Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

ACCESS a chrynodebau cyflym o'r dystiolaeth

Rhwydwaith gwyddor gymdeithasol ar yr hinsawdd a'r amgylchedd yw ACCESS (Advancing Capacity in Climate and Environment Social Science). Mae'n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol am bum mlynedd. Fe'i harweinir gan yr Athro Patrick-Devine Wright o Brifysgol Caerwysg, ar y cyd â'r Athro Birgitta Gatersleben o Brifysgol Surrey. Nod ACCESS yw rhoi arweinyddiaeth ar gyfraniad gwyddor gymdeithasol i fynd i'r afael â nifer o broblemau amgylcheddol a'u datrys. Bydd ACCESS yn cynnig dealltwriaeth er mwyn dod o hyd i syniadau ac atebion newydd i gefnogi'r broses o bontio i amgylchedd cynaliadwy a bioamrywiol a chymdeithas sero net.

Mae Grŵp Deall Ymchwil ACCESS yn cynnig cyfraniad arbenigol cydgysylltiedig o safbwynt gwyddor gymdeithasol at ddatblygiadau polisi a phenderfyniadau ymarfer yn y tymor agos (6 i 12 mis), ac yn defnyddio gallu gwyddor gymdeithasol yn gyflym (o fewn diwrnodau/wythnosau/misoedd) mewn ymateb i argyfyngau sydyn neu ddigwyddiadau annisgwyl. Mae'r Crynodeb Cyflym o'r Dystiolaeth yn un o blith cyfres o fformatau gweithio ystwyth sy'n cael eu datblygu gan dîm y Grŵp Deall Ymchwil. Mae'r Crynodeb Cyflym o'r Dystiolaeth fel arfer yn para am un i dri mis. Mae'n cynnwys cydweithio â rhanddeiliad i nodi bylchau perthnasol mewn gwybodaeth o ran gwyddor gymdeithasol amgylcheddol a datblygu adolygiad cwmpasu o'r maes.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Prif nod y Crynodeb Cyflym o'r Dystiolaeth hwn yw ‘adeiladu'r sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â deall y gydberthynas rhwng ethnigrwydd a'r amgylchedd yng Nghymru’. Y cefndir ehangach i'r gwaith hwn yw'r broses o ddatblygu a chyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Gorffennaf 2022. Er nad oedd fersiwn gyhoeddedig derfynol y Cynllun Gweithredu yn cynnwys adran a oedd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd yn benodol, roedd yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu camau gweithredu ar nifer o faterion a oedd yn ymwneud â'r hinsawdd a'r amgylchedd yn y dyfodol agos. Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at gam cychwynnol y broses honno.

Mewn fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol nodwyd pum maes blaenoriaeth a oedd yn ymwneud â'r amgylchedd.

Meysydd blaenoriaeth portffolio amgylchedd Llywodraeth Cymru 

  1. Mynediad i gefn gwlad, gweithgareddau awyr agored, mwynhau byd natur, mynediad i fannau gwyrdd a defnyddio mannau gwyrdd.
  2. Gweithlu / gwirfoddoli ac ymgyrchu.
  3. Amgylchedd Lleol (ansawdd Aer, sbwriel, cymdogaethau).
  4. Newid yn yr hinsawdd (ar raddfa fyd-eang o ran cyfiawnder hinsawdd a ‘Colli a niwed’) / camau gweithredu gan unigolion.
  5. Argyfwng natur a bioamrywiaeth.

O ystyried adnoddau cymharol gyfyngedig ACCESS, cytunwyd ar gam cynnar, o blith y pum blaenoriaeth polisi ynglŷn â'r amgylchedd a nodwyd fel rhan o'r fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y dylem ganolbwyntio ar y ddwy flaenoriaeth uchaf, sef: ethnigrwydd a mynediad i'r amgylchedd ac ethnigrwydd a gwirfoddoli amgylcheddol. Yn dilyn adolygiad cychwynnol o'r llenyddiaeth, cytunwyd hefyd y dylai ffocws daearyddol ein chwiliadau fod ar astudiaethau a oedd yn ymwneud â'r DU, am fod chwiliadau ar sail Cymru yn unig yn arwain at nifer rhy isel o ganlyniadau ac roedd llawer gormod o ganlyniadau rhyngwladol i'w rheoli'n rhesymol o fewn y terfyn amser y cytunwyd arno.

Ar ôl cytuno ar y paramedrau cychwynnol, ac yn unol ag uchelgais ACCESS i dreialu ffyrdd newydd o weithio sy'n fwy cydweithredol, cydgynhyrchiol ac ymatebol, cadarnhawyd briff a ddatblygodd drwy broses o ddeialog barhaus.

Ar ddiwedd y broses, mae'r Crynodeb Cyflym o'r Dystiolaeth hwn yn ceisio cynnig y dirnadaethau a'r adnoddau canlynol: 

  • rhestr o 41 o'r papurau ymchwil a'r dogfennau polisi mwyaf perthnasol sy'n ymwneud â materion ethnigrwydd a chael mynediad i fannau gwyrdd yn y DU ac ymgysylltu â nhw
  • dolenni i'r holl bapurau ac adroddiadau allweddol, neu gopïau ohonynt
  • crynodeb naratif o fater ethnigrwydd ac ymgysylltu â mannau gwyrdd sy'n canolbwyntio ar y rhwystrau i fynediad ac ymatebion polisi cysylltiedig
  • cyfres o argymhellion allweddol sy'n seiliedig ar grisialu'r gwersi a ddysgwyd o'r holl lenyddiaeth

Methodoleg

Mewn cydgysylltiad agos â chydweithwyr o Dîm Syntheseiddio Tystiolaeth arbenigol Prifysgol Caerwysg, aethom ati i gynnal chwiliad trylwyr a threfnus er mwyn hidlo am ddeunydd perthnasol.

Y chwiliad cychwynnol

Archifwyd chwiliad cychwynnol o gronfeydd data ar feddalwedd rheoli llyfryddiaethol EndNote. Defnyddiodd y chwiliad hwn nifer mawr o dermau chwilio (mwy na 30) er mwyn cofnodi amrywiadau yn y defnydd o iaith o ran ‘ethnigrwydd’, ‘mynediad’ a'r ‘amgylchedd’. Gan ddefnyddio'r termau chwilio amrywiol hyn aethom ati i gynnal chwiliadau ar sail cyfeiriadau, teitlau a chrynodebau o blith rhestr gynhwysfawr o gronfeydd data perthnasol. Roedd y rhain yn cynnwys CAB Abstracts, pob un o'r 50 o gronfeydd data sydd ar gael drwy EBSCOhost, a phob un o'r 95 o gronfeydd data sydd ar gael drwy ProQuest, Dimensions, Web of Science a Scopus. CAB neu CABI (y Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Rhyngwladol) Abstracts yw'r gwasanaeth mwyaf blaenllaw o ran gwybodaeth am grynodebau yn Saeseg sy'n rhoi mynediad i lenyddiaeth gwyddorau bywyd cymhwysol y byd. 

Yr Ymarfer(ion) hidlo a chwiliadau pellach

Dychwelodd y chwiliad eang cychwynnol hwn restr hir o tua 1000 o gyfeiriadau academaidd a llenyddiaeth lwyd. Yna, cynhaliwyd ymarfer hidlo cyntaf â llaw yn seiliedig ar ddarllen teitl y cyfeiriad, ac os oedd hwnnw'n amhenodol, y crynodeb er mwyn nodi p'un a oedd cyfeiriadau yn berthnasol ai peidio. Drwy'r broses hon lleihawyd nifer y cyfeiriadau yn sylweddol i restr fer o 41 o gyfeiriadau. Yna, cynhaliwyd ail ymarfer hidlo yn seiliedig ar ddarllen pob cyfeiriad yn fanylach. Drwy hyn, lleihawyd y niferoedd ymhellach eto i greu rhestr fyrrach o 22 o gyfeiriadau perthnasol iawn.

Gwnaeth ymarfer atodol ar ffurf caseg eira cyfeiriadau a gwglo, yn enwedig ar gyfer llenyddiaeth lwyd berthnasol, ddychwelyd 19 o gyfeiriadau perthnasol iawn eraill, a oedd yn gwneud cyfanswm o 41 o gyfeiriadau perthnasol iawn allweddol.

Canfyddiadau

Nodyn ar Iaith

Bu datblygiad nodedig dros yr ychydig ddegawdau diwethaf yn yr iaith a ddefnyddir i gyfeirio at unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio. Yng nghyd-destun yr adroddiad hwn, gan ddilyn esiampl Llywodraeth Cymru, byddwn yn defnyddio'r term ‘grŵp ethnig leiafrifol’ fel arfer oni bai ein bod yn cyfeirio at astudiaeth benodol, lle y defnyddiwn y term[au] a ddefnyddiwyd yn wreiddiol.

‘Y Llenyddiaeth’: trosolwg cyflym

Ymhlith y 41 o gyfeiriadau mwyaf perthnasol hyn cafwyd cymysgedd da o lenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd, o astudiaethau meintiol ac ansoddol, ac o ymchwil wreiddiol ac adolygiadau systematig o lenyddiaeth. O ran ffocws daearyddol, fel y nodwyd uchod, cyfyngwyd ein chwiliadau i astudiaethau a oedd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar y DU a/neu ei gwledydd cyfansoddol. Ymhlith y 41 o gyfeiriadau roedd tuedd gryf iawn i ganolbwyntio ar Loegr a dim ond cyhoeddiadau a oedd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar Gymru neu a oedd yn cynnwys astudiaethau achos o Gymru (gweler isod). Roedd y llenyddiaeth hefyd yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar ‘fannau gwyrdd’, gyda dim ond 1 o'r 41 o gyfeiriadau yn ystyried materion a oedd yn ymwneud â mynediad i ‘fannau glas’ (h.y. dyfroedd arfordirol a/neu fewndirol – gweler isod). O ran ffocws pynciau, roedd llawer mwy o gyfeiriadau at ‘mynediad’ nag astudiaethau a oedd yn canolbwyntio ar ‘gwirfoddoli’, ond roedd rhai astudiaethau yn cyfuno'r mater ag ystyriaethau ehangach o ethnigrwydd ac ‘ymgysylltu’ â'r amgylchedd.

O edrych ar y llenyddiaeth yn ei chyfanrwydd, mae'n werth nodi dwy nodwedd arall yn gyflym:

Y nodwedd gyntaf yw bod anghydraddoldebau o ran ethnigrwydd a mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw wedi cael sylw ac wedi cael eu trafod ers degawdau. Roedd Julian Agyeman (1989) er enghraifft, yn nodi'r rhesymau pam roedd ‘pobl o liw’ yn teimlo eu bod yn cael eu hallgáu ac mai anaml y byddent yn mynd i gefn gwlad Lloegr at ddibenion hamddena, a hynny yn ôl ar ddiwedd yr 1980au (gweld: Rhwystrau sy'n atal grwpiau ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw).

