Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

I chwilio drwy ein hadroddiadau penderfyniad, defnyddiwch Ctrl + F.

Cefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni’n effeithiol yn 2019-20

20 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar fanylion y cymorth a’r cyllid a fydd yn cael eu rhoi i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod 2019-20.

Adolygiad o Harbwr Caerdydd a Chyllid ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019-20

20 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi ystyried a chytuno y gall swyddogion Llywodraeth Cymru ymgysylltu â Phartneriaethau Lleol i gynnal adolygiad o’r trefniadau cyllido presennol ar gyfer rôl Awdurdod Harbwr Caerdydd yn y gwaith o reoli Morglawdd Bae Caerdydd, y llyn mewndirol a’r harbwr allanol, ac maent wedi cytuno hefyd ar uchafswm o ran cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-2020.

Cynigion ar gyfer y Gronfa Trawsnewid

20 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gymeradwyo dyrannu hyd at £2,320,000 o’r Gronfa Trawsnewid i gefnogi’r cynnig Law yn Llaw at Iechyd Meddwl gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, a hefyd cymeradwyo dyrannu hyd at £5,920,840 o’r Gronfa Trawsnewid i gefnogi’r cynnig Western Bay: Our Neighbourhood Approach gan ABMU/Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

Cyllid i gefnogi gweithredu ar y 3 blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr

20 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid o £1.095m i gefnogi gweithredu ar y tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr ar gyfer 2019-20.

Treialu un gyfradd gyllid ar gyfer elfennau addysg a gofal plant y cynnig gofal plant

20 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido peilot un gyfradd ar gyfer elfennau addysg a gofal plant y cynnig gofal plant.

Gwerthu tir datblygu

20 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Busnes Parc Felindre, Abertawe.

Cyllid o’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan

20 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau a gyflwynwyd o dan Gronfa Busnesau Micro a Bychan 2017/2020.

Ymateb y DU i lythyr y Comisiwn Ewropeaidd sy’n nodi ei Farn Resymedig

20 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymateb y DU i Farn Resymedig y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch peidio â chydymffurfio â Rheoliadau Marchnata Pysgodfeydd Ewrop o ran cydnabod Cymdeithasau Cynhyrchwyr Pysgod yn y DU.

Gwerthu ased

20 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu 1 Ased Trafnidiaeth.

Ymestyn cyllid ar gyfer y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai

20 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i barhau i fuddsoddi yn y rhaglen dystiolaeth ar gyflwr tai am ddwy flynedd arall.

Dyraniad Cyllid Craidd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20

19 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cyllid craidd ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20.

Cyllid ar gyfer Gwaith Dadansoddi ac Adrodd ar sail Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017 yng Nghymru

19 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo £26,931 ar gyfer gwaith dadansoddi ac adrodd ar sail Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017.

Cyllid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2019-20

19 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2019-20 i gefnogi’r gwaith o weithredu Cynllun 10 Mlynedd Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar.

Cymal 2 Prosiect Mae Gofal Plant yn Gweithio

19 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd er mwyn cynnal Cymal 2 o’r prosiect cyflogaeth â chymorth Mae Gofal Plant yn Gweithio rhwng Tachwedd 2018 a Hydref 2020.

Iaith Arwyddion Prydain

19 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo adolygiad o ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain i oedolion yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer Digwyddiadau Busnes-i-Fusnes 2019-2021

19 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid dros ddwy flwyddyn ariannol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno digwyddiadau Busnes-i-Fusnes i gefnogi blaenoriaethau strategol.

Ailbenodi aelod bwrdd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cynnig i ailbenodi’r Athro Mark Smith i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Rhaglen Blaenoriaethau o ran Sgiliau

17 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cynnig i estyn y Rhaglen Blaenoriaethau o ran Sgiliau hyd ddiwedd mis Awst 2019.

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo llythyr cylch gorchwyl Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Paratoi at y Gaeaf a Chartrefi Cynnes

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i gyllido cynllun peilot, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019, ar gyfer atgyweirio boeleri gwres canolog mewn cartrefi bregus drwy gyflwyno cais i’r Gronfa Cymorth Disgresiynol, fel rhan o waith Llywodraeth Cymru i baratoi at Aeaf 2018/19.

Diwygio cymal defnyddiwr ar lain o dir ym Mharc Cybi, Caergybi

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cynnig I ddiwygio cymal defnyddiwr ar lain o dir ym Mharc Cybi, Caergybi.

Parhau gyda terfynau cyflymder drwy orchymyn rheoliadau traffig i helpu i ostwng lefelau NO2

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo parhad y terfynau cyflymder 50 mya a fwriadwyd i sicrhau cydymffurio â gwerthoedd  terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) a osodwyd gan Gyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd (2008/50/EC) a Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 mewn pum lleoliad ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru (A494 Glannau Dyfrdwy, A483 Wrecsam, A470 Pontypridd, Cyffordd 25 i 26 yr M4 a Chyffordd 41 i 42 yr M4) ble y mae’r modelu diweddaraf ar gyfer ansawdd yr aer yn dangos eu bod dros y lefelau hyn ar hyn o bryd.

Dyrannu £2.3miliwn o’r gyllideb ganlyniadaol ar gyfer Cymorth Mabwysiadu

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyraniad o £2.3 miliwn o gyllideb ganlyniadol ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu.

Codiad Blynyddol – Polisi ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol – 2019-2020

17 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar godiad rhent am flwyddyn (2019-20) a’r uchafswm y gall landlord cymdeithasol ei godi o ran rhent wythnosol tenant unigol yw 2.4% (Medi 2018 CPI).  Yr unig eithriad yw pan fo rhent wythnosol landlord cymdeithasol yn is ar gyfartaledd na’r Band Rhent Targed, a’r cynnydd mwyaf a ganiateir ar gyfer rhent wythnosol tenant unigol yw 2.4% a £2 yn ychwanegol.

Refeniw Terfynol Llywodraeth Leol a Setliad Cyfalaf ar gyfer 2019-20

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i gymeradwyo Setliad olaf Llywodraeth Leol ar gyfer 2019-20.

Grant Craidd Sustrans Cymru 2019-20

17 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo mewn egwyddor y cyllid grant craidd ar gyfer Sustrans Cymru yn 2019/20.

Dosbarthu £7.5 miliwn o gyllid ychwanegol i Awdurdodau Lleol

17 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddosbarthu cyllid  ychwanegol i helpu awdurdodau lleol ymdopi â’r pwysau sy’n gysylltiedig â gweithredu dyfraniad cyflog athrawon.

Ehangu y ddarpariaeth Cydweithio ledled Cymru

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ehangu y ddarpariaeth cydweithio ledled Cymru gan ddefnyddio lleoliadau ychwanegol yng nghanol trefi.

Cefnogi Mentrau Cymdeithasol – Cyllid Grant Craidd y Dyfodol – Ebrill 2019 – Mawrth 2020

17 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo parhad y cyllid craidd o ran cefnogi y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Gwella Adeilad y Maes Awyr ar Ynys Môn

17 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid i uwchraddio Adeilad y Maes Awyr ar Ynys Môn fel bod awyrennau mwy yn gallu ei ddefnyddio.

Rhan 2 yr A465, Brynmawr i Gilwern – Cau y ffyrdd ar benwythnosau Ionawr – Mehefin 2019

17 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cau ffyrdd ar benwythnosau ar ran 2 yr A465 o fis Ionawr i Fehefin 2019.

Ymestyn y trefniant gyda Datblygu Sgiliau yr Alban ar gyfer 2019/20 i gynnal y Rhaglen Safonau a Fframweithiau

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ddyrannu £300,000 tuag at ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n flaenoriaeth a Sgiliau Datblygu yr Alban i gynnal y broses o reoli, cyflenwi a chydlynnu yr NOS a chomisiynu fframweithiau prentisiaethau sy’n flaenoriaeth newydd, a diwygio’r rhai cyfredol yn ystod 2019/20.

Cynrychiolydd Cymru ar Fwrdd Visit Britain

17 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant Chwaraeon a Thwrisitaeth wedi cytuno i benodi Ian Edwards fel cynrychiolydd Cymru ar Fwrdd Visit Britain am gyfnod o 3 blynedd, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2019 tan 31 Rhagfyr 2021.

Cyllid Cyfalaf ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd Cyhoeddus Llywodraeth Leol

17 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi ystyried a chytuno ar gyhoeddi y gyllideb ddrafft (ar yr amod bod y Cynulliad yn cymeradwyo’r gyllideb) o gyllid cyfalaf cyffredinol i awdurdodau lleol dros dair blynedd (2018-19, 2019-20 a 2020-21), i gefnogi rhaglen adnewyddu priffyrdd llywodraeth leol.

Galw penderfyniad i mewn  – Datblygiad preswyl yn Monmouth Rd, Raglan

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i alw i mewn Cais Cynllunio DM/2018/01050 o ran datblygiad preswyl hyd at 111 o anheddau ar dir oddi ar Monmouth Road, Rhaglan, Sir Fynwy.

Galw penderfyniad i mewn – Gorsaf bwer Wylfa Newydd

17 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i adolygu Cais Cynllunio 38C310F/EIA/ECON sy’n ceisio cael caniatád cynllunio ar gyfer gwaith paratoi safle a chlirio ar gyfer datblygu gorsaf bwer Wylfa Newydd, Ynys Môn.

Terfynu trwydded a rhoi tenantiaeth i adeilad ym Merthyr

17 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo terfynu trwydded a rhoi tenantiaeth i adeilad ym Merthyr.

Cynllun  Cyflenwi Eiddo

17 Rhagfyr 2018

Gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gymeradwyo cyflenwi seilwaith eiddo.

Swyddi Cydgysylltydd Rhanbarthol Diogelwch ar y Ffyrdd a Dadansoddwr Data

13 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid i recriwtio a phenodi Cydgysylltydd Rhanbarthol a Cydgysylltydd Data i helpu i weithredu a chyrraedd targedau y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd.

Codi Cyflogau Gofal Cymdeithasol Cymru

13 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gynnyddu holl raddfeydd cyflogau Gofal Cymdeithasol Cymru 2%, wedi’i ddyddio yn ôl i Ebrill 2018.

Dyrannu cyllid ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Man Casglu Tollau yr M4

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar astudiaethau ymarferoldeb defnydd tir i’w cynnal ar Fan Casglu Tollau yr M4.

Cyllideb y Gangen Cysylltu â Ieuenctid 2019-20

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo dyraniadau a gweithgarwch o fewn cyllideb y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid.

Safleoedd Llyfni – newid yn nhelerau dyfranu cyllid

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i’r newidiadau yn nhelerau’r dyfarniad o roi benthyciad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyllid ar gyfer mesuriadau Bathymetrig

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros  Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i Gyngor Bro Morgannwg, ble y mae Canolfan Fonitro Arfordir Cymru i gynnal mesuriadau bathymetrig  o arfordir gogledd Cymru.

Cyllid cyfalaf ar gyfer cyflwyno system Rheoli Fferylliaeth a Meddygyniaethau Cymru

13 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar yr achos busnes amlinellol i gyflwyno System Rheoli Fferylliaeth a Meddygyniaethau Cymru i ddisodli’r system gyfredol sydd wedi dyddio.  Bydd achos busnes llawn bellach yn cael ei ddatblygu.

Polisi Olew Palmwydd

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros  yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar ddull graddol o sefydlu polisi ar olew palmwydd.

Gwobrau Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Tachwedd 2018

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i drosglwyddo cyllid o’r Cyllid Cyfalaf Adfywio i Gyllideb Cyfalaf y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, gan gynnwys dyfarnu a’r amrywiol grantiau o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

Datganiad ar Gynllunio Gofal Uwch

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyflwyno datganiad ysgrifenedig i roi’r newyddion diweddaraf i ASau ar Gynllunio Gofal Uwch.

Dyraniadau y Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

13 Rhagfyr 2018
 
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniadau i’r byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20.

Gwobrau Rhagoriaeth Glinigol 2018

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Wobrau Rhagoriaeth Glinigol 2018.  Bydd gwobrau newydd 2019 yn dechrau yn y gwanwyn.

Grantiau gweinyddu gofal plant i awdurdodau lleol

13 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar grantiau gweinyddu gofal plant i awdurdodau lleol yn 2019-20.

Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cysylltu â Phlant yng Nghymru

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt Plant yng Nghymru 2019-20.

Prosiectau Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio

13 Rhagfyr 2018
 
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i gefnogi dau gais o’r Gronfa Datblygu TRI a dau gais ar gyfer y Prosiect Strategol a gyflwynwyd gan ranbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Benthyciad Maes Awyr Caerdydd

13 Rhagfyr 2018

Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a’r Economi a Thrafnidiaeth wedi cymerdwyo tynnu benthyciad Maes Awyr Caerdydd i lawr yn gynnar.

Cynigion ar gyfer defnyddio cyllid chwarae yn 2018-19

11 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gynigion i ddefnyddio cyllid chwarae yn 2018-19.

Cymru’n Gweithio

11 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidog  y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyngor yn gysylltiedig â dechrau cyflenwi’r cynllun Cymru’n Gweithio

Crynodeb o Ymatebion i’r Ymgynghoriad ar y cynigion i ail-strwythuro y broses o gyflenwi a chyllido Dysgu Oedolion yng Nghymru

11 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyhoeddi’r crynodeb o ymatebion i’r ddogfen ymgynghori ynghylch cynigion i ailstrwythuro y broses o gyflenwi a chyllido dysgu oedolion yng Nghymru.

Cyllid i gefnogi gweithgareddau archwilio gofal plant a chwarae Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2018-19 a 2019-20

11 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gweithgareddau archwilio gofal plant a chwarae Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2018-19 a 2019-20.

Gwasanaethau cerddoriaeth

11 Rhagfyr 2018

Cymeradwyodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y dyraniad cyllid ar gyfer cefnogi gwasanaethau cerddoriaeth yn 2018-19.

Penwythnos triathlon cwrs hir Dinbych-y-pysgod

11 Rhagfyr 2018

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid o hyd at £150,000 (£50,000 y flwyddyn ar gyfer cynnal y digwyddiad 3 gwaith – yn 2019, 2020 a 2021) i gefnogi’r gwaith o farchnad a chynnal Penwythnos Treiathlon Cwrs Hir yn Ninbych-y-pysgod.

Cystadleuaeth Golff Agored Prydain i Fenywod

11 Rhagfyr 2018

Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid i hyrwyddo, marchnata a chynnal Cystadleuaeth Golff Agored Prydain i Fenywod yng Nghlwb Golff Royal Porthcawl yn 2021.

Diagnosis, triniaeth a gofal i bobl mewn cyflwr diymateb parhaus neu gyflwr lled-anymwybodol

11 Rhagfyr 2018

Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi’r diweddaraf i ACau am y diagnosis, triniaeth a gofal i bobl mewn cyflwr diymateb parhaus neu gyflwr lled-anymwybodol.

Grantiau iaith Gymraeg

11 Rhagfyr 2018

Cymeradwyodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y cyngor mewn perthynas â dyrannu grantiau i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar gyfer y cyfnod 2019-20.

Comisiynu Addysg i’r Gweithlu Iechyd Proffesiynol Anfeddygol ar gyfer 2019/20

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar niferoedd comisiynu craidd y gweithlu anfeddygol ar gyfer 2019/20.

Cyllid Cyfalaf Dechrau’n Deg

10 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet  dros Addysg wedi cymeradwyo cais am gyllid ychwanegol ar gyfer lleoliad Dechrau’n Deg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Neilltuo cyllid ar gyfer y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog  Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i roi grant i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol fel cyfraniad i’w Gronfa Effaith ar Dreftadaeth.

Grantiau Trafnidiaeth 2019-20 – y Broses Ymgeisio

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r broses ymgeisio ar gyfer grantiau’r  Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Teithio Llesol, a Grantiau Diogelwch ar y Ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2019-20.  

Ysgolion yr 21ain ganrif – achosion busnes - Tachwedd 2018

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo nifer o achosion busnes a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi ar gyfer cael cyllid. 

Cyflwyno’r Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg

10 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog  Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i roi £44,856 i Gyngor Sir Casnewydd, fel yr awdurdod cyflawni ar gyfer Bro Morgannwg.

Maes Parcio Energybuild, Parc Busnes Glyn-nedd

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y gall swyddogion ddechrau trafod  rhoi cytundeb lesio ar c.08 erw o dir ar Barc Busnes Glyn-nedd.

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn: Diwygio’r Fethodoleg Ddyrannu

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog  y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo dogfen ymgynghori sy’n rhoi’r manylion ynghylch diwygio’r fethodoleg ddyrannu a ddefnyddir ar gyfer y Gronfa Ariannol Wrth Gefn.

Ceisio cytundeb i ymestyn y cydweithio ar bolisi sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ymestyn y cydweithio ar bolisi sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i helpu i ddatblygu’r gyfarwyddiaeth addysg fel Sefydliad Dysgu, er mwyn comisiynu adroddiad dilynol i asesu polisi ac i gyd-hwyluso a chynnal adnodd hunanasesu.

Cymeradwyo cyllid ychwanegol i gefnogi tâl yn y Sector Addysg Bellach

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog  y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r cyllid ychwanegol i gefnogi tâl yn y sector Addysg Bellach.

Penodi aelod o’r Comisiwn ar Newid Hinsawdd

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo penodiad yr Athro Piers Forster yn aelod newydd o’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.

Cyllid ar gyfer cyfreithiwr ychwanegol yn y Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol Addysg (Ysgolion) a’r Gymraeg

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ariannu cyfreithiwr ychwanegol i helpu i roi’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith.

Cymorth ariannol i Awdurdodau Lleol i gefnogi  plant digwmni sy’n geiswyr lloches

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gymorth ariannol i awdurdodau lleol i gefnogi plant digwmni sy’n geiswyr lloches.

Cais gan Gyngor Tref Rhuthun am gymeradwyaeth i fenthyca

10 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanathau Cyhoeddus wedi cytuno i gymeradwyo’r cais benthyca gan Gyngor Tref Rhuthun ar gyfer 2018-19.

Ail-benodi Aelod Cyswllt (Cadeirydd, Grwp Cyfeirio Rhanddeiliaid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

6 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Clare Llewellyn yn Aelod Cyswllt o’r bwrdd am flwyddyn arall.

Ail-benodi Aelod Cyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru

6 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Kate Eden yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am bedair blynedd o 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2023.

Datblygu Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan

6 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet  dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo creu Cynllun 2 o dan y fenter a sefydlwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd. 

Canlyniadau Gwerthuso’r Map Rhwydwaith Integredig

6 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r Mapiau Rhwydwaith Integredig ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Sir Ynys Môn. Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cafodd y Map Llwybrau Presennol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei gymeradwyo hefyd.

Rhagair Gweinidogol i Asesiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus 2018

6 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i ddarparu rhagair i adroddiad Cadwch Gymru’n Daclus ‘Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i Gymru, Ein heffaith yn 2018’.

Rhoi cyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Comisiynu Cymorth i’r Ymgyrch Newid Ymddygiad

5 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi cytuno i roi £60,000 (gan gynnwys TAW) i CLlLC ar gyfer comisiynu cymorth i Awdurdodau Lleol fel rhan o’r Rhaglen Newid Ymddygiad.

Dyrannu Grantiau Gwella ar gyfer 2019-20

5 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid Llywodraeth Cymru yn 2019-20 ar gyfer gwella cyfleusterau gofal sylfaenol ar draws Cymru. Mae’r cyllid hwn yn amodol ar gyflwyno’r cynigion i Lywodraeth Cymru eu hadolygu a’u cymeradwyo.

Amrywio Llwybrau Pellter Hir

5 Rhagfyr 2018

Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i  ffordd Trywydd Cenedlaethol Llwybr Glyndwr .

Y Broses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

5 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosb drawsgydymffurfio o 1% mewn perthynas â chynlluniau sydd wedi eu hawlio yn 2016. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i roi gwybod iddo am ei phenderfyniad.

Y Broses Apelio Annibynnol

5 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo argymhelliad y  Panel Apelio Annibynnol  i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2017. Mae ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i roi gwybod iddo am ei phenderfyniad.

Y Broses Apelio Annibynnol

5 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo argymhelliad y  Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosb am orddatgan mewn perthynas â hawliad o dan Gynllun y Taliad Sengl 2014. Mae ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i roi gwybod iddo am ei phenderfyniad.

Cymryd rhan yn yr Atlantic Rim Collaboratory

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno y bydd Cymru yn cynnal uwchgynhadledd yr Atlantic Rim Collaboratory sydd wedi’i chynllunio ar gyfer hydref 2019.

Dyfarnu Grant Mynediad i Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf – Cam 3

4 Rhagfyr 2018

Mae Arweinydd y Ty a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo dyfarniad y grant ar gyfer Lot 2 o Gam 3 o’r broses gyflwyno band eang cyflym i’r cynigydd llwyddiannus, sef British Telecommunications (BT) PLC.

Plot C4, Parc Pensarn, Sir Gaerfyrddin

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu’r tir.

Gwerthu Tir, Resolfen

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir yn Resolfen.

Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018-19 – dyraniadau chwanegol

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddyraniadau ychwanegol ar gyfer y Gronfa Trafnidiaeth Leol yn 2018-19. 

Cynllun Penodi ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

4 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo cynllun penodi ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Gwaredu tir gwag gyferbyn â Pharc Menter Mochdre, y Drenewydd, Powys

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cael gwared â thir yn y Drenewydd, Powys.

Cefnogaeth ar gyfer caledi i elusennau amaethyddol

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyfarnu £240,000 i’r Sefydliad Brenhinol dros Les Amaethyddol, £60,000 i’r Rhwydwaith Cymunedol ar unwaith, ac wedi cytuno i fwrw ati i gyllido Cronfa Addington ar wahân.

Cynlluniau Gwario Refeniw MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-20

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol  wedi cymeradwyo cynlluniau gwariant refeniw ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2019-20.

MEIC – cynnig ar ôl 2019 

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i estyn y cytundeb MEIC i ProMo-Cymru am 12 mis ychwanegol.

Adborth gan Fwrdd Rheoli Strategol TrawsCymru, Hydref 2018

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi croesawu’r ffaith bod dau wasanaeth bws TrawsCymru newydd wedi’u cyflwyno ym Mhowys ac wedi cymeradwyo cyhoeddi Adroddiad Blynyddol TrawsCymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18.

Cyllid i CAFCASS Cymru

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar adnoddau i CAFCASS Cymru gyflawni ei ddyletswydd statudol.

Cymorth ymgynghori ar gyfer gwerthuso cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ymgynghorwyr i gefnogi gwerthusiad technegol o gynlluniau sy’n cael eu cyflwyno gan Awdurdodau Lleol am gyllid grant o dan y Rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo ceisiadau cyllid ar gyfer darpariaeth arbenigol mewn addysg ôl-16.

Adroddiadau ar Fesurau i fynd i’r afael â lefelau uwch na Gwerthoedd Targed yr UE ar gyfer Nicel a Benzo[a]Pyrene yn 2016.

4 Rhagfyr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi cyfraniad Llywodraeth Cymru at Adroddiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar gyfer nicel ac ar gyfer benzo[a]pyrene (B[a]P) ac i Defra ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae hefyd wedi cytuno i gyhoeddi adroddiadau cylchfaol Llywodraeth Cymru ynghylch Nicel a B[a]P ac i ac i Defra eu cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd. Defra.

Lleihau maint dosbarthiadau babanod – Cyllid Cyfalaf – Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot

29 Tachwedd 2018

Nae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf i leihau maint dosbarthiadau babanod ym Mlaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot.

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus – Datblygu Achos Busnes Amlinellol ac Adolygiad o’r Manteision

29 Tachwedd 2018

Mae Arweinydd y Ty a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gomisiynu dadansoddiad o’r manteision ac Achos Busnes Anlinellol ar gyfer Rhwydwaith Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Cymorth Grant 2019-20 y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru

29 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a THrafnidiaeth wedi cytuno mewn egwyddoor ar gyllid grant craidd i’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru ar gyfer 2019-20.

Prosiect Mapio Gweithgarwch yng Nghymru, Ardal y De-orllewin, gan Fforwm Arfordir Sir Benfro

29 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ariannu’n rhannol, drwy grant, Prosiect Mapio Gweithgarwch yng Nghymru, Ardal y De-orllewin, gan Fforwm Arfordir Sir Benfro.

Ailbenodi  Cyfarwyddwr Anweithredol yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

29 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Kevin Davies yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o 1 Ionawr 2019 hyd at 31 Rhagfyr 2022.

Ymarfer Diwydrwydd Dyladwy

29 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddull gweithredu a chostau cynnal ymarfer diwydrwydd dyladwy ariannol a chyfreithiol  oherwydd  y diwygiadau a ddisgwylir ym maes addysg, hyfforddiant ac ymchwil ôl-orfodol.

Y newyddion diweddaraf am raglen Rhentu i Brynu gan gynnwys opsiynau ar gyfer cynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan

29 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar y newidiadau polisi arfaethedig i gynllun presennol y rhaglen ‘Rhentu i Brynu – Cymru’ .

Dyfarniadau Cyllid Cyfalaf ar gyfer Effeithlonrwydd Adnoddau a Gwastraff

29 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i rannu’r gwariant cyfalaf ar gyfer Effeithlonrwydd Adnoddau a Gwastraff rhwng wyth o awdurdodau lleol ledled Cymru.

Ymestyn Cymorth Cyfreithiol ar gyfer cam nesaf Band Eang Cyflym Iawn

29 Tachwedd 2018

Mae Arweinydd y Ty a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer y rhaglen a fydd yn dilyn Cyflymu Cymru.

Gwyl y Gelli 2019

28 Tachwedd 2018

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar becyn cyllid i gefnogi darparu nifer o raglenni
addysgiadol ar gyfer ysgolion a phobl ifanc fel rhan o Wyl y Gelli 2019.

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Cymorth Cyllid ar gyfer y Grant Anghenion Addysgol Arbennig – 2018/19

28 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gymorth cyllid ar gyfer y grant anghenion addysgol arbennig ar gyfer 2018 – 19.

Cyllid i gefnogi’r Dull Cenedlaethol o fynd i’r afael ag Ysgolion Dysgu Proffesiynol fel Sefydliadau Dysgu a Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu ac Arweinyddiaeth

26 Tachwedd 20148

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo dyraniadau o’r gyllideb i gonsortia rhanbarthol, Sefydliadau Addysg Uwch ac ysgolion yn ystod 2018-2019. Bydd y cyllid yn cefnogi’r broses o weithredu’r Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol yn ehangach a’r dysgu a’r ymchwil proffesiynol mewn ysgolion sy’n canolbwyntio ar Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu ac Arweinyddiaeth.

Datganiad ysgrifenedig un llwybr canser

26 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar yr un llwybr canser.

Cyllid ar gyfer adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares

26 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo 85% o’r cyllid grant tuag at y gost o adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares i lehau’r risg o lifogydd i 28 o adeiladau.

Canolfannau Logisteg Heathrow

26 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar gyngor technegol ar gyfer Canolfannau Logisteg Heathrow.

Cyllid ar gyfer Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol – Hydref 2018

26 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i gymeradwyo deg o geisiadau yn yr haen o dan £250 mil a chymeradwyo saith cais yn yr haen o dan £25mil yn ogystal ag amrywio grantiau i bedwar sefydliad am gost net o £115,200 yn 2018-19 a gostyngiad net yn yr ymrwymiad o £126,200 yn 2019-20.

Gwaredu Asedau

26 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaredu un o’r Asedau Trafnidiaeth.

Recriwtio Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd ar gyfer Corff Annibynnol newydd Adolygu Cyflogau Cymru

26 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddefnyddio’r cwmni recriwtio arbenigol, Moloney Search, er mwyn penodi un cadeirydd a saith aelod ar gyfer Corff Annibynnol newydd Adolygu Cyflogau Cymru erbyn diwedd mis Chwefror 2019.

Adroddiad Thematig Estyn – Cyrsiau safon uwch mewn dosbarthiadau chweched a cholegau addysg bellach

22 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Thematig Estyn ar Gyrsiau safon uwch mewn dosbarthiadau chweched a cholegau addysg bellach.

Parcffordd Gorllewin Cymru

22 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo defnyddio Trafnidiaeth Cymru er mwyn comisiynu gwaith a fydd yn ystyried yr achos o blaid parcffordd newydd i wasanaethu Gorllewin Cymru.

Cyhoeddi Safonau Gwasanaethau  i Gyflawnwyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

22 Tachwedd 2018

Mae Arweinydd y Ty a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo trefniadau ar gyfer cyhoeddi Safonau Gwasanaethau i Gyflawnwyr VAWDASV gan Lywodraeth Cymru.

Cyllid ar gyfer Change Step

22 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynllun Mentora Cymheiriaid Change Step, a ddarperir gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr, am gyfnod o 3 mis o fis Ionawr 2019 hyd ddiwedd mis Mawrth 2019.

Prosiect Treialu Prentisiaethau Coedwigaeth i’w gyhoeddi

22 Tachwedd 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyngor ar gyfer dyrannu £350,000 i ddechrau Prosiect Treialu Prentisiaethau Coedwigaeth

Cyllid cyfalaf o £3 miliwn ar gyfer Cartrefi Dinas Casnewydd – trosglwyddo cyllideb

22 Tachwedd 2018

MaeYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi ystyried ac wedi cytuno i drosglwyddo arian rhwng cyllidebau sydd ei angen er mwyn hwyluso’r grant o £3 miliwn  mewn cyllid cyfalaf a gyhoeddwyd i Gartrefi Dinas Casnewydd er mwyn ailwneud y cladin ar dri o adeiladau uchel preswyl y sector cymdeithasol.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

22 Tachwedd 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros  Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo ceisiadau am gyllid ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16

Cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn y dyfodol

22 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar gyllid yn y dyfodol ar gyfer Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog  yng Nghymru yn 2019-20, a 2020-21.  Cytunwyd hefyd y byddai CLlLC yn gweinyddu’r gronfa ac yn trefnu costau cynnal pob swyddog.

Pwrpas yr Atlas Ynni a Camau Nesaf

22 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar y camau nesaf o ran datblygu Atlas Ynni trwy gaffael amrywiol setiau data i lywio asesiad strategol o adroddiadau bosibiliadau ynni a gwybodaeth ranbarthol a modelu lleol dilynol, gan gefnogi datblygiad strategaethau ynni lleol a  rhanbarthol a chefnogi cyflwyno setiau data yn gyhoeddus ble yn bosibl, gan ddefnyddio sianeli presennol Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol yn yr ymrwymiad i a’r cyflenwad o systemau ynni carbon isel.

Cyllid i ailddarparu Gwasanaethau Arbenigol i Adsefydlu Cleifion sy’n dioddef o anafiadau niwrolegol ac anafiadau i’r asgwrn cefn, a Gwasanaethau Gerontoleg Glinigol

21 Tachwedd 2018

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar yr achos busnes llawn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ailddarparu gwasanaethau arbenigol i adsefydlu cleifion sy’n dioddef o anafiadau niwrolegol ac anafiadau i’r asgwrn cefn, a  gwasanaethau gerontoleg glinigol. Bydd yn cael cymorth gwerth £30.880 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru rhwng 2018-19 a 2020-21.

Cynnig i dreialu prosiect Labordai Technegol Byd-eang MIT yng Nghymru

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo i deialu ar raddfa fach raglen Labordai Addysg Byd-eang Sefydliad Technoleg Massachusetts yng Nghymru ym mis Ionawr 2019.

Penderfyniad Cynllunio ar gyfer Datblygiad o Bwys Cenedlaethol – Fferm Solar ar Dir yng Ngwastadeddau Cil-y-coed

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi  cymeradwyo cais cynllunio ar gyfer fferm solar 49.9MW ar dir yng Ngwastadeddau Cil-y-coed sy’n Ddatblygiad o Bwys Cenedlaethol.

Parthau Gweithredu ar Delathrebu Symudol

21 Tachwedd 2018

Mae Arweinydd y Ty a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno parthau gweithredu ar delathrebu symudol yng Nghymru ac i ddatblygu achos busnes ar gyfer cyflwyno seilwaith telathrebu symudol a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo sawl cais sy’n ymwneud â rhaglenni astudio ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16.

