Neidio i'r prif gynnwy

Mae nifer y disgyblion sy'n dysgu Mandarin wedi mwy na dyblu yn ôl adroddiad newydd ar ymdrechion i gynyddu'r defnydd o ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r cynllun Dyfodol Byd-eang i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad newydd ar y cynnydd a wnaed.

Yn ogystal, bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gyda Llywodraeth Sbaen i wella a hyrwyddo addysgu a dysgu Sbaeneg yng Nghymru.

Mae'r Memorandwm hwn yn adeiladu ar weithgarwch amrywiol yng Nghymru gan Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen.

Yn ôl yr adroddiad newydd:

  • Mae'r ffigurau ar gyfer y rheini sy'n dysgu Mandarin yng Nghymru wedi cynyddu o 1,370 yn 2014-15 i 3,303 yn 2015-16.
  • Mae nifer yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern wedi cynyddu o 28 i 44 eleni. Mae dros hanner yr ysgolion a gymerodd ran wedi nodi cynnydd o ran y niferoedd ar gyfer dosbarthiadau TGAU.
  • Mae'r ddarpariaeth o wersi Eidaleg am ddim gan Swyddfa Is-gennad yr Eidal wedi'i hehangu a byddant yn cael eu darparu i 12 ysgol ar draws de-ddwyrain a chanol de Cymru yn 2016.
  • Bydd prosiect Erasmus+ yn ariannu 91 ymweliad astudio i wledydd Ewropeaidd ar gyfer athrawon o 21 ysgol.
  • Cynhaliwyd digwyddiadau hyfforddi i Ddisgyblion sy'n Llysgenhadon Iaith gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru, a gyda chymorth y sefydliadau iaith gwelwyd cynnydd o 188% yn nifer y disgyblion ar draws Cymru sydd wedi'u hyfforddi o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 
  • Roedd mwy na 17,000 o lawrlwythiadau o adnoddau iaith a ddatblygwyd ar gyfer ysgolion ar gyfer Ewros 2016. 
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd dros Addysg:

"Mae manteision dysgu iaith arall yn niferus, gan amrywio o ddatblygu sgiliau ieithyddol newydd i ddysgu mwy am ddiwylliant gwledydd eraill.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag amryw gyrff, o sefydliadau iaith, prifysgolion, y proffesiwn addysg ac eraill, i barhau i hyrwyddo a chodi proffil ieithoedd tramor modern. Mae llawer o waith ar ôl i'w wneud, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir bod y sylfeini'n cael eu gosod i sicrhau ein bod yn gweld cynnydd yn y niferoedd sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn y blynyddoedd i ddod."