Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gefnogaeth ar gyfer y system rhoi organau newydd yng Nghymru yn uchel, yn ôl Gwerthusiad Effaith Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru).

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ddydd Iau, 30 Tachwedd, ac mae'n asesu'r effaith gychwynnol y mae'r newid yn y gyfraith wedi'i chael ar gyfraddau rhoi organau yng Nghymru, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae'n dangos cynnydd yn lefel y gefnogaeth ar gyfer y system ymhlith y cyhoedd a staff y GIG. 

Cyn i'r Ddeddf gael ei rhoi ar waith, dywedodd saith o bob deg aelod o staff (71%) eu bod o blaid y newid i’r ddeddfwriaeth, ac mae'r ffigur hwn wedi cynyddu i fwy na phedwar ym mhob pump (85%) wedi i'r ddeddf gael ei gweithredu. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos cynnydd yn y ganran o deuluoedd sy'n rhoi caniatâd ar gyfer rhoi organau, o 44.4% yn 2014 i 64.5% yn 2017. 

Dywedodd mwy na hanner yr ymatebwyr i Arolwg Omnibws Cymru ym mis Medi 2017 eu bod wedi trafod eu dymuniadau o ran rhoi organau gydag aelod o'r teulu. Arhosodd y ffigur hwn yn sefydlog rhwng 2012 a 2015, ar bedwar o bobl deg, ond mae wedi cynyddu ers hynny.

Ar 1 Rhagfyr 2015, cyflwynodd Cymru system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau, a hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. O dan y system hon, os nad yw unigolyn wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – gelwir hyn yn gydsyniad tybiedig. 

Er hyn, os nad yw'r unigolion yn trafod eu penderfyniad i roi organau ag aelodau eu teuluoedd, efallai na fydd y teuluoedd yn parchu'r penderfyniad hwnnw ac yn diystyru'r gofrestr rhoddwyr organau neu'r cydsyniad tybiedig. 

Mae'r Data ar Roi Organau a Gweithgarwch Trawsblannu ar gyfer 2016-17, a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, yn dangos y ffigurau canlynol ar gyfer Cymru:

  • Bu gostyngiad o 18.5% yng nghanran y cleifion a fu farw tra'r oeddent ar y rhestr aros ar gyfer cael trawsblaniad (o 27 yn 2015-16 i 22 yn 2016-17)
  • Bu cynnydd o 4 yn nifer y rhoddwyr yn dilyn marwolaeth coesyn yr ymennydd, o 36 (2015-16) i 40 (2016-17)
  • Bu cynnydd o un yn nifer y cleifion sy'n byw yng Nghymru ac a gafodd drawsblaniad y galon
  • Bu cynnydd o 5 yn nifer y cleifion sy'n byw yng Nghymru ac a gafodd drawsblaniad aren fyw.
Lansiwyd ymgyrch hysbysebu fawr newydd ym mis Tachwedd i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r gyfraith ymysg y cyhoedd, gan ganolbwyntio ar rôl teuluoedd yn y broses rhoi organau. Nod yr ymgyrch yw annog pobl i siarad â'u hanwyliaid am eu dymuniadau, fel bod eu teuluoedd yn gallu parchu eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. 

Yn 2016-17, roedd 21 o achosion yng Nghymru lle'r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthynas i roi organau, neu wedi gwrthod cefnogi'r cydsyniad tybiedig. O ystyried y cafwyd 3.1 o organau ar gyfartaledd fesul rhoddwr yng Nghymru, gallai hynny fod wedi golygu cynifer â 65 o drawsblaniadau ychwanegol. 

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

"Rwy'n croesawu canfyddiadau'r Gwerthusiad Effaith, ac rwy'n falch o weld gwelliannau y gallwn eu dathlu, ar ôl cyfnod mor fyr. Llongyfarchiadau i'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o sicrhau'r llwyddiant hwn, ond ni fyddai dim o'r hyn rydym wedi'i gyflawni wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth pobl Cymru.

"Rwy'n falch dros ben bod ein cyfradd gydsynio wedi cyrraedd 72% yn nau chwarter cyntaf y flwyddyn hon, sef yr ail lefel uchaf yn y DU, wrth i 39% o boblogaeth Cymru gofrestru ar gyfer rhoi organau. Er nad yw hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y rhoddwyr yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn awgrymu mai'r rheswm posibl am hyn yw bod llai o roddwyr cymwys wedi bod dros y cyfnod byr ers i'r gyfraith newid.

"Rhaid i ni weithio'n galetach i gynyddu lefelau rhoi organau wrth i bobl farw yn aros am drawsblaniad, a cheisio cael effaith sylweddol ar leihau'r rhestrau aros hyn.

"Mae'n bwysig cofio ei bod yn rhy gynnar i wybod beth fydd effaith wirioneddol y newid hwn, ond rwy'n hyderus ein bod wedi dechrau creu diwylliant lle caiff rhoi organau ei drafod mewn modd agored.

"Er bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, mae'n bwysig dros ben ein bod yn cadw momentwm ac yn parhau i fonitro beth yw effaith y Ddeddf dros y cyfnod hir."