Disgownt teithio ar fysiau i bobl ifanc yng Nghymru

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo estyn y terfyn oed uwch o 18 i 21 a fydd yn cynnig disgownt o draean i bobl ifanc deithio ar fysiau. Daw hyn i effaith ddiwedd mis Tachwedd/ddechrau mis Rhagfyr 2018. Maent hefyd wedi cymeradwyo gwaith i edrych ar y posibilrwydd o gynnig tocynnau rhad ac am ddim i wirfoddolwyr achrededig ar sail gyfyngedig ac ar sail cynllun peilot.

Ad-dalu benthyciad masnachol

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno bod modd ad-dalu benthyciad masnachol yn gynnar.

Diwygio’r Rheolau Sefydlog

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y diwygiad i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Pwyllgor y Gwasanaethau Ambiwlans Brys a Phwyllgor Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru.

Amserlen ddiwygiedig i ailgyfeiriadu Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru at Fframwaith Cymwysterau Ewrop

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas ag estyn contract y Pwynt Cydgysylltu Cenedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yr UE ar gyfer 2019/20.

Partneriaeth Iaith Gogledd Cymru

21 Tachwedd 2018

Ar ôl ystyriaeth fanwl, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i sefydlu partneriaeth waith ar lefel ranbarthol ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol ac uwch-swyddogion sefydliadau i drafod strategaethau y gallent eu gweithredu ym maes hyrwyddo a hyfforddi’r Gymraeg (yn ychwanegol at eu dyletswyddau statudol).

Cyllid ychwanegol ar gyfer Dysgu Proffesiynol i helpu i weithredu’r cwricwlwm newydd

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu i weithredu’r ymagwedd genedlaethol at ddysgu proffesiynol ac i gefnogi’r goblygiadau o ran darparu’r cwricwlwm newydd yn 2018-19 a 2019-20.

Ymgynghoriad ar ganllawiau gwrth-fwlio diwygiedig

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y canllawiau gwrth-fwlio drafft a’r adnoddau ategol, ac ar ddyddiad lansio’r canllawiau sef dydd Mercher 14 Tachwedd.

Staff a ariennir drwy raglenni yn yr Is-adran Cyflogadwyedd a Sgiliau

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ddefnyddio cronfeydd rhaglenni yn 2018-19 a 2019-20 i recriwtio mwy o staff dan gontract i’r Is-adran Cyflogadwyedd a Sgiliau i gyflenwi rhaglen newidiadau digideiddio ym maes Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Gwerthu Asedau

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu un Ased Trafnidiaeth.

Grwp Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo penodi Rebecca Rosenbaum i gymryd lle aelod sy’n rhoi’r gorau i’w rôl ar Grwp Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg.

Materion sy’n ymwneud â Gwelliant i’r A477 Sanclêr i Ros-goch

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi nodi cyngor pellach mewn perthynas â Gwelliant yr A477 Sanclêr i Ros-goch.

Dod â’r Panel Cynghori Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus i ben

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo dod â’r Panel Cynghori Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus i ben ar unwaith.

Rhaglen Enwau Bwyd Gwarchodedig y dyfodol

21 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllideb o £125,000 o gyllideb 2019-2020 yr is-adran fwyd i alluogi’r is-adran i ymgymryd ag ymarfer caffael y gaeaf hwn, gan sicrhau bod y cymorth a roddir i gynhyrchwyr ac ymgeiswyr dan y rhaglen hon yn parhau tan 1 Ebrill 2019.

Penodi Aelod Cyswllt o’r Bwrdd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

20 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Dr Kerry Donavan yn Aelod Cyswllt ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am flwyddyn.

Gwaredu Plot C1 Fabian Way, Jersey Marine

20 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir.

Cynigion ar gyfer y Gronfa Trawsnewid

20 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gymeradwyo dyraniad o hyd at £13,458,000 o gyllid  o’r Gronfa Trawsnewid i gefnogi’r cynigion a dderbyniwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent. Cytunwyd hefyd i gymeradwyo dyraniad o hyd at £1,690,000 o gyllid o’r Gronfa Trawsnewid i gefnogi prosiect “Gogledd Cymru Ynghyd: Gwasanaethau Di-dor i bobl ag anableddau dysgu” a oedd yn rhan o’r cynnig a dderbyniwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Maes awyr Llanbedr – Buddiant rhydd-ddaliadol

20 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gadw’r buddiant rhydd-ddaliadol mewn eiddo.

Newid y cymwysterau sydd eu hangen i un o'r llwybrau i gofrestru i fod yn weithiwr gofal cartref

8 Tachwedd 2018

Mae'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar newid y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer un o'r llwybrau y gall gweithwyr gofal cartref ei dilyn I gofrestru.

Achosion busnes Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a'r Rhaglen Ysgolion ac Addysg – Hydref 2018

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r penderfyniad i ddyrannu cyllid i nifer o achosion busnes a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi ym mis Hydref.

Cymeradwyo ymrwymo cyllid i brosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyngor ynglŷn ag ymrwymo cyllid o gyllideb y Ddarpariaeth Addysg Bellach yn 2018-19 a 2019-20 ar gyfer prosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd – sy’n cynnwys astudiaeth gwmpasu ar ddysgu proffesiynol ôl-16; cymorth ar gyfer iechyd meddwl yn y sector addysg bellach; a diweddaru canllawiau Prevent.

Atgyfeirio cynnig Cyngor Sir Ddinbych i gau Ysgol Llanbedr

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gwrthod cynnig Cyngor Sir Ddinbych i gau Ysgol Gynradd Llanbedr a reolir yn wirfoddol ac sy'n perthyn i'r Eglwys yng Nghymru.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ag argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cosb o 4% am dorri amodau trawsgydymffurfio ar y taliadau a delir i’r apelydd o dan Gynllun Taliad Sengl 2014 a Glastir. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i'w hysbysu am ei phenderfyniad.

Proses Apelio Annibynnol

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhellion y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn gostwng taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i'w hysbysu am ei phenderfyniad.

Proses Apelio Annibynnol

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhellion y Panel Apelio Annibynnol i wrthod dwy apêl yn erbyn gwrthod ceisiadau am daliad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i'w hysbysu am ei phenderfyniad.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2016. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i'w hysbysu am ei phenderfyniad.

Proses Apelio Annibynnol

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i beidio â derbyn apêl yn erbyn rhoi cosb drawsgydymffurfio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i'w hysbysu am ei phenderfyniad.

Adolygiad o systemau llywodraethu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

8 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y penderfyniad i gynnal adolygiad o systemau llywodraethu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn dilyn adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Cael Gwared ar Dir yn Nhonysguboriau

7  Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i werthu tir rhydd-ddaliad yn Llantrisant.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni – Tachwedd a Rhagfyr 2018

7  Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo taliadau Tachwedd a Rhagfyr 2018 o dan drefniadau cyfredol rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Grwp Gorchwyl a Gorffen i Gynghori ar Faterion Niwclear

7  Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo penderfyniad i sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen i Gynghori ar Faterion Niwclear.

Cronfa Cymunedau’r Arfordir – rownd 5

7  Tachwedd  2018

Yn dilyn asesiad Pwyllgor y Loteri Fawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi ystyried a chymeradwyo argymhellion i gefnogi prosiectau ar gyfer pumed rownd Cronfa Cymunedau’r Arfordir yng Nghymru.

Gwerthu Tir ym Mharc Bryn Cefni, Llangefni

7  Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i werthu tir datblygu ym Mharc Bryn Cefni, Llangefni.

Gwerthu Tir yn y Rhyl, Sir Ddinbych

7  Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r penderfyniad i werthu tir yn y Rhyl, Sir Ddinbych.

Cais i gymeradwyo Datganiad ar Werthoedd ac Egwyddorion

7  Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddatganiad ar werthoedd ac egwyddorion rhwng GIG Cymru a’r GIG yn Lloegr mewn perthynas â thrin cleifion trawsffiniol.

Cyhoeddi adroddiad blynyddol a Rhagolwg 2018 ar gamddefnyddio sylweddau

7 Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Rhagolwg 2018 ar Gamddefnyddio Sylweddau.

Newidiadau o ran Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol

6 Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno , mewn egwyddor, i’r newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu gwneud i Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015, Cyfarwyddeb Cydgydnabod Cymwysterau Proffesiynol  2005/36/EC, ac wedi cytuno ar newidiadau i’r ddeddfwriaeth ym maes Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig sy’n ymwneud â dau broffesiwn a reoleiddir: milfeddygon a phedolwyr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i gadarnhau hyn drwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyllid ar gyfer Copperopolis, Crown Packaging (gan gynnwys cyllid ar ffurf benthyciad) ac Amrywio Cyllid ar gyfer rhaglenni Themateg

6 Tachwedd  2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo, mewn egwyddor, geisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau strategol a gyflwynwyd gan Gyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, o dan y Rhaglen Buddsoddi Cyllid wedi’i Dargedu ar gyfer Adfywio. Bydd y cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei gymeradwyo’n ffurfiol unwaith y bydd y prosesau caffael wedi cael eu cwblhau a’u hasesu. Maent hefyd wedi cymeradwyo cyllid ar ffurf benthyciad i Gastell-nedd Port Talbot.  

Datblygu Adweithyddion Modiwlar Bach yng Nghymru

6 Tachwedd  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar y cynnig i ddatblygu Adweithyddion Modiwlar Bach yng Nghymru.

Prosiectau’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio – ceisiadau am gyllid o ranbarth Gogledd Cymru

6 Tachwedd  2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ystyried cefnogi tri chais a gyflwynwyd gan ranbarth Gogledd Cymru fel rhan o Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio. Maen nhw wedi cymeradwyo:

  • cais am gyllid trwy’r Gronfa Datblygu Prosiectau ar gyfer Prosiect Adnewyddu Tai Gogledd Cymru (Cam 2) yn Sir Ddinbych a Chonwy;
  • cais am gyllid trwy’r Gronfa Datblygu Prosiectau ar gyfer cynllun Mynediad a Chysylltiadau Canol Dinas Bangor yng Ngwynedd;
  • cais ar gyfer prosiect strategol trwy Gynllun Adnewyddu Adeiladau Canol Dinas Bangor yng Ngwynedd.

Hafan Dysgu Hyblyg, Wrecsam

5 Tachwedd 2018

Mae ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo yr achos cyfiawnhau busnes ar gyfer yr Hafan Dysgu Hyblyg, Wrecsam.

Ysgol Uwchradd Gwernyfed, Powys

5 Tachwedd 2018

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar yr achos busnes terfyn ol ar gyfer Ysgol Uwchradd Gwernyfed, Powys.

Cais i werthu tir nad yw’n cael ei ddefnyddio

5 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gais gan Ysgol Sefydledig Emrys ap Iwan i werthu rhan o’r tir nad yw yn cael ei ddefnyddio.

Cais i roi adeilad ysgol ar les

5 Tachwedd 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gais gan Ysgol Emrys ap Iwan i roi rhan o adeilad yr ysgol ar les i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn sefydlu Canolfan Deuluol.

Cyllid ar gyfer ymgyrch newid ymddygiad

5 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i ddyrannu £80,000 i WRAP Cymru i gynnal ymgyrch gyfathrebu newid ymddygiad; £300,000 i Awdurdod Arweiniol (i’w gytuno gydag Awdurdodau Lleol a Bwrdd y Rhaglen Weinidogol) i gefnogi rhaglenni peilot ychwanegol ac arloesol gan Awdurdodau Lleol ar newid ymddygiad; a chadw £120,000 i gefnogi menter Dim Gwastraff mewn Ysgolion , i’w ychwanegu at gyllid yr Awdurdodau Lleol os yn briodol.

Ail-benodi Aelod Annibynnol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre

5 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Ray Singh fel Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i Ymddiriedolaeth GIG Felindre am 12 mis.  Bydd yn cael ei ail-benodi o’r 1 Tachwedd 2018 tan 31 Hydref 2019
A Phil Roberts fel Aelod Annibynnol (Ystadau a Chynllunio) i Ymddiriedolaeth GIG am 11 mis.  Bydd yn cael ei ail-benodi o’r 1 Ebrill 2019 tan 29 Chwefror 2020.

Rheoli Cronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol

1 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i ganiatáu i WRAP Cymru ddatblygu a rheoli Cronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol ar ran Llywodraeth Cymru, yn amodol ar fodloni gofynion y Safonau Gofynnol ar gyfer Cyllid Grantiau. 

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

1 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Emrys Elias yn Is-Gadeirydd am 4 blynedd. 

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16

1 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo nifer o geisiadau am raglenni astudio newydd ym maes darpariaeth arbenigol ôl-16. 

Dyrannu Cyllidebau Is-Adrannol Cyflogadwyedd a Sgiliau 2018-19 o fewn Prif Grŵp Gwariant Addysg

1 Tachwedd 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas â dyraniadau arfaethedig ac arferion gwaith o fewn y Gyllideb Is-adrannol Cyflogadwyedd a Sgiliau ar gyfer 2018-19. 

Cais am gymorth ariannol ar gyfer adfer tir halogedig o fewn ystad breswyl Craig y Don, Ynys Môn

31 Hydref  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno mewn egwyddor i’r cynnig y bydd Llywodraeth Cymru’n cyllido’n rhannol waith adfer ar dir halogedig o dan 16 eiddo o fewn ystad breswyl Craig y Don ar Ynys Môn.

Cyllid Cyfalaf Dechrau’n Deg

31 Hydref  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf Dechrau’n Deg ar gyfer Conwy a Thorfaen.

Cynllun yr A548 / Cyffordd y Barcffordd

30 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer cynllun yr A548 / Cyffordd y Barcffordd.

Trosglwyddiadau cyllidebol i gefnogi’r rhaglen Cymru’n Gweithio

30 Hydref 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i drosglwyddo £24m i roi rhaglen Ieuenctid Cymru’n Gweithio ar waith, fel rhan o’r  rhaglen gyflogadwyedd unigol Cymru’n Gweithio o fis Ebrill 2019 ymlaen.

Cyllid i gefnogi pwysau mewn gofal critigol dros gyfnod y gaeaf yn 2018-19

30 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £5m i gefnogi gofal critigol drwy Gymru y gaeaf hwn.

Cymeradwyaeth i gyllido lansiad y Cynllun Gweithredu ar Anabledd – Prentisiaethau Cynhwysol

29 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno ar y cyllid i lansio’r Cynllun Gweithredu ar Anabledd – Prentisiaethau Cynhwysol ac amrywiaeth o weithgareddau marchnata i’w ategu.

Aelodaeth o Fforwm Llywodraeth Leol y Gymanwlad

29 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno y gellir parhau â’r aelodaeth o Fforwm Llywodraeth Leol y Gymanwlad a thalu’r ffi aelodaeth flynyddol.

Fersiwn cyn-ymgynghori o’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Diwygiedig

29 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar ddrafft cyn-ymgynghori o’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Diwygiedig (Golygiad 3) er mwyn cynnal trafodaeth dechnegol anffurfiol gyda rhanddeiliaid allweddol.

Recriwtio cadeirydd ac aelodau o Fwrdd Cymwysterau Cymru 

29 Hydref 2018
 
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno i recriwtio dau aelod newydd i Fwrdd Cymwysterau Cymru ac i ddefnyddio ymgynghorwyr recriwtio i recriwtio cadeirydd ar gyfer y Bwrdd.

Ymgyrch Farchnata Dydd Miwsig Cymru

29 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ddyrannu cyllid ar gyfer digwyddiadau a deunyddiau marchnata yn ymwneud â Dydd Miwsig Cymru.

Cyllid ychwanegol i helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod gaeaf 18-19

29 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £20m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau GIG Cymru yn ystod gaeaf 2018-19.

Contract Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Caerdydd-Ynys Môn

26 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar estyniad dros dro i’r contract Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Caerdydd-Ynys Môn gydag Eastern Airways

Pysgota Cregyn Bylchog yn Nyfroedd Cymru, Tymor 2018/19

26 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materioin Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi  caniatâd yn unol ag Is-ddeddfau cyn Bwyllgorau Pysgodfeydd Cymru ar gyfer tymor cregyn bylchog 2018/19 ar y sail na fydd y gweithgareddau a ganiateir gan y trwyddedau hynny yn cael effaith sylweddol ar yr amrywiol Safleoedd Morol Ewropeaidd Cymru yn yr ardal berthnasol

Estyniad i’r rhaglen Ehangu Mynediad i Ymarfer Cyffredinol drwy brofiad gwaith

26 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn y rhaglen Ehangu Mynediad i Ymarfer Cyffredinol drwy brofiad gwaith am flwyddyn arall. Nod y rhaglen yw helpu myfyrwyr Blynyddoedd 11 ac 12 i gael profiad ymarferol o weithio mewn practis meddyg teulu yng Nghymru

Burrows Yard, Port Talbot; Newid diben dyfarniad grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

25  Hydref  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo’r cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i newid diben cyfraniad cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Burrows Yard o fod yn ddatblygiad tai yn bennaf i fod yn ddatblygiad masnachol a manwerthu yn bennaf.

Cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer Rhaglen Delweddu Cenedlaethol 2018-21

25  Hydref  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru o £11.029m ar gyfer pedwar prosiect Rhaglen Delweddu Cenedlaethol rhwng 2018-19 a 2020-21.

Gwerthuso TAN 15 – canllawiau cynllunio ar Berygl Llifogydd

25  Hydref  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr ymateb cychwynnol i argymhellion adroddiad Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15): Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2004) ac i gychwyn ar waith casglu tystiolaeth pellach i baratoi ar gyfer ymgynghoriad ar ddiweddariad i TAN 15.

Datganiad Ysgrifenedig – Casglu a gwaredu gwastraff clinigol GIG Cymru

25  Hydref  2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad ynghylch casglu a gwaredu gwastraff clinigol ar draws GIG Cymru.

Ailbenodi Aelod Annibynnol (Cymuned) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

24 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Paul Newman yn Aelod Annibynnol (Cymuned) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am gyfnod o 4 blynedd, o 1 Ebrill 2019 tan 31 Mawrth 2023.

Cais i bysgota grawn cregyn gleision ym Mar Caernarfon  

24 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y gellir codi cregyn gleision sydd islaw’r maint glanio lleiaf yn yr ardal a adwaenir fel Bar Caernarfon, Gwynedd. Gwneir y gwaith pysgota hwn, a fydd yn digwydd drwy garthu o long, at ddibenion stocio a byddant yn cael eu hailosod ym Mhysgodfa Dwyrain Afon Menai.

Gweithred amrywio i gytundeb gwerthu tir

24 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar weithred amrywio ar gyfer cytundeb gwerthu tir, mewn perthynas â thir yn Sir Benfro.

Peilot: dull gweithredu ar draws ardal ddaearyddol y clystyrau i gefnogi gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf

24 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £700,000 gan Lywodraeth Cymru i dreialu’r defnydd o ofal sylfaenol i gefnogi gofal heb ei drefnu yn ystod cyfnodau brig y gaeaf.

Safonau proffesiynol – cyllideb arfaethedig ar gyfer cyfathrebu a marchnata

24 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid cyfathrebu a marchnata ar gyfer y safonau proffesiynol i weithlu ysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19.

Ymgynghoriad Arfaethedig ar Enwi Pont 

22 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn helpu i benderfynu ar enw ar gyfer y bont a adeiladwyd ym Mryn-mawr fel rhan o Gynllun yr A465 Adran 2 – Gilwern i Fryn-mawr.

Sustrans Cymru – Amcanion a Grant Craidd ar gyfer 2018/19 

22 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar y cyllid grant craidd i Sustrans Cymru ar gyfer 2018-19.

Cefnogaeth ar gyfer Cenhadaeth ein Cenedl: Ysgolion Gwledig a Chynllunio’r Gweithlu 

22 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi grant adeiladu capasiti i ERW (Consortiwm Addysgol Rhanbarthol De-orllewin Cymru) er mwyn iddynt ddarparu arbenigedd a chymorth o ran y prif gerrig milltir yng nghenhadaeth ein cenedl.

Cyllid i gefnogi’r agenda Chwarae yn 2018-19 

22 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer yr agenda chwarae yn 2018-19.

Cyllid Cyfalaf Dechrau’n Deg 

22 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno rhoi cyllid cyfalaf Dechrau’n Deg i Rhos Afan, Castell-nedd Port Talbot.

Ymchwil Ethnograffeg i Ddeall Ymddygiad Rhieni tuag at Addysg a Gofal Plant yn y Blynyddoedd Cynnar 

22 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Ymchwil Ethnograffeg i Ddeall Ymddygiad Rhieni tuag at Addysg a Gofal Plant yn y Blynyddoedd

Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru 

22 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau i ddarparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru.

Yr Arolygiaeth Gynllunio – Targedau Perfformiad 2018-2019

18 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar dargedau perfformiad newydd ar gyfer yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru yn 2018-19.

Cymhelliannau i Feddygon Teulu a Hyfforddeion Seiciatreg Craidd 

18 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i weithredu cynlluniau cymhelliant ar gyfer Meddygon Teulu dan Hyfforddiant yng Nghymru am drydedd flwyddyn, gan estyn y cynllun cymhelliant i hyfforddeion seiciatreg craidd am ail flwyddyn.

Cyllid i gefnogi Rhaglen Waith Ardal Fenter Eryri yn y dyfodol 

18 Hydref 2018 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant refeniw i gefnogi ystod o becynnau gwaith sy’n ymwneud â safleoedd Trawsfynydd a Llanbedr yn Ardal Fenter Eryri.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru – Penodi Prif Swyddog Gweithredol 

17 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodi Cari-Anne Quinn fel Prif Swyddog Gweithredol newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Grant Trawsnewid 

17 Hydref 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid fel rhan o’r Rhaglen Grantiau Cyfalaf ar gyfer Trawsnewid 2018-19.

Cynllun penodi ar gyfer Corff Adolygu Cyflog ac Amodau Athrawon yng Nghymru 

17 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gynllun penodi ar gyfer Cadeirydd ac Aelodau’r Panel Corff Adolygu Cyflog ac Amodau Athrawon yng Nghymru.

Cronfa Ariannol wrth Gefn 2018/19 

17 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gyfol Oes wedi cymeradwyo newidiadau i’r gynlluniau’r Gronfa Ariannol wrth Gefn ar gyfer y cyfnod o 1 Medi 2018 tan 31 Mawrth 2019 i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. 

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

15 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaith profi’r farchnad mewn perthynas â threfniadau dylunio ac adeiladu posibl prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

Trydedd Pont dros y Fenai – yr A55

15 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyhoeddi’r Opsiwn Porffor fel y llwybr a ffefrir ar gyfer y drydedd pont dros y Fenai.

Hysbysiad Malltod Statudol – Deuoli’r A465 Blaenau’r Cymoedd

15 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo derbyn Hysbysiad Malltod Statudol a roddir i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Chynllun Deuoli’r A465 Blaenau’r Cymoedd (Dowlais Top i Hirwaun – Adrannau 5 a 6).

Cynllun Gweithredu ar yr Economi: Unedau Rhanbarthol

15 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo sefydlu tair Uned Ranbarthol o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth.

Defnyddio cyllid a gedwir yn ganolog o’r Gronfa Gofal Sylfaenol Genedlaethol

15 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cymorth Cronfa Gofal Sylfaenol Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau gofal sylfaenol yn 2018-19, 2019-20 a thu hwnt.

Ardaloedd sy’n wynebu perygl llifogydd

11 Hydref 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo’r meini prawf arfaethedig ar gyfer pennu ardaloedd sy’n wynebu perygl uchel o lifogydd ac yn nodi’r Ardaloedd yng Nghymru sy’n wynebu perygl llifogydd.

Estyn contract Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru

11 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru fel y gall y contract presennol a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2018 gael ei estyn am flwyddyn.

Cymraeg i Blant

11 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer dechrau caffael gwasanaethau Cymraeg i Blant i’w gweithredu o fis Ebrill 2019.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru –The Alternative Learning Company, Sir Gaerfyrddin

11 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru – The Alternative Learning Company, Sir Gaerfyrddin.

Cyllid i gefnogi dau gynnig i’r Gronfa Trawsnewid

11 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid gwerth £6.95 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi dau gynnig i’r Gronfa Trawsnewid.

Llythyr at Aelodau’r Cynulliad – Eithriadau Blaenorol o ran Echdynnu D?r

10 Hydref 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad er mwyn eu hannog i rannu gwybodaeth gydag etholwyr am newidiadau pwysig i eithriadau o ran trwyddedu gwaith echdynnu d?r yng Nghymru.

Gwaith Seilwaith ar Ystad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn

10 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo penodi ymgynghorwyr i gynghori ynghylch gwaith seilwaith ar Ystad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn.

Achosion Busnes y Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif – Awst 2018

10 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r Achos Busnes llawn ar gyfer Ysgol Arbennig yng Nghasnewydd, a hynny’n unol ag argymhelliad gan y Panel Buddsoddi Cyfalaf.

Datganiad Ysgrifenedig – Tarfu ar gyflenwad chwistrellyddion Awtomatig Adrenalin EpiPen

10 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i anfon datganiad ysgrifenedig at Aelodau’r Cynulliad (AC) i roi’r diweddaraf iddynt ynghylch cyflenwi cynhyrchion EpiPen® yn y DU.

Dyfarnu Cyllid i Action on Hearing Loss

09 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Action on Hearing Loss at ddiben gwaith ymchwil a datblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch gofal cymdeithasol i bobl sy’n fyddar neu sydd wedi colli rhywfaint o’u clyw.

Ynni Morol Cymru – Cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r môr ac ar gyfer datblygu’r sector

09 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer cynorthwyo Ynni Morol Cymru i gynnig cymorth ymarferol a strategol i ddiwydiant ynni’r môr yng Nghymru. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi swyddi a thwf o fewn diwydiant technoleg sy’n prysur dyfu.

Ceisiadau i Gronfa Ddatblygu’r Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu

09 Hydref 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo ceisiadau ar gyfer: adfywio Gorllewin y Rhyl yn Sir Ddinbych; Cynllun Porth y Rhyl 1 yn Sir Ddinbych; Canolfan Fenter Dulais yng Ngheredigion; ac ar gyfer Canol Tref Cil-y-coed yn Sir Fynwy.

Rhaglen Cynhwysiant Digidol ac iechyd

09 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyfraniad cyllid refeniw o £3m o 2019-20 hyd 2021-22 ar gyfer y Rhaglen Cynhwysiant Digidol.

Pendi Aelod Cyswllt (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

09 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr Dave Street, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn Aelod Cyswllt.

Cyllid ar gyfer adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Llanberis, Gwynedd

08 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi cytuno i roi 85% o gyllid grant tuag at gostau adeiladu cynllun lliniaru llifogydd Llanberis, sef cymorth grant gwerth £1,382,177.

Buddsoddiad pellach mewn cynyddu capasiti ymchwil ar draws y system addysg.

08 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi cyllid cyfatebol ar gyfer dwy Ddoethuriaeth sy’n canolbwyntio ar feysydd addysgu a dysgu penodol sy’n ymwneud a’r cyd-destun addysgol newidiol yng Nghymru.

Gweithgareddau Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

05 Hydref 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar daliadau chwarterol ar gyfer y contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Cynghorydd yr Economi a Thrafnidiaeth Gogledd Cymru

05 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, gyda chymeradwyaeth y Prif Weinidog, wedi cytuno ar benodi David B. Jones OBE ar gyfer y tymor byr fel Cynghorydd yr Economi a Thrafnidiaeth Gogledd Cymru, yn unol â’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus a’r darpariaethau yn ymwneud ag ymgynghorwyr di-dâl sydd i’w cael yng Nghod y Gweinidogion.

Cyfrifo Ystadegau Traffig Ffyrdd yng Nghymru

05 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i neilltuo cyllid i gyfrifo ystadegau traffig ffyrdd yng Nghymru ar gyfer 2017-21.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni

05 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r taliadau sy’n ddyledus ym mis Medi a Hydref 2018 o dan drefniadau presennol y rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Cronfa Drafnidiaeth Leol 2018-19

05 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar y broses ymgeisio ar gyfer dyraniadau ychwanegol ar gyfer y Gronfa Drafnidiaeth Leol yn 2018-19.

Cyllid ar gyfer Dadansoddiad Pellach o Arolwg Carfan y Mileniwm

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid i alluogi Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) i gomisiynu contractiwr/contractwyr i ymgymryd â dadansoddiad pellach o Arolwg Carfan y Mileniwm i ymchwilio i dystiolaeth yn ymwneud â dysgwyr Mwy Abl a Thalentog.

Ymestyn Contract Hwb

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ymestyn y contract Hwb presennol am 2 flynedd.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno â phenderfyniad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso didyniad cosb am orddatgan i Gynllun y Taliad Sylfaenol 2015. Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i’w hysbysu am y penderfyniad.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosb o 63% i dâl Mynediad Glastir 2014. Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i anfon llythyr at yr apelydd i’w hysbysu am y penderfyniad

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosb drawsgydymffurfio o 1% i Gynllun y Taliad Sylfaenol 2016 ac anfon llythyr i hysbysu’r apelyddion.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ag argymhellion y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosb am orddatgan o 100% i Gynllun y Taliad Sylfaenol 2015. Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i’w hysbysu am y penderfyniad.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno â phenderfyniad y Panel annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2017 ac anfon llythyr i hysbysu’r apelyddion.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad i wneud newidiadau i’r contract Glastir. Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i’w hysbysu am y penderfyniad.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

04 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ag argymhellion y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso cosb drawsgydymffurfio o 9% i gynlluniau yr hawliwyd oddi tanynt yn 2016. Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at yr apelydd i’w hysbysu am y penderfyniad.

Dyrannu cronfeydd i gefnogi Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

03 Hydref 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gyllid i gefnogi’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Grantiau i Hyrwyddo a Hwyluso’r Defnydd o’r Gymraeg

03 Hydref 2018

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol oes i rowlio’r Cynllun Grant “i Hyrwyddo a Hwyluso’r Defnydd o’r Gymraeg” drosodd am gyfnod o ddwy flynedd.

Ffrwd waith ymwelwyr iechyd y blynyddoedd cynnar – cais am gyllid

03 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Arweinydd Iechyd Dechrau’n Deg i ymgymryd â rôl Cadeirydd Ffrwd Waith Ymwelwyr Iechyd y Blynyddoedd Cynnar am un diwrnod yr wythnos o ganol Medi i ganol Ionawr 2019.

Ariannu’r Awdurdodau Lleol i ennill Hanfodion Seiber Plws

03 Hydref 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno y dylid caffael Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru i reoli arian grant i bob awdurdod lleol yng Nghymru i ennill ‘Hanfodion Seiber Plws’.

Rhoi Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y tu allan i’r Ysbyty – partneriaeth Achub Bywydau Cymru

03 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o 2018-19 i 2020-21 i gefnogi sefydlu partneriaeth Achub Bywydau Cymru.

Pumed Adroddiad y Pwyllgor o Arbenigwyr - Hydref 2018

02 Hydref 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r ymateb i 5ed adroddiad monitro y Pwyllgor o Arbenigwyr ar weithredu Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.

Cyllido ymchwil i aflonyddu

01 Hydref 2018

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid tuag at brosiect ymchwil arfaethedig Prifysgol Abertawe ar aflonyddu yn ystod y flwyddyn ariannol hon, sef 2018-2019.

Cymorth ar gyfer ‘Ardaloedd Gwella Busnes’

01 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer dau gynnig arloesol ychwanegol fel rhan o’r rhaglen Ardaloedd Gwella Busnes, a fydd yn treialu’r syniad o Ardaloedd Gwella Busnes mewn lleoliad diwydiannol ar sail sector.

Gwerthu tir ym Mharc Busnes Llanelwy

01 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r amodau diwygiedig ar gyfer gwerthu tir ym Mharc Busnes Llanelwy.

Uchelgais o ran Ardaloedd Morol Gwarchodedig

01 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gefnogi targed newydd ar gyfer gwarchod 30% o gefnforoedd y byd sydd mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig erbyn 2030.