Yr ail nodwedd nodedig ar y llenyddiaeth yw bod modd ei rhannu'n fras yn ddwy is-lenyddiaeth gysylltiedig ond penodol. Mae un o'r rhain yn ystyried ethnigrwydd ac ymgysylltu â byd natur o safbwynt ‘tirwedd’, fel y gellir ei ddisgrifio, gyda ffocws penodol ar syniadau ynglŷn â hil, hunaniaeth, perthyn a chefn gwlad (Lloegr yn bennaf). (Gweler er enghraifft Cloke a Little, 1997 a Neal, 2009). Y safbwynt arall yw ‘iechyd a llesiant’, sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â mynediad i fannau gwyrdd (trefol yn bennaf) ymhlith grwpiau demograffig gwahanol. (Gweler er enghraifft, Brown et al. 2010, Roe et al. 2016; a McEachan et al. 2018). 

Pam mae mynediad i fannau gwyrdd yn bwysig? 

Ceir ‘sylfaen dystiolaeth sy'n aeddfedu’, sy'n awgrymu bod mynediad i fyd natur/mannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw yn arwain at nifer o fuddiannau corfforol a seicolegol cadarnhaol o ran iechyd a llesiant ar lefel unigolion a'r boblogaeth. Cynhaliodd Lovell et al. (2020) adolygiad cwmpasu cyflym o'r dystiolaeth a oedd yn ymwneud â'r cysylltiadau rhwng seilwaith gwyrdd ac iechyd a llesiant ar ran Natural England a Public Health England. Eu canfyddiad oedd, yn syml: ‘people who live in neighbourhoods with greater amounts of green infrastructure tend to be happier, healthier and live longer lives than those who live in less green places’ (t. 2). Daethant hefyd i'r casgliad, er bod pob grŵp cymdeithasol yn debygol o gael budd o ddod i gysylltiad â seilwaith gwyrdd a/neu o'i ddefnyddio, ‘some groups, including more socio-economically deprived and disadvantaged populations, appear to disproportionately benefit from greener living environments’ (ibid).

Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r golwg o nifer o ffynonellau hefyd yn awgrymu bod pobl yn rhoi gwerth cynyddol ar fannau gwyrdd ac yn dymuno cael mynediad iddynt. Yn 2020, er enghraifft, cynhaliodd Cymdeithas y Cerddwyr ar y cyd â YouGov arolwg o 2012 o oedolion ym Mhrydain, gan ganfod bod mynediad i fannau gwyrdd yn bwysig i bron pawb, gyda dim ond pump y cant o'r ymatebwyr yn dweud nad oedd mynediad i fyd natur a mannau gwyrdd erioed wedi bod yn bwysig iddynt. Canfu eu harolwg hefyd fod y bwriad i gerdded mwy (ar ôl COVID-19) yn uwch ymhlith pobl a nododd eu bod o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol na'r rhai a nododd eu bod yn Wyn. Yn yr un modd, canfu The People and Nature Survey for England: Year 2 Annual Report (2022) gan Natural England fod 45% o oedolion wedi nodi eu bod wedi cynyddu faint o amser roeddent yn ei dreulio yn yr awyr agored rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022. Dros yr un cyfnod, nododd 40% o oedolion fod ymweld â mannau gwyrdd a naturiol lleol wedi dod yn bwysicach iddynt o ran eu llesiant. Yn ôl ymchwil gan Fields in Trust (2019), amcangyfrifir bod y gwerth o ran llesiant sy'n sy'n gysylltiedig â defnydd mynych o barciau a mannau gwyrdd yn werth £34.2 biliwn y flwyddyn i boblogaeth oedolion y DU a bod y GIG yn arbed swm o £111 miliwn y flwyddyn drwy lai o apwyntiadau â meddygon teulu.

I ba raddau y mae mynediad i fannau gwyrdd yn anghyfartal?

Er bod y dystiolaeth yn awgrymu bod nifer o fuddiannau i iechyd a llesiant o ganlyniad i ymgysylltu â mannau gwyrdd a bod awydd cynyddol, yn enwedig ar ôl y pandemig, i wneud hynny, ceir tystiolaeth dda i awgrymu hefyd nad yw pob grŵp demograffig yn gallu manteisio ar werth na buddiannau mannau gwyrdd yn yr un modd, a bod pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol o dan anfantais benodol o ran mynediad i fannau gwyrdd.

Nid yw'r corff hwn o dystiolaeth sy'n dod i'r golwg yn gwbl bendant, mae'n amrywio o ran pa mor gadarn ydyw ac, yn aml, mae'n anodd datgysylltu ethnigrwydd oddi wrth nifer o benderfynyddion demograffig eraill ynglŷn â diffyg mynediad i fyd natur, yn bennaf statws economaidd-gymdeithasol. Er y cydnabyddir y cyfyngiadau hyn, mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd mewn nifer o adroddiadau diweddar – y mae rhai ohonynt yn defnyddio data MENE Natural England (MENE - Monitor of Engagement with the Natural Environment), ac y mae eraill yn defnyddio eu harolygon eu hunain – o'i hystyried ar y cyd, yn awgrymu'n gryf bod mynediad grwpiau ethnig leiafrifol yn y DU i fannau gwyrdd yn anghyfartal. 

Er enghraifft:

  • Canfu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020), wrth gymharu pobl o oedran, gradd gymdeithasol a sefyllfa fyw debyg, fod pobl Ddu 2.4 gwaith yn llai tebygol o feddu ar ardd breifat na phobl Wyn. 
    • Nododd adroddiad CPRE/NEF (The Countryside Charity (previously Council for the Preservation Protection of Rural England and National Economics Foundation) (2021), a ddefnyddiodd ddata MENE Natural England, fod: lleiafrifoedd ethnig yn cael mynediad 11 gwaith yn llai ar gyfartaledd i fannau gwyrdd. 
    • Canfu arolwg Cymdeithas y Cerddwyr/YouGov (2020) fod pobl sy'n nodi eu bod o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol: 
      • ­yn llai tebygol o fyw o fewn pum munud ar droed i fan gwyrdd na phobl sy'n nodi eu bod yn Wyn (39% o ymatebwyr Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol o gymharu â 58% o ymatebwyr Gwyn); 
      • ­­yn llai tebygol o nodi bod amrywiaeth o fannau gwyrdd gwahanol o fewn pellter cerdded (46% o ymatebwyr Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol o gymharu â 58% o ymatebwyr Gwyn). 
    • Canfu adroddiad gan Gyfeillion y Ddaear (2020) fod bron 40% o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn byw yn y cymdogaethau lleiaf breintiedig o ran mannau gwyrdd yn Lloegr, o gymharu â 14% o bobl Wyn. 
    • Canfu astudiaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (2020) fod pobl Ddu ac Asiaidd yn ymweld â lleoliadau naturiol 60% yn llai na phobl Wyn. 
    • Nododd Natural England (2019) fod pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ond yn cyfrif am 1% o ymwelwyr â Pharciau Cenedlaethol, er eu bod yn cyfrif am 10% o'r boblogaeth genedlaethol.

Yr hyn y mae'r adroddiadau diweddar hyn yn ei ddisgrifio ar y cyd yw sefyllfa lle mae pobl sy'n nodi eu bod o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn llawer llai tebygol o gael mynediad i fannau awyr agored gartref; yn llai tebygol o fyw'n agos i fannau gwyrdd; yn llai tebygol o ymweld â chefn gwlad; yn llai tebygol o ymweld â pharciau cenedlaethol; ac yn llai tebygol o ddweud eu bod yn treulio amser ym myd natur.

Ond beth yw'r ffactorau sy'n atal pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw a pha ymdrechion sydd wedi cael eu gwneud i fynd i'r afael â'r mater?

Beth sy'n atal pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw?

Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar y rhwystrau lu a wynebir gan grwpiau ethnig leiafrifol sy'n eu hatal rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw.

Data MENE

Man cychwyn defnyddiol i gael syniad o'r hyn sy'n atal pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw yw data Monitro Ymgysylltu â'r Amgylchedd Naturiol (MENE) Natural England. Cynhaliwyd arolwg MENE bob blwyddyn rhwng 2009 a 2019 a chasglwyd data ar hamddena awyr agored ac agweddau tuag at yr amgylchedd naturiol ac ymgysylltiad ag ef. Dros ei 10 mlynedd, casglodd wybodaeth gan bron hanner miliwn o ymatebwyr. Mae'n un o'r setiau data mwyaf o'i bath yn y byd, ac mae wedi'i dynodi yn ystadegyn swyddogol cenedlaethol. Mae'n set ddata hynod ddefnyddiol a chadarn. 

Yr hyn sy'n amlwg ar unwaith o ddata MENE yw bod nifer mawr o resymau pam nad yw pobl yn ymweld â'r amgylchedd naturiol. Gwnaeth arolwg MENE godio ymatebion mewn cyfweliadau i 23 o gategorïau gwahanol. Mewn astudiaeth a ddefnyddiodd y data o chwe chylch cyntaf yr arolwg, o 2009/10 i 2015/16, rhestrodd Boyd et al. (2018) y rhesymau a roddwyd gan ymatebwyr i'r arolwg dros beidio ag ymweld ag amgylcheddau naturiol yn eu trefn. Yn ôl eu dadansoddiad, y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd oedd ‘rhy brysur yn y gwaith’, yna ‘iechyd gwael’, ‘rhy brysur yn y cartref’, a ‘dim rheswm penodol’.

Y rhesymau y gallai ymatebwyr eu dewis dros beidio ag ymweld ag amgylcheddau naturiol o gwbl / yn amlach yn ystod y 12 mis diwethaf
SafleRhesymau dros beidio ag ymweld ag amgylcheddau naturiol %
1Rhy brysur yn y cartref20.2
2Iechyd gwael18.5
3Rhy brysur yn y cartref15.8
4Dim rheswm penodol14.7
5Henaint13.9
6Tywydd gwael9.7
7Anabledd corfforol9.3
8Dim diddordeb6.2
9Rhy ddrud4.8
10Dim car3.6
15Ddim yn rhywbeth i mi/pobl fel minnau1.4
17Diffyg lleoedd addas i fynd/llwybrau addas0.6
21Ddim yn teimlo bod croeso i mi/yn teimlo'n lletchwith0.2

Ffynhonnell: Boyd et al. (2018) yn seiliedig ar ddata MENE.

