Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023.

Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).

Prif bwyntiau (data dros dro)

Ionawr a Rhagfyr 2023

  • Cafodd 66.1% o wastraff ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, cynnydd bach o’i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2022, a'r ffigwr 12 mis uchaf ar y cyd sydd wedi ei gofnodi.

Hydref i Ragfyr 2023

  • Cafodd 64.6% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd bach ar y chwarter cyfatebol yn 2022, a’r ffigwr uchaf ar gofnod ar gyfer y chwarter Hydref i Ragfyr.
  • Cynhyrchwyd 331,568 tunnell o wastraff trefol,cynnydd bach o’i gymharu â’r un chwarter yn 2022 a gostyngiad o 5% o’i gymharu â’r chwarter cyfatebol yn 2019, sef y data mwyaf diweddar cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Stuart Neil

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.