Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Ailgylchu wedi datgelu'r effaith bosibl y gall ailgylchu’n ei chael ar newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adroddiad Climate Change Impacts of Recycling Services in Wales (dolen allanol), a gyhoeddwyd gan WRAP Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cymharu’r manteision sydd i’w gweld yng Nghymru ar hyn o bryd yn sgil ailgylchu â’r hyn y gellid ei weld pe bai’r holl awdurdodau lleol yn mabwysiadu’r dull a ffefrir o gasglu wrth garreg y drws ac yn bwrw’r targed ailgylchu o 70%.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y byddai mabwysiadu’r dull hwn o gasglu, ynghyd â bwrw’r targed ailgylchu - ac wrth gwrs mae Cymru eisoes ar y trywydd cywir i gwrdd â hwnnw - yn arwain at arbedion blynyddol ychwanegol sy’n cyfateb i bron 86,000 o dunelli.

Dyma’r un faint o CO2 a gynhyrchir gan gar sy’n teithio am 290 miliwn o filltiroedd. Mae hynny’n cyfateb â 1,200 o deithiau i’r lleuad.

Hefyd, gwnaeth yr adroddiad awgrymu y gellid sicrhau 47% yn fwy o fanteision o safbwynt y newid yn yr hinsawdd, a hynny drwy ailgylchu dim ond 20% yn fwy.

Mae Cymru eisoes ar flaen y gad o ran y CO2 sy’n cael ei arbed yn sgil ailgylchu. Ym mis Awst, cyhoeddwyd adroddiad gan Eunomia (dolen allanol). Roedd yn cymharu perfformiad Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac roedd Cymru yn bell ar y blaen wrth iddi arbed dros 258,000 o dunelli o CO2 bob blwyddyn.

Wrth groesawu canfyddiadau’r adroddiad, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Mae Cymru’n parhau i fod yn geffyl blaen o safbwynt ei chyfraddau ailgylchu o gymharu â gweddill y DU. Mae hyn yn tystio i waith caled y bobl sy’n rhoi o’u hamser i ailgylchu ac i’r Awdurdodau Lleol sy’n parhau i wneud camau breision wrth geisio cwrdd â’n targedau uchelgeisiol.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos pam mae hi mor bwysig i wneud hyn ac i fynd ati i wella’n cyfraddau ailgylchu’n barhaus. Rydym wedi gosod targedau sy’n gyfreithiol rwymol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80% erbyn 2050. Drwy ailgylchu, gall y manteision a ddaw yn sgil arbed carbon fod yn bwysig iawn wrth fynd ati i gwrdd â’r nod hwn.

“Wrth gwrs, mae mwy o waith i’w wneud o hyd. Mae’r Wythnos Ailgylchu yn gyfle ardderchog i ddwyn sylw at bethau eraill y gellir eu gwneud ac rydym yn bwriadu codi ymwybyddiaeth am yr holl eitemau eraill sydd ar hyd a lled y tŷ  ond sy’n cael eu hanghofio wrth i bobl fynd ati i ailgylchu. Drwy ailgylchu’r eitemau hynny, gellid lleihau ymhellach ar y gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw hefyd yn atgyfnerthu’r ffaith y dylai ein Glasbrint ar gyfer Casgliadau fod yn sail i safonau casglu gwastraff ar gyfer Cymru. Hoffwn ei weld yn cael ei fabwysiadu ar hyd a lled y wlad gan arwain at hyd yn oed fwy o arbedion CO2 a dyfodol mwy gwyrdd i Gymru.”

Yn ystod Wythnos Ailgylchu 2016, bydd Ailgylchu dros Gymru yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am yr “Eitemau Anarferol” sydd yn ein cartrefi. Mae’r rhain yn eitemau sydd i’w gweld bod dydd ar hyd a lled y tŷ ac yn aml mae pobl yn anghofio amdanynt wrth fynd ati i ailgylchu. Mae’r eitemau hynny’n cynnwys caniau aerosol a photeli canyddion, a gallant gymryd hyd at 500 mlynedd i bydru. Y nod yw annog pobl i feddwl am ailgylchu eitemau sy’n cael eu defnyddio mewn mannau heblaw’r gegin gan roi hwb pellach i gyfraddau ailgylchu Cymru.

Mae Wythnos Ailgylchu yn prosiect WRAP Cymru sy’n cael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i annog pobl ledled Cymru i newid eu hymddygiad i leihau maint y gwastraff a gynhyrchir ac i ddefnyddio adnoddau mewn modd effeithlon. Byddai hynny’n fodd i gwrdd â’r targed uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.