Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2020.

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.

Roedd y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 yn ystod rhan gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

Gorffennaf 2019 i Fehefin 2020

  • Cafodd 64% o wastraff trefol ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, cynnydd bach ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2019.

Ebrill i Fehefin 2020

  • Cafodd 64% o wastraff trefol ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, gostyngiad o 3 bwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.
  • Cynhyrchwyd 340,000 tunnell o wastraff trefol, gostyngiad o 15% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.

Nodyn

Roedd cyfyngiadau symud yn golygu bod y ffordd y gallai awdurdodau lleol yn gasglu, rheoli a phrosesu gwastraff trefol a'r ffordd yr oedd pobl a busnesau'n gwaredu gwastraff yn wahanol i gyfnodau cynharach. Er enghraifft, caewyd y rhan fwyaf o safleoedd mwynder dinesig yr awdurdodau lleol am o leiaf ran o'r cyfnod hwn, caewyd busnesau ac roedd mwy o bobl yn treulio cyfnodau hwy yn eu cartrefi nag o'r blaen. Byddai'r newidiadau hyn wedi effeithio ar meintiau a mathau o wastraff a gasglwyd, er ei bod yn anodd asesu effaith gyffredinol y cyfyngiadau ar ystadegau blynyddol mewn un chwarter yn unig ar hyn o bryd. Mae newidiadau mewn cyfyngiadau COVID-19 yn debygol o barhau i effeithio ar ddata gwastraff trefol yr awdurdodau lleol ar gyfer chwarteri mwy diweddar, a bydd y rhain yn cael eu hystyried mewn datganiadau yn y dyfodol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.