Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, adroddiad newydd sy'n edrych ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ym maes gwyddoniaeth ac ymchwil dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adroddiad Gwyddoniaeth i Gymru 2017 yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud gan yr amryfal brosiectau a rhaglenni gwyddoniaeth a gynorthwywyd gan y Llywodraeth ers 2012.

Mae'n dangos bod rhaglen Sêr Cymru y Llywodraeth – sydd wedi gweithio i hybu faint o ymchwil a wneir yng Nghymru drwy ddenu academyddion o'r radd flaenaf a'u timau i Gymru a thrwy sefydlu rhwydweithiau cenedlaethol yma – wedi sicrhau mwy na £67 miliwn o incwm grant ychwanegol ers 2012. 

Hyn yn hyn, mae Sêr Cymru wedi denu 11 seren o'r fath i Gymru, a bydd yr ail gam yn denu ymchwilwyr dawnus iawn sy'n dechrau eu gyrfa a hefyd rai mwy profiadol i Gymru i ychwanegu at gryfderau'r rhaglen.

Mae adroddiad Gwyddoniaeth i Gymru yn cydnabod bod y Llywodraeth yn sicrhau bod Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn rhan annatod o'i chwricwlwm newydd, a’i bod yn annog merched a menywod i’w hastudio ac i ystyried gyrfa yn y meysydd hynny.

Mae hefyd yn cydnabod llwyddiant yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol a ariennir gan y Llywodraeth o ran cyllido rhaglenni sydd â'r nod o danio brwdfrydedd plant a phobl ifanc ledled Cymru ym mhynciau STEM drwy bwysleisio'r hwyl, yr her a'r gyrfaoedd diddorol  a gwerth chweil y gallant eu cael yn y maes.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Rwy'n falch o weld adroddiad Gwyddoniaeth i Gymru 2017 yn cael ei gyhoeddi. Mae'n gyfle i edrych ar hynt y gwaith sydd wedi ei wneud ym maes gwyddoniaeth ac ymchwil yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf. 

"Rydym yn gwybod bod ymchwil wyddonol yn cyfrannu'n helaeth at ein heconomi ac mae'r adroddiad hwn yn cydnabod bod ein rhaglen flaengar, Sêr Cymru, wedi llwyddo i ddenu mwy na £67 miliwn o grantiau ychwanegol i Gymru ers 2012. Mae hefyd yn dangos bod mannau y tu hwnt i Gymru wedi dangos diddordeb yn y rhaglen ac wedi’i chanmol.

"Dylid cofio hefyd fod yr adroddiad yn hoelio sylw ar yr effaith y mae ein gwaith ehangach yn ei chael ar sbarduno ein pobl ifanc i ymddiddori ym mhynciau STEM, ac ar ddarparu cwricwlwm STEM ardderchog ac ystod o gymwysterau − ac i annog ein pobl ifanc i ystyried gyrfa ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg.

"Fel y mae’n cyn Brif Gynghorydd Gwyddonol, yr Athro Julie Williams, yn cydnabod yn yr adroddiad hwn, mae’r ymchwil a wneir yng Nghymru yn cael cryn dipyn o effaith yma ac yn fyd-eang, gydag ymchwilwyr o Gymru yn perfformio'n well na llawer o'u cydweithwyr yng ngweddill y DU, yn ôl yr adroddiadau diweddaraf.

"Edrychaf ymlaen at weld Cymru yn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd nesaf."

Adroddiad Gwyddoniaeth i Gymru 2017.