Mae'n werth nodi nad oes yr un o'r prif ddeg rheswm a roddwyd yn cyfeirio'n benodol at ethnigrwydd. Mae hyn yn peri rhywfaint o syndod o bosibl yng nghyd-destun y dystiolaeth sy'n dod i'r golwg (gweld: I ba raddau y mae mynediad i fannau gwyrdd yn anghyfartal?) sy'n dangos bod mynediad grwpiau ethnig leiafrifol i fannau gwyrdd yn broblem sylweddol. O ystyried bod arolwg MENE yn sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth (yn Lloegr), byddai rhywun yn disgwyl iddo gofnodi rhai o'r rhesymau dros hyn ac i'r ymatebion fel ‘diffyg lleoedd addas i fynd iddynt’, ‘ddim yn rhywbeth i mi’ a ‘teimlo'n lletchwith’ sicrhau sgôr ganrannol a safle uwch. Gallai'r ffaith nad ydynt yn ymddangos yn uwch ymhlith y rhesymau nac wedi cael sgôr ganrannol uwch awgrymu nad yw'r arolwg meintiol hwn, er ei fod yn gadarn ac yn ddefnyddiol, yn cofnodi profiadau ethnig leiafrifol yn llawn o bosibl, ac nad yw'n rhoi cyfle i grwpiau ethnig leiafrifol nodi'r rhesymau pam nad ydynt yn ymweld ag amgylcheddau naturiol, na'r gwahanol fathau o rwystrau i fynediad y maent yn eu hwynebu. 

Rhwystrau i Fynediad/Ymgysylltu: y llenyddiaeth academaidd

Er mwyn ystyried y materion hyn yn fanylach mae angen inni droi at y llenyddiaeth academaidd. Er bod y rhan fwyaf o'r ymchwil yn y maes hwn yn ystyried rhwystrau i fynediad ymhlith amrywiaeth o grwpiau demograffig, gyda'r ffocws ar gymunedau difreintiedig o safbwynt economaidd-gymdeithasol fel arfer, mae papur diweddar gan Robinson et al. (2023) wedi edrych yn benodol ar y rhwystrau i fynediad i fannau gwyrdd a wynebir gan unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio, fel y cyfeirir atynt. Yn seiliedig ar adolygiad systematig o lenyddiaeth, ac yna ffocws ar 10 o astudiaethau meintiol allweddol a gynhaliwyd yn y DU a'r UD, gwnaeth Robinson et al. nodi a chategoreiddio'r prif rwystrau i fynediad i fannau gwyrdd ymhlith unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio (gweler isod).

Mathau o Rwystrau i Fynediad (Robinson et al. (2023)):

  1. Seicogymdeithasol (rhyngbersonol)
  • Ddim yn teimlo bod croeso / Teimlo'n lletchwith
  • Rhwystrau Diwylliannol / Iaith
  • Cymhelliant Isel i Wneud Ymarfer Corff
  1. Rhwystrau Ymarferol
  • ­Pryderon Ariannol (teithio, parcio, ffioedd mynediad)
  • Ansawdd / Estheteg Wael Mannau Gwyrdd (amwynderau, sbwriel, cynnal a chadw)
  1. Amgylcheddol
  • ­Llai o Fynediad i Fannau Gwyrdd / Argaeledd Mannau Gwyrdd, yn Seiliedig ar Leoliad
  • ­Pryderon ynglŷn â Diogelwch / Cysur / Llai o Ymddiriedaeth yn y Gymdogaeth
  1. Profiad/Gwybodaeth
  • ­Gwybodaeth ymlaen llaw am Barciau a Lleoliadau
  • Cysylltiad â Byd Natur

Y rhwystrau i fynediad a nodwyd amlaf yn y 10 astudiaeth oedd: 

  1. ansawdd/estheteg wael mannau gwyrdd
  2. pryderon ynglŷn â diogelwch/cysur
  3. pryderon ariannol
  4. argaeledd mannau gwyrdd, yn seiliedig ar leoliad. 

Unwaith eto, mae'n ddiddorol nodi nad oedd unrhyw rwystrau seicogymdeithasol, er enghraifft, teimlo nad oes croeso neu deimlo'n lletchwith, ymhlith y rhwystrau i fynediad a nodwyd amlaf.

Rhwystrau sy'n atal grwpiau ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw

Rhwystrau i Fynediad: Agyeman (1989 and 1990)
  1. Diwylliannol: ystyr wahanol i gefn gwlad/dealltwriaeth wahanol o gefn gwlad.
  2. Economaidd: crynodiad o ‘bobl o liw’ yng nghanol dinasoedd… anodd cyrraedd cefn gwlad.
  3. Amser: yn debyg i grwpiau statws economaidd-gymdeithasol is eraill… llai o amser rhydd.
  4. Hiliaeth: y ffaith bod llawer o ymwelwyr posibl â chefn gwlad yn ofni ymateb posibl pobl wyn leol.
Rhwystrau i Fynediad: Morris (2003)
  1. Diffyg hyder a chanfyddiadau negyddol ynglŷn â'r amgylchedd.
  2. Diffyg gwybodaeth ddeongliadol (briodol).
  3. Diffyg gweithgareddau priodol.
  4. Diffyg ymwybyddiaeth.
  5. Costau ariannol a diffyg amser.
  6. Teimladau negyddol sy'n gysylltiedig â phrofiad blaenorol o gefn gwlad.
  7. Anallu i lunio strategaethau i ddarparu gwasanaethau gwledig.

Er nad yw'r llenyddiaeth academaidd sy'n edrych yn benodol ar rwystrau i fynediad ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol yn y DU yn doreithiog, mae'n ymestyn yn ôl yn eithaf pell. Roedd Julian Agyeman (1989 a 1990) yn nodi ac yn categoreiddio'r rhwystrau i fynediad i fannau gwyrdd ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol yn ôl ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r 1990au, a hefyd Nina Morris (2003) ugain mlynedd yn ôl (gweld: Rhwystrau sy'n atal grwpiau ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw). Roedd y pwyslais yn amrywio ychydig o bosibl, ond p'un a oeddent yn cael eu hystyried o safbwynt ‘tirwedd’ ynteu ‘iechyd’ roedd llawer o'r un rhwystrau – ynglŷn ag amser, cost, agosrwydd, diwylliant/iaith, amwynderau, gwybodaeth, canfyddiadau negyddol ac ati – yn cael eu crybwyll dro ar ôl tro yng ngwaith Agyeman, Morris, hyd at Robinson et al. ac mewn nifer o bapurau ac adroddiadau eraill rhyngddynt (gweler, er enghraifft, Cronin-de-Chavez et al., 2019 a Pitt, 2019).

Felly, er nad yw'r dystiolaeth yn helaeth, mae'n gyson, felly gallwn fod yn weddol hyderus bod gennym ddealltwriaeth dda o ystod a natur y rhwystrau sy'n atal pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw.

Beth yw cymhelliant pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol i gael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw?

Yr hyn y gallwn fod yn llai hyderus yn ei gylch yw ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n cymell pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol i gael mynediad i fannau gwyrdd yn y DU ac ymgysylltu â nhw. Wrth ystyried materion sy'n ymwneud ag ethnigrwydd ac ymgysylltu â'r amgylchedd, mae'r rhan fwyaf o gwestiynau (ac astudiaethau canlyniadol) yn ymwneud â'r ‘rhwystrau i fynediad’, ychydig sydd wedi canolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol ar ymgysylltu a'r hyn sy'n cymell unigolion o gefndiroedd ethnig leiafrifol i ymweld a threulio amser ym myd natur.

Un eithriad yw gwaith diweddar Helena Slater (2022) a ystyriodd, mewn astudiaeth ansoddol fach, gymhelliant aelodau dwy fenter gymunedol: Boots and Beards yn Glasgow a'r Sheffield Environmental Movement (SEM), i ymweld â mannau gwyrdd gwledig. Er bod sampl yr arolwg yn fach (n26), datgelodd yr ymchwil rai canfyddiadau diddorol.

Mae'r graff isod yn dangos yr amrywiaeth eang o gymhellion a ddewiswyd mewn ymateb i'r cwestiwn, ‘Pam rydych yn ymweld â mannau gwyrdd gwledig?’. Y rhesymau mwyaf cyffredin, a ddewiswyd gan bob un o'r ymatebwyr i'r arolwg, oedd ‘er mwyn iechyd corfforol/cadw'n heini’, yna ‘mwynhau'r awyr iach, ‘mwynhau'r golygfeydd’, ‘iechyd meddwl a llesiant’, ac er mwyn cael tawelwch. Mewn cyfweliadau dilynol, nododd Slater hefyd ‘cysylltiadau cymdeithasol’ a ‘dihangfa’ fel dau gymhelliant a grybwyllwyd yn aml gan bob un o'r cyfweleion fel rhesymau dros ymweld â mannau gwyrdd gwledig. 

Amlder cymhellion a ddewiswyd fel rhesymau dros ymweld â mannau gwyrdd gwledig Roedd ymatebwyr i'r arolwg yn gallu dewis sawl opsiwn
MotivationFrequency
for physical health/fitness26
for mental health/well-being 23
for reflection 21
to escape from the city 17
to experience nature 21
to see wildlife 18
to learn about nature/outdoors19
to experience peace/quiet23
to relax/unwind 23
to entertain a child(ren) 8
to take part in sport/hobby 7
to challenge myself/achieve something 18
to help out/volunteer8
to enjoy fresh air/pleasant weather 25
to enjoy scenery 24

Atgynhyrchwyd o waith Slater (2022) Exploring minority ethnic communities' access to rural green spaces: The role of agency, identity, and community-based initiatives. Journal of Rural Studies 92: 61

Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill o astudiaeth Slater y mae'n werth eu nodi mae'r canlynol:

  1. mae angen inni gael dealltwriaeth fwy cynnil o fynediad i fannau gwyrdd er mwyn symud i ffwrdd oddi wrth dybiaethau gorsyml ynglŷn â defnyddio a pheidio â defnyddio
  2. mae'r cymhellion dros gael mynediad i fannau gwyrdd yn newid yn ystod bywyd pobl (e.e. mewn perthynas â magu plant)
  3. mae hunaniaethau lluosog i'w gweld mewn mannau gwyrdd
  4. nid o safbwynt ethnigrwydd yn unig y mae cymunedau wedi'u hileiddio yn canfod yr amgylchedd/mannau gwyrdd a/neu'n ymgysylltu â nhw

A yw'r defnydd o fannau gwyrdd a'r mannau gwyrdd a ffefrir yn amrywio yn ôl ethnigrwydd?

