Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill i Mehefin 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn ôl y data dros dro, 63% oedd y gyfradd gyfunol ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gwastraff trefol awdurdodau lleol ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd Mehefin 2018. Mae hyn 1 pwynt canran yn llai na’r ganran ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd Mehefin 2017. Fodd bynnag, mae’r gostyngiad yma yn rhannol o ganlyniad i welliant yn ansawdd y cofnodi (gweler datganiad ystadegol 2017-18).
  • Yn y chwarter Ebrill i Fehefin 2018, cafodd 66% o wastraff trefol awdurdodau lleol ei ailddefnyddio, ailgylchu neu compostio yng Nghymru. Roedd hyn yn  gynyddiad o 1 pwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2017.
  • Yn y chwarter Ebrill i Mehefin 2018, cynyddodd cyfanswm gwastraff trefol yr awdurdodau lleol a gynhyrchwyd yng Nghymru o 3%  o’i gymharu â’r un chwarter yn 2017. Cynyddodd nifer y tunelli o 419 i 430 mil tunnell.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.