Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn amlinellu sail resymegol ac amcanion yr astudiaeth, methodoleg y gwerthuso, a chrynodeb o'r prosiectau a'r gweithgareddau a gafodd eu cyflawni fel rhan o raglen Cyrraedd y Nod.

Cafodd y rhaglen  ei hariannu'n rhannol gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Roedd y rhaglen yn cynnwys dau brosiect: Troedle Cyntaf, a Llwybrau i'r Brig. Mae'r ddau brosiect hyn yn targedu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a'r rhai hynny sydd mewn perygl o fod yn y sefyllfa honno.

Roedd yr adroddiad gwerthuso’n archwilio agweddau ar y broses o gynllunio, gweithredu a chyflawni'r prosiectau, gan gynnwys pa mor effeithiol yr oedd y prosiectau wedi perfformio o ran eu hamcanion.

Nod yr adroddiad gwerthuso oedd asesu:

  • i ba raddau y mae prosiectau Troedle Cyntaf a Llwybrau i'r Brig wedi cyrraedd eu nod yn effeithiol, ac wedi cyflawni'r amcanion yr oeddent yn eu disgwyl dros gyfnod o fis Gorffennaf 2010 hyd at fis Mawrth 2013
  • pa weithgareddau sydd wedi bod yn effeithiol ac sy'n gallu cael eu cynnal
  • pa weithgareddau a ddylai ddylanwadu ar gyflawni ymyraethau eraill sydd â'r un nod yn y dyfodol
  • yr hyn sydd wedi gweithio'n dda wrth reoli a gweithredu'r rhaglen, er mwyn dylanwadu ar drefniadau ar gyfer rhaglenni mawr eraill sydd â'r un amcanion a'r un grwpiau targed.

Adroddiadau

Adroddiad Gwerthuso Cyrraedd y Nod , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.