Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).

Prif bwyntiau (data dros dro)

Gorffennaf 2023 i Mehefin 2024

  • Cafodd 66.7% o wastraff ei ailddefnyddio/ei ailgylchu/ei gompostio, sef cynnydd o 0.7% o gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben fis Mehefin 2023, a'r ffigur 12 mis uchaf a gofnodwyd erioed.

Ebrill i Mehefin 2024

  • Cafodd 68.8% o wastraff trefol ei ailddefnyddio/ei ailgylchu/ei gompostio, sef cynnydd o 0.4% o gymharu â'r chwarter cyfatebol yn 2023, a'r ffigur uchaf a gofnodwyd erioed ar gyfer chwarter mis Ebrill i fis Mehefin.
  • Cafodd 381,296 o dunelli o wastraff trefol eu cynhyrchu, sef cynnydd o 0.3% o gymharu â'r un chwarter yn 2023 a chynnydd o 2.6% o gymharu â'r un chwarter yn 2022.

Mae'r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ddata dros dro sy'n cael eu cyhoeddi bob chwarter. Caiff y data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol eu cyhoeddi'n flynyddol.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stuart Neil
E-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image