Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill 2022 i Mawrth 2023.

Cafodd pandemig coronafeirws (COVID-19) effaith ar gasglu a rheoli gwastraff trefol awdurdodau lleol Cymru yn ystod 2020 i 2021 a 2021 i 2022. Dylid ystyried hyn wrth gymharu yn erbyn y blynyddoedd blaenorol a rhwng awdurdodau lleol.

Y gyfradd ailgylchu yw canran gwastraff trefol awdurdodau lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Mae'r gyfradd ailgylchu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd diwethaf (o tua 5% yn y 1990au hwyr).

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd y gyfradd ailgylchu ychydig o 65.2% yn 2021 i 2022 i 65.7% yn 2022 i 2023. Mae hyn yn rhagori ar y targed o 64% a osodwyd yn y Strategaeth ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021).
  • Cofnododd  12 o’r 22 awdurdodau lleol gynnydd yn eu cyfradd ailddefnyddio/ailgylchu/compostio i gymharu â llynedd.
  • Cynhyrchwyd 1.4 miliwn tunnell o wastraff trefol awdurdod lleol, gostyngiad o 7.2% i gymharu â llynedd, a'r isaf a gofnodwyd ers 2001 i 2002.
  • Gostyngodd gwastraff gweddilliol cartrefi fesul person 5.5%, gan ostwng o 182kg yn 2021 i 2022 i 172kg yn 2022 i 2023.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019 i 2020 a 70% erbyn 2024 i 2025.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr Adroddiad Ansawdd.

Adroddiadau

Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol: Ebrill 2022 i Mawrth 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 735 KB

PDF
735 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Stuart Neil

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.