Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2020.

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.

Roedd y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) (gweler y wybodaeth ychwanegol isod).

Rhwng Hydref 2019 a Medi 2020

Cafodd 64.6% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd bach ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Medi 2019.

Gorffennaf i Fedi 2020

  • Cafodd 68% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd o 2 bwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.
  • Cynhyrchwyd 415,000 tunnell o wastraff trefol, cynnydd o 4% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.

Nodyn

Roedd y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Achosodd y pandemig aflonyddwch wrth gasglu gwastraff awdurdodau lleol yn ystod 2020-21 sydd wedi achosi anghysondebau yn y setiau data chwarterol. Er enghraifft, casglwyd llai o wastraff gan yr awdurdodau lleol yn Chwarter 1 2020-21 na blwyddyn nodweddiadol oherwydd cyfyngiadau neu ataliad o rhai gwasanaethau gan gynnwys Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, glanhau strydoedd, gwastraff swmpus, casgliadau gwastraff masnachol a gwyrdd. I'r gwrthwyneb, casglwyd mwy o wastraff gan yr awdurdodau lleol yn Chwarter 2 2020-21 nag mewn blwyddyn nodweddiadol fel ganlyniad o’r gwasanaethau hyn yn ailddechrau'n llawn. Fodd bynnag, mae'n rhy gynnar i ddeall maint effeithiau'r pandemig ar setiau data blynyddol gwastraff trefol yr awdurdodau lleol a chartrefi ar y cyfan. Mae newidiadau mewn cyfyngiadau COVID-19 yn debygol o barhau i effeithio ar ddata gwastraff trefol yr awdurdodau lleol ar gyfer chwarteri mwy diweddar, a bydd y rhain yn cael eu hystyried mewn datganiadau yn y dyfodol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.