Datganiad Ysgrifenedig – Cynlluniau Peilot Presgripsiynu Cymdeithasol

01 Hydref 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i lunio datganiad ysgrifenedig i roi’r newyddion diweddaraf i ACau ar brosiectau peilot presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer 2018-21.

Adroddiad yr Arolygydd Cynllunio – Ardal Gwarchodaeth Arbennig i Adar Aber Dyfi

27 Medi 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i argymhelliad yr Arolygydd Cynllunio y dylai’r apêl gan fudiadau adar y gwlyptir yn erbyn yr amodau a oedd ynghlwm wrth gydsyniad a roddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gael ei gwrthod ac y dylid cadarnhau’r penderfyniad i osod amodau ynghlwm wrth y cydsyniad.

Cronfa Seilwaith Eiddo – Parc Mardon, Parc Ynni Baglan

27 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo dyfarnu grant.

Celtic Lakes, Casnewydd

27 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ychwanegol ar y seilwaith er mwyn cwblhau gwaith monitro ac adeiladu ychwanegol.

Achos busnes cyfrwng Cymraeg – E-sgol

27 Medi 2018

Mae’r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ddyrannu cyllid i dreialu prosiect yng Ngheredigion a Phowys a fydd yn defnyddio cyfarpar TG o’r radd uchaf i ganiatáu addysgu rhyngweithiol ar draws sawl safle.

Dyrannu cronfeydd cyfalaf i gefnogi newidiadau i wasanaethau ailgylchu

27 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu cronfeydd cyfalaf, drwy’r Rhaglen Newid Gydweithredol, o £2,200,000 i Gyngor Sir Penfro a £3,500,000 i Gyngor Bro Morgannwg yn 2018-19

Estyn cyllid y Rhaglen Newid Gydweithredol

27 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i estyn y Rhaglen Newid Gydweithredol o Ebrill 2019 – Mawrth 2020, a dwy flynedd ymhellach yn amodol ar gadarnhau’r cyllidebau refeniw yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Cyngor i Weinidogion – Partneriaeth cwmni awyrennau KLM

24 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid i weinyddu ymgyrch farchnata ar y cyd ar ran Llywodraeth Cymru a KLM yn Ewrop drwy Zapper PR. Y nod yw denu ymwelwyr o’r Iseldiroedd, y Ffindir a’r Almaen i Gymru drwy ddefnyddio llwybrau hedfan KLM.

Datblygu Unedau Diwydiannol Newydd, Parc Penarlâg

24 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo camau i waredu tir a chynnig Grant Datblygu Eiddo er mwyn hwyluso datblygiad unedau diwydiannol newydd ym Mharc Penarlâg.

Cyllid ar gyfer Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd 2018-19

24 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i roi cyfraniad o £147,590 tuag at gostau rhedeg blynyddol Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd a’r Is-Bwyllgor Addasu.

Asesiadau OSPAR o effeithiolrwydd gwaith rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig 2018

24 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y gall yr asesiadau o effeithiolrwydd gwaith rheoli ardaloedd gwarchodedig yng Nghymru, a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cyd-Bwyllgor Cadwraeth Natur, gael eu cyflwyno fel rhan o ymateb y DU i Gomisiwn OSAPR.

Cynllun Tir ar gyfer Tai 2018-19 – Cymeradwyo Ceisiadau am Fenthyciadau

24 Medi 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i ddyfarnu benthyciadau i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer y Cynllun Tir ar gyfer Tai 2018-19. Bydd hyn yn cyfrannu at y targed o greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

24 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Alison Bulman am gyfnod o ddwy flynedd.

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Reoli Meddyginiaethau – cyllid ychwanegol

24 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid gwerth £100,000 gan Lywodraeth Cymru dros y cyfnod 2018-19 a 2019-20 er mwyn datblygu ymgyrchoedd i godi proffil gwaith rheoli meddyginiaethau ar draws yr holl fyrddau iechyd.

Cyllid ar gyfer Academi Peiriannau a Reolir gan Gyfrifiaduron

20 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid refeniw o £436,795 (o fis Hydref 2018) am y dair blynedd nesaf, i sefydlu y Ganolfan Peirianneg Uwch a Sgiliau Gweithgynhyrchu Peiriannau a Reolir gan Gyfrifiaduron gyntaf yng Nghymru.

Rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin

20 Medi 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar y camau nesaf i’w cymryd o ran Rheilffordd Aberystwyth – Caerfyrddin.

Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth y Gogledd

20 Medi 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i’r Memorandwm Dealltwriaeth wedi’i ddiweddaru rhwng Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth y Gogledd ac i sefydlu Fforwm Trafnidiaeth y Gorllewin a Chymru.

Grant Cyfrwng Cymraeg – Camau a argymhellir ar gyfer prosiectau ar y rhestr wrth gefn

20 Medi 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar yr argymhellion i ariannu prosiectau o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Rhaglen Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant.

Ymgynghoriad ar Nyrsio mewn Ysgolion Arbennig – crynodeb o ymatebion

20 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi canlyniad Fframwaith Nyrsio mewn Ysgolion yng Nghymru Rhan 2: ysgolion arbennig – ymgynghoriad.

Gwerthusiad o iawndal TB am wartheg cyflo

19 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar y gofyniad i ddarparu prawf o feichiogrwydd wrth werthuso gwartheg cyflo .

Enwi Parc Tirweddau’r Cymoedd

18 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo defnyddio’r enw Parc Rhanbarthol y Cymoedd i ddisgrifio’r ardal a oedd yn mynd dan y teitl gweithio Parc Tirweddau’r Cymoedd gynt.

Dyrannu cyllidebau yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu

18 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r dyraniad arfaethedig o gyllideb refeniw yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu ar gyfer 2018-19 ac wedi dirprwyo awdurdod i swyddogion.

Datganiad ysgrifenedig bwydo ar y fron

18 Medi 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyflwyno datganiad ysgrifenedig i roi’r newyddion diweddaraf i ACau ar argymhellion gr?p gorchwyl a gorffen bwydo ar y fron.

Mesur canlyniadau gofal llygaid

18 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i weithredu dulliau mesur canlyniadau gofal llygaid a arweinir yn glinigol.

Prosiect Bywyd Gwyllt G?yr – y cam brechu

17 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i roi cymorth ariannol i Gr?p Brechu Moch Daear G?yr ar gyfer cam brechu Prosiect Bywyd Gwyllt G?yr, yn seiliedig ar arian cyfatebol o 50% hyd at uchafswm o £100,000 y flwyddyn am bedair blynedd.

Adolygiad o gyllid y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth Ôl-16 a’i fodel cyflawni yng Nghymru

13 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r cyllid a’r cylch gorchwyl ar gyfer cynnal adolygiad allanol annibynnol o gyllid presennol a model cyflawni y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth, o ran y cymorth a roddir i gefnogi dysgu Ôl-16 yng Nghymru. Hefyd cytunwyd i neilltuo cyllid at ddibenion ymgynghori ac ymgysylltu mewn perthynas â mesurau perfformiad Ôl-16 ar gyfer addysg chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.

Ailddatblygu’r Fframwaith Mesur Perfformiad ar gyfer Awdurdodau Lleol

13 Medi 2018

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ailddatblygu’r Fframwaith Mesur Perfformiad presennol ar gyfer Awdurdodau Lleol, gan ei ailddatblygu fel Fframwaith Perfformiad a Gwella i’w roi ar waith o Ebrill 2020 ymlaen.

Yr angen brys i drwsio Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

13 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi cyllid yn ystod blynyddoedd ariannol 2018-19 a 2019-20 er mwyn ymateb i’r angen brys i drwsio ysgolion yn y sector Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.

Dyrannu cyllid cyfalaf i gefnogi addysg Gymraeg

13 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid i gefnogi twf mewn addysg Gymraeg, a hynny o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Rhaglen Grant y Cynnig Gofal Plant.

Ailbenodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

13 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Hilary Jones yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am gyfnod o un flwyddyn

Cynllun Busnes Chwaraeon Cymru 2018-19

11 Medi 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo Cynllun Busnes Chwaraeon Cymru 2018-19.

Cronfa Bontio Ewropeaidd – Cais Cadernid Busnes

11 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cynnig i’w ystyried ar gyfer cyllid drwy’r Gronfa Bontio Ewropeaidd er mwyn rhoi sylw i gadernid busnesau.

Canllawiau gwisg ysgol

11 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gryfhau a diweddaru’r canllawiau anstatudol presennol ar gyfer cyrff llywodraethol ar bolisi gwisg ysgol ac ymddangosiad, a’i wneud yn statudol.

Perfformiad y system gynllunio yng Nghymru, 2017-2018

11 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar newidiadau arfaethedig i’r Fframwaith Perfformiad Cynllunio a’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio Cymru Gyfan cyfatebol.

Ymgyrch Farchnata i Hyrwyddo SMART Innovation

10 Medi 2018

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer ymgyrch farchnata.

Coridorau Gwyrdd ar Rwydwaith Cefnffyrdd a Thraffyrdd Llywodraeth Cymru

10 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r dull gweithredu a’r cynigion ar gyfer menter Coridorau Gwyrdd ar Rwydwaith Cefnffyrdd a Thraffyrdd Cymru.

Y Gronfa Teithio Llesol – Argymhellion ar gyfer Cynlluniau – Blwyddyn Ariannol 2018-19

10 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno â’r argymhellion ar gyfer cyllido o’r Gronfa Teithio Llesol – Blwyddyn Ariannol 2018-19.

Cael gwared ar eiddo o Bortffolio Preswyl Sain Tathan

10 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo y dylid cael gwared ar nifer o eiddo preswyl o Bortffolio Eiddo Preswyl Sain Tathan.

Cael gwared ar Blot Adeiladu ym Mharc Busnes Broadaxe, Llanandras

10 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaredu tir yn Llanandras

Cynlluniau Ardaloedd Tagfeydd

10 Medi 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y dylid defnyddio Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo modelau trafnidiaeth fel sail i Gynlluniau Ardaloedd Tagfeydd.

Cyllido rhaglen hyfforddiant Prifysgol Caerdydd, ‘Doethuriaeth Seicoleg Addysgol’, o flwyddyn 2019/20 ymlaen

10 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo parhau i gyllido rhaglen hyfforddiant Prifysgol Caerdydd, ‘Doethuriaeth Seicoleg Addysgol’, ac wedi cymeradwyo lefel y cyllid, o flwyddyn academaidd 2019/20 ymlaen.

Achos busnes cyfrwng Cymraeg – yr Urdd

10 Medi 2018

Mewn egwyddor, cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ddyraniad cyllid cyfalaf i Urdd Gobaith Cymru er mwyn gallu gwella safleoedd Llangrannog a Glan-Llyn.

Cynnal profion cyffiniol ychwanegol yn Ardal TB Canolradd y Gogledd

10 Medi 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig y dylid gweithredu mesurau ychwanegol yn Ardal TB Canolradd y Gogledd er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd sydyn mewn achosion newydd o TB.

Dod â’r Tariff Cyflenwi Trydan i ben a Galwad am Dystiolaeth am gymorth ar gyfer ynni graddfa fach at y dyfodol

10 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Ynni a Thwf Glân yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ymateb i’r ymgynghoriad ar gau’r Tariff Cyflenwi Trydan.

Defnyddio opiwm o fewn GIG Cymru a’r canllawiau cysylltiedig

10 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar ddefnyddio opiwm o fewn GIG Cymru ac ar y canllawiau cysylltiedig.

Tystiolaeth am Ddysgu ar gyfer Troseddwyr i Gomisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru

06 Medi 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo tystiolaeth ar ddarpariaeth addysg a sgiliau i’w chyflwyno i Gomisiwn Thomas ar Gyfiawnder a Phlismona yng Nghymru.

Ymestyn contract Byw Heb Ofn am flwyddyn

06 Medi 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn contract Byw Heb Ofn am flwyddyn.

Cynllun Gweithredu i Wella Cysylltedd Ffonau Symudol – Cyfraddau annomestig - Blaenoriaethau

06 Medi 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno i flaenoriaethau o ran dadansoddiad pellach o effaith lleihau cyfraddau annomestig ar fuddsoddi mewn seilwaith ffonau symudol.

Dinas Cottage

06 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cael gwared ar 1 ased drafnidiaeth.

Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru – Datblygu Gwobrau 2019

06 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r dull arfaethedig o ddyfarnu’r gwobrau a’r ffordd sydd wedi’i chytuno ar gyfer gweithio gyda Gwobrau Addysgu Pearson at y dyfodol.

Datblygu’r grant amgylcheddol newydd, sef ‘y Grant Galluogi Cyfoeth Naturiol a Lles yng Nghymru’ ar gyfer 2009-2023, yn dilyn gwaith cynllunio ar y cyd â rhanddeiliaid

06 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r ymagwedd arfaethedig ar gyfer Cynllun Grant yr Amgylchedd at y dyfodol, o 2019 ymlaen, a’r amserlen newydd ar gyfer y grant newydd mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid.

Diweddariad ar ddatblygiadau o ran cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru parthed eog a brithyll môr

06 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad i roi gwybod iddyn nhw am y penderfyniad i ddechrau ymchwiliad lleol i gynigion Cyfoeth Naturiol Cymru o ran rheoli dalfeydd eog a brithyll môr.

Ardaloedd Gwella Busnes – Cymeradwyo Ymgeiswyr Llwyddiannus

06 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai wedi cymeradwyo’r ymgeiswyr llwyddiannus o dan raglen Ardaloedd Gwella Busnes (2018-20).

Adolygiad Addasiadau Tai

06 Medi 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol o oddeutu £35-£50,000 o gyllideb Byw’n Annibynnol 2019-2020 i gwblhau’r Adolygiad Systemau Addasiadau Tai.

Ailbenodi i Gynghorau Iechyd Cymunedol

06 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi tri aelod i’r Cynghorau Iechyd Cymunedol Mr Robert Henley Mrs Diane Gill Mrs Myfanwy Baines

Cyllid ar gyfer Gweithrediadau’r Cynllun Gwella Iechyd Rhywiol 2018-19

06 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £83,500 gan Lywodraeth Cymru yn 2018-19 i gyflawni gweithrediadau o’r Cynllun Gwella Iechyd Rhywiol mewn ymateb i’r adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol.

Cynllun penodi i recriwtio Cadeirydd parhaol i Fwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru

04 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gynllun penodi ar gyfer recriwtio Cadeirydd parhaol i Fwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru.

Cyllid Busnes

04 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gwmpas gweithredol Benthyciad Masnachol presennol i fusnes.

Rali Cymru GB

03 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid am dair blynedd i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo, marchnata a threfnu Rali Cymru GB yn 2019, 2020 a 2021.

Marchnata a Chyfathrebu Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

03 Medi 2018

Cymeradwyodd y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wariant ar weithgareddau cyfathrebu a marchnata Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes (SHELL) yn 2018/19.

Cynhadledd atebolrwydd addysgol

03 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynhadledd i gynnal trafodaethau pellach ar ddiwygio addysgol a’r fframwaith atebolrwydd newydd sy’n dod i’r amlwg.

Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio – Ceisiadau Thematig y De-orllewin a’r Gogledd

03 Medi 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo ceisiadau thematig Rhanbarth y De-orllewin dan y rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer y Grant Byw’n Gynaliadwy, y Grant Gwella/Datblygu Eiddo a Chymorth Eiddo Gwag, a chais thematig Rhanbarth y Gogledd ar gyfer Adnewyddu Tai.

Cyllid y Rhaglen Byw’n Annibynnol

03 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar ddyraniadau terfynol y prosiectau a fydd yn derbyn cyllid gan y Rhaglen Byw’n Annibynnol ar gyfer 2018-19.

Penodi Cyfarwyddwyr Anweithredol Dros Dro i Iechyd Cyhoeddus Cymru

03 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dyfed Edwards a Stephen Palmer am gyfnod dros dro tan 1 Ebrill 2019. Nod y penodiadau dros dro hyn yw llenwi dau benodiad gwag a sicrhau bod y Bwrdd yn gallu cydymffurfio â gofynion ei strwythur llywodraethu. Cytunwyd arnynt hefyd gan Gomisiynydd Penodiadau Cyhoeddus a bydd y ddwy swydd wag yn cael eu hail-hysbysebu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Penodiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

03 Medi 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Reena Owen yn Aelod Annibynnol (Cymunedol) a Raymond Ciborowski yn Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) am 4 blynedd yr un.

Cyfanswm lefel Cymorth Grant y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur ar gyfer 2018-19

29 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno ar gyfanswm lefel Cymorth Grant y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur ar gyfer 2018-19 a chyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at hyn, ac y bydd Gweinidog yr Amgylchedd yn ysgrifennu at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros yr Amgylchedd i roi gwybod am y cytundeb hwn.

Datblygu Rhwydwaith Seren, Cyfnod Allweddol 3 a 4

29 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ariannu datblygiad ymestyn Rhwydwaith Seren i Gyfnodau Allweddol 3 a 4 o fis Medi 2018 ymlaen.

Pecyn cymorth i cyflogwyr am gyn-filwyr

22 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i ariannu pecyn cymorth i gyflogwyr yn ymwneud â chyn-filwyr, i’w lansio yn ystod cyfnod y Cofio 2018.

22 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i barhau â Grant Gwirfoddoli Cymru er mwyn rhoi cyllid grant i brosiectau gwirfoddoli rhwng mis Hydref 2018 a mis Ebrill 2020.

Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru (Rhaglen Cyflymu Cymru) – Ymarfer Gwerthuso Terfynol – ERDF2014/2020

22 Awst 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno, fel rhan o ofynion WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru), y bydd swyddogion yn comisiynu ymarfer gwerthuso annibynnol ar gyfer cyflawni Rhaglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru.

Gwaredu tir yn Ystad Ddiwydiannol y Rising Sun, Blaenau

22 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir.

Gwaredu eiddo yn Abertawe

22 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaredu eiddo yn Abertawe.

Cyllid i helpu ysgolion i gymryd rhan i ddatblygu Pecyn Cymorth Hunanwerthuso Cenedlaethol

22 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu cyllid i helpu ysgolion i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu pecyn cymorth hunanwerthuso cenedlaethol, fel rhan o’r trefniadau gwerthuso a gwella newydd i’r system addysg.

Nodyn Cyngor Technegol 20 (Cynllunio a’r Gymraeg) – Adolygiad Barnwrol Arfaethedig

22 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthsefyll rhag gwneud y newidiadau i TAN 20 a awgrymwyd gan Gymdeithas yr Iaith, ac i herio’r camau cyfreithiol drwy ddadlau nad oes modd i’r hawlydd gael Adolygiad Barnwrol gan fod y cyfnod o 3 mis ar gyfer gwneud hynny eisoes wedi pasio.

Cymru Greadigol

21 Awst 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i’r model gweithredu ar gyfer Cymru Greadigol ac ar gyfer recriwtio Bwrdd.

Cynllun Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog

21 Awst 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar drefniadau ar gyfer Cynllun Nofio am Ddim y Lluoedd Arfog ar gyfer 2018 i 2021.

Telerau ac amodau diwygiedig ar gyfer Cadeirydd Career Choices Dewis Gyrfa Ltd

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i gynyddu’r nifer uchaf o ddiwrnodau y caiff Cadeirydd Career Choices Dewis Gyrfa Ltd gydnabyddiaeth ariannol amdanynt er mwyn darparu’r capasiti angenrheidiol i gyfrannu’n llawn at drawsnewid sefydliadol.

Cronfa Achub ac Ailstrwythuro Cymru

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cymeradwyo sefydlu Cronfa Achub ac Ailstrwythuro Cymru, a fydd yn cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru o haf 2018.

Gwella ffyrdd yn Nhonyrefail

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaith i wella ffyrdd.

Cyllid ar gyfer prosiect microlabel Pyst

21 Awst 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect a fydd yn rhoi cymorth i gerddorion a microlabeli Cymraeg i’w helpu i gael mynediad i farchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol .

Cyllid i ddoethuriaeth ar gyfer Parth Menter Glannau Port Talbot

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid i gefnogi cyflwyno doethuriaeth ar y cyd â Bwrdd Cynghori Parth Menter Glannau Port Talbot a Phrifysgol Abertawe, a fydd yn ymchwilio i symud technoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe i safle menter fasnachol yn y Parth.

Adroddiad Gr?p Cynghori Ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi nodi a chytuno ar Adroddiad Gr?p Cynghori Ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo nifer o geisiadau ar gyfer rhaglenni astudio newydd a cheisiadau i ehangu rhaglenni astudio y cytunwyd arnynt ar gyfer darpariaeth ôl-16 arbenigol.

Adolygu’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r ddogfen sy’n gwahodd pobl i roi eu barn, dogfen a fydd yn gofyn am fewnbwn y diwydiant i adolygu’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

Penodiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

21 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dilys Jouvenat yn Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) a Nicola Milligan yn Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) am bedair a dwy flynedd.

Partneriaethau Chwaraeon Cymunedol yn y Gogledd

20 Awst 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno ar y camau nesaf o ran datblygu dull gweithredu ar gyfer partneriaethau chwaraeon cymunedol yn y Gogledd.

Cynlluniau Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2018/19

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2018/19 a Chynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (Cymru) 2018, ac wedi cytuno i ddirprwyo’r gwaith o weinyddu’r cynlluniau i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

Cyllid Cyfalaf Dechrau’n Deg

20 Awst 2018

Mae Ysgrifenyddion y Cabinet dros Addysg ac Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo nifer o newidiadau i gyllid cyfalaf Dechrau’n Deg a ddyfarnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2018-19.

Y cynllun tocynnau teithio rhatach

20 Awst 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gymeradwyo caffael y contract yn ôl y gofyn G-Cloud 10 er mwyn darparu swyddogaethau cefn swyddfa ar gyfer y cynllun tocynnau teithio rhatach dros y 2 flynedd nesaf.

Cynllun Cyfathrebu ynghylch Diogelwch ar y Ffyrdd

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gefnogi’r ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd.

Land at Upper Farm, Cosmeston

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer astudiaethau a chofndoi geodechnegol sy’n gysylltiedig â Chais Cynllunio Amlinellol.

Adolygiad o effaith y gwasanaeth teithio am ddim ar fysiau ar goridorau teithio prysur iawn

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyhoeddi prif argymhellion a chanfyddiadau allweddol adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Stuart Cole, ar effaith y gwasanaeth teithio am ddim ar fysiau o ran patrymau defnyddio bysiau yn lle ceir ar hyd tri choridor teithio allweddol.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu cyllid i ddadansoddi yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar feini prawf cymhwysedd diwygiedig ar gyfer prydau ysgol am ddim, ac i’r newidiadau angenrheidiol sydd angen eu gwneud i’r system gwirio cymhwysedd defnyddwyr yng Nghymru.

Achosion Busnes ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Rhaglen Gyfalaf Addysg

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r achosion busnes a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi Cyfalaf i symud ymlaen i gam nesaf y broses achosion busnes a/neu ddyrannu cyllid.

Cyllideb yr Is-adran Gwastraff ac Effeithlonrwydd Adnoddau 2018/19

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio ac Amaeth a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno ar y gwariant arfaethedig ar gyfer cyllidebau refeniw a chyfalaf yr Is-adran Gwastraff ac Effeithonrwydd Adnoddau ar gyfer 2018-19, a bod yr hyn nad yw’n cael ei ariannu i’w gyllido gan y Prif Gr?p Gwariant.

Cynigion rheoli dalfeydd ar gyfer Eogiaid a Brithyllod y Môr

20 Awst 2018

Cynigion rheoli dalfeydd ar gyfer Eogiaid a Brithyllod y Môr Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar y camau nesaf mewn perthynas ag Is-ddeddf Gwialen a Lein (Eogiaid a Brithyllod y Môr) Cymru Gyfan 2017 ac i ysgrifennu at Arolygiaeth Cynllunio Cymru yn gofyn iddynt gynnal ymchwiliad lleol at ddibenion Deddf Adnoddau D?r 1991.

Ymestyn y prosiect Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

20 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu arian cyfatebol i gefnogi cais Cyllid Cymdeithasol Ewrop i wella ac ymestyn y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith tan ddiwedd Rhagfyr 2022.

Astudiaeth ddichonoldeb Ffordd yr Wyddgrug

08 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb o Goridor Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam.

Gwaredu lesddaliad eiddo yn Llanelli

08 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi derbyn cais i waredu’r lesddaliad hir ar Uned 5, Dragon 24, sydd ar y llawr cyntaf yn Noc y Gogledd, Llanelli, Sir Gaerfyrddin.

Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter Cymru

08 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo argymhellion am gymorth gan Gynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter Cymru.

Cynllun penodi ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

08 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail hysbysebu am Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Swyddogaethau Tocynnu Clyfar Corfforaethol

06 Awst 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y gellir caffael contract dwy flynedd ar gyfer y Swyddogaethau Tocynnu Clyfar Corfforaethol a’r costau cysylltiedig, gan ddefnyddio fframwaith GCloud 10 yn y Digital Marketplace.

Cyflymu Cymru  ymarfer taliadau gwariant cymwys

06 Awst 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar wariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 yn ymwneud ag ymarfer taliadau prosiect Cyflymu Cymru er mwyn penderfynu a yw’r gwariant a wnaed gan BT (gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru) wedi’i neilltuo’n rhesymol ar draws yr Ardal Ymyrryd a ddiffiniwyd dan Gytundeb Grant Cyflymu Cymru.

Ymchwil i Ymyrraeth a Pherchnogaeth Eiddo Llywodraeth Cymru

06 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer caffael ymchwil ar ymyrraeth a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru o eiddo masnachol yng Nghymru.

Cymorth TGCh ar gyfer Asesiad Personol Ar-lein

06 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi seilwaith TGCh mewn ysgolion wrth baratoi ar gyfer cyflawni gofynion digidol y cwricwlwm newydd.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol Dros Dro i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

06 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodiad dros dro Martin Turner fel Cyfarwyddwr Anweithredol tra bod y Cadeirydd hefyd ar benodiad dros dro. Mae’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus wedi cytuno i hyn hefyd gan fod rheidrwydd llywodraethol i gael Cyfarwyddwr Anweithredol â chefndir neu gymhwyster ariannol yn gwasanaethu ar y bwrdd.

Cynnig BT i Gyflymu Trefniadau Rhannu Elw

02 Awst 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gymeradwyo cynnig BT i gyflymu trefniadau rhannu elw er mwyn sicrhau bod band eang cyflym iawn, sef 30Mbps ac uwch, ar gael i 2754 yn rhagor o eiddo ar draws Cymru.

Grantiau Entrepreneuriaeth Ieuenctid ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch

02 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar raglen dair blynedd (Ionawr 2019 hyd Rhagfyr 2021) o gyllid grant i ysgogi canlyniadau entrepreneuriaeth ieuenctid, a’u cyflawni, yn y sectorau Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru.

Gorchymyn Caniatâd Datblygu Wylfa Newydd – Sylwadau Llywodraeth Cymru i Gofrestru fel Parti a chanddo Fuddiant yn yr Archwiliad

02 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i anfon y llythyr i’r Arolygiaeth Gynllunio, yn cofrestru Llywodraeth Cymru fel parti â chanddo Fuddiant mewn perthynas â chais Gorchymyn Caniatâd Datblygu Wylfa Newydd.

Trosglwyddo Swyddogaethau Trwyddedu Petrolewm

02 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar y trefniadau gweinyddol angenrheidiol i gefnogi’r broses o drosglwyddo swyddogaethau trwyddedu olew a nwy (petrolewm) ar y tir i Weinidogion Cymru ar 1 Hydref 2018.

Ail-benodi Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

02 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Mrs Bernadine Rees OBE yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o 1 Awst 2018 hyd 30 Mehefin 2022.

Cymorth Mesurau Arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

02 Awst 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo £6.8 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2018-19 a 2019-20 i ddarparu pecyn cymorth o dan drefniadau’r mesurau arbennig sydd ar waith ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Swyddogaethau Tocynnu Clyfar Corfforaethol

01 Awst 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y gellir caffael contract dwy flynedd ar gyfer y Swyddogaethau Tocynnu Clyfar Corfforaethol a’r costau cysylltiedig, gan ddefnyddio fframwaith GCloud 10 yn y Digital Marketplace.

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

31 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi penodi John Lloyd Jones fel Cadeirydd Interim Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a hynny am gyfnod o 12 mis.

Ffordd Ddeuol ar yr A465 Dowlais i Hirwaun ar gyfer Cerbydau â Sawl Teithiwr – symud ymlaen i’r cam cyn-cymhwyso

31 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno y gall y prosiect symud ymlaen i’r cam cyn-cymhwyso.

Cael gwared ar dir yn Llanandras, Powys

31 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cael gwared ar dir yn Llanandras, Powys.

Cymeradwyo’r Adroddiad ar yr Adolygiad Blynyddol or Rheolau ar Fewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid ar gyfer 2016-17'

31 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r Adroddiad ar yr Adolygiad Blynyddol or Rheolau ar Fewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid ar gyfer 2016-17. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno y gall yr adroddiad gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.'

Darparu cyllid ar gyfer Cynlluniau Rhannu Prentisiaeth y tu hwnt i ardaloedd Gweithlu’r Cymoedd

30 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ddiwygio protocol y Cynllun Rhannu Prentisiaeth ac i ddyrannu cyllideb o gyfanswm o £1,500,000 dros 2018-19 a 2019-20 i gefnogi Datblygu Cynlluniau Rhannu Prentisiaeth newydd ac i ehangu rhai presennol.

Cronfa Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes WEFO

30 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo dyfarnu grant.

Gwerthu tir yng Nghwmbran

30 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir ar les yng Nghwmbran i Gyngor Sir Torfaen ar ôl cynnal gwaith adfer a gwasanaethu o dan drwydded.

Gwerthu Ystad Ddiwydiannol C2 Baglan

30 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir.

Church Road, Pentwyn – Gwerthu tir

30 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir yng Nghaerdydd.

Cymorth ychwanegol i Gr?p Llandrillo Menai a Choleg Cambria – Wylfa Newydd

30 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cymorth ychwanegol i Gr?p Llandrillo Menai a Choleg Cambria cyn dechrau adeiladu gorsaf niwclear Wylfa Newydd. Nod y cymorth yw cynyddu nifer y dysgwyr sy’n gallu cael hyfforddiant mewn sgiliau Peirianneg ac Adeiladu ar draws y Gogledd.

Cefnogaeth Ddigidol Ôl-16, yn cynnwys cyllid grant y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth ar gyfer 2018-19

26 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo dyrannu £1.591 miliwn o gyllid refeniw yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19 i gefnogi gwaith digidol yn y sector addysg bellach a sgiliau drwy’r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth, y Swyddfa Fyfyrwyr a Phrosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Dosbarthu arian sy’n cael ei ddal mewn gweithred adneuo gorswm

26 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cydsynio i ddosbarthu arian sy’n cael ei ddal mewn gweithred adneuo gorswm.

Gwerthu tir datblygu ac adeiladu darn newydd o heol

26 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu 2.35 erw o dir ac adeiladu darn newydd o heol ym Mharc Busnes Penarlâg.

Ail Gylch Ceisiadau i Gronfa Buddsoddi i Arbed

26 Gorffennaf 2018

Cydsyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i lansio ail gylch ar gyfer ceisiadau i’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn dechrau ym mis Chwefror 2018.

Cais i Gronfa Buddsoddi i Arbed – Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Coleg G?yr

26 Gorffennaf 2018

Cydsyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ddefnyddio cyllid Twf Gwyrdd yng Nghronfa Buddsoddi i Arbed i ariannu prosiect effeithlonrwydd ynni yng Ngholeg G?yr.

Cais i Gronfa Buddsoddi i Arbed – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Prosiect Adolygu Depo Canolog

26 Gorffennaf 2018

Cydsyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ddyrannu cyllid o Gronfa Buddsoddi i Arbed i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gynnal adolygiad o swyddogaeth ei ddepo canolog.

Adroddiad Blynyddol Buddsoddi i Arbed a chylch ceisiadau 2018-19

26 Gorffennaf 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Adroddiad Blynyddol Budsoddi i Arbed a lansio cylch ceisiadau 2018-19, a fydd yn agor ar 4 Mehefin 2018.