Yn fras, mae consensws wedi datblygu bod yna wahaniaeth, yn seiliedig ar ethnigrwydd, rhwng yr hyn a ddymuna unigolion a chymunedau mewn cysylltiad â'u mannau gwyrdd a sut maent yn eu defnyddio. Mewn adolygiad systematig gwnaeth Ordóñez-Barona (2017) grynhoi'r dystiolaeth empirig ynglŷn â sut mae grwpiau ethnoddiwylliannol gwahanol yn defnyddio natur drefol, yn ei ffafrio, ac yn pennu ei hystyr. Er y cydnabuwyd bod pob un o'r 31 o astudiaethau a adolygwyd yn wahanol o ran dulliau ymchwil, lleoliad naturiol trefol, a chysyniadoli ynglŷn â hunaniaeth ethnoddiwylliannol, daeth Ordóñez-Barona i'r casgliad eu bod yn dangos ‘that ethno-culturally diverse people prefer to use urban natural areas for passive, social activities, prefer to visit them in bigger groups, and prefer these areas to be manicured, functional landscapes with less trees’ (t.69).

Roedd y rhan fwyaf o'r astudiaethau a gynhwyswyd yn nadansoddiad Ordóñez-Barona wedi cael eu cynnal yng nghyd-destunau Gogledd America a chyfandir Ewrop. Mae astudiaethau ymchwil sy'n ystyried yn benodol sut mae'r defnydd o fannau gwyrdd a'r mannau gwyrdd a ffefrir yn amrywio yn ôl ethnigrwydd yn y DU yn eithaf prin ac mae eu casgliadau yn gwrthddweud ei gilydd weithiau. Felly, er enghraifft, er i Rishbeth (2004) ganfod bod rhai grwpiau ethnig leiafrifol yn llai tebygol o ddefnyddio parc at ddibenion ymarfer corff o'u cymharu â phobl Wyn Brydeinig, canfu adroddiad gan Thompson et al. yn 2010 ar ran Cymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE) fod grwpiau ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o ymweld at ddibenion gweithgarwch corfforol na phobl Wyn Brydeinig.

Mewn astudiaeth fwy diweddar, cymharodd Edwards et al. (2022) batrymau defnydd a ffafriaeth ymhlith defnyddwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a defnyddwyr Gwyn mewn perthynas â dau fath o fan gwyrdd trefol (parciau a SoDdGAau) (SoDdGAau – Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) ym Mharc Rhanbarthol Dyffryn Lee, Llundain. Canfuwyd, er bod yr hyn a ffafriwyd a phatrymau defnydd yn amrywio yn ôl y math o fan gwyrdd, nad oeddent yn amrywio'n sylweddol rhwng grwpiau ethnig, gydag ymwelwyr Gwyn ac ymwelwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn blaenoriaethu gemau/chwaraeon a nodweddion adeiledig mewn parciau, a'r ddau grŵp yn blaenoriaethu gweld bywyd gwyllt a nodweddion naturiol ar safleoedd SoDdGA. (Gweler hefyd Roberts et al. 2019).

Awgrymiadau ac ymatebion polisi

Ers bron cyhyd ag yr ydym wedi bod yn ymwybodol o'r rhwystrau sy'n atal grwpiau ethnig leiafrifol rhag cael mynediad i fannau gwyrdd, rhai trefol neu wledig, mae ymatebion polisi a chynlluniau gweithredu wedi cael eu datblygu i geisio ymdrin â'r broblem. Gwnaeth trafodaethau ysgolheigaidd Agyeman ar ddiwedd y 1980au (Gweler, er enghraifft, Agyeman, J. (1989). Black-people, white landscape. Town and Country Planning, Rhagfyr: 58 (12) 336–8) am hiliaeth wledig a'r rhwystrau i gymryd rhan, a arweiniodd at ddatblygu gwaith arloesol y Rhwydwaith Amgylchedd Du (BEN) a roddodd gyhoeddusrwydd i'r gwaith hwnnw, chwarae rôl allweddol ac uniongyrchol yn y broses o sefydlu adolygiad y Comisiwn Cefn Gwlad o'r mater. Sefydlwyd y Rhwydwaith Amgylchedd Du (BEN) yn 1988 yn y Deyrnas Unedig gan Judy Ling Wong a Julian Agyeman. Ei nod oedd mynd i'r afael â materion a oedd yn ymwneud â chyfiawnder amgylcheddol a chynhwysiant o fewn cymunedau Du ac Ethnig Leiafrifol. Ceisiodd BEN rymso'r cymunedau hyn drwy addysg, eiriolaeth, ac ymgysylltu â'r gymuned, gan ymdrechu i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed mewn prosesau gwneud penderfyniadau amgylcheddol ac i hyrwyddo cynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol ymhlith yr holl boblogaethau. Heddiw, mae'r Rhwydwaith Amgylchedd Du yn parhau â'i ymdrechion i hyrwyddo cyfiawnder amgylcheddol ac amrywiaeth yn y sector amgylcheddol drwy fentrau amrywiol, gan gynnwys rhaglenni addysg, ymgyrchoedd eiriolaeth, a phartneriaethau â sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol. 

Roedd adroddiad Visitors to the Countryside y Comisiwn Cefn Gwlad, a gyhoeddwyd yn 1991, yn cynnwys llawer o awgrymiadau BEN a hwn oedd y cyntaf mewn llif cyson o adroddiadau, adolygiadau, ac ymatebion polisi sydd wedi cael eu cyhoeddi dros y tri degawd diwethaf (gweler isod):

Ymatebion polisi: 1991 i 2021
  • 1991: Y Comisiwn Cefn Gwlad, Visitors to the Countryside.
  • 1992 i 1994: Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yn cyhoeddi ychydig o adroddiadau ar ethnigrwydd a chefn gwlad: Jay, E. (1992) Keep Them in Birmingham a Derbyshire, H. (1994) Not in Norfolk: Tackling the Invisibility of Racism.
  • 2000: Rural White Paper: a fair deal for rural England.
  • 2004 i 2005: Yr Asiantaeth Cefn Gwlad. Yn sgil y Papur Gwyn ar Gefn Gwlad, cynhaliodd yr Asiantaeth Cefn Gwlad adolygiad aml-gam o hamddena yng nghefn gwlad: Chwefror 2004 – Scoping Study; Rhagfyr. 2004: Evaluation Framework and Toolkit; Gorffennaf 2005 – “What about us?”: Diversity Review evidence – part one Challenging perceptions: under-represented groups’ visitor needs; Gorffennaf 2005 – “What about us?”: Diversity Review evidence – part 2 Challenging perceptions: provider awareness of under-represented groups.
  • 2006: Cynllun gweithredu drafft Defra ac ymgynghoriad lansio.
  • 2008: Defra yn lansio Outdoors for All? Action Plan i gynyddu nifer y bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy'n cael mynediad i'r amgylchedd naturiol.
  • 2012: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Green space, reduction of health inequities, and cost effectiveness of interventions.
  • 2012: Natural England, The Mosaic Model Access to Nature: Early Findings Paper.
  • 2018: What Works Wellbeing, Improving access to green space for Black, Asian, Minority Ethnic and Refugees communities. 
  • 2020: Public Health England, Improving access to greenspace: A new review for 2020.
  • 2020: Natural England, A rapid scoping review of health and wellbeing evidence for the Framework of Green Infrastructure Standards.
  • 2020: Cyfeillion y Ddaear, England’s green space gap.
  • 2021: Groundwork UK (Holland, 2021). Out of Bounds: Equity in Access to Urban Nature.
  • 2021: Llywodraeth yr Alban, Outdoor recreation - understanding the drivers of participation.

Yn yr adran ganlynol edrychwn yn fras ar dri o'r uchod.

Defra (2008) Outdoors for All?: An Action Plan

Roedd Outdoors for All? Action Plan (2008) Defra yn ffrwyth proses a barodd am 8 mlynedd bron. Dechreuodd drwy gyfeirio at wella mynediad i'r amgylchedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Papur Gwyn ar Gefn Gwlad yn 2000, ac roedd yn cynnwys cam casglu ac adolygu data dwy flynedd rhwng 2004 a 2005. Mewn rhai ffyrdd, bu cyhoeddi'r ‘Cynllun Gweithredu’ hefyd yn ddiwedd ar ddisgrifio'r broblem yn nhermau ‘tirwedd / cefn gwlad’.

Roedd y gwaith o ddatblygu a llunio'r Cynllun Gweithredu cynhwysfawr yn ymddangos yn gryn fuddsoddiad o ran adnoddau ac yn ymarfer ymgysylltu estynedig â phroblem mynediad anghyfartal i'r amgylchedd gan Defra. Mae'n nodi'r hyn y mae angen ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem (mae'n cynnwys cyfanswm o 54 o gamau gweithredu gwahanol mewn 9 o feysydd gweithredu gwahanol) a chan bwy (asiantaethau'r llywodraeth a darparwyr gwasanaethau gweithgarwch awyr agored yn bennaf). 

Maes gweithredu: hyfforddiant a chanllawiau
  • Nifer y camau gweithredu: 5
  • Cam gweithredu enghreifftiol: llunio canllaw i ddarparwyr yn y sector ar fanteision cyflogi gweithlu amrywiol i fusnesau.
Maes gweithredu: gwybodaeth ac addysg
  • Nifer y camau gweithredu: 10
  • Cam gweithredu enghreifftiol: darparu gwybodaeth mewn nifer o fformatau hygyrch ac ieithoedd ac mewn lleoliadau priodol i ddiwallu anghenion grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Maes gweithredu: hyrwyddo, llywodraethu a rheoleiddio
  • Nifer y camau gweithredu: 6
  • Cam gweithredu enghreifftiol: hyrwyddo rôl hyrwyddwyr amrywiaeth a chydraddoldeb mewn perthynas â mynediad i'r amgylchedd naturiol.
Maes gweithredu: cyllid ac adnoddau
  • Nifer y camau gweithredu: 3
  • Cam gweithredu enghreifftiol: cynnig mwy o gyfleoedd i gymunedau o dan anfantais gael profiad o'r amgylchedd naturiol, drwy geisiadau i gynlluniau perthnasol y loteri.
Maes gweithredu: ymchwil a thystiolaeth
  • Nifer y camau gweithredu: 8
  • Cam gweithredu enghreifftiol: cadarnhau data llinell sylfaen a chyflwyno adroddiadau ar fynediad i'r amgylchedd naturiol ymhlith y grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Maes gweithredu: fforymau a rhwydweithiau partneriaethau 
  • Nifer y camau gweithredu: 7
  • Cam gweithredu enghreifftiol: gweithio gyda Hyrwyddwyr Cymunedol/Clystyrau a modelau eraill o waith allgymorth cymunedol ar lawr gwlad i hyrwyddo amrywiaeth.
Maes gweithredu: cynlluniau a strategaethau 
  • Nifer y camau gweithredu: 5
  • Cam gweithredu enghreifftiol: cynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau, er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o ran mynediad i'r amgylchedd naturiol.
Maes gweithredu: cynllunio gwasanaethau a mesurau perfformiad
  • Nifer y camau gweithredu: 5
  • Cam gweithredu enghreifftiol: cynlluniau rheoli i gynnwys amcanion amrywiaeth/cynhwysiant a ysgogir yn lleol ac y gellir eu mesur.
Maes gweithredu: gwirfoddoli, cyflogaeth a gyrfaoedd
  • Nifer y camau gweithredu: 5
  • Cam gweithredu enghreifftiol: nodi modelau rôl cadarnhaol o gefndir amrywiol yn y sector, a rhoi cyfleoedd i gysgodi gwaith.

