Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Y gyfradd ailgylchu yw canran gwastraff trefol awdurdodau lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Mae'r gyfradd ailgylchu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd diwethaf (o tua 5% yn y 1990au hwyr).

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd y gyfradd ailgylchu o 65.7% yn 2022-23 i 66.6% yn 2023-24. Mae hyn yn rhagori ar y targed o 64% a osodwyd yn y Strategaeth ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021).
  • Cofnododd 15 o’r 22 awdurdodau lleol gynnydd yn eu cyfradd ailddefnyddio/ailgylchu/compostio o gymharu â’r llynedd.
  • Cynhyrchwyd 1.4 miliwn tunnell o wastraff trefol awdurdod lleol yn 2023-24. Mae hyn yn gynnydd bychan (0.6%) o gymharu â 2022-23, ond yn ostyngiad o 7% ar 2021-22 a'r ail ffigwr isaf a gofnodwyd ers 2001-02.
  • Gostyngodd gwastraff gweddilliol cartrefi fesul person 2.1%, gan ostwng o 172kg yn 2022-23 i 168kg yn 2023-24.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stuart Neil
E-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 100/2024

Image