Cais i Gronfa Buddsoddi i Arbed – CADW – Prosiect P?er Trydan D?r Ffwrnais Ddyfi

26 Gorffennaf 2018

Cydsyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ddarparu cyllid Twf Gwyrdd yng Nghronfa Buddsoddi i Arbed i ysgwyddo 97% o gostau prosiect p?er trydan d?r Ffwrnais Ddyfi a gyflwynwyd gan CADW.

Buddsoddi i Arbed – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

26 Gorffennaf 2018

Cydsyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon y bydd Cronfa Buddsoddi i Arbed yn darparu cymorth ariannol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer y prosiectau canlynol: - Academi gofal sylfaenol y tu allan i oriau; - Ailwampio’r gwasanaeth ymataliaeth; - Cynllyn clercod sy’n presgripsiynu; - Llesiant Staff – ymyriadau cynnar; - Ailgylch meddyginiaethau; - Moderneiddio cofnodion iechyd; a - Gwella gwasanaethau cylchrestru.

Buddsoddi i Arbed – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

26 Gorffennaf 2018

Cydsyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon y bydd Cronfa Buddsoddi i Arbed yn darparu cymorth ariannol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer y prosiectau canlynol: - System Electronig ar gyfer Rheoli Stoc Theatr; a - - Recriwtio Nyrsys Cofrestredig

Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

26 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid pellach i Raglen Arweinwyr y Dyfodol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru ar gyfer 2018 a 2019.

Gr?p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru: Penodiad Cyhoeddus i’r Gadair

26 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydsynio â chychwyn y broses o wneud penodiad cyhoeddus ar gyfer Cadeiryddiaeth Gr?p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

Prosiect Cyfalaf Cronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau

26 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo prosiect cyfalaf yn defnyddio’r gronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i brynu, ailwampio ac ehangu canolfan y GIG yng Nghraig Hyfryd, Caergybi i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer camddefnyddio sylweddau yng Nghaergybi a’r cyffiniau.

Prosiect Cyfalaf Cronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau

26 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo prosiect cyfalaf yn defnyddio’r gronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr iadnewyddu, ailwampio ac ehangu canolfan bresennol y GIG yngRowleys Drive, Shotton i ddarparu llety cynaliadwy ar gyfer gwasanaeth camddefnyddio sylweddau amlasiantaeth yn Shotton a’r cyffiniau.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo nifer o geisiadau ar gyfer rhaglenni astudio newydd a cheisiadau i estyn rhaglen astudio y cytunwyd arni ar gyfer darpariaeth ôl-16 arbenigol.

Trefniant cyllido benthyciadau ynni’r sector cyhoeddus

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddatblygu trefniadau newydd ar gyfer sicrhau bod cyllid heb log ar gael i gyrff cyhoeddus Cymreig at ddiben gwneud buddsoddiadau cyfalaf mewn datblygiadau ynni ac effeithlonrwydd ynni.

Cau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon yng Nghymru

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i fynd ati i gau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon yng Nghymru a datblygu trefn adrodd ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn mesur a monitro cynnydd yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Sector Cyhoeddus Niwtral o ran Carbon erbyn 2030.

Adroddiad Blynyddol a chyfrifon y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2017/18

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2017/18 ac wedi cytuno i’w gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Gorffennaf.

Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i agor cyfnod newydd ar gyfer Datgan Diddordeb yn y Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc 2018.

Buddsoddi i Arbed – Rhwydwaith y Gwasanaethau Brys

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi cytuno i ddarparu cymorth ariannol o’r gronfa Budsoddi i Arbed ar gyfer costau refeniw system newydd Rhwydwaith y Gwasanaethau Brys.

Buddsoddi i Arbed – Cymorth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyrannu cyllid o’r gronfa Buddsoddi i Arbed i Brifysgol Caerdydd ar gyfer menter yn ymwneud â Chymorth Myfyrwyr.

Buddsoddi i Arbed – Casglu Dyledion Llywodraeth Cymru

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo defnyddio’r gronfa Buddsoddi i Arbed i ddarparu cyllid ar gyfer cyllideb costau rhedeg Llywodraeth Cymru er mwyn gallu recriwtio un aelod ychwanegol o staff i’r tîm casglu dyledion.

Buddsoddi i Arbed – Cytundeb Fframwaith Comisiynu Strategol Cymru Gyfan

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno bod Buddsoddi i Arbed yn darparu cymorth ariannol dros dair blynedd ar gyfer y cynnig gan Gydwasanaethau’r GIG i weithredu Cytundeb Fframwaith Comisiynu Strategol Cymru Gyfan sy’n cwmpasu Cartrefi Gofal ar gyfer Oedolion Ifanc sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl a/neu wasanaethau anabledd dysgu.

Buddsoddi i Arbed – Cynllun Gadael Swydd yn Wirfoddol Tribiwnlys Prisio Cymru

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyrannu cyllid o gronfa Buddsoddi i Arbed i Dribiwnlys Prisio Cymru ar gyfer eu Cynllun Gadael Swydd yn Wirfoddol.

Prosiectau Buddsoddi i Arbed GIG Cymru

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer prosiectau Buddsoddi i Arbed canlynol GIG Cymru: - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – cofnodion digidol i gleifion - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – llawdriniaeth frys

Buddsoddi i Arbed – prosiect Techniquest

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r defnydd o’r gronfa Buddsoddi i Arbed i ddarparu cyllid yn 2018-19 ar gyfer cynnig gan Techniquest.

Cyllideb Ddrafft 2018-19 – Addasiadau Buddsoddi i Arbed

24 Gorffennaf 2018

Mae Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo adnoddau o’r gronfa Buddsoddi i Arbed i Brif Grwpiau Gwariant eraill a fydd yn rhan o’r dyraniadau yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer Buddsoddi i Arbed ym mlynyddoedd ariannol 2018-19 a 2019-20.

Buddsoddi i Arbed – Cais TGCh gan Lywodraeth Cymru

24 Gorffennaf 2018

Mae Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno i ddarparu cymorth ariannol o’r gronfa Buddsoddi i Arbed ar gyfer prosiect gweithredu TGCh Llywodraeth Cymru.

Buddsoddi i Arbed – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi cytuno bod y gronfa Buddsoddi i Arbed yn darparu cymorth ariannol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer y prosiectau canlynol: - Trefniadau dychwelyd pwrpasol ar gyfer cleifion iechyd meddwl - Cyfuno switsfyrddau - Cyflenwi gorchuddion heb bresgripsiwn mewn canolfannau nyrsys cymunedol - System e-gynllunio swyddi

Cyllideb Atodol 2017-18 – Addasiadau Buddsoddi i Arbed

24 Gorffennaf 2018

Mae Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno i drosglwyddo refeniw o £2,691,105 a chyfalaf o £1,535,444 o’r gronfa Buddsoddi i Arbed i Brif Grwpiau Gwariant eraill.

Dyrannu cyllid i’r cynlluniau ‘Rhentu i Brynu: Cymru’ a ‘Rhanberchnogaeth: Cymru’ 2018/19

24 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar gyllid refeniw ar gyfer costau datblygu ychwanegol mewn perthynas â’r cynlluniau ‘Rhentu i Brynu: Cymru’ a ‘Rhanberchnogaeth: Cymru’.

Astudiaeth Ddichonoldeb Archif Genedlaethol Cymru

19 Gorffennaf 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i gomisiynu astudiaeth gychwynnol a fydd yn ystyried opsiynau o safbwynt dyfodol archif genedlaethol yng Nghymru.

Grant FareShare Cymru

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i roi gwerth £50,000 o gyllid refeniw ychwanegol i FareShare Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2018 – 31 Mawrth 2019, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y Safonau Gofynnol ar gyfer Cyllid Grant.

Cais gan Gyngor Casnewydd am gyllid ychwanegol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

19 Gorffennaf 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer Cyngor Casnewydd er mwyn gwneud gwaith i’r safle Sipsiwn a Theithwyr yn Ellen Ridge.

Ymgynghoriad ar Reoliadau Gwaith Stryd (Cymwysterau Goruchwylwyr a Gweithredwyr) 1992

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y Gwaith Stryd.

Mesurau ymarferol ar gyfer helpu i leihau lefelau NO2 ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi rhoi caniatâd i swyddogion anfon llythyrau at randdeiliaid allweddol ym maes trafnidiaeth er mwyn rhoi gwybodaeth fwy manwl iddynt am y mesurau ar gyfer lleihau lefelau NO2 ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd.

Pencadlys Trafnidiaeth Cymru, Cwm Taf, Pontypridd

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi rhoi caniatâd i Weinidogion Cymru weithredu fel gwarantwr i’r brydles rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Cronfa Gwella Ardal Wrecam

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gyllido datblygiad pellach gynigion ynghylch prosiect rheilffordd yn Ardal Wrecsam.

Maes Awyr Sain Tathan – Sicrhau’r Manteision Economaidd Mwyaf Posibl

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo opsiynau ar gyfer gweithredu, rheoli a chynnal Maes Awyr a Pharc Busnes Sain Tathan.

Darparu gwasanaethau dynesu i mewn i’r Maes Awyr a’r Parc Busnes, Sain Tathan

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer darparu Gwasanaethau Radar Dynesu i’r Ddaear (GARS) yn y Maes Awyr yn Sain Tathan.

Dyraniadau cyllideb 2018-19

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r dyraniad arfaethedig o un o linellau cyllideb y Gangen Cyfrifoldebau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a Thrawsgwricwlaidd ar gyfer 2018-19.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cais gan Ysgol Trefanney, Lôn Gaer, Meifod, Powys SY22 6XX i gofrestru fel ysgol annibynnol newydd.

Cyfathrebu gyda ffermwyr

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gynhyrchu a dosbarthu llyfrynnau A5 i gyd-fynd â Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf yn 2018 a 2019 ac ar gyfer Ffair Wanwyn 2019.

‘Cais am Dystiolaeth’ ynghylch cyflenwi tai drwy’r system gynllunio

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad “Cais am Dystiolaeth” fel rhan o’r adolygiad eang o’r modd y gellir gwella’r gwaith o gyflawni’r gofynion o ran tai o fewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

Datgymhwyso dros dro baragraff 6.2 o TAN 1

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo datgymhwyso dros dro baragraff 6.2 o TAN 1 yn ystod yr adolygiad eang o’r modd y gellir gwella’r gwaith o bennu, cyflenwi a monitro gofynion o ran tai o fewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

Cymeradwyo Cyllid ar gyfer Adnewyddu

19 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid gwerth £1.197m gan Lywodraeth Cymru yn 2018-19 a 2019-20 ar gyfer adnewyddu’r cyfleusterau arennol yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Grant Cyflenwi Plant a Theuluoedd – Plant yng Nghymru

18 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog dros Blant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Plant yng Nghymru hyd fis Mawrth 2019.

Gr?p Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg

18 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i sefydlu Gr?p Cynghori Strategol dros dro ar gyfer rhaglen y Cymoedd Technoleg a fydd yn rhoi cyngor i Weinidogion Llywodraeth Cymru, yr Uwch Swyddog Cyfrifol a’r Gr?p Noddi ar gyflenwi, blaenoriaethau ac amcanion strategol sy’n gysylltiedig â’r Cymoedd Technoleg.

Fframwaith Cyflawni ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

17 Gorffennaf 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gynlluniau i gyhoeddi Fframwaith Cyflawni ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Ailbenodi Aseswyr Annibynnol ar gyfer Apeliadau a Chwynion Cyllid Myfyrwyr

17 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ailbenodi 8 Asesydd Annibynnol ar gyfer Apeliadau a Chwynion Cyllid Myfyrwyr 2018.

Cynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol i Blant a Phobl Ifanc

17 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddrafft o’r Cynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol i Blant a Phobl Ifanc, i’w gyhoeddi cyn toriad yr haf, ac i lansio’r Cynllun Gweithredu yn swyddogol yn yr hydref.

Pysgodfa Gocos y Tair Afon

17 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gadw gwelyau cocos Llanybri o fewn Pysgodfa Gocos y Tair Afon ar agor dros dro ym mis Gorffennaf 2018.

Ariannu Nyrs Lymffoedema Pediatrig Arbenigol

17 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ariannu swydd Nyrs Lymffoedema Pediatrig Arbenigol Cymru gyfan.

Cadeirydd Dros Dro Gr?p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru

17 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cyfnod darganfod ffurfiol i ymchwilio i’r ffordd orau o ddatblygu system ar-lein ar gyfer e-bortffolios ac e-fathodynnau.

Ceisiadau pellach am Gyllid Cyfalaf Dechrau’n Deg

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer Dechrau’n Deg.

Gweithgareddau Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus Gorffennaf 2018 – Medi 2018

16 Gorffennaf 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo taliadau chwarterol ar gyfer contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Cynnig ar gyfer cynnig Thema Sector Gwaith Cynhwysiant Cymdeithasol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r pwnc ‘Menter Gymdeithasol a gynigiwyd fel thema newydd ar gyfer Gweithgor Cynhwysiant Cymdeithasol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni Gorffennaf - Awst 2018

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo taliadau sy’n ddyledus ym mis Gorffennaf a mis Awst 2018 o dan drefniadau presennol y rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Bargen Ddinesig Dinas Ranbarth Bae Abertawe: Llywodraeth Cymru yn derbyn Cytundeb y Cyd-bwyllgor

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi derbyn Cytundeb y Cyd-bwyllgor ar gyfer Bargen Ddinesig Dinas Ranbarth Bae Abertawe.

Y Gronfa Seilwaith Eiddo – Tir Llwyd, Bae Cinmel

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo rhoi grant.

Cyhoeddi ‘Sut oedd yr ysgol heddiw?’

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid o fewn blwyddyn ariannol 2018-19 ar gyfer cyhoeddi canllaw Llywodraeth Cymru ‘Sut oedd yr ysgol heddiw?’ - rhifynnau cynradd ac uwchradd. Dyma ganllawiau i rieni a gofalwyr ynghylch yr ysgol gynradd (plant 7-11 oed) a’r ysgol uwchradd (plant 11-14 oed).

Datblygu system ar-lein ar gyfer e-bortffolios, e-fathodynnau ac adrodd wrth rieni

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cyfnod darganfod ffurfiol i ymchwilio i’r ffordd orau o ddatblygu system ar-lein ar gyfer e-bortffolios ac e-fathodynnau.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudiaethau ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo nifer o geisiadau ar gyfer darparu rhaglenni astudiaethau ôl-16 arbenigol newydd.

Cyllid ar gyfer Digwyddiadau i Randdeiliaid Allanol

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar gyllideb ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol.

Ail-benodi Aelod Annibynnol (Cymuned) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Delyth Raynsford yn Aelod Annibynnol (Cymuned) o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2020.

Capasiti Gofal Critigol - Mai 2018

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch cynlluniau i gynyddu capasiti gofal critigol yn GIG Cymru.

Y Bwrdd Trawsnewid

16 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch sefydlu Rhaglen Trawsnewid genedlaethol a Bwrdd Trawsnewid Traws-sector i fwrw ymlaen â’r argymhellion a nodir yn Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal

Uwchgynhadledd Partneriaeth Cymru yn erbyn Sgiamiau (WASP) – Cynnig Cyllid

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i roi cyllid i Bartneriaeth Cymru yn erbyn Sgiamiau (WASP) ar gyfer cynnal digwyddiad cenedlaethol. Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu ynghyd randdeiliaid allweddol i drafod sut i atal sgiamiau drwy’r post, ar stepen y drws, a thros y ffôn yng Nghymru.

Datblygu polisi Arferion Cyfyngol

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddiweddaru canllawiau Llywodraeth Cymru ar ymyriadau corfforol cyfyngol, yn unol â disgwyliadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Gwelliannau i’r A55 Abergwyngregyn i Dai’r Meibion

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi i gytuno i Orchmynion drafft gael eu gwneud ar gyfer Cynllun Gwella’r A55 Abergwyngregyn i Dai’r Meibion.

Adolygiad o’r Rhaglen Ardaloedd Menter – Costau Ymgynghoriaeth

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo costau ar gyfer caffael adolygiad cynhwysfawr o’r Rhaglen Ardaloedd Menter yng Nghymru, fel sail i weithredu’r rhaglen yn y dyfodol.

Cyhoeddi Dangosyddion Perfformiad Allweddol Ardaloedd Menter ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad blynyddol Dangosyddion Perfformiad Allweddol Ardaloedd Menter ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.

Cynllun cyfathrebu blynyddol

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r gyllideb ar gyfer gweithgarwch cyfathrebu a marchnata yn 2018-19 o’r gyllideb Cyfathrebu Strategol.

Cynllun cyfathrebu blynyddol

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r gyllideb ar gyfer gweithgarwch cyfathrebu a marchnata yn 2018-19 o’r gyllideb Cyfathrebu Strategol.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudiaethau ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo ceisiadau ar gyfer darparu rhaglen astudiaethau ôl-16 arbenigol newydd.

Yr arferion gweithio a gynigir ar gyfer cyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r dyraniadau a gynigir ar gyfer cyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19, a’r arferion gweithio.

Yr arferion gweithio a gynigir ar gyfer cyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r dyraniadau a gynigir ar gyfer cyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19, a’r arferion gweithio.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni, cynllunio a materion gwledig wedi derbyn argymhelliad y panel apeliadau annibynnol i wrthod apêl yn erbyn cais am gosb gor-ddatgan i gais cynllun y taliad sylfaenol 2015.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn nifer o hawliau’r Cynllun Taliad Sylfaenol a ddyrannwyd yn 2015.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn gosod cosb ar daliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch gan nad oedd manyleb dechnegol Opsiwn 645 wedi’i bodloni.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio derbyn cais Cynllun Glastir Organig 2015 gan na ddaeth i law o fewn y cyfnod ymgeisio.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio rhoi taliad Cynllun Taliad Sylfaenol 2016 gan nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw hawliau dan y cynllun.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod cais am Daliad Ffermwr Ifanc Cynllun Taliad Sylfaenol 2015 gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno dogfennau ategol o fewn y dyddiad gofynnol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn gosod cosbau ar daliadau Glastir Sylfaenol 2013, 2014 a 2015 gan nad oedd Gwaith Cyfalaf wedi’u gwblhau o fewn y terfyn amser a nodwyd.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn gosod 5% o gosb trawsgydymffurfio am dorri Gofyniad Rheoli Statudol 4 Cyfraith Bwyd a Phorthiant.

Penodi Cadeirydd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru – Canlyniadau’r Cyfweliadau

12 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dr Chris Jones yn Gadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru am gyfnod o 3 blynedd.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudiaethau ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

10 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo nifer o geisiadau ar gyfer darparu rhaglenni astudiaethau ôl-16 arbenigol newydd.

Cyfrif Diwedd Blwyddyn Careers Choices Dewis Gyrfa

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno y dylid rhoi cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i Careers Choices Dewis Gyrfa Cyf i gefnogi gwaith trawsnewid digidol ac ailstrwythuro sefydliadau.

Ymestyn cyfnod aelodau Bwrdd Careers Wales

09 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ymestyn cyfnod penodiadau cyhoeddus pedwar aelod anweithredol o Fwrdd Careers Choices Dewis Gyrfa o 1 Gorffennaf 2018 am hyd at dair blynedd.

Cyllid Cyfalaf Dechrau’n Deg

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer Dechrau’n Deg yn 2018/19.

Caffael doc Tywysog Cymru, SA1 Glannau Abertawe

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ynghylch caffael doc Tywysog Cymru ac ar drefniadau cyfreithiol a rheoli cysylltiedig yn SA1 Glannau Abertawe.

Y Rhaglen Gymdeithion – Tystiolaeth a Phrofiad Rhyngwladol – y British Council

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno y dylid trefnu a chyllido Deialog Addysg Fyd-eang ar gyfer Rhaglen Cymdeithion Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol mewn partneriaeth â’r British Council.

Dyrannu Cyllideb Arweinyddiaeth Addysgol ar gyfer 2018-2019

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer datblygu arweinyddiaeth addysgol.

Torri Cyfraith - Cydymffurfedd Cyrff Cynhyrchwyr – Ymateb y DU i Lythyr Hysbysiad Ffurfiol

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ynghylch yr ymateb y bydd y DU yn ei roi i’r Comisiwn Ewropeaidd yn sgil Llythyr Hysbysiad Ffurfiol DEFRA.

Penodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mark Polin yn Gadeirydd newydd am ddwy flynedd o 1 Medi 2018 tan 31 Awst 2020.

Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y dylid ailhysbysebu am Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifiysgol Aneurin Bevan.

Arolwg Cyfweliad Iechyd Ewropeaidd 2019

09 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyflwyno’r Arolwg Cyfweliad Iechyd Ewropeaidd yn 2019 yng Nghymru fel rhan o arolwg ar lefel y DU gyfan.

Prosiect Monitro Ansawdd Aer y Dreigiau Ifanc mewn Eco-Sgolion

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo rhoi cyllid ychwanegol o £2,800 i Brosiect Monitro Ansawdd Aer y Dreigiau Ifanc sy’n cynnwys plant a phobl ifanc sy’n rhan o rwydwaith yr Eco-Sgolion. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn galluogi pob un o’r 139 o Eco-Sgolion a wnaeth gais i gymryd rhan yn y prosiect i wneud hynny.

Cyllid ar gyfer y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yn 2018-19

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gymorth ariannol o £300k ar gyfer ffrydiau gwaith y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yn 2018-19.

Polisi Teithio gan Ddysgwyr: Adolygu’r Ddarpariaeth Statudol a’r Canllawiau Gweithredol ynghylch Teithio gan Ddysgwyr

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddiwygio Canllawiau Gweithredol ynghylch y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a gyhoeddwyd o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Gwneir hynny er mwyn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth, yn enwedig Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol ar Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.'

Grant i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ar gyfer Adnoddau Dysgu Addysgol Cymraeg

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo grant i CBAC gyhoeddi adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg i gefnogi manylebau arholiadau CBAC ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19.

Grant Bwyd a Hwyl 2018

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar grant ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn rhoi cymorth ariannol i gyflwyno’r rhaglen Bwyd a Hwyl eto yn ystod gwyliau haf ysgolion eleni.

Cyhoeddi Strategaeth Rheoli Clefyd y Croen Talpiog i Brydain Fawr

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyhoeddi Strategaeth Rheoli Clefyd y Croen Talpiog i Brydain Fawr.

Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Radon

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymgynghoriad Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar Gynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Radon. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn ymgynghori ar y cynllun ar ran pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cafodd y ddogfen ymgynghori ei chyhoeddi ar 29 Mehefin 2018, ac mae cyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 27 Gorffennaf 2018.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodiad Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd, fel Aelod Cyswllt.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

05 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i benodi Michael Hearty fel Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cynllun Gweithredol Amgueddfa Cymru 2018-19

04 Gorffennaf 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol Amgueddfa Cymru ar gyfer 2018-19 yn ffurfiol.

Adroddiad Cryno yr ymgynghoriad ar Deithio gostyngol ar fysiau i bobl ifanc yng Nghymru

03 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyhoeddi adroddiad cryno o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar Deithio Gostyngol ar Fysiau i bobl ifanc yng Nghymru ac i swyddogion edrych, gyda’r Conffederasiwn Trafnidiaeth i Deithwyr ac awdurdodau lleol, ar y posibilrwydd o ehangu’r cynllun.

Tir ym Mharc Busnes Glyn-nedd

03 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Busnes Glyn-nedd.

Gwerthu tir oddi ar Oak Road, Wrecsam

03 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu 4.55 acer o dir oddi ar Oak Road, Ystad Diwydiannol Wrecsam.

Datganiad Ysgrifenedig ar bennu ein targedau lleihau allyriadau a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf

03 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith bod y Cabinet wedi cytuno ar ein targedau dros dro i leihau allyriadau (ar gyfer 2020, 2030 a 2040) a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf. Mae hefyd yn cyfeirio at ein ffigurau lleihau allyriadau ar gyfer 2016 ac yn tynnu sylw at ein ymgynghoriad yn fuan ar gyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030.

Arian ychwanegol ar gyfer Tîm y Lluoedd Arfog

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i roi mwy o arian o’i gyllideb ar gyfer rhaglenni i dîm y Lluoedd Arfog.

Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol: Grantiau o dan £25,000 a roddwyd ym mis Mehefin 2018

02 Gorffennaf 2018

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i roi cyllid cyfalaf yn 2018-19 ar gyfer 13 prosiect drwy elfen grantiau o dan £25,000 y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

Dyraniadau hyd at £250,000 i brosiectau sy’n rhan o’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ym mis Mehefin 2018

02 Gorffennaf 2018

Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i gyllido 6 phrosiect o dan elfen ’hyd at £250,000’ Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol 2018-19.

Cynllun Gweithredol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 2018-19

02 Gorffennaf 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo’n swyddogol Gynllun Gweithredol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyfer 2018-19.

Cynllun Gweithredol Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2018-19

02 Gorffennaf 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19 yn ffurfiol.

Cyllid ar gyfer adeiladu cynllun lliniaru llifogydd ym Mochdre, Conwy

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo grant gwerth £357,241 tuag at gost adeiladu cynllun lliniaru llifogydd yn Chapel Street, Mochdre.

Cyllid ar gyfer dylunio cynllun Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol Caerdydd

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo grant gwerth £638,549 tuag at gost dylunio cynllun Rheoli Perygl Arfordirol Lamby Way i Rover Way.

Cyllideb Integreiddio a Gweithio mewn Partneriaeth 2018-19

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu gwaith i integreiddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ochr yn ochr â hyrwyddo sefydliadau ag iddynt werth cymdeithasol yn 2018/19.

Cymeradwyo’r rhaglen waith mabwysiadu

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y rhaglen waith mabwysiadu.

Cronfa Teithio Llesol 2018-19

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r broses ymgeisio ar gyfer Cronfa Teithio Llesol 2018-19.

Cronfa Teithio Llesol 2018-19

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r broses ymgeisio ar gyfer Cronfa Teithio Llesol 2018-19.

Y Gronfa Gofal Integredig – Canllawiau ar gyfer Cyllid Cyfalaf

02 Gorffennaf 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo’r canllawiau newydd ar gyfer rhaglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig a dyraniadau cyfalaf Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gronfa ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Dyraniadau Dysgu Seiliedig ar Waith 2018/19

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo dyraniadau 2018/19 ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith a fydd yn cyflenwi rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiaethau.

Caffael Prentisiaethau

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i gomisiynu Prentisiaeth o dan y fframwaith WBL4 2015-19, wedii ymestyn am ddwy flynedd tan Gorffennaf 2020 ac wedi cytuno i ail-gaffael Prentisiaethau o fis Awst 2020.

Cynllun Busnes blynyddol Dewis Gyrfa ar gyfer 2018-19

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo Cynllun Busnes Blynyddol Dewis Gyrfa ar gyfer 2018-19.

Cymeradwyo ymrwymo cyllid i gefnogi datblygu mesurau perfformiad ôl-16

27 Mehefin 2018

Mae ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi datblygiad mesurau perfformiad ôl-16 ar gyfer chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.

Cyllido Symposiwm Polisi Chwarae y Pedair Gwlad 20 & 21 Tachwedd 2018 yng Nghaerdydd

27 Mehefin 2018

Maer Gweinidog Plant Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Symposiwm Polisi Chwarae y Pedair Gwlad i'w chynnal yng Nghymru yn 2018.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr 2018-19

27 Mehefin 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid i brosiectau ar gyfer cylch cyntaf y ceisiadau am gynllun Grant Cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr 2018-19; ac wedi cytuno ar ddyddiadau ar gyfer yr ail gylch ymgeisio.

Cytundeb i dderbyn taliad ‘gorswm’

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo taliad sy’n deillio o waredu eiddo masnachol.

Datblygu cyfleuster ar gyfer rheilffyrdd y DU

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo Achos Amlinellol Strategol y Ganolfan Byd Eang o Ragoriaeth ym maes y Rheilffyrdd ac wedi cymeradwyo’r cyllid cysylltiedig ar gyfer datblygu’r prosiect ymhellach ac mewn rhagor o fanylder.

Cael gwared ar eiddo yn Sain Tathan

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cael gwared ar eiddo preswyl yn Sain Tathan.

Tir yn Oakdale, Caerffili

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r gwaith o gaffael safle a’r gwariant ar seilwaith.

Dyrannu Cyllidebau Cyfathrebu Digidol a Strategol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer 2018-19

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo dyrannu cyllidebau refeniw Is-adran Cyfathrebu Digidol a Strategol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus syn gysylltiedig â'r ddarpariaeth ddigidol o fewn llinell wariant y gyllideb ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Dysgu Digidol mewn Addysg ar gyfer 2018-2019.'

Setiau Data Craidd Cymru Gyfan 2018

27 Mehefin 2018

Maer Ysgrifennydd Addysg wedi cytuno i gynnal ymarfer caffael ar gyfer contract 2 flynedd newydd i barhau a datblygu Setiau Data Craidd Cymru Gyfan'

Gwella Priffordd yr A55 rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion - Datganiad

27 Mehefin 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo’r Datganiad a fydd yn sail i asesiad priodol.

Cyllido Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) Cymru Hydref 18 hyd Mawrth 19 a’r trefniadau ar gyfer y dyfodol

27 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo £1,750,000 ar gyfer Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) Cymru, o Hydref 2018 hyd ddiwedd Mawrth 2019.

Ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu s?n a seinwedd

25 Mehefin 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar ym mis Gorffennaf ar y cynllun gweithredu s?n a seinwedd 2018-2023 draft.

Endeavr Cymru Gr?p Airbus a chynnig ymchwil ac arloesi Seiber Labordy

25 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r cynllun ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Gr?p Airbus a Phrifysgol Caerdydd (yn cynrychioli Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru) - Endeavr Cymru - a fydd yn cynnwys rhaglen ymchwil ac arloesi Seiber Ddiogelwch.

Tir ym Mrychdyn, Sir y Fflint

25 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar astudiaethau dichonoldeb a llinell sylfaen, a pharatoi Fframwaith Datblygu.

Ildio cytundeb menter ar y cyd yn ymwneud ag eiddo yn Rhydaman

25 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo ildio cytundeb menter ar y cyd yn ymwneud ag eiddo yn Rhydaman.

Canllawiau cynllunio ar ansawdd aer a seinwedd, gan gynnwys diweddaru Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 11: S?n (1997)

25 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i adolygu a diweddaru Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 11: S?n (1997) a gosod canllawiau newydd ar ansawdd aer a seinwedd yn ei le.

Cynllunio Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd

21 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer penodi ymgynghorwyr i fynd â’r gwaith o gynllunio Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd i’r cam datblygu nesaf.

Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol 2016/17

21 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r ‘Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2016-2017’ ar wefan Llywodraeth Cymru.

Sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Ddigartrefedd

21 Mehefin 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar sefydlu a chadeirio Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Ddigartrefedd, a fydd yn canolbwyntio ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc a Thai yn Gyntaf.

Cyllideb Bolisi Gyrfa Cymru

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo gweithgareddau i’w cefnogi trwy Gyllideb Bolisi Gyrfa Cymru.

Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith (B-WBL): 2017/18 Pwysau Dyrannu’r Contract Dysgu Seiliedig ar Waith

20 Mehefin 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gais gan Ddarparwr Dysgu Seiliedig ar waith – Consortiwm B-WBL am gyllideb ychwanegol i gynyddu gwerth ei gontract Prentisiaethau 2017/2018.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Priffyrdd 1980, Gorchymyn Cau Priffyrdd (Chimneys Link, Abergwaun, Sir Benfro) 2018

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i wneud “Gorchymyn Cau Priffyrdd (Chimneys Link, Abergwaun, Sir Benfro,) 2018” ar ôl ystyried dau wrthwynebiad.

Argymhelliad ar gyfer y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau ac arian ar gyfer Cyllid Busnes

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ariannu cynhyrchu ffilm trwy’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau a Chyllid Busnes.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB) Arbenigol

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo ceisiadau ar gyfer rhaglenni astudio newydd, a chais am estyniad i raglen astudio y cytunwyd iddi ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16.

Ymgynghoriad ar gyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Gweinidog yr Amgylchedd a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar nifer o gamau gweithredu posibl i ymgynghori arnynt dros yr haf o ran cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030.