Ffynhonnell: Defra (2008) 

Public Health England (2020) Improving Access to Greenspace

Deuddeg mlynedd ar ôl i Defra gyhoeddi Outdoors for All’, ac o dan ffrâm ’iechyd a llesiant’ yn bennaf, cyhoeddodd Public Health England ei adroddiad Improving Access to Greenspace. Yn lle rhestr hir o gamau gweithredu gorffennodd yr adroddiad hwn drwy gyflwyno cyfres o 9 o argymhellion allweddol wedi'u targedu at awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG (gweler isod).

Maes yr argymhelliad: polisi
  • Ystyried bod mannau gwyrdd (a glas) lleol yn asedau allweddol i gynnal iechyd a llesiant mewn cymunedau lleol.
  • Sicrhau bod polisïau a strategaethau lleol yn cael eu llywio gan dystiolaeth o'r angen am ddigon o fynediad i fannau gwyrdd.
  • Blaenoriaethu gwella mynediad i fannau gwyrdd a chreu cymunedau gwyrddach, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd neu lle ceir mynediad gwael neu anghyfartal.
Maes yr argymhelliad: ymarfer lleol
  • Cefnogi ymgysylltu ystyrlon rhwng swyddogaethau llywodraeth leol a'r gymuned er mwyn deall buddiannau lleol gwirioneddol a phosibl mannau gwyrdd a datgelu'r ffyrdd cymhleth ac amrywiol o feddwl am fannau gwyrdd a'u defnyddio.
  • Ystyried a oes angen gwerthuso buddiannau'n ffurfiol er mwyn cryfhau'r ddadl dros greu, ailfywiogi a chynnal a chadw mannau gwyrdd.
  • Nodi trefniadau cyllido cadarn ar gyfer cynnal a chadw mannau gwyrdd mor gynnar â phosibl a'u cynnwys fel rhan o'r ystyriaethau.
  • Pennu ymyriadau, megis mentrau presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd, i helpu pobl i ddechrau defnyddio mannau gwyrdd nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd.
Maes yr argymhelliad: ymchwil leol
  • Datblygu astudiaethau achos darbwyllol a lywir gan dystiolaeth sy'n tynnu sylw at effaith mannau gwyrdd hygyrch ar ganlyniadau iechyd lleol.
  • Cefnogi gwerthusiad cadarn o ymyriadau mannau gwyrdd lleol er mwyn helpu i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ehangach.

Ffynhonnell: Public Health England (2020) 

Llywodraeth yr Alban (2021) Outdoor Recreation: Understanding the Drivers of Participation

Er mwyn cynnwys enghraifft nad yw'n ymwneud â Lloegr, gallwn edrych ar adroddiad 2021 Llywodraeth yr Alban, Outdoor Recreation: Understanding the Drivers of Participation. Gwnaeth yr adroddiad hwn, sy'n nes at fod yn ddarn o ymchwil na chynllun cyflawni/gweithredu, lunio set ddefnyddiol o 17 o egwyddorion arweiniol gyda'r nod o lywio polisi a'r gwaith o gynllunio ymyriadau yn y dyfodol (gweler isod). 

Thema'r egwyddor arweiniol: ysgogi
  • Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn chwarae rôl bwysig o ran presgripsiynu ymarfer corff yn yr awyr agored – yn enwedig i grwpiau ethnig leiafrifol lle nad yw'r buddiannau mor hysbys.
  • Gall cryfhau ymdeimlad o hunaniaeth pobl wrth ymgymryd â gweithgarwch helpu i gynnal a dyfnhau cyfranogiad.
Thema'r egwyddor arweiniol: gallu
  • Mae rôl o ran darparu mwy o wybodaeth a chyfleu buddiannau gweithgareddau awyr agored, yn enwedig ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol .
  • Gall profiadau yn ystod plentyndod gael dylanwad cryf ar b'un a fydd pobl yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored pan yn oedolion.
Thema'r egwyddor arweiniol: ffisegol
  • Os bydd mannau lleol hawdd eu cyrraedd o ansawdd da ar gael, mae hynny'n helpu i'w gwneud yn haws i unigolion gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn rheolaidd, ond os nad yw'r rhain ar gael gall hynny fod yn rhwystr mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
  • Mae seilwaith ffisegol a'r ffordd y caiff mannau awyr agored eu cynnal a'u cadw yn effeithio ar eu hygyrchedd, eu hapêl a'r defnydd a wneir ohonynt.
Thema'r egwyddor arweiniol: cymdeithasol
  • Gall grwpiau gweithgareddau a theithiau wedi'u trefnu helpu i gael pobl i ddechrau cymryd rhan a pharhau i gymryd rhan.
  • Mae arferion cymdeithasol yn cael dylanwad cryf ar wybodaeth, agweddau ac ymddygiadau, sy'n galluogi ac yn rhwystro.

Ffynhonnell: Llywodraeth yr Alban (2021) 

Yn ogystal â'r uchod, gweler hefyd: adolygiad 2012 Natural England o'r prosiect Mosaic (a oedd yn rhan o'i menter ‘Access to Nature’), a nododd y 9 cam allweddol sy'n gysylltiedig â datblygu ‘model mosäig’, sef ffordd newydd o ennyn diddordeb pobl o gymunedau Du ac Ethnig Leiafrifol mewn Parciau Cenedlaethol; Improving access to green space for BAMER communities (2018), What Works Wellbeing; a Out of Bounds: Equity in Access to Urban Nature, Ground Work UK (Holland, 2021).

Awgrymiadau polisi: y llenyddiaeth academaidd

Nid oedd yr enghreifftiau uchod gan Defra, Public Health England a Llywodraeth yr Alban, er eu bod yn cyfeirio at ethnigrwydd, wedi'u targedu'n benodol at ddiffyg mynediad i fannau gwyrdd ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol. Am drafodaeth benodol ar ethnigrwydd, mae angen i ni ddychwelyd unwaith eto at y llenyddiaeth academaidd a gwaith diweddar Robinson et al. (2020) a wnaeth, yn ogystal â nodi nifer o rwystrau a oedd yn atal unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio rhag cael mynediad i fannau gwyrdd, hefyd gynnig rhai awgrymiadau polisi ynglŷn â sut y gellid goresgyn y rhain.

Rhwystrau i gael mynediad ac atebion polisi a awgrymir 
Rhwystrau Seicogymdeithasol

Mae canfyddiadau'r adolygiad yn awgrymu bod hiliaeth systemig yng nghefn gwlad sy'n dieithrio ymhellach unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio oddi wrth fannau gwyrdd ac sy'n cyfrannu at wneud iddynt deimlo'n lletchwith yn y lleoliadau hyn (t.19).

Polisi a awgrymir:

  • Gallai'r rhai sy'n llunio polisïau sefydlu cynlluniau sy'n ystyriol o amrywiaeth er mwyn gwella lefelau ymgysylltu â mannau gwyrdd ymhlith cymunedau wedi'u hileiddio, er enghraifft drwy gyflwyno ieithoedd lluosog ar arwyddion a mannau gweddïo ychwanegol mewn parciau er mwyn hyrwyddo cynhwysiant.
Rhwystrau Ymarferol 

Nodwyd pryderon ariannol hefyd fel rhwystr mawr a oedd yn cael ei ddeall fel amlygiad o hierarchiaeth anghenion lle mae'r rhai sy'n dlotach yn strwythurol yn blaenoriaethu gwario arian ar anghenion mwy uniongyrchol megis bwyd/lloches.

Polisi a awgrymir:

  • Mae tystiolaeth o'r fath yn dadlau o blaid cyllid wedi'i dargedu mewn gwasanaethau i helpu unigolion/teuluoedd wedi'u hileiddio i gael cyfle i ymgymryd â gweithgareddau gwyrdd, wedi'u presgripsiynu'n gymdeithasol, er mwyn gwella mynediad teg i bawb.
Rhwystrau amgylcheddol

Roedd ffactorau a oedd yn rhagfynegi hygyrchedd mannau gwyrdd i unigolion a theuluoedd wedi'u hileiddio yn cynnwys diogelwch, cysur, ansawdd/estheteg parciau, ac agosrwydd parciau.

Polisi a awgrymir:

  • Mae mentrau i leddfu ofnau yn debygol o gynnwys mwy o blismona mewn parciau ar y cyd â chynllunio trefol er mwyn sicrhau mannau gwyrdd diogel o ansawdd da mewn ardaloedd cymdeithasol ddifreintiedig, i wella lefelau cysur a mynediad i bawb.

Ffynhonnell: Robinson et al. (2023)

Gan nodi galwad Robinson et al. am gyllid wedi'i dargedu, gallwn hefyd ddychwelyd at waith Helena Slater (2022) am awgrym ynglŷn â'r lle gorau ar gyfer ffocws a buddsoddiad. Yn ogystal ag ystyried cymhellion dros ymgysylltu, edrychodd astudiaeth Slater hefyd ar y rôl hollbwysig y mae mentrau cymunedol (fel Boots and Beards yn Glasgow a Sheffield Environmental Movement) yn ei chwarae i helpu cymunedau ethnig leiafrifol i oresgyn rhwystrau ymarferol a chymdeithasol sy'n eu hatal rhag cael mynediad i fannau gwyrdd (gwledig). Canfu ymchwil Slater fod y ddwy fenter leol wedi chwarae rôl allweddol o ran helpu cymunedau i oresgyn rhwystrau ymarferol i gael mynediad drwy drefnu cludiant a rhannu costau teithio, a thrwy hynny helpu i leihau'r baich economaidd ar unigolion.

Datgelodd yr ymchwil hefyd sut roedd y ddwy fenter wedi helpu unigolion i oresgyn nifer o rwystrau cymdeithasol i fynediad. Yn gyntaf, drwy ei gwneud yn bosibl i aelodau ymweld â mannau gwyrdd gwledig yng ngwmni pobl o'r un anian yr oeddent yn cael cyfle i ffurfio cysylltiadau ystyrlon â nhw. Ac yn ail, drwy chwarae rhan bwysig i ledaenu gwybodaeth am fannau gwyrdd gwledig a chodi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau ethnig leiafrifol ynglŷn â'r cyfleoedd ar gyfer hamddena awyr agored. 

