Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol
Mae'r cyfnod hwn yn cwmpasu'r prif gyfnod o gyfyngiadau yn ystod pandemig COVID-19. Dylid cymryd gofal wrth gymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol gan nad yw'n glir pa effeithiau sy'n rhai tymor byr oherwydd y pandemig a pha rai sy'n fwy hir dymor. Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).
Prif bwyntiau
- Cynyddodd y gyfradd ailgylchu o 65.1% yn 2019-20 i 65.4% yn 2020-21. Mae hyn yn rhagori ar y targed o 64% a osodwyd yn y Strategaeth 'Mwy nag ailgylchu'.
- Cofnododd 13 o’r 22 awdurdodau lleol gynnydd yn eu cyfradd ailddefnyddio/ailgylchu/compostio o gymharu â’r llynedd.
- Cynhyrchwyd 1.47 miliwn tunnell o wastraff trefol awdurdod lleol, gostyngiad o 2.6% a’r ffigwr isaf hyd yma.
Nodiadau
Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol 'Mwy nag ailgylchu' mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.
Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr Adroddiad ansawdd.
Adroddiadau
Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.