Cymorth i Gronfa Hysbysebu Veg Power

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyllid ar gyfer Cronfa Hysbysebu Veg Power.

Estyn cyllid ar gyfer Rhaglen Gwella Gwastraff Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i ariannu’r Rhaglen Gwella Gwastraff (WIP) a darpariaeth gymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) tan fis Mawrth 2021.

Adroddiadau Blynyddol ar Gynlluniau Marchnata Amaethyddol Bwrdd Marchnata Gwlân Cymru ar gyfer 2016/17

20 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar Adroddiad Cynllun Marchnata Amaethyddol Gwlân Cymru 2016/17.

Adolygiad o Gylchlythyr 10/99 y Swyddfa Gymreig

18 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno Cylchlythyr Llywodraeth Cymru newydd i gymryd lle Cylchlythyr 10/99 y Swyddfa Gymreig, er mwyn darparu’r cyngor diweddaraf i’r awdurdodau cynllunio a datblygwyr ar gynllunio a systemau carthffosiaeth heb brif gyflenwad.

Digwyddiad Rhwydwaith Cymru Gyfan ar Gyllido Hyblyg

18 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar gynnig am gyllid i gynnal Digwyddiad Rhwydwaith Cymru Gyfan ar Gyllido Hyblyg, er mwyn dwyn ynghyd yr holl Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth ac arfer gorau â’i gilydd o ran y camau y maent wedi’u cymryd o ganlyniad i’r hyblygrwydd a sut y gallai hyn wneud gwahaniaeth i bobl agored i niwed.

Darpariaeth Eirioli Statudol – cyllido Cynnig Gweithredol 2018-19

18 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer darpariaeth eirioli statudol yn 2018-19.

Tir ym Mharc Busnes Llanelwy

18 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Busnes

Aelodaeth o’r Gynghrair Under 2

18 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn aelod o’r Gynghrair Under 2 ac yn cadarnhau ei diddordeb mewn cymryd rhan yn y gr?p llywio am ddwy flynedd arall.

Papur tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

18 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu papur tystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar atal hunanladdiad cyn y cyfarfod ar 27 Mehefin.

Datganiad ysgrifenedig ar berfformiad ariannol y GIG 2017-18

18 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i ddiweddaru Aelodau’r Cynulliad ar gyfrifon bob un o 10 sefydliad y GIG ar gyfer 2017-18 sydd wedi’u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a’u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Dull Gweithredu System Gyfan – Cynnig ar gyfer y Cynllun Braenaru i Fenywod

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r cynnig ar gyfer y Cynllun Braenaru i Fenywod ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 a’r 3 blynedd dilynol er mwyn darparu dull dargyfeiriol o fynd i’r afael â throseddu ymhlith benywod yng Nghymru.

Cynllun Busnes Academi Cymru 2018-19

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo cynnwys craidd Cynllun Busnes Academi Cymru 2018-19, a’r gyllideb ar gyfer ei gyflawni.

Y Cynnig Gofal Plant – Grantiau Gweinyddu i Awdurdodau Lleol

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo Grantiau Gweinyddu i Awdurdodau Lleol mewn perthynas â’r cynnig gofal plant.

Cymorth ar gyfer Ardaloedd Arloesi Plant yn Gyntaf

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gymorth ariannol ar gyfer Ardaloedd Arloesi Plant ynGyntaf yn 2018-19

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Dull gweithredu ar gyfer gwarchodwyr plant sy’n gofalu am berthnasau

14 Mehefin 2018

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyfeiriad polisi mewn perthynas â’r dull gweithredu ar gyfer gwarchodwyr plant sy’n gofalu am berthnasau.

Grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn ymateb i fethiant yng ngwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol yn 2018-19

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyfarnu grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn ymateb i fethiant yng ngwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol yn 2018-19.

Rhwydwaith Adweithyddyddion D?r Berw – ymestyn y cyfnod ariannu

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ymestyn y cyfnod ariannu ar gyfer y Rhwydwaith Adweithyddion D?r Berw tan fis Mawrth 2020.

Cyhoeddi ‘Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen? Canllaw i rieni a gofalwyr’

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ariannu cyhoeddiad yr adnodd ‘Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen?’ Canllaw i rieni a gofalwyr’.

Cynllun Tir ar gyfer Tai 2018/19

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno y dylai’r Cynllun Tir ar gyfer Tai barhau er mwyn defnyddio’r dyraniad o £10m yn 2018-19.

Cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet ar Gynlluniau Tymor Canolig Integredig a Chynlluniau Blynyddol sefydliadau GIG Cymru

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am Gynlluniau Tymor Canolig Integredig sefydliadau GIG Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

14 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Jacqueline Hughes yn Aelod Annibynnol (Undebau Llafur) am bedair blynedd.

Cyllidebau Gr?p Cynghori’r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant

13 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi penderfynu parhau i gyllido rhaglen waith Gr?p Cynghori’r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2018-19, gan gynnwys y gwariant ar gyfer rhaglen waith Cam 2 y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Preswyl i Blant.

Cyflawni Rhaglen Chwarae Teg yn 2018-2019

13 Mehefin 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid grant i gyflawni’r rhaglen Chwarae Teg o fis Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019.

Cronfa Fusnes Micro a Bychan

13 Mehefin 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer tri phrosiect yn ystod 2018/19.

Fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol yn y sector ôl 16 oed

11 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo gwariant i gefnogi datblygu fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol yn y sector ôl 16 oed.

Ymgynghorydd Cynllunio – Lanmaes Residential

11 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cytuno i wariant sy’n gysylltiedig â phenodi Ymgynghorydd Cynllunio Cynhwysfawr er mwyn sicrhau Caniatâd Cynllunio Amlinellol ar gyfer tir preswyl gerllaw Ffordd Fynediad y Gogledd, Llanmaes, Sain Tathan.

Tir ym Mhen y Bont, Yr Wyddgrug

11 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar astudiaethau llinell sylfaen, cynllunio cynhwysfawr a pharatoi a chyflwyno cais cynllunio amlinellol.

Targedau Derbyn Addysg Gychwynnol i Athrawon – Blwyddyn Academaidd 2019/20

11 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i’r dyraniad drwy Gymru gyfan o niferoedd derbyn ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon sydd newydd eu hachredu ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2019/20.

Cyllidebau’r Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau

11 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllidebau’r Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2018-19 ac arferion gwaith yr Is-adran.

Grant i Gyngor y Gweithlu Addysg

11 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar Lythyr Cynnig Grant i Gyngor y Gweithlu Addysg mewn cysylltiad â’r gweithgareddau y byddan nhw’n eu cynnal yn 2018-19 ar ran Llywodraeth Cymru.

Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod

11 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar geisiadau cyfalaf gan 8 awdurdod lleol am y Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod .

Estyn Gwaith Profi a Gwirio

07 Mehefin 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ychwanegol at ddiben profi a gwirio’r seilwaith a ddefnyddir gan BT o dan brosiect Cyflymu Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

Digwyddiad cyhoeddus ar gyfer Adolygiad Reid

07 Mehefin 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid tuag at gostau cyhoeddusrwydd, cyfathrebu a lletygarwch digwyddiad cyhoeddus.

Adolygiad o Ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu

07 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo grant refeniw i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at ddiben comisiynu adnoddau ar gyfer cefnogi’r Adolygiad o ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu.

Ffordd Fabian, Jersey Marine

07 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo opsiwn ar gyfer gwerthu tir.

Astudiaeth o Goridor Caer - Brychdyn

07 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid tuag at gost Astudiaeth Ffordd Gogledd Cymru/Trawsffiniol yn 2018/19.

Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter Cymru

07 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo argymhellion Cynllun Ardrethi Busnes yr Ardaloedd Menter am nawdd.

Cais i Brynu yn ôl Disgresiwn yr A465 Blaenau’r Cymoedd – Penderfyniad

07 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddechrau trafodaethau ynghylch cais i brynu t?, tir a thai allan yn ôl disgresiwn ar gyfer Adrannau 5 a 6 cynllun ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd.

Argymhellion ar gyfer ariannu’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau

07 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ariannu cyfres deledu trwy’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau a chytuno ar wariant ar y cyngor cyfreithiol cysylltiedig.

Cymhellion Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg Bellach) 2018-19

07 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cymhellion a fydd ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion yn amser llawn cyn dechrau addysgu.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn: Ymgynghoriad ar Ddiwygio Methodoleg Ddyrannu

06 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar sefydlu methodoleg newydd ar gyfer dyrannu cyllid o Gronfa Ariannol wrth Gefn yn flynyddol i Sefydliadau Addysg Bellach.

Diweddariad: Cronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol

06 Mehefin 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno y bydd Cronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol ar gyfer 2019/20 yn canolbwyntio’n bennaf ar ailgylchu plastigau. Caiff deunyddiau eraill eu hystyried yn ogystal, fodd bynnag, os bydd digon o arian grant ac os bydd swyddogion yn ystyried ymhellach yr opsiynau ar gyfer datblygu a rheoli’r gronfa ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff yr argymhelliad terfynol ei gyflwyno i’r Gweinidog ei gymeradwyo.

Trosglwyddiad Ariannol Arfaethedig

06 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo amrywiad i gytundeb benthyciad.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

06 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo saith cais ar gyfer rhaglen astudio newydd a phum cais ar gyfer estyniad i raglen astudio gymeradwy ar gyfer darpariaeth arbenigol mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Rhaglen Haf Yale

06 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y ffordd o ymdrin â Rhaglen Haf Ysgolheigion Ifanc Byd Eang Yale.

Rhaglen Diogelwch Arloesi a Dargyfeirio Awdurdodau Tân ac Achub

05 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar gyllid refeniw ar gyfer tair Rhaglen Diogelwch Arloesi a Dargyfeirio yr Awdurdodau Tân ac Achub yn 2018-19.

Cyllid ar gyfer darparu hyfforddiant mewn bondio diogel ac ymlyniad

05 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg , Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog dros Blant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyllid yn 2018-19 i gefnogi darparu hyfforddiant mewn bondio diogel ac ymlyniad i ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn gwasanaethau ymwelwyr iechyd ym maes Dechrau’n Deg a gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan Dechrau’n Deg.

Cais am gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru

05 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gais oddi wrth Catch22 Include Wales, Bargoed Institute, Cardiff Road, Bargoed. CF81 8NY i gofrestru fel ysgol annibynnol newydd.

Cais am gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru

05 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gais oddi wrth Al-Falah Academy, 26 Wells Street, Caerdydd CF11 6DX i gofrestru fel ysgol annibynnol newydd.

Dirymu’r Parth Atal Ffliw Adar

05 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddirymu’r Parth Atal Ffliw Adar a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018.

Dirymu’r Parth Atal Ffliw Adar

05 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddirymu’r Parth Atal Ffliw Adar a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018.

Dirymu’r Parth Atal Ffliw Adar

05 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddirymu’r Parth Atal Ffliw Adar a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018.

Cylch Gwaith a Chyllid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru

04 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cylch gwaith a’r ddarpariaeth gyllid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol 2018/19.

Prescripsiynau gwrthficrobaidd

04 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y disgwyliadau ar sefydliadau’r GIG o sicrhau lleihad pellach mewn prescripsiynau gwrthficrobaidd a heintiau’n gysylltiedig â gofal iechyd.

Taliadau drwy Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru

04 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasaneathau Cymdeithasol wedi cytuno i’r codiad yn y taliadau a wneir drwy Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Trosi Cyfarwyddeb yr UE ar Ddiogelwch Rhwydweithiau a Systemau Gwybodaeth

01 Mehefin 2018

Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi cymeradwyo  rhannu cyfrifoldebau dros roi Cyfarwyddeb yr UE ar Ddiogelwch Rhwydweithiau a Systemau Gwybodaeth ar waith a’i gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth D?r Yfed.

Cyllid ar gyfer Rhaglen Waith Diogelu ac Eirioli

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen waith diogelu ac eirioli 2018/19.

Ymateb i adroddiad y Comisiynydd Pobl H?n

01 Mehefin 2018

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Comisiynydd Pobl H?n ‘ Lle i’w Alw’n Gartref: Effaith a Dadansoddiad’.

Contract Applied Card Technology Ltd

01 Mehefin 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i roi estyniad o bedwar mis i gontract Applied Card Technology Ltd ac wedi cymeradwyo’r costau cysylltiedig.

Ffordd Osgoi newydd yr A487 Caernarfon i Bontnewydd  

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwneud Gorchmynion ar gyfer Ffordd Osgoi newydd yr A487 Caernarfon i Bontnewydd  yn dilyn Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Gorchmynion Drafft a dogfennaeth gysylltiedig.

Maes Parcio a chyfleusterau cyhoeddus Storey Arms

01 Mehefin 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i drosglwyddo maes parcio Pont ar Daf i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i roi grant iddi ar gyfer ei uwchraddio.

Aelodaeth o’r Integrated Transport Smartcard Organisation

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i adnewyddu Ffioedd Aelodaeth blynyddol yr Integrated Transport Smartcard Organisation  ar gyfer 2018/19 ac wedi cymeradwyo’r costau cysylltiedig.

Prosiect datblygu ffynonellau lluosog o ynni adnewyddadwy

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru roi cyfle ar gyfer prosiect datblygu  ffynonellau lluosog o ynni adnewyddadwy yn Ardal Chwilio Strategol F ar y farchnad .

Noddi Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo rhoi cyllid nawdd i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2018-19.

Trefniadau Llywodraethiant ar gyfer Pwyllgorau Moeseg Ymchwil

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyhoeddi Trefniadau Llywodraethiant ar gyfer Pwyllgorau Moeseg Ymchwil.

Swydd wag ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu ar gyfer Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr .

Canolfan Gofal Integredig Aberaeron

01 Mehefin 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo rhoi £2,408 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar draws 2018-19 a 2019-20 i ailwampio ac ailddatblygu ased bresennol y GIG yn Aberaeron i fod yn Ganolfan Gofal Integredig.

Newidiadau arfaethedig i Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013

23 Mai 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno ar newidiadau arfaethedig i Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 y DU, ac y dylid cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad.

Cyllid ar gyfer Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio

23 Mai 2018

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio ar gyfer 2018/19.

Cyllido’r Diffyg yng Nghynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn sgil Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)

23 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllido’r diffyg yng Nghronfa Bensiwn y Gwasanaeth Sifil yn sgil symud staff Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) o Asiantau’r Cefnffyrdd i Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddi Canllawiau ynghgylch Waliau Allanol

23 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y dylid cyhoeddi canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru ynghylch arferion da wrth inswleiddio waliau allanol.

Opsiynau Cyllid: Cartrefi Dinas Casnewydd, Landlord Tai Cymdeithasol

23 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf ar gyfer Cartrefi Dinas Casnewydd i dalu am gostau ailosod cladin blociau tai cymdeithasol uchel yng Nghymru, lle bo angen.

Dyraniadau Rhaglen Grant Trawsnewidiol Cyfalaf yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd – 2018-2019

22 Mai 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo dyrannu cyllid er mwyn cefnogi gwaith mewn Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.

Consesiwn Cefnffyrdd – Parhau i mewn i flwyddyn ariannol 2018/19

22 Mai 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y dylai swyddogion barhau â gweithgareddau i sicrhau consesiwn i roi mynediad i rwydwaith pibelli cefnffyrdd i mewn i flwyddyn ariannol 2018/19.

Adrannau 5 a 6 – A465

22 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo y dylid dosbarthu’r adroddiad ar brofi’r farchnad a’r papurau penderfyniad atodol i holl randdeiliaid y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a fydd yn cynnal ein hymgysylltiad tryloyw â’r farchnad.

Gwerthuso hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer colli ysgol yn rheolaidd

22 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar sut i ddefnyddio Hysbysiadau Cosb Benodedig yn y dyfodol yng Nghymru – y dylai codau Awdurdodau Lleol barhau ond y dylid cael canllawiau cenedlaethol cryfach gan Lywodraeth Cymru.

Pwysoli cymhwyster Uwch Gyfrannol (UG) wrth fesur perfformiad

22 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i barhau i ddyrannu pwyntiau gwerth 50% o gymhwyster Safon Uwch i bob cymhwyster UG yng Nghymru at ddibenion mesurau perfformiad.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

22 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn cosb gorddatgan mewn perthynas â cheisiadau o dan Gynllun Taliad Sengl 2012, 2013 a 2014 a chais o dan Gynllun Taliad Sylfaenol 2015.

Cynllun gweithredol Hybu Cig Cymru

22 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi Cynllun Gweithredol 18/19, Cynllun Corfforaethol 2018-2021 a Gweledigaeth 2025 Hybu Cig Cymru.

Dyrannu rhagor o Gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol

21 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo dyraniad o arian ar gyfer Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol i sefydliadau Addysg Bellach er lles dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Rhaglen Cefnogi Arloesedd y Strategaeth Ddiwydiannol

21 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i sefydlu Cronfa ar gyfer Rhaglen Cefnogi Arloesedd y Strategaeth Ddiwydiannol. Defnyddir y Gronfa i ailddatblygu ac estyn cwmpas Rhaglen y Fenter Busnesau Bach lwyddiannus. Bydd yn rhedeg o fis Mai 2018 tan fis Mawrth 2021.

Caffael Eiddo

21 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i brynu rhydd-ddaliad eiddo yng Nghaerffili.

Gwobrau Arloesedd i Fyfyrwyr Cydbwyllgor Addysg Cymru

21 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i roi grant i Gydbwyllgor Addysg Cymru i gynnal digwyddiad Gwobrau Arloesedd i Fyfyrwyr 2018.

Achosion Busnes y Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

21 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y newidiadau i’r dyraniadau i Gyngor Sir Caerfyrddin ac Achosion Busnes ar gyfer ariannu Cyfarpar Datblygu Sgiliau ym mhob Sefydliad Addysg Bellach.

Cyllid ar gyfer Cynhadledd ar y cyd â Chymdeithas Ymchwil Addysg Prydain

17 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid.

Proses o wneud penderfyniadau ynghylch Cyllid Grant Addysg Cyfrwng Cymraeg

17 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r broses o wneud penderfyniadau a’r cylch gorchwyl ar gyfer cynigion am y £30 miliwn o gyllid cyfalaf sydd ar gael i gefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyllid ychwanegol ar gyfer cefnogi cyflawniad teithwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a Sipsi/Roma 18-19

17 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r dull a hefyd drefniadau dosbarthu’r dyraniad sy’n weddill ar gyfer cefnogi trefniadau pontio’r teithwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a Sipsi/Roma ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, 2018-19 a’r flwyddyn ariannol nesaf 2019-20.

Bwrsari’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r ddogfen ymgynghori arfaethedig

17 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gynnal y trefniadau ar gyfer Bwrsari’r GIG yng Nghymru yn 2019-20 ac i ymgynghori ynghylch trefniadau at y dyfodol.

Cynllun Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru 2018/19

16 Mai 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2018/19, gan gynnwys y prif ddangosyddion perfformiad a nodir ynddo.

Taliadau a ffioedd trwyddedu amgylcheddol ar gyfer cyfleuster diwydiannol Kronospan yn y Waun

16 Mai 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo cynllun ffioedd trwyddedu amgylcheddol atodol, sy’n pennu’r ffi y caiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei chodi ar Kronospan i adennill costau gweithredu rheoliadau amgylcheddol mewn perthynas ag unedau cydlosgi gwastraff Kronospan, y Waun.

Cytundeb Plastigau’r DU WRAP

16 Mai 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i fod yn un o lofnodwyr sylfaenol Cytundeb Plastigau’r DU WRAP.

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus – Gweithgareddau rhwng Ebrill 2018 – Mehefin 2018

16 Mai 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo taliadau chwarterol ar gyfer contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Taliadau Cyflenwi ac Entrepreneuriaeth Mai – Mehefin 2018

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r taliadau a fydd yn cael eu gwneud ym mis Mai a Mehefin 2018 o dan drefniadau presennol y rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflenwi.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

16 Mai 2018

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo naw o geisiadau ar gyfer rhaglen astudio newydd fel rhan o’r ddarpariaeth ôl-16 arbenigol.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo saith cais ar gyfer rhaglen astudio newydd fel rhan o’r ddarpariaeth ôl-16 arbenigol .

Datblygu polisi a chaffael llwybrau amgen i addysgu

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddatblygu a chyflawni cwrs TAR rhan-amser newydd a fydd ar gael ar draws Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019/2020. Bydd yn cynnwys Llwybr newydd a chenedlaethol sy’n seiliedig ar Gyflogaeth a fydd yn ffurfio rhan o becyn cydlynol o lwybrau amgen o’r radd flaenaf i addysgu, gan gefnogi athrawon o’r dechrau a thrwy eu haddysg gychwynnol i athrawon hyd nes y byddant yn cyflawni Statws Athro Cymwys.

Neuadd Breswyl Pantycelyn – Cais am Grant y Gymraeg

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo argymhelliad Panel Buddsoddi y Gymraeg i roi cyllid i Neuadd Breswyl Pantycelyn.

Archwiliadau a Grantiau Rhanbarthau Addysg 2018-19

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddulliau o lywodraethu a chynllunio archwiliadau rhanbarthau addysg, a’r grantiau a ddefnyddir i gefnogi’r Consortia Addysg Rhanbarthol.

Fframwaith Gwella’r Mesurau Arbennig

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi’r fframwaith gwella sy’n deillio o’r mesurau arbennig a weithredir mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rhwng Mai 2018 a Medi 2019.

Datganiad ar gynlluniau i gyflwyno cynllun i ddarparu indemniad proffesiynol ar gyfer esgeuluster clinigol i feddygon teulu yng Nghymru

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y bwriad i gyflwyno cynllun a ariennir gan y wladwriaeth i ddarparu indemniad proffesiynol i feddygon teulu yng Nghymru.

Datganiad ysgrifenedig – diweddariad ar hynt y gwaith ers cyflwyno’r model ymateb clinigol a rhaglen garlam ar gyfer adolygiad melyn

16 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch hynt y gwaith ers cyflwyno’r model ymateb clinigol a’u hysbysu ynghylch Rhaglen Garlam Adolygiad Melyn sy’n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Penodiadau i Gyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg

15 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r bobl ganlynol yn aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg am bedair blynedd, hyd 31 Mawrth 2022. Jarrod Thomas, John Dyer, Andrew Jenkins, Bethan Bowyer, Ramsey Jamil, Wendy Lloyd Davies

Penodiadau i Gyngor Iechyd Cymuned Caerdydd ar Fro

15 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r bobl ganlynol yn aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Caerdydd ar Fro am bedair blynedd hyd 31 Mawrth 2022. Brenda Chamberlain Peter Thomas

Penodi i Gyngor Iechyd Cymuned Caerdydd ar Fro'

15 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodir ganlynol aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a'r Fro am bedair blynedd o 01 Hydref 2018 tan 30 Medi 2022.Rosemary Shirley Willis

Penodiadau i Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf

15 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r bobl ganlynol yn aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf am bedair blynedd, hyd 31 Mawrth 2022. Gerald Davies, Steven Carter, Olive Francis, Diane Rogers

Penodiadau i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

15 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r bobl ganlynol yn aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda am bedair blynedd, hyd 31 Mawrth 2022. Gwenda Williams, Pauline Griffiths, Leslie Samuel Lewis, Ian Phillips

Penodiadau i Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

15 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r bobl ganlynol yn aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd am bedair blynedd, hyd 31 Mawrth 2022. Michael Lloyd Jones, Gwawr Jones, Valerie Monaghan, Peter Rendle, Joy Baker, Aaron Osborne-Taylor, Andrew Burgen, Jayne Thomas, Celia Hayward, Keith White, Gill Williams, Dewi Phillips

Penodiadau i Gyngor Iechyd Cymuned Powys

15 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r bobl ganlynol yn aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Powys am bedair blynedd, hyd 31 Mawrth 2022. Margaret Graham, Rhobert Lewis, Anthea Wilson

Adduned Moroedd Glân

14 Mai 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i Adduned Plastigion Moroedd Glân Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, a bydd yn cyhoeddi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Adduned mewn Uwchgynhadledd Cefnfor i’w chynnal yn ystod Ras Cefnfor Volvo ym Mae Caerdydd.

Cyllid 2018/20 ar gyfer Mannau Gwyrdd

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi ymrwymo i wella ansawdd mannau gwyrdd lleol a chefnogi cymunedau i bennu a meddiannu neu reoli eu mannau gwyrdd lleol. Maent wedi cytuno i ddarparu cyllid i’r Cynllun Safon a Gwobr Baner Werdd a’r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol am ddwy flynedd, ar gyfer 2018-19 a 2019-2020.

Cyllid Cyfalaf Dechraun Deg'

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau Dechrau’n Deg.

Ailbenodi Panel y Sector Diwydiannau Creadigol

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi ailbenodi Cadeirydd ac Aelodau Panel y Sector Diwydiannau Creadigol am chwe mis o 1 Ebrill 2018 hyd at 30 Medi 2018.

Adroddiad ar y cymorth yn y diwydiant cerddoriaeth

14 Mai 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo crynodeb o adroddiad Dai Davies i gymorth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant cerddoriaeth a’r gwaith i asesu’r camau gweithredu arfaethedig.

Penodi Contractwr Adeiladu ar gyfer yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r penderfyniad i benodi’r contractwr ar gyfer adeiladu’r Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch.

Cyngor Cyllid Corfforaethol a Masnachol i’r Sector Ynni

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant i ddechrau caffael cyngor cychwynnol ar gyllid corfforaethol a masnachol ar gyfer prosiect yn y sector ynni.

Tendr Dysgu Proffesiynol ac arolwg wedi’i awtomeiddio o Ysgolion sy’n Gweithredu fel Sefydliadau sy’n Dysgu

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r costau sy’n ymwneud â chyhoeddi’r tendr Ymchwil a Datblygu Dysgu Proffesiynol a’r costau sy’n ymwneud â datblygu a chynnal arolwg wedi’i awtomeiddio o Ysgolion sy’n Gweithredu fel Sefydliadau sy’n Dysgu.

Adolygiad o Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei adolygiad o swyddogaethau a pherfformiad Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Galw am dystiolaeth

14 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno 1) i lansio ‘galwad am dystiolaeth’ a fydd yn dechrau ym mis Mehefin fel rhan o adolygiad eang a fydd yn ymchwilio i’r gydberthynas rhwng proses fonitro’r Cynllun Datblygu Lleol a’r ffordd y caiff cyflenwad tir ar gyfer tai ei fesur a 2) i gyhoeddi ymgynghoriad technegol am 6 wythnos ar gynnig i ddatgymhwyso’r darpariaeth ym mharagraff 6.2 o TAN 1.

Datganiad ysgrifenedig – Adroddiad ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r gofal a’r driniaeth yn Tawel Fan

12 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roir wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ynghylch cyhoeddi ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) i’r gofal a'r driniaeth a ddarperir yn Tawel Fan.'

Cyllid ar gyfer Marina Caergybi

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno i ddarparu cymorth ariannol i Gyngor Sir Ynys Môn yn dilyn difrod gan storm ym Marina Caergybi.

Ymateb i ymgynghoriad Ofcom

10 Mai 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ymateb i ymgynghoriad OfCom ar rwymedigaethau cwmpas band spectrwm 700MHz.

Ymateb i ymgynghoriad Ofcom

10 Mai 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ymateb i ymgynghoriad OfCom ar rwymedigaethau cwmpas band spectrwm 700MHz.

Seilwaith Parc Waterton, Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer seilwaith newydd ym Mharc Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr.

Menter Teithio am Ddim ar Benwythnosau TrawsCymru – Adolygiad interim a’r ffordd ymlaen awgrymedig

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid er mwyn galluogi awdurdodau lleol i barhau i weithredu Menter Teithio am Ddim ar Benwythnosau TrawsCymru am 12 mis arall, a chomisiynu asesiad cynhwysfawr o effaith ar y farchnad i’w gynnal yn nes ymlaen eleni.

Cynllunio ar gyfer safleoedd i Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r Cylchlythyr Sipsiwn a Theithwyr a’r adroddiad Crynodeb o’r Ymatebion cysylltiedig, sy’n dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos.

Deddf Trwyddedu Swâu

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar newid i’r meini prawf cymhwystra ar gyfer 14(1)(a) gollyngiadau o dan Ddeddf Trwyddedu Swâu 1981 ar gyfer casgliadau sy’n cynnwys rhywogaethau estron sy’n peri pryder i’r UE.

Ad-daliadau benthyciad Awel Aman Tawe

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y dylai’r ad-daliadau benthyciad a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru oddi wrth Awel Aman Tawe gael eu talu i’r Gronfa Benthyciadau Ynni, ac wedi cytuno ar y trefniant newydd ar gyfer cytundeb benthyciad Awel Aman Tawe er mwyn talu’r gweddill i Fanc Datblygu Cymru.

Apelau trwyddedu morol

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ymrwymo i drefniant ag Arolygiaeth Gynllunio Cymru er mwyn iddynt benodi Arolygydd i weithredu fel “y person penodedig” o dan Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn erbyn Penderfyniadau Trwyddedu) (Cymru) 2011 er mwyn dilysu hysbysiad am apêl a hefyd, os yn ddilys, penderfynu ar yr apêl.

Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar reoli meddyginiaethau

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoedus ar reoli meddyginiaethau.

Datganiad ar yr Adolygiad o’r Defnydd o Dap a Chynfasau Rhwyll Synthetig

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad i roi diweddariad iddynt ar y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu’r Defnydd o Dap a Chynfasau Rhwyll Synthetig ar gyfer Straen Anymataliaeth Wrinol a Cwymp Organau’r Pelfis.

Cyfrifoldeb am ddeunydd argraffedig ar imiwneiddio

10 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i drosglwyddo’r cyfrifoldeb am baratoi a dosbarthu deunyddiau agraffedig ar imiwneiddio a’r cyllid cysylltiedig o Lywodraeth Cymru i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cais gan Gyngor Tref Llanrwst ar gyfer cymeradwyaeth i fenthyg arian

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno y gall swyddogion roi cymeradwyaeth i Gyngor Tref Llanrwst fenthyg arian at ddibenion cyfalaf yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19.

Cydweithio i ddatblygu pont dros Afon Menai

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cytuno y bydd Gweinidogion Cymru yn ymrwymo i Gytundeb â National Grid Electricity Transmission Plc i gynnal Astudiaeth Ddichonoldeb, ac y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’r cytundeb.

Cronfa Trafnidiaeth Leol – Dyraniadau Yn ystod y Blwyddyn – Mawrth 2018

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennyddy Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddyrannu’r cyllid sy’n weddill yn y Gronfa Trafnidiaeth Leol ac yng nghyllidebau ariannu ychwanegol Teithio Llesol.

Cyllid i gynnal a chadw ffyrdd lleol yn sgil effaith tywydd y gaeaf

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cytuno i ddyrannu grant refeniw i awdurdodau lleol, er mwyn gwrthbwyso elfen o’r costau ychwanegol a ysgwyddwyd ganddynt wrth ymdrin â’r eira yn ddiweddar.

Cyd-fenter arfaethedig – Tir yn The Works, Glyn Ebwy

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo Cytundeb Cyd-fenter â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Cydariannu prosiect y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Polisi Amaethyddol a Bwyd (FAPRI-UK)

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gydariannu prosiect ymchwil tair blynedd newydd y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Polisi Amaethyddol a Bwyd (FAPRI-UK).

Dod ag ardoll yn ôl

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yrAmgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig er mwyn gofyn i Lywodraeth y DU ymrwymo i gynnwys darpariaethau yn eu Bil Amaethyddiaeth sydd ar ddod i hwyluso ateb mwy parhaol ar gyfer dod â’r ardoll cig coch yn ôl i Gymru.

Penodi Cadeirydd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

03 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu ar gyfer Cadeirydd parhaol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cynlluniau Grant yr Amgylchedd ar gyfer y Dyfodol – 2018-2022

02 Mai 2018

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno ar gyfeiriad a phrif sylw Cynlluniau Grant Refeniw yr Amgylchedd yn y dyfodol.

Ymgynghoriad ar Fframwaith Parthau Aer Glân i Gymru

02 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i gyhoeddi’r ddogfen ymgynghori ar Fframwaith Parthau Aer Glân i Gymru ar 25 Ebrill.

