i ddyfarnu grant ym Mharc Penarlâg, Brychdyn.

Gwaredu tir

24 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i waredu tir yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.

Cofrestr Landlordiaid Cymdeithasol

24 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i sefydlu maen prawf ar gyfer tynnu sefydliad oddi ar y Cofrestr Landlordiaid Cymdeithasol (RSL), gyda’r RSL yn gwneud cais i dynnu’r sefydliad mewn ffordd strwythuredig gyda mesurau diogelu priodol i denantiaid a buddsoddiad cyhoeddus. 

Cymorth busnes

24 Chwefror 2020

Mae'r Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes ar Ynys Môn.

Ailddatblygu Stryd Edward Henry Street, y Rhyl.

24 Chwefror 2020

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid grant o dan y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer ailddatblygu Stryd Edward Henry, y Rhyl.

The Automobile Palace, Llandrindod

24 Chwefror 2020

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gais am gyllid grant o dan y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer prynu ac ailddatblygu yr Automobile Palace, Llandrindod.

Partneriaeth Strategol Busnes yn y Gymuned

20 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu cyllid grant i Busnes yn y Gymuned am ran o flwyddyn ariannol 2019 i 2020 a’r flwyddyn ariannol 2020 i 2021 er mwyn gwreiddio ymgysylltiad Busnes yn y Gymuned â busnesau yng Nghymru er mwyn hybu a meithrin arferion busnes cyfrifol.

Prosiect deuoli’r A465, adrannau 5 a 6, Dowlais i Hirwaun

20 Chwefror 2020

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y gall y prosiect hwn fynd yn ei flaen i wahoddiad i gyflwyno tendr terfynol a chwblhau'r ddeialog gystadleuol yn y broses gaffael.

Cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

20 Chwefror 2020

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo parhau â’r Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory presennol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Gostwng nifer y troseddau gan fenywod

19 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar flwyddyn o estyniad i swydd rheolwr y rhaglen, ac mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid i ymestyn y swydd hon.

Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands

19 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid i ddatblygu adeiladau masnachol yn Nwyrain Cross Hands ac i Gyngor Sir Caerfyrddin fod yn brif bartner cyflenwi ar gyfer y datblygiad.

Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc

19 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar daliad ex-gratia mewn perthynas â chontract y Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc.

Unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

19 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i gyhoeddi ‘Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’ ac wedi cytuno i sefydlu cronfa unigrwydd ac ynysigrwydd gwerth £1.4 miliwn am y dair blynedd rhwng 2020 a 2023.

Cymorth i Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot

19 Chwefror 2020

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi cyfraniad i gynorthwyo gyda chostau Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot: prif gampws Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd.

Caniatáu les hir

19 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ganiatáu les 125 mlynedd yng Nglyn Ebwy.

Cofrestr Meddygon Locwm i Gymru Gyfan

18 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer datblygu Cofrestr Meddygon Locwm i Gymru Gyfan.

Cyllid datblygu proffesiynol ar gyfer y sector addysg bellach

18 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid datblygu proffesiynol ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru.

Cymeradwyo benthyciad ar gyfer llywodraeth leol

18 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Caergybi yn ystod blwyddyn ariannol 2019 hyd 2020.

Undebau credyd

18 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y canlynol;

  • Benthyciad i Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro er mwyn atgyfnerthu’r cronfeydd cyfalaf tra’u bod yn trosglwyddo i eiddo newydd sy’n cynrychioli newid sylweddo i’w model busnes. Bydd y benthyciad yn creu byffer gan y rhagwelir y bydd y ddwy flynedd gyntaf yn heriol o safbwynt eu cymhareb cyfalaf i ased.
  • Benthyciad i Undeb Credyd Casnewydd er mwyn atgyfnerthu’r cronfeydd cyfalaf a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i nifer yr aelodau gynyddu.

Cymorth ar gyfer gofalwyr

17 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad o £1.295 miliwn i helpu i gyflawni’r tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr, gan gynnwys cyllido cardiau adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc.