Mannau glas

Fel yn achos mannau gwyrdd, ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy'n awgrymu bod mynediad i wahanol fathau o ‘fannau glas’ ac ymgysylltu â nhw yn cynnig buddiannau i iechyd a llesiant corfforol a seicolegol (gweler, er enghraifft, White et al. 2013). Fodd bynnag, cyfyngedig iawn yw'r ymchwil sy'n ystyried mynediad i fannau glas o safbwynt ethnigrwydd yn benodol. Gwnaeth ein hadolygiad o'r llenyddiaeth ddychwelyd un cyfeiriad perthnasol yn unig, sef astudiaeth gan Pitt (2019) a ystyriodd y rhesymau dros beidio â defnyddio mannau glas trefol (camlesi mewndirol ac afonydd wedi'u peiriannu) mewn pedair astudiaeth achos: Camlas Leeds i Lerpwl yn Blackburn, Swydd Gaerhirfryn, Afon Soar a'r Gamlas Undebol Fawr yng Nghaerlŷr, y Gamlas Undebol Fawr yn Milton Keynes a Chamlas Regents yn Tower Hamlets, Llundain.

Mewn sawl ffordd, roedd canfyddiadau Pitt yn adlewyrchu canfyddiadau astudiaethau cymaradwy o fannau gwyrdd. Roedd grwpiau ethnig leiafrifol, er enghraifft, heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith defnyddwyr dŵr trefol, ynghyd â grwpiau eraill o dan anfantais. Ac er y cydnabyddid bod rhai agweddau penodol ar ddyfrffyrdd sy'n eu gwneud yn anatyniadol yn benodol (e.e. tywyllwch), roedd llawer o'r rhwystrau i fynediad ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a nodwyd yn yr astudiaeth yn debyg iawn i'r rhai a nodwyd mewn ymchwil i fannau gwyrdd. Roedd prinder amser, diffyg diddordeb a/neu ymwybyddiaeth, problemau o ran hygyrchedd, a chanfyddiadau negyddol mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch oll wedi cael eu rhoi fel rhesymau dros beidio â defnyddio mannau glas.

Roedd yr atebion i'r broblem a awgrymwyd gan Pitt hefyd yn adleisio'n gryf y rhai a gynigiwyd gan eraill yng nghyd-destun mannau gwyrdd, gyda galwadau cyfarwydd am y canlynol: buddsoddi mewn seilwaith ffisegol ac amwynderau; darparu mwy o wybodaeth; a chydnabod gwerth cyfathrebu rhwng cymheiriaid, mentrau cymunedol lleol a rhwydweithiau cymdeithasol. 

Ethnigrwydd a gwirfoddoli amgylcheddol

Gwnaeth ein chwiliadau cychwynnol am gyfeiriadau o'r llenyddiaeth academaidd neu lwyd yn ymwneud yn benodol ag ystyried ethnigrwydd a gwirfoddoli amgylcheddol hefyd ddychwelyd un astudiaeth berthnasol yn unig. Cynhaliodd y Sefydliad Ymchwil i Wirfoddoli (2007) adolygiad o'r llenyddiaeth ynglŷn â gwirfoddoli yn yr ‘awyr agored naturiol’ ar ran y Rhwydwaith Hamddena yng Nghefn Gwlad (CRN) yn 2007. Daeth ei adroddiad i'r casgliad:

There is a lack of diversity of those that volunteer [and] an urgent need to become more representative of both the national population, and of the population engaged in wider forms of volunteering. Volunteering in the natural outdoors, environment, and nature conservation currently experiences low participation from people of ethnic minority backgrounds, something which urgently needs to be addressed.’ 

(Institute of Volunteering Research / Ockenden, 2007: 21).

Mae hefyd angen mwy o ymchwil yn y maes hwn fel mater o fyrder er mwyn cadarnhau i ba raddau y mae'r sefyllfa wedi gwella (ai peidio) ers 2007, ac ystyried cyfraddau gwirfoddoli amgylcheddol cymharol grwpiau ethnig leiafrifol gwahanol.

Yn absenoldeb ymchwil a oedd yn ystyried ethnigrwydd a gwirfoddoli amgylcheddol yn benodol, mae'n ddefnyddiol troi at y llenyddiaeth fwy cyffredinol ynglŷn â ‘gwirfoddoli’ am rai sylwadau perthnasol. Rhoddodd yr adolygiad cyflym o dystiolaeth gan Southby et al. (2019) ynglŷn â ‘gwirfoddoli ac anghydraddoldebau’ er enghraifft, drosolwg o hyd a lled y rhwystrau i wirfoddoli (yn gyffredinol) ymhlith grwpiau o dan anfantais o bosibl (gan gynnwys grwpiau ethnig leiafrifol) a'r cysylltiadau rhyngddynt. O ystyried mater gwirfoddoli o safbwynt iechyd a llesiant, mae naratif Southby et al. yn cynnwys llawer o elfennau cyffredin â'r llenyddiaeth ynglŷn â mynediad. Dadleuir bod buddiannau gwirfoddoli i iechyd a llesiant yn hysbys iawn ond oherwydd amrywiadau sylweddol mewn cyfraddau gwirfoddoli ymhlith grwpiau demograffig gwahanol, nad yw'r buddiannau hynny ar gael i bawb yn yr un ffordd.

Unwaith eto, fel gyda'r llenyddiaeth ynglŷn â mynediad, datgelodd adolygiad Southby et al, fod pobl o grwpiau ethnig leiafrifol yn wynebu nifer o rwystrau unigryw o ran gwirfoddoli. Roedd y rhain yn cynnwys: mynediad cyfyngedig i seilweithiau gwirfoddoli, teimladau o ymddieithrio neu allgáu mewn mudiadau ac amgylcheddau gwirfoddoli, meddu ar lai o sgiliau ac adnoddau i wirfoddoli, a chael llai o ganlyniadau cadarnhaol drwy wirfoddoli. Er bod grwpiau demograffig eraill hefyd yn wynebu amrywiol rwystrau unigryw a oedd yn eu hatal rhag gwirfoddoli, nododd yr adolygiad hefyd y rhwystrau cyffredin lu yr oedd gwahanol grwpiau yn eu hwynebu, a hefyd, fod y rhwystrau i wirfoddoli a oedd yn gysylltiedig â grwpiau demograffig penodol yn aml yn cael eu dwysáu (a/neu eu lliniaru) gan ffactorau economaidd-gymdeithasol lluosog. Er enghraifft, canfuwyd bod rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, statws economaidd-gymdeithasol, cefndir teuluol, ac addysg darpar wirfoddolwyr yn effeithio ar y rhwystrau i wirfoddoli ymhlith gwahanol grwpiau oedran.

Fel gyda phroblemau o ran mynediad i fannau gwyrdd, mae adolygiad Southby et al. o wirfoddoli yn nodi natur gymhleth a chroestoriadol hunaniaeth a pha mor anodd ydyw i ddatgysylltu gwahanol fathau o ddemograffeg ‘o dan anfantais’ oddi wrth ei gilydd. Mae Southby et al, hefyd yn nodi'r angen, wrth feddwl am wirfoddoli, i symud y pwyslais ‘away from the level of individual choice (a dominant factor emphasised in policy and practical discussions around promoting volunteering) towards the influence of broader patterns of social exclusion and economic inequality as major determinants of volunteerism ability’ (t. 917). Maent yn awgrymu bod angen i lwybrau tuag at gymryd rhan ‘be developed in conjunction with addressing broader equity issues’ (t. 916) (gweler isod hefyd). 

Casgliadau

Crynodeb o'r dystiolaeth

  • Ceir tystiolaeth gref sy'n awgrymu bod mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw yn arwain at nifer o fuddiannau corfforol a seicolegol cadarnhaol o ran iechyd a llesiant ar lefel unigolion a'r boblogaeth. Wedi pandemig COVID-19, mae pobl yn rhoi gwerth cynyddol ar fannau gwyrdd ac yn dymuno cael mynediad iddynt.
  • Fodd bynnag, nid yw pob grŵp demograffig yn gallu cael mynediad i werth a buddiannau mannau gwyrdd yn yr un modd. Mae nifer o adroddiadau diweddar yn disgrifio ar y cyd sefyllfa lle mae pobl sy'n nodi eu bod o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn llawer llai tebygol o gael mynediad i fannau awyr agored gartref; yn llai tebygol o fyw'n agos i fannau gwyrdd; yn llai tebygol o ymweld â chefn gwlad; yn llai tebygol o ymweld â pharciau cenedlaethol; ac yn llai tebygol o ddweud eu bod yn treulio amser ym myd natur.
  • Gwnaeth adolygiad systematig diweddar o lenyddiaeth gan Robinson et al. (2023) nodi a chategoreiddio'r prif rwystrau a oedd yn atal unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio rhag cael mynediad i fannau gwyrdd. Roedd y rhain yn cynnwys nifer o rwystrau seicogymdeithasol, ymarferol ac amgylcheddol a rhwystrau o ran gwybodaeth. Fodd bynnag, nid peth newydd yw ein dealltwriaeth o'r materion a'r rhwystrau hyn. Mae llawer o'r un rhwystrau i fynediad a nodwyd gan ysgolheigion diweddar (o ran amser, cost, agosrwydd, diwylliant/iaith, amwynderau, gwybodaeth, canfyddiadau negyddol) wedi cael eu nodi'n gyson ers degawdau. 
  • Yn ogystal â meddwl am y rhwystrau, mae hefyd yn ddefnyddiol deall yr hyn sy'n cymell unigolion o gefndiroedd ethnig leiafrifol i ymgysylltu â mannau gwyrdd. Datgelodd arolwg diweddar ar raddfa fach o aelodau dwy fenter gymunedol gan Slater (2022) mai iechyd corfforol a chadw'n heini oedd y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd. Mewn cyfweliadau dilynol, cyfeiriwyd at gysylltiadau cymdeithasol a dihangfa yn aml hefyd fel cymhellion allweddol dros ymweld â mannau gwyrdd (gwledig).
  • Mae hefyd yn ddiddorol gwybod a yw'r defnydd o fannau gwyrdd a'r mannau gwyrdd a ffefrir yn amrywio yn ôl ethnigrwydd, a sut. Fodd bynnag, mae astudiaethau yn y DU sy'n canolbwyntio ar y cwestiynau hyn yn brin, ac mae eu casgliadau yn gwrthddweud ei gilydd weithiau. Canfu darn diweddar o ymchwil gan Edwards et al. (2022) a oedd yn cymharu patrymau defnydd a ffafriaeth ymhlith defnyddwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a defnyddwyr Gwyn ar gyfer dau fath o fan gwyrdd trefol, er bod yr hyn a ffafriwyd a phatrymau defnydd yn amrywio yn ôl y math o fan gwyrdd, nad oeddent yn amrywio'n sylweddol rhwng grwpiau ethnig. 
  • Mae gormodedd o ymatebion polisi a chynlluniau gweithredu wedi cael eu datblygu i fynd i'r afael â mater mynediad/diffyg mynediad i fannau gwyrdd ymhlith grwpiau demograffig penodol, gan gynnwys grwpiau ethnig leiafrifol. Mae Defra, Public Health England, a Llywodraeth yr Alban, i enwi ond tair enghraifft nodedig, gyda'i gilydd, wedi datblygu cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu wedi'u targedu, argymhellion, ac egwyddorion arweiniol gyda'r nod o fynd i'r afael â'r broblem. 
  • Mae ymchwil academaidd ddiweddar hefyd wedi ceisio gwneud awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut a ble y gall y rhai sy'n llunio polisïau ddileu rhwystrau i fynediad i fannau gwyrdd ymhlith cymunedau ethnig leiafrifol yn fwyaf effeithiol. Mae'r awgrymiadau wedi cynnwys: cyflwyno ieithoedd lluosog ar arwyddion a mannau gweddïo ychwanegol mewn parciau i hyrwyddo cynhwysiant; gwell cynllunio trefol er mwyn sicrhau mannau gwyrdd diogel o ansawdd da mewn ardaloedd cymdeithasol ddifreintiedig; a chyllid wedi'i dargedu at fentrau mynediad a arweinir gan y gymuned. 

Bylchau mewn tystiolaeth

Ers 30 mlynedd neu fwy, mae academyddion, llunwyr polisïau a sefydliadau yn y trydydd sector wedi ymchwilio i fater ethnigrwydd a mynediad i fyd natur / cefn gwlad / mannau gwyrdd. Ac er nad yw'r llenyddiaeth sy'n cynnwys yr holl bapurau, adroddiadau, a'r cynigion polisi yn enfawr, mae'n rhoi dealltwriaeth dda i ni o ran beth yw'r rhwystrau i fynediad i fannau gwyrdd ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol ac, mewn theori o leiaf, pa gamau gweithredu y mae angen eu cymryd i ddileu neu leihau'r rhwystrau hynny. Fodd bynnag, er gwaethaf yr wybodaeth hon, erys y broblem yn un anodd ei datrys. Dangoswyd bod rhai mentrau cymunedol wedi cael effaith leol gadarnhaol, ac mae'n bosibl bod rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud ar raddfa genedlaethol dros y degawd diwethaf hefyd, ond mae'n amlwg bod anghydraddoldebau sylweddol o hyd o ran mynediad i fannau gwyrdd. Byddai dadansoddiad dyfnach o ddata MENE yn datgelu i ba raddau y gwnaed cynnydd rhwng 2009 a 2019 (yn Lloegr o leiaf).

Mae'r rheswm dros hyn a pham nad yw degawdau o ymchwil a chynigion polisi yn y maes hwn wedi arwain at welliannau sylweddol o ran mynediad i fannau gwyrdd ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol yn gwestiynau allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw. Ceir bwlch sylweddol yn y dystiolaeth, er enghraifft, o ran deall y broses o roi polisïau ar waith (o ran rhwystrau, graddfa, cysondeb dulliau gweithredu) ac effeithiolrwydd cynigion ac ymyriadau penodol. Gallwn geisio dyfalu pam nad yw cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud ar y mater hwn (e.e. diffyg ymyriadau ar y cyd; arian annigonol; methiant i fynd i'r afael â phroblemau mwy sylfaenol a systemig) ond mae angen mwy o ymchwil er mwyn cadarnhau a yw'r camau gweithredu a argymhellwyd wedi cael eu cymryd ac os felly, pa rai, ac i ba raddau y maent wedi bod yn effeithiol (ai peidio) a pham.

Ymchwil sy'n canolbwyntio ar Gymru

Ceir bwlch nodedig yn y dystiolaeth hefyd o ran ystyried materion ethnigrwydd a mynediad i'r amgylchedd yng nghyd-destun Cymru. Dim ond dau gyfeiriad uniongyrchol berthnasol a ddychwelwyd yn ystod ein chwiliadau. Adolygiad a gynhaliwyd gan Lester (Iechyd Cyhoeddus Cymru) ar ran Llywodraeth Cymru yn 2012 a ystyriodd anghydraddoldebau iechyd, y ddarpariaeth mannau gwyrdd a chosteffeithiolrwydd ymyriadau oedd y cyntaf. Roedd canfyddiadau'r adolygiad yn rhagweld canfyddiadau astudiaethau tebyg eraill (gweler Public Health England, 2020) o ran cydnabod ac argymell y canlynol: 

  • Gall mynediad i fannau gwyrdd o ansawdd da wella iechyd a llesiant. Argymhellir y dylai mannau gwyrdd gael eu cynnal a'u cadw i safon uchel ac y dylai ymyriadau sy'n annog defnydd ehangach gael eu cefnogi. 
  • Gall mynediad i fannau gwyrdd o ansawdd da leihau anghydraddoldebau iechyd, ond mae mannau mewn ardaloedd difreintiedig yn aml o ansawdd gwael. Er mwyn cynyddu'r defnydd o fannau gwyrdd ymhlith pobl mewn grwpiau o dan anfantais, argymhellir y dylid gwella mannau gwyrdd mewn ardaloedd difreintiedig drwy gael gwared ar graffiti, darparu toiledau, seddau ac amwynderau eraill a chynnwys pobl leol yn y broses gynllunio. 
  • Cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i wybod yr hyn y maent yn dymuno ei gael o'u mannau gwyrdd lleol a dylid eu cynnwys yn llawn mewn cynlluniau gwella. 
  • Gall gwaith cynllunio gofodol da sy'n ystyried darparu mannau gwyrdd, amgylcheddau y gellir cerdded o'u hamgylch ac anghenion grwpiau o dan anfantais fod yn gosteffeithiol. Felly, argymhellir y dylai cynllunio ar gyfer iechyd gyda ffocws ar gydraddoldeb, gan gynnwys asesiad o'r effaith ar anghydraddoldebau iechyd, ddod yn beth arferol. 

Yr ail enghraifft oedd astudiaeth ansoddol gan Robinson a Gardner (2006) a ystyriodd, drwy gyfweliadau manwl â 40 o drigolion Du ac Ethnig Leiafrifol yng nghefn gwlad Powys, ‘natur unigryw’ hiliaeth yng nghefn gwlad Cymru. Roedd yn sicr yn rhan o'r traddodiad ymchwil sy'n rhoi ffocws ar dirwedd (gweler Agyeman, 1989; Agyeman a Spooner, 1997; Neal, 2002), gyda Robinson a Gardner (2006) yn dadlau bod hiliaeth yng nghefn gwlad Cymru ‘undoubtedly distinctive from its English, Scottish and Irish equivalents, because of the places within which it is enacted and the unique histories, cultures and demographics that these possess’ (t. 69). Un o'r ffactorau a nodwyd gan Robinson a Gardner a oedd yn cyfrif am natur unigryw hiliaeth yng nghefn gwlad Cymru oedd y Gymraeg, a oedd yn gysylltiedig â sensitifrwydd ynglŷn â'i dyfodol a'r ffordd y gallai gael ei defnyddio i allgáu neu sicrhau cynhwysiant. Un elfen arall o hiliaeth yng nghefn gwlad Cymru a oedd yn ei gwneud yn unigryw yn ôl ymchwil Robinson a Gardner oedd ei bod yn cael ei ‘harfer’ mewn ffordd wahanol gan y ddau brif grŵp diwylliannol a oedd yn byw yno: y Cymry a'r Saeson, ond ni chafwyd unrhyw gonsensws ymhlith y cyfweleion ynghylch pa grŵp oedd fwyaf croesawgar neu fwyaf tebygol o allgáu (t. 60).

Roedd y diffyg consensws hwn yn dangos, yn ôl Robinson a Gardner, nad oedd/nad oes profiad Du ac Ethnig Leiafrifol unigol yng nghefn gwlad Cymru ac nad oedd perthynas unigol rhwng trigolion Du ac Ethnig Leiafrifol a'r cymunedau lle maent yn byw. Yn hytrach, roedd/mae amrywiaeth o wahanol fathau o hiliaeth gan grwpiau gwahanol, am resymau gwahanol ac sy'n cael eu hamlygu mewn ffyrdd gwahanol mewn lleoedd gwahanol (ibid.). Er eu bod yn cydnabod natur luosog profiadau Du ac Ethnig Leiafrifol a phwysigrwydd dealltwriaeth gynnil o hiliaeth, daeth Robinson a Gardner i gasgliad a oedd yn cynnwys elfen o rybudd, gan ddadlau na ddylai ffocws ar wahaniaeth dynnu ein sylw oddi wrth nodi ‘profound commonalities that underpin all racisms’ (t. 70).

Hiliaeth Strwythurol a Systemig

Roedd hiliaeth cefn gwlad yn un o'r pedwar prif rwystr i fynediad a oedd yn atal pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol rhag ymweld â chefn gwlad a nodwyd gan Agyeman ar ddiwedd y 1980au (gweler uchod). Agyeman oedd y cyntaf i ddamcaniaethu, ac i esbonio'r cysylltiad rhwng problem ehangach hiliaeth mewn ardaloedd gwledig ac absenoldeb pobl o liw mewn gweithgareddau hamddena yng nghefn gwlad. Roedd ei waith yntau a gwaith cysylltiedig y Rhwydwaith Amgylchedd Du (BEN) hefyd yn allweddol o ran cydnabod y broblem yn ehangach ac, yn y pen draw, ddatblygu cyfres o ymatebion polisi a chynlluniau gweithredu.

Fodd bynnag, rywbryd rhwng nodi'r broblem a datblygu ymatebion polisi wedi'u targedu, mae'n ymddangos bod cyfeiriadau penodol at hiliaeth wedi cael eu dileu i raddau helaeth. Mae llawer o gynlluniau gweithredu yn methu â chydnabod hiliaeth, naill ai mewn cyd-destun gwledig penodol neu ar ei ffurf strwythurol a systemig mwy ymledol, fel un o'r prif rwystrau i gael mynediad i fannau gwyrdd / ymgysylltu â nhw ymhlith cymunedau ethnig leiafrifol.

Felly, er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sy'n her gymhleth ac amlweddog, mae angen gwell dealltwriaeth o'r gwahanol fathau o hiliaeth sy'n codi yng nghefn gwlad Cymru; mae angen gwell dealltwriaeth o brofiadau grwpiau ethnig leiafrifol gwahanol yng Nghymru a'r hyn a ffefrir ganddynt; ac mae angen dealltwriaeth ddyfnach o lawer o achosion sefydliadol a systemig hiliaeth a'i chydberthynas â nifer o anghydraddoldebau amgylcheddol yn y wlad.

Argymhellion

Ar ôl crisialu'r holl argymhellion, cynlluniau gweithredu, egwyddorion arweiniol, camau nesaf, a gwersi allweddol a ddysgwyd a geir yn ‘y llenyddiaeth’, rydym yn awgrymu y dylai'r pethau allweddol canlynol gael eu hystyried a'u gweithredu yn y dyfodol:

Ystyriaethau allweddol

  1. Mae ethnigrwydd yn croestorri â chategorïau strwythurol-gymdeithasol eraill, rhywedd, oedran, statws economaidd-gymdeithasol, iechyd. Mae hyn yn her yng nghyd-destun nodi rhwystrau penodol i fynediad i fannau gwyrdd ymhlith grwpiau ethnig leiafrifol. Ond mae hefyd yn cynnig cyfle o bosibl, gan y bydd ymyriadau sydd wedi'u targedu'n benodol at grwpiau ethnig leiafrifol hefyd yn debygol o arwain at welliannau ar gyfer grwpiau strwythurol-gymdeithasol eraill. 
  2. Mae amrywiaeth o werthoedd, profiadau, cymhellion a dewisiadau a ffefrir ymhlith gwahanol grwpiau ethnig leiafrifol. 
  3. Mae gwerthoedd, profiadau, cymhellion a dewisiadau a ffefrir o ran mannau gwyrdd hefyd yn newid/datblygu yn ystod oes pobl.
  4. Mae ymgysylltiad grwpiau ethnig leiafrifol â byd natur yn gynnil ac nid mater o ddefnydd/dim defnydd yn unig ydyw. Mae'r dymuniad i beidio ag ymgysylltu â byd natur hefyd yn ddewis hollol resymol y mae angen ei ddeall a'i barchu. 
  5. Mae angen ystyried mater penodol mynediad i fyd natur/mannau gwyrdd / ymgysylltu â nhw yng nghyd-destun systemig ehangach y drafodaeth a'r camau gweithredu ynglŷn â gwrth-hiliaeth. 
  6. Mae'r broblem yn hirsefydlog, yn gymhleth ac yn amlweddog. Bydd angen i atebion fod yn gynhwysfawr, yn amlweddog ac yn barhaol. 

Camau gweithredu allweddol

  1. Dylid gwrando ar grwpiau a chymunedau ethnig leiafrifol, gweithio gyda nhw a'u grymuso er mwyn deall a mynd i'r afael â'r materion hyn yn well. Dyma'r neges unigol bwysicaf sy'n deillio o'r adolygiad hwn o'r dystiolaeth.
  2. Dylid cydnabod gwerth ac effeithiolrwydd mentrau cymunedol ar raddfa leol sy'n helpu pobl i gael mynediad i fannau gwyrdd lleol, eu mwynhau a'u rheoli. Dylid eu cefnogi a buddsoddi ynddynt. 
  3. Dylid gweithredu drwy dargedu. Dylid targedu ymyriadau sy'n cefnogi grwpiau ethnig leiafrifol yn benodol neu, yn well fyth, grwpiau ethnig leiafrifol gwahanol. Dylid targedu adnoddau ac ymdrech hefyd. 
  4. Dylid casglu mwy o dystiolaeth. Dylid deall maint y broblem, y cyfeiriad ymlaen, ac yn hollbwysig, effeithiolrwydd gwahanol ymyriadau (ai peidio). Dylid sefydlu data llinell sylfaen a'u monitro. Dylid cynnal adolygiad o arferion gorau yn seiliedig ar astudiaethau achos, sy'n nodi pa fentrau sydd wedi bod yn llwyddiannus a pham. Dylid sefydlu Tasglu neu Weithgor sy'n cynnwys nifer o randdeiliaid er mwyn ystyried yn fanylach fethiannau polisi blaenorol a'r rhwystrau o hyd i roi polisïau ar waith. 
  5. Mae materion esthetig ac amwynderau yn bwysig. Mae buddsoddi mewn mannau gwyrdd/glas yn sicrhau nifer o fuddiannau ac yn cyflawni sawl agenda. At hynny, os bydd cymunedau ethnig leiafrifol yn cael cyfle i gyfrannu mwy wrth gynllunio a rheoli'r mannau hyn, maent hwy (ac eraill) yn fwy tebygol o fuddsoddi (gwirfoddoli) yn y gwaith o'u cynnal a'u cadw. 
  6. Mae'r broblem yn un gymhleth ac amlweddog ond gall mentrau/buddsoddiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. 

Cyfeiriadau

Agyeman, J. (1989). Black-people, white landscape. Town and Country Planning, Rhagfyr: 58 (12) 336–8.

Agyeman, J. (1990). Black people in a white landscape: social and environmental justice. Built Environment (1978-), 232-236.

Agyeman, J., & Spooner, R. (1997) Ethnicity and the Rural Environment in Cloke, P., & Little, J. (golygyddion.). Contested countryside cultures. London: Routledge.

Boyd, F., et al. (2018). Who doesn't visit natural environments for recreation and why: A population representative analysis of spatial, individual and temporal factors among adults in England Landscape and Urban Planning 175: 102-113.

Brown, C., Bramley, G., & Watkins, D. (2010). Urban green nation: Building the evidence base. CABE.

Cloke, P. & Little, J. (1997). Contested countryside cultures. Llundain: Routledge.

Y Comisiwn Cefn Gwlad (1991). Visitors to the Countryside.

CPRE/NEF (2021).  Access to nature in the English countryside: A participant led research project exploring inequalities in access to the countryside for people of colour.

Cronin-de-Chavez, A., et al. (2019). Not a level playing field: A qualitative study exploring structural, community and individual determinants of greenspace use amongst low-income multi-ethnic families. Health & Place 56: 118-126.

Defra (2008). Outdoors for All? Cynllun Gweithredu i gynyddu nifer y bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy'n cael mynediad i'r amgylchedd naturiol.

Edwards, R. C., Larson, B. M., & Church, A. (2022). A “magic teleportation machine”: Ethnically diverse green space users derive similar cultural ecosystem benefits from urban nature. Urban Forestry & Urban Greening, 67, 127409.

Fields in Trust (2019). Revaluing Parks and Green Spaces: Measuring their economic and wellbeing value to individuals.

Friends of the Earth (2020). England’s green space gap.

Holland, F. (2021). Out of Bounds: Equity in Access to Urban Nature. Groundwork: Birmingham, UK.

Lester, C. (2012). Green space, reduction of health inequities, and cost effectiveness of interventions. (Public Health Wales).

Lovell, R., White, M.P., Wheeler, B., Taylor, T., Elliott, L. (2020) A rapid scoping review of health and wellbeing evidence for the Green Infrastructure Standards. Y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer yr Amgylchedd ac Iechyd Dynol, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerwysg Ar ran: Natural England, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Public Health England, a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Lloegr. 

McEachan, R. R. C., et al. (2018). "Availability, use of, and satisfaction with green space, and children's mental wellbeing at age 4 years in a multicultural, deprived, urban area: results from the Born in Bradford cohort study." Lancet Planetary Health 2(6): E244-E254.

Morris, N. (2003). Black and minority ethnic groups and public open space. Literature Review. OPENSpace, Edinburgh.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (2020). Levelling up and building back better through urban green infrastructure: an investment options appraisal.

Natural England (2012). The Mosaic Model Access to Nature: Early Findings Paper.

Natural England (2022). The People and Nature Survey for England: Year 2 Annual Report.

Neal, S. (2009). "Rural identities: ethnicity and community in the contemporary English countryside" London: Routledge.

Neal, S. (2002). Rural landscapes, representations and racism: Examining multicultural citizenship and policy-making in the English countryside. Ethnic and Racial Studies 25(3): 442-461.

Ockenden, N. (2007) Volunteering in the natural outdoors in the UK and Ireland: A literature review.

Office for National Statistics (2020). Access to garden spaces: England.

Ordóñez-Barona, C. (2017). "How different ethno-cultural groups value urban forests and its implications for managing urban nature in a multicultural landscape: A systematic review of the literature." Urban Forestry and Urban Greening 26: 65-77.

Pitt, H. (2019). What prevents people accessing urban bluespaces? A qualitative study. Urban Forestry & Urban Greening, 39: 89-97.

Public Health England (2020) Improving access to greenspace: A new review for 2020.

Ramblers. (2020). The Grass Isn’t Greener for Everyone: Why Access to Green Space Matters.

Rishbeth, C. (2004). Ethno-cultural representation in the urban landscape. Journal of Urban Design, 9(3), 311-333.

Roberts, H., et al. (2019). "Associations between park features, park satisfaction and park use in a multi-ethnic deprived urban area." Urban Forestry & Urban Greening 46: 9.

Robinson, V., & Gardner, H. (2006). Place matters: exploring the distinctiveness of racism in rural Wales. In The new countryside? (pp. 47-72). Policy Press.

Robinson, T., et al. (2023). Examining Psychosocial and Economic Barriers to Green Space Access for Racialised Individuals and Families: A Narrative Literature Review of the Evidence to Date. International Journal of Environmental Research and Public Health 20 (1): 28.

Roe, J., et al. (2016). "Understanding Relationships between Health, Ethnicity, Place and the Role of Urban Green Space in Deprived Urban Communities." International Journal of Environmental Research and Public Health 13(7): 681.

Scottish Government (2021) Outdoor recreation – understanding the drivers of participation: research.

Slater, H. (2022). Exploring minority ethnic communities' access to rural green spaces: The role of agency, identity, and community-based initiatives. Journal of Rural Studies 92: 56-67.

Southby, K., South, J., & Bagnall, A. M. (2019). A rapid review of barriers to volunteering for potentially disadvantaged groups and implications for health inequalities. VOLUNTAS: International Journal of Voluntary and Nonprofit Organizations, 30, 907-920.

Thompson, C. W., Roe, J., Aspinall, P., Zuin, A., Travlou, P., & Bell, S. (2010). Community green: using local spaces to tackle inequality and improve health. CABE.

Llywodraeth Cymru (2022) Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Drafft.

Llywodraeth Cymru (2023) Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

What Works Wellbeing (2018) Improving access to green space for BAMER communities.

White, M. P., Alcock, I., Wheeler, B. W., & Depledge, M. H. (2013). Coastal proximity, health and well-being: Results from a longitudinal panel survey. Health & place, 23, 97-103.

Awdur(on)

Daw awduron y Crynodeb Tystiolaeth Gyflym hwn o Brifysgol Caerwysg:

  • Dr Steven Guilbert.
  • Yr Athro Karen Bickerstaff.
  • Alison Bethel.
  • Yr Athro Ruth Garside.

Barn yr ymchwilwyr yw’r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru.

Ieithoedd amgen

Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.