Dyrannu Grantiau Gwella – 2018-19

02 Mai 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid o £1.547m gan Lywodraeth Cymru yn 2018-19 i wella cyfleusterau gofal sylfaenol ar hyd a lled Cymru.

Rhaglen Grantiau Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

30 Ebrill 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cyhoeddi Rhaglen Grantiau Cyfalaf 2018-2019 ym maes Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac mae’n gwahodd cynigion ar ffurf ceisiadau oddi wrth sefydliadau ar gyfer cyflawni dibenion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Datblygu Banc Cymru – Cronfa Cydfuddsoddi Angylion Cymru

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo sefydli Cronfa Cydfuddsoddi Angylion Cymru, a gaiff ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru a’i lansio yng ngwanwyn 2018.

Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru – Cyllid Atodol

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo darparu cyllid atodol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

Banc Datblygu Cymru – Cronfa Cyllid Sbarduno Technoleg Cymru

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo sefydlu Cronfa Cyllid Sbarduno Technoleg Cymru, a fydd yn cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru a’i lansio yn ystod gwanwyn 2018.

Canlyniad Arfarnu Map Rhwydwaith Integredig ar gyfer Cyngor Sir Fynwy

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo Map Rhwydwaith Integredig Cyngor Sir Fynwy.

Cais i gofrestru’n ysgol annibynnol

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cais i gofrestru Ysgol Uwchradd Redhill, Sir Benfro yn ysgol annibynnol.

Adolygiad o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo’r Adolygiad arfaethedig o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.

Penodiadau i Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r bobl ganlynol yn aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan am bedair blynedd, hyd 31 Mawrth 2022. Grace Quantock Kieran Harris Barbara Norvill Eleri Foster Felicity Jay Nancy Thomas Jennifer Rees Cheryl ChristoffersenPeter Allen Patricia Cory

Capasiti Newyddenedigol ac ôl-enedigol Abertawe Bro Morgannwg yn Ysbyty Singleton

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo achos busnes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer gwella’r capasiti newyddenedigol ac ôl-enedigol yn Ysbyty Singleton, Abertawe, gyda chymorth £9.710 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2018-19 a 2019-20.

Canllawiau ar Fyw Mewn Poen Cyson yng Nghymru – Cynllun ar gyfer Ymgynghori

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymgynghori ar y ddogfen Byw mewn Poen Cyson yng Nghymru.

Canlyniad y Grant Peilot Iechyd Meddwl: Presgripsiynu Cymdeithasol 2018-21

30 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gefnogi sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithredu o fewn y sector iechyd meddwl ar draws Cymru ar gyfer cyflenwi prosiectau peilot ym maes presgripsiynu cymdeithasol rhwng 2018 a 2021.

Fframwaith i sicrhau newid cadarnhaol i bobl sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru – ariannu’r lansiad ar 19 Ebrill

26 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ariannu’r gwaith o ddatblygu’r brif ddogfennaeth i roi ar waith y Fframwaith ar gyfer sicrhau newid cadarnhaol i bobl sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru.

Cyllid Corfforaethol, Cymorth Gwladwriaethol a chyngor cyfreithiol ar gyfer y Sector Cynhyrchu P?er a Dur

26 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar gaffael/parhad cyngor arbenigol ar Gyllid Corfforaethol, yr Economi, Cymorth Gwladwriaethol a chyngor cyfreithiol.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

26 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar yr Opsiwn a Ffefrir ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol rhwng 30 Ebrill a 23 Gorffennaf 2018.

Cyhoeddi’r Adroddiad Cwmpasu Terfynol ar Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

26 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Cwmpasu Terfynol ar Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Adroddiad ar Ymatebion i’r Ymgynghoriad.

Grantiau’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol, Diogelwch ar y Ffyrdd a Grantiau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 2018-19

25 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r argymhellion ar gyfer cyllid grant refeniw a chyfalaf mewn perthynas â’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol, Diogelwch ar y Ffyrdd a Grantiau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 2018-19.

Tidal Lagoon Plc

25 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo benthyciad i gwmni o fewn y Sector Ynni a’r Amgylchedd ar gyfer bodloni gofynion cyfalaf gwaith.

Sefydlu Bwrdd Cynghori’r Gweinidog

25 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo camau i sefydlu Bwrdd Cynghori’r Gweinidog.

Llythyr at Dermot Nolan - Ofgem

25 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at Brif Weithredwr y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, gan amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym maes ynni.

Cyllid i Ysgol Gymraeg Llundain ar gyfer 2018-19

23 Ebrill 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gyllid ar gyfer Ysgol Gymraeg Llundain.

Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â’r swyddogaeth o gyhoeddi Fframweithiau Prentisiaethau

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y posibilrwydd y gallai Gweinidogion Cymru ymgymryd â swyddogaeth Awdurdod Dyroddi ar gyfer fframweithiau prentisiaethau ym mhob sector sgiliau, er mwyn helpu i gynnalintegriti a pherthnasedd y fframweithiau prentisiaethau yng Nghymru.

Rhannu data Cafcass Cymru

23 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno y ceir rhannu data Cafcass Cymru er mwyn helpu i ddatblygu Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Cymru a Lloegr.

Busnes Cymdeithasol Cymru – Arian Cyfatebol ar gyfer Gweithredu, 2018-2020

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar ddwy flynedd o arian cyfatebol er mwyn caniatáu i brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru barhau i gael ei weithredu tan fis Mawrth 2020.

Ardaloedd Menter – Cyllidebau Dirprwyedig i’r Byrddau, 2018/19

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllideb ddirprwyedig 2018/19 ar gyfer byrddau Ardaloedd Menter Cymru i’w helpu i gynnal gweithgareddau pwrpasol (megis prosiectau ymchwil) sy’n berthnasol i’w Cynlluniau Strategol.

Grant Rhaglen Waith Arfaethedig y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) yng Nghymru 2018/19

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid grant craidd i RoSPA Cymru ar gyfer 2018-19.

Adfywio Canol Dinas Abertawe

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cytundeb cyllid grant gyda Chyngor Abertawe er mwyn paratoi cynllun Canol Abertawe hyd at gam lle bydd yn barod i’w ddatblygu.

Cynnig arfaethedig i waredu eiddo yng Nghaerdydd

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo marchnata eiddo yng Nghaerdydd i’w waredu ar y farchnad agored.

Ildio les ar eiddo yn Abertawe

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo ildio les ar eiddo yn Abertawe.

Parth Twf Lleol Powys: Grant Refeniw Trafnidiaeth Leol 2017/18

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid refeniw ar gyfer nifer o gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Parth Twf Lleol Powys er mwyn i’r camau gweithredu a nodwyd gan Weithgor Parth Twf Lleol Powys allu cael eu rhoi ar waith.

Trosglwyddo tir ym Mharc Cybi

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo caniatáu’r opsiwn i drosglwyddo tir ym Mharc Cybi, Caergybi.

Ariannu Teithio Rhatach ar Fysiau ar gyfer 2018-2019

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2018-19 i dalu am gostau awdurdodau lleol wrth ad-dalu gweithredwyr y gwasanaethau am gludo deiliaid cerdyn teithio am ddim.

Cymorth Addysg i Blant Aelodau y Lluoedd Arfog yng Nghymru (Plant y Lluoedd Arfog)

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer cefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru drwy gyflwyno Cronfa dros dro ar gyfer Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar gyfer 2018/19.

Methan Haen Lo Margam – Mynediad i Dir gan Gyfoeth Naturiol Cymru

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y dylai swyddogion ofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru beidio â negodi ynghylch mynediad i dir ar gyfer Datblygiad Methan Haen Lo ar dir coedwigaeth Llywodraeth Cymru yn dilyn cais.

Wylfa Newydd – yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a’r camau nesaf

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar gyllid dros y tair blynedd nesaf i ariannu staff i barhau ag astudiaeth er mwyn cynorthwyo’r gwaith o liniaru effeithiau pwysau tai yn yr ardal astudio allweddol sef Ynys Môn, Gogledd Gwynedd a Gorllewin Conwy.

Ailbenodi Aelodau Annibynnol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Stephen Harries yn Gyfarwyddwr Anweithredol (Gwybodeg) am dair blynedd o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2021.

Trin Dystonia

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi diweddariad i Aelodau’r Cynulliad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer trin dystonia.

Penodi Aelod Annibynnol ar gyfer y Gymuned a’r Trydydd Sector i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Anna Lewis yn Aelod Annibynnol (Cymuned) am bedair blynedd, o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2022 a phenodi Owen Burt yn Aelod Annibynnol (y Trydydd Sector) am flwyddyn, o 1 Mai 2018 hyd at 30 Ebrill 2019.

Penodi Cadeirydd i Ymddiriedolaeth GIG Felindre

23 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Athro Donna Mead yn Gadeirydd am ddwy flynedd o 1 Mai 2018 hyd at 30 Ebrill 2020.

Cyllid ar gyfer Rhaglenni Diogelwch Cymunedol Awdurdodau Tân ac Achub yn 2018-19

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo cyllid refeniw a chyllid cyfalaf ar gyfer Rhaglenni Pobl Ifanc, Lleihau Tanau Bwriadol, a Diogelwch yn y Cartref 2018-19 y tri Awdurdod Tân ac Achub.

Gemau Cymru - Cyllid

19 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i roi cyllid tuag at Gemau Cymru.

Penodiadau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg

19 Ebrill 2018

Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i benodi Dr Heledd Iago, Meinir Davies a Nick Speed yn aelodau o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.

Dyraniadau tymor yr haf o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn 2017/18

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno y dylid ymestyn cynlluniau’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn presennol o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Awst 2018 ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a’r Brifysgol Agored.

Neilltuo cyllid

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno ar sut i ddefnyddio’r £10.9m a neilltuwyd yn Llinell Wariant yng Nghyllideb y Ddarpariaeth Addysg Bellach.

Metro Gogledd-ddwyrain Cymru – Glannau Dyfrdwy – dyraniadau o fewn y flwyddyn – Mawrth 2018

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cynlluniau cyfalaf a argymhellwyd ac wedi cytuno bod swyddogion yn anfon llythyr dyfarnu at Gyngor Sir y Fflint.

Cyngor Ychwanegol ar Gyllid Digartrefedd 2017-18

19 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen Grantiau Atal Digartrefedd a’r Rhaglen Grantiau ENABLE ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.

Cyllideb Byw’n Annibynnol 2018-19

19 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r prosiectau i’w hariannu o’r Gyllideb Byw’n Annibynnol ar gyfer 2018/19 a’r cyllid cyfalaf ar gyfer y Rhaglen Addasiadau Brys i’w ddyrannu i Asiantaethau Gofal a Thrwsio.

Adeiladu ar gyfer y Dyfodol – Argymhelliad i Gefnogi Neuadd y Farchnad Caergybi

19 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno’r dyraniad llawn o gymorth grant o dan y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol tuag at ailddatblygu Neuadd y Farchnad Caergybi.

Cyllid ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – prosiect dysgu drwy dechnoleg (technology-enabled learning)

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu Cydwasanaethau GIG Cymru i weithredu’r rhaglen dysgu drwy dechnoleg ar gyfer 2018-19.

Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail benodi Margaret Hanson yn Is-gadeirydd o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019.

Adolygiad o Wasanaethau Iechyd Rhywiol yng Nghymru

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi’r Adolygiad o Wasanaethau Iechyd Rhywiol yng Nghymru.

Gwasanaethau Gofal Lliniarol, Hematoleg ac Oncoleg Hywel Dda

19 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo achos busnes Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer datblygu Ward Gofal Lliniarol, Hematoleg ac Oncoleg yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd, gyd chymorth £3.153m oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Cais am gyllid ar gyfer What Works Centre for Wellbeing – Ansawdd Aer a’r Amgylchedd yn Lleol

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo £70,000 o gyllid i What Works Centre for Wellbeing (Y Ganolfan Llesiant) i gefnogi’r gwaith o newid ymddygiad mewn cysylltiad â phroblemau’n ymwneud ag ansawdd aer ac ansawdd yr amgylchedd yn lleol.

Adolygiad Cyflym o Gydraddoldeb Rhywiol

17 Ebrill 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo Cylch Gorchwyl a threfniadau cychwynnol ar gyfer Adolygiad Cyflym o Gydraddoldeb Rhywiol yn Llywodraeth Cymru.

Cyllid ar gyfer Sgrîn Cymru 2018-19

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid tuag at gostau gweithredol digwyddiadau Sgrîn Cymru o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019.

Gwerthu tir yn Nhonyrefail

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir yn Nhonyrefail fel rhydd-ddaliad.

Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Port Talbot - Costau’r Ymgynghoriaeth ar gyfer y Cynllun Strategol

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo costau ar gyfer 2018/19 i gaffael Cynllun Strategol ac ymarfer asesu opsiynau ar gyfer Ardal Fenter Glannau Port Talbot.

Tir ym Mrychdyn, Sir y Fflint

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r gwariant ar gyfer arolygon ecolegol.

Cais am gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru – Ysgolion ACT, Caerdydd

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cais gan ACT Schools, Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd, CF24 5ET i gofrestru fel ysgol annibynnol newydd.

Rhaglen y Rhwydwaith Ffiseg Ysgogol – Trefniadau Cyllido 2018-19

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid i’r Sefydliad Ffiseg ar gyfer Rhaglen y Rhwydwaith Ffiseg Ysgogol o ran datblygiad proffesiynol athrawon ffiseg mewn ysgolion uwchradd yn 2018/19.

Cymeradwyo Penodi aelodau i Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo estyn penodiad yr aelodau annibynnol presennol, sef Julia Lucas a Peter Baren am 12 mis.

Cyfleusterau newyddenedigol Cyfnod 2 Hywel Dda (Achos Busnes Llawn)

17 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo Achos Busnes Llawn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer ail gam yr ailddatblygu a gwella cyfleusterau obstetreg a newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, gyda chefnogaeth £25.277m o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Cyfradd Seilwaith Lleol

11 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo bod awdurdodau lleol Cymru yn cael mynediad at fenthyciadau gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfradd fenthyca ostyngol, am gyfnod penodol o 3 blynedd, ar sail eu hawl i fenthyg ar gyfradd ostyngol a bod dosbarthiad yn cael ei wneud ar sail y fformiwla gyffredinol ar gyfer cyllid cyfalaf.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

11 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cychwyn y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, sef rhaglen gefnogi sgiliau cyflogwr ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/2019.

Methodoleg Cynllunio Cynllun Peilot Ôl-16 2018-19

11 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cynnig am gynllun peilot sy’n newid y ffordd y bydd Sefydliadau Addysg Bellach ac Awdurdodau Lleol yn cael eu monitro o ran cyflwyno’r Rhaglenni Galwedigaethol Llawnamser mewn ymateb i Argymhellion y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol 2018/19.

Adroddiad Archeolegol ar ôl Cloddio ar gyfer Parc Cybi, Caergybi

11 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer cynhyrchu Adroddiad Archeolegol ar ôl Cloddio.

Cyllid ar gyfer Desg Ewrop Greadigol y DU – Cymru

11 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid tuag at y gweithgareddau yn ystod 2018/19.

Data am gyrchfannau pobl ifanc

11 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Gyrfa Cymru er mwyn iddynt wneud gwaith cychwynnol gyda lleiafswm o bum awdurdod lleol i gynhyrchu data sy’n ymwneud â’r 3 blynedd ddiwethaf am gyrchfannau pobl ifanc sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref.

Symud oddi wrth Delerau ac Amodau Benthyciad Canol Tref

11 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer caniatáu i Gyngor Sir Gwynedd ychwanegu ardal anheddu ychwanegol i weithredu Benthyciad Canol Tref.

Cynllun ar gyfer penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

11 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo hysbysebu swydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Ariannu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith Cenedlaethol

10 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i roi grant i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith Cenedlaethol ar gyfer 2018-19.

Contract Gwasanaethau Ymgynghori ar Delathrebu

10 Ebrill 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cytuno i gaffael dau gontract yn ôl y galw newydd ar gyfer gwasanaethau ymgynghori ar faterion telathrebu.

Ariannu Adeilad Ocky White yn Hwlffordd

10 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno mewn egwyddor i ddefnydio Arian Cyfatebol a Dargedir a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i adnewyddu ac ailddefnyddio Adeilad Ocky White yn Hwlffordd, ar y amod bod prosesau caffael yn cael eu cwblhaun foddhaol a bod costau'r prosiect a gadarnhawyd yn cael eu harfarnu.'

Cylchlythyr Iechyd Cymru ar reoli parcio ceir

10 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC (2018) 010: Rheoli parcio ceir – Canllawiau ar gyfer GIG Cymru'.'

Cynllun Busnes a Chyllideb Cadw

06 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo Cynllun Busnes a chyllideb Cadw ar gyfer 2018-19.

Ailddyrannu tanwariant yn y Gyllideb Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar ar gyfer 2017-18

06 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailddyrannu’r tanwariant yn y Gyllideb Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar ar gyfer 2017-18.

Gwariant FibreSpeed 2018/19

06 Ebrill 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi  a Thrafnidiaeth wedi cytuno bod swyddogion yn comisiynu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r gwaith sy’n parhau er mwyn cefnogi/sicrhau diwydrwydd dyladwy cytundeb FibreSpeed ac maent wedi cytuno hefyd ar y gwariant cysylltiedig.

Adolygiad o’r Cytundeb FibreSpeed

06 Ebrill 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi  a Thrafnidiaeth wedi cytuno bod swyddogion yn parhau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19 â gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag adolygiad o’r  Cytundeb FibreSpeed.

Cynllun Grant Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod

06 Ebrill 2018

Mae Arweinydd y T? wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i’r prosiectau a ganlyn ar gyfer gweithgareddau ym mhob rhan o Gymru heblaw etholaeth Abertawe: Llety’r Barnwr Women Connect First Plant Dewi 4thecommunity Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ? Cymru Gwledd Conwy Feast

Cyllideb y Gangen Comisiynu Adnoddau Cymraeg mewn Addysg

06 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg wedi cymeradwyo’r dyraniad yn y gyllideb i gefnogi’r gwaith o gomisiynu adnoddau addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac maent hefyd wedi cymeradwyo’r arferion gwaith mewn perthynas â’r gyllideb honno.  

Cais cynllunio am ddatblygiad preswyl ar dir ym Mhen y Ffridd, Bangor

06 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod yr apêl cynllunio ac i wrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl a fyddai’n cynnwys hyd at 366 o anheddau, ynghyd â ffyrdd mynediad, cyfleusterau parcio a chyfleusterau atodol cysylltiedig, ar dir ym Mhen y Ffridd, Bangor, Gwynedd LL57 2LZ.

Cais cynllunio ar gyfer Parc Ceirw, Chwarel Cwmrhydceirw, Abertawe

06 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi llythyr penderfyniad ar apêl a adferwyd sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer rhoi’r gorau i dirlenwi a gweithrediadau eraill a alluogir gan ddatblygiad preswyl o ryw 300 o anheddau, man agored cyhoeddus, gwaith priffyrdd a gwaith atodol cysylltiedig ar dir ym Mharc Ceirw, Chwarel Cwmrhydceirw, Abertawe.

Grant refeniw blynyddol i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac Awdurdod Tân mewn perthynas â phrosiectau PFI braenaru

05 Ebrill 2018

MaeYsgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer talu cymorth refeniw yn 2018-19 i rai Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac un Awdurdod Tân ac Achub er mwyn cydnabod yr ymrwymiadau cyllid cyfalaf sydd ynghlwm wrth brosiectau PFI braenaru.

Cyllid ar gyfer prosiectau Dechrau’n Deg

05 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo’r ceisiadau i ddefnyddio £142,003 o gyllideb Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2018/19 i dalu costau prosiectau cyfalaf Dechrau’n Deg yng Nghaerdydd, Gwynedd, Powys, Abertawe a Bro Morgannwg.

Cyllido Traveline Cymru

05 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer talu costau Traveline Cymru o safbwynt darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys cynllunio teithiau, yn ystod 2018-19.

Cyllid ar gyfer y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg

05 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo trefniadau cyllido i’r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg, gan gynnwys y rhaglen Cymorth â Mathemateg Bellach.

Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl

05 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i ddyrannu’n derfynol Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer 2018/19.

Penodi is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

05 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu am Is-gadeirydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cyllid ar gyfer Dosbarth Busnes y prosiect ysgolion-cyflogwyr

04 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Gyrfa Cymru i barhau â Dosbarth Busnes y prosiect ysgolion-cyflogwyr yn y flwyddyn ariannol 2018-19.

Y Gronfa Gofal Integredig

04 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo dyraniadau cyllid y Gronfa Gofal Integredig  yn 2018-19; ac wedi cytuno y bydd y Gronfa yn parhau i ariannu’r gwaith o weithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru am flwyddyn arall hyd at 31 Mawrth 2019, ac na ddylai adolygiad o’r Gronfa, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei gynnal tan 2019-20.

Y Gronfa Gofal Integredig

04 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo dyraniadau cyllid y Gronfa Gofal Integredig  yn 2018-19; ac wedi cytuno y bydd y Gronfa yn parhau i ariannu’r gwaith o weithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru am flwyddyn arall hyd at 31 Mawrth 2019, ac na ddylai adolygiad o’r Gronfa, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei gynnal tan 2019-20.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

04 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo saith cais ar gyfer rhaglen astudio newydd ac un cais am gymorth ychwanegol mewn perthynas â chyllid ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16.

Ail benodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

04 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ail benodi Lyn Meadows a Ceri Stradling (Cymunedol) a Bethan Russell – Williams (Trydydd Sector) yn Aelodau Annibynnol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd at 30 Mehefin 2018.

Ail benodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

04 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ail benodi Lyn Meadows a Ceri Stradling (Cymunedol) a Bethan Russell – Williams (Trydydd Sector) yn Aelodau Annibynnol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd at 30 Mehefin 2018.

Cyllid i gefnogi Rhaglen Taclo Tipio Cymru

02 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a’r Gweinidog dros yr Amgylch wedi cymeradwyo £200,000 ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau â’r bartneriaeth Taclo Tipio Cymru yn 2018/19, ac maent wedi cytuno i drosglwyddo’r dyraniad cyllidebol i refeniw blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru o’r flwyddyn ariannol 2018-19 ymlaen.

Cwmni Benthyciadau myfyrwyr/Cyllid Myfyrwyr Cymru  

02 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno y dylai swyddogion roi cyfarwyddyd i’r Cwmni Benthyciadau myfyrwyr/Cyllid Myfyrwyr Cymru i adael y cymorth yn ei le a rhoi cymorth yn y dyfodol i alluogi’r myfyriwr i gwblhau ei gwrs.

Dyraniadau’r Grant Datblygu Disgyblion

02 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo dyraniadau’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer 2018/19 and 2019/20.

Penodiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

02 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu’r penodiad o Is-gadeirydd i’r bwrdd.

Rhwydwaith Seren

02 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo cyllid i helpu i weithredu Rhwydwaith Seren yn ystod 2018-19.

Cyllid ar gyfer Swyddogion Datblygu’r Cyfnod Sylfaen yn y Sector Gwirfoddol 2019/20

02 Ebrill 2018

Cytunodd Ysgrifennydd Cabinet  dros  Addysg i roi cymorth ariannol i sefydliadau ymbarél nas cynhelir ar gyfer gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yn 2019/20 i barhau i hyrwyddo addysg Cyfnod Sylfaen mewn lleoliadau nas cynhelir  drwy gyflogi Swyddogion  Datblygu’r Cyfnod Sylfaen.

Adolygiad o Lety â Chymorth

02 Ebrill 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo’r cylch nesaf o ddigwyddiadau ymgysylltu cydweithredol i randdeiliaid, ac mae wedi nodi’r gwerthusiad o opsiynau i’w ddefnyddio gyda’r rhanddeiliaid i ddatblygu’r ddeialog.

Cynnwys profion diagnostig ychwanegol yn y yn y datganiad swyddogol a ddychwelir

02 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnwys nifer o brofion diagnosis ychwanegol ym maes iechyd y galon yn y datganiad diagnosteg a therapïau o 1 Ebrill 2018.

Addasiad cyllidol diwedd blwyddyn i’r Fframwaith Contractio Fferyllfeydd Cymunedol

02 Ebrill 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i wneud newidiadau i’r ffioedd sy’n daladwy i fferyllfeydd cymunedol ar gyfer gweithio mewn modd cydweithredol a gwella gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod cyfran gytûn y fframwaith contractio fferyllfeydd cymunedol yn cael ei darparu yn 2017-18.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Cyllid ar gyfer rhent a thaliadau gwasanaeth y Comisiwn Brenhinol yn 2017-18

28 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer rhent a thaliadau gwasanaeth y Comisiwn Brenhinol yn 2017-18.

Datblygu Unedau Diwydiannol Newydd , Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy

28 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo eithriad, yn unol â Pholisi Adeiladau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mewn perthynas ag unedau diwydiannol newydd arfaethedig ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 oed mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

28 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo pedwar cais ar gyfer rhaglen astudio newydd ac un cais am estyniad i raglen astudio y cytunwyd arni ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16 oed.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

28 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i hysbysebu swydd Aelod Annibynnol (y Gymuned a’r Trydydd Sector) ar gyfer y Bwrdd.

Rhaglen gyllid rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol

27 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo Rhaglen Cyfalaf a Refeniw Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2018/19 ac y dylid ei rhannu ag Awdurdodau Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Gwaith profi a gwirio ar gyfer Rhaglen Cyflymu Cymru

27 Mawrth 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gefnogi ehangu’r gwaith o brofi a gwirio ar gyfer Rhaglen Cyflymu Cymru.

Taliadau’r Rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni

27 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r taliadau sydd i’w talu ym mis Mawrth a mis Ebrill 2018 o dan drefniadau presennol y rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

27 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y cyllid ar gyfer Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch ac achosion Conwy, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi Cyfalaf er mwyn symud ymlaen i gam nesaf y broses achosion busnes a/neu ddyrannu cyllid.

Gwasanaeth tystysgrif dal pysgod i’w hallforio

27 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno y dylid cynnwys allforwyr pysgod o Gymru sy’n cael eu dal yn y môr (i’w bwyta gan bobl) yng ngwaith ymchwil defnyddwyr i ddatblygu gwasanaeth tystysgrif dal pysgod i’w hallforio o’r DU.

Cymeradwyo rhaglen Ardaloedd Gwella Busnes olynol

27 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidaeth a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i gyllido rhaglen Ardaloedd Gwella Busnes olynol.

Penodi Cadeirydd i Fwrdd Llywodraethiant Gwybodaeth Cymru

27 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Patrick Coyle fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethiant Gwybodaeth Cymru.

Llythyr Cylch Gwaith 2018-19: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

26 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo a chyhoeddi Llythyr Cylch Gwaith 2018-19 Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Cymeradwyo Llythyr Cylch Gwaith blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2018-19

26 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo a chyhoeddi Llythyr Cylch Gwaith 2018-19 Cyngor Celfyddydau Cymru.

Canfyddiadau’r adolygiad o Dechrau’n Deg

26 Mawrth 2018

Canfyddiadau’r adolygiad o Dechrau’n Deg Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i hwyluso gwaith sy’n ymwneud ag adolygu Dechrau’n Deg.

Canfyddiadau’r adolygiad o Dechrau’n Deg

26 Mawrth 2018

Canfyddiadau’r adolygiad o Dechrau’n Deg Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i hwyluso gwaith sy’n ymwneud ag adolygu Dechrau’n Deg.

Sioeau Amaethyddol 2018

26 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r gwariant o £51,000 (£42,500 a TAW o 20%) i sicrhau presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn sioeau amaethyddol amrywiol ar draws Cymru yn 2018 (ac eithrio’r Sioe Frenhinol).

Sioe Frenhinol Cymru 2018

26 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r gwariant o £59,882.65 (£49,902.21 a TAW o 20%) i gynllunio a saernïo presenoldeb Llywodraeth Cymru yn y Sioe Frenhinol rhwng 23 a 26 Gorffennaf 2018.

Cyfrifon Byd-eang Cymdeithasau Tai Cymru 2016/17

26 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar y cyfraniad o £1,200 at gost cyhoeddi Cyfrifon Byd-eang Cymdeithasau Tai Cymru. Cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y rhagair ar gyfer y cyfrifon byd-eang.

Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan

22 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth L eol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar leoliad swyddi Rhaglen Raddedigion Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan.

Cynhyrchu fideos yn Ysgol Haf 2018

22 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ynghylch caffael cyflenwr cynhyrchu fideos i gefnogi Ysgol Haf Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018.

Sefydlu Cronfa Dalent Gymunedol Beilot

22 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo sefydlu Cronfa Dalent Gymunedol Beilot.

Datblygu Twristiaeth, y Rhaglen Digwyddiadau Mawr ac Ymchwil, cyllid cyfalaf a refeniw, 2018/19

22 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru, wedi cymeradwyo’r gwariant ar Ddatblygu Twristiaeth, y Rhaglen Digwyddiadau Mawr ac Ymchwil ar gyfer 2018-19, ynghyd â rhai ymrwymiadau gwariant hyd flwyddyn ariannol 2019-20.

Cyllid Amser i Newid Cymru

22 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer elfen cyflogwyr cam tri o Raglen Amser i Newid Cymru.

Cyllido’r adnodd i gefnogi’r rheini sydd wedi dioddef Profiadau Niweidiol yn ystod eu Plentyndod

22 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gyfrannu cyllid yn 2018-19 tuag at yr adnodd i gefnogi’r rheini sydd wedi dioddef Profiadau Niweidiol yn ystod eu Plentyndod.

Diweddariad chwe mis ynghylch darparu’r cyffur PrEP (pre-exposure prophylaxis)

22 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roir wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ynghylch darparu'r cyffur PrEP (pre-exposure prophylaxis) yng Nghymru.'

Cyllid i Hyrwyddo’r Gymraeg yn 2018-19

21 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo bod cyllideb yn cael ei dyrannu i hyrwyddo’r Gymraeg yn ystod 2018-2019.

Caffael ar gyfer rhaglenni Cymru’n Gweithio

21 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo egwyddorion, strwythur a chynnwys rhaglenni Cymru’n Gweithio.

Cael Gwared ar Dir yng Nghaerdydd

21 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gael gwared ar dir yng Nghaerdydd.

Llythyrau Cylch Gwaith Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2018-2019

20 Mawrth 2018

Maer Gweinidog Diwylliant Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi cymeradwyo Llythyrau Cylch Gwaith 2018-19 ac wedi anfon llythyrau i bob sefydliad.

Ymestyn cyfnod y trefniant ar gyfer Skills Development Scotland sy’n cynnal gwaith y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Rhaglen Ffamweithiau Prentisiaethau 2018-19

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo bod cyfnod y trefniant ar gyfer Skills Development Scotland yn cael ei estyn. Mae ymestyn cyfnod y trefniant yn golygu y gallant barhau i drefnur gwaith rheoli cyflenwi a chydgysylltu ar gyfer Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) y DU rheoli'r gwaith o ddarparu fframweithiau newydd ar gyfer prentisiaethau ac adolygu'r rhai presennol; yn ogystal â chael cyfle unigryw i wella cronfa ddata SGC.

Grantiau i Hyrwyddo a Hwyluso’r Defnydd o’r Gymraeg

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo bod grantiau’n cael eu dyrannu i hyrwyddo a hwylusor defnydd o'r Gymraeg ar gyfer cyfnod 2018/19.'

Dyrannu cyllid i Gyfoeth Naturiol Cymru symud gwastraff

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo bod cyllid yn cael ei ddyrannu i Gyfoeth Naturiol Cymru. Caiff y cyllid ei roi iddynt symud gwastraff o Transform Recycling Ltd yng Ngwaelod y Garth, Rhondda Cynon Taf, ac o hen Safle Trosglwyddo Gwastraff syn cael ei weithredu gan gwmni Porthmadog Skip Hire ym Mhorthmadog Gwynedd.