Cysylltiad Metro i Borth Teigr / Pentir Alexandra

17 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar wariant i gomisiynu Trafnidiaeth Cymru i gwblhau astudiaeth cam 18 ac astudiaeth alinio yn unol â’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cysylltiad metro posibl, ac ar foratoriwm ar waredu tir yn ardal Porth Teigr /Pentir Alexandra tan i’r gwaith uchod gael ei gwblhau. 

Cyllid ar gyfer Groundwork yng Nghymru

17 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y cyllid refeniw ar gyfer Groundwork yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 – 2021.

Cynlluniau bond y grant Atal Digartrefedd

17 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo arian y Grant Atal Digartrefedd a ddefnyddir i gyllido cynlluniau bond i’r Grant Cymorth Tai o fis Ebrill 2021 ymlaen, i gadw rhwymedigaethau’r bondiau a gyllidwyd o dan y Grant Atal Digartrefedd, ac i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i nodi’r gofynion sylfaenol o ran gwasanaethau yn y dyfodol.

Cyllid ar gyfer y Rhaglen Heneiddio’n Iach

17 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar  £227,642 o gyllid i Age Cymru ddarparu’r Rhaglen Heneiddio’n Iach rhwng 2020 to 2021.

Cymorth ar ôl profedigaeth yn sgil hunanladdiad

17 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cymorth ariannol o hyd at £10,000 y flwyddyn i 5 elusen sy’n rhoi cymorth profedigaeth i’r rheini a gafodd brofedigaeth yng Nghymru yn sgil hunanladdiad.

Aelodaeth o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

17 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbenodi aelodau presennol Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru am 18 mis, ac i recriwtio aelodau newydd ychwanegol o’r bwrdd o’r clystyrau bwyd, yn seiliedig ar y bylchau o ran sgiliau ar y bwrdd presennol, ac yna i symud ymlaen i benodi’r bwrdd cyfan yn llawn am y cyfnod o bedair blynedd ar ôl Blas Cymru 2021.

Ymateb i’r adolygiad o brofedigaeth

17 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar yr ymateb i’r adolygiad o brofedigaeth, ynghyd â chyllid o £1 filiwn rhwng 2021 a 2022.

Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol fferm Wynt Clocaenog

17 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar y trefniadau a wnaed gan Innogy ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Fferm Wynt Clocaenog.

Penodiadau i’r Panel Cynghori i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg

14 Chwefror 2020

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cymeradwyo penodi Anne Davies a Nia Elias i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg am gyfnod o dair blynedd.

Rôl y Panel Cynghori yw:

•             rhoi cymorth a chyngor i'r Comisiynydd mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiynydd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a gweithredu, ble y bo angen, fel 'cyfaill beirniadol'.

•             bod yn fforwm lle caiff materion sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Comisiynydd eu trafod.

•             Ar gais y Comisiynydd, ystyried dogfennau penodol a luniwyd gan y Comisiynydd a mynegi barn am y dogfennau hynny.

Cymorth ar gyfer tîm ymyrraeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

14 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gwariant tîm ymyrraeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg rhwng 2019 a 2020 a 2020 i 2021.

Canllawiau Grant Cymorth Tai

14 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi’r ‘Canllawiau Grant Cymorth Tai’ terfynol a’r adroddiad sy’n rhoi crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad i’r canllawiau drafft.

Cyllid ar gyfer Buddsoddi mewn prosiectau o Safon

14 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gyllid ar gyfer Buddsoddi mewn prosiectau o Safon ar gyfer y sector ôl-16.

Hunan-asesu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

14 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddull o gynnal cynllun peilot ar hunan-asesu Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol er mwyn datblygu gweithio ar y cyd. 

Ail-benodiad i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd y Cyhoedd Cymru

14 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ail-benodi Alison Ward, y Cyfarwyddwr Anweithredol (Awdurdod Lleol) a Judi Rhys, Cyfarwyddwr Anweithredol (Trydydd Sector) am 2 flynedd o’r 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2022.

Cyllid ar gyfer Amgueddfa

13 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid gwerth cyfanswm o £2.575 miliwn, ar draws tair blwyddyn ariannol, er mwyn mynd i’r afael â gwaith ar ddatblygu cynlluniau busnes a chyflawni amgueddfa pêl-droed ac arddangos celf gyfoes ar draws Cymru. Bydd cyllid hefyd yn cefnogi gwaith cynnal a chadw cyfalaf yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac ailddatblygu Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Prosiect lleihau carbon Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

13 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro at ddiben ei brosiect lleihau carbon.

Cyllid ychwanegol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

13 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyfarniad o £10 miliwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer 2019 i 2020.

Canllawiau ar hunanesgeulustod

13 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyfarniad o £15,000 ar gyfer comisiynu gwaith i ddatblygu canllawiau newydd ar hunanesgeulustod a phrotocol enghreifftiol drafft ar gyfer cefnogi arferion ar draws lleoliadau perthnasol.

Canllawiau ar gyfer sefydliadau addysg bellach arbenigol

13 Chwefror

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r canllawiau polisi diwygiedig; canllawiau technegol diwygiedig ar gyfer sefydliadau addysg bellach arbenigol; a chanllawiau technegol diwygiedig ar gyfer Gyrfa Cymru.

Canolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (Cymru)

13 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Addysg a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar y cyd ar gyfer cyflawni cam alffa y Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (Cymru) am chwech i wyth mis er mwyn cefnogi sector Cyhoeddus Cymru i drawsnewid yn ddigidol wasanaethau cyhoeddus sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr.

Dyraniadau Cronfa’r Economi Gylchol

11 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad Cronfa’r Economi Gylchol ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff a ariennir yn gyhoeddus.

Ar Drywydd Dysgu

11 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer tri darn allweddol o waith dros y flwyddyn ariannol 2020 i 2021 mewn perthynas ag ymchwil a chymorth asesu ar gyfer ‘Ar Drywydd Dysgu’.

Gofyn a Gweithredu

10 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y gwerthusiad ‘Gofyn a Gweithredu’.   

Cyllid ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf

10 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £10 miliwn arall, i gael ei neilltuo drwy fyrddau partneriaethau rhanbarthol, ar gyfer helpu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i’r afael â phwysau’r gaeaf a wynebir ar hyn o bryd. 

Cyllid buddsoddi mewn adfywio

10 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno mewn egwyddor ar gymeradwyo Cyllid Buddsoddi mewn Adfywio Wedi’i Dargedu ar gyfer dau brosiect strategol yn y de-orllewin.

Cymorth ar gyfer arloesi mewn bwyd a diod

10 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar sicrhau bod cyllid o £2,000,000 ar gael er mwyn prynu offer newydd, yn y Ganolfan Ymchwil Uwch-weithgynhyrchu ym Mrychdyn, er mwyn cefnogi’r cynllun strategol ar gyfer bwyd a diod yn 2020 i 2026 er mwyn datblygu meysydd arloesi newydd.

Datblygu economaidd yn y Canolbarth

7 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid sbarduno i gefnogi’r gwaith o sefydlu swyddfa ar gyfer y rhaglen er mwyn helpu i reoli datblygu economaidd rhanbarthol ar y cyd yn y Canolbarth, a’i gyflawni.

Prynu tir yng Nghaerllion

7 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo caffael tua 9 erw o dir yn cynnwys gweddillion archeolegol pwysig yng Nghaerllion, ac mae’r gwariant yn gysylltiedig â phrynu gweithfeydd atodol.

Cyllid iechyd meddwl ar gyfer y sector addysg bellach

7 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn y sector addysg bellach.

Wythnos Wyddoniaeth Prydain

7 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ‘Diwrnod Gwyddoniaeth’, digwyddiad i ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain.  

Rhannu data

6 Chewfror 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i sefydlu Bwrdd Adolygu sengl ar gyfer Rhannu Data yng Nghymru, o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017.

Rhagnodi cynnyrch heb glwten

6 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hyrwyddo model cymysg ar gyfer darparu cynnyrch heb glwten i bobl â chlefyd seliag yng Nghymru; a bod swyddogion yn trafod gyda byrddau iechyd pa mor ymarferol fyddai darparu opsiynau prynu amgen i gleifion.

Gwerthu Tir

6 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu dau barsel o dir yn Sir Benfro.

Cyllid ar gyfer Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

6 Chwefror 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i roi grant i Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i sefydlu a gweithredu cynllun peilot ar gyfer Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru.

Rhaglen Colegau ac Ysgolion yr 21ain ganrif

6 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog wedi cymeradwyo’r achosion busnes a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi Cyfalaf.

Dyrannu cyllid cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn

6 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno’r dyraniad o gyllid cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn, fel y nodir yn yr Ail Gyllideb Atodol.

Ail-benodi i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Martin Veale fel Aelod Annibynnol (Cyllid) i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre am 4 blynedd, o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2024.

Menter ar y cyd yng Nghaerffili

5 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer menter ar y cyd yng Nghaerffili.

Taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol

5 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i wneud taliadau ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol o 2020 ymlaen mewn £ sterling yn hytrach nag ewros €.

Grant Cymorth ar gyfer Diwygio Etholiadol

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar grant cymorth i awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2019-2020 a 2020-2021, er mwyn eu galluogi i roi diwygiadau etholiadol ar waith yng Nghymru.

Cefnogi mentrau cymdeithasol

5 Chwefror 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i barhau â’r cyllid grant craidd o fis Ebrill 2020 tan fis Mehefin 2021 ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru.

Cymorth ar gyfer canol trefi

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ailwampio’r cyllid adfywio o dan yr enw Trawsnewid Trefi, sy’n ymestyn Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio o 2021 i 2022, a phecyn cyllid refeniw un flwyddyn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau, prosiectau a darpariaethau ar gyfer canol trefi.

Ymarfer caffael Job Support Wales

5 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i beidio â rhoi diwedd ar yr ymarfer caffael mewn perthynas â rhaglen Job Support Wales, ac i ystyried dulliau gweithredu eraill.

Cymorth cyflogadwyedd

5 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ymestyn contractau ar gyfer hyfforddeiaethau a rhaglenni sgiliau cyflogadwyedd, gan barhau i ddarparu’r rhaglenni grant ReAct a Mynediad tan 31 Gorffennaf 2020.

Gwaith draenio tir yng Nghasllwchwr

5 Chwefror 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddod â’r contract gwaith mewn perthynas â draenio tir yng Nghasllwchwr, Abertawe i ben.

Toiledau ‘Changing Places’

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi papur ymgynghori ar newidiadau i’r ddogfen a gymeradwywyd mewn perthynas â Rhan M y rheoliadau adeiladu i gynyddu darpariaeth toiledau ‘Changing Places’ yng Nghymru.

Cronfa Cymunedau’r Arfordir

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Gylch 6 Cronfa Cymunedau’r Arfordir ar gyfer 2021 i 2023, gan dargedu trefi arfordirol gyda hanner y gronfa.

Apêl cyllid myfyriwr

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ailsefydlu cyllid myfyriwr ar gyfer blwyddyn academaidd 2018 i 2019 a dileu’r gordaliadau grant a wnaed y flwyddyn honno, a dynodi’n benodol gwrs presennol y myfyriwr ar sail dros dro er mwyn galluogi’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i asesu ei gais am gymorth ar gyfer 2019 i 2020.

Diwygio’r rheoliadau adeiladu

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi cylchlythyr newydd i ddisodli cylchlythyr 004/2019 sy’n darparu canllawiau ar effaith Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019 ac sy’n cynnwys hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 yn cymeradwyo rhai dogfennau at ddibenion Rheoliadau Adeiladu 2010.

Cyllid o’r Gronfa Gofal Integredig

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid o Brif Raglen Gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiect yn ardal Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg.

Technocamps

5 Chwefror 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Technocamps rhwng 2020 a 2021, i gefnogi cyfrifiadureg mewn ysgolion ledled Cymru.

Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

31 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ariannu’r gwaith o gynhyrchu canllaw syml i’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).

Cyllid i wella gwasanaethau cymdeithasol

31 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i awdurdodau lleol er mwyn helpu i roi’r ‘Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol’ newydd ar waith.

Galw cais cynllunio i mewn

31 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i alw i mewn y cais cynllunio am annedd arfaethedig i gynnwys mynediad i gerbydau a gosod cyfleuster parod i drin carthion ar dir yn Feinog Uchaf, Dihewyd, Llambed.

Penodi i Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr

30 Ionawr 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Arwel Ellis Owen yn Gadeirydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol ym maes Cynllunio

30 Ionawr 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar yr adroddiad blynyddol sy'n nodi perfformiad y system gynllunio yn y cyfnod adrodd o 2018 i 2019.

Cymeradwyo benthyca

30 Ionawr 2020

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytunoi roi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Llangefni ar gyfer benthyg arian at ddibenion cyfalaf yn ystod  2019 i 2020.

Dyraniadau grant y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio

30 Ionawr 2020

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gefnogi dau gais am brosiect grant o dan y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio sydd i'w darparu yng Ngogledd Cymru.

Canllawiau Cwricwlwm Cymru

29 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau Cwricwlwm Cymru a deunyddiau cysylltiedig.

Cyllid datblygu gwledig

29 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i drosglwyddo 15% o gyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin o’r Cynllun Taliad Sylfaenol i ariannu datblygu gwledig.

Cynllun cyflawni iechyd meddwl

29 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, Cynllun Cyflawni 2019-2022’ Llywodraeth Cymru.

Grant Atal Digartrefedd

28 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dyraniadau dangosol ar gyfer 2020 i 2021 o dan y Grant Atal Digartrefedd.

Cymorth busnes

28 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i roi cymorth o Gronfa Dyfodol yr Economi i gwmni gweithgynhyrchu o Sir Gaerfyrddin.

Dyfodol Byd-eang

27 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ‘Cynllun Dyfodol Byd-eang’ newydd ym mis Ebrill 2020 sy’n ymwneud â chyfnod dwy flynedd tan fis Mawrth 2022 a pharhad y grŵp llywio Dyfodol Byd-eang.

Cyfradd Ardollau Cig Coch Cymru

27 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i 1) cynnal lefel bresennol cyfradd ardollau Cig Coch Cymru ar gyfer 2020 i 2021 a 2) cynnal lefel bresennol costau adennill ardollau Cig Coch Cymru mewn lladd-dai/marchnadoedd arwerthiant ar gyfer 2020 i 2021.

Estyniad cyllid ar gyfer prosiectau undeb credyd

27 Ionawr 2020

Cytunodd y Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar estyniad ‘mewn egwyddor’ ar gyfer y cyllid a roddwyd i undebau credyd am flwyddyn arall.

Cyllid ar gyfer prosiect seibrgadernid Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a’r her ‘Cyber Matrix’.

27 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gweithdai seibrgadernid ar gyfer Fforymau Lleol Cymru Gydnerth ac arian ar gyfer Tarian i sicrhau lleoliad ar gyfer yr her ‘Cyber Matrix’.

Entrepreneuriaeth a Thaliad Cyflawni

27 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar y taliadau sy’n ddyledus i unigolion a sefydliadau dan drefniadau presennol y rhaglen ar gyfer Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu

27 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar ‘Gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu yng Nghymru 2020 i 2021 – Canllawiau’, y llythyr derbyn grant a’r llythyr cynnig grant, gan gynnwys y telerau ac amodau.

Cyllid ar gyfer Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

24 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar gyfer 2019 i 2020.

Cymorth ar gyfer partneriaethau sgiliau rhanbarthol

24 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gymorth parhaus ar gyfer y tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol drwy ddyfarniad grant ac ymrwymiad o gyllid yn 2020 i 2021.

Cyllideb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

24 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y gyllideb arfaethedig ar gyfer swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfer 2020 i 2021, ac i’w gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddechrau 2020.

Setliad yr heddlu

23 Ionawr 2020

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo setliad terfynol yr heddlu ar gyfer 2020 i 2021.

Arian i Techniquest

23 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cais gan Techniquest am arian ychwanegol.

Clefyd coed ynn

22 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer delio â phob coeden beryglus ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd ar gyfer blwyddyn ariannol 2019 i 2020.

Prosiectau a gyllidir gan y Rhaglen Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg

21 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo newidiadau i ddyraniadau cyllid ar gyfer prosiectau newydd a phrosiectau presennol a gyllidir gan y Rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg.

Gwasanaethau gofal Iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc

21 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo ‘Canllawiau ar reoli, trosglwyddo ac atebolrwydd gwasanaethau gofal Iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc wrth iddynt drosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion’ at ddiben ymgynghori.