Cyllid i gefnogi’r gwaith o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gwaith sy’n cael ei wneud gan Arolygiaeth Gofal Cymru i gefnogi’r gwaith o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Amcangyfrif o Gyllideb Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2018/19

20 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i osod amcangyfrif o gyllideb incwm a gwariant ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2018/19 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Y diweddaraf ar ennyn diddordeb plant a phobl Ifanc i gael eu barn am Brexit

20 Mawrth 2018

Maer Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi caniatâd i Blant yng Nghymru gynnal ymgynghoriad er mwyn cael barn plant a phobl ifanc am Brexit.'

Cyllid i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer dyrannu a dosbarthu cyllid cyfalaf i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyllid i gefnogi’n dysgwyr mwy abl a thalentog

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i defnu bod cyllid ar gael rhwng 2017/18 a 2019/20 i gefnogi ymdrechion i wella deilliannau ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog.

Dyrannu cyllidebau yr Is-Adran Addysg Uwch ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2018-19 ac arferion gwaith

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniad Blwyddyn Ariannol 2018-19 ac arferion gwaith yr Is-adran.

Cyllid ar gyfer London Week 2018

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid i gefnogi ‘London Week’ 2018.

Deunydd cyhoeddusrwydd a deunydd cymorth ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r pecyn arfaethedig y cytunwyd arno gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru i hyrwyddo Iechyd a Diogelwch yn y sector amaethyddiaeth a choedwigaeth ac wedi cytuno ar y gwariant cysylltiedig.

Noddi Sioe Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Sioe Amaethyddol Sir Benfro ar gyfer 2018.

Datganiad am y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

20 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ACau am y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2018-19.

Streetgames 2018-2019

19 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i gynnig grant i Streetgames ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19.

Cyllid Hybu’r Gymraeg

19 Mawrth 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo gohebiaeth at Siân Gwenllian AC ynghylch gwariant ychwanegol ar y Gymraeg yn ystod 2018-19 a 2019-20.

Cyllid ar gyfer trwsio asedau rheoli risg llifogydd sydd wedi’u difrodi

19 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi cymeradwyo cyllid o £152,575 i Gyngor Ynys Môn i helpu gyda gwaith trwsio asedau rheoli risg llifogydd wedi’u difrodi ledled y Sir yn dilyn y llifogydd ym mis Tachwedd 2017.

Trefniadau Pontio Grant Byw’n Annibynnol Cymru

19 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo trefniadau pontio mewn perthynas â Grant Byw’n Annibynnol Cymru.

Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru – Cynnig Gofal Plant

19 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ehangu Awdurdodau Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar o safbwynt y cynnig gofal plant ar gyfer Cymru.

Trosglwyddo Cyllid 2017-18

19 Mawrth 2018

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo trosglwyddo cyllid ar gyfer prosiectau teuluoedd yn gyntaf a chefnogi pobl.

Grantiau Cyfalaf – FY2017-18 – Dyraniadau teithio llesol yn ystod y flwyddyn – Chwefror 2018

19 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i’r cynlluniau Teithio Llesol a argymhellwyd a bod swyddogion yn anfon llythyrau dyfarnu diwygiedig at Awdurdodau Lleol.

Cronfa Drafnidiaeth Leol – ar gyfer blwyddyn 2017 - 18 – dyraniadau yn ystod y flwyddyn Chwefror 2018

19 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i’r cynllun cyfalaf a argymhellwyd a bod swyddogion yn anfon llythyrau dyfarnu diwygiedig at Awdurdodau Lleol.

Canlyniadau y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion 2017

19 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gyhoeddi canlyniadau y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion a’r canllaw Categoreiddio sydd wedi’i ddiweddaru ar gyfer ysgolion,, Awdurdodau Lleol, Consortia Rhanbarthol a’r canllaw Categoreiddio wedi’i ddiweddaru ar gyfer rhieni.

Arddangoswr Byw yn Glyfar – Cam Dau Dyffryn Hydrogen Rhondda Cynon Taf

19 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyllid yn 2017/18 a 2018/19 i ddarparu astudiaethau ymarferoldeb Cam Dau ac achosion amlinellol strategol i dreilau hydrogen.

Byw yn Glyfar – Systemau Clyfar a Rhaglen Wres Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

19 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyllid ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi datblygiad Systemau Clyfar a Rhaglen Wres.

CL38 – Cynllun yr A465 Blaenau’r Cymoedd

19 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi tystysgrif o dan adran 19 Deddf Prynu Tir 1981 o ran y tir comin yn CL38, Tir Comin Gelligaer a Merthyr, ar gyfer Cynllun yr A465 Blaenau’r Cymoedd Adrannau 5&6 – Dowlais Top i Hirwaun.

Trosglwyddo Cyllideb Polisi Iechyd Gwenyn

19 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i drosglwyddo cyllideb Polisi Iechyd Gwenyn (£441,600.00 gros y flwyddyn) o Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol i’r Gangen Polisi Natur o fewn yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth o 1 Ebrill 2018.

Cyllid yn ystod y flwyddyn ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub 2017-18

15 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf a refeniw yn ystod y flwyddyn ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub yn 2017-18 a gallu gweithredol mewnol.

Galluoedd Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru Cyllid Cymru yn 2018-19

15 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynnal a chadw a datblygu Galluoedd Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yn 2018-19.

Llythyrau Cynnig y Gronfa Waddol 2018-19

15 Mawrth 2018

Y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar ddyraniadau y Gronfa Waddol ar gyfer 2018-19.

CL135 – Blaenau’r Cymoedd – Prynu Tir Comin

15 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi tystysgrif o dan adran 19, a pharagraff 6 o’r Atodlen i Ddeddf Prynu Tir 1981 o ran y Tir Comin Glan Afon Cwm Taf Fechan CL135, ar gyfer yr A465 Blaenau’r Cymoedd Cynllun 5 & 6 – Dowlais Top i Hirwaun.

Cyllid Swyddog Galluogi Tai Gwledig 2018/19

15 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar gyllid refeniw parhaus ar gyfer Swyddog Galluogi Tai Gwledig yn 2018-19.

Cyngor Sir Ynys Mon– Ar y gweill – Neuadd y Farchnad

15 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r cyllid ychwanegol ar gyfer y gost o adnewyddu Neuadd y Farchnad, Caergybi.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Cyllid refeniw ar gyfer setliad cyflog

14 Mawrth 2018

Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid refeniw ychwanegol ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol yn 2017-18 i ariannu eu setliad cyflog.

Amgueddfa Cymru: Cylch Cyflog ar gyfer 2017-2019

14 Mawrth 2018

Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo Cylch Cyflog Amgueddfa Cymru ar gyfer 2017-2019.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Cylch Cyflog ar gyfer 2017-2019

14 Mawrth 2018

Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo Cylch Cyflog Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2017-2019.

Adroddiad cryno ar gyfer Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014-17

14 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno ar gynnwys yr adroddiad Crynodeb ar gyfer Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014-17 ac wedi cytuno i’w gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Clirio Papurau cyfarfod Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Gweinidogion yr Amgylchedd yn Nulyn ar 23 Mawrth 2018

14 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi clirio’r papurau drafft a’r agenda ar gyfer cyfarfod Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Gweinidogion yr Amgylchedd yn Nulyn ar 23 Mawrth 2018.

Rhagair y Gweinidog i Adroddiad Cymru Gyfan o System Reoli ar gyfer Archwilior Amgylchedd Lleol 2017-18'

14 Mawrth 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno ar ragair ar gyfer Adroddiad System Reoli ar gyfer Archwilior Amgylchedd Lleol (LEAMS) Cadw’ch Gymru’n Daclus ar gyfer 2017-18.'

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Astudiaeth o’r Farchnad Cartrefi Gofal

14 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymateb Llywodraeth Cymru i’r ‘Care Homes Market Study’ yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Comisiynydd Pobl H?n, Lle i’w Alw’n Gartref: Effaith a Dadansoddiad

14 Mawrth 2018

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno gydag ymateb Llywodraeth Cymru.

Ariannu prosiect Momentum

14 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo sefydlu a chyllido ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, raglen beilot ddwy flynedd o’r gronfa Momentum i gefnogi cerddorion yng Nghymru.

Proses brynu arfaethedig ar gyfer eiddo sydd â lesddaliad hir

14 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo argymhellion ar gyfer prynu adeilad a chaniatáu lesoedd ar gyfer adeiladau yn Abertawe.

Cyllid ar gyfer prosiect label micro Turnstile

14 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cymeradwyo cyllid i brosiect i roi cymorth i gerddorion o Gymru a cherddorion Cymraeg a labeli micro i gyrraedd marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol.

Dyfarnu Cyllid i Gonsortia Rhanbarthol 2018-19

14 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyfarnu grant i gonsortia rhanbarthol ar gyfer y cyfnod cyllido sy’n cynnwys blwyddyn ariannol 2018-19.

Penodi Aelodau Annibynnol (awdurdodau lleol) i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

14 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Alison Ward a Dyfed Edwards fel Aelodau Annibynnol.

Diweddariad diwedd blwyddyn 2017-18 ar y Gronfa Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg

14 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid ar gyfer blynyddoedd ariannol 2017-18, 2018-19 a 2019-20, o’r Rhaglen Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg. Mae hyn yn cynnwys gwobrau ar gyfer Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, GIG Cymru a’r bartneriaeth Intel a’r rhaglen ACCELERATE.

Penodi Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf – Canlyniad Cyfweliad

14 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Maria Thomas fel Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o’r 1 Ionawr 2018 tan 30 Medi 2020.

Astudiaeth drafnidiaeth ar gyfer Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

13 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnal astudiaeth o drafnidiaeth i helpu i gyflawni amcanion Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.

Gwaredu eiddo yn Wrecsam

13 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaredu eiddo yn Wrecsam.

Ymateb i’r ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ‘Contracts for Difference’

13 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Newid Hinsawdd a Diwydiant yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, mewn ymateb i’r ymgynghoriad a gynhaliodd Llywodraeth y DU ar newidiadau arfaethedig i’r cynllun ‘Contracts for Difference’, gyda chopi at Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Y diweddaraf am gais ynghylch ymrwymiad ariannol Rhaglen Rhyddhau Tir

13 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo’r cais am gyllid ychwanegol i hwyluso’r potensial i sicrhau bod tir ar gael ar gyfer datblygiadau tai, er mwyn helpu i gyrraedd y targed o 20,000 o dai fforddiadwy.

Fframwaith Edrych tua’r Dyfodol ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd yn GIG Cymru

13 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi’r fframwaith Gwyddor Gofal Iechyd yn GIG Cymru – Edrych tua’rDyfodol, sy’n cael £399,893 gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith a amlinellir yn y fframwaith.

Cais am Gymeradwyaeth Fenthyca oddi wrth Gyngor Tref Trefaldwyn

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i swyddogion anfon cymeradwyaeth i Gyngor Tref Trefaldwyn fenthyca cyllid at ddibenion cyfalaf yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19.

Dosbarthu Cyllid Cymunedau yn Gyntaf

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo trosglwyddo cyllid o gyllideb Atal ac Ymyrryd yn Fuan 2017-18 Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, er mwyn ei ddosbarthu ymhlith pum prosiect yng nghymuned Plas Madog.

Cynnig i sefydlu canolfan chweched dosbarth

12 Mawrth 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ddod â’r ddarpariaeth chweched dosbarth i ben yn St Alban’s, Croesyceiliog ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân, ac mae wedi newid y dyddiad gweithredu o 1 Medi 2019 i 1 Medi 2020.

Gorwariant Darparu Dysgu Seiliedig ar Waith

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i roi cyllid i gefnogi’r gwaith o gyflenwi Dysgu Seiliedig ar Waith.

Cyllid ar gyfer secondiad dwy flynedd i Reolwr Cydlyniant Cymunedol

12 Mawrth 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer secondiad dwy flynedd i Reolwr Cydlyniant Cymunedol.

Cymry ar Wasgar

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid i ymuno â chontract â “Global Welsh” ar gyfer gwasanaethau a fydd yn helpu Cymru i feithrin cysylltiadau â Chymry ar wasgar: pobl sy’n hanu o Gymru ond sydd wedi symud i wlad arall ac a fyddai efallai’n fodlon cynnig cefnogaeth economaidd neu ddiwylliannol.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru – Ysgol Dail Pren, Sir Benfro

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cais gan Ysgol Dail Pren, Nanhyfer, Trefdraeth, Sir Benfro i gofrestru fel ysgol annibynnol newydd.

Ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch Prosiectau Ynni Cymunedol

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch prosiectau ynni cymunedol.

Cyllid ar gyfer Adolygiad Tai y DU 2018

12 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i wneud cyfraniad at y gwaith o gynhyrchu Adolygiad Tai y DU 2018.

Cyllid Canolfan Cydweithredol Cymru 2018-19

12 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo parhau â’r cyllid refeniw ar gyfer Cyllid Cydweithredol Cymru yn 2018/19 i gefnogi’r gwaith o weithredu prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru.

Cyllid Cyfalaf ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd ar gyfer gwariant hanfodol ar adnewyddu eitemau sy’n asedau.

Penodi Aelod Cyswllt (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

12 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Jonathan Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Penfro, yn Aelod Cyswllt am un flwyddyn.

Awdurdod Monitro o dan y Cynllun Lwfansau Tirlenwi a Thargedau Adfer yr Awdurdodau Lleol a chefnogi’r economi gylchol

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a’r Gweinidog dros yr amgylchedd wedi cymeradwyo cyfanswm o £80,000 o gyllid refeniw i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflawni ei rôl fel Awdurdod Monitro o dan y Cynllun Lwfansau Tirlenwi a Thargedau Adfer yr Awdurdodau Lleol, a galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru a’i hymgyrch ar gyfer economi fwy cylchol.

Cyllid Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau yn 2017-18

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gyllid ar gyfer yr awdurdodau lleol ar gyfer gwelliannau ar fysiau i gefnogi cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau.

Prifysgol Bangor University – cyfraniad cyllid ar gyfer Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer North West Nuclear Arc

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo grant i Brifysgol Bangor wrth gefnogi’r gwaith o weinyddu’r Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi.

Targedau Niferoedd ITE (Addysg Gychwynnol i Athrawon) 2018-19

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i argaeledd leoedd hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn arwain at Statws Athro Cymwysedig yn y flwyddyn academaidd 2018/19.

Achosion Busnes Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a Rhaglen Gyfalaf Addysg – Chwefror 2018

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i achosion Bro Morgannwg a Chasnewydd a argymhellwyd gan y panel Buddsoddi Cyfalaf ar gyfer symud ymlaen i gam nesaf y broses achos busnes a/neu ddyrannu cyllid.

Llythyr at Awdurdodau cynllunio ynghylch Tai Amlfeddiannaeth (HMOs)

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i’r llythyr gael ei anfon at holl Benaethiaid Cynllunio Cymru, gyda chopi at Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn amlinellu pwerau awdurdodau lleol i reoli Tai Amlfeddiannaeth.

Cyllid tuag at astudiaeth gan y DU i frechiad Meningitis B ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyfraniad o hyd at £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru dros ddwy flynedd ar gyfer astudiaeth gan y DU i lywio ystyriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wrth atal yr haint rhag ymledu ymhlith pobl adolesent.

Dyrannu Cyllid Ychwanegol i Wasanaethau Cymdeithasol a Gefnogir yn Uniongyrchol dros Y Gaeaf 2017-18

08 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyraniad o gyllid ychwanegol i Wasanaethau Cymdeithasol a Gefnogir yn Uniongyrchol dros y Gaeaf 2017-18.

Cyllid ar gyfer Canolfan Monitro Arfordirol Cymru

07 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi cymeradwyo cyllid arfaethedig am ddwy flynedd ar gyfer Canolfan Monitro Arfordirol newydd Cymru. Bydd trydedd flwyddyn yn amodol ar gyllidebau’r dyfodol. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cytuno y bydd yn rhaid i’r ganolfan gynhyrchu adroddiad blynyddol.

Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerdydd Canolog – Gofynion Ychwanegol ar gyfer Datblygu’r Cynllun

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo comisiynu gwaith ychwanegol i ddatblygu’r achos busnes ar gyfer datblygu Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog.

Coed Elai - Cam 2 - Cynllunio Seilwaith ac Archwilio Tir

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid i ymestyn manylion cynllunio ac adeiladu seilwaith ar safle datblygu Coed Elai i gynnwys yr holl safle.

Tendro ar gyfer ystyriaethau lleihau Nitrogen Deuocsid

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gynnal tendro pellach i barhau i ystyried mesurau ar y Rhwydwaith Cefnffyrdd a Thraffyrdd ar gyfer lleihau Nitrogen Deuocsid.

Ariannu Gwasanaethau Bysiau a Chludiant Cymunedol yn 2018-2019

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid yn 2018-19 i helpu awdurdodau lleol i roi cymhorthdal tuag at gynnal gwasanaethau bysiau a chludiant cymunedol sy’n gymdeithasol angenrheidiol yn eu hardaloedd, gan ategu’r gwariant o’u cyllidebau eu hunain.

Cyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2018-19

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2018-2019.

Dyrannu Cyllideb Is-adran y Gymraeg ar gyfer 2018-19 ac arferion gweithio

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r gwariant sydd wedi ei gynllunio a’r dyraniadau o gyllidebau refeniw ar gyfer 2018-19 ar gyfer Is-adran y Gymraeg, ac arferion gweithio’r Is-adran mewn perthynas â’r gyllideb hon.

Dyrannu Cyllideb Is-adran y Gymraeg ar gyfer 2018-19 ac arferion gweithio

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r gwariant sydd wedi ei gynllunio a’r dyraniadau o gyllidebau refeniw ar gyfer 2018-19 ar gyfer Is-adran y Gymraeg, ac arferion gweithio’r Is-adran mewn perthynas â’r gyllideb hon.

Adroddiad ar berfformiad ffermydd llaeth Cymru

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r adroddiad ar berfformiad ffermydd llaeth Cymru ac i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig.

Cymorth gwell ar y cyfryngau ar gyfer gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu Helpa Fi i Stopio

07 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi £200,000 ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18 i Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella presenoldeb ar y cyfryngau i wasanaethau rhoi’r gorau i smygu Helpa Fi i Stopio.

Adolygiad o Gyfleusterau Chwaraeon Perfformio ac Elitaidd

05 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i rannu casgliadau’r ‘Adolygiad o Gyfleusterau Chwaraeon Perfformio ac Elitaidd – Adroddiad yr Ymgynghorydd’ â phartneriaid perthnasol, er mwyn datblygu cynigion ar y blaenoriaethau i fuddsoddi ynddynt.

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Diweddaru’r Polisi ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal

05 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cytuno i ddiweddaru’r polisi ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn unol â’r Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd – Plant yng Nghymru - Adolygiad

05 Mawrth 2018

Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cytuno ar ddiben, ehangder ac amserlen adolygiad o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer Plant yng Nghymru drwy’r Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd.

Canlyniad Arfarniad Mapiau Rhyngrwydd Integredig

05 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cynnig penderfyniad ar arfarniad Mapiau Rhyngrwyd Integredig a Mapiau Llwybrau Presennol.

Gwerthu tir yn Abercynon

05 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar werthu tir rhydd-ddaliad yn Abercynon.

Gwerthu tir yng Nghaerdydd

05 Mawrth 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir yng Nghaerdydd.

Cynllun Grant Cyfalaf un-tro i brynu unedau ar gyfer storio cyrff

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar ddarparu grant un-tro i awdurdodau lleol arweiniol sydd wedi’u dynodi o bob un o ardaloedd Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yng Nghymru. Caiff y grant ei roi er mwyn iddynt brynu unedau ar gyfer storio cyrff i gefnogi’r ymateb i argyfyngau sy’n cynnwys marwolaethau, pan fyddai corffdai presennol y GIG yn ei chael yn anodd i ymdopi â’r galw.

Dyraniad o Gyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol i Goleg Swydd Gaerloyw

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo rhoi dyraniad o gyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol i Goleg Swydd Gaerloyw, er mwyn cefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol o Gymru.

Cyllid refeniw i Awdurdodau Lleol reoli perygl llifogydd – 2018/19

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i gynyddu maint y cyllid refeniw sydd ar gael i Awdurdodau Lleol i £1,430,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19, er mwyn iddynt reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Cyllid ar gyfer Anabledd Cymru

28 Chwefror 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno i gefnogi’r cais un-tro gan Anabledd Cymru am gymorth ariannol i helpu i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’r symud i’w safle newydd yn ddiweddar.

Buddsoddi mewn prosiect ymchwil

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar roi arian cyfatebol i gefnogi buddsoddiad mewn rhaglen ymchwil i gynyddu nifer yr ymchwilwyr yng Nghymru.

Byw yn Glyfar – Adroddiad Blynyddol

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddatblygu data a chynnwys cyfoethog ar gyfer Adroddiad Blynyddol Byw yn Glyfar, yn barod ar gyfer digwyddiad Dyfodol Ynni Craffach i Gymru ym mis Gorffennaf 2018. Bydd hefyd yn datblygu fframwaith ar gyfer arddangoswyr Byw yn Glyfar i’w ddefnyddio yn yr hirdymor ar gyfer gweithgareddau lledaenu dysgu a gwybodaeth.

Cyfraddau ardollau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyfraddau ardollau arfaethedig y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2018/19.

Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru – Contractwr i Sicrhau Ansawdd a Chynnal Archwiliad

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar broses gaffael Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) i benodi sefydliad i sicrhau ansawdd ac archwilio rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn annibynnol.

Cyfraniad Llywodraeth Cymru at Strategaeth Twf Glân Llywodraeth y DU

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi gwrthod rhoi cyfraniad gan Lywodraeth Cymru at Strategaeth Twf Glân Llywodraeth y DU. Ysgrifennodd at Weinidog Gwladol y DU dros Ynni a Thwf Glân i egluro’r rhesymau am y penderfyniad hwnnw – gan gynnig awgrymiadau ar sut y gallai’r Strategaeth gael ei gwella i gefnogi datgarboneiddio yng Nghymru.

Ailbenodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi’r Athro Jo Rycroft Malone yn Aelod Annibynnol am flwyddyn.

Costau Deintyddol i Gleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar gyfer 2018-19

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i beidio â chynyddu costau deintyddol ym Mand 1 na rhai brys – bydd costau deintyddol ym Mandiau 2 a 3 yn cynyddu 2.5 y cant i gleifion y GIG yng Nghymru.

Ailbenodi Aelod Annibynnol (TGCh)

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Dr Christopher Turner yn Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf tan 31 Rhagfyr 2018.

Cymeradwyo cyllid i wella cladin Ysbyty Athrofaol y Grange

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid o £3.788m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Caiff y cyllid ei ddefnyddio i wella’r cladin a gwneud gwaith cysylltiedig yn Ysbyty Athrofaol y Grange.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

28 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Athro Malcolm Lewis OBE yn Aelod Cyswllt am dair blynedd.

Cymeradwyo rhoi cyllid o gyllideb Buddsoddi mewn Ansawdd

26 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid mewn perthynas â phrosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd, gan gynnwys noddi cynhadledd flynyddol Colegau Cymru.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy 2018/20 yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

26 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i roi cyllid refeniw o £275,000 yn 2018/19 a £275,000 yn 2019/20 yng Nghronfa Datblygu Cynaliadwy yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a rhoi ffigur dangosol £275,000 yng Nghronfa 2020/21.

Cynnig i dendro cam dau contract cyfathrebu ac ymgysylltu Trafod Gofal Plant

26 Chwefror 2018

Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo cynnig i dendro cam 2 contract cyfathrebu ac ymgysylltu #TrafodGofalPlant fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Cymorth ar gyfer Sgiliau Hyblyg 2017-18

26 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cymeradwyo pecyn cymorth ariannol i helpu cwmni i hyfforddi ei weithlu yng Nghymru.

Cynigion prosiect Addysg yng Nghymru 17-18

26 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo nifer o gynigion buddsoddi mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod y cyllid ysgolion wedi’i ailflaenoriaethu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 207-18.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru - Lleoliad

26 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud mai T? Dysgu yn Rhondda Cynon Taf yw’r opsiwn y mae’n ei ffafrio ar gyfer lleoliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru - Lleoliad

26 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi gwybod i aelodau’r Cynulliad am ei fwriad mewn perthynas â lleoliad pencadlys Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Talu’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal Cyfrifiad y Gweithlu Meddygol a Deintyddol Cyffredinol

26 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i NHS Digital gasglu a gwirio data gweithlu’r meddygol a deintyddol cyffredinol ar gyfer 2017.

Cynllun Grantiau Adeiladau Hanesyddol

22 Chwefror 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cwmpas a’r trefniadau ar gyfer ail-gyflwyno Cynllun Grantiau Adeiladau Hanesyddol yn 2018-19.

Cynllun gweithredu ar fastiau ffonau symudol – ardrethi annomestig

22 Chwefror 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cymeradwyo pecyn o waith i’w wneud ar ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol.

Ailflaenoriaethu cyllid

22 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ailflaenoriaethu cyllid o fewn cyllidebau Is-adrannol Addysg Uwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18.

Cystadleuaeth Cadwch Gymru’n Daclus

22 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cystadleuaeth i ennyn diddordeb pobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd fel rhan o’r rhaglen Ddatgarboneiddio.

Peilot Amgylchiadau Iechyd Nyth

22 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn y peilot Amgylchiadau Iechyd Nyth hyd at 31 Mawrth 2019.

Gwybodaeth i denantiaid ar ddiddymu’r hawl i brynu

22 Chwefror 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo cynnwys y Ddogfen Gwybodaeth i Denantiaid sy’n codi o Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Tystiolaeth ysgrifenedig 2018/19

22 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet Secretary dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG a’r Corff Adolygu Cyflogau Meddygon a Deintyddion.

Y Penwythnos Mwyaf 2018

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi grant tuag at lwyfannu’r Penwythnos Mwyaf ym mis Mai 2018.

Cyfalaf Dechrau’n Deg - Conwy

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf Cynnig Gofal Plant ar gyfer datblygu canolfan i deuluoedd yng Nghonwy.

Dechrau’n Deg

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo nifer o newidiadau i gyllid cyfalaf ar gyfer Gwynedd, Rhondda Cynon Taf a Sir y Fflint; a hefyd wedi cymeradwyo cais cyfalaf Dechrau’n Deg newydd ar gyfer Conwy a chynnydd mewn cyllid ar gyfer un prosiect ym Mro Morgannwg.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau taliad Glastir 2015 oherwydd methiant yr ymgeisydd i gyflwyno dogfennaeth ategol ofynnol erbyn y dyddiad cau a nodwyd.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn gweithredu cosb am orddatgan mewn perthynas â Chynllun y Taliad Sylfaenol 2015 ac yn erbyn lleihau taliad Glastir 2015 mewn perthynas ag Opsiwn 37 y cytundeb.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniadau Llywodraeth Cymru i leihau taliad Glastir 2015 oherwydd methiant i gyflwyno gwybodaeth ategol erbyn 15 Mai 2015 ac i weithredu cosb o 1% mewn perthynas â thaliad Glastir 2015 oherwydd hysbysiad hwyr ynghylch gwerthiant parsel tir.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosb weinyddol am dorri amodau contract Glastir 2015 oherwydd methiant i fodloni’r gofynion ar gyfer Opsiwn 15.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosb mewn perthynas â thaliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch oherwydd methiant i fodloni manyleb dechnegol ar gyfer opsiwn 645.

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosbau gweinyddol am dorri amodau contract Glastir Sylfaenol (Elfen Cymru Gyfan Glastir gynt).

Proses Apelio Annibynnol i Ffermwyr a Choedwigwyr yng Nghymru

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu cosb am orddatgan mewn perthynas â chymorthdaliad Chynllun y Taliad Sylfaenol 2015.

Cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia

19 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia 2018-2022.

Cynllun Cyflawni Rhaglen Cyfalaf a Refeniw MALD 2018-2019

15 Chwefror 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2018-19 i gefnogi’r Sector Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru.

Cytundeb Menter ar y Cyd Arfaethedig – Coed Ely, Rhondda Cynon Taf

15 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo argymhellion i ymuno â Chytundeb Menter ar y Cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Rhaglen Rheoli Darbodus Toyota 2018-2021

15 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Rhaglen Rheoli Darbodus Toyota.

Cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Rhiwabon

15 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Rhiwabon er mwyn newid yr ystod oedran o 11-18 i 11-16. Bydd darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgol yn dod i ben ar 31 Medi 2018.

Dyrannu cyllideb y Gangen Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a Chyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd ar gyfer 2018/19

15 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r dyraniadau grant arfaethedig ar gyfer y Gangen Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a Chyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd ar gyfer 2018-19 i gefnogi gwaith ar lythrennedd, rhifedd ac ieithoedd tramor modern.

Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol – Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

15 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i benodi Chris Britten yn Gadeirydd a’r Athro Gary Beauchamp yn Is-gadeirydd y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol.

Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol – Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

15 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i benodi Chris Britten yn Gadeirydd a’r Athro Gary Beauchamp yn Is-gadeirydd y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol.

Y cyllid grant ar gyfer Sgiliaith, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r Urdd i barhau

15 Chwefror 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gyllid grant ar gyfer Sgiliaith, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r Urdd i gefnogi darpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg yn 2018/19.

Cylch gwaith Chwaraeon Cymru ar gyfer 2018-21

14 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo Llythyr Cylch gwaith Chwaraeon Cymru ar gyfer 2018-21.

Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau –Argymhelliad ar gais o dan y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau

14 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ariannu cyfres i blant trwy’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau.

A465 Adran 2 – Gilwern to Frynmawr – Cynnydd i gyllideb y cynllun

14 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cynnydd i gyllideb y cynllun ac wedi cytuno o ran egwyddor i gychwyn achos anghydfod yn erbyn Costain.

Argymhelliad ar gais o dan y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau

14 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ariannu ffilm trwy’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau.

Penodi CEO i Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd

14 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i benodiad Chris Stark fel CEO newydd Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd.

Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd – Estyn cyfnod dau aelod o’r Bwrdd

14 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn cyfnodau’r Athro Syr Brian Hoskins a’r Athro Jim Skea fel aelodau o Bwyllgor y DU ar newid yn yr Hinsawdd am gyfnod o chwe mis.

Diwygio’r Contract Deintyddol ac ehangu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer practisau deinyddol y GIG

14 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar ddiwygio’r contract deintyddol ac ehangu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer practisau deinyddol y GIG.

Cyllideb Gyfalaf y Rhaglen Newid Gydweithredol

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (Prif Weinidog yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf i 10 awdurdod lleol yn 2017-18 i gefnogi gwella’r gwasanaethau ailgylchu. Rhoddir y cyllid o dan y Rhaglen Newid Gydweithredol.

Trefniadau gweinyddol ar gyfer apeliadau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967

12 Chwefror 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i awdurdodi Pennaeth Adran Polisi Adnoddau’r Goedwig i gynnull pwyllgorau, fel bo’r angen, o aelodau’r Panel Cynghori ar y Strategaeth Goetiroedd fel rhan o’r trefniadau gweinyddol ar gyfer rheoli apeliadau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.

Cyllid Arloesi

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi rhaglen ‘Happy Smiles - Sup the Cup’ ac adnodd ‘Treasure Chest’ awdurdod lleol Blaenau Gwent.

Academydd Arbenigol ym maes Cydraddoldeb i fynd i Ddigwyddiad y Cenhedloedd Unedig

12 Chwefror 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyfraniad at gostau teithio a chynhaliaeth er mwyn i academydd arbenigol fod yn bresennol yn nigwyddiad bwrdd crwn y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn erbyn Menywod a Thrais Rhywiol a Domestig.

Darparu Wi-Fi am ddim yng Ngorsafoedd Trenau Arriva Cymru

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gwblhau’r gwaith y mae angen ei wneud er mwyn gallu darparu Wi-Fi am ddim yn yr 50 o orsafoedd prysuraf yng Nghymru.

Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr i 31 Gorffennaf 2018.

Estyn Contract Teithio Llesol

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo estyn ‘Teithiau Llesol’, sef rhaglen Llywodraeth Cymru i hybu teithio llesol mewn ysgolion, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn amodol ar gynllun cyflawni wedi’i ddiweddaru a’i gymeradwyo.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni, Ionawr - Chwefror

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo taliadau Ionawr a Chwefror 2018 o dan drefniadau cyfredol rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Cefnogaeth Ychwanegol i Gyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig ac Addysg Teithwyr Sipsi Roma

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i gefnogi Awdurdodau Lleol i hybu cyflawniad lleiafrifoedd ethnig ac i ddarparu addysg i ddysgwyr sy’n Deithwyr Sipsi Roma ym mlwyddyn ariannol 2018-19.