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

21 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo fframwaith monitro ac adrodd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Cyllid i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

21 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gweithgareddau’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yng Nghymru ar gyfer 2019 hyd 2020.

Yr Adolygiad o Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer Oedolion yng Nghymru

21 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer costau cyfieithu’r adroddiad ar yr ‘Adolygiad o Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer oedolion yng Nghymru’.

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

21 Ionawr 2020

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid i brynu llwybryddion ar gyfer rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Dyraniadau cyllid ar gyfer y Byrddau Iechyd

20 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniadau’r Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2020 i 2021.

Cymorth busnes

20 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Cymorth ar gyfer dysgwyr ag anghenion mawr

20 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r dyraniad cyllid i Goleg Henffordd a Llwydlo er mwyn rhoi cymorth dysgu ychwanegol  i ddysgwyr o Gymru sydd ag anghenion mawr.

Gwasanaethau llyfrgell

20 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi rhoi cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi’r adroddiadau addasu a’r llythyrau adborth i bob awdurdod lleol ynglŷn â pherfformiad eu gwasanaethau llyfrgell yn ystod y flwyddyn 2018 i 2019, a hefyd ar gyfer estyn chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cymru, yr un cyfredol, ‘Llyfrgelloedd Cysylltiedig ac Uchelgeisiol’, am flwyddyn arall.  

Cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol

20 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y dyraniad cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer  2020 i 2021.

Trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat

17 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen a fydd yn ystyried diweddaru system Cymru ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Papur tystiolaeth y Pwyllgor Cyllid

17 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo’r papur tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i effaith amrywiadau mewn treth incwm cenedlaethol ac is-genedlaethol.

Cymorth i fusnes

17 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Cymorth i fusnes

17 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer busnes yn Sir Benfro.

Cymorth i fusnes

17 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer OGM (SW) yng Nghaerffili.

Cymorth i fusnes

17 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid gan Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer busnes gweithgynhyrchu yng Nghaerffili.

Swyddi o fewn y tîm Iechyd a thai

17 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2020 hyd 2021 er mwyn ariannu parhad 3 swydd o fewn y tim Iechyd a thai hyd fis Mawrth 2021. 

Prynu tir

17 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Seilwaith wedi cymeradwyo camau i brynu tir cyflogaeth ym Mhowys.

Penodiadau i Fwrdd Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

17 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ailbenodi Rachel Hughes a Carys Howell yn Ymddiriedolwyr ar Fwrdd Amgueddfa Cymru – National Museum Wales am dymor o dair blynedd arall o 1 Ionawr 2020 hyd 31 Rhagfyr 2022, ac i benodi Richard Pickett yn Ymddiriedolwr o 1 Ionawr 2020 hyd 31 Rhagfyr 2023.

Cynllun cyflenwi Pwysau Iach: Cymru Iach

17 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r manylion cyllid er mwyn cyllido’r camau a gynhwysir yng nghynllun cyflenwi 2020 hyd 2022.

Prosiect arddangos Aráe Lanw Gogledd Ynys Môn

17 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyfraniad at gostau prosiect uwch fel bod modd cwblhau camau cydsyniad a datblygiad Morlais prosiect Arddangos Aráe Lanw arfordir gogledd Ynys Môn.

Cyllid ar gyfer Age Cymru

16 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid grant ar gyfer Age Cymru, a hynny er mwyn cefnogi Age Alliance Wales a grwpiau cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn.

Rhaglen Sêr Cymru

16 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer cam nesaf rhaglen Sêr Cymru.

Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref

16 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Preswyl Mawr) (Hysbysu) (Cymru) 2020 a’r canllawiau ategol.

Recriwtio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

16 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r ymgyrch recriwtio ar gyfer Aelod Annibynnol (Cymunedol) i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cynllun deuoli’r A465

16 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer cynllun Adran 5 a 6 yr A465, Dowlais i Hirwaun.

Adolygiad o derfynau cymunedau yn Sir Fynwy

15 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r argymhellion a gynhwysir yn adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar adolygiad o ffiniau cymunedau yn Sir Fynwy.

Dyraniadau Grant y Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

15 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r  Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu 32 o brosiectau drwy Grant y Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy rhwng 2020 a 2023.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

15 Ionawr 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ann Murphy fel Aelod Annibynnol Undebau Llafur i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddwy flynedd.

Gwaredu tanc tannwydd awyrennau

15 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i drosglwyddo cerbyd tannwydd awyrennau i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Pont Dyfi newydd

15 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno I wneud Gorchmynion ar gyfer pont Dyfi newydd ar yr A487.

Gwerthu tir

15 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir yn Llanion Hill, Sir Benfro.

Cymorth i ddarpariaeth addysg yn y sector nas cynhelir

15 Ionawr 2020

Mae'r Gweinidog dros Addysg wedi cytuno cyllid grant i gefnogi’r ddarpariaeth addysg yn y sector nas cynhelir ar gyfer 2020 a 2021.

Ymarfer penodi tri chyfarwyddwr anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

13 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu ar gyfer penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (Awdurdod Lleol), Cyfarwyddwr Anweithredol (Prifysgol) a Chyfarwyddwr Anweithredol (Iechyd y Cyhoedd). 

Cyngor ar gyfer cefnogi’r sector hedfan yng Nghymru

13 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid i gomisiynu cyngor cyfreithiol a thechnegol arbenigol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r sector a pholisïau hedfan yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd ariannol 2019-2020 a 2020-2021.

Gwaredu tir

10 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y gellir gwaredu tir ym Maglan.

Ceisiadau i’r cynllun Tir ar gyfer Tai

10 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r ceisiadau benthyca ar gyfer y cynllun Tir ar gyfer Tai yn 2019 i 2020.

Rhaglen cyllid cyfalaf cynnal a chadw ar gyfer ysgolion a cholegau

10 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r rhaglen cyllid cyfalaf cynnal a chadw ar gyfer ysgolion a cholegau.

Y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

10 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo diweddaru’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. 

Polisi Adnoddau Naturiol 

10 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i’r canlynol: cyhoeddi adroddiad ciplun y Polisi Adnoddau Naturiol ym mis Ionawr 2020; dull gweithredu amlinellol ar gyfer gwerthuso’r Polisi Cyfoeth Naturiol; caffael adolygiad o arferion gorau i lywio cynlluniau cyflawni’r dyfodol a chynigion ar gyfer cymuned ymarfer, gan gynnwys ymchwilio i’r posibilrwydd o wefan ategol.

Y Cynllun Cyflawni ar gyfer Tirweddau a Hamdden Awyr Agored

9 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddrafft o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Tirweddau a Hamdden Awyr Agored, 2020 i 2021, ynghyd â’r dyraniadau cyllid amlinellol.

Cyfnod Allweddol 4

9 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r newidiadau i’r wybodaeth am gyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 a gyhoeddir ar ‘Fy Ysgol Leol’.

Cymorth ychwanegol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd

9 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi dyraniad o £200,000 ar gyfer 2019 i 2020 i’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru i helpu i gynnal mwy o hyfforddiant a threfniadau paratoi ar gyfer porthladdoedd a busnesau.

Cymorth ar gyfer Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus

8 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y pecyn cymorth ar gyfer Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus yn 2020 i 2021 a chostau cysylltiedig.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

8 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Dr Rhian Thomas fel yr Aelod Annibynnol (Cyfalaf ac Ystadau) am 2 flynedd o 17 Rhagfyr 2019 tan 16 Rhagfyr 2021.

Pŵer yn Celtic Lakes

8 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo ymgynghorydd i gynnal astudiaeth ddichonoldeb.

Cymru Iach ar Waith

8 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddewisiadau cyllid i’r dyfodol i ‘Cymru Iach ar Waith’ gefnogi datblygiad a gweithrediad model darparu newydd a dyraniad model darparu newydd a dyraniad tanwariant ar y gwaith hwn yn 2019 i 2020.  

Gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru

8 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y bydd y contract ar gyfer y gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru yn cael ei ymestyn am 24 mis arall, ac y bydd yn edrych ar y potensial i gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd eraill yng nghylch gwaith y gwasanaeth.

Cymeradwyo benthyciad ar gyfer y Drenewydd a Llanllwchaiarn

8 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo benthyciad i Gyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaiarn ar gyfer creu parc cyrchfan chwarae.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

8 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Cymorth ar gyfer Neuadd Albert, Abertawe

8 Ionawr 2020

Mae’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dyraniad o gymorth grant dan y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, ar gyfer Neuadd Albert, Abertawe.

Prosiect peilot Cronfa Dyfodol yr Economi

7 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant o £150,000 ar gyfer prosiect peilot o fewn Cronfa Dyfodol yr Economi.

Camau i fynd i’r afael â chysgu allan y gaeaf hwn

7 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer mynd i’r afael â chysgu allan y gaeaf hwn.

Grant Cymorth Tai

7 Ionawr 2020

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno’r dyraniadau dangosol o gyllid ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn 2020 i 2021.

Ymestyn contractau Busnes Cymru

7 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ymestyn contractau cyflawni craidd a chyflymu twf presennol Busnes Cymru hyd at 30 Medi 2021.

Gwaredu tir

7 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i waredu tir ar gyfer cyfleuster rheoli nwy yn Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cymelliadau Addysg Gychwynnol i Athrawon

7 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo parhau â’r cynllun cymelliadau ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn y flwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Adolygiad o raglen yr Ardaloedd Menter

7 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y gall swyddogion fwrw ymlaen â’r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad o’r rhaglen Ardaloedd Menter.

Cyllid i gefnogi’r sector bwyd a diod

6 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar £795,000 o gyllid i gyflawni rhaglen arfaethedig o ymweliadau masnach tramor ac arddangosfeydd bwyd a diod rhyngwladol yn 2020 i 2021.

Trefniadau cyllido i ddilyn y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant

6 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar drefniadau cyllido ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i 2021 ar ôl i’r Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant presennol ddod i ben.

Trosglwyddo cyllid

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol,  y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i drosglwyddo cyllid cyfalaf o Cartrefi a Lleoedd  i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymarfer arfaethedig yr ail gyllideb atodol 2019 i 2020.

Cyllid ar gyfer Rhwydwaith Trawma Mawr yn y de a’r canolbarth

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad o £1.28 Miliwn o gyllid mewn blwyddyn i gefnogi costau gweithredu datblygu Rhwydwaith Trawma Mawr ar gyfer y de, y gorllewin a de Powys.

Cyllid craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £106.323 Miliwn o gyllid ar gyfer gwaelodlin Iechyd Cyhoeddus Cymru 2020 i 2021.

Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru

6 Ionawr 2020

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnal a datblygu Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru 2020 i 2024.

Dyrannu adnoddau’r GIG

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i fabwysiadu fformiwla seiliedig ar anghenion i ddyrannu adnoddau’r GIG er mwyn rhoi cyllid i Fyrddau Iechyd Lleol, a chyllid ychwanegol o £10 Miliwn i Fyrddau Iechyd Hywel Dda a Phrifysgol Bae Abertawe.

Cymorth ar gyfer prosiect twristiaeth

6 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect twristiaeth yng Ngheredigion.

Cyllid grant y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar drefniadau cyllid grant o fewn cyllideb y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021. Mae’r gwaith wedi cael ei ddatblygu a bydd yn symud ymlaen yng nghyd-destun ein Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru.

Ymgynghoriad ar atal arolygon Estyn yn rhannol

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad.

Cyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

6 Ionawr 2020

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniad cyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a  thrais rhywiol 2020 i 2021.

Setliad rhent tai cymdeithasol

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar setliad rhent tai cymdeithasol 5 mlynedd Cymru rhwng 2020 a 2021.

Cynllun peilot Prydlesu y Sector Rhentu Preifat

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ariannu gwerthusiad o Gynllun braenaru Prydlesu y Sector Rhentu Preifat.

Ymgynghoriad rheoliadau adeiladu

6 Ionawr 2020

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar bapurau ymgynghori ar gyfer cynigion rhan L (Arbed Tanwydd ac Ynni) ac F (Awyru) y Rheoliadau Adeiladu mewn perthynas ag anheddau newydd.