Dileu cydsyniad y Trysorlys o’r Rheoliadau Gwaith Morol

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros yr Amgylchedd,, DEFRA , yn gofyn am ddileu’r gofyniad yn Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (fel y’u diwygiwyd) cydsyniad Trysorlys y DU.

Polisi Cynllunio Cymru Drafft – Rhifyn 10

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddechrau ymgysylltiad ac ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar gynnwys fersiwn drafft o Bolisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 10).

Trefniadau Parthau ar gyfer Tai Fforddiadwy yng Nghymru

12 Chwefror 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo cynigion i symleiddio’r broses ar gyfer diwygio trefniadau parthau ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, ynghyd â chais penodol i ddiwygio trefniadau parthau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam er mwyn cynnwys Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Y fframwaith strategol olynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol

12 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal gwerthusiad annibynnol o effaith ‘Mwy na geiriau…’ – y fframwaith strategol olynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol ar gyfer 2016-2019.

Tirlithriad Pant-teg

08 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i gyfrannu cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn sgil ymateb y Cyngor i’r tirlithriadau sydd wedi digwydd ym Mhant-teg, Ystalyfera.

Cais am gymorth ariannol yn sgil Llifogydd Ynys Môn

08 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyfrannu cyllid i Gyngor Sir Ynys Môn yn sgil ymateb yr awdurdod i ddifrod eang oherwydd llifogydd, gan gynnwys gwaith atgyweirio brys.

Dyrannu cyllid cyfalaf ar gyfer Seiberddiogelwch a Gwybodaeth Busnes

08 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £1.812 miliwn o gyllid cyfalaf i gryfhau seiberddiogelwch a gwybodaeth busnes yn GIG Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol ((undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

08 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodiad Dawn Ward fel Aelod Annibynnol am gyfnod o dair blynedd.

Cyllid Cyfalaf ar gyfer Atgyweirio Ffyrdd

07 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo rhoi £30 miliwn o gyllid cyfalaf cyffredinol i awdurdodau lleol o gyllideb 2017-18 i gefnogi rhaglen atgyweirio ffyrdd.

Cynllun Penodi Chwaraeon Cymru – Cadeirydd a hyd at 3 Aelod o’r Bwrdd

07 Chwefror 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cynllun penodi a fydd yn recriwtio Cadeirydd newydd a hyd at dri aelod newydd i Fwrdd Chwaraeon Cymru.

Sioe Haf 2018

07 Chwefror 2018

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau i Lywodraeth Cymru fod yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2018.

Achosion Busnes y Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif – Ionawr 2018

07 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo achosion Abertawe, Sir Ddinbych, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn unol ag argymhellion y Panel Cynghori ar Fuddsoddi y dylent symud ymlaen i gam nesaf y broses a/neu y dylid dyrannu cyllid.

Byw yn Glyfar – Datblygu Rhaglen Dyfodol Teg y DU a Thlodi Tanwydd

07 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid i gymryd rhan yn Rhaglen Dyfodol Teg y Deyrnas Unedig, er mwyn cael gwybodaeth ar gyfer llunio polisi tlodi tanwydd yng Nghymru.

Gofalu am bobl mewn cyflwr diymateb parhaol

06 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu datganiad ysgrifenedig er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch rhoi diagnosis, trin a gofalu am bobl mewn cyflwr diymateb parhaol neu mewn cyflwr lled-anymwybodol.

System ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer creu system unedig i’r Blynyddoedd Cynnar, fel y’i hamlinellir yn Ffyniant i Bawb. Mae’r cyllid cysylltiedig hefyd wedi’i gymeradwyo.

Prosiect Cyflymu Cymru – Amrywio Cytundeb Grant gyda BT

05 Chwefror 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip a hefyd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i estyn dyddiad gorffen Prosiect Cyflymu Cymru i 28 Chwefror 2018.

Band Eang y Genhedlaeth Nesaf

05 Chwefror 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip a hefyd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gyhoeddi Gwahoddiad i Dendro ar gyfer cyflenwr/cyflenwyr seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.

Gorchymyn Prynu Gorfodol 2017

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno y gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gadarnhau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm Aberpennar.

Prosiectau Cronfa Microfusnesau a Busnesau Bach – Ionawr 2018

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo 3 phrosiect o dan y Gronfa Microfusnesau a Busnesau Bach ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo un prosiect arall.

Gwerthu tir ym Mharc Bryn Cefni, Llangefni

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Bryn Cefni, Llangefni.

Cyllid Cymraeg i Oedolion 2018-19

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen Cymraeg i Oedolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19.

Ymgyrch Recriwtio Addysg Gychwynnol i Athrawon

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnwys gwaith ychwanegol fel rhan o’r ymgyrch recriwtio penodol ym maes Addysg Gychwynnol i Athrawon. Y nod fydd rhoi rhagor o sylw i bynciau â blaenoriaeth a hefyd bynciau lle y mae’r lefelau recriwtio’n isel.

Cymraeg Gwaith 2018-19

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2018-19 fel bod modd i’r rhaglen Cymraeg Gwaith barhau.

Ehangu Cymorth i’r Gymraeg o fewn Cwlwm 2018-2020

05 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ehangu cymorth i’r Gymraeg o fewn rhaglen waith CWLWM ar gyfer 2018-2020.

Penodi Is-Lywydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru

01 Chwefror 2018

Nid yw’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i benodiad Is-Lywydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Adolygiad o’r Cytundeb Fibrespeed 2018

01 Chwefror 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo adolygiad o’r Cytundeb Fibrespeed.

Ymgynghoriad ar drafod Canolfan Waredu Ddaearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd â’r Gymuned

01 Chwefror 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus dros 12 wythnos ar drafod Canolfan Waredu Ddaearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd â’r gymuned.

Cyllido Hyblyg 2018-19

01 Chwefror 2018

Mae Ysgrifenyddion y Cabinet a’r Gweinidogion wedi cytuno i anfon llythyrau cynnig grant dangosol at awdurdodau lleol ar gyfer 2018/19 i ddatblygu hyblygrwydd pellach o ran cyllid i alluogi’r gwasanaeth i gael ei ail-gynllunio er mwyn cefnogi gwelliannau cynaliadwy i ganlyniadau ar gyfer pobl a chymunedau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wedi cytuno i ariannu gwerthusiad annibynnol o’r rhaglen dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2019/20.

Cronfa Safleoedd Segur Cymru

01 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo’r buddsoddiad Cyfalaf Trafodiad Ariannol (FTC) a’r trefniadau gweithredol ar gyfer cynllun benthyciadau Adfer Tir – Cronfa Safleoedd Segur Cymru.

Penodi Cadeirydd dros Dro i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

01 Chwefror 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Martin Woodford fel Cadeirydd dros dro Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am gyfnod o hyd at dddeuddeng mis o’r 1 Ebrill 2018.

Cymeradwyo cyllid i brynu offer Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru 2017-2018

01 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i £0.431 o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro er mwyn prynu offer ar gyfer Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru sydd angen eu hadnewyddu.

Safonau maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant a chartrefi gofal i bobl h?n

01 Chwefror 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu a gweithredu’r safonau maeth a’r canllawiau arfer gorau ar gyfer lleoliadau gofal plant a chartrefi gofal i bobl h?n.

Y diweddaraf ar wella statws sefydliadau GIG Cymru

01 Chwefror 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyflwyno datganiad ysgrifenedig i roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar godi statws sefydliadau GIG Cymru.

Grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

31 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cytuno i ariannu y cynigion ar gyfer dyraniad Grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Dechrau’n Deg – Wrecsam, Caerdydd a Castell-nedd Port Talbot

31 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar geisiadau am newid sy’n gysylltiedig â chyllid cyfalaf Dechrau’n Deg o Wrecsam, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr 2018-19 – Lansio’r Cylch Ceisiadau

31 Ionawr 2018

Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno ar y trefniadau i lansio cylch ceisiadau cyntaf 2018-19 ar gyfer y Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Y broses Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Cadeirydd a Chomisiynydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol

31 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r cynllun ar gyfer ymarfer recriwtio Penodiadau Cyhoeddus i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Argymhellion i ddefnyddio Eiddo Gwag

31 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i gynnig i Cymdeithas Tai Rhondda drosglwyddo eiddo gwag dethol o’u tai cymdeithasol i gynllun rhannu ecwiti, ac i ddarparu cyllid grant ar gyfer y cynllun hwn.

Parhau i gyllido Technoleg Iechyd Cymru yn 18-19 a 19-20

31 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gytuno i ddarparu £2 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru i Dechnoleg Iechyd Cymru rhwng 2018-19 a 2019-20.

Dyfarniad Cyflog Chwaraeon Cymru

29 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cymeradwyo dyfarniad cyflog Chwaraeon Cymru i’w staff ar gyfer 2017-18 a 2018-19.

Tanysgrifennu cynnig cyfranddaliadau ynni gwynt cymunedol Granell

29 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i roi llythyr o gysur i’r Gronfa Benthyciadau Ynni Lleol yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i brynu gwerth hyd at £451,000 o gyfranddaliadau os na fydd cynnig cyfranddaliadau cymunedol tyrbin gwynt Granell yn cyrraedd y ffigur angenrheidiol.

Cymeradwyo Penodiad i’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

29 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbenodi George Lyon fel Cyfarwyddwr Anweithredol y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Paul Temple fel Cadeirydd Bwrdd yr AHDB Cereals & Oilseeds. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ddod ag aelodaeth Ian Crute a Gary Taylor o’r Bwrdd i ben ym mis Mawrth 2018, ac i gynnal proses gyhoeddus ar gyfer penodi aelodau yn eu lle.

29 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar Gyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru ar gyfer 2018/2019 a chostau Ardoll Cig Coch Cymru mewn lladd-dai / marchnadoedd arwerthu ar gyfer 2018/2019.

Alcohol Concern Cymru ac Elusennau Cyffuriau ac Alcohol Cymru

29 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £60,000 dros dair blynedd ariannol (2017-18 – 2019-20) i Alcohol Concern Cymru ac Elusennau Cyffuriau ac Alcohol Cymru.

Metrigau ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

25 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i ddefnyddio’r metrigau perthnasol a nodwyd, yn ogystal â’r rheini sydd i’w datblygu ymhellach ar y cyd â’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, ac i rannu’r metrigau a’r amserlenni ar gyfer gwaith yn y dyfodol â Gr?p Cyfeirio Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr.

Rhoi ar waith Fforwm a Chynllun Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth

25 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r model cyflawni a chyfathrebu arfaethedig ar gyfer Fforwm a Chynllun Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth 2018.

Canlyniadau Panel Asesu’r Cynllun Benthyciadau Canol Trefi (Cam 4)

25 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo’r dyraniadau newydd y Cynllun Benthyciadau Canol Trefi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Ymgyrch rhianta cadarnhaol

24 Ionawr 2018

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer yr ymgyrch Rhianta Cadarnhaol 2018-19 i 2020-21.

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Plant sy’n Derbyn Gofal

24 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi ystyried a chadarnhau’r safbwynt ar gynnwys plant sy’n derbyn gofal a leolir gyda gofalwyr maeth o fewn y cynnig gofal plant.

Adolygiad o Wasanaethau Bws – Datblygu Achos Busnes Strategol Amlinellol

24 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer dechrau ar y gwaith sylfaenol o ddatblygu Achos Busnes Strategol Amlinellol ar gyfer creu rhwydwaith bysiau cynaliadwy.

Byw yn Glyfar – Tanwydd Cynaliadwy a Symudedd Gwledig, y Gogledd

24 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i roi cyllid i Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint ar gyfer 2017/18 i edrych ar y potensial i ddefnyddio tanwydd mwy cynaliadwy ac i ddeall y posibiliadau ar gyfer y rôl, y cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â symudedd mwy clyfar.

Byw yn glyfar – Tanwydd Cynaliadwy – Nwyon Gwyrdd a Symudedd Clyfar yn Sir Fynwy

24 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cyngor Sir Fynwy i helpu i adeiladu ar y datblygiadau nwy gwyrdd presennol a symud at gymysgedd o danwydd cynaliadwy, gan sicrhau eglurder ynghylch y posibiliadau sy’n gysylltiedig â’r rôl, y cyfleoedd a’r risgiau a ddaw i’r Cyngor o ymdrin â symudedd clyfar cynaliadwy.

Cynnig i newid y gweithdrefnau ar gyfer rheoli Contagious Equine Metritis

24 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno i dreialu newidiadau i weithdrefnau ar gyfer rheoli’r clefyd Contagious Equine Metritis yng Nghymru, gan ddechrau ar 1 Chwefror 2018.

Ailgyfeirio Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru

23 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i ailgyfeirio Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru at y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd; ac i ymestyn contract Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yr UE ColegauCymru i 2018/19.

Dyraniadau ychwanegol ar gyfer teithio llesol

23 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i’r cynlluniau teithio llesol a argymhellwyd a bod swyddogion yn anfon llythyron dyfarnu diwygiedig i’r Awdurdodau Lleol.

Cyngor y Sector Bwyd a Diod

23 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gefnogi Andy Richardson, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, i gynrychioli buddiannau Cymru ar Gyngor y Sector Bwyd a Diod a fydd yn cael ei sefydlu o dan Strategaeth Ddiwydiannol y DU, ar yr amod bod cynrychiolaeth yn cael ei ystyried ymhellach gan y Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf.

Diweddariad ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru

23 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ym mis Ionawr yn diwygio’r amserlen ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac wedi cytuno ar strwythur y Cyfarwyddwyr Gweithredol ar gyfer y sefydliad newydd.

Cyllid ar gyfer Cynllunio Cynllun Amddiffyn yr Arfordir y Mwmbwls

22 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo 75% o gyllid grant tuag at gost y gwaith o gynllunio cynllun rheoli risg arfordirol yn y Mwmbwls, Abertawe.

Grantiau Arbed yr Awdurdodau Lleol 2017-2021 o dan raglen Cartrefi Clyd

22 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddod â chyllid grant i ben ar gyfer cynlluniau ardal Awdurdodau Lleol o 1 Ebrill 2018 ac wedi cytuno, mewn egwyddor, i ailddyrannu’r cyllid ar gyfer Grantiau Arbed Awdurdodau Lleol, o 1 Ebrill 2018 i 21 Mawrth 2021, i Gam 3 Prosiect ERDF Arbed.

Penodi Aelodau Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

22 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Tina Donnelly, Ruth Hall, John Hill-Tout, Gill Lewis, Ceri Phillips a Heidi Philips i Fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyllid cyfalaf ar gyfer Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

19 Ionawr 2018

Mae’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu grant cyfalaf o £664 mil i Amgueddfa Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn ysgogi incwm ychwanegol.

Datblygu a chyflwyno Prentisiaethau Gradd

19 Ionawr 2018

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y dylid dyrannu cyllid drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn y tymor byr i ganolig, i gyflwyno Prentisiaethau Gradd yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer cludiant cymunedol a gwasanaethau bysiau

19 Ionawr 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno ar y cynigion i gynnal gweithgarwch yng Nghymru, gan gynnwys y dyraniadau o £294,000 i ddathlu canmlwyddiant hawl menywod i bleidleisio yn 2018.

Cyllid ar gyfer Cludiant Cymunedol a Gwasanaethau Bysiau

19 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cymeradwyo cyllid i helpu awdurdodau lleol i roi cymhorthdal tuag at gludiant cymunedol a gwasanaethau bysiau sy’n gymdeithasol angenrheidiol yn eu hardaloedd, gan ychwanegu at y gwariant o’u cyllidebau eu hunain.

Cyfethol aelod i Fwrdd Strategol Busnes Cymru

19 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo penodi Rhian Elston, Banc Datblygu Cymru, fel aelod cyfetholedig o Fwrdd Strategol Busnes Cymru.

Grant Rhaglen Cefnogi Pobl

19 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog dros Dai ac Adfywio wedi cytuno ar ddyraniad dangosol Grant Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2018/19.

Cyllideb Byw’n Annibynnol

19 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar y dyraniadau dangosol o Gyllideb Byw’n Annibynnol yn 2018-19.

Cyllid Grant Atal Digartrefedd

19 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar y cyllid dangosol o gyllideb Atal Digartrefedd i Awdurdodau Lleol ar gyfer 2018/19.

Cymeradwyo llythyr cylch gwaith Careers Choices Dewis Gyrfa ar gyfer 2018-19

18 Ionawr 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes lythyr cylch gwaith Careers Choices Dewis Gyrfa Cyf (sy’n masnachu fel Gyrfa Cymru) ar gyfer darparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19.

Gweithgareddau Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus Ionawr 2018 – Mawrth 2018

18 Ionawr 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar daliadau chwarterol ar gyfer contract Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

Cyllid i gefnogi Rhaglen Waith Parth Menter Eryri yn y dyfodol

18 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant refeniw i gefnogi ystod o becynnau gwaith sy’n ymwneud â safleoedd Trawsfynydd a Llanbedr o fewn Parth Menter Eryri.

Adnoddau Naturiol Cymru: Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi 2017

18 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cadarnhau Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Cyfyngu ar Drwyddedau Pysgota â Rhwydi) 2017, yn amodol ar yr amrywiad canlynol: Ceisiadau am drwyddedau pysgota yn Erthygl 5(1) erbyn “31 Rhagfyr y flwyddyn flaenorol” yn lle “31 Ionawr y flwyddyn honno”.

Ehangu tymor penodiad Aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru

18 Ionawr 2018

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i ehangu tymor penodiad Johanna Sheppard, aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru.

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd – Prynu yn ôl Disgresiwn - Coedcernyw

17 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cymeradwyo derbyn Cais i Brynu yn ôl Disgresiwn a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Choridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd – Prynu yn ôl Disgresiwn – Little Orchard

17 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cymeradwyo derbyn Cais i Brynu yn ôl Disgresiwn a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Choridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol

17 Ionawr 2018

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes un cais ar gyfer rhaglen astudio newydd; un cais am gymorth ychwanegol; un cais i ddiwygio rhaglen astudio person ifanc; ac un cais i ehangu rhaglen astudio benodol mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Prosiect CPH – Y diweddaraf

17 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno’r system TG i alluogi cwsmeriaid i reoli eu rhifau CPH ar-lein.

Dyrannu Cyllid Refeniw Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer 2018-19

17 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ddirprwyo Llinell Wariant Gyllidebol Refeniw Camddefnyddio Sylweddau o £26.475m i swyddogion yn 2018-19.

Tir Gerllaw T? Caerwent/Teml Rufeinig, Caerwent, Sir Fynwy

16 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i roi prydles 99 mlynedd at ddibenion garddwriaethol/garddio ar gyfer darn o dir cofrestredig nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Rheoliadau Rasio Moduron

16 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i lunio rheoliadau sy’n rhestru’r cyrff llywodraethu chwaraeon modur sy’n galluogi person sy’n dymuno hyrwyddo ras neu dreialon cyflymder rhwng cerbydau modur ar briffordd i gyflwyno cais i’r cyrff hynny am drwydded at ddiben rasio moduron ar briffyrdd cyhoeddus yng Nghymru.

Digwyddiad i Arweinwyr y Sector Cyhoeddus

16 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ddosbarthu gwahoddiadau i’r digwyddiad ar gyfer Arweinwyr y Sector Cyhoeddus ar 1 Chwefror 2018.

Perchenogaeth leol o ynni adnewyddadwy

16 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi cais cyhoeddus dros 12 wythnos am dystiolaeth ynghylch perchenogaeth leol o ynni adnewyddadwy.

MEIC – wedi 2018

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y contract gyda ProMo-Cymru am 12 mis arall.

Cyfalaf Dechrau’n Deg

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus; Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno i drosglwyddo cyllid o’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol i Raglen Dechrau’n Deg. Hefyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo nifer o geisiadau cyfalaf o fewn rhaglen Dechrau’n Deg.

Cyllid ar gyfer Hawliau Plant a Rhoi Plant yn Gyntaf

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o hawliau plant, ac i helpu cynrychiolwyr o ardaloedd arloesi Rhoi Plant yn Gyntaf i gynnal ymweliadau astudio â Chymunedau Plant yn Lloegr.

Parc Busnes Ty Gwyn – Gwaith Adeiladu- Adfer Terfynol

15 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant prosiect ar gyfer gwaith ym Mharc Busnes Parc Ty Gwyn, Llanrwst a dechrau ar Gytundeb Adran 38 gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i fabwysiadu mwyafrif ffyrdd yr ystad a chwblhau’r gwaith.

Prifysgol Abertawe – Cyfraniad ariannol at Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo grant i Brifysgol Abertawe er mwyn ei helpu i weinyddu’r Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi.

Gwerthusiad Ser Cymru

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno cynnal proses dendro lawn i benodi person/sefydliad annibynnol i gynnal gwerthusiad o Ser Cymru.

Gwaredu Tir, y Bari

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaredu tir yn y Bari.

Man Agored Cyhoeddus a Mannau Chwarae i Blant yn SA1 Glannau Abertawe

15 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo taliad i Ddinas a Sir Abertawe i ddarparu a cynnal a chadw a pherchnogaeth wedi hynny o fannau agored cyhoeddus a safleoedd chwarae.

Cymorth ar gyfer Rhaglen Cadwyn Gyflenwi Hinkley

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid i gyfrannu at Raglen Cadwyn Gyflenwi a fydd yn helpu busnesau Cymru i dendro am waith o dan brosiect Gorsaf B?er Pwynt C Hinkley.

Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cyngor Cymru yn y dyfodol

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cyngor Cymru yn 2018/19.

Cymeradwyaeth Corff o Bersonau

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi Cymeradwyaeth Corff o Bersonau am gyfnod o 2 flynedd i luoedd cadetiaid noddedig y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cais am Dystiolaeth ar berchnogaeth leol o brosiectau ynni adnewyddadwy

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnal cais am dystiolaeth gyhoeddus dros 12 wythnos ar berchnogaeth leol ynni adenwyddadwy.

Tappers Garage – Cymeradwyo Newid Defnydd

15 Ionawr 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i newid y defnydd arfaethedig o safle Tappers Garage, Rhondda Cynon Taf a dderbyniodd gyllid ardal adfywio Blaenau’r Cymoedd yn 2006.

Y Diweddaraf ar y Rhaglen Rhyddhau Tir a Cais am Ymrwymiad Ariannol

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r cais am gyllid ychwanegol i hwyluso’r posibilrwydd o gael tir ar gyfer datblygu tai, fydd yn helpu i gyfrannu at y targed tai fforddiadwy o 20,000.

Cronfa Gofal Integredig – Trosglwyddo Cyllid i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

15 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Tai ac Adfywio a’r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ar gyfer Cronfa Gofal Integredig 2017-18.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru – Darpariaeth TGCh yn y dyfodol – achos busnes

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol y Comisiwn ar gyfer ei ddarpariaeth TG yn y dyfodol a’r costau Refeniw a Chyfalaf dilynol.

Adnoddau yr Uned Prentisiaethau

11 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r defnydd o gronfa’r rhaglen i gynyddu capasiti staff o fewn Uned Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Canllawiau ar gyfer Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (dyletswydd Adran 6)

11 Ionawr 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno i gyhoeddi’r Canllawiau Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ar wefan Llywodraeth Cymru a gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd – Adolygiad o drefniadau contract cynnal

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau contract cynnal yn y dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.

Mesur y Mynydd

11 Ionawr 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymeithasol wedi cytuno i roi grant i Interlink Rhondda Cynon Taf ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr – 31 Rhagfyr 2018 i ddarparu prosiect Mesur y Mynydd fel rhan o arfarniad ffurfiol ehangach o Dddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’).

Cyflwyno dull rhanbarthol o weinyddu’r grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

11 Ionawr 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cytuno y bydd cyllid a ddarperir o dan y Grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i awdurdodau lleol o fis Ebrill 2018 yn cael ei ddarparu ar sail ranbarthol, ac eithrio yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle y bydd y cyllid yn newid i ddyraniadau rhanbarthol yn 2019. Caiff dyraniadau’r trydydd sector ar lefel genedlaethol, lleol a rhanbarthol eu cyllido’n uniongyrchol yn 2018-19.

Dyraniadau Grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Secondiad ar gyfer Adolygiadau Stelcian, Aflonyddu a Dynladdiadau Domestig

11 Ionawr 2018

Mae Arweinydd y T? a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo dyraniad y grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar gyfer 2018-2019; a’r dyraniad o gyllid ar gyfer swydd rhwng mis Hydref 2017 a mis Hydref 2018. Y swydd fydd Arweinydd Adolygiadau Stelcian, Aflonyddu a Dynladdiadau Domestig.

Cyllid TrawsCymru 2017-2018

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnal rhwydwaith presennol gwasanaethau TrawsCymru yn 2017-18.

Byw yn Glyfar – Datblygu Ardaloedd Di-Garbon yn y Gorllewin – Arddangoswr Cam Dau Milford Waterfront, Aberdaugleddau, Sir Benfro

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gymorth refeniw ar gyfer 2017/18 a 2018/19 (yn amodol ar y ddarpariaeth yn y gyllideb flynyddol) i gefnogi datblygiadau Cam Dau gan greu arddangoswr ardal di-garbon yn y Gorllewin a llwybr cysylltiedig i’w ddefnyddio yng Nghymru.

Byw yn Glyfar – Treialu prosiect byw yn glyfar i wella’r broses o gyflawni amcanion llesiant yn Nhorfaen

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid i dreialu prosiect byw yn glyfar i wella’r broses o gyflawni amcanion llesiant cynaliadwy o fewn cymuned yn Nhorfaen.

Y diweddaraf am y brechlyn moch daear

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i orchymyn gael ei gyflwyno am frechlyn i’w ddefnyddio ar foch daear yn 2018 gan Intervax.

Ailddyranu Cyllid wedi eu Dadymrwymo – Benthyciadau Canol Tref (Cam 2)

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno ar gynigion ar gyfer ailgylchu cyllid Benthyciadau Canol Trefi a gafodd ei ddad-ymrwymo.

Cyllid ar gyfer Fforymau Gallu Ariannol Cymru

11 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog dros Dai a Chynllunio wedi cymeradwyo’r cyllid a fydd yn cyfrannu at y gwaith o barhau i gyflenwi tri Fforwm Gallu Ariannol Cymru yng Ngogledd Cymru, Canolbarth a De Cymru a Gorllewin Cymru am gyfnod o 15 mis hyd 31 Mawrth 2019.

Achosion Busnes Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif– Tachwedd 2017

10 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r 7 achos a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi Cyfalaf ar gyfer symud ymlaen i cam nesaf y broses achosion busnes a/neu ddyrannu cyllid.

Achosion Busnes Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif – Rhagfyr 2017

10 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r 6 achos a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi Cyfalaf fel rhai a ddylai symud ymlaen i gam nesaf y broses achosion busnes a/neu ddyrannu cyllid.

Cymeradwyo Penodiad i Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain

10 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbenodi Peter Baren yn aelod annibynnol o Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain o fis Mawrth 2018 ac mae hefyd wedi cytuno i ddirwyn i ben benodiad Julia Lucas fel aelod annibynnol ym mis Mawrth 2018 ac i gynnal proses penodiadau cyhoeddus i benodi rhywun yn ei lle.

Dyraniadau Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

10 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyraniadau Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2018-19.

Cymorth Dysgu Ychwanegol i Goleg Metropolitan y Wirral a Choleg Dinas Bryste

09 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cytuno i roi cyllid tuag at gymorth Dysgu Ychwanegol i ddau goleg yn Lloegr i gefnogi dysgwyr ag anghenion dwys o Gymru.

Caffael buddiant rhydd-ddaliad sy’n gysylltiedig â’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan

09 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cytuno i gaffael y buddiant rhydd-ddaliad sy’n gysylltiedig â’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan (ac eithrio’r maes awyr).

Partneriaeth Moroedd Glân

09 Ionawr 2018

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cymeradwyo’r cynigion ar gyfer Partneriaeth Moroedd Glân i Gymru a chynllun gweithredu ar sbwriel môr, fel sydd wedi eu cymeradwyo gan Gr?p Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol.

Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt Plant

08 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt Plant yng Nghymru yn 2018-2019.

Defnyddio’r cyllid sy’n weddill o Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd

08 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant wedi cytuno ar ddefnyddio cyllid y grant cyflawni plant a theuluoedd.

Cynigion ar gyfer newid statws rhannau o ffyrdd yn gefnffyrdd, ac fel arall, o fewn y rhwydwaith ffyrdd presennol

08 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ohirio newid statws rhannau o ffyrdd yn gefnffyrdd, ac fel arall, o fewn y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer Undebau Credyd yn 2018-19 a 2019-20

08 Ionawr 2018

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cymeradwyo proses ymgeisio cystadleuol i brosiectau undebau credyd ar gyfer 2018/19 a 2019/20.

Ceisiadau i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl

08 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i gymeradwyo’r argymhelliad a wnaed gan Banel Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl o eiddo Innogy Renewables UK i roi cyllid i bedwar prosiect cymunedol.

Cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Groundwork Cymru

08 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i barhau i ariannu Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Groundwork Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, 2018-19, gan roi cyllid i’r ddau sefydliad.

Trefniadau cyllido ar gyfer y Gwasanaeth 111 yng Nghymru

08 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi cymeradwyo’r trefniadau ariannu ar gyfer cynllun 111 y GIG sy’n gosod terfyn uchaf o £6.56m yn 2018/19 ac £8.49m yn 2019/20 ar gyfer yr opsiwn a ffefrir, gan gydnabod y bydd y prosiect yn mynd ati i gael hyd i arbedion drwy drefniadau gweithio rhanbarthol a darbodion maint eraill.

Cais am gyllid ar gyfer egwyddorion craidd y GIG

08 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid mewn perthynas ag egwyddorion craidd y GIG ar gyfer 2017-18.

Cynadleddau trosglwyddo asedau cymunedol

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal dwy gynhadledd ar drosglwyddo asedau cymunedol (un yn y Gogledd ac un yn y De) i ledaenu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth ynghylch defnyddio dull gweithredu Gwnaed yng Nghymru ar gyfer ymdrin ag asedau cymunedol.

Cynnig i gau adrannau chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Croesyceiliog, Ysgol Uwchradd Cwmbrân, ac Ysgol Uwchradd Gatholig St Alban

04 Ionawr 2018

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cymeradwyo’r cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ddod â darpariaeth chweched dosbarth i ben yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Alban, Ysgol Uwchradd Croesyceiliog ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân, a hynny o 31 Awst 2020.

Cyllid i osod peiriannau newydd yn lle’r Peiriannau Tocynnau Clyfar

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y costau cymorth a amcangyfrifwyd ar gyfer lesio Peiriannau Tocynnau Electronig newydd i’w gosod ar fysiau.

Caffael tanwydd awyrennau i’w ddefnyddio yn Sain Tathan

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwariant i gaffael tanwydd awyrennau ar gyfer Maes Awyr Sain Tathan.

Gwerthu tir ac adeiladau yn y Rhyl

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, y Gweinidog Tai ac Adfywio, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i werthu eiddo yn West Parade, John Street ac Aquarium Street, y Rhyl, Sir Ddinbych.

Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol Caerfyrddin

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i Gyngor Sir Caerfyrddin gadarnhau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol Caerfyrddin.

Cyllid ychwanegol ar gyfer Dyfodol Byd-eang

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gryfhau’r Cynllun Mentora ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern ac i redeg Cynllun Turbo Tutoring i helpu i gyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun Dyfodol Byd-eang.

Llythyr at Lywodraeth y DU yn dilyn y ddadl ar insiwleiddio waliau ceudod

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn Llywodraeth y DU yn dilyn dadl y Cyfarfod Llawn ar insiwleiddio waliau ceudod.

Penodi aelodau i is-bwyllgor addasu Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd  

04 Ionawr 2018

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu i  DEFRA i roi adborth ar yr ymarfer recriwtio diweddar a gynhaliwyd i benodi dau aelod newydd i is-bwyllgor